Wessex

Un o brif deyrnasoedd yr Eingl-Sacsoniaid, yn ne Lloegr, oedd Wessex. Teyrnas y Sacsoniaid Gorllewinol oedd Wessex (West Sax[ons]). Yn y nawfed ganrif unwyd y Lloegr Eingl-Sacsonaidd ganddi. Ei chanolbwynt oedd basn uchaf Afon Tafwys. O'r 6g ymlaen ymledodd i'r de-orllewin. Daeth i wrthdrawiad â theyrnas Mercia, teyrnas bennaf Lloegr y pryd hynny, a bu brwydro am oruchafiaeth rhyngddynt tan 825 pan lwyddodd Egbert, brenin Wessex (802 - 839) i osod ei awdurdod ar Fercia. Ar sail y goruchafiaeth hynny unodd Alffred Fawr (849 - 899) Loegr (ac eithrio tiriogaeth y Daniaid yn nwyrain Lloegr, sef y Danelaw).

Rhestr o Frenhinoedd a Thywysogion Wessex

  • Cerdic mab Elesa (495 - 540)
  • Creodin mab Caradog (540 - 544)
  • Cynwrig mab Creodin (544 - 560)
  • Coelin mab Cynwrig (560 - 591/593)
  • Ceol mab Cutha mab Cynwrig (591 - 597)
  • Ceolwulf mab Cutha mab Cynwrig (597 - 611)
  • Cuneglas mab Ceolric (611 - 643)
  • Cwichelm mab Ceolric (626 - 636)
  • Cenwalh mab Cuneglas (643 - 672)
  • Baldrad mab Cenwalh (672 - 674)
  • Cenfus mab Cwdeglas mab Ceolwulf (674)
  • Aescwine mab Cenfus (674 - 676)
  • Centwine mab Cuneglas (676 - 685)
  • Cadwallon mab Cenbert mab Ceda mab Cadfan mab Coelin (685 - 688)
  • Ine mab Conrad mab Ceolwal mab Ceolwulf (688 - 726)
  • Ithelheard mab Ine (726 - 740)
  • Cuthred mab Cynewulf mab Cuthred mab Cwichelm (740 - 756)
  • Sigeberht (756 - 757), mab Sigeric Essex
  • Cynewulf mab Ealdbert mab Centwine (757 - 786)
  • Beorhtric (786 - 802), Mercia
  • Egbert mab Ealmund mab Offa mab Eoppa mab Ingild mab Conrad mab Ceolwal mab Ceolwulf (802 - 839)
  • Ithelwulf mab Egbert (839 - 858)
  • Ithelbald mab Ithelwulf (856 - 860)
  • Ithelbert mab Ithelbald (858 - 866)
  • Ithelred mab Ithelbald (866 - 871)
  • Alurd mab Ithelbald (871 - 899)
  • Iorwerth mab Alurd (899 - 924)
  • Ithelweard mab Iorwerth (924)
  • Ithelstan mab Alurd (924 - 939)
  • Ednyfed mab Iorwerth (939 - 946)
  • Idred mab Iorwerth (946 - 955)
  • Idwig mab Idmund (955 - 959)
  • Idgar mab Idmund (959 - 975)
  • Iorwerth mab Idgar (975 - 978)
  • Ithelred mab Idgar (978 - 1013)
  • Sweyn I, brenin Denmarc (1013 - 1014)
  • Ithelred mab Idgar (1014 - 1016)
  • Ednyfed mab Ithelred (1016)
  • Canute Fawr (1016 - 1035)
  • Harold Paw Cwningen (1035 - 1040)
  • Harthacanute (1040 - 1042)
  • Iorwerth mab Ithelred (1042 - 1066)
  • Harold mab Cadfan mab Wulfnot mab Ithelmor mab Ithelweard mab Idric mab Iddonfrith mab Ithelhelm mab Ithelred mab Ithelbald (1066)
  • Idgar mab Iorwerth mab Idmund mab Ithelred (1066)

Gweler hefyd

1030au

10g - 11g - 12g980au 990au 1000au 1010au 1020au - 1030au - 1040au 1050au 1060au 1070au 1080au1030 1031 1032 1033 1034 1035 1036 1037 1038 1039

Digwyddiadau a Gogwyddion

Pobl Nodedig

Godwin, Iarll Wessex

1040au

10g - 11g - 12g990au 1000au 1010au 1020au 1030au - 1040au - 1050au 1060au 1070au 1080au 1090au1040 1041 1042 1043 1044 1045 1046 1047 1048 1049

Digwyddiadau a Gogwyddion

Pobl Nodweddiadol

Brenin Macbeth o'r Alban (bu farw 1057)

Godwin, Iarll Wessex (bu farw 1053)

El Cid (ganwyd 1040)

1050au

10g - 11g - 12g1000au 1010au 1020au 1030au 1040au - 1050au - 1060au 1070au 1080au 1090au 1100au1050 1051 1052 1053 1054 1055 1056 1057 1058 1059

Digwyddiadau a Gogwyddion

Pobl Nodweddiadol

Godwin, Iarll Wessex (bu farw 1053)

1964

19g - 20g - 21g1910au 1920au 1930au 1940au 1950au - 1960au - 1970au 1980au 1990au 2000au 2010au1959 1960 1961 1962 1963 - 1964 - 1965 1966 1967 1968 1969

820au

8g - 9g - 10g770au 780au 790au 800au 810au - 820au - 830au 840au 850au 860au 870au820 821 822 823 824 825 826 827 828 829

Digwyddiadau a Gogwyddion

Egbert o Wessex yn codi i statws Bretwalda.

Y Saraseniaid yn gorchfygu Creta ac yn goresgyn Sisili.

Sefydlu Teyrnas Navarre.

829 — Ansgar yn sefydlu'r eglwys gyntaf yn Sweden.Pobl Nodweddiadol

Louis Dduwiol

Egbert o Wessex

Michael II

Thomas y Slaf

Omurtag o Fwlgaria

Mamun

830au

8g - 9g - 10g780au 790au 800au 810au 820au - 830au - 840au 850au 860au 870au 880au830 831 832 833 834 835 836 837 838 839

Digwyddiadau a Gogwyddion

Pobl Nodweddiadol

Louis Dduwiol

Egbert o Wessex

Ansgar

Wiglaf o Mercia

Turgesius

850au

8g - 9g - 10g800au 810au 820au 830au 840au - 850au - 860au 870au 880au 890au 900au850 851 852 853 854 855 856 857 858 859

Digwyddiadau a Gogwyddion

850–859: Symudiad Merthyron Cristnogol yn Nghórdoba Mwslemaidd, Sbaen.Pobl Nodweddiadol

Siarl Foel

Louis yr Almaenwr

Lothar

Ethelwulf o Wessex

Bardas

Kenneth I o'r Alban

Halfdan y Du

Abu Ja'far Muhammad ibn Musa al-Khwarizmi

880au

8g - 9g - 10g830au 840au 850au 860au 870au - 880au - 890au 900au 910au 920au 930au880 881 882 883 884 885 886 887 888 889

Digwyddiadau a Gogwyddion

885 — Y Llychlynwyr yn gwarchae ar Baris

886 — Alffred Fawr o Wessex yn dal LlundainPobl Nodweddiadol

Siarl y Tew

Alffred Fawr

Basil I

Alffred Fawr

Roedd Alffred Fawr (Ælfred neu Alfred, o Hen Saesneg: Ælfrēd) (c. 849 – 26 Hydref 899) yn frenin ar y deyrnas Eingl-Sacsonaidd ddeheuol Wessex o 871 hyd 899. Mae Alffred yn enwog am amddiffyn Lloegr yn erbyn ymosodiadau gan y Llychlynwyr. Cofnodir manylion ei fywyd gan yr ysgolhaig Cymreig cynnar Asser.

Caerwynt

Dinas yn ne Lloegr yw Caerwynt (neu Caer-wynt, Saesneg: Winchester), canolfan weinyddol Hampshire. Mae'n ddinas hanesyddol sy'n gartref i Eglwys Gadeiriol Caerwynt, a godwyd yn yr 11g ar safle eglwys gynharach. Fel prifddinas teyrnas Sacsonaidd Wessex a safle llys ei brenhinoedd, bu bron mor bwysig â Llundain yng nghyfnod yr Eingl-Sacsoniaid. Mae'n gartref yn ogystal i Goleg Caerwynt, ysgol gyhoeddus hynaf Lloegr, a sefydlwyd gan William o Wykeham yn 1382. Mae gan y ddinas boblogaeth o tua 40,000. Saif ar lan afon Itchen. Bu farw'r nofelydd Jane Austen yng Nghaerwynt.

Caint

Swydd seremonïol yn Ne-ddwyrain Lloegr yw Caint (Saesneg: Kent), yng nghongl dde-ddwyreiniol y wlad. Mae ganddi boblogaeth o 1,610,400 ac arwynebedd o 3,736 km². Maidstone ydyw prif dref y sir. Mae Caint yn ffinio ar Surrey a Sussex i'r gorllewin, ar Essex i'r gogledd, ar draws Afon Tafwys, ac, mewn ffordd, ar Ffrainc i'r de-ddwyrain drwy Dwnnel y Sianel. Mae gogledd-orllewin y sir wedi'i lyncu o dan faestrefi Llundain.

Y sir hon ydyw'r agosaf at dir mawr Ewrop – dim ond 21 filltir neu 34 km sydd rhwng Dover a Cap Gris-Nez, gogledd Ffrainc.

Mae tarddiad yr enw Caint yn dyddio'n ôl i'r Brythoniaid, o bosib i lwyth y Cantiaci. Awrgrymwyd hefyd bod cysylltiad rhwng 'Caint' a'r gair Cymraeg cantel ('ymyl'), gan ei bod ar 'ymyl' Prydain Fawr. Dyma'r rhan gyntaf o Loegr i gael ei gwladychu gan lwythau Tiwtonaidd y Saeson - yn yr achos yma yr Iwtiaid a greasant deyrnas Seisnig Caint, yng nghanol y 5g, a barhaodd nes cael ei llyncu gan Wessex. Gelwid Saeson Caint yn 'Cantwara', a Chaergaint oedd eu prifddinas. Er bod enwau Celtaidd yn weddol brin yng Nghaint o'i gymharu ac ardaloedd eraill Lloegr, mae nifer o enwau lleoedd o darddiad Brythoneg, er enghraifft Thanet a Dover. Mae rhai haneswyr, megis Myres, wedi gweld parhâd nifer o enwau lleoedd Brythoneg yma fel tystiolaeth i'r boblogaeth frodorol oroesi yma'n well nag mewn ardaloedd eraill de-ddwyrain Lloegr.Daeth Sant Awstin â Christionogaeth i Gaint yn niwedd y 6g.

Enw arall a roddir ar Gaint yw'r 'Garden of England' ('Gardd Lloegr') oherwydd ei thraddodiad amaethyddol. Mae hopys, i wneud cwrw, yn gnwd traddodiadol yng Nghaint, ac mae'r odyndai ('oast-houses'), lle sychir yr hopys, yn dal yn nodweddiadol o dirwedd y sir.

Dorset

Swydd seremonïol yn Ne-orllewin Lloegr yw Dorset (Saesneg: Dorset). Fe'i lleolir yn ne-orllewin y wlad ar lan Môr Udd rhwng siroedd Dyfnaint a Gwlad yr Haf i'r gorllewin, Wiltshire i'r gogledd a Hampshire i'r dwyrain. Ei brif ddinas a chanolfan weinyddol yw Dorchester. Mae ei thir yn isel ond fe'i croesir gan y Dorset Downs yn y de a'r gogledd. Y prif afonydd yw Afon Frome ac Afon Stour. Sir amaethyddol yw hi'n draddodiadol ond mae twristiaeth yn bwysig hefyd, yn arbennig yn ei threfi arfordirol fel Bournemouth a Weymouth. Ymhlith ei hynafiaethau mae bryngaer anferth Maiden Castle, ger Dorchester, yn sefyll allan. Mae nifer o lefydd yn y sir yn dwyn cysylltiad â gwaith llenyddol Thomas Hardy. Yn y cyfnod Eingl-Sacsonaidd roedd yr ardal yn rhan o deyrnas Wessex.

Dyfnaint

Swydd seremonïol yn Ne-orllewin Lloegr yw Dyfnaint (Cernyweg: Dewnans; Llydaweg: Devnent; Saesneg: Devon). Caerwysg yw'r ddinas sirol. Mae'r sir yn ffinio â Chernyw, Gwlad yr Haf, Dorset, Môr Hafren a'r Môr Udd. Er i'r ardal gael ei goresgyn a'i gwladychu gan Sacsoniaid Wessex yn yr Oesoedd Canol Cynnar, mae'r enw yn gysylltiedig ag enw hen deyrnas Geltaidd Dumnonia.

Dyfnaint ydyw'r unig sir yn Lloegr i fod â dau arfodir ar wahân, heb gyffwrdd â'i gilydd.

Mae baner Dyfnaint yn dyddio o 2003. Fe'i mabwysiadwyd ar ôl cystadleuaeth a gynhaliwyd gan y BBC. Mabwysiadwyd y briallu fel blodyn y sir hefyd.

Ceir sawl enw lle o darddiad Brythonig yn Nyfnaint (er enghraifft combe (cwm), tor (twr), pen (pen)) ond mae nhw'n fwy cyffredin ar ôl croesi Afon Tamar, ffin Cernyw, yn y gorllewin. Y dosbarth lluosocaf o'r enwau lleoedd hyn yw enwau'r Celtiaid ar afonydd.

Eingl-Sacsoniaid

Eingl-Sacsoniaid yw'r term a ddefnyddir i gyfeirio at y grwpiau o bobloedd Germanaidd a ymsefydlodd yn ne a dwyrain Prydain o'r 5g ymlaen gan raddol ddisodli'r Brythoniaid (pobloedd Celtaidd) brodorol. Fel enw mae'n gymharol ddiweddar ac, fel y gair 'Celtiaid', doedd o ddim yn cael ei ddefnyddio gan y bobloedd hynny eu hunain.

Roedd yr Eingl-Sacsoniaid yn perthyn i sawl llwyth, yn cynnwys y Sacsoniaid, yr Eingl a'r Iwtiaid neu Iwys. Ar y dechrau, ffurfiodd y llwythau hyn nifer o fân deyrnasoedd annibynnol ar dir a enillwyd oddi wrth y teyrnasoedd Celtaidd brodorol. Y pennaf o'r teyrnasoedd Eingl-Sacsonaidd hyn oedd Deira neu 'Deifr' (Northumbria), Mercia a Wessex. Mae hanes cynnar yr Eingl-Sacsoniaid yn frith â brwydrau ac ymgyrchoedd yn erbyn Gwŷr y Gogledd (teyrnasoedd Rheged, Manaw Gododdin, Elmet ac Ystrad Clud), y Cernywiaid a'r Cymry, ond yn ogystal roeddent yn ymladd â'i gilydd am rym. Teyrnas Wessex a lwyddodd i osod seiliau teyrnas Lloegr ar ôl torri grym Mercia yn 825 a chydnabyddir y brenin Alffred Fawr fel brenin cyntaf Lloegr unedig.

Rheolai'r brenhinoedd gyda chymorth y witan (cyngor o uchelwyr) a llysoedd lleol.

Paganiaid oedd yr Eingl-Sacsoniaid pan ddaethant i Brydain. Cawsant eu troi i'r Gristnogaeth gan Sant Awstin a anfonwyd gan y Pab Gregori I i Loegr yn 596. Hen Saesneg (neu Eingl-Sacsoneg) oedd eu hiaith. Beowulf yw gwaith mwyaf adnabyddus llenyddiaeth Eingl-Sacsonaidd.

Hen Saesneg

Ffurf hanesyddol gynharaf yr iaith Saesneg yw Hen Saesneg (Ænglisc, Anglisc, neu Englisc) neu Eingl-Sacsoneg a siaredid yn Lloegr ac yn ne a dwyrain yr Alban yn ystod yr Oesoedd Canol Cynnar. Cafodd ei ddwyn i Brydain Fawr gan ymfudwyr Eingl-Sacsonaidd tua chanol y 5g, ac mae'r gweithiau hynaf yn llenyddiaeth Saesneg yn dyddio o ganol y 7g. Wedi'r goncwest Normanaidd yn 1066, disodlwyd Saesneg, am gyfnod, fel iaith yr uchelwyr yn Lloegr gan yr Eingl-Normaneg. Mae hyn yn nodi diwedd cyfnod yr Hen Saesneg, pan ddylanwadwyd yn gryf ar Saesneg gan Eingl-Normaneg gan ddatblygu'r ffurf a elwir bellach yn Saesneg Canol .

Datblygodd Hen Saesneg o dafodieithoedd Eingl-Ffriseg neu Ingfaeonig a siaredid yn gan lwythau Germanaidd a adwaenid yn draddodiadol fel yr Eingl, y Sacsoniaid, a'r Jiwtiaid. Wrth i'r Eingl-Sacsoniaid ddod i dra-arglwyddiaethu yn Lloegr, bu farw'r iaith Frythoneg a thafodiaith Lladin Prydeinig yn y wlad. Pedair prif dafodiaith oedd i Hen Saesneg a gysylltir â rhai o deyrnasoedd yr Eingl-Sacsonaid: Mersia, Northymbria, Caint, a Wessex. Tafodiaith Wessex, neu Sacsoneg Orllewinol, oedd sail y ffurf lenyddol safonol yng nghyfnod diweddar yr Hen Saesneg er y byddai ffurfiau amlycaf Saesneg Canol a Modern yn datblygu'n bennaf o dafodiaith Mersia. Dylanwadwyd yn gryf ar iaith dwyrain a gogledd Lloegr gan Hen Norseg o ganlyniad i wladychiad gan y Llychlynwyr o'r 9g ymlaen.

Un o'r ieithoedd Germanaidd Gorllewinol ydy Hen Saesneg, sy'n perthyn agosaf at Hen Ffriseg ac Hen Sacsoneg. Megis yr hen ieithoedd Germanaidd eraill, mae'n wahanol iawn i Saesneg Modern ac yn anodd i siaradwyr Saesneg Modern ei deall heb ei hastudio. Mae gramadeg Hen Saesneg yn debyg i ramadeg Almaeneg Modern: mae sawl ffurf a therfyniad ffurfdroadol i enwau, ansoddeiriau, rhagenwau, a berfau, ac mae trefn y geiriau yn llawer mwy rhydd. Ysgrifennwyd yr arysgrifau hynaf yn Hen Saesneg mewn llythrennau rwnig, ond tua'r 9g ymlaen disodlwyd y system honno gan ffurf ar yr wyddor Ladin.

Lloegr

Gwlad ar Ynys Prydain yng ngogledd orllewin Ewrop yw Lloegr (Saesneg: England). Yn ddaearyddol, ac o ran poblogaeth, hi yw'r wlad fwyaf o fewn y Deyrnas Unedig. Mae'n ffinio â Chymru i'r gorllewin a'r Alban i'r gogledd.

Yn y 6ed a'r 7g cyrhaeddodd llwythau Tiwtonaidd (a gynhwysai yn ôl traddodiad yr Eingl, Sacsoniaid, a Jutiaid) Brydain o dir mawr Ewrop a gwladychu de a dwyrain yr ynys gan yrru'r brodorion o Geltiaid tua'r gorllewin ac i'r ardaloedd llai ffrwythlon; arhosodd eraill ac fe'u hymgorfforwyd o fewn cymdeithas y goresgynnwyr. Ymledodd rheolaeth y Saeson cynnar o dipyn i beth tua'r gorllewin a'r gogledd gan greu nifer o deyrnasoedd fel Wessex, Mercia, Essex, Sussex, a Northumbria. Colli eu hiaith a'u harferion bu hanes y Brythoniaid a oroesodd yn yr ardaloedd hynny. Ond Wessex oedd yr unig un i gadw ei hannibyniaeth ar ôl goresgyniadau'r Llychlyniaid yn yr 8fed a'r 9g, a theyrnas Wessex fu sail teyrnas Lloegr a'r Deyrnas Unedig wedyn.

Nawddsant Lloegr: Sant Siôr - 23 Ebrill.

Mercia

Roedd Mercia (neu Mersia; Eingl-Sacsoneg: Mierce, "pobl y gororau"), yn un o deyrnasoedd yr Eingl-Sacsoniaid, gyda'i chalon o gwmpas dyffryn Afon Trent.

Roedd Mercia'n ffinio â nifer o deyrnasoedd Cymru, yn enwedig Powys, a bu llawer o ymladd rhyngddynt, ond hefyd ambell dro gynghrair. Y brenin cyntaf y gwyddir amdano oedd Creoda, a ddaeth i rym tua 585. Dilynwyd ef gan ei fab, Pybba, yn 593. Dilynwyd ef gan Cearl yn 606, yna daeth Penda yn frenin. Gwnaeth Penda gynghrair gyda nifer o'r brenhinoedd Cymreig i ymgyrchu yn erbyn Northumbria, yn enwedig Cadwallon ap Cadfan, brenin Gwynedd.

Lladdwyd Penda gan y Northunbriaid ym Mrwydr Winwaed yn 655, ac am gyfnod gwanychwyd Mercia yn fawr. Yn ddiweddarach, tua dechrau'r 8g, cryfhaodd y deyrnas eto, a chipiwyd darn sylweddol o ddwyrain Powys, yn cynnwys y brifddinas, Pengwern. Daeth Æthelbald yn frenin yn 716, ac wedi iddo ef farw bu rhyfel am yr orsedd a enillwyd gan Offa. Yn ddiweddarach edwinodd grym Mercia, cipiwyd rhan ddwyreiniol y deyrnas gan y Daniaid a thyfodd Wessex i fod y mwyaf grymus o deyrnasoedd Lloegr.

Oes yr Efydd

Cyfnod sydd yn dilyn Oes y Cerrig mewn llawer o wledydd pan ddefnyddid y metel efydd oedd Oes yr Efydd a cham-enwir yn "Yr Oes Efydd" weithiau yn Gymraeg. Ar ôl Oes yr Efydd daeth Oes yr Haearn.

Mae efydd yn aloi o gopr. Arfau milwrol ac offer ydyw'r rhan fwayf o olion y cyfnod hwn, ond mae nifer o arteffactau defodol wedi goroesi hefyd.

Ynys Wyth

Ynys a swydd seremonïol yn Ne-ddwyrain Lloegr, i'r de o Southampton, yw Ynys Wyth (Saesneg: Isle of Wight).

Yn draddodiadol mae'n rhan o Hampshire. Cafodd ei gwladychu gan Iwtiaid tua'r 6g, ond cafodd ei goresgyn gan y Sacsoniaid wedyn a'i hymgorffori yn nheyrnas Wessex.

Mae'n enwog am ei regatta.

Ieithoedd eraill

This page is based on a Wikipedia article written by authors (here).
Text is available under the CC BY-SA 3.0 license; additional terms may apply.
Images, videos and audio are available under their respective licenses.