Plwyf

Plwyf yw math o israniad gweinyddol sy'n cael ei ddefnyddio gan rai eglwysi Cristnogol, a hefyd fel uned lywodraeth leol mewn rhai gwledydd.

Unedau gweinyddol lleol yn seiliedig ar diriogaeth cymunedau bychain oedd y plwyfi a sefydlwyd gan yr Eglwys Gatholig yn yr Oesoedd Canol.

Plwyfi Cymru

Yng Nghymru nid oedd plwyfi fel y cyfryw yn bod cyn Oes y Tywysogion. Un o ganlyniadau dyfodiad y Normaniaid i Gymru oedd lledaenu dylanwad trefn eglwysig y cyfandir ac awdurdod y Pab. Creuwyd y plwyfi ar sail y llannau a fodolai eisoes, gyda'r eglwys leol yn ganolfan iddynt.

Yn ddiweddarach, yn y Cyfnod Modern, defnyddiwyd y plwyfi fel unedau gweinyddol llywodraeth leol, mewn trefn gyfochrog i'r honno a fodolai yn Lloegr. Mae cofnodion plwyf yn ffynhonnell bwysig i haneswyr lleol, gan fod manylion am enedigaethau, priodasau a marwolaethau i'w cael ynddynt, ynghyd â gwybodaeth ychwanegol am fywyd y plwyfolion. Heddiw mae'r plwyfi yn dal i fod yn unedau yn nhrefn llywodraeth leol Lloegr, ond yng Nghymru cymerwyd eu lle gan gynghorau cymuned. Yn y drefn eglwysig mae'r plwyf yn parhau fel uned weinyddol sylfaenol Yr Eglwys yng Nghymru.

Castell-llan

Pentref bychan a phlwyf yn Sir Benfro yw Castell-llan (Seisnigiad: Castellan). Fe'i lleolir yng ngogledd y sir ar lethrau'r Frenni Fawr, tua milltir i'r gogledd o bentref Crymych. Mae'r rhan ogleddol y plwyf eglwysig yn rhan o gymuned Boncath a'r rhan ddeheuol yn rhan o gymuned Crymych.

Sefydlwyd Castell-llan fel capel yn perthyn i blwyf Penrhydd. Yn yr Oesoedd Canol roedd yn faenor yn perthyn i urdd Marchogion yr Ysbyty, Slebets. Mae adfeilion yr hen gapel i'w gweld o hyd.

Mae pentref bychan Blaen-y-ffos (Blaen-ffos) yn rhan o'r plwyf hefyd.

Castellmartin

Pentref a phlwyf eglwysig yn ne Sir Benfro yw Castellmartin neu Castell Martin (Saesneg: Castlemartin). Saif heb fod ymhell o'r arfordir, 8 km i'r de-orllewin o dref Penfro ac i'r de o Ddoc Penfro. Ers 2011 mae'n rhan o gymuned Castellmartin a Stackpole.

Mae'r plwyf hefyd yn cynnwys pentref bychan Warren a tua 12 km o arfordir. O amgylch Warren mae llawer o'r tir yn eiddo i'r fyddin, sy'n ei ddefnyddio ar gyfer ymarfer tanio fel Maes Tanio Tanciau Castell Martin, sydd tua 2400 hectar o arwynebedd. Rhed Llwybr Arfordir Sir Benfro trwy'r ardal, ond oherwydd presenoldeb y fyddin mae'n gorfod cadw yn weddol bell o'r arfordir mewn rhan o'r ardal, er ei fod yn croesi'r maes tanio gorllewinol pan nad oes tanio. Roedd poblogaeth y plwyf yn 147 yn 2001.

Cynrychiolir yr ardal hon yn y Cynulliad Cenedlaethol gan Angela Burns (Ceidwadwyr) a'r Aelod Seneddol yw Simon Hart (Ceidwadwr).

Cosheston

Pentref, plwyf a chymuned yn ne Sir Benfro yw Cosheston. Nid ymddengys fod enw Cymraeg iddo. Saif i'r gogledd-ddwyrain o dref Penfro a ger Cilfach Cosheston neu Cosheston Pill, sy'n arwain i mewn i Afon Cleddau.

Mae'r gymuned hefyd yn cynnwys pentrefi Upton a Nash. Ceir rhannau o gastell o'r 13g wedi ei ymgorffori ym mhlasdy Upton. Roedd poblogaeth y gymuned yn 713 yn 2001.

Mae gan y plwyf arwynebedd o 813 hectar ac mae eglwys y plwyf wedi'i chysegru i Sant Mihangel.

Cynrychiolir Cosheston yn y Cynulliad Cenedlaethol gan Angela Burns (Ceidwadwyr) a'r Aelod Seneddol yw Simon Hart (Ceidwadwr).

Cronwern

Pentref bychan a phlwyf yn Sir Benfro yw Cronwern (Seisnigiad: Crunwere). Fe'i lleolir yn ne-ddwyrain y sir. Mae'n rhan o gymuned Amroth.

Cysegrir eglwys y plwyf i Sant Elidir. Mae'r tŵr yn dyddio o'r 15g ond ailadeiladwyd gweddill yr eglwys yn 1847 ac eto yn 1878.

Darowen

Pentref chwe milltir i'r gogledd ddwyrain o dref Machynlleth yn ardal Maldwyn, Powys, yw Darowen (neu Dar Owain mewn hen ysgrifau). Yn ôl cyfrifiad 1861 roedd poblogaeth o 1227 ym mhlwyf Darowen, a oedd yn ffinio i'r gogledd-ddwyrain ag Afon Twymyn ac yn y gogledd ag Afon Dyfi. Roedd Darowen yn enwog am ei fwyn ar un adeg. Codwyd llawer o blwm yn yr ardal o bryd i'w gilydd, yn enwedig ym Mwynglawdd Esgair Galed, y Cwm Bychan a Chwm Nant Ddu. Y gweithiau mwyn hyn, a'r gweithiau plwm yn Nylife gynt sydd i gyfrif am boblogaeth ac arwyddocâd y pentref ar y pryd, a thybir mai Derw Owain neu Tref Owain oedd yr enw gwreiddiol. Erbyn hyn, pentref bychan ydyw a'i boblogaeth yn bitw.

Llanafan

Erthygl am y pentref yng Ngheredigion yw hon. Gweler hefyd Llanafan Fawr, Powys, ac Afan (gwahaniaethu).

Pentref bychan a phlwyf eglwysig yng ngogledd Ceredigion yw Llanafan. Gorwedd tua 9 milltir i'r de-ddwyrain o Aberystwyth ar ffordd wledig o Gwm Ystwyth i Bontarfynach. Gelwir y pentref yn Llanafan y Trawsgoed weithiau (gweler Trawscoed).

Gorwedd y plwyf yn hen gwmwd y Creuddyn, a fu'n rhan o gantref Penweddig yn yr Oesoedd Canol. Rhed afon Ystwyth heibio i'r pentref tua hanner milltir i'r de ohono lle ceir pont dros yr afon.

Enwir y pentref a'r plwyf ar ôl Sant Afan ('Afan Buallt' neu'r 'Esgob Afan', fl. 500-542). Ceir Ffynnon Afan yn y plwyf. Mae'r eglwys yn byr hynafol ac yn cynnwys 'cangell wylo'.

Mae gan Lanafan neuadd bentref.

Cynrychiolir y pentref yn y Cynulliad Cenedlaethol gan Elin Jones (Plaid Cymru) a'r Aelod Seneddol yw Ben Lake (Plaid Cymru).

Llanafan Fawr

Erthygl am y pentref ym Mhowys yw hon. Am y pentref yng Ngheredigion gweler Llanafan. Gweler hefyd Afan (gwahaniaethu).Pentref bychan, cymuned a phlwyf ym Mrycheiniog, de Powys, yw Llanafan Fawr (ffurfiau amgen: Llanafan-fawr / Llanafan-Fawr). Mae'n gorwedd tua 5 milltir i'r gorllewin o dref Llanfair-ym-Muallt.

Gorwedd Llanafan Fawr ar lan afon Chwerfru, ffrwd sy'n rhedeg i lawr o lethrau'r Garn ym mryniau Elenydd i ymuno yn afon Irfon ger Llanfair-ym-Muallt.

Enwir y pentref a'r plwyf ar ôl Sant Afan ('Afan Buallt' neu'r 'Esgob Afan', fl. 500-542). Yn ôl traddodiad llofruddiwyd Afan gan fintai o Wyddelod ar gyrch ym Mrycheiniog ym 542, ar lan ffrwd yn y plwyf a elwir yn Nant Esgob. Yn llan yr eglwys a gysegrir i'r sant ceir pren ywen sydd wedi sefyll yno am tua 2,000 o flynyddoedd.

Bu'r ysgolhaig a bardd Evan Evans (Ieuan Fardd) yn gurad yn Llanafan Fawr ddiwedd y 1750au. Mae'r bardd Saesneg T. Harri Jones yn enedigol o'r pentref.

Dywedir bod Tafarn y Llew Coch yn y pentref yn dyddio i'r 12g, er nad yw'r adeilad ei hun yn dyddio o'r cyfnod hwnnw. Cynhelir Sioe Amaethyddol Llanafan Fawr yn flynyddol ar y trydydd Sadwrn ym mis Medi. Poblogaeth y gymuned yn 2001 oedd 475.

Llanarmon Mynydd Mawr

Plwyf gwledig a phentrefan ym Maldwyn, gogledd Powys, yw Llanarmon Mynydd Mawr (weithiau Llanarmon Mynydd-Mawr mewn ffynonellau Saesneg), sydd 94.1 milltir (151.5 km) o Gaerdydd. Saif yng nghymuned Llanrhaeadr-ym-Mochnant, rhwng pentref Llanrhaeadr-ym-Mochnant a Llansilin fel ynys o dir rhyngddynt. Bu gynt yn rhan o Glwyd ac yn Sir Ddinbych cyn hynny. Yn yr Oesoed Canol roedd yn rhan o gantref Mochnant.

Mae Llanarmon yn un o sawl llan yng Nghymru a gysylltir â Sant Garmon.

Daw'r enw o fryn 534 medr Mynydd Mawr, yng nghanol y plwyf. Llifa afon Iwrch heibio i'r gorllewin o'r Mynyddd Mawr ar ei ffordd i lawr o Gwm Maen Gwynedd i afon Tanat. Rhed yr hen lôn rhwng pentref Llanrhaeadr-ym-Mochnant, i'r de, a Llanarmon Dyffryn Ceiriog, i'r gogledd, ar hyd ochr ddwyreiniol y plwyf ac yma y ceir y rhan fwyaf o'r preswylfeydd gwasgaredig ac eglwys y plwyf.

Llanbadarn Fynydd

Gweler hefyd Llanbadarn (gwahaniaethu).Pentref bychan gwledig yng nghanolbarth Powys yw Llanbadarn Fynydd. Saif ar briffordd yr A483 yn y bryniau tua hanner ffordd rhwng Y Drenewydd i'r gogledd a Llandrindod i'r de.

Mae'r pentref ar lan Afon Ieithon. Mae'r bryniau o'i gwmpas yn cynnwys Moel Wilym (469m) a'r Moelfre (475m) i'r dwyrain a'r Ddyle (485m) i'r gorllewin. Y pentrefi agosaf yw Llananno a Llanbister i'r de.

Mae eglwys y plwyf, sy'n rhoi ei henw i'r pentref, yn un o nifer yng Nghymru a gysylltir â Sant Padarn. Yno ceir gweld enghreifft dda o ysgrîn bren ganoloesol a chroglofft mewn arddull sy'n nodweddiadol o'r Canolbarth a'r Gororau.

Ceir castell mwnt a beili Normanaidd a elwir Castell y Blaidd yn y plwyf.

Llanfair Caereinion

Pentref gwledig a phlwyf ym Mhowys yw Llanfair Caereinion. Saif ar groesfan bwysig ar lôn yr A458, 18 km (11 milltir) i'r gogledd o'r Drenewydd. Mae'n gorwedd yn Nyffryn Banwy a rhed afon Banwy trwy'r pentref. Mae ganddo boblogaeth o 1,810 (2011).Yn yr Oesoedd Canol Llanfair Caereinion oedd canolfan bwysicaf cantref Caereinion. Yn ôl y traddodiad, sefydlwyd Caereinion gan Einion Yrth, un o feibion Cunedda, ganol y 5g. Ceir hen fryngaer o'r enw Caereinion tua milltir o'r pentref. Roedd eglwys y pentref dan awdurdod Meifod a safai ym Mathrafal, prif lys brenhinoedd Teyrnas Powys, tua tair milltir a hanner i'r gogledd.

Yn fersiwn John Jones o Gellilyfdy o'r chwedl Hanes Taliesin, mae Gwion Bach, ymgnawdoliad cyntaf Taliesin Ben Beirdd, yn "fab gwreang o Lan Uair yn Kaer Einion ym Powys".

Ym 1837 cafwyd terfysg fawr yn y plwyf pan ymosododd tlodion yr ardal ar Swyddog y Tlodion plwyf Llanfair Caereinion oherwydd cyfyngiadau Deddf Newydd y Tlodion a bu rhaid galw'r milisia lleol i mewn i adfer trefn.Plu'r Gweunydd yw papur bro Llanfair Caereinion a'r cylch.

Lleolir terminws gorllewinol Rheilffordd y Trallwng a Llanfair Caereinion yn y pentref, sy'n denu twristiaid o ganlyniad.

Llanfihangel-yng-Ngwynfa

Pentref hynafol, plwyf a chymuned ym Maldwyn, gogledd Powys, yw Llanfihangel-yng-Ngwynfa. Mae'n enwog fel cartref yr emynyddes Ann Griffiths.

Gorwedd y pentref diarffordd ym mryniau Maldwyn ger tarddle Nant Alan, un o ffrydiau Afon Cain, tua hanner ffordd rhwng Llanwddyn i'r gorllewin a Llanfyllin i'r dwyrain. I gyfeiriad y de mae'r B4382 yn ei gysylltu â phentref Dolanog a Llanfair Caereinion.

Yn yr Oesoedd Canol roedd yn rhan o gantref Mechain. Mae'r eglwys yn un o sawl yng Nghymru a gysegrir i Sant Mihangel.

Tua milltir a hanner i'r gorllewin o Lanfihangel ceir Plasdy Llwydiarth, hen gartref y Fychaniaid gynt.

Rhed Llwybr Glyndŵr trwy'r bryniau i'r de o'r pentref.

Llangadfan

Pentref bychan yn ardal Maldwyn yng ngogledd Powys yw Llangadfan. Saif yng nghymuned Banw yn rhan uchaf Dyffryn Banwy ar yr A458 tua hanner ffordd rhwng Y Trallwng i'r dwyrain a Dolgellau i'r gorllewin. Tua milltir i'r dwyrain ceir pentref Llanerfyl.

Llifa afon Banwy heibio i'r pentref ar ei ffordd i lawr Dyffryn Banwy i'r Trallwng. Mae Afon Gam yn llifo i lawr o Nant yr Eira i ymuno ym Manwy ger y pentref.

Enwir y pentref a'r plwyf ar ôl Cadfan, sant a gysylltir yn bennaf ag ardal Tywyn ym Meirionnydd.

Llanwddyn

Pentref bychan ym Maldwyn, Powys, yw Llanwddyn ( ynganiad ). Gorwedd ar lan ogleddol afon Efyrnwy ger yr argae ar gronfa dŵr Llyn Efyrnwy. Tua hanner milltir i'r dwyrain o Llanwddyn ceir pentref Abertridwr.

Enwir plwyf Llanwddyn ar ôl Wddyn. Yn ôl traddodiad roedd y sant hwn, sydd fel arall yn anhysbys, yn feudwy a sefydlodd gell yno ac a ymwelai â chell y Santes Melangell dros y bryniau i'r gogledd ym Mhennant Melangell.

Llanwrtyd

Tref fechan a chymuned yng ngorllewin Powys yw Llanwrtyd (Saesneg: Llanwrtyd Wells). Poblogaeth: 601 (2001). Mae'n un o'r trefi lleiaf yng Nghymru a gwledydd Prydain. Mae Gorsaf reilffordd Llanwrtyd ar linell Rheilffordd Calon Cymru.

Mae cymuned Llanwrtyd yn cyfateb yn fras i'r plwyf eglwysig hanesyddol o'r un enw ac yn cynnwys y dref ei hun.

Maenordeifi

Pentref bychan yng ngogledd Sir Benfro yw Maenordeifi (Saesneg: Manordeifi). Saif ar lan ddeheuol Afon Teifi tua hanner ffordd rhwng Castell Newydd Emlyn i'r dwyrain ac Aberteifi i'r gorllewin ac ar y ffordd rhwng Llechryd ac Abercych.

Treuliodd y bardd telynegol John Blackwell (Alun) (1797 - 1841) wyth mlynedd fel rheithior y plwyf, o 1833 hyd ei farwolaeth yn 1841. Claddwyd ef ym mynwent y plwyf.

Manafon

Pentref a phlwyf gwledig ym Mhowys, Cymru, yw Manafon. Fe'i lleolir yng ngogledd y sir yn ardal Maldwyn, 2 filltir a hanner i'r de o bentref Llanfair Caereinion ac 8 milltir i'r gorllewin o'r Trallwng ar lôn y B4390.

Saif Manafon ar ddwy lan Afon Rhiw mewn ardal o fryniau isel coediog a ffermydd ar wasgar. Mae'r plwyf yn rhan o Esgobaeth Llanelwy. Mae eglwys y plwyf, a gysegrwyd i Sant Mihangel, yn bur hynafol.

Plwyf sifil

Plwyf sifil (Saesneg: civil parish) yw uned weinyddol yn yr haen isaf o lywodraeth leol yn Lloegr. Mae'n cyfateb i'r gymuned yng Nghymru. Mae'r plwyf sifil yn dod islaw'r sir (neu "swydd") a'r ardal awdurdod lleol, neu eu ffurf gyfun, yr awdurdod unedol. Yn wahanol i blwyf eglwysig, sydd dan reolaeth yr eglwys, mae plwyf sifil yn cael ei lywodraethu gan gyfrifiad plwyf etholedig, sydd â'r pŵer i godi trethi er mwyn cynnal prosiectau lleol.

Gall plwyf sifil fod mor fach â phentref sengl gyda llai na chant o drigolion neu mor fawr â thref gyda phoblogaeth o dros 70,000. Mae oddeutu 35% o boblogaeth Lloegr yn byw mewn plwyf sifil. Ar ddiwedd 2015 roedd 10,449 o blwyfi yn Lloegr.

Porth Ia

Tref glan-y-môr, plwyf sifil a phorthladd yng Nghernyw, De-orllewin Lloegr, yw Porth Ia (Saesneg: St. Ives; Cernyweg: Porth Ia) wedi ei lleoli ar arfordir y Môr Celtaidd yng ngorllewin Cernyw.

Roedd ar un adeg yn dref bysgota, ond wedi'r cwymp yn y diwydiant mae heddiw yn dibynnu ar dwristiaeth. Mae'r dref yn enwog am ei artistiaid, ac ym 1993 agorwyd cangen o Oriel y Tate, Tate St. Ives yng nghanol y dref. Yn 2007 cafodd ei henwi fel tref glan-y-môr gorau Prydain ym mhapur newydd The Guardian.

Y Batel

Pentref bychan a phlwyf yn ne Powys yw'r Batel (Saesneg: Battle). Mae'n gorwedd tua 2.5 milltir i'r gogledd-orllewin o dref Aberhonddu yn ardal Brycheiniog. Mae'n rhan o gymuned Ysgir.

Cysegrwyd eglwys y plwyf i Sant Cynog.

Ieithoedd eraill

This page is based on a Wikipedia article written by authors (here).
Text is available under the CC BY-SA 3.0 license; additional terms may apply.
Images, videos and audio are available under their respective licenses.