Ysguthan

Mae'r ysguthan (ll. Ysguthanod; Lladin: Columba palumbus) yn aelod o deulu'r colomennod (y Columbidae). Mae'n aderyn cyffredin trwy'r rhan fwyaf o Ewrop a gorllewin Asia. Yn y rhannau lle mae'r gaeafau yn arbennig o oer, megis gogledd a dwyrain Ewrop, mae'r sguthan, fel y'i gelwir ar lafar, yn aderyn mudol, yn symud tua'r de neu tua'r gorllewin. Yng ngorllewin a de Ewrop mae'n aros trwy'r flwyddyn.

Mae'r sguthan yn aderyn mwy na'r aelodau eraill o deulu'r colomennod sy'n gyffredin yn Ewrop, er enghraifft y Golomen wyllt, sydd tua 41 cm o hyd. Gellir ei hadnabod hefyd wrth y darn mawr gwyn ar y gwegil a'r gwyn ar yr adenydd. Mae'r gweddill o'r plu yn llwyd.

Mae'n nythu mewn coed, yn dodwy dau wy gwyn. Tu allan i'r tymor nythu mae'n ymgasglu yn heidiau, weithiau gannoedd neu hyd yn oed filoedd gyda'i gilydd. Mae eu bwyd yn wahanol fathau o blanhigion, yn enwedig grawn ac egin ieuanc, ac oherwydd hyn maent yn aml yn cael eu saethu gan ffermwyr.

Ysguthan
Wood.pigeon.2.arp.750pix
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Aves
Urdd: Columbiformes
Teulu: Columbidae
Genws: Columba
Rhywogaeth: C. palumbus
Enw deuenwol
Columba palumbus
Linnaeus, 1758
Pigeon ramier MHNT
Ŵy Columba palumbus

Ffeithiau diddorol

Dyma gasgliad o waith ymchwil plant Ysgolion Llangoed a Biwmares (Bro Seiriol), Ynys Môn[1]:

Casglwyd y ffeithiau canlynol am yr ysguthan gan blant Ysgol Llangoed a Biwmares.[2]

  • Mae'r adar ifanc fel arfer yn hedfan ar ôl 33-34 diwrnod.
  • Mae'u cynffon yn mesur tua 13.8 i 15 cm.
  • Llysiau yw rhan fwyaf o'u deiat.

Cyfeiriadau

  1. Gwaith prosiect Menter Môn, Mehefin-Gorffennaf 2019
  2. Ymchwil plant Bro Seiriol, Môn

Ieithoedd eraill

This page is based on a Wikipedia article written by authors (here).
Text is available under the CC BY-SA 3.0 license; additional terms may apply.
Images, videos and audio are available under their respective licenses.