Rhyfel cyntaf yr Iddewon a Rhufain

Rhyfel cyntaf yr Iddewon a Rhufain neu'r Gwrthryfel Iddewig Mawr yw'r enw a ddefnyddir am yr ymladd rhwng yr Iddewon a lluoedd yr Ymerodraeth Rufeinig yn Judaea a Galilea rhwng 66 a 73 O.C.. Y ffynhonnell bwysicaf ar gyfer y rhyfel yw gawith Flavius Josephus, Rhyfeloedd yr Iddewon.

Wedi cyfnod o hanner-annibyniaeth fel teyrnas yn ddibynnol ar Rufain dan Herod Fawr, daeth Judaea yn rhan o'r Ymerodraeth Rufeinig yn 6 O.C.. Rheolid y dalaith gan raglaw (procurator) Rhufeinig. Dros y blynyddoedd, bu llawr o dyndra rhwng yr Iddewon a Rhufqain, yn enwedig pan geisiau Rhufain benodi Archoffeiriad newydd, neu pan arddangosid delwau, oedd yn groes i gredoau Iddewiaeth, gan y fyddin Rhufeinig.

Dechreuodd y rhyfel pan gymerodd y rhaglaw Gessius Florus, ar gais yr ymerawdwr Nero, swm mawr o arian o drysorfa Teml Jerusalem. Yn 66, dechreuodd gwrthryfel yn Caesarea, wedi i Roegwyr lleol ymosod at synagog. Lledaenodd yr ymladd, a chymerodd carfan y Selotiaid feddiant o ddinas Jeriwsalem, gyda'r Sicarii yn cipio caer Masada. Gorchfygwyd Gessius Florus wrth iddo geisio encilio o Jerusalem. Gyrrodd llywodraethwr Syria fwy o filwyr, ond gorchfygwyd hwy hefyd.

Gyrroedd yr ymerawdwr Nero fyddin o 60,000 dan Vespasian i roi diwedd ar y gwrthryfel. Erbyn 68, roedd Vepasian wedi concro Galilea, ac roedd yr Iddewon wedi ymgasglu yn Jerusalem. Wedi marwolaeth Nero yn 68, cyfarchwyd Vespasian fel ymerawdwr gan ei filwyr. Gadawodd y gwaith o ddelio a'r gwrthryfel i'w fab, Titus.

Gwarchaeodd Titus a'i filwyr ar Jeriwsalem, ac wedi ymladd caled, concrodd y ddinas ym mis Awst 70. Llosgwyd y deml, a lladdwyd tua 100,000 o'r amddiffynwyr. Parhaodd y rhyfel nes i'r Rhufeiniaid gipio caer Masada yn 73.

Titus Jerusalem
Bwa Titus yn Rhufain, yn dathlu ei fuddugoliaeth tros yr Iddewon. Mae'r olyfga yma yn dangos ysbail o'r Deml yn Jerusalem.
66

1 CC - 1g - 2g 10au 20au 30au 40au 50au 60au 70au 80au 90au 100au 110au

61 62 63 64 65 66 67 68 69 70 71

Galileaid

Trigolion talaith Galilea yng ngogledd Israel yn y cyfnod Beiblaidd oedd y Galileaid. Yn y Testament Newydd, edrychai Iddewon Jwdea yn ddiystyrllyd аг y Galileaid, a haerent na chododd proffwyd erioed o Galilea ас na chyfodai yr un byth, heb gofio, neu heb wybod, mai Galilead oedd y proffwyd Jona. Mae'n debyg mai dan ddylanwad y rhagfarn cenedlaethol yma y gofynodd Nathanael i Philip, "Nasareth? [...] Ddaeth unrhyw beth da o'r lle yna erioed?" (loan 1:46).Cafodd y Cristnogion boreuol yn cael eu galw yn fynych yn Galileaid, o blegid cysylltiad agos Iesu Grist a'r apostolion â'r wlad, er enghraifft Actau 2:7. Prin yr arferai Julian y gwrthgiliwr un enw arall, ac "Yn erbyn y Galileaid" yw teitl ei draethawd polemig sydd yn dadlau yn erbyn Cristnogaeth. Galwai Iesu Grist "y duw Galileaidd", a phan yr oedd ar fin marwolaeth, dywedir iddo lefain, fel yr oedd yn cyfarch Crist yn wawdus, "Y Galilead! Ti a orchfygaist!"

Cafodd yr enw Galileaid ei roi hefyd i sect wleidyddol, neu yn hytrach i blaid ymysg yr Iddewon: dilynwyr Jwdas, brodor o Galilea, a gynhyrfodd ei gydwladwyr yn y flwyddy 10 OC i gymeryd arfau yn erbyn y Rhufeiniaid ac i wrthod talu teyrnged iddynt. Yr egwyddorion a ddysgai efe i'w blaid oedd, nid yn unig eu bod yn genedl rydd, ac na ddylent ymostwng i neb arall, ond eu bod yn etholedigion Duw, ac mai efe yn unig oedd eu llywydd hwy, ac am hynny na ddylent ymostwng i drefniant unrhyw ddyn. Er i Jwdas fod yn aflwyddiannus, ac i'w blaid ar y cynnig cyntaf gael ei llwyr orchfygu a'i gwasgaru, er hyny yr oedd wedi trwytho meddyliau ei ddysgyblion mor drwyadl yn ei benboethder ei hun, fei na orffwysasant nes gwarchae Jerwsalem yn y flwyddyn 70, yn ystod rhyfel cyntaf yr Iddewon a Rhufain.

Mae Johann David Michaelis yn crybwyll am sect о Galileaid, oedd yn gryn dair neu bedair mil ar ddeg о nifer, a honent eu bod yn ddisgyblion i Ioan Fedyddiwr. Mae'n bosib iddynt oroesi mor ddiweddar â'r flwyddyn 1779, a breswylient yn agos i al-Marqab yn Syria.

Josephus

Hanesydd Iddewig yn ysgrifennu mewn Groeg oedd Josephus, Groeg: Ιώσηπος (Iosepos), (37 – ar ôl 100 OC). Pan ddaeth yn ddinesydd Rhufeinig, cymerodd yr enw Titus Flavius Josephus.

Rhestr rhyfeloedd yn y Dwyrain Canol

Dyma restr rhyfeloedd yn y Dwyrain Canol. Cynhwysir yma hefyd sawl gwrthdaro pan fo'r rheiny'n gerrig milltir pwysig o ran sylw rhyngwladol.

Rhyfeloedd yr Iddewon a Rhufain

Mae Rhyfeloedd yr Iddewon a Rhufain yn cyfirio at nifer o ryfeloedd a ymladdwyd gan yr Iddewon yn erbyn Ymerodraeth Rhufain yn nhalaith Rufeinig Judea.

Rhyfel cyntaf yr Iddewon a Rhufain (66-73), hefyd Gwrthryfel yr Iddewon neu Gwrthryfel Mawr yr Iddewon.

Rhyfel Kitos (115–117), neu Ail ryfel yr Iddewon a Rhufain.

Gwrthryfel Bar Kochba (132-135), hefyd Trydydd Rhyfel yr Iddewon a Rhufain, neu weithiau Ail ryfel yr Iddewon a Rhufain, os na ystyrir Rhyfel Kitos yn un o'r rhyfeloedd hyn.Bu gwrthryfeloedd eraill ar raddfa lai yn nes ymlaen:

Gwrthryfel Diocesarea (351-2).

Gwrthryfel yn erbyn Heraclius (613).

Ieithoedd eraill

This page is based on a Wikipedia article written by authors (here).
Text is available under the CC BY-SA 3.0 license; additional terms may apply.
Images, videos and audio are available under their respective licenses.