Tiwnisia

Gwlad Arabaidd yng Ngogledd Affrica, sy'n gorwedd rhwng Algeria yn y gorllewin a Libia yn y dwyrain, ac yn wynebu Sisili a de'r Eidal a Môr y Canoldir yn y gogledd yw Gweriniaeth Tiwnisia.[1] Ei phrifddinas yw Tiwnis.

Tunisia sm03
Map o Diwnisia

Daearyddiaeth

Lleolir Tiwnisia ar ran fwyaf gogleddol cyfandir Affrica, ar ganol arfordir y gogledd. Ynys Sicilia yw'r tir Ewropeaidd agosaf, 80 km i'r gogledd-ddwyrain dros Gulfor Sicilia. Ar y tir Algeria a Libia yw ei chymdogion. Mae ganddi arfordir 1400 km hir ac amrywiol ar y Môr Canoldir.

Bizerte port
Porthladd Bizerte

Gydag arwynebedd tir o ddim ond 164,000 km², Tiwnisia yw'r wlad leiaf yng Ngogledd Affrica. Mae'n mesur 750 km o'r anialwch yn y de i'r Cap Blanc, pwynt mwyaf gogleddol cyfandir Affrica, yn y gogledd, ond dim ond 150 km ar ei lletaf o'r dwyrain i'r gorllewin. Yn dopograffyddol mae'r wlad yn ymrannu'n ddwy ardal; y gogledd mynyddig a'r de lled-wastad.

Y prif gadwyn mynydd yw'r Dorsal, sy'n estyniad dwyreiniol i gadwyn hir Mynyddoedd yr Atlas sy'n cychwyn ym Moroco yn Atlas Uchel. Mae'n rhedeg ar gwrs gogledd-ddwyreiniol o Tébessa ar y ffin ag Algeria hyd Zaghouan i'r de o Diwnis. Mae'n cynnwys y pwynt uchaf yn y wlad, Jebel Chambi (1544m), i'r gorllewin o Kasserine. Mae'r Dorsal yn gorffen mewn cyfres o fryniau isel yng ngorynys Cap Bon.

Gorwedd y rhan fwyaf o dir amaethyddol da y wlad i'r gogledd o'r llinell hon. Yn hanesyddol hon oedd grawnfa y Rhufain hynafol. Mae'n cynnwys gwastadeddau uchel y Dorsal ei hun, sef y Tell, a dyffryn ffwrythlon afon Medjerda. Afon Medjerda yw'r unig afon barhaol yn y wlad. I'r gogledd o ddyfryn Medjerda ceir mynyddoedd coediog y Kroumirie, sy'n ymestyn ar hyd arfordir y gogledd o'r ffin ag Algeria, ger Tabarka, i gyfeiriad Bizerte, ger Tiwnis, lle mae'n rhedeg allan mewn gwastadedd arfordirol isel.

Sfax oliviers
Olewydd ger Sfax

I'r de o'r Dorsal ceir ardal eang o wastadedd di-goed, rhwng 200m-400m uwch lefel y môr. Dyma'r Sahel, sy'n enwog am ei holewydd a'i dêts. Ymhellach i'r de mae'r tir yn troi'n fwyfwy sych a cheir sawl chott (llyn halen) yma ac acw. Serch hynny mae'r tir ar hyd yr arfordir yn ffrwythlon lle ceir dŵr ac yn cynnal rhai trefi mawr megis Sousse a Sfax.

I lawr yn y de ei hun mae'r rhan fwyaf o'r wlad yn orchuddiedig gan y rhan ddwyreiniol yr Erg Mawr Dwyreiniol, sy'n llenwi rhan fawr o dde-ddwyrain Algeria yn ogystal ac yn rhan o aniladiroedd y Sahara. Yr unig dir ffrwythlon yw'r gwerddonau a'r stribed o dir ar yr arfordir.

Gweler hefyd:Rhestr dinasoedd a threfi yn Nhiwnisia

Hinsawdd

Mae gan ogledd Tiwnisia hinsawdd sy'n nodweddiadol o'r Môr Canoldir, gyda hafau hir, sych a phoeth a gaeafau cymhedrol a gwlyb. Mae mynyddoedd y Dorsal a Kroumirie yn cael eira weithiau. Wrth fynd i'r de mae'r hinsawdd yn troi'n boethach a sychach gyda phrin modfedd o law yn disgyn mewn blwyddyn yn yr Erg Mawr.

Hanes

Mae gan Tiwnisia hanes hir a chyfoethog. Berberiaid oedd y trigolion brodorol. Glaniodd y Ffeniciaid yn yr 8g CC a sefydlu dinas Carthago (Carthag) a dyfodd i fod yn un o ddinasoedd grymusaf yr Henfyd gyda thir a dinasoedd yn ei meddiant ar hyd arfordir y Maghreb (Moroco ac Algeria heddiw), yn Sisili, Sardinia a'r Ynysoedd Balearig a dwyrain Sbaen. Yn Nhiwnisia ei hun roedd 'na ddinasoedd pwysig yn Utica, Kerkouane, Hadrametum (Sousse heddiw) a lleoedd eraill.

Yn yr olaf o'r tri Rhyfel Pwnig syrthiodd Carthago a'i chwaer-ddinasoedd yn Nhiwnisia i ddwylo'r Rhufeiniaid. Daeth y rhan fwyaf o Diwnisia yn dalaith Rufeinig a elwid Affrica am mai Ifriquiya oedd yr enw brodorol am ogledd Tiwnisia gan y Berberiaid. Blodeuodd Carthago eto fel dinas Rufeinig a chodwyd nifer o ddinasoedd a threfi eraill sy'n cynnwys rhai o'r safleoedd archaeolegol Rhufeinig gorau yn y byd heddiw, e.e. Dougga, Bulla Regia, El Djem a Sbeitla.

Iaith a Diwylliant

Tunis theatre
Y Theatr Ddinesig, Tiwnis

Mae Tiwnisia yn wlad ddwyieithog gyda dwy iaith swyddogol, sef Arabeg a Ffrangeg. Arabeg yw mamiaith pawb bron ond mae Ffrangeg yn cael ei siarad yn dda gan bobl sydd wedi derbyn addysg. Defnyddir Ffrangeg i gyd ag Arabeg mewn sefydliadau addysg uwch. Ceir rhaglenni Ffrangeg ar y teledu ac mae radio yn yr iaith yn gwasanaethu'r wlad o Diwnis. Cyhoeddir sawl papur newydd a chylchgrawn Ffrangeg yn ogystal. Mae gan Tiwnisia lenyddiaeth fywiog yn yr iaith Ffrangeg hefyd. Mewn rhannau o'r de a'r dwyrain ceir ychydig o siaradwr iaith Berber.

Mae hanes llenyddiaeth Tiwnisia yn gyfoethog. Llenyddiaeth Ffrangeg yw'r diweddaraf i ymuno â'i ffrwd. Cyn hynny roedd gan y wlad lenorion yn yr iaith Ffeniceg a'r iaith Ladin. Cynhyrchodd y wlad llenorion enwog fel Terens, Apuleius a Sant Awstin yn ystod y cyfnod clasurol. Arabeg yw iaith bwysicaf hanes llenyddiaeth Tiwnisia, wrth gwrs, ac yn cynnwys yn ei datblygiad ffigurau fel yr hanesydd enwog Ibn Khaldun. Y llenor diweddar mwyaf dylanwadol oedd Chebbi.

O ran crefydd, mae 99% o'r boblogaeth yn Fwslemiaid ond ceir rhai Cristnogion hefyd, yn arbennig yn nhrefi'r gogledd. Ar un adeg bu gan y wlad boblogaeth bur sylweddol o Iddewon, yn arbennig yn y brifddinas ac yn Djerba, ond ymudodd y mwyafrif ohonynt yn sgîl sefydlu Israel.

Economi

Mae Tiwnisia yn wlad gymharol ddatblygedig sy'n un o sefydlwyr Undeb y Maghreb Arabaidd.

Gweler hefyd

Cyfeiriadau

  1. Geiriadur yr Academi, [Tiwnisia].

Dolenni Allanol

Llywodraeth Tiwnisia a Newyddion am y wlad

Arolygon

Twristiaeth ac amryw

.tn

Côd ISO swyddogol Tiwnisia yw .tn (talfyriad o T u n isie). Yn ogystal, .tn yw ôl-ddodiad rhyngrwyd y wlad a ddefnyddir gan ei gwefannau. Mae'n sefyll am Tunisie, enw swyddogol y wlad ddwyiethog yn yr iaith Ffrangeg.

Affrica (talaith Rufeinig)

Talaith Rufeinig sy'n cyfateb yn fras i diriogaeth Tiwnisia heddiw oedd Affrica (Lladin: Africa). Hyd heddiw mae pobl Tiwnisia yn cyfeirio at ei wlad fel Ifriquiyah (Affrica), ac fe ymddengys fod yr enw Lladin, sydd erbyn heddiw, fel y gwyddys, yn enw ar y cyfandir cyfan, yn dod o'r enw brodorol hwnnw.

Carthago oedd prifddinas y dalaith. Mae safleoedd nodiadwy eraill o gyfnod y Rhufeiniaid yn cynnwys Dougga, Bulla Regia, El Djem a Sufetula.

Algeria

Gwlad yng ngogledd Affrica yw Gweriniaeth Ddemocrataidd Pobl Algeria neu Algeria. Mae hi ar arfordir y Môr Canoldir a'r gwledydd cyfagos yw Tiwnisia i'r gogledd-ddwyrain, Libia i'r dwyrain, Niger i'r de-ddwyrain, Mali a Mawritania i'r de-orllewin a Moroco i'r gorllewin. Mae rhan helaeth o'r wlad yn gorwedd yn anialwch y Sahara. Mae bron y cyfan o'i phoblogaeth yn y gogledd eithaf, ar hyd yr arfordir ac ym mryniau'r Anti-Atlas, rhan o gadwyn Mynyddoedd yr Atlas. Alger yw'r brifddinas.

Arabeg

Iaith Semitaidd yw'r Arabeg/ˈærəbɪk

/ (العَرَبِيةُ a gafodd ei hystyried fel yr Arabeg Glasurol yn y 6g. Ysgrifennir ieithoedd Semitaidd (heblaw Malteg) o'r dde i'r chwith. Arabeg yw iaith y Coran, llyfr sanctaidd y Mwslimiaid. Caiff ei siarad ar draws Gogledd Affrica a'r Dwyrain Canol hyd at Irac ac ynysoedd y Maldif a hi yw chweched iaith y byd yn nhermau nifer ei siaradwyr os ystyriwn hi fel un iaith yn hytrach na chasgliad o dafodieithoedd.Hewddiw, yr unig ffurf safonol o Arabeg yw 'Arabeg Modern Safonol a elwir weithiau'n 'Arabeg Lenyddol'.Mae'r geiriau Cymraeg alcali, alcemeg, alcof, alcohol, algebra, candi, lemon, sebon a soffa yn dod o'r Arabeg.

Baner Tiwnisia

Baner o liw goch gyda chilgant a seren goch ar gefndir o gylch gwyn yn ei chanol yw cynllun baner Tiwnisia (Arabeg: علم تونس).

Nid yw wedi newid llawer ers iddi gael ei mabwysiadu am y tro cyntaf yn 1831 gan y bey Tiwnisiaidd Hassine I. Mae'r cilgant a'r seren yn symbolau Islamaidd tradodiadol sy'n adlewyrchu'r ffaith fod Tiwnisia yn wlad Foslemaidd ers y 7g; maent yn arwyddo ffawd dda hefyd. Cyflwynwyd y faner yn y cyfnod o reolaeth gan Ymerodraeth yr Otomaniaid ar y wlad, ac mae ei chynllun yn bur debyg i gynllun baner Twrci. Ar ôl i Diwnisia ennill ei hannibyniaeth oddi ar Ffrainc yn 1956, mabwysiadwyd y faner Otomanaidd o newydd gyda dim ond y mymryn lleiaf o newidiadau. Heddiw fe'i gwelir yn hedfan ymhobman fel arwyddlun amlwg o'r wlad.

CEST

Parth amser a ddefnyddir yng nghanolbarth Ewrop a rhannau o'r Môr Canoldir yw CEST (talfyriad o Central European Summer Time, 'Amser Haf Canolbarth Ewrop'). Mae CEST 2 awr ar flaen UTC. Yn y gaeaf mae'r gwledydd yn y parth CEST yn defnyddio CET (UTC +1).

CET

Parth amser a ddefnyddir yng nghanolbarth Ewrop a rhannau o'r Môr Canoldir yw CET (talfyriad o Central European Time, 'Amser Canolbarth Ewrop'). Mae CET 1 awr ar flaen UTC. Yn yr haf mae'r gwledydd yn y parth CET yn defnyddio CEST (UTC +2).

Carthago

Dinas-wladwriaeth yng Ngogledd Affrica, yn Nhiwnisia fodern, ydy Carthago (o'r Lladin, o'r Ffeniceg Qart-Hadašh, y "Ddinas Newydd" yn wreiddiol, a ysgrifennir heb y llafariaid yn y Ffeniceg fel , Groeg: Καρχηδών (Carchedón), Arabeg: قرطاج neu قرطاجة‎, Ffrangeg: Carthage). Saif gerllaw Gwlff Tiwnis. Yn y cyfnod clasurol roedd yn un o'r pŵerau mawr, a bu'n ymladd yn erbyn y Groegiaid ac wedyn yn erbyn y Rhufeiniaid.

Yn ôl traddodiad glaniodd y frenhines Elissa (Dido yn Eneid Fferyllt) a'i llynges o ffoaduriaid o Tyrus yma tua 700 CC a sefydlu'r ddinas. Credir mai marsiandiwyr o ddinas Tyrus fu'n gyfrifol am sefydlu Carthago mewn gwirionedd, ac ystyrid Tyrus fel y fam-ddinas.

Rheolid y ddinas gan oligarchiaeth, nid annhebyg i lywodraeth Rhufain ar y pryd, ond nid oes llawer o fanylion ar gael. Gelwid yr arweinwyr yn sufete (yn llythrennol, "barnwyr"); roedd un neu ddau sufete yn cael eu hethol yn flynyddol o blith y teuluoedd mwyaf aristocrataidd. Tyfodd y ddinas fel ymerodraeth fasnachol yn y lle cyntaf, gyda perthynas gref a dinas Tartessos a dinasoedd eraill yn Sbaen.

Yn ôl y Groegwyr a'r Rhufeiniaid, roedd crefydd Carthago yn nodedig am ei bod yn galw am aberthu plant bychain. Crybwyllir hyn gan Plutarch, Tertulian a Diodorus Siculus, er nad yw haneswyr eraill megis Livy a Polibius yn ei grybwyll. Mae cloddio archaeolegol diweddar wedi darganfod gweddillion llosgedig tua 20,000 o blant wedi eu claddu rhwng 400 CC a 200 CC yn y fynwent blant a elwir y Toffet. Cred rhai mai gweddillion plant oedd wedi marw'n naturiol ydynt, ac mae'r ddadl yn parhau. Prif dduwiau a duwiesau'r ddinas oedd Melqart, Ashtart (Astarte), Tanit a Baal Hammon.

Ffrangeg

Mae'r Ffrangeg (français, IPA [fʁɑ̃sɛ]) yn iaith Romáwns sy'n cael ei siarad yn frodorol yn Ffrainc, Walonia a Rhanbarth Brwsel-Prifddinas yng Wlad Belg, y Swistir, Monaco, broydd Québec ac Acadia yng Nghanada, yn ogystal â chymunedau eraill, fel y Caribî. Yn wir, siaredir Ffrangeg mewn 53 o wledydd yn y byd.

Ceir y rhan fwyaf o'r gwledydd lle siaredir Ffrangeg fel ail iaith yng Ngogledd a Gorllewin Affrica.

Mae llenyddiaeth Ffrangeg yn un o lenyddiaethau mwyaf y byd.

Hannibal

Am enghreifftiau eraill o'r enw Hannibal, gweler Hannibal (gwahaniaethu).

Roedd Hannibal, mab Hamilcar Barca, (247 CC – c. 183 CC), yn gadfridog a gwladweinydd Carthaginaidd .

Bu Hamilcar Barca, tad Hannibal, yn ymladd yn Sbaen, lle enillodd lawer o diriogaethau newydd i Carthago. Pan laddwyd ef mewn brwydr, daeth brawd-yng-nghyfraith Hannibal, Hasdrubal Hardd, yn arweinydd y fyddin Garthaginaidd yn Sbaen. Pan laddwyd ef yn (221 CC), cyhoeddodd y fyddin Hannibal yn arweinydd, a chadarnhawyd hyn gan lywodraeth Carthago. Daeth Hannibal yn enwog yn ystod yr Ail Ryfel Pwnig, a ddechreuodd yn Sbaen yn 218 CC. Penderfynodd Hannibal ymosod ar yr Eidal, ac arweiniodd fyddin oedd yn cynnwys eliffantod dros yr Alpau i ogledd yr Eidal. Yn ystod y blynyddoedd nesaf enillodd nifer o fuddugoliaethau syfrdanol dros y Rhufeiniaid, yn arbennig ym mrwydrau Trebia, Trasimene a Cannae. Mae tactegau Hannibal ym mrwydr Cannae yn parhau i gael eu hastudio heddiw. Lladdwyd rhwng 50,000 a 70,000 o Rufeinwyr yn y frwydr yma, sy’n yn ei gwneud yn un o’r brwydrau un diwrnod mwyaf gwaedlyd a gofnodir.

Problem Hannibal oedd nad oedd ganddo’r offer angenrheidiol i gipio dinasoedd caerog. Gobeithiai y byddai’r dinasoedd oedd yn cefnogi Rhufain yn troi i gefnogi Carthago yn dilyn ei lwyddiannau milwrol. Gwireddwyd hyn i raddau; er enghraifft trôdd dinas Capua at y Carthaginiaid. Yn raddol dysgodd y Rhufeiniaid oddi wrth Hannibal ei hun, a gwnaethant eu gorau i osgoi brwydr yn erbyn prif fyddin Hannibal. Yn 207 CC gorchfygwyd a lladdwyd ei frawd Hasdrubal Barca pan geisiodd arwain byddin arall i’r Eidal i atgyfnerthu Hannibal..

Yn 203 CC, gorfododd ymosodiad Rhufeinig ar Ogledd Affrica dan arweiniad Scipio Africanus ef i adael yr Eidal i amddiffyn Carthago. Gorchfygwyd ef gan y Rhufeiniaid ym Mrwydr Zama.

Bu raid i Carthago ildio i’r Rhufeiniaid, a derbyn y telerau a osodwyd gan Rufain. Etholwyd Hannibal yn suffet, ac am gyfnod bu’n rheoli Carthago yn effeithiol iawn. Llwyddodd i wella sefyllfa Carthago yn sylweddol, ond dychrynodd hyn y Rhufeiniaid, ac yn 195 CC mynasant fod Hannibal yn cael ei ildio iddynt fel carcharor. Bu raid i Hannibal ffoi o’r ddinas a bu’n byw yn llys Antiochus III, brenin yr Ymerodraeth Seleucaidd yn Syria, lle bu’n gynghorydd Antiochus yn ei ryfel yn erbyn Rhufain. Pan orchfygwyd Antiochus, bu raid i Hannibal ffoi i Bithynia. Mynnodd y Rhufeiniaid fod Hannibal yn cael ei drosglwyddo iddynt hwy fel carcharor, ac i osgoi hyn, lladdodd ei hun trwy gymryd gwenwyn.

Ieithoedd Berber

Defnyddir y term ieithoedd Berber am nifer o ieithoedd yn perthyn i deulu yr ieithoedd Affro-Asiaidd, a siaredir yn bennaf yn y Maghreb, gogledd Affrica gan y Berberiaid.

Ar un adeg ieithoedd Berber yn cael ei siarad o Foroco yn y gorllewin i Ddiffeithwch Libia yn y dwyrain. Ildiodd yr ieithoedd hyn dir yn raddol yn sgîl y concwest Arabaidd yn y 6g. Eu cadarnleodd erbyn heddiw yw Moroco a rhannau o Algeria. Ceir ychydig o siaradwyr Berber yng ngorllewin Tiwnisia yn ogystal. Mae rhai pobl yn dal i siarad tafodiaith Ferber ynysig yn ngwerddon Siwa, gorllewin Yr Aifft.

Kasserine (talaith)

Talaith yng ngorllewin Tiwnisia yw talaith Kasserine. Mae'n gorwedd yng ngorllewin canolbarth y wlad, am y ffin ag Algeria i'r gorllewin, gan ffinio ar daleithiau El Kef a Siliana i'r gogledd, a Zaghouan i'r gogledd, Sidi Bou Zid i'r dwyrain a Gafsa i'r de yn Nhiwnisia ei hun. Kasserine yw prifddinas y dalaith a'r ddinas fwyaf. Tref arall o bwys yw Thala.

Mae'r dalaith yn ardal o fryniau a chymoedd uchel, sy'n rhan o'r Dorsal Tiwnisaidd. Mae'n ardal gymherol ddifreintiedig am ei bod yn bell o ganolfannau diwydiannol y wlad.

Libia

Gwlad yng ngogledd Affrica, sy'n ffinio â'r Môr Canoldir, yw Libia. Mae wedi ei lleoli rhwng yr Aifft i'r dwyrain, Swdan i'r de-ddwyrain, Tsiad a Niger i'r de ac Algeria a Tiwnisia i'r gorllewin. Ei phrifddinas yw Tripoli. Tair rhanbarth draddodiadol y wlad yw Tripolitania, y Fezzan a Cyrenaica. Mae'r wlad yn un o'r 10 gwlad sy'n cynhyrchu mwyaf o olew drwy'r byd.

Numidia

Roedd Numidia yn deyrnas ac yn ddiweddarch yn dalaith yn yr Ymerodraeth Rufeinig, rhwng talaith Mauretania Caesariensis a thalaith Affrica yng Gogledd Affrica.

Sidi Bouzid (talaith)

Talaith yng nghanolbarth Tiwnisia yw talaith Sidi Bouzid (hefyd: Sidi Bou Zid, Sidi Bou Said ac amrywiadau eraill). Mae'n gorwedd yng ngogledd canolbarth y wlad, gan ffinio ar daleithiau Kasserine i'r gorllewin, Siliana a Kairouan i'r gogledd, Sfax i'r dwyrain a Gabès a Gafsa i'r de. Sidi Bouzid yw prif ddinas y dalaith a'r unig ganolfan o bwys.

Dominyddir daearyddiaeth y dalaith gan y Tell, tirwedd o fryniau a llwyfandiroedd agored. Mae'n ardal ddiarffordd sy'n wynebu problemau economaidd. Amaethyddiaeth yw'r prif ddiwydiant o bell ffordd.

Taleithiau Tiwnisia

Rhennir Tiwnisia, yng Ngogledd Affrica, yn 24 talaith (gouvernorat):

Rhennir y gouvernorats yn eu tro yn 262 delegation neu "dosbarth" (Arabeg: mutamadiyat), sy'n cael eu hisrannu'n municipalités (Arabeg: shaykhats).

Tiwnis

Tiwnis (Arabeg: تونس, Tiŵ-nis) yw prifddinas a dinas fwyaf Tiwnisia. Fe'i lleolir ar lannau Llyn Tiwnis yng ngogledd-ddwyrain y wlad. Mae Tiwnis Fwyaf yn cynnwys nifer o faerdrefi poblog ar lan Gwlff Tiwnis, gan gynnwys Carthago a Sidi Bou Saïd, ac ar y bryniau isel i'r dwyrain a'r de o'r ddinas ei hun. Rhennir y ddinas yn ddwy ran. Y medina yw'r hen ddinas gaerog a nodweddir gan strydoedd cul a rhai o'r enghreifftiau gorau o bensaernïaeth traddodiadol yn y wlad. O'i chwmpas ceir y Ville Nouvelle, y rhan newydd o'r ddinas a noddweddir gan strydoedd llydan, pensaernïaeth Ffrengig, a siopau a chaffis canoldirol. Mae'r gyferbyniaeth rhwng y ddwy Diwnis hyn - yr Arabaidd a'r Ewropeaidd - yn rhan o swyn a chymeriad y ddinas. Mae tua 728,455 (2004) o bobl yn byw ynddi (amcangyfrifir poblogaeth o tua 1.5 neu hyd at 2 filiwn ar gyfer Tiwnis Fwyaf).

Tiwnis (talaith)

Mae talaith Tiwnis (Arabeg: ولاية تونس , Ffrangeg: Gouvernorat de Tunis), a greuwyd ar 21 Mehefin 1956, yn un o 24 talaith Tiwnisia. Fe'i lleolir yng ngogledd-ddwyrain Tiwnisia ac mae ganddi arwynebedd o 346 km² (sef 0.2% o arwynebedd y wlad). Mae ganddi boblogaeth o tua 989,000 (amcangyfrifiad 2006). Ei chanolfan weinyddol yw Tiwnis, prifddinas Tiwnisia.

Trapani

Dinas yn Sisili yw Trapani (Sisileg: Tràpani), a leolir ar arfordir gorllewinol yr ynys yn ne eithaf yr Eidal. Mae'n brifddinas talaith Trapani. Gelwir y trigolion yn trapanesi.

Ceir gwasanaeth fferi sy'n cysylltu Trapani â La Goulette, porthladd Tunis, prifddinas Tiwnisia.

Baner y Cynghrair Arabaidd Y Cynghrair Arabaidd
Baner y Cynghrair Arabaidd
Gwledydd y Môr Canoldir

Ieithoedd eraill

This page is based on a Wikipedia article written by authors (here).
Text is available under the CC BY-SA 3.0 license; additional terms may apply.
Images, videos and audio are available under their respective licenses.