System cyfesurynnau daearyddol

Dull i fynegi lleoliad mannau ar y ddaear ydy system cyfesurynnau map (neu gyfesurynnau daearyddol). Yn aml, defnyddir rhifau neu rhifau a llythrennau i fynegi lleoliad. Ymysg systemau cyffredin mae hydred lledred, a systemau Cartesaidd megis UTM.

Her ychwanegol yw mynegi uchder pwynt (er enghraifft, ar wyneb y ddaear) er mai nid sffêr berffaith mo'r ddaear. Defnyddir dau ddull gyffredin, sef amcangyfrif o ffurf geomeregol y ddaear, neu mesur o rhyw farc safonol megis amcangyfrif o lefel y môr.

Ceir mwy o fanylion technegol, gan gynnwys fformwlau mathemategol, am destun yr erthygl yma yn yr papur A guide to coordinate systems in Great Britain oddi wrth yr Ordnance Survey[1].

Amcangyfrif siap y Ddaear

Nid yw'r ddaear yn sffêr berffaith. Yn hytrach, mae'n bêl sydd ychydig yn letach o amgylch y cyhydedd. Yn ogystal, mae arwyneb y ddaear yn gymleth ac yn arw, yn ymestyn o'r dyfnderoedd morwrol i gopaon mynyddoedd, ynghyd â'r platiau tectonig. Felly, er mwyn diffinio system gyfesurynnol ar y ddaear, defnyddir elfen geomertig sy'n symleiddio y sefyllfa, o leia yn fathemategol os nad yn ddaearyddol.

Y symleiddiad mwyaf cyffredin ydy elipsoid ddau echelin (biaxial ellipsoid), sy'n ffigwr tri-dimensiwn o hirgrwn wedi troi o amgylch ei echelin byraf. Gellir defnyddio amryw elipsoidau er mwyn amcangyfrif ffurf y ddaear. Yn gyffredinol, dibynna'r dewis ar ba ranbarth(au) sydd o dan sylw. Er enghraifft, defnyddir elipsoid GRS80 (Geodetic Reference System 1980) gan system leoli GPS am ei fod yn amcangyfrif cyffredinol i ran fwyaf o'r byd. Ar y llaw arall, defnyddir elipsoid Airy 1830 gan yr Ordnance Survey i fapio Prydain am ei fod yn amcangyfrif gwell yn y rhan hono o'r byd.

Lledred a Hydred

Lledred pwynt are wyneb y ddaear yw'r ongl rhwng y plân cyhydeddol (equitorial plane) a llinell sy'n rhedeg drwy'r pwynt ac sy'n normal i'r elipsoid sy'n amcangyfrif y ddaear (hy. yn ffurfio ongl 90° iddo ar ei arwyneb). Dynodir lledred gan y lythyren Roegaidd φ neu phi.

Mae'r plân cyhydeddol yn rhannu'r ddaear i'r hemisffer ogleddol a'r hemisffer deheuol. Gellir dynodi lledredau gogleddol gyda'r llythyren G a deheuol â D. Lledred y pegynnau felly yw 90°G a 90°D. Lledred y cyhydedd yw 0°.

Hydred pwynt ar wyneb y ddaear yw'r ongl i'r dwyrain neu'r gorllewin rhwng meridian dewisiedig i feridian arall sy'n pasio drwy'r pwynt. Dynodir lledred gan y lythyren Roegaidd λ neu lambda.

Dewiswyd llinell sy'n pasio'n agos i'r Arsyllfa Frenhinol yn Greenwich i gynrychioli'r prif feridian (prime meridian) sydd â lledred o 0°. Mae pwyntiau i'r dwyrain o'r llinell yma yn yr hemisffer ddwyreiniol - mae eu hydredau rhwng 0°≤ λ ≤180°Dn. Felly hefyd, mae pwyntiau i'r gorllewin yn yr hemisffer orllewinol, â hydredau 0° ≤ λ ≤180°Gn. Hydred y prif feridian yw 0°.

Lledred a Hydred y Ddaear
Lledred a Hydred

Systemau UTM

Geiriau

System OSGB

Geiriau

Uchder

Geiriau

Gweler hefyd

Cyfeiriadau

  1. "A guide to coordinate systems in Great Britain" (PDF). Ordnance Survey. Rhagfyr 2010. Cyrchwyd 15 August 2013.

Ieithoedd eraill

This page is based on a Wikipedia article written by authors (here).
Text is available under the CC BY-SA 3.0 license; additional terms may apply.
Images, videos and audio are available under their respective licenses.