Piet Mondrian

Roedd Pieter Cornelis Mondriaan (7 Mawrth 18721 Chwefror 1944), neu Piet Mondrian, yn beintiwr avant-garde o'r Iseldiroedd ac yn aelod blaenllaw o'r mudiad De Stijl a sefydlwyd gan Theo van Doesburg.

Mondrian hefyd oedd sylfaenydd y grŵp a'r mudiad Neo Plasticism. Fe ddatblygodd ei waith o arddull Naturoliaeth a Symbolaeth i 'gelfyddyd haniaethol' a bu'n un o'i arloeswyr, gyda'r Rwsiaid Wassily Kandinsky a Kazimir Malevich. Mae syniadaeth ac esthetig Mondrian wedi dylanwadu’n gryf ar gelf, pensaernïaeth, cerfluniaeth a dylunio ail hanner yr 20g.[1][2]

Piet Mondrian
Piet Mondrian 2

Gyrfa gynnar

Fe'i ganwyd yn Amersfoort, yr Iseldiroedd. O 1892 tan 1908 astudiodd yn Academi Celf Gain, Amsterdam, yn ddisgybl i August Allebé.

Dechreuodd weithio fel athro ysgol gynradd, gan beintio yn ei amser hamdden. Roedd y rhan fwyaf o'i waith yn ystod y cyfnod yma'n dirweddau arddull Naturoliaeth neu Argraffiadaeth (Impressionist). Roedd y delweddau yma o'r Iseldiroedd yn cynnwys melinau gwynt, caeau a chamlesi yn steil Ysgol yr Hague, ac wedyn mewn amryw o arddulliau a thechnegau wrth chwilio am steil personol. Mae'r gwaith hwn o'i gyfnod cynnar yn dangos dylanwad sawl mudiad fel Pwyntiliaeth (pointillism) a Fauvism.

Mewn arddangosfa yn amgueddfa Gemeentemuseum Den Haag gwelir nifer o ddarluniau o'r cyfnod yma sy'n cynnwys arddull Post Impressionist, paentiadau fel Y Felin Goch a Choed wrth olau'r lleuad. Mae darlun arall Avond (Hwyr) (1908), yn dangos coeden wrth iddi nosi ac mae'r dewis o liwiau'n gyfyngedig i goch, melyn a glas, er nad yw'r llun, ar y cyfan, yn haniaethol, Avond yw'r cyntaf o ddarluniau Mondrian i ddibynnu ar liwiau cysefin.[3]

Mewn cyfres o ddarluniau o 1905-1907, sy'n seiliedig ar Naturoliaeth gyda choed annelwig ac adlewyrchiadau, canfyddir symudiad tuag at waith haniaethol - sy'n sail i'w waith diweddarach.

Dylanwad Ciwbiaeth

Dylanwadwyd yn gryf ar waith Mondrian gan waith y grŵp Ciwbaidd y Moderne Kunstkring (Cylch Celfyddyd Fodern) a welodd mewn arddangosfa yn Amsterdam ym 1911. Mae ei ymdrechion i geisio symleiddio elfennau i'w weld yn y ddau ddarlun Stilleven met gemberpot ('Bywyd Llonydd' gan Jar Sinsir). Yn y fersiwn ciwbaidd, 1911 a'r fersiwn haniaethol, 1912 mae'r ffurfiau'n cael eu lleihau i gylchoedd, trionglau a sgwariau.[4][5]

De Stijl

Stijl vol 04 nr 09 p 129
Cylchgrawn De Stijl

Rhwng 1914 a 1914 bu ym Mharis, ble dylanwadwyd arno ymhellach gan Giwbiaeth. Wrth ddychwelodd i Amsterdam yn 1915 fe gyfarfu â Theo van Doesburg ac fe sefydlwyd y grŵp De Stijl (Y Steil) gan y ddau ym 1917 [2]. Cyhoeddwyd y cylchgrawn De Stijl rhwng 1917 i 1926 gan gasglu o'u hamgylch artistiaid a ddylanwadwyd arnynt gan syniadaeth chwyldroadol Ciwbiaeth. Mondrian oedd y pwysicaf ohonynt.

Ym 1919 fe ddychwelodd i Baris ble ym 1921 lleihawyd ei balet o liwiau i ddim ond gwyn, du a'r lliwiau cysefin (primary colours). Ym 1930 fe ymunodd â'r grŵp Cercle et carré ac yn 1931 â Abstraction-Création. I osgoi'r Aail Ryfel Byd fe symudodd yn gyntaf i Lundain, ac wedyn ym 1940, i Efrog Newydd.[6] Yn Efrog Newydd yn y 1940au fe ddatblygodd ei waith yn wrthgyferbyniad rhythmig o liwiau llachar dan ddylanwad cerddoriaeth Jazz a phatrwm strydoedd y ddinas, gan ddewis teitlau fel Broadway Boogie-Woogie i'r darnau.[7]

Athroniaeth ac Esthetig

Roedd celfyddyd Mondrian o hyd yn perthyn yn agos i'r ysbrydol a'r athronyddol. O 1908 fe ymddiddorodd yn y mudiad Theosoffi a sefydlwyd gan Helena Petrovna Blavatsky ar ddiwedd y 19g.[8]

Trwy geometreg haniaethol roedd Mondrian yn chwilio am strwythur sylfaenol y bydysawd a daeth Mondrian i'r casgliad nad oedd pwrpas i gelf ceisio creu copïau o bethau sydd yn bod yn ein byd pob dydd ond i ymchwilio i realiti dyfnach gan ddod o hyd i 'gelf pur'.[9]

Pan ddechreuodd Theo Van Doesburg arbrofi a defnyddio elfennau ar onglau cam yn ei ddarluniau, fe adawodd Mondrian y grŵp De Stijl.[2]

Efrog Newydd

Yn 1937 cafodd lawer iawn o artistiaid a llenorion eu gwahadd gan y Natsïaid. Cafodd eu gwaith ei alw'n Entartete Kunst - 'Celf Ddirywiedig'. Trefnodd y Natsïaid arddangosfeydd o waith 'dirywiedig' gan rhoi cyfle i'r cyhoedd chwerthin ar ei ben. Fel llawer o arlunwyr, iddewon a gwrthwynebyr y Natsïad yn gyffredinol, roedd rhaid i Mondiran dianc Ewrop rhag ofn iddo gael ei garcharu neu ladd. Symudodd i Efrog Newydd ble roedd wrth ei fodd gyda cherddoriaeth Jazz a phensaernïaeth y ddinas fawr sydd i'w gweld yn ei weithfeydd olaf fel Broadway Boogie-Woogie (1942-43).

Teyrngedau yn steil Mondrian

Piet mondrian, composizione con bianco e rosso, 1936

Piet Mondrian.

Piet Mondriaan Victory Boogie Woogie

Piet Mondrian
Victory Boogie Woogie

Piet Mondrian, 1911, Gray Tree (De grijze boom), oil on canvas, 79.7 x 109.1 cm, Gemeentemuseum Den Haag, Netherlands

Piet Mondrian.

Mondriaan Compositie XIV

Piet Mondrian.

Cyfeiriadau

  1. "Piet Mondrian", Tate gallery, published in Ronald Alley, Catalogue of the Tate Gallery's Collection of Modern Art other than Works by British Artists, Tate Gallery and Sotheby Parke-Bernet, Llundain 1981, tt.532–3. Adalwyd 18 Rhagfyr 2007.
  2. 2.0 2.1 2.2 http://www.theguardian.com/artanddesign/2010/jan/23/theo-van-doesburg-avant-garde-tate
  3. gemeentemuseum
  4. Guggenheim Collection – Artist – Mondrian – Still Life with Gingerpot
  5. Casiraghi, Roberto "Piet Mondrian - Nike Dunk Low SB - Available!", http://www.englishgratis.com.
  6. "BBC News - Liverpool Tate to host 'largest' UK Mondrian exhibition". Bbc.co.uk. 2013-04-19. Cyrchwyd 2014-06-04.
  7. http://www.moma.org/collection/browse_results.php?object_id=78682
  8. Sellon, Emily B.; Weber, Renee (1992). "Theosophy and the Theosophical Society". In Faivre, Antoine; Needleman, Jacob (gol.). Modern Esoteric Spirituality. World Spirituality. 21. Crossroad. p. 327. ISBN 0824514440. Missing |editor2= (help)
  9. Van Doesburg at Tate Modern By Jackie Wullschlager, Published 2010/6/2
1872

18g - 19g - 20g1820au 1830au 1840au 1850au 1860au - 1870au - 1880au 1890au 1900au 1910au 1920au1867 1868 1869 1870 1871 - 1872 - 1873 1874 1875 1876 1877

1944

19g - 20g - 21g1890au 1900au 1910au 1920au 1930au - 1940au - 1950au 1960au 1970au 1980au 1990au1939 1940 1941 1942 1943 - 1944 - 1945 1946 1947 1948 1949

1 Chwefror

1 Chwefror yw'r ail ddydd ar ddeg ar hugain (32ain) o'r flwyddyn yng Nghalendr Gregori. Erys 333 diwrnod yn weddill hyd diwedd y flwyddyn (334 mewn blynyddoedd naid).

7 Mawrth

7 Mawrth yw'r chweched dydd a thrigain (66ain) o'r flwyddyn yng Nghalendr Gregori (67ain mewn blynyddoedd naid). Erys 299 diwrnod arall hyd ddiwedd y flwyddyn.

Bauhaus

Roedd y Bauhaus (Almaeneg: bauen "adeiladu" + haus "tŷ") yn goleg celf, cynllunio a pensaernïaeth Almaenig o 1919-1933 a fu'n ddylanwadol ar ddyluniad modern yn ystod ail hanner yr 20g.

Sefydlwyd gan y pensaer Walter Gropius. Ei fwriad oedd uno celf, dylunio a phensaerniaeth.

Celf ddirywiedig

Roedd Celf Ddirywiedig (Almaeneg: Entartete Kunst, Saesneg: Degenerate art) yn derm sarhaus a defnyddiwyd gan y Natsïaid i ddisgrifio celf fodern.Yn ystod rheolaeth Adolf Hitler a'r Natsïaid yn y 1930au a 1940au cafodd gelf fodern ei gwahardd am beidio bod yn 'Almaenig go iawn', os oedd wedi'i chreu gan arlunwyr Iddewig neu gomiwnyddol, os oedd yn haniaethol (abstract), neu os nad oedd yn dangos ffigyrau ac elfennau fel yn gelf draddodiadol, glasurol.

Cafodd yr arlunwyr a gyhuddwyd o fod yn 'ddirywiedig' eu gwahodd o'u swyddi fel athrawon celf ac atal rhag arddangos eu gwaith neu'i werthu.

Malwyd llawr o'r darluniau a cherfluniau. Hefyd, llosgwyd llyfrau roedd y Natsïaid yn meddwl oedd yn cyfleu syniadau Iddewig neu gomiwnyddol yn cynnwys llawer o glasuron llenyddiol a gwaith gwyddonol fel Sigmund Freud ac Albert Einstein. Estynnwyd y gwaharddiadau i gynnwys cerddoriaeth fel Jazz, y Natsïaid yn ei gwrthwynebu am iddi gael ei chreu gan bobl o dras Affricanaidd. Gwahoddwyd ffilmiau a dramâu theatr neu eu sensro'n drwm.

Llwyddodd nifer o arlunwyr dianc yr Almaen ac Awstria rhag ofn iddynt gael eu carcharu neu ladd. Ond gafodd llawr o arlunwyr a llenorion eraill, fel Iddewon, pobl hoyw, sipsiwn, pobl gyda phroblemau meddyliol, comiwnyddion, rhyddfrydwyr ac aelodau o grwpiau crefyddol fel Tystion Jehovah eu hanfon i gwersylloedd carchar i'w lladd.

De Stijl

Mae De Stijl ("Yr Arddull" / "Y Steil" mewn Iseldireg - ynganer fel 'stail' yn Gymraeg), yn fudiad celf Avant-garde a ddaeth i'r amlwg yn yr Iseldiroedd ym 1917 nes 1931 gan argymell adnewyddu esthetig yn seiliedig ar fireinio ffurfiol a garedu elfennau nad oedd yn hanfodol i'r gelfyddid. Fe elwir y mudiad hefyd weithiau yn Neoplasticism (Nieuwe Beelding mewn Iseldireg). Roedd y mudiad Avant-garde yn integreiddio'r gwahanol gelfyddydau (pensaernïaeth, dylunio diwydiannol, y celfyddydau gweledol) i greu aestheteg newydd gyflawn i'r amgylchedd dynol yn seiliedig ar werthoedd plastig newydd, cyffredinol ac phurach. [1] Ymysg yr artistiaid mwyaf amlwg roedd Piet Mondrian (1872-1944), Theo van Doesburg (1883-1931), Bart van der Leck (1876-1958), Georges Vantongerloo neu Huszár Wilmore (cerflunydd).

Hannah Höch

Roedd Hannah Höch (1 Tachwedd 1889 – 31 Mai 1978) yn artist ac mae hi heddiw yn cael ei chfyrif fel eicon ffeministaidd. Fel rhan o grŵp o arlunwyr Dada yn Berlin yn y 1920au creodd Höch nifer o weithiau ffoto-montage arloesol.

Roedd Dada yn fudiad celfyddydol avant-garde Ewropeaidd ar ddechrau'r 20 ganrif fel ymateb yn erbyn erchylltra a gwallgofrwydd y Rhyfel Byd Cyntaf.

Wedi'i dylanwadu gan waith collage Pablo Picasso a'r Dadawr Kurt Schwitters torrodd hi ddelweddau o hysbysebion a lluniau o gylchgronau a phapurau newydd a gludodd i greu montage.

Roedd cyfuniad y delweddau gwahanol yn cyfleu adlewyrchiad beirniadol o gyfryngau torfol a'r ffordd roeddent portreadi statws merched a delfrydau hyfrydwch. Mae gwaith fel Das schöne Mädchen (Y ferch hyfryd) o 1920 yn cael ei ystyri fel gwaith ffeministaidd arloesol.

Roedd y grŵp o arlunwyr Berlin roedd hi'n rhan ohono hefyd yn cynnwys John Heartfield, George Grosz ac Otto Dix. Daeth ddynion y grŵp yn enwog ond ni chafodd Höch yr un sylw tan lawer o flynyddoedd wedyn Am gyfnod roedd Höch yn gymar i'r arlunydd Dada Raoul Haussman. Roedd eu perthynas yn gythryblus gyda Haussman yn gwrthod gadael ei wraig am Höch gan alw dymuniad Höch i briodi yn syniad bourgeois. Roedd Haussman hefyd yn feirniadol o waith Höch. Ym 1922 dechreuodd perthynas gyda'r ysgrifennwr Mathilda ('Til') Brugman, y ddwy yn cyd-fyw am naw mlynedd. Ym 1935, dechreuodd Höch perthynas gyda Kurt Matthies, ac roedd y pâr yn briod rhwyg 1938 a 1944. Cafodd gwaith Höch ei gondemnio fel Entartete Kunst ('celf ddirywiedig') gan y Natsïaid a'i atal rhag ei arddangos yn gyhoeddus. Roedd y ffaith nad oedd ei gwaith wedi cael fawr o sylw yn fantais iddi beidio cael ei herlyn yn fwy gan y Natsïaid.Cafodd ei gwaith mwy o sylw wedi'r ail ryfel byd a daliodd ati'n creu gwaith ffoto-montage ac yn arddangos o amgylch y byd nes iddi farw ym 1978 yn 88 oed.

Lluniadaeth

Roedd Lluniadaeth (Constructivism) yn athroniaeth gelfyddydol a phensaernïol a ddechreuodd yn Rwsia gan Vladimir Tatlin yn 1913. Roedd yr athroniaeth yn ymwrthod â'r syniad o gelf fel gweithredol arwahan ac hunangynhwysol ac bod iddo, yn hytrach, rôl mewn llunio cymdeithasol. Roedd y mudiad o blaid celf fel gweithred at bwrpas cymdeithasol. Roedd yn fudiad Avant-garde a gafodd ddylanwad fawr ar mudiadau celf y 20g gan ddylanwadu symudiadau fel Bauhaus a De Stijl. Roedd ei ddylanwad yn eang, gydag effaith dwys ym maes pensaernïaeth, cerflunio, dylunio graffig, dylunio diwydiannol, theatr, ffilm, dawns, ffasiwn ac, i rhyw raddau, cerddoriaeth.

Marlow Moss

Arlunydd benywaidd a anwyd yn Llundain, y Deyrnas Unedig oedd Marlow Moss (29 Mai 1889 – 23 Awst 1958).

Rhestr arlunwyr

Dyma restr o arlunwyr, wedi'u trefnu yn ôl gwlad mewn trefn gronolegol.

Theo van Doesburg

Roedd Theo van Doesburg (Utrecht, 30 Awst 30 1883 - Davos, 7 Mawrth 1931) yn arlunydd o'r Iseldiroedd oedd yn mynedgu ei hun wrth baentio, beirniadaeth, barddoniaeth a phensaernïaeth. Daeth yn adnabyddus fel sylfaenydd ac arweinydd y grŵp celf Avant-garde, De Stijl yn ystod ac wedi'r Rhyfel Byd Cyntaf.

Vilmos Huszár

Peintiwr a dyluniwr o Hwngari oedd Vilmos Huszár (5 Ionawr 1884 – 8 Medi 1960). Adnabyddir ef orau am fod yn un o sefydlwyr symudiad arlunio'r Iseldiroedd, De Stijl.

Ganwyd yn Bwdapest, Hwngari ac ymfudodd i'r Iseldiroedd yn 1905, gan fyw yn Voorburg gyntaf, dylanwadwyd gan arlunwaith Ciwbiaeth a Dyfodiaeth. Cyfarfu nifer o arlunwyr dylanwadol megis Piet Mondrian a Theo van Doesburg, y ddau yn ganolig yn sefydliad symudiad De Stijl gyda Huszár yn 1917. Cyd-sefydlodd gylchgrawn De Stijl yn ogystal, a dyluniodd glawr y rhifyn cyntaf.

Yn 1918 dyluniodd gynllun lliw mewnol ar gyfer lloft Tŷ Bruynzeel yn Voorburg. Rhwng 1920 a 1921 cydweithiodd gyda Piet Zwart ar ddyluniadau dodrefn. Gadawodd y grŵp De Stijl yn 1923 a chyd-weithiodd gyda Gerrit Rietveld ar arddangosfa mewnol ar gyfer Arddangosfa Alrunio Berlin Fwyaf. Rhwng 1925, Huszár canolbwyntiodd ar ddylunio graffeg a phaentio.

Yn 1926 creodd hunaniaeth gweledol cyflawn ar gyfer cwmni sigaret Miss Blanche Virginia, a gynhwysodd pecynnu, hysbysebu, a deunudd arddangos man gwethiant. Tynnodd y gysyniad elfennau o'r lluniau a oedd yn gysylltiedig â "Merched Newydd", neu Flappers, a oedd yn dechrau ymddangos yn yr 1920au. Cafodd y Flappers eu cael eu gweld fel merched ifanc, sengl, dinesig, a chyflogedig, gyda syniadau annibynnol a dirmyg arbennig tuag at awdurdod ac arferion cymdeithasol. Cafodd ysmygu sigaret ei gysylltu â'r annibyniaeth newydd yma.

Ni wyddwn leoliad y rhan fwyaf o waith Huszár, mae nifer o'i beintiadau a'i gerfluniau yn wybyddus i ni yn unig oherwydd y ffotograffau a welwyd yng nghylchgrawn De Stijl, neu o ffotograffau'r arluniwr ei hun. Mae'r gweithiau sydd wedi mynd ar goll yn cynnwys y Dancing mechanical doll, teclyn a allai portreadu nifer o stumiau a fe'i ddefnyddiwyd yng nghynhadleoedd cynnar Dada yn y 1920au cynnar.

Bu farw Huszár yn Hierden, Yr Iseldiroedd, yn 1960. Rhwng 8 Mawrth a 19 Mai 1985, cynhaliwyd arddangosfe adolygol mawr o waith Huszár yn y Gemeentemuseum yn Y Hague.

Wassily Kandinsky

Bu Wassily Wassilyevich Kandinsky - Васи́лий Васи́льевич Канди́нский, Vasiliy Vasil’yevich Kandinskiy, (16 Rhagfyr 1866 – 13 Rhagfyr 1944) yn arlunydd arloesol, cydnabuwyd am greu rhai o'r peintiadau haniaethol (Abstract) pur cyntaf.Yn fab i deulu busnes gweddol gyfoethog, treiodd ei blentyndod yn Odessa. Rhwng 1886 a 1889 astudiodd y gyfraith ac economeg ym Moscow. Dechreuodd arlunio'n 30 oed ac ym 1896 gan wrthododd gynnig proffesoriaeth yn y gyfraith ym Mhrifysgol Dorpat er mwyn fynd i Munich i astudio mewn ysgol gelf breifat ac wedyn Academi Celf Gain y ddinas.Dychwelodd i Foscow ym 1914 wedi dechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf. Yn anfodlon gyda theorïau swyddogol y llywodraeth Bolsiefic newydd yn dilyn Chwyldro Rwsia ym 1917 dychwelodd i'r Almaen yn 1921. Bu'n athro yn yr ysgol gelf arloesol y Bauhaus nes iddo gael ei gau gan y Natsïaid ym 1933 a oedd yn gweld celf fodern yn groes i'w syniadaeth eithafol. Symudodd i Ffrainc gan ddod yn ddinesydd Ffrengig ym 1939.

Ieithoedd eraill

This page is based on a Wikipedia article written by authors (here).
Text is available under the CC BY-SA 3.0 license; additional terms may apply.
Images, videos and audio are available under their respective licenses.