Yr Undeb Ewropeaidd

Mae'r Undeb Ewropeaidd (UE) yn gymuned wleidyddol ac economaidd sydd â nodweddion goruwchgenedlaethol a rhyng-lywodraethol. Ers 1 Ionawr 2007, mae'n cynnwys 28 o aelod-wladwriaethau. Sefydlwyd yr UE ym 1993 gan Gytundeb Maastricht, er i'r broses o integreiddio Ewropeaidd gychwyn gyda'r Gymuned Economaidd Ewropeaidd (CEE), a luniwyd gan chwe gwlad Ewropeaidd ym 1957.

Creodd yr UE farchnad sengl sy'n ceisio gwarantu'r rhyddid i symud pobl, nwyddau, gwasanaethau a chyfalaf yn ddirwystr rhwng yr aelod-wladwriaethau. Mae'r UE yn cynnwys polisïau cyffredin dros fasnach, amaethyddiaeth, pysgodfeydd a datblygiad rhanbarthol. Ym 1999, cyflwynodd yr UE arian cyfredol cyffredin, sef yr ewro, a fabwysiadwyd gan 13 aelod-wladwriaeth. Mae hefyd wedi datblygu rôl mewn materion polisi tramor, a chyfiawnder a materion cartref.

Gyda bron 500 miliwn o ddinasyddion, cynhyrchodd yr UE gynnyrch mewnwladol crynswth y pen o 11.4 triliwn (£8 triliwn) yn 2007. Mae'n cynrychioli ei aelodau o fewn Sefydliad Masnach y Byd ac mae'n bresennol fel sylwedydd yn uwch-gynadleddau'r G8. Mae 21 o aelodau'r UE yn aelodau o NATO. Mae gan yr UE bum sefydliad swyddogol, sef Senedd Ewrop, Cyngor yr Undeb Ewropeaidd, y Comisiwn Ewropeaidd, Llys Cyfiawnder Ewrop a Llys Archwilwyr Ewrop, yn ogystal â gwahanol gyrff eraill, er enghraifft Banc Canolog Ewrop a Phwyllgor y Rhanbarthau. Mae dinasyddion yr UE yn ethol aelodau Senedd Ewrop bob pum mlynedd.

Yn y Deyrnas Unedig, bydd refferendwm cyn diwedd 2017 ar y cwestiwn a ddylai'r DU adael yr UE neu dal i fod yn aelod. Credir bod pobl Lloegr yn fwy debygol i bleidleisio dros adael na phobl Cymru a'r Alban. Yng Ngogledd Iwerddon, disgwylir i lawer o bobl bleidleisio dros aros o herwydd y nifer sylweddol o genedlaetholwyr Iwerddon sydd o blaid aelodaeth. Mae Nicola Sturgeon, arweinydd yr SNP, wedi dweud mai rheswm digonol dros ail refferendwm am annibyniaeth yr Alban byddai pleidlais o blaid gadael yr UE efo mwyafrif o etholwyr yn yr Alban yn ei erbyn. Fodd bynnag, mae perygl y byddai Sbaen yn rhwystro unrhyw Alban annibynnol rhag ail-ymuno â'r UE er mwyn gyrru neges gref at genedlaetholwyr Catalonia.

Baner of Yr Undeb Ewropeaidd Bwlgareg: Европейски съюз Croateg: Europska unija Tsiec: Evropská unie Daneg: Den Europæiske Union Iseldireg: Europese Unie Estoneg: Euroopa Liit Ffinneg: Euroopan unioni Ffrangeg: Union européenne Almaeneg: Europäische Union Groeg: Ευρωπαϊκή Ένωση Hwngareg: Európai Unió Gwyddeleg: An tAontas Eorpach Eidaleg: Unione europea Latfieg: Eiropas Savienība Lithwaneg: Europos Sąjunga Malteg: Unjoni Ewropea Pwyleg: Unia Europejska Portiwgaleg: União Europeia Rwmaneg: Uniunea Europeană Slofaceg: Európska únia Slofeneg: Evropska unija Sbaeneg: Unión Europea Swedeg: Europeiska unionen
Baner
Arwyddair: "Undeb drwy Amrywiaeth"
Anthem: "Ode an die Freude"
Awdl i Lawenydd
(cerddoriaeth yn unig)

Lleoliad
Lleoliad
PrifddinasBrwsel (de facto)[1]
50°51′N 4°21′E / 50.850°N 4.350°E
Ieithoedd swyddogol
Demonym Ewropead[2]
Math Undeb Wleidyddol-Economaidd
Aelod-wladwriaethau
Arweinwyr
 -  Arlywydd y Comisiwn Ewropeaidd Jean-Claude Juncker
 -  Arlywydd y Cyngor Ewropeaidd Donald Tusk
Cyfreithiau
 - Cyngor
 - Senedd
Hanes[3]
 -  Cytundeb Rhufain 1 Ionawr 1958 
 -  Cytundeb Maastricht 1 Tachwedd 1993 
Arwynebedd
 -  Cyfanswm 4,324,782 km2 (7tha)
1,669,808 millt sg
 -  % dŵr 3.08
Poblogaeth
 -  2014 estimate 506,913,394[4] (3rda)
 -  Dwysedd 115.8/km2
300.9/millt sg
GDP (PPP) 2014 - amcangyfrif
 -  Cyfanswm $18.124 triliwn[5] (1afa)
 -  Y pen $35,849[5] (18eda)
GDP (nominal) 2014 (amcan.)
 -  Cyfanswm $18.399 triliwn[5] (1afa)
 -  Y pen $36,392[5] (16eda)
Gini (2010)30.4[6]
canolig
HDI (2011)0.876[7]
uchel iawn ·13eg / 25eda
Arian
  • Ewro (EUR; Y Parth Ewro)
Rhanbarth amser WET (UTC)[lower-alpha 1]
CET (UTC+1)
EET (UTC+2)
 -  Haf (Troi'r cloc) WEST (UTC+1)
CEST (UTC+2)
EEST (UTC+3)
Rhyngrwyd TLD .eu[lower-alpha 2]
Gwefan
europa.eu
a. Ped ystyrid fel endid ar wahân.

Hanes

Ganwyd yr Undeb Ewropeaidd fel cydffederasiwn o wledydd i ail-adeiladu Ewrop ar ôl yr Ail Ryfel Byd ac er mwyn rhwystro hunllef rhyfel arall. Cymuned Ewropeaidd Economaidd, neu Marchnad Gyffredin oedd enw cyntaf yr UE. Newidiwyd yr enw i Cymuned Ewropeaidd ac wedyn i Undeb Ewropeaidd. Wedi dechrau fel undeb masnach datblygodd yr UE i fod yn undeb economaidd a gwleidyddol.

Aelod-wladwriaethau

Aelodau Presennol

Ers 1 Gorffennaf 2013 mae 28 o aelod-wladwriaethau yn yr Undeb Ewropeaidd, ond dim ond 6 o wledydd sefydlodd y CEE ym 1952/1958:

Ymunodd saith gwladwriaeth â'r CEE ar ôl y cychwyn:

Ffurfiwyd yr UE yn wreiddiol yn 1993 gan wladwriaethau'r CEE. Mae 15 o wladwriaethau pellach wedi ymuno â'r UE erbyn hyn:

Cafodd Yr Ynys Las ymreolaeth gan Denmarc ym 1979 a gadawodd yr UE ym 1985 ar ôl refferendwm. Gweler hefyd y brif erthygl Ehangu'r Undeb Ewropeaidd.

Ymgeiswyr aelodaeth i'r UE

Mae pum gwlad yn ymgeiswyr swyddogol i fod yn rhan o'r UE: Gwlad yr Iâ, Cyn-weriniaeth Iwgoslafaidd Macedonia Montenegro, Serbia, a Thwrci. Mae Albania a Bosnia-Hertsegofina yn cael eu ystyried yn swyddogol fel ymgeiswyr potensial. Rhestrir Cosofo fel ymgesiydd potensial hefyd, ond ni ystyrir Cosofo fel gwlad annibynnol gan y Comisiwn Ewropeaidd gan nad yw pob gwlad yn cydnabod Cosofo fel gwlad gwbl ar wahân i Serbia.

Heb fod yn aelod-wladwriaethau o'r UE nac yn ymgeiswyr am aelodaeth, mae perthynas arbennig â'r UE gan sawl gwlad, e.e. Monaco ac Andorra.

Daearyddiaeth a Phoblogaeth

Mae maint holl dirwedd 25 aelod-wladwriaeth yr UE (2004) yn 3,892,685 km². Petasai'r UE yn un wlad, byddai'n seithfed fwyaf yn y byd. Roedd poblogaeth yr UE (sef poblogaeth aelod-wladwriaethau'r UE o dan delerau Cytundeb Maastricht) yn 453 miliwn ym mis Mawrth 2004 ac felly, petasai'n un wlad, yn drydedd ar ôl India a Tsieina.

Llywodraethu

Statws

Yr Undeb Ewropeaidd yw'r gyfundrefn ryngwladol fwyaf pwerus yn y byd. Mae nifer o aelod-wladwriaethau wedi rhoi hawliau sofraniaeth genedlaethol i'r UE (er enghraifft arian, polisi ariannol, marchnad fewnol, masnach dramor) ac felly mae'r UE yn datblygu yn rhywbeth tebyg i wladwriaeth ffederal. Beth bynnag, nid ydyw'n wlad ffederal, ond mae'n pwysleisio "subsidiarity" (term arbennig sy'n disgrifo'r egwyddor o benderfynu pethau mor agos â phosib i'r bobl sy'n cael eu heffeithio gan y penderfyniadau). Mae'r aelod-wladwriaethau yn rheoli'r cytundebau ac ni all yr UE drosglwyddo hawliau ychwanegol o'r aelod-wladwriaethau i'r UE.

Fframwaith sefydliadol

Mae gan yr UE bum sefydliad swyddogol:

Sefydliadau gwleidyddol yw'r Senedd, y Cyngor a'r Comisiwn, sy'n dal grym gweithredol a deddfwriaethol yr Undeb. Mae'r Senedd yn cynrychioli'r dinasyddion, mae'r Cyngor yn cynrychioli eu llywodraethau, ac mae'r Comisiwn yn cynrychioli'r budd Ewropeaidd cyffredinol. Y Comisiwn yn unig sydd â'r hawl i ddrafftio deddfwriaeth. Cyflwynir deddfwriaeth ddrafft i'r Senedd a'r Cyngor, y mae rhaid iddynt ei chymeradwyo, er bod y weithdrefn benodol yn dibynnu ar bwnc y ddeddfwriaeth dan sylw. Unwaith wedi'i chymeradwyo ac wedi'i llofnodi, mae'r ddeddfwriaeth yn dod i rym. Dyletswydd y Comisiwn yw sicrhau y cydymffurfir â chyfraith yr Undeb.

Mae hefyd nifer o gyrff ac asiantaethau pwysig eraill nad ydynt yn sefydliadau swyddogol. Mae'r rhain yn cynnwys dau bwyllgor ymgynghorol, sef Pwyllgor y Rhanbarthau a'r Pwyllgor Economaidd a Chymdeithasol, sy'n rhoi eu cyngor ynghylch materion rhanbarthol, economaidd a chymdeithasol.

Mae cyrff ac asiantaethau eraill yn cynnwys:

Bydd Cytundeb Lisbon yn gwneud nifer o newidiadau i fframwaith sefydliadol yr Undeb. Daw'r Cyngor Ewropeaidd a Banc Canolog Ewrop yn sefydliadau llawn, a chaiff Llys y Gwrandawiad Cyntaf ei ailenwi yn "Lys Cyffredinol".

Polisïau

Dechreuodd yr UE fel grŵp o wledydd yn cydweithredu'n economaidd ar ôl yr Ail Ryfel Byd. Datblygodd wedyn i gynnwys cydweithredu gwleidyddiol. Fel hynny, roedd pŵer gwleidyddiol yn symud o'r aelod-wladwriaethau i sefydliadau'r UE. Beth bynnag, mae hynny'n cael ei cydbwyso gan y ffaith bod gan nifer o aelod-wladwriaethau draddodiad o lywodraeth gryf yn eu rhanbarthau. Mae pwysigrwydd rhanbarthau Ewrop yn cynyddu a sefydlwyd Pwyllgor y Rhanbarthau trwy Gytundeb Maastricht.

Statws yr iaith Gymraeg

Ers blynyddoedd mae unigolion a grwpiau wedi bod yn pwyso ar yr Undeb a Llywodraeth y Deyrnas Unedig i godi statws swyddogol yr iaith Gymraeg o fewn yr Undeb.

Ar 20 Tachwedd 2008, gwnaeth Alun Ffred Jones hanes drwy ddefnyddio'r Gymraeg mewn cyfarfod o Gyngor Gweinidogion Undeb Ewrop am y tro cyntaf erioed. Siaradodd fel Gweinidog dros Dreftadaeth Cymru yn rhan o ddirprwyaeth y DU i'r cyfarfod. Cyfieithwyd araith y gweinidog mewn canlyniad i gytundeb rhwng llywodraethau Cymru a'r DU ac Undeb Ewrop a gytunwyd yng Ngorffennaf 2008.[9]

Gweler hefyd

Nodiadau

  1. Ddim yn cynnwys tiriogaethau tramor
  2. Mae .eu yn gynrychioliadol o'r UE cyfan; mae gan gwladwriaethau unigol ei PLU eu hunain hefyd.

Cyfeiriadau

  1. Cybriwsky, Roman Adrian (2013). Capital Cities around the World: An Encyclopedia of Geography, History, and Culture: An Encyclopedia of Geography, History, and Culture. ABC-CLIO. Brussels, the capital of Belgium, is considered to be the de facto capital of the EU
  2. The New Oxford American Dictionary, Second Edn., Erin McKean (editor), 2051 pages, May 2005, Oxford University Press, ISBN 0-19-517077-6.
  3. Dywed Erthygl 1 o Gytundeb Maastricht: "The Union shall be founded on the present Treaty and on the Treaty on the Functioning of the European Union. Those two Treaties shall have the same legal value. The Union shall replace and succeed the European Community".
  4. "Eurostat-Tables,Graphs and Maps Interface(TGM)table". European Commission. Cyrchwyd 9 Mawrth 2015.
  5. 5.0 5.1 5.2 5.3 "IMF World Economic Outlook Database, April 2015". International Monetary Fund. Cyrchwyd 26 April 2015.
  6. "Distribution of family income – Gini index". The World Factbook. CIA. Cyrchwyd 28 Ionawr 2012.
  7. Cyfrifwyd drwy ddefnyddio data UNDP ar gyfer yr aelodau-wladwriaethau gyda phwyslais ar boblogaeth.
  8. Ffigyrau Medi 2011 wedi'u darparu gan yr International Monetary Fund: World Economic Outlook Database. Figure for EU, accessed 22 September 2011. Ffigyrau gwledydd y byd, adalwyd 22 Medi 2011.
  9. BBC Cymru: 'Carreg Filltir i'r iaith' Adroddiad sy'n cynnwys clip fideo o'r digwyddiad.

Ffynonellau eraill

Dolenni allanol

Sefydliadau

Cyrff eraill

Cytundebau, strwythur a hanes yr Undeb Ewropeaidd
1951/1952 1957/1958 1965/1967 1992/1993 1997/1999 2001/2003 2007/2009 (?)
U N D E B   E W R O P E A I D D   ( U E )
Cymuned Ewropeaidd Glo a Dur (CEGD)
Cymuned Economaidd Ewropeaidd (CEE) Cymuned Ewropeaidd (CE)
Cymuned Ewropeaidd Ynni Atomig (Euratom)
Tair Cymuned Ewropeaidd: CEGD, CEE ac Euratom Cyfiawnder a Materion Cartref  
Heddlu a Chydweithrediad Cyfreithiol
mewn Materion Trosedd
Polisi Tramor a Diogelwch Cyffredin (PTDC)
Cytundeb Paris Cytundebau Rhufain Cytundeb Cyfuno Cytundeb Maastricht Cytundeb Amsterdam Cytundeb Nice Cytundeb Lisbon

"Tri philer yr Undeb Ewropeaidd"
(y Cymunedau Ewropeaidd, y PTDC, a Heddlu a Chydweithrediad Cyfreithiol)
.eu

Côd gwlad parth lefel uchaf swyddogol yr Undeb Ewropeaidd yw .eu (talfyriad o Europe). Cafodd y côd ei neilltuo yn arbennig gan ISO 3166-1.

Aelod-wladwriaethau yr Undeb Ewropeaidd

Ar hyn o bryd, mae 28 o aelod-wladwriaethau yr Undeb Ewropeaidd (UE). Dyma restr ohonyn nhw sy'n nodi'r flwyddyn ymuno â'r UE:

Yr Almaen (ers ei sefydlu: 1952/58)

Dwyrain yr Almaen (1990)

Awstria (1995)

Gwlad Belg (ers ei sefydlu: 1952/58)

Bwlgaria (2007)

Cyprus (2004)

Croatia (2013)

Denmarc (1973)

Y Deyrnas Unedig (1973)

Yr Eidal (ers ei sefydlu: 1952/58)

Estonia (2004)

Y Ffindir (1995)

Ffrainc (ers ei sefydlu: 1952/58)

Gwlad Groeg (1981)

Hwngari (2004)

Yr Iseldiroedd (ers ei sefydlu: 1952/58)

Gweriniaeth Iwerddon (1973)

Latfia (2004)

Lithwania (2004)

Lwcsembwrg (ers ei sefydlu: 1952/58)

Malta (2004)

Portiwgal (1986)

Gwlad Pwyl (2004)

Rwmania (2007)

Sbaen (1986)

Slofacia (2004)

Slofenia (2004)

Sweden (1995)

Y Weriniaeth Tsiec (2004)Mae nifer o wledydd wedi ymgeisio dyfod yn aelod-wladwriaethau:

Mae'n bosib bydd Twrci yn ymuno rhywbryd yn y dyfodol.Mae'r Swistir hefyd wedi ymgeisio, flynyddoedd yn ôl, ond doedd dim llawer o gefnogaeth yn y wlad o blaid hynny.

Aelod Senedd Ewrop

Cynrhychiolydd sydd wedi'i ethol i Senedd Ewrop yn Strasbourg, yw Aelod Senedd Ewrop neu ASE (weithiau: Aelod Seneddol Ewropeaidd. Roedd 736 o ASEau yn etholiadau Ewropeaidd 2009 a 375 miliwn o etholwyr.

Pan ffurfiwyd Senedd Ewrop ar 10 Medi 1952, roedd ei strwythur yn bur wahanol ac etholwyd ASEau'n uniongyrchol gan lywodraethau unigol y gwledydd (neu'r 'Aelod-Wladwriaethau'), o blith Aeldoau Seneddol a oedd eisoes wedi'u hethol yn lleol. Ers 1979, fodd bynnag, caed etholiadau yn yr Aelod-wladwriaethau'n un pwrpas i'w hethol i Senedd Ewrop. Mae'r dull yn amrywio o Aelod-wladwriaeth i Aelod-wladwriaeth, gan newid dros amser, er bod un rheol euraid: fod yn rhaid cynnwys elfen o gynrychiolaeth gyfrannol. Mewn rhai Aelod-wladwriaethau mae'r ASEau'n cael eu hethol i gynrychioli un etholaeth 'genedlaethol' (h.y. y genedl / Aelod-wladwriaeth) ond mewn Aelod-wladwriaeth eraill cynrychiolant ran (neu Ranbarth) o'r wlad honno.

Caiff etholiadau eu cynnal bob 5 mlynedd.

Clystyrir pob ASE (ar wahân i 27 ohonynt) mewn grwpiau, yn ôl eu daliadau gwleidyddol. Er enghraifft, daw Plaid Lafur Iwerddon a Phlaid Sosialaidd yr Eidal at ei gilydd fel aelodau o'r grŵp 'Clymblaid y Rhyddfrydwyr a'r Democratiaid dros Ewrop'.

Comisiwn Ewropeaidd

Adran weithredol yr Undeb Ewropeaidd yw'r Comisiwn Ewropeaidd. Mae José Manuel Durão Barroso yn Llywydd y Comisiwn Ewropeaidd ers 2004. Mae'r Comisiwn yn awgrymu a gweithredu deddfwriaeth ac mae'n hollol annibynnol. Mae wedi ei leoli ym Mrwsel.

Cyngor yr Undeb Ewropeaidd

Un o ddau sefydliad deddfwriaethol yr Undeb Ewropeaidd yw Cyngor yr Undeb Ewropeaidd (yn anffurfiol: Cyngor Gweinidogion Ewrop); Senedd Ewrop yw'r llall. Dylid gwahaniaethu rhwng y Cyngor hwn, y Cyngor Ewropeaidd a Chyngor Ewrop. Lleolir Cyngor yr Undeb Ewropeaidd ym Mrwsel.

Gyda'i gilydd, mae'r Cyngor a'r Senedd yn llunio corff deddfwriaethol uchaf yr Undeb, ond tu mewn i gymwyseddau'r Gymuned Ewropeaidd yn unig. Mae'r Cyngor yn cynnwys 27 o weinidogion cenedlaethol (un o bob aelod-wladwriaeth), a dewis y gweinidog yn dibynnu ar y maes sy'n cael ei drafod: er enghraifft, mae gweinidogion amaethyddiaeth yn cyfarfod i drafod materion yn ymwneud ag amaethyddiaeth. Mae'r gweinidogion yn atebol i'w hetholaethau cenedlaethol, a gyda'i gilydd maent yn gwasanaethu'r etholaeth ddemocrataidd ail fwyaf yn y byd (492 miliwn o etholwyr). Cyfyngir cyfraith yr Undeb i feysydd polisi penodol, ond mae'n gwrthwneud y gyfraith genedlaethol. Am fod yr Undeb yn gweithredu ar blatfformau uwchgenedlaethol a rhynglywodraethol, mae'r Cyngor yn uwchraddol i'r Senedd mewn rhai meysydd; yma mae rhaid iddo ymgynghori yn unig â'r Senedd er mwyn cael ei chydsyniad. Er hynny, y weithdrefn gydbenderfynu yw'r broses ddeddfwriaethol a ddefnyddir mewn llawer o feysydd bellach, sef gweithdrefn lle mae'r ddau corff â grym cyfartal.

Nid oes gan y Cyngor un Lywydd yn yr ystyr draddodiadol, ond mae'r rôl yn symud rhwng y gwahanol aelod-wladwriaethau bob chwe mis (gelwir hyn yn Llywyddiaeth yr Undeb Ewropeaidd), a chaiff y gweinidog o'r wladwriaeth honno benderfynu'r agenda. Swydd ddylanwadol arall yw'r Ysgrifennydd Cyffredinol, sydd hefyd yn gynrychiolydd polisi tramor yr Undeb.

Cytundeb Lisbon

Mae Cytundeb Lisbon yn gytundeb Ewropeaidd a gynlluniwyd i ddiwygio'r Undeb Ewropeaidd (UE) yn sgil aflwyddiant y Cyfansoddiad Ewropeaidd. Teitl llawn y ddogfen yw "Cytundeb yn diwygio Cytundeb yr Undeb Ewropeaidd a'r Cytundeb sy'n sefydlu'r Gymuned Ewropeaidd". Cytunir ar destun terfynol y cytundeb mewn uwch-gynhadledd anffurfiol yn Lisbon ar 19 Hydref 2007. Disgwylir y caiff y cytundeb ei lofnodi gan arweinwyr Ewrop ar 13 Rhagfyr 2007, ac wedyn bydd rhaid i bob Aelod-wladwriaeth yr Undeb ei gadarnhau. Mae'n debygol y daw'r cytundeb i rym ar 1 Ionawr 2009, cyn etholiadau Ewropeaidd y flwyddyn honno.

Methodd y Cyfansoddiad arfaethedig â chael ei gadarnhau mewn refferenda yn Ffrainc a'r Iseldiroedd yn 2005. Roedd wedi cael ei gadarnhau gan 15 Aelod-wladwriaeth yr Undeb Ewropeaidd ond, oherwydd y gofyn am unfrydedd wrth ddiwygio fframwaith cyfansoddiadol yr UE, golygodd y pleidleisiau yn Ffrainc a'r Iseldiroedd bod yn rhaid newid y gweithdrefnau er mwyn cyflawni cytundeb newydd. Ym Mehefin 2007, cytunodd y Cyngor Ewropeaidd ar fframwaith ar gyfer cytundeb newydd. Cafodd y testun ei gwblhau yn ystod Cynhadledd Ryng-lywodraethol, a ddechreuodd ar 23 Gorffennaf y flwyddyn honno a daeth i ben ar 19 Hydref.

Eidaleg

Eidaleg (Italiano) yw iaith Yr Eidal, San Marino, Swistir a'r Fatican. Yn ôl ystadegau yr Undeb Ewropeaidd, siaredir Eidaleg fel mamiaith gan 65 miliwn o bobl yn yr UE (13% o boblogaeth yr UE), yn Yr Eidal yn bennaf, ac fel ail iaith gan 14 miliwn o bobl (3%). Gan gynnwys siaradwyr Eidaleg mewn gwledydd nac ydynt yn rhan o'r UE (megis Y Swistir ac Albania) ac ar gyfandiroedd eraill, mae yna dros 85 miliwn o bobl yn siarad yr iaith.

Estoneg

Iaith swyddogol Estonia yw'r Estoneg. Mae'n iaith Ffinnig, yn debyg i'r Ffinneg a'r Gareleg. Mae hefyd yn un o ieithoedd swyddogol yr Undeb Ewropeaidd.

Ewro

Arian swyddogol mewn 18 o wledydd yr Undeb Ewropeaidd (a rhai gwledydd eraill) yw'r ewro (€ neu EUR). Mae Banc Canolog Ewrop yn Frankfurt, Yr Almaen, yn rheoli'r ewro (gweler isod a hefyd Ardal Ewro).

Mae'r ewro yn arian swyddogol ers 1999, ond am dair blynedd doedd hi ond yn bosib gwneud taliadau heb arian (er enghraifft trosglwyddiadau banc) mewn ewros. Cyflwynwyd darnau arian a phapurau ewro yn lle arian cenedlaethol y gwledydd yn ardaloedd yr ewro (yr Ewro-floc) ar 1 Ionawr, 2002. Rhennir un ewro yn gan (100) ceiniog neu sent.

Gorllewin Ewrop

Mae'r term Gorllewin Ewrop fel mae pobl yn ei ddeall yn gyffredin yn gysyniad gwleidyddol-gymdeithasol sy'n hanu o ddyddiau'r Rhyfel Oer. Diffinwyd ffiniau Gorllewin Ewrop ar ddiwedd yr Ail Ryfel Byd a daeth i gynnwys pob gwlad Ewropeaidd nad oeddent wedi eu mediannu gan y Fyddin Sofietaidd ac fel canlyniad na ddaethant dan reolaeth llywodraethau comiwnyddol.

Heddiw, mae gan y term Gorllewin Ewrop llai i'w wneud â gwleidyddiaeth a daearyddiaeth y Rhyfel Oer a mwy i'w wneud ag economeg. Mae'r cysyniad yn cael ei gyfeillachu'n gyffredin â democratiaeth ryddfrydol, cyfalafiaeth ac hefyd yr Undeb Ewropeaidd. Mae'r rhan fwyaf o'r gwledydd yn rhannu diwylliant Gorllewinol, ac mae gan llawer ohonont rwymau economaidd a gwleidyddol gyda Gogledd a De America ac Oceania.

Fel arall, mae Gorllewin Ewrop hefyd yn isranbarth daearyddol o Ewrop sydd yn fwy cyfyng na'r ddirnadaeth draddodiadol wleidyddol; fel mae'n cael ei ddiffinio gan y Cenhedloedd Unedig, mae'n cynnwys y naw gwlad canlynol:

Awstria

Gwlad Belg

Ffrainc

Yr Almaen

Liechtenstein

Lwcsembwrg

Monaco

Yr Iseldiroedd

Y Swistir

Gwlad Pwyl

Gweriniaeth yng nghanolbarth Ewrop yw Gweriniaeth Gwlad Pwyl neu Gwlad Pwyl. Mae'n ffinio ar Yr Almaen yn y gorllewin, Gweriniaeth Tsiec a Slofacia yn y de, Yr Wcráin a Belarws yn y dwyrain, a Lithwania a Rhanbarth Kaliningrad, sy'n rhan o Rwsia, yn y gogledd. Mae Gwlad Pwyl ar lan y Môr Baltig. Warszawa (Warsaw) yw'r brifddinas. Mae Gwlad Pwyl yn Yr Undeb Ewropeaidd ac yn aelod o NATO.

Gwyddeleg

Mae Gwyddeleg (Gaeilge) yn iaith Geltaidd. Mae tua 1,800,000 o bobl yn Iwerddon yn siarad Gwyddeleg i raddau: 1,656,790 yng Ngweriniaeth Iwerddon (cyfrifiad 2006) a 167,487 yng Ngogledd Iwerddon (cyfrifiad 2001).

Maastricht

Dinas yn ne-ddwyrain yr Iseldiroedd yw Maastricht (Ynganiad: Iseldireg , Limbwrsieg - Mestreech), prifddinas talaith Limburg. Saif ar lannau afon Meuse. Mae'n ganolfan ddiwylliannol sy'n gartref i sawl adeilad hanesyddol yn cynnwys yr eglwys hynaf yn y wlad, a sefydlwyd yn y 6g. Mae ei diwydiannau traddodiadol yn cynnwys cynhyrchu crochenwaith a brethyn.

Arwyddwyd Cytundeb Maastricht (ei henw iawn yw Cytundeb yr Undeb Ewropeaidd) yn y ddinas gan aelod-wladwriaethau y Gymuned Ewropeaidd ym 1992 i greu yr Undeb Ewropeaidd.

Madrid

Prifddinas Sbaen a phrifddinas yr ardal Comunidad Autónoma de Madrid yw Madrid. Madrid yw'r drydedd ddinas fwyaf poblog yn yr Undeb Ewropeaidd ar ôl Llundain Fwyaf a Berlin, a'i hardal fetropolitaidd yw'r drydedd ddinas fwyaf poblog am ardal ddinesig yn yr Undeb Ewropeaidd ar ôl Paris a Llundain.

Lleolir y ddinas ar lannau'r afon Manzanares yng nghanol y ddinas a Comunidad Autónoma de Madrid (sy'n cynnwys dinas Madrid, ei chytrefi a'i maesdrefi a phentrefi ehangach); ffinia'r gymuned hon gyda chymunedau hunan-lywodraethol Castile and León a Castile-La Mancha.

Fel prifddinas Sbaen, lleoliad y llywodraeth a chartref y brenin Sbaenig, Madrid yw canolbwynt gwleidyddol y wlad hefyd. Ar hyn o bryd, mae maer y ddinas Manuela Carmena Castrillo, sydd wedi bod yn gwneud y swydd ers 2015, yn aelod o Ahora Madrid.

Milan

Mae Milan (Lombardeg: Milan; Eidaleg: Milano) yn un o ddinasoedd mwyaf Yr Eidal a phrifddinas talaith Lombardi, yng ngogledd yr Eidal. Mae gan y ddinas ei hun (Comune di Milano) boblogaeth o 1,242,123 (cyfrifiad 2011).Sefydlwyd y ddinas tua 400 CC gan lwyth Celtaidd yr Insubres. Concrwyd yr ardal gan y Rhyfeiniaid yn 222 CC; yr adeg yma Mediolanum oedd enw'r ddinas. Cyhoeddwyd Milan yn brifddinas yr Ymerodraeth Rufeinig yn y gorllewin gan yr ymerawdwr Diocletian yn 293 OC.. Symudwyd y brifddinas i Ravenna yn 402 pan oedd y Fisigothiaid yn gwarchae ar Milan. Cipiwyd y ddinas gan yr Hyniaid yn 452 a gan yr Ostrogothiaid yn 539. Wedi sefydlu Cynghrair Lombardi yn 1167, daeth Milan i arwain y cynghrair, a daeth yn Ddugiaeth yn 1183.

Mae un o'r dinasoedd cyfoethocaf yn yr Undeb Ewropeaidd ac yn adnabyddus fel canolfan ffasiwn. Mae'n gartref Cyfnewidfa Stoc yr Eidal ac yn leoliad pencadlys llawer o gwmniau enwog megis Alfa Romeo, Giorgio Armani, Gucci, Prada a Gianni Versace. Yr eglwys gadeiriol, y Duomo di Milano yw'r ail-fwyaf yn y byd. Adeilad pwysig arall yw Teatro alla Scala neu "La Scala", un o ganolfannau Opera mawr y byd. Mae dau dîm peldroed enwog yn y ddinas, A.C. Milan ac Internazionale (Inter Milan).

Refferendwm y Deyrnas Unedig ar aelodaeth o'r Undeb Ewropeaidd, 2016

Yn dilyn pasio yn Senedd y Deyrnas Unedig (DU) 'Ddeddf Refferendwm yr Undeb Ewropeaidd' (UE), (European Union Referendum Act 2015) cynhaliwyd Refferendwm y Deyrnas Unedig ar aelodaeth o'r Undeb Ewropeaidd, 2016 neu Brexit (British Exit ist ganz beschissen) ar 23 Mehefin 2016, a oedd yn cynnwys gwledydd y DU a Gibraltar. Pwrpas y refferendwm oedd caffael yn ddemocrataidd barn dinasyddion y DU a Gibraltar ar aelodaeth y DU o fewn y Gymuned Ewropeaidd a'r canlyniad oedd gadael Ewrop, gyda 17,410,742 (51.89%) o bleidleisiau'n cael eu bwrw dros adael ac 16,141,241 (48.11%) dros aros. Roedd y nifer a bleidleisiodd yn gymharol uchel: 72.21%. O fewn awr neu ddwy i'r holl ganlyniadau gael eu cyhoeddi dywedodd y Prif Weinidog David Cameron y byddai'n ymddiswyddo ar ôl "sadio a llonyddu'r cwch", ac y bwriada adael ei swydd cyn Hydref 2016.

Gorfodwyd y Prif weinidog David Cameron i gynnal refferendwm gan fwrlwm cyn-etholiadol UKIP yng ngwanwyn 2015, pan cyhoeddodd sawl pôl piniwn y byddai UKIP - sydd ag un nod yn unig, sef gadael yr UE - yn llwyddo i ddwyn seddi nifer o Aelodau Seneddol y Blaid Geidwadol yn Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 2015. Fodd bynnag, canlyniad siomedig a gafodd UKIP: un AS (Mark Reckless), ond daliodd Cameron at ei air a threfnwyd Refferendwm yn goelbren democrataidd.

Yr unig gwestiwn a ofynwyd ar y papur pleidleisio oedd:

A ddylai'r Deyrnas Unedig aros yn aelod o’r Undeb Ewropeaidd neu adael yr Undeb Ewropeaidd?a'r unig ddau ddewis a roddwyd oedd:

Aros yn aelod o’r Undeb Ewropeaidd

Gadael yr Undeb Ewropeaidd

Senedd Ewrop

Senedd ddeddfwriaethol yr Undeb Ewropeaidd yw Senedd Ewrop (neu Y Senedd Ewropeaidd). Fe'i sefydlwyd yn Strasbwrg o dan dermau protocol Cytundeb Amsterdam, ond mae ei phwyllgorau yn cwrdd ym Mrwsel gan fod Cyngor Gweinidogion Ewrop a'r Comisiwn Ewropeaidd yn y ddinas honno hefyd.

Mae gan gyfundrefnau eraill eu seneddau hefyd (e.e. NATO, Undeb Gorllewin Ewrop a OSCE), ond dim ond Senedd Ewrop a etholir gan gyhoedd pob aelod-wladwriaeth. Mae senedd yr aelod-wladwriaethau'n apwyntio aelodau i seneddau'r cyfundrefnau eraill. Caiff yr aelodau eu hethol am gyfnod o bum mlynedd.

Serbia

Gweriniaeth yn ne-ddwyrain Ewrop yw Serbia. Mae'n ffinio â Hwngari i'r gogledd, Rwmania a Bwlgaria i'r dwyrain, Macedonia ac Albania i'r de a Montenegro, Bosnia-Hertsegofina a Croatia i'r gorllewin. Er fod y wlad yn fechan, llifa afon fwyaf yr Undeb Ewropeaidd sef y Danube drwyddi am 21% o'i hyd cyfan. Mae Belgrade sef prifddinas Serbia, yn un o ddinas mwyaf poblog de-ddwyrain Ewrop.

Roedd Serbia'n rhan o Deyrnas Serbiaid, Croatiaid a Slofeniaid o 1918 i 1941 (Teyrnas Iwgoslafia wedi 1929), Gweriniaeth Ffederal Sosialaidd Iwgoslafia o 1945 i 1992, Gweriniaeth Ffederal Iwgoslafia o 1992 i 2003 a Serbia a Montenegro o 2003 i 2006.

Ym mis Chwefror 2008, datganodd senedd Kosovo, sef talaith ddeheuol Serbia gyda mwyafrif ethnig Albaniaid eu hannibyniaeth. Cymysg fu ymateb y gymuned rhyngwladol at Kosovo. Mae Serbia'n ystyried Kosovo fel talaith hunan-lywodraethol a reolir gan genhedaeth yr Cenhedloedd Unedig sef Cenhedaeth Gweinyddiaeth Interim y Cenhedloedd Unedig yn Kosovo

Mae Serbia'n aelod o'r Cenhedloedd Unedig, Cyngor Ewrop, Mudiad Cydweithrediad Economaidd y Môr Du a bydd yn llywyddu dros Cytundeb Masnach Rydd Canolbarth Ewrop yn 2010. Categorïr Serbia yn economi datblygol gan yr International Monetary Fund ac yn economi incwm canol-uwch gan Fanc y Byd.

Y Gymuned Ewropeaidd

Sefydlwyd y Gymuned Ewropeaidd (CE) yn wreiddiol ar 25 Mawrth 1957, pan lofnodwyd Cytundeb Rhufain, dan enw'r Gymuned Economaidd Ewropeaidd (CEE).

O'r tair cymuned wreiddiol (y Gymuned Economaidd Ewropeaidd, y Gymuned Ewropeaidd Glo a Dur a'r Gymuned Ewropeaidd Ynni Atomig), daeth y CEE yn fuan yn fwyaf pwysig, ac ychwanegodd y cytundebau dilynol feysydd pellach o gymhwysedd, yn ymestyn y tu hwnt i'r maes economaidd yn unig. Arhosodd y ddwy gymuned arall yn gyfyngedig dros ben. Ym 1967, cyfunwyd sefydliadau'r tair cymuned gan y Cytundeb Cyfuno. Peidiodd y CEGD â bodoli pan ddibennodd Cytundeb Paris, oedd wedi'i sefydlu, yn 2002. Ystyrid bod y cytundeb yn ddiangen, a daeth glo a dur yn ddarostyngedig i Gytundeb y CE.

Pan ddaeth Cytundeb Maastricht i rym yn Nhachwedd 1993, ailenwyd y Gymuned Economaidd Ewropeaidd yn Gymuned Ewropeaidd. Daeth y Gymuned Ewropeaidd, ynghyd â'r CEGD ac Euratom, yn biler cyntaf yr Undeb Ewropeaidd sy'n bodoli heddiw.

Flag of Europe.svg Aelod-wladwriaethau yr Undeb Ewropeaidd
Flag of Europe
G8

Ieithoedd eraill

This page is based on a Wikipedia article written by authors (here).
Text is available under the CC BY-SA 3.0 license; additional terms may apply.
Images, videos and audio are available under their respective licenses.