Urdd y Baddon

Mae Urdd Fwyaf Anrhydeddus y Baddon (cynt Urdd Filwrol Fwyaf Anrhydeddus y Baddon) yn urdd anrhydedd Brydeinig. [1]

Order of bath star
Bathodyn Marchog y Groes Fawr (GCB) Urdd y Baddon

Hanes

Sefydlwyd Urdd y Baddon gan y Brenin Siôr I ar 18 Mai 1725. Mae'r enw yn deillio o seremoni ganoloesol ar gyfer penodi marchog, a oedd yn cynnwys ymdrochi (fel symbol o buro) fel un o'i elfennau. Galwyd marchogion a grëwyd trwy ddilyn y fath seremoni yn "Farchogion y Baddon". Penderfynodd Siôr I i drefnu marchogion y baddon fel Urdd filwrol reolaidd. Yn groes i'r gred gyffredin ni wnaeth Siôr atgyfodi'r urdd, gan nad oedd y fath urdd o farchogion, wedi ei gyfyngu o ran niferoedd ac yn cael ei lywodraethu gan statudau wedi bodoli eisoes. [2]

Urdd y baddon yw'r pedwerydd yn nhrefn Urddau sifalri Prydain, ar ôl Urdd Fwyaf Urddasol y Gardys, Urdd Hynafol a Mwyaf Urddasol yr Ysgallen, ac Urdd Fwyaf Hyglod St Padrig (bellach yn urdd segur).

Aelodaeth

GCB mantle
Mantell seremonïol aelod o'r urdd

Mae aelodau'r urdd yn cynnwys y sofran (y Frenhines Elisabeth II ar hyn o bryd), Yr Oruwch Feistr (ar hyn o bryd Siarl Tywysog Cymru), a thri Dosbarthiad o aelodau:

Marchog y Groes Fawr (GCB) neu Fonesig Y Groes Fawr (GCB)

Marchog Cadlywydd (KCB) neu Fonesig Cadlywydd (DCB)

Cydymaith (CB)[3]

Cyfyngir nifer yr aelodau i 120 Marchog neu Fonesig y Groes Fawr; 355 Marchog neu Fonesig Cadlywydd a 1,925 Cydymaith. [4] Mae aelodaeth reolaidd wedi'i gyfyngu i ddinasyddion y Deyrnas Unedig a gwledydd eraill y Gymanwlad y mae'r Frenhines yn Sofran arnynt. [5] Gall dinasyddion y Gymanwlad nad ydynt yn ddeiliaid y Frenhines a dinasyddion tramor fod yn Aelodau Anrhydeddus. Nid yw aelodau anrhydeddus yn cyfrannu at y niferoedd uchafswm a chaniateir ym mhob dosbarth. Mae aelodau'n perthyn naill ai i'r Adran Sifil neu'r Adran Filwrol. Cyn 1815, dim ond un dosbarth oedd gan yr urdd sef Marchog Cydymaith (KB), sydd ddim yn bodoli mwyach. Mae aelodau'r urdd fel arfer yn uwch swyddogion milwrol neu weision sifil uwch.

Derbyniwyd merched i'r urdd ym 1971. Yn Anrhydedd Blwyddyn Newydd 1971, daeth Jean Nunn y fenyw gyntaf (ac eithrio breninesau sofran) i'w hurddo yn aelod. [6]

Aelodau Tramor

Mae'r Frenhines Elisabeth II wedi sefydlu'r arfer o ddyfarnu GCB er anrhydedd i benaethiaid wladwriaethau gweriniaethol sy'n gwneud ymweld gwladol i'r DU, er enghraifft, Gustav Heinemann a Josip Broz Tito (ym 1972), Ronald Reagan (ym 1989), Lech Wałęsa (ym 1991), Censu Tabone, Arlywydd Malta, ym 1992, Fernando Henrique Cardoso, a George H W Bush (ym 1993), Nicolas Sarkozy ym mis Mawrth 2008, cyn Arlywydd Indonesia Susilo Bambang Yudhoyono (2012). Arlywydd Twrci Abdullah Gül, Arlywydd Slofenia Dr Danilo Türk , Arlywydd Mecsico Felipe Calderón, ac Arlywydd De Affrica Jacob Zuma . (Mae gwladweinwyr gwledydd brenhinol fel arfer yn cael eu gwneud yn aelodau er anrhydedd o Urdd y Gardys). Mae arweinwyr milwrol tramor hefyd yn cael eu hurddo'n aelodau er anrhydedd, er enghraifft: y Marsial Ferdinand Foch a'r Marsial Joseph Joffre yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf; Y Marsial Georgy Zhukov, Y Brenin Abdul-Aziz o Sawdi Arabia, Y Cadfridog Dwight D. Eisenhower a'r Cadfridog Douglas MacArthur yn ystod yr Ail Ryfel Byd; a'r Cadfridogion Norman Schwarzkopf a Colin Powell wedi rhyfel y Gwlff.

Diarddeliad

Gellid canslo neu ddirymu aelodaeth, a dileu'r cofnod yn y gofrestr, trwy orchymyn a lofnodwyd gan y sofran ac wedi ei selio â sêl yr urdd, ar argymhelliad y Gweinidog priodol.

Ym 1923 fe wnaed Benito Mussolini, yr unben Eidalaidd, yn Farchog y Groes Fawr er anrhydedd, gan y Brenin Siôr V. Cafodd Mussolini ei ddiarddel o'r urdd ym 1940, ar ôl iddo ddatgan rhyfel yn erbyn y DU. [7]

Collodd William Pottinger, uwch was sifil, ei statws aelodaeth o Urdd y Baddon ac Urdd Frenhinol Fictoria ym 1975 pan gafodd ei garcharu am dderbyn anrhegion llwgr gan y pensaer John Poulson.

Cafodd Arlywydd Rwmania, Nicolae Ceauşescu, ei ddiarddel o'r urdd gan y Frenhines Elizabeth II ar 24 Rhagfyr 1989, y diwrnod cyn ei ddienyddio. Cafodd Robert Mugabe, Arlywydd Simbabwe, ei ddiarddel, ar gais yr Ysgrifennydd Tramor, David Miliband, ar 25 Mehefin 2008 am ei ddiffyg parch at hawliau dynol a'r drefn ddemocrataidd.

Diarddelwyd Vicky Pryce, cyn gwraig yr AS Rhyddfrydol Chris Huhne ar 30 Gorffennaf 2013, wedi iddi gael euogfarn am wrthdroi cwrs cyfiawnder.

Cyfeiriadau

  1. Montague-Smith, P.W. (gol.), Debrett's Peerage, Baronetage, Knightage and Companionage, Kelly's Directories Ltd, Kingston-upon-Thames, 1968
  2. Anstis, John (1752). Observations introductory to an historical essay, upon the Knighthood of the Bath. London: James Woodman.
  3. Westminster Abbey – Order of the Bath adalwyd 20 Medi 2018
  4. Encyclopaedia Britannica The Most Honourable Order of the Bath adalwyd 20 Medi 2018
  5. "Order of the Bath". Official website of the British monarchy. Archifwyd o y gwreiddiol ar 2 Ionawr 2012. Adalwyd 9 Rhagfyr 2011. Check date values in: |access-date= (help)
  6. "www.royal.gov.uk The Order of the Bath". Archifwyd o y gwreiddiol ar 29 Medi 2006. Adalwyd 9 Medi 2006. Check date values in: |access-date= (help)
  7. Ishaan Tharoor, 2012, "Disgraced British Knights: A Not-So-Chivalrous History", Time adalwyd 20 Medi 2018).
Archibald Rowlands

Swyddogion milwrol o Gymru oedd Archibald Rowlands (26 Rhagfyr 1892 - 18 Awst 1953).

Cafodd ei eni ym Mhenarth yn 1892. Cofir Rowlands am ei waith yn y Gwasanaeth Sifil, ym Mhrydain ac yn India.

Addysgwyd ef yng Ngholeg yr Iesu, Rhydychen a Phrifysgol Cymru. Enillodd ef nifer o wobrau, gan gynnwys Marchog Groes Fawr Urdd y Baddon a MBE.

Charles Granville Bruce

Fforiwr o Loegr oedd Charles Granville Bruce (7 Ebrill 1866 - 12 Gorffennaf 1939).

Cafodd ei eni yn Llundain yn 1866 a bu farw yn Llundain. Roedd Bruce yn filwr llwwyddiannus, ac fe'I cofir fwyaf fel un o arloeswyr pennaf oll mynyddoedd yr Himalaya.

Roedd yn fab i Henry Bruce, Barwn 1af Aberdar.

Addysgwyd ef yn Ysgol Repton. Enillodd ef nifer o wobrau, gan gynnwys gwobr Cydymaith Urdd y Baddon, Grande Médaille d'Or des Explorations a Medal y Sefydlydd.

Edward Brace

Swyddog yn y llynges o Loegr oedd Edward Brace (2 Mehefin 1770 - 26 Rhagfyr 1843).

Cafodd ei eni yn Kimbolton, Swydd Henffordd yn 1770 a bu farw yn Nore.

Enillodd ef nifer o wobrau, gan gynnwys Marchog-Cadlywydd Urdd y Baddon.

Edward VII, brenin y Deyrnas Unedig

Edward VII neu Iorwerth VII (9 Tachwedd 1841 – 6 Mai 1910) oedd brenin Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon o 22 Ionawr 1901 hyd ei farwolaeth.

Edward oedd mab y frenhines Victoria a'i phriod, y Tywysog Albert. Cafodd ei eni ym Mhalas Buckingham. Ef oedd Tywysog Cymru rhwng 8 Rhagfyr, 1841, a marwolaeth Victoria.

Ei wraig oedd Alexandra o Ddenmarc.

Llysenw: "Bertie".

Erasmus Gower

Milwr o Gymru oedd Erasmus Gower (3 Rhagfyr 1742 - 21 Mehefin 1814).

Cafodd ei eni yng Nghilgerran yn 1742 a bu farw yn Hambledon, Hampshire. Bu Gower yn Llyngesydd a hefyd yn raglaw Newfoundland.

Enillodd ef nifer o wobrau, gan gynnwys gwobr Urdd y Baddon.

Henry Watkins Williams-Wynn

Roedd Syr Henry Watkins Williams-Wynn (16 Mawrth 1783 – 26 Mawrth 1856) yn ddiplomydd a gwleidydd Cymreig.

John Vaughan (ynad)

Ynad heddwch a milwr o Gymru oedd John Vaughan (31 Gorffennaf 1871 - 21 Ionawr 1956).

Cafodd ei eni yn Nolgellau yn 1871. Cofir Vaughan yn bennaf am fod yn filwr ac yn gadfridog.

Addysgwyd ef yng Ngholeg Eton a Choleg Milwrol Brenhinol, Sandhurst. Enillodd ef nifer o wobrau, gan gynnwys gwobr Cydymaith Urdd y Baddon.

Josip Broz Tito

Chwyldroadwr a gwladweinydd Iwgoslafaidd oedd y Marsial Josip Broz Tito (Serbo-Croateg: Јосип Броз Тито; ynganiad Serbo-Croateg: [jɔ̂sip brɔ̂ːz tîtɔ]; ganwyd Josip Broz; 7 Mai 1892 – 4 Mai 1980) a wasanaethodd mewn nifer o swyddi o 1945 hyd ei farwolaeth ym 1980. Er i rai feirniadu ei arlywyddiaeth yn gyfnod awdurdodaidd, ystyrid Tito gan y mwyafrif yn unben tadol o ganlyniad i lwyddiant ei bolisïau economaidd a diplomyddol, ac roedd yn boblogaidd yn Iwgoslafia a thramor. Ystyrid yn symbol o undod a lwyddodd i gadw cydfodolaeth heddychlon ymysg cenhedloedd Iwgoslafia. Daeth i sylw'r byd fel un o brif arweinwyr y Mudiad Amhleidiol, ynghyd â Jawaharlal Nehru a Gamal Abdel Nasser.Ganwyd Josip, seithfed blentyn i Franjo a Marija Broz, ym mhentref Kumrovec yn Awstria-Hwngari, sydd heddiw yn rhan o Groatia. Cafodd ei alw i'r fyddin a daeth yn yr Uwch Sarsiant ieuengaf ym Myddin Awstria-Hwngari. Fe'i anafwyd yn ddifrifol gan y Rwsiaid, a gipiasant i'w ddanfon i wersyll gwaith ym Mynyddoedd yr Wral. Brwydrodd yn Chwyldro Hydref ac ymunodd ag uned y Gwarchodlu Coch yn Omsk. Dychwelodd gartref i Deyrnas Iwgoslafia ac ymunodd â'r Blaid Gomiwnyddol.

Ef oedd Ysgrifennydd Cyffredinol (ac yn hwyrach Arlywydd) Cynghrair Comiwnyddion Iwgoslafia (1939–80), ac arweiniodd herwfilwyr y Partisaniaid yn ystod yr Ail Ryfel Byd (1941–45). Ar ôl y rhyfel, ef oedd Prif Weinidog (1943–63) ac yna Arlywydd (1953–80) Gweriniaeth Ffederal Sosialaidd Iwgoslafia (SFRY). O 1943 hyd ei farwolaeth ym 1980, daliodd rheng Marsial Iwgoslafia, sef pencadlywydd Byddin Pobl Iwgoslafia (JNA), lluoedd milwrol y wlad. O ganlyniad i'w boblogrwydd tramor mewn dau floc y Rhyfel Oer, derbynodd rhyw 98 o addurniadau gan wledydd eraill, gan gynnwys y Légion d'honneur ac Urdd y Baddon. Angladd Tito oedd yr angladd gwladwriaethol mwyaf erioed.Tito oedd prif sefydlwr "yr ail Iwgoslafia", ffederasiwn sosialaidd a fodolodd o'r Ail Ryfel Byd hyd 1991. Er yr oedd yn un o sefydlwyr Cominform, ef oedd y yr aelod cyntaf o Cominform i herio hegemoni'r Undeb Sofietaidd a'r unig un a wnaeth hynny'n llwyddiannus. Cefnogodd ennill sosialaeth trwy ffyrdd annibynnol, mewn modd tebyg i sosialaeth genedlaethol, a gelwir ei ideoleg yn Titoaeth. Ef oedd Ysgrifennydd Cyffredinol cyntaf y Mudiad Amhleidiol, a hyrwyddodd bolisi o niwtraliaeth rhwng dau floc y Rhyfel Oer. Arweiniodd ei bolisïau economaidd a diplomyddol at ymchwydd economaidd yn Iwgoslafia yn y 1960au a'r 1970au. Llethwyd cenedlaetholdeb rhanbarthol gan ei bolisïu mewnwladol, a hybodd "brawdoliaeth ac undod" chwe chenedl Iwgoslafia. Wedi marwolaeth Tito ym 1980, datblygodd tensiynau rhwng gweriniaethau'r ffederasiwn ac ym 1991 chwalodd Iwgoslafia gan arwain at gyfres o ryfeloedd yn y 1990au. Mae Tito yn barhau yn ffigur dadleuol yn y Balcanau.

Lewis Pugh Evans

Milwr, ffigwr cyhoeddus ag enillwyr y Groes Fictoria o Gymru oedd Lewis Pugh Evans (VC) (3 Ionawr 1881 - 30 Tachwedd 1962).

Cafodd ei eni yng Ngheredigion yn 1881 a bu farw yn Paddington. Dyfarnwyd Croes Fictoria i Evans yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, a chafodd yrfa nodedig yn y lluoedd arfog.

Addysgwyd ef yng Ngholeg Eton a Choleg Milwrol Brenhinol, Sandhurst. Enillodd ef nifer o wobrau, gan gynnwys gwobr Cydymaith i Urdd St.Mihangel a St.Siôr a Chydymaith Urdd y Baddon.

Ralph Abercromby

Gwleidydd a swyddog o Loegr oedd Ralph Abercromby (7 Hydref 1734 - 28 Mawrth 1801).

Cafodd ei eni yn Tullibody yn 1734 a bu farw yn Alecsandria.

Cafodd Ralph Abercromby blant o'r enw ac yn dad i James Abercromby, Barwn Dunfermline 1af.

Addysgwyd ef yn Brifysgol Caeredin ac Ysgol Rugby. Yn ystod ei yrfa bu'n aelod o Gyfrin Gyngor yr Iwerddon ac yn aelod o Senedd Prydain Fawr. Enillodd ef nifer o wobrau, gan gynnwys Marchog-Cadlywydd Urdd y Baddon.

Siôr IV, brenin y Deyrnas Unedig

Siôr IV (12 Awst 1762 – 26 Mehefin 1830), oedd Tywysog Cymru 1762 rhwng a 1820 a brenin Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon o 29 Ionawr 1820 hyd ei farwolaeth.

Roedd yn fab i Siôr III a'i wraig, Charlotte o Mecklenburg-Strelitz. Rhwng 5 Chwefror, 1811 a 29 Ionawr, 1820, ef oedd y Tywysog Rhaglyw, yn ystod afiechyd ei dad.

Ei wraig oedd Caroline o Brunswick, ond roedd yn briodas anhapus. Bu farw Caroline ym 1821.

Syr William Williams

Milwr a gwleidydd o Loegr oedd Syr William Williams, Barwnig 1af o Kars (4 Rhagfyr 1800 - 26 Gorffennaf 1883).

Cafodd ei eni yn Annapolis Royal yn 1800 a bu farw yn Llundain.

Yn ystod ei yrfa bu'n aelod o Senedd y Deyrnas Unedig. Enillodd ef nifer o wobrau, gan gynnwys Marchog Groes Fawr Urdd y Baddon, Urdd y Baddon ac Uwch Groes y Lleng Anrhydedd.

Thomas Foley

Swyddogion milwrol o Gymru oedd Thomas Foley (1757 - 9 Ionawr 1833).

Cafodd ei eni yn Ridgeway yn 1757 a bu farw yn Sir Gaerfyrddin. Cofir Foley am chwarae rhan mewn sawl brwydr lyngesol enwog, ac fe'i dyrchafwyd yn briflyngesydd.

Enillodd ef nifer o wobrau, gan gynnwys Marchog Groes Fawr Urdd y Baddon.

Thomas Picton

Cadfridog Cymreig a laddwyd ym Mrwydr Waterloo oedd Syr Thomas Picton (24 Awst 1758 – 18 Mehefin 1815).

Tywysog Edward Augustus, Dug Caint a Strathearn

Gwleidydd o Loegr oedd Tywysog Edward Augustus, Dug Caint a Strathearn (2 Tachwedd 1767 - 23 Ionawr 1820).

Cafodd ei eni yn Llundain yn 1767 a bu farw yn Sidmouth.

Roedd yn fab i Siôr III, brenin Deyrnas Unedig a Charlotte o Mecklenburg-Strelitz ac yn dad i Victoria, brenhines Deyrnas Unedig.

Yn ystod ei yrfa bu'n aelod o Gyfrin Gyngor Deyrnas Unedig. Enillodd ef nifer o wobrau, gan gynnwys Marchog Groes Fawr Urdd y Baddon.

Tywysog Frederick, Dug Efrog ac Albany

Offeiriad a milwr o Loegr oedd Tywysog Frederick, Dug Efrog ac Albany (16 Awst 1763 - 5 Ionawr 1827).

Cafodd ei eni yn Balas Sant Iago yn 1763 a bu farw yn Llundain.

Roedd yn fab i Siôr III, brenin Deyrnas Unedig a Charlotte o Mecklenburg-Strelitz.

Yn ystod ei yrfa bu'n aelod o Dŷ'r Arglwyddi. Roedd hefyd yn aelod o'r Gymdeithas Frenhinol. Enillodd ef nifer o wobrau, gan gynnwys Marchog Groes Fawr Urdd y Baddon, Urdd Sant Andrew, Urdd Alexander Nevsky a Marchog Uwch Groes Urdd Maria Theresa.

Urdd Gwasanaeth Nodedig

Addurniad milwrol a wobrwyir i swyddog y Lluoedd Arfog Prydeinig am "wasanaethau nodedig yn ystod ymgyrchoedd yn y gad yn erbyn y gelyn" yw'r Urdd Gwasanaeth Nodedig (Saesneg: Distinguished Service Order; DSO).

Cychwynnodd ym 1886 dan y Frenhines Fictoria. Ei nod oedd i greu addurniad i wobrwyo swyddogion ieuaf y Fyddin am wasanaeth nodedig a dewrder. Roedd modd i swyddogion hŷn y Fyddin ennill Urdd y Baddon, a'r Fedal Ymddygiad Nodedig oedd ar gael i'r rhengoedd is, ond nid oedd addurniad perthnasol ar gyfer swyddogion ieuaf ac eithrio Croes Fictoria. Yn hwyrach roedd y DSO hefyd ar gael i swyddogion is y Llynges Frenhinol, y Môr-filwyr Brenhinol a'r Awyrlu Brenhinol. Ers 1993, ni roddir y DSO bellach am ddewrder, ac yn ei lle mae'r Groes Dewrder Nodedig sydd ar gael i bob rheng ym mhob adran o'r lluoedd arfog. Nid oes cyfyngiadau swyddogol wrth wobrwyo'r DSO heddiw, ond gan amlaf fe'i rhoddir i swyddogion hŷn yn unig. Mae hawl gan y rhai sydd wedi derbyn yr urdd i ddodi'r llythrennau DSO ar ddiwedd eu henwau. Mae modd i swyddogion o luoedd tramor i dderbyn yr urdd fel "aelodau anrhydeddus".Croes aur, ag ochrau crymion iddi, a gorchudd enamel gwyn yw medal yr urdd. Coronbleth lawryf, mewn enamel gwyrdd, o gwmpas y Goron Ymerodrol mewn aur, ar gefndir coch, sydd ar wyneb blaen y fedal. Ar y tu chwith i'r fedal mae coronbleth lawryf sy'n amgylchynu'r llythyrbleth VRI. Addurnir y barrau ar naill ochr y rhuban gan ddail llawryf. Lliw rhuddgoch yw'r rhuban, a stribedi glas ar ei ochrau. Ceir bar aur gyda'r Goron arni a roddir fel clesbyn i wobrwyo'r rhai sydd ganddynt DSO yn barod unwaith eto am wasanaeth nodedig.

Victoria, brenhines y Deyrnas Unedig

Victoria (hefyd Fictoria, weithiau Buddug) (24 Mai 1819 – 22 Ionawr 1901) oedd Brenhines Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon ac ymerodres India o 20 Mehefin 1837 hyd ei marwolaeth.

Roedd yn ferch i Edward, Dug Caint a'i wraig, y Dywysoges Viktoria o Saxe-Coburg-Saalfield. Gŵr Victoria oedd y tywysog Albert o Saxe-Coburg-Gotha (m. 1861).

Yn ystod ei theyrnasiad hir, dywedir iddi dreulio chwech diwrnod yn unig yng Nghymru.

William Nott

Milwr o Gymru oedd William Nott (20 Ionawr 1782 - 1845).

Cafodd ei eni yng Nghastell-nedd yn 1782 a bu farw yng Nghaerfyrddin. Daeth Nott i amlygrwydd fel swyddog milwrol yn ystod y rhyfel Afghan cyntaf.

Enillodd ef nifer o wobrau, gan gynnwys Marchog Groes Fawr Urdd y Baddon.

Ieithoedd eraill

This page is based on a Wikipedia article written by authors (here).
Text is available under the CC BY-SA 3.0 license; additional terms may apply.
Images, videos and audio are available under their respective licenses.