Tun

Elfen gemegol yn y tabl cyfnodol yw tun, gyda'r symbol Sn a'r rhif 50. Mae Alcam yn enw arall arno. Mae'n fetel meddal sgleiniog sydd weithiau'n cael ei beintio ar fetalau eraill i atal erydu. Fe'i defnyddir hefyd i wneud efydd.

Tun
Element 1: Hydrogen (H), Anfetelau eraill
Element 2: Helium (He), Nwyon nobl
Element 3: Lithium (Li), Metelau alcalïaidd
Element 4: Beryllium (Be), Metel daear alcalïaidd
Element 5: Boron (B), Meteloidau
Element 6: Carbon (C), Anfetelau eraill
Element 7: Nitrogen (N), Anfetelau eraill
Element 8: Oxygen (O), Anfetelau eraill
Element 9: Fluorine (F), Halogenau
Element 10: Neon (Ne), Nwyon nobl
Element 11: Sodium (Na), Metelau alcalïaidd
Element 12: Magnesium (Mg), Metel daear alcalïaidd
Element 13: Aluminium (Al), Metelau eraill
Element 14: Silicon (Si), Meteloidau
Element 15: Phosphorus (P), Anfetelau eraill
Element 16: Sulfur (S), Anfetelau eraill
Element 17: Chlorine (Cl), Halogenau
Element 18: Argon (Ar), Nwyon nobl
Element 19: Potassium (K), Metelau alcalïaidd
Element 20: Calcium (Ca), Metel daear alcalïaidd
Element 21: Scandium (Sc), Elfennau trosiannol
Element 22: Titanium (Ti), Elfennau trosiannol
Element 23: Vanadium (V), Elfennau trosiannol
Element 24: Chromium (Cr), Elfennau trosiannol
Element 25: Manganese (Mn), Elfennau trosiannol
Element 26: Iron (Fe), Elfennau trosiannol
Element 27: Cobalt (Co), Elfennau trosiannol
Element 28: Nickel (Ni), Elfennau trosiannol
Element 29: Copper (Cu), Elfennau trosiannol
Element 30: Zinc (Zn), Elfennau trosiannol
Element 31: Gallium (Ga), Metelau eraill
Element 32: Germanium (Ge), Meteloidau
Element 33: Arsenic (As), Meteloidau
Element 34: Selenium (Se), Anfetelau eraill
Element 35: Bromine (Br), Halogenau
Element 36: Krypton (Kr), Nwyon nobl
Element 37: Rubidium (Rb), Metelau alcalïaidd
Element 38: Strontium (Sr), Metel daear alcalïaidd
Element 39: Yttrium (Y), Elfennau trosiannol
Element 40: Zirconium (Zr), Elfennau trosiannol
Element 41: Niobium (Nb), Elfennau trosiannol
Element 42: Molybdenum (Mo), Elfennau trosiannol
Element 43: Technetium (Tc), Elfennau trosiannol
Element 44: Ruthenium (Ru), Elfennau trosiannol
Element 45: Rhodium (Rh), Elfennau trosiannol
Element 46: Palladium (Pd), Elfennau trosiannol
Element 47: Silver (Ag), Elfennau trosiannol
Element 48: Cadmium (Cd), Elfennau trosiannol
Element 49: Indium (In), Metelau eraill
Element 50: Tin (Sn), Metelau eraill
Element 51: Antimony (Sb), Meteloidau
Element 52: Tellurium (Te), Meteloidau
Element 53: Iodine (I), Halogenau
Element 54: Xenon (Xe), Nwyon nobl
Element 55: Caesium (Cs), Metelau alcalïaidd
Element 56: Barium (Ba), Metel daear alcalïaidd
Element 57: Lanthanum (La), Lanthanidau
Element 58: Cerium (Ce), Lanthanidau
Element 59: Praseodymium (Pr), Lanthanidau
Element 60: Neodymium (Nd), Lanthanidau
Element 61: Promethium (Pm), Lanthanidau
Element 62: Samarium (Sm), Lanthanidau
Element 63: Europium (Eu), Lanthanidau
Element 64: Gadolinium (Gd), Lanthanidau
Element 65: Terbium (Tb), Lanthanidau
Element 66: Dysprosium (Dy), Lanthanidau
Element 67: Holmium (Ho), Lanthanidau
Element 68: Erbium (Er), Lanthanidau
Element 69: Thulium (Tm), Lanthanidau
Element 70: Ytterbium (Yb), Lanthanidau
Element 71: Lutetium (Lu), Lanthanidau
Element 72: Hafnium (Hf), Elfennau trosiannol
Element 73: Tantalum (Ta), Elfennau trosiannol
Element 74: Tungsten (W), Elfennau trosiannol
Element 75: Rhenium (Re), Elfennau trosiannol
Element 76: Osmium (Os), Elfennau trosiannol
Element 77: Iridium (Ir), Elfennau trosiannol
Element 78: Platinum (Pt), Elfennau trosiannol
Element 79: Gold (Au), Elfennau trosiannol
Element 80: Mercury (Hg), Elfennau trosiannol
Element 81: Thallium (Tl), Metelau eraill
Element 82: Lead (Pb), Metelau eraill
Element 83: Bismuth (Bi), Metelau eraill
Element 84: Polonium (Po), Meteloidau
Element 85: Astatine (At), Halogenau
Element 86: Radon (Rn), Nwyon nobl
Element 87: Francium (Fr), Metelau alcalïaidd
Element 88: Radium (Ra), Metel daear alcalïaidd
Element 89: Actinium (Ac), Actinidau
Element 90: Thorium (Th), Actinidau
Element 91: Protactinium (Pa), Actinidau
Element 92: Uranium (U), Actinidau
Element 93: Neptunium (Np), Actinidau
Element 94: Plutonium (Pu), Actinidau
Element 95: Americium (Am), Actinidau
Element 96: Curium (Cm), Actinidau
Element 97: Berkelium (Bk), Actinidau
Element 98: Californium (Cf), Actinidau
Element 99: Einsteinium (Es), Actinidau
Element 100: Fermium (Fm), Actinidau
Element 101: Mendelevium (Md), Actinidau
Element 102: Nobelium (No), Actinidau
Element 103: Lawrencium (Lr), Actinidau
Element 104: Rutherfordium (Rf), Elfennau trosiannol
Element 105: Dubnium (Db), Elfennau trosiannol
Element 106: Seaborgium (Sg), Elfennau trosiannol
Element 107: Bohrium (Bh), Elfennau trosiannol
Element 108: Hassium (Hs), Elfennau trosiannol
Element 109: Meitnerium (Mt)
Element 110: Darmstadtium (Ds)
Element 111: Roentgenium (Rg)
Element 112: Copernicium (Cn), Elfennau trosiannol
Element 113: Nihonium (Nh)
Element 114: Flerovium (Fl)
Element 115: Moscovium (Mc)
Element 116: Livermorium (Lv)
Element 117: Tennessine (Ts)
Element 118: Oganesson (Og)
Tun
Tun mewn cynhwysydd
Sn-TableImage
Symbol Sn
Rhif 50
Dwysedd (gwyn) 7.265 g/cm³
(llwyd) 5.769 g/cm³
Brymbo

Pentref a chymuned ar gyrion Wrecsam a ward o'r dref honno yng ngogledd-ddwyrain Cymru yw Brymbo( ynganiad ).Bu Melin Dur Brymbo yn gyflogwr pwysig yn yr ardal tan iddo gau yn ddiweddar a chafwyd gweithfeydd haearn a glo yno hefyd.

Ceir eglwys yn y pentref, sef Eglwys Fair (1872), a chapel Y Tabernacl Tun (Methodistiaid Saesneg). Trowyd capel gwreiddiol Y Tabernacl yn floc o fflatiau.

Cynrychiolir yr ardal hon yn y Cynulliad Cenedlaethol gan Ken Skates (Llafur) a'r Aelod Seneddol yw Susan Elan Jones (Llafur).

Bujumbura

Prifddinas Bwrwndi yw Bujumbura. Hi yw dinas fwyaf y wlad, gyda phoblogaeth o tua 300,000 yn 1994. Saif ar lan Llyn Tanganyika.

Ceir diwydiant cynhyrchu brethyn a sebon yma, ac mae'n borthladd pwysig, yn allforio cotwm, coffi a mwynau, yn arbennig tun. Yr enw pan oedd y wlad dan reolaeth yr Almaen ac yn ddiweddarach Gwlad Belg oedd Usumbura.

Cernyw

Un o'r gwledydd Celtaidd yw Cernyw (Cernyweg: Kernow; Saesneg: Cornwall), yn ne-orllewin Prydain. Mae hefyd yn swydd seremonïol y rhanbarth De-orllewin Lloegr, gyda'i dref gweinyddol yn Truro. Mae'n ffinio â Dyfnaint ar y tir ac yn gorwedd rhwng Môr Iwerddon a'r Môr Udd. Ystyrir Ynysoedd Syllan neu Scilly hefyd yn rhan o Gernyw.

Truro yw'r unig ddinas, a hefyd y brifddinas. Mae prif drefi'r wlad yn cynnwys Newquay, Bodmin, St Austell, Camborne, Redruth a Padstow. Mae Cernyw yn enwog am fod yn lle dda i fynd am wyliau am ei fod yn dwymach ar gyfartaledd nac unrhyw le arall yng ngwledydd Prydain, ac am ei fod yn lle arbennig am syrffio.

Mae Cernyw hefyd yn enwog am ei phasteiod cig a'i mwynfeydd alcam, ac am Senedd y Stanorion neu Fwynwyr sy'n dal i fynnu mai ganddi hi mae'r hawl i reoli'r wlad. Piran yw nawddsant Cernyw, a'i faner yn groes wen ar gefndir du. Mae mudiad cenedlaethol gwleidyddol yng Nghernyw, ond nid yw'r pleidiau megis Mebyon Kernow a Phlaid Genedlaethol Cernyw wedi gwneud fawr o farc hyd yma, er iddynt gipio ambell sedd ar gynghorau lleol.

Cynhelir Gorseth Kernow (Gorsedd Cernyw) yn flynyddol i hyrwyddo'r iaith Gernyweg a diwylliant Cernyw.

Cyfrinach Nana Crwca

Mae Cyfrinach Nana Crwca yn llyfr ffuglen gomedi Prydeinig i blant. Ysgrifennwyd y llyfr Saesneg gwreiddiol, Gangsta Granny (2011), gan David Walliams gyda darluniadau gan Tony Ross. Cyfieithwyd y llyfr i'r Gymraeg gan Gruffudd Antur a fe'i gyhoeddwyd gan Atebol yn 2014. Hon yw pedwaredd nofel Walliams a'r gyntaf i Antur drosi i'r Gymraeg.

Elfen Grŵp 14

Grŵp o un-deg-pedwar elfen yn y tabl cyfnodol ydy Grŵp 14, neu'r grŵp carbon. Yn nhrefn safonnol IUPAC mae grŵp 14 yn cynnwys: carbon (C), silicon (Si), germaniwm (Ge), tun (Sn), plwm (Pb) ac ununcwadiwm (Uuq).

Mae IUPAC yn ei alw'n swyddogol yn Grŵp 14. Yr hen enw oedd Grŵp IVB a Grŵp IVA. Arferid galw'r grŵp, cyn hynny, yn "y tetrels" (o'r Groeg tetra, sef pedwar).

Mae carbon, silicon a germaniwm yn fetaloidau ac mae tun a phlwm yn fetalau tlawd. Ni wyddom fawr ddim am ununcwadiwm, fodd bynnag.

Mae patrwm yr electronnau'n rhwng aelodau unigol y teulu yn debyg iawn, yn enwedig ar du allan y gragen, ac oherwydd hyn mae eu hymddygiad cemegol yn debyg i'w gilydd:

Mae gan bob elfen o'r teulu hwn bedward electron yn yr haen allanol, sef yr haen egni. Yr orbital oaf, gan bob un o'r elfennau hyn, ydy'r orbit atomig, p2. Yn y rhan fwyaf o achosion mae'r elfennau'n rhannu eu helectronnau. Mae'r duedd i golli electronnau'n cynyddu wrth i faint yr atom gynyddu, ac wrth i'r rhif atomig godi.

Mae carbon yn ffurfio ionau negatif ar ffurf ionau carbid (C4−). Mae silicon a germaniwm ill dau yn fetaloidau, a phob un yn ffurfio ionau +4.

Mae tun a phlwm yn fetalau ac mae ununcwadiwm yn fetel ymbelydrol, synthetig gydag oes fer. Gall tun a phlwm ffurfio ionau +2.

Ar wahân i germaniwm ac ununcwadiwm mae pob un o'r elfennau hyn yn eitha cyffredin mewn bywyd pob dydd. Mae'n nhw, fodd bynnag, yn brin, ar wahân i garbon a silicon. Mae pob planhigyn ac anifail wedi'i wneud allan o garbon, ac mae tywod y traeth yn llawn silica.

Mae tun a phlwm yn gymharol brin, ond yn elfennau amlwg mewn bywyd pob dydd gan eu bônt yn hynod ddefnyddiol. Mae germaniwm, fodd bynnag yn hynod brin.

Garnant

Pentref yn ne-ddwyrain Sir Gaerfyrddin yw Garnant, tua 5 milltir i'r dwyrain o Rydaman ar yr A474. Yn ystod blynyddoedd cynnar yr 20g roedd Garnant yn lle diwydiannol gyda gwaith tun a nifer o byllau glo. Mae'n gorffwys ar ochr y Mynydd Du, ac yn y rhan fwyaf gorllewinol o Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Mae ganddo gwrs golff cyhoeddus ac ysgol gymunedol newydd.

Gof

Gweithiwr neu grefftwr metel, yn enwedig haearn a dur, yw gof. Rhoddir enwau manwl ar ofaint sy'n trin metelau eraill, megis gof aur, gof arian, gof gwyn (tun), a gof copr, neu sy'n gweithio gyda dyfeisiau metel megis gof cleddyfau, gof gynnau, gof cloeon, a gof angorau.

Byddai gofaint ers yr henfyd yn toddi metel o'r mwyn mewn ffwrnais, fel ei fod yn hydrin ac yn haws ei weithio. Câi'r metel ei ofannu, hynny yw ei ddal yn erbyn eingion gyda gefeiliau a'i daro a'i siapio gyda morthwyl, cŷn, ac offer eraill.

Byddai cenhedloedd gynt yn rhwystro i'r bobl a ddarostyngid ganddynt ddysgu ac arfer crefft y gof, fel na byddai ganddynt arfau i wrthryfela â hwynt. Yn ôl y Beibl, fe wnaed hyn mor fanwl â'r Israeliaid gan y Philistiaid fel "doedd dim gof i'w gael yn holl wlad Israel" (1 Samuel 10:19). Cyfrifid y gof, yn y Cyfreithiau Cymreig, yn un o dri phroffeswyr y celfyddydau breiniol. O'r Oes Haearn hyd y Chwyldro Diwydiannol, gwnaed y mwyafrif o wrthrychau haearn gyr yn y byd wrth law yng ngweithdy'r gof.

Hanes Cernyw

Mae hanes Cernyw yn dechrau gyda chysylltiadau rhwng Cernyw a marsiandïwyr o wledydd o gwmpas Môr y Canoldir oedd yn cael eu denu yma gan y mwynfeydd tun. Roedd tun yn cael ei gynhyrchu yng Nghernyw o Oes yr Efydd; roedd y metel yn arbennig o bwysig gan ei fod yn cael ei gymysgu a chopr i gynhyrchu efydd. Daw'r cofnod hanesyddol cyntaf am Gernyw gan yr hanesydd Groegaidd Diodorus Siculus (c.90 CC–c.30 CC);

Gelwid Cernyw yn Cornubia gan y Rhufeiniaid, ond nid oes llawer o olion Rhufeinig wedi eu darganfod yma. Erbyn y cyfnod yma roedd tun i'w gael yn haws o Benrhyn Iberia, felly roedd pwysigrwydd economaidd yr ardal yn llai. Wedi i'r Rhufeiniaid adael ymddengys fod Cernyw yn rhan o deyrnas Frythonig Dumnonia neu Dyfnaint. Ymddangosodd teyrnas Cernyw tua'r 6g. Hon oedd Oes y Saint, a daeth nifer o seintiau Cernyw i amlygrwydd, yn enwedig Sant Piran.

Erbyn yr 8g roedd Dyfnaint wedi ei goresgyn gan yr Eingl-Sacsoniaid. Enillodd y Brythoniaid frwydr yn "Hehil" yn 721, ond yn 838 gorchfygwyd cynghrarir o Frythoniaid a Daniaid gan Egbert, brenin Wessex. Cofnodwyd yn yr Annales Cambriae am 875 fod Dungarth, brenin Cerniu ("id est Cornubiae") wedi boddi. Yn 936, nodir i Athelstan osod Afon Tamar fel ffin orllewinol Wessex.

Erbyn 1066 ystyrid Cernyw yn rhan o Deyrnas Lloegr, ond roedd ganddi rywfaint o annibyniaeth yn parhau fel is-deyrnas. Diorseddwyd brenin olaf Cernyw, Cadog, gan y Normaniaid. Datblygodd llenyddiaeth boblogaidd Gernyweg yn y 14g. Cyn cyfnod y Tuduriaid byddid yn aml yn nodi bod cyfreithiau'n weithredol in Anglia et Cornubia; ond o gyfnod y Tuduriaid ymlaen cymerwyd fod "Anglia" yn cynnwys Cernyw.

Bu gwrthryfel yn 1497, gan ddechrau ymhlith y mwynwyr tun, oedd yn gwrthwynebu cynnydd yn y trethi. Gorymdeithiodd y gwrthryfelwyr tua Llundain, ond gorchfygwyd hwy ym mrwydr Pont Deptford. Bu gwrthryfel arall yn erbyn y Llyfr Gweddi Protestannaidd yn 1549. Heblaw fod mwyafrif y Cernywiaid yn Gatholigion ar y pryd, roedd y Llyfr Gweddi Gyffredin newydd yn Saesneg, iaith nad oedd mwyafrif y Cernywiaid yn ei deall. Dywedir i ugain y cant o boblogaeth Cernyw gael ei lladd yn y gwrthryfel yma, un o'r ffactorau a arweiniodd at ddirywiad yn sefyllfa'r iaith. Bu farw Dolly Pentreath, siaradwr olaf y Gernyweg yn ôl y chwedl yn 1777, ond mae tystiolaeth i siaradwyr eraill fyw tan ddechrau'r 19g.

Yn 1755 tarawyd arfordir Cernyw gan tsunami a achoswyd gan ddaeargryn mawr Lisbon. Parhaodd mwynfeydd tun Cernyw yn bwysif yn y 18g, ond erbyn ail hanner y 19g roedd y tun yn dechrau darfod, ac ymfudodd llawer o Gernywiaid. Tua diwedd y 18g tyfodd Methodistiaeth yn gyflym yng Nghernyw yn dilyn ymweliadau gan John a Charles Wesley.

Ffurfiwyd plaid genedlaethol Mebyon Kernow yn 1951 i geisio ennill hunanlywodraeth. Nid yw'r blaid wedi llwyddo i ennill sedd yn Nhy'r Cyffredin hyd yma.

Hanes economaidd Cymru

Rhai cerrig milltir y hanes economi Cymru.

Gweler hefyd: economi Cymru

Cyn Oes y Rhufeiniaid yng Nghymru roedd llawer o fwyngloddio gan gynnwys copr, aur a haearn

Roedd arian yn cael eu bathu led led y gwledydd Celtaidd am o leaif mil o flynyddoedd.

1300au Melinau gwlân Dyffryn Ceiriog yn peri i ogledd-ddwyrain Cymru fod y rhanbarth mwyaf datblygedig yng Nghymru o ran economi - am ganrif o leiaf.

1570 Ffowndri "bras and wire" yn cael ei sefydlu yn Tintern

1580au Datblygwyd diwydiant efydd de Cymru gan Almaenwyr a phobl o'r Iseldiroedd.

1666 Gwnaed mewnforio gwartheg o Iwerddon yn anghyfreithlon, er mwyn ysgogi'r diwydiant porthmona.

1704 Sefydlwyd ffwrnais i doddi plwm ac arian (elfen) yn Gadlys, Bagillt, gogledd-ddwyrain Cymru.

1717 Datblygiad pwysig yn y broses o weithio tun.

1750 Erbyn hyn roedd 50% o gopr gwledydd Prydain yn dod o ardal Abertawe.

1757 Gwaith haearn cyntaf y Cymoedd.

1831 Trethi llechi'n cael ei ddiddymu gan y llywodraeth; hyn yn cael effaith gadarnhaol ar economi Cymru.

1834 Diddymu treth ar y glo.

1855 Y tren cyntaf yn cyrraedd o'r Rhondda i Ddociau Caerdydd.

1859 Mwyngloddio efydd ar ei anterth.

1861 Dull newydd o greu dur drwy "open hearth" yn cael ei ffurfio gan William Seamens.

1862 Mwyngloddio plwm yn ei anterth.

1869 Mwyngloddio arian yn ei anterth.

1883 Y diwydiant zinc yn ei anterth.

1885 Gwaith dur Brymbo yn agor.

1896 Streic Mawr y Penrhyn.

1898 Y diwydiant llechi yn ei anterth.

1902 Y gwaith trin nicel mwya'n y byd yn agor yng Nghlydach gan Ludwig Mond.

1904 Y diwydiant aur ar ei anterth.

1908 Ffatri Almaenig i greu silc artiffisial yn agor yn Greenfield, Sir Fflint.

1913 Y diwydiant glo yn ei anterth.

1921 Purfa olew Llandarcy yn agor. Fe'i dewisiwyd y lleoliad hwn oherwydd ei agosatrwydd at Borthladd Abertawe.

1932 Mwy nag erioed o bobl yn ddi-waith yng Nghymru.

1933 Cynllun Marchnata Llaeth yn cael ei lansio; hyn yn gwarantu pris teg i'r ffermwr.

1936 Y stad ddiwydiannol cyntaf yn agor: yn Nhrefforest.

1938 Gwaith dur Glyn Ebwy yn agor; y cyntaf o'i bath i gynnig cynhyrchu "un llinell".

1939 Ffatri awyrennau'n agor ym Mrychdyn, Sir Fflint. Cwmni De Havilland.

1948 Ffatri Hoover yn agor ym Merthyr Tydfil.

1955 Undeb Ffermwyr Cymru'n cael ei sefydlu.

1960 Purfa olew cyntaf Aberdaugleddau'n agor gan gwmni Esso.

1962 Agor drysau Gwaith Dur Llanwern.

1964 Y glo olaf yn cael ei allforio o Fae Caerdydd.

1967 Dros 20,000 o dai'n cael eu codi: record.

1968 Atomfa Trawsfynydd yn dechrau gweithio.

1971 Gwaith Rio Tino Zinc yn cael ei ddatblygu ymhellach.

1972 Atomfa Wylfa yn dechrau ar ei waith o greu trydan.

1973 Japan yn buddsoddi am y tro cyntaf mewn gwaith gwneud teledai Sony, ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

1973 TUC Cymru'n cael ei sefydlu.

1980 Gwaith dur Shotton yn cau.

Kuala Lumpur

Prifddinas Maleisia yw Kuala Lumpur, a dalfyrrir yn aml i KL yn lleol. Saif gerllaw cymer afonydd Gombak a Kelang, ac mae'r enw mewn Maleieg yn golygu "cymer mwdlyd". Mae'r boblogaeth bron yn ddwy filiwn.

Dechreuodd Kuala Lumpur dyfu tua 1860, oherwydd presenoldeb tun yn yr ardal, a daeth yn brifddinas erbyn 1896. Adeilad enwocaf y ddinas yw'r Petronas Twin Towers, tŵr dwbl 452 medr o uchder. Am gyfnod, y rhain oedd adeilad uchaf y byd, hyd nes i dŵr Burj Dubai gael ei adeiladu.

Mae Kuala Lumpur yn ddinas amlddiwylliannol, gyda dylanwadau Sineaidd ac Indiaidd cryf.

Llanelli

Pwnc yr erthygl hon yw tref Llanelli. Am ddefnydd arall o'r enw Llanelli gweler y dudalen gwahaniaethu ar Lanelli.Llanelli yw tref fwyaf Sir Gaerfyrddin a de orllewin Cymru, wedi'i lleoli ar aber Afon Lliedi rhyw ddeuddeng milltir i'r gorllewin o Abertawe ac rhyw ugain milltir i'r de o Gaerfyrddin. Mae Caerdydd 72.1 km i ffwrdd o Llanelli ac mae Llundain yn 281.6 km. Y ddinas agosaf ydy Abertawe sy'n 15.2 km i ffwrdd.

Tyfodd y dref yn y 19g o amgylch y pyllau glo a'r gweithfeydd tun. Mae’r dref yn enwog am ei thraddodiad rygbi balch.

Mae Llanelli hefyd wedi’i hamgylchynu gan nifer o drefi a phentrefi bach a adwaenir fel Llanelli Wledig. Mae’r rhan fwyaf o'r rhain yn cael eu hystyried yn rhan o dref Llanelli.

Llanelli (etholaeth seneddol)

Pwnc yr erthygl hon yw etholaeth seneddol Llanelli. Am ddefnydd arall o'r enw Llanelli gwelir y dudalen gwahaniaethu ar Lanelli.Mae etholaeth Llanelli yn etholaeth seneddol sy'n cael ei chynrychioli yn Senedd San Steffan gan un Aelod Seneddol. Yr Aelod Seneddol presennol yw Nia Griffith (Llafur).

Ymestynna'r etholaeth o Dŷ-croes i lawr y Gwendraeth drwy Cross Hands, Y Tymbl, Pontyberem, Pont-iets, Trimsaran ac i Gydweli, ac o Gydweli gyda'r arfordir i'r Bynea ac i'r Hendy.

Mae Llafur wedi rheoli'r etholaeth seneddol hon ers 1922. Enillwyd y sedd i Lafur yn wreiddiol gan Dr John Henry Williams a wasanaethodd fel Aelod Seneddol am 14 mlynedd. Fe'i olynwyd gan James Griffiths (Jim Griffiths), a bu'n Aelod Seneddol am 34 mlynedd. Yna, daeth Denzil Davies i gynrychioli'r etholaeth dros Lafur, a daliodd y swydd am 35 mlynedd. Ymddeolodd Denzil Davies cyn etholiad cyffredinol 2005.

Yn hanesyddol mae Llanelli wedi bod yn etholaeth ddiwydiannol, ond gyda difodiad y gweithfeydd glo a'r gwaith tun mae pwyslais erbyn hyn ar dwristiaeth.

Yn hanesyddol dyma'r etholaeth ddiwydiannol sydd a'r mwyaf o Gymry Cymraeg ynddi. 52% yn 1981.

Offeryn cerdd

Offerynnau cerdd yw pethau sy'n cael eu defnyddio i wneud cerddoriaeth.

Efallai mai'r ffurf gyntaf o gerddoriaeth oedd canu - defnyddio'r llais dynol ac mae defnyddioi'r corff - curo dwylo neu guro'r traed ar lawr i wneud rhythm yn hynafol iawn. Y datblygiad nesa fysai defnyddio pethau y darganfuwyd megis cyrn anifeiliaid neu foncyffion gwag. Dros amser, datblygwyd nifer helaeth o offerynnau gwahanol.

Mae sŵn yn dod o awyr sy'n dirgrynu, ac mae offerynnau yn gweithio trwy reoli a helaethu'r dirgryniadau i wneud effaith ddymunol a phleserus.

Piwter

Aloi sy'n cynnwys tua 80–90% tun a 10–20% plwm yw piwter, piwtar a ffurfiau eraill neu'n hynafaidd peutur neu ffeutur. Weithiau mae'n cynnwys symiau bychain o fetelau eraill megis copr ac antimoni. Fe'i ddefnyddid i wneud offer tŷ a llestri ers oes y Rhufeiniaid.

Sant Piran

Nawddsant Cernyw (Kernow) ar y cyd â Petroc yw Sant Piran. Mae'n nawddsant y mwyngoddwyr alcam. Dethlir ei ŵyl mabsant ar 5 Mawrth. Abad oedd Piran, o'r chweched ganrif, o dras Gwyddelig (fel Ciarán - y 'P' Gymraeg yn troi yn 'C' Gwyddeleg).

Mae baner Piran yn groes wen ar gefndir du, gyda'r gwyn yn cynrychioli alcam/tun.

Mae llawysgrif o'r drydedd ganrif ar ddeg yn rhoi i ni 'fuchedd Piran', a ysgrifenwyd yng nghadeirlan Caerwysg. Ond mae hanes am ei fedd yn Saighir (Sir Offally, Iwerddon). Mae G. H. Doble yn credu ei fod yn Gymro oherwydd y capel a fu iddo yng Nghaerdydd.

Yn ôl yr hanes cafodd ei daflu i'r môr gan baganiaid yn Iwerddon ond daeth i'r lan yn Perranzabuloe, Cernyw. A hyn er gwaethaf y maen felin o gympas ei wddf! Y fo fu'n gyfrifol am adfer y grefft o smeltio tun yng Nghernyw am fod cerrig du ar ei aelwyd wedi ymboethi cymaint i ryddhau'r tun gwyn - fel yn ei faner.

Dosbarthwyd ei weddillion rhwng Caerwysg a Pherranzabuloe ond dim ond y blwch creiriau sy wedi oroesi ffyrnigrwydd y diwygwyr Protestaniaid.

Dethlir Gŵyl Piran drwy Gernyw a'r diaspora Cernywaidd. Mae miloedd yn tyrio at groes Piran ymhysg y tywynni ac adferwyd y perfformiad o'i ddrama firagl yn ddiweddar (yn y Gernyweg). Benthycwyd y cennin Pedr fel arwydd yn ddiweddar hefyd.

Silindr

Mae silindr (enw gwrywaidd) yn siâp geometrig solid eitha cyffredin. Fe'i ceir o'n cwmpas o ddydd i ddydd e.e. tun ffa pob, bwrn mawr o wair neu'r rhan hir o'r gwn. Daw o'r gair Groeg am 'rholiwr', sef κύλινδρος – kulindros.Arferid dweud fod silindr yn hollol solid, ee y tun ffa-pob heb ei agor (gyda chaead a gwaelod) ond mae'r diffiniad mathemategol wedi newid i edrych ar y silindr fel arwyneb cromlinog anfeidraidd. Yn yr erthygl hon disgrifir y ddau ystyr i silindr: y solid a'r arwyneb, ac at dryddydd, sef y silindr crwn gydag ongl sgwâr.

Uchder y silindr yw hyd y perpendicwlar sydd rhwng ei sylfaeni (y top a'r gwaelod).

Simferopol

Prifddinas Gweriniaeth Ymreolaethol Crimea yn Nosbarth Ffederal Crimea, Wcrain, Rwsia, yw Simferopol (Rwseg Симферополь; Tartareg Crimea: Aqmescit sef "Y Mosg Gwyn"; Wcreineg, Сімферополь). Saif y ddinas tua 350m (1,148 troedfedd) i fyny ar lannau Afon Salhir. Mae'n ganolfan diwydiant, masnach, a chludiant mewn ardal amaethyddol ffrwythlon. Mae'r cynnyrch yn cynnwys ffrwythau tun, blawd, offer peirianneg, ac offer trydan. Mae ganddi boblogaeth o tua 358,000.

Truro

Prifddinas a chanolfan weinyddol Cernyw, De-orllewin Lloegr, yw Truro (Cernyweg: Truru neu Tryverow). Truro yw'r ddinas fwyaf deheuol yn y Deyrnas Unedig, wedi ei lleoli fymryn yn llai na 232 filltir i'r de-orllewin o Lundain (Charing Cross). Mae gan y ddinas boblogaeth o 20,920 o bobl.

Mae'r ddinas yn enwog am ei heglwys gadeiriol, y dechreuwyd ei hadeiladu ym 1879, ac a gwblhawyd ym 1910. Hefyd, mae hi'n lleoliad i Amgueddfa Frenhinol Cernyw (Royal Cornwall Museum), Llysoedd Cyfiawnder Cernyw a neuadd sir newydd Cyngor Sir Cernyw. Yn y ddinas mae canolfan galwadau band eang Grŵp BT.

Walton, Powys

Am lleoedd eraill o'r un enw gweler Walton.Pentref yng nghymuned Pencraig ym Mhowys yw Walton. Nid ymddengys fod enw Cymraeg iddo; daw'r enw o'r Eingl-Sacsoneg Wealas-tun; "tref y Brythoniaid" neu "tref y Cymry". Saif rhwng Maesyfed a Llanandras, ar y briffordd A44 ac ychydig i'r gorllewin o'r ffîn a Lloegr.

Ieithoedd eraill

This page is based on a Wikipedia article written by authors (here).
Text is available under the CC BY-SA 3.0 license; additional terms may apply.
Images, videos and audio are available under their respective licenses.