Penrhyn Iberia

Mae Iberia yn ailgyfeirio yma. Am y diriogaeth hynafol yn y Cawcasws gweler Iberia'r Cawcasws.
Iberian map europe
Lleoliad Iberia yn Ewrop
Iberian peninsula
Penrhyn Iberia

Penrhyn mawr yn ne-orllewin Ewrop yw Penrhyn Iberia neu Iberia. Mae'n cynnwys tiriogaeth Portiwgal a Sbaen a hefyd Andorra a Gibraltar. Gorwedd ym mhen de-orllewinol cyfandir Ewrop, rhwng y Môr Canoldir i'r dwyrain a Cefnfor Iwerydd i'r gorllewin a'r gogledd (Bae Biscay). I'r de mae Culfor Gibraltar yn gwahanu penrhyn Iberia a gogledd-orllewin Affrica (Moroco a'r Maghreb). Ar y tir mawr mae cadwyn mynyddoedd y Pyreneau yn dynodi'r ffin ddaearyddol ac ecolegol rhwng penrhyn Iberia a gweddill Ewrop yn ogystal â'r ffin wleidyddol rhwng Ffrainc a Sbaen. Mae fflora a ffawna Iberia yn debyg i rai Gogledd Affrica. Mae gan y penrhyn arwynebedd o 593,250 km² (229,054 milltir sgwar).

Gweler hefyd

Adain brin

Pryf sy'n perthyn i deulu'r Noctuidae yn urdd y Lepidoptera yw adain brin, sy'n enw benywaidd; yr enw lluosog ydy adenydd prin; yr enw Saesneg yw Nonconformist, a'r enw gwyddonol yw Lithophane lamda. Mae i'w ganfod drwy Ewrop, ar wahân i de Ewrop (Penrhyn Iberia), y Balcanau, Iwerddon, Gwlad yr Iâ a'r Eidal.

Lled yr adenydd ar eu heithaf ydy 39–44 mm. Mae'r oedolyn i'w weld yn hedfan rhwng Medi a chychwyn Tachwedd ac eto o Chwefror i Fai.

Prif fwyd y siani flewog ydy Myrica gale, Vaccinium myrtillus, Vaccinium uliginosum, Chamaedaphne calyculata a Ledum palustre.

Astwriaid

Grŵp ethnig Romáwns sydd yn frodorol i Asturies yng ngogledd Sbaen yw'r Astwriaid (Astwrieg: asturianos).

Basgiaid

Pobl sy'n gysylltiedig a Gwlad y Basg, yng ngogledd Sbaen a de-orllewin Ffrainc yw'r Basgiaid (Basgeg: Euskaldunak).

Daw'r enw "Basg" yn wreiddiol o enw llwyth y Vascones, oedd yn ôl yr hanesydd Groegaidd Strabo yn byw yn rhan orllewinol y Pyreneau ac i'r gogledd o Afon Ebro. Mae'r ardal hanesyddol a adwaenir fel Gwlad y Basg (Euskal Herria), yn awr wedi ei rhannu rhwng Cymuned Ymreolaethol Gwlad y Basg a chymuned ymreolaethol Nafarroa, y ddau yn Sbaen, ac Iparralde, y diriogaeth Fasgaidd yn Ffrainc, sy'n ffurfio rhan o departement Pyrénées-Atlantiques.

Amcangyfrifir fod poblogaeth Gwlad y Basg i gyd tua 3 miliwn. Ceir nifer fawr o bobl o dras Fasgaidd mewn gwledydd megis yr Ariannin, Mecsico a'r Unol Daleithiau oherwydd ymfudo.

De Ewrop

Defnyddir y term De Ewrop i gyfeirio at yr holl wledydd yn ne Ewrop. Fodd bynnag, ar adegau gwahanol mae'r cysyniad o dde Ewrop wedi amrywio yn seiliedig ar gyd-destunau gwleidyddol, ieithyddol a diwylliannol yn ogystal ag elfennau megis daearyddiaeth neu hinsawdd. Mae'r mwyafrif o wledydd arfordirol yn ffinio â Môr y Canoldir. Yr eithriadau yw Portiwgal sydd ar fôr yr Iwerydd, Serbia a Gweriniaeth Macedonia sydd wedi'u hamgylchynu gan dir a Bwlgaria sy'n ffinio â'r Môr Du.

Eryr euraid

Mae'r Eryr Euraid ymhlith y mwyaf adnabyddus o'r adar rheibus. Fel yr eryrod i gyd, mae'n perthyn i'r teulu Accipitridae. Ar un adeg, roedd i'w gael; dros y cyfan o Ogledd America, Ewrop ac Asia, ond mae wedi diflannu o'r rhannau mwyaf poblog. Mae'n un o ddeuddeg rhywogaeth yn y genws Aquila.

Gibraltar

Tiriogaeth tramor, sy'n cael ei hawlio gan y Deyrnas Gyfunol yw Gibraltar. Fe'i lleolir yn ne Penrhyn Iberia. Mae'n ffinio â Sbaen i'r gogledd, gyda'r ffin yn 1.2-kilometr (0.75 milltir), ac mae Culfor Gibraltar i'r de. Ei arwynebedd yw 6.7 km2 (2.6 milltir sgwâr) a'i boblogaeth yw 33,140. Mae Craig Gibraltar yn dominyddu'r olygfa, o bob cyfeiriad.

Yn strategol, mae Gibraltar yn bwysig iawn i Luoedd Arfog Prydain a cheir safle môrlu yno.

Hanes Portiwgal

Mae hanes Portiwgal yn y cyfnod cynnar yn rhan o hanes Penrhyn Iberia yn gyffredinol. Daw'r enw Portiwgal o'r enw Rhufeinig Portus Cale. Yn y cyfnod cyn dyfodiad y Rhufeiniad, poblogid yr ardal sydd yn awr yn ffurfio Portiwgal gan nifer o bobloedd wahanol, yn cynnwys y Lwsitaniaid a'r Celtiaid. Ymwelodd y Ffeniciaid a'r Carthaginiaid a'r ardal, a bu rhan ohoni dan reolaeth Carthago am gyfnod.

Ymgorfforwyd yr ardal yn yr Ymerodraeth Rufeinig wedi i Cathago gael ei gorchfygu; roedd talaith Rufeinig Lusitania, wedi 45 CC, yn cyfateb yn fras i'r wlad bresennol. Wedi diwedd yr ymerodraeth, meddiannwyd y wlad gan lwythau Almaenig megis y Suevi, Buri a'r Fisigothiaid. Wedi'r goresgyniad Islamaidd ar ddechrau'r 8g daeth yn rhan o Al Andalus. Ffurfiwyd tiriogaeth o'r enw Portiwgal yn 868, wedi i'r Cristionogion ddechrau ad-ennill tir yn y Reconquista. Wedi buddugoliaeth dros y Mwslimiaid yn Ourique yn 1139, ffurfiwyd Teyrnas Portiwgal. Parhaodd yr ymladd yn erbyn y Mwslimiaid, ac yn 1249 cipiwyd yr Algarve gan y Cristionogion, gan sefydlu ffiniau presennol Portiwgal.

Yn niwedd y 14g, hawliwyd coron Portiwgal gan frenin Castilla, ond bu gwrthryfel poblogaidd, a gorchfygwyd Castillia ym Mrwydr Aljubarrota gan Ioan o Aviz, a ddaeth yn Ioan I, brenin Portiwgal. Dros y blynyddoedd nesaf, bu gan Bortiwgal ran flaenllaw yn y gwaith o fforio a gwladychu gwledydd tu allan i Ewrop. Yn 1415, meddiannodd Ceuta yng Ngogledd Affrica, ei gwladfa gyntaf; dilynwyd hyn gan feddiannu Madeira a'r Azores. Yn 1500, darganfuwyd Brasil gan Pedro Álvares Cabral, a'i hawliodd i goron Portiwgal, a deng mlynedd wedyn, cipiwyd Goa yn India, Ormuz yng Nghulfor Persia a Malacca yn yr hyn sy'n awr yn Maleisia. Cyrhaeddodd llongwyr Portiwgal cyn belled a Siapan ac efallai Awstralia.

Wedi marwolaeth y brenin Sebastian heb aer mewn brwydr ym Moroco, hawliwyd ei orsedd gan Philip II, brenin Sbaen, a rhwng 1580 a 1640, roedd brenin Sbaen yn frenin Portiwgal hefyd, er ei bod yn parhau i gael ei hystyried fel teyrnas annibynnol. Yn 1640, bu gwrthryfel, a chyhoeddwyd Ioan IV yn frenin Portiwgal.

O ddechrau'r 19g, dechreuodd grym Portiwgal edwino; daeth Brasil yn annibynnol yn 1822, er iddi feddiannu rhannau o Affrica yn nes ymlaen yn y ganrif, yn cynnwys y tiriogaethau sy'n awr yn wledydd Penrhyn Verde, São Tomé a Príncipe, Gini-Bissau, Angola a Mosambic.

Wedi gwrthryfel yn Lisbon, dymchwelwyd y frenhiniaeth a sefydlwyd gweriniaeth ddemocrataidd yn 1910. Yn 1926, bu gwrthryfel milwrol a sefydlwyd llywodraeth filwrol a arweiniodd at unbennaeth António de Oliveira Salazar. Collodd Portiwgal ei meddiannau yn India pan oresgynnwyd hwy gan fyddin India yn 1961. Tua dechrau'r 1960au hefyd y dechreuodd rhyfeloedd annibyniaeth yn Angola a Mosambic. Wedi gwrthryfel yn 1974, rhoddwyd diwedd ar unbennaeth a daeth Portiwgal yn wlad ddemocrataidd. Yn 1999, dychwelwyd Macau, yr olaf o'i meddiannau tramor, i Tsieina.

Hispania

Hispania oedd enw'r Rhufeiniaid ar Penrhyn Iberia, yn cynnwys rhan o dde Ffrainc yn ogystal a Sbaen a Portiwgal.

Yng nghyfnod Gweriniaeth Rhufain, rhennid Hispania yn ddwy dalaith: Hispania Citerior a Hispania Ulterior. Dan yr Ymerodraeth Rufeinig, rhannwyd Hispania Ulterior yn ddwy dalaith newydd, Baetica a Lusitania, ac ail-enwyd Hispania Citerior yn Hispania Tarraconensis. Yn ddiweddarch, daeth rhan orllewinol Tarraconensis yn dalaith Hispania Nova, a ail-enwyd wedyn yn Callaecia neu Gallaecia. Dan Diocletian, daeth rhan deheuol Tarraconensis yn dalaith Carthaginiensis.

Iberiaid

Roedd yr Iberiaid yn bobl oedd yn byw yn nwyrain a de-ddwyrain Penrhyn Iberia yn y cyfnod cynhanesyddol a'r cyfnod hanesyddol cynnar. Fe'i disgrifir fel pobl byr gyda gwallt tywyll.

Roedd yr Iberiaid wedi eu rhannu yn llwythau, ac yn ddiweddarch datblygasant wareiddiad mwy cymhleth, gyda threfi. Roedd ganddynt berthynas fasnachol â'r Ffeniciad, y Carthaginiaid a'r Groegiaid, gyda gwahanol fetalau ymhlith eu prif gynnyrch.

Cred rhai ysgolheigion eu bod wedi cyrraedd Sbaen rywbryd yn y cyfnod Neolithig, efallai cyn gynhared a'r pedwerydd mileniwm CC.. Cred eraill eu bod yn rhan o boblogaeth wreiddiol gorllewin Ewrop. Cyrhaeddodd y Celtiaid Benrhyn Iberia yn ystod y mileniwm cyntaf CC., a daeth gwareiddiad Celtaidd i deyrnasu yn y gogledd a'r gorllewin. Parhaodd y gwareiddiad Iberaidd yn y de a'r dwyrain, tra yn y canol unodd yr Iberiaid a'r Celtiaid i ffurfio'r Celtiberiaid.

Mae ei hiaith, Ibereg, yn rhywfaint o ddirgelwch. Nid yw'n un o'r ieithoedd Indo-Ewropeaidd; cred rhai ei bod yn perthyn i Basgeg ond mae eraill yn anghytuno.

Ambell dro defnyddir "Iberiaid" fel enw ar boblogaeth Ynys Prydain cyn dyfodiad y Celtiaid. Yn ôl y syniad yma, hwy gododd y cromlechi ac hefyd Côr y Cewri. Mae'n debyg mai hyn oedd ym meddwl y bardd R. Williams Parry yn ei gerdd Yr Iberiad. Erbyn hyn, fodd bynnag, nid yw'r syniad o symudiadau mawr o bobl yn disodli'r boblogaeth flaenorol yn cael ei dderbyn gan y rhan fwyaf o archaeolegwyr, sy'n credu fod y boblogaeth wedi parhau yr un fath yn ei hanfod ers o leiaf y cyfnod Neolithig.

Mwriaid

Pobl Fwslimaidd oedd yn byw ym Moroco, Penrhyn Iberia, a mannau eraill yng Ngogledd Affrica a'r Môr Canoldir yn yr Oesoedd Canol oedd y Mwriaid (ffurf unigol: Mŵr). Tarddodd o'r Arabiaid, Sbaenwyr a Berberiaid a sefydlodd y gwareiddiad Al-Andalus ym Mhenrhyn Iberia. Defnyddir y term "Mwraidd" i ddisgrifio cymdeithas a diwylliant Al-Andalus. Nid yw'r enw yn cyfeirio at grŵp ethnig benodol, gan ei bod yn cynnwys yr Ewropeaid a drodd yn Fwslimiaid yn ogystal â'r Arabiaid, Berberiaid ac Affricanwyr cymysg, ond hyd at yr 17g defnyddiwyd "Mŵr" i ddisgrifio dynion croenddu neu felynddu, er enghraifft y prif gymeriad yn y ddrama Othello gan Shakespeare.Daw'r enw o'r Lladin Maurus, a ddefnyddiwyd gyntaf gan y Rhufeiniaid i ddisgrifio trigolion nomadaidd y dalaith Mauretania, sydd heddiw yn rhan o Algeria a Moroco. Cawsant eu troi'n Fwslimiaid yn yr 8g, ac ymfudant i'r de-orllewin, y wlad a elwir heddiw Mawritania, ac i'r gogledd i Benrhyn Iberia. Trechant y Fisigothiaid yn Iberia, a chawsant eu gwthio'n ôl o Ffrainc gan Charles Martel yn 732. Sefydlwyd brenhinllin yr Umayyad yn Córdoba, a ddatblygodd yn ddiweddarach yn galiffiaeth. Er i ddiwylliant y Mwriaid ffynnu, nid oedd llywodraeth ganolog gryf ganddynt a buont yn rhyfela'n erbyn y Cristnogion yng ngogledd-orllewin Sbaen. Cwympodd y galiffiaeth yn 1031, a daeth ei thiriogaethau dan reolaeth yr Almorafidiaid ac yna'r Almohadiaid yn hwyr y 12g. Yn raddol, enillodd y Cristnogion dir oddi ar y Mwriaid yn Iberia yng nghyfnod y Reconquista. Granada oedd yr olaf o gaerau'r Mwriaid i gwympo i'r Cristnogion, a hynny yn 1492.

Arhosodd nifer o'r Mwriaid yn Sbaen, a throdd rhai ohonynt yn Gristnogion, a elwir yn Forisgiaid. Cawsant eu herlid dan y Brenin Felipe II ac yn ystod y Chwilys Sbaenaidd. Cafodd y gweddill eu halltudio yn 1609.

Môr Alboran

Môr Alboran yw'r rhan mwyaf orllewinol o Fôr y Canoldir, yn gorwedd rhwng Penrhyn Iberia a gogledd Affrica. Mae Culfor Gibraltar, sy'n gorwedd ar ben gorllewinol Môr Alboran, yn cysylltu Môr y Canoldir gyda'r Cefnfor Iwerydd.

Penrhyn yr Eidal

Un o dri penrhyn mawr yn Ne Ewrop ydy Penrhyn yr Eidal neu Benrhyn Apennine (neu Penisola Appenninica yn Eidaleg). (Y ddau arall yw Penrhyn Iberia a Phenrhyn y Balcanau). Mae Penrhyn yr Eidal yn ymestyn dros 1000 cilomedr o Ddyffryn Po yn y gogledd i Fôr y Canoldir yn y de. Oherwydd siâp y penrhyn, rhoddir y ffugenw Lo Stivale (Yr Esgid) iddo. Mae tri penrhyn llai o faint yn cyfrannu at y siâp unigryw hwn, sef Calabria, Salento a Gargano.

Mae'r penrhyn i gyd bron yn rhan o Weriniaeth yr Eidal, ar wahan i San Marino a Dinas y Fatican. Yn ogystal, fel arfer ystyrir Sisili a Malta ac ynysoedd bychain eraill megis Palagruža (Croatia), yn ynysoedd oddi ar y penrhyn ac oherwydd hyn maent wedi'u grŵpio'n ddaearyddol gydag ef.

Portiwgal

Gwlad a gweriniaeth yn ne-orllewin Ewrop yw'r Weriniaeth Bortiwgalaidd neu Phortiwgal (Portiwgaleg: Portugal). Mae hi'n gorwedd rhwng Sbaen a'r Cefnfor Iwerydd ac mae'r ynysoedd Azores a Madeira hefyd yn rhan o'r wlad. Prifddinas Portiwgal yw Lisbon.

Pyreneau

Mae'r Pyreneau (Sbaeneg: Pirineos; Ffrangeg: Pyrénées; Catalaneg: Pirineus; Aragoneg: Perineus; Basgeg: Pirinioak) yn fynyddoedd yn ne-orllewin Ewrop sy'n gwahanu Ffrainc a Sbaen. Maent yn ymestyn am tua 430 km (267 milltir) o Fae Biscay i Fôr y Canoldir.

Enwyd y Pyreneau ar ôl Pyrene (tân mewn Groeg), cymeriad mewn mytholeg Roeg, merch Bebryx, a reibiwyd gan Herakles. Ffôdd i'r mynyddoedd lle cafodd ei chladdu neu ei bwyta gan anifeiliaid gwyllt.

Mae'r ffin rhwng Ffrainc a Sbaen yn dilyn llinell copaon uchaf y Pyreneau am y rhan fwyaf o'i hyd; mae gwlad fechan Andorra ynghanol y Pyrenaeau.

Y mynyddoedd uchaf yw Pico d'Aneto neu Pic de Néthou 3,404 m (11,168 troedfedd), Mont Posets 3,375 m a Mont Perdu neu Monte Perdido 3,355 m.

Mae'r Pyreneau yn nodedig am amrywiaeth o anifeiliaid, adar a phlanhigion, gan gynnwys rhai mathau sy'n unigryw i'r mynyddoedd yma. Yn y gaeaf mae sgïo yn boblogaidd yma, tra yn yr haf mae'r Pyreneau yn gyrchfan boblogaidd iawn i gerddwyr a mynyddwyr. Mae tri llwybr cerdded pellter hir yn arwain ar draws y Pyreneau, GR 10 yn Ffrainc ar hyd y llethrau gogleddol, GR11 yn Sbaen ar draws y llethrau deheuol a'r Haute Randonnée Pyrénéenne (HRP) sy'n arwain ar hyd y copaon.

Sbaen

Gwlad yn ne-orllewin Ewrop yw Teyrnas Sbaen neu Sbaen (Sbaeneg: Reino de España neu España). Mae'n rhannu gorynys Iberia gyda Gibraltar a Phortiwgal, ac mae'n ffinio â Ffrainc ac Andorra yn y gogledd. Madrid yw'r brifddinas. Felipe VI yw brenin Sbaen.

Siglen felen

Aderyn a rhywogaeth o adar yw Siglen felen (sy'n enw benywaidd; enw lluosog: siglennod melynion) a adnabyddir hefyd gyda'i enw gwyddonol Motacilla flava; yr enw Saesneg arno yw Yellow wagtail. Mae'n perthyn i deulu'r Siglennod (Lladin: Motacillidae) sydd yn urdd y Passeriformes. Dyma aderyn sydd i'w gael yng ngwledydd Prydain, ond nid yng Nghymru.

Talfyrir yr enw Lladin yn aml yn M. flava, sef enw'r rhywogaeth.Yn y rhannau lle mae'r gaeafau'n oer mae'r Siglen Felen yn aderyn mudol, sy'n mudo o Affrica a de Asia i aeafu. Yng ngorllewin Ewrop nid yw'n symud ymhell. Mae'n aderyn o 15 – 16 cm o hyd, gyda chynffon sy'n fyrrach na'r siglennod eraill a geir yn Ewrop, er enghraifft y Siglen Lwyd. Ceir cryn amrywiaeth yn yr is-rywogaethau, yn enwedig yn lliw y pen, ond yn gyffredionol mae'r aderyn yn wyrdd-frown ar y cefn ac yn felyn ar y bol.

Vascones

Llwyth yng ngogledd Penrhyn Iberia yn y cyfnod Rhufeinig oedd y Vascones. Roedd ei tiriogaethau yn cynnwys yr ardaloedd rhwng hen gwrs Afon Ebro a rhan orllewinol y Pyreneau, yn cyfateb i gymunedau ymreolaethol Navarra, gogledd-orllewin Aragon a rhan o La Rioja yn Sbaen heddiw. Eu prif drefi oedd Pompaelo ac Oiasso.

Wedi i'r Mwslimiaid gipio'r rhan fwyaf o Sbaen ar ddechrau'r 8g, ffurfiodd disgynyddion y Vascones Ddugiaeth Vasconia a Theyrnas Pamplona. Yn ystod y Canol Oesoedd, datblygodd Teyrnas Pamplona i ffurfio Teyrnas Navarra. Credir i'r Vascones roi eu henw i'r Basgiaid.

Y diwylliant Hallstatt

Enwir y diwylliant Hallstatt ar ôl Hallstatt, pentref yn ardal Salzkammergut yn Awstria lle darganfuwyd mynwent gynhanesyddol enfawr oedd yn cynnwys 1045 o feddau. Fe'i darganfuwyd gan Ramsauer yn hanner olaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Roedd y bobl yn Hallstatt yn cloddio am halen o'r wythfed ganrif Cyn Crist hyd y bumed. Mae arddull y nwyddau yn y beddau yn nodedig iawn a cheir gwrthrychau o'r un arddull ledled Ewrop.

Rhennir diwylliant Hallstatt yn Hallstatt Dwyreiniol a Hallstatt Gorllewinol. Mae tiriogaeth y diwyyllaint dwyreinol yn cynnwys Croatia, Slofenia, gorllewin Hwngari, Awstria, Morafia, a Slofacia, ac yn wahanol iawn i'r un gorllewinol sydd yn cynnwys yr Eidal, y Swistir, dwyrain Ffrainc, de'r Almaen, a Bohemia. Ond roedd diwylliant yn newid gyda'r canrifoedd, a hefyd mewn canlyniad yr arfau, y crochenwaith a'r tlysau a gyplysir ag ef.

Gyda newidiadau mewn dulliau a symudiad poblogaeth ehangodd y diwylliant Hallstatt tua'r gorllewin: Penrhyn Iberia, Prydain ac Iwerddon. Mae'n debyg i o leiaf rhan o'r ymlediad hwn gael ei wneud gan bobl oedd yn siarad ieithoedd Celtaidd. Darganfuwyd crochenwaith du o Attica mewn beddau Hallstatt sy'n tystio i fasnach rhwng Gwlad Groeg a'r ardal Hallstatt, trwy Marseille, mae'n debyg. Nwyddau eraill a fewnforiwyd oedd ifori ac (efallai) gwin.

Yn yr ardalodd Hallstatt canolog adeiladid beddau moethus iawn ar un cyfnod. Cleddid unigolion o statws uchel o dan twmwli enfawr ger bryngaerau, e.e. ym Magdalenenberg yn ne'r Almaen. Roedd llawer o'r beddau hyn yn cynnwys cerbydau rhyfel a ieuau ceffylau, er enghraift yn Bycí Skalá, Vix a Hochdorf, ond mae enghreifftiau yn Swydd Efrog yn Lloegr hefyd. Darganfuwyd model o gerbyd rhyfel wedi ei wneud o blwm mewn bedd yn Frögg, Carinthia.

Fel arfer, ceir gweithdai gofaint efydd, arian ac aur yng nghaerau'r cyfnod, er enghraifft yn yr Heuneburg ar Afon Donwy, Mont Lassois ger Chatillon-sur-Seine yn nwyrain Ffrainc ac yn Molpir yn y Weriniaeth Tsiec.

Mae celfyddyd y cyfnod yn cynnwys gemwaith wedi ei gwneud o efydd ac aur a cherfluniau wedi eu gwneud o garreg.

Ieithoedd eraill

This page is based on a Wikipedia article written by authors (here).
Text is available under the CC BY-SA 3.0 license; additional terms may apply.
Images, videos and audio are available under their respective licenses.