Pasg

Gŵyl bwysicaf Cristnogaeth yw'r Pasg (Groeg: Πάσχα, Pascha). Mae Cristnogion drwy'r byd yn dathlu atgyfodiad Iesu Grist ar Ddydd Sul y Pasg, ar ôl ei groeshoelio ar Ddydd Gwener y Groglith, sef y Dydd Gwener cyn hynny.

Digwyddodd y Groeshoeliad yn ystod y Pasg Iddewig, gŵyl sy'n cael ei disgrifio yn yr Hen Destament (Exodus 12:1-30). Mae'r Pasg Cristnogol wedi ei sylfaenu ar y Pasg Iddewig yn drosiadol hefyd: mae'r Testament Newydd yn galw Iesu yn "Oen y Pasg" (1 Corinthiaid 5:7).

Gall "y Pasg" hefyd gyfeirio at "Dymor y Pasg", sy'n awr yn para am 50 diwrnod hyd y Pentecost. Mae'r Pasg yn nodi diwedd Tymor y Grawys.

Amrywia dyddiad y Pasg o flwyddyn i flwyddyn, rhwng diwedd mis Mawrth a diwedd mis Ebrill; neu i Eglwysi Uniongred y dwyrain, rhwng dechrau Ebrill a dechrau Mai. Bu canrifoedd lawer o ddadlau ynghylch dyddiad y Pasg, ond yn y diwedd cytunwyd i dderbyn dull yr Eglwys Alecsandraidd, yn awr yr Eglwys Goptaidd, mai'r Pasg yw'r dydd Sul cyntaf ar ôl pedwerydd diwrnod ar ddeg cylch y Lleuad sydd ar neu ar ôl cyhydnos y gwanwyn.

Resurrection
Atgyfodiad Crist gan Piero della Francesca

Traddodiadau'n ymwneud â'r Pasg

Hase mit Ostereiern (2)
Cwningen â wyau

Ceir nifer o draddodiadau sy'n ymwneud â'r Pasg, rhai ohonynt yn dyddio'n ôl i gyfnod y crefyddau Paganaidd. Yng Nghymru, fel llawer o wledydd eraill drwy'r byd, mae'n arferiad rhoi ŵy Pasg yn anrheg i ffrindiau a theulu. Ceir hefyd gysylltiad â'r gwningen - sy'n mynd yn ôl mor bell â 1600; gwaith y gwningen ydy cuddio'r wyau Pasg o gwmpas y tŷ. Dywed eraill fod cysylltiad llawer hyn i Gwningen y Pasg, sy'n mynd nôl i'r hen grefydd Geltaidd. Sonir mewn ysgrifen yn gyntaf am y traddodiad hwn yn llyfr Georg Franck von Franckenau, De ovis paschalibus[1] (Ynghylch Wyau Pasg) yn 1682[2] sy'n crybwyll hen draddodiad o Alsace am yr ysgyfarnog yn dod â wyau Pasg i'r plant. Diddorol hefyd ydy cysylltiad Santes Melangell gyda'r sgwarnog.

Gweler hefyd

Cyfeiriadau

  1. "Easter Bunny". cfi. Cyrchwyd 08/04/2012. Check date values in: |accessdate= (help)
  2. Easter Bunny - What Does He Have To Do With Easter?, occultcenter.com
Calendr Gregori

Calendr Gregori ydy'r calendr mwyaf cyffredin drwy'r byd; caiff ei ddefnyddio drwy Ewrop. Cafodd ei dderbyn (yn answyddogol) fel y dull rhyngwladol o fesur amser a dyddiadau ers degawdau yn y byd cyfathrebu, teithio a diwydiant, a chaiff ei adnabod gan sefydliadau rhyngwladol megis y Cenhedloedd Unedig.Fe'i mabwysiadwyd gan y Pab Gregory XIII ar 24 Chwefror 1582, er fod y ddogfen wreiddiol wedi'i dyddio '1581'.

Roedd y flwyddyn yn Y Calendr Iwliaidd, a wnaed yn nheyrnasiad Iŵl Cesar, yn cynnwys 365.25 o ddyddiau yn union, ond mae'r flwyddyn drofannol yn union 365.2422 diwrnod, felly pob 4 canrif roedd y Calendr Iwliaidd yn cynnwys tridiau yn ormod! Cafodd hyn ei gywiro yn y diwygiad Gregori yn 1582, sy'n cyflwyno'r dyddiau naid mewn dull gwahanol. O ganlyniad i hyn mae'r Calendr Iwlaidd 13 diwrnod y tu ôl i'r Calendr Gregori h.y. y 1af o Ionawr ar y Calendr Iwliaidd ydy'r 14eg ar y Calendr Gregori.

Roedd yr Eglwys Gatholig eisiau calendr a fyddai'n caniatáu iddynt ddathlu'r Pasg ar yr amser a benodwyd gan Gyngor Cyntaf Nicaea yn y flwyddyn 325, sef y dydd Sul wedi 14eg dydd y Lleuad sydd ar (neu wedi'r) Cyhydnos Wanwynol, tua 21 Mawrth yn amser y cyngor. Yn y flwyddyn 325 roedd y nam hwn wedi'i weld, ond, yn hytrach na thrwsio'r calendr symudodd y cyngor ddyddiad y Cyhydnos o 24 Mawrth neu 25 Mawrth i 21 Mawrth! Erbyn y 16eg canrif roedd y cyhydnos wedi symud llawer mwy a mynnodd yr Eglwys Babyddol ddiwygio'r drefn. Y gwledydd Pabyddol, felly, oedd y gwledydd cyntaf i fabwysiadu'r calendr newydd hwn.

Roedd dau newid sylfaenol felly yn y calendr newydd: yn gyntaf, addasu'r hen galendr Iwliaidd ac yn ail addasu calendr y lleuad a ddefnyddid gan yr eglwys i nodi dyddiadau'r Pasg. Meddyg o Galbria, sef Aloysius Lilius (neu Lilio), fu'n bennaf gyfrifol am y gwaith o'u cymhathu a'u diwygio. Yn gonglfaen i'w waith nododd fod angen lleihau'r nifer o ddyddiau naid o fewn pob pedair canrif o 100 i 97, gan wneud 3 allan o'r 4 blwyddyn yn gyffredin yn hytrach na blwyddyn naid.

Nodwyd hyn fel a ganlyn:

Os medrid rhannu'r flwyddyn gyda 4 - yn union - yna fe'i hystyrir yn flwyddyn naid, ar wahân i'r blynyddoedd a ellir eu rhannu gyda 100 (yn union). Ar ben hyn, mae'r blynyddoedd hynny y gellir eu rhannu gyda 400 hefyd yn flynyddoedd naid. Er enghraifft, nid ydy'r flwyddyn 1900 yn flwyddyn naid ond mae'r flwyddyn 2000 yn flwyddyn naid.

Calendr solar ydyw ef mewn gwirionedd. Mae blwyddyn Gregori'n cynnwys 365 diwrnod, ac mewn blwyddyn naid ceir diwrnod naid, sef 29 Chwefror sy'n gwneud cyfanswm o 366 diwrnod. Fel arfer mae blwyddyn naid yn diwgwydd pob pedair mlynedd ond mae'r Calendr Gregori'n gadael allan 3 diwrnod naid pob 400 mlynedd, yn wahanol i'r calendr a'i ragflaenodd.

Carchar Kilmainham

Cyn-garchar Prydeinig yw Kilmainham Gaol (Gwyddeleg: Príosún Chill Mhaighneann) a ddefnyddiwyd i ddal nifer o chwyldroadwyr Cenedlaetholgar Gwrthryfel y Pasg (1916) yn garcharorion a'u dienyddio. Mae bellach yn amgueddfa ac ar agor i'r cyhoedd. Adnewyddwyd yr hen adeilad yn y 1950au.

Con Colbert

Roedd Cornelius "Con" Colbert (Gwyddeleg: Conchúir Ó Colbáird; 19 Hydref 1888 – 8 Mai 1916) yn rebel Gwyddelig ac yn un o arweinwyr Fianna Éireann (mudiad sgowtio cenedlaetholgar Iwerddon). Cafodd ei ddienyddio gan sgwad saethu am ei ran yng Ngwrthryfel y Pasg 1916.

Datganiad Annibyniaeth Iwerddon

Roedd Datganiad Cyhoeddi Annibyniaeth y Weriniaeth (Saesneg: Proclamation of the Republic Gwyddeleg: Forógra na Poblachta), a elwir hefyd yn Ddatganiad Cyhoeddi 1916 neu’n Ddatganiad Cyhoeddi y Pasg, yn ddogfen a gyhoeddwyd gan y Gwirfoddolwyr Gwyddelig a Byddin Dinasyddion Iwerddon yn ystod Gwrthryfel y Pasg yn Iwerddon, a ddechreuodd ar 24 Ebrill 1916. Yn y ddogfen, datganodd Cyngor Milwrol y Frawdolaeth Wyddeig, a oedd yn ystyried ei hun yn "Lywodraeth Dros Dro Gweriniaeth Iwerddon", annibyniaeth Iwerddon o'r Deyrnas Unedig. Darlleniad y datganiad gan Patrick Pearse y tu allan i'r Swyddfa Post Gyffredinol (GPO) ar Stryd y Sackville (a elwir bellach yn O'Connell Street), prif dramwyfa Dulyn, wnaeth nodi dechrau’r Gwrthryfel. Cafodd y datganiad ei fodelu ar gyhoeddiad annibyniaeth tebyg a gyhoeddwyd yn ystod gwrthryfel 1803 gan Robert Emmet.

Dydd Gwener y Groglith

Gŵyl grefyddol Gristnogol sy'n coffáu croeshoeliad Iesu Grist a'i farwolaeth ar Fryn Calfaria (Golgotha yn yr iaith Hebraeg) ydy Dydd Gwener y Groglith. Daw Dydd Gwener y Groglith ar y dydd Gwener cyn Sul y Pasg, ac weithiau mae'n cydfynd â'r Pasg Iddewig. Gelwir y dydd Iau cynt yn Ddiwrnod Cablyd.

Mae'r dyddiad yn seiliedig ar yr ysgrythurau sy'n honi i'r croehoelio ddigwydd ar ddydd Gwener. Credir i hyn ddigwydd yn 33 OC, er i Isaac Newton nodi mai 34 OC oedd y dyddiad cywir. Mae'r dryswch yn codi oherwydd y gwahaniaeth rhwng y Calendr Iwliaidd a sefydlwyd gan Iwl Cesar a'r calendr Cristnogol a siap y lloer. Defnyddir trydydd dull, sy'n cwbwl annibynnol o'r gweddill, sy'n seiliedig ar gyfeiriad Pedr o "leuad waed" (Actau 2:20), sy'n awgrymu dydd Gwener 3 Ebrill 33 OC.

Dydd Llun

Mae dydd Llun yn ddiwrnod o'r wythnos. Mewn rhannau o'r byd, dyma ddiwrnod cyntaf yr wythnos, tra bod eraill yn ei ystyried yn ail ddiwrnod yr wythnos. Cafodd ei enwi gan y Rhufeiniaid ar ôl y lleuad (luna yn Lladin; dies Lunae).

Dydd Mawrth

Un o ddyddiau'r wythnos yw Dydd Mawrth sy'n dilyn Dydd Llun ac yn rhagflaeni Dydd Mercher. Mae gwahanol rannau o'r byd yn ei ystyried yn ail neu drydydd ddiwrnod yr wythnos. Cafodd ei enwi ar ôl Mawrth, duw rhyfel y Rhufeiniaid.

Dydd Sul

Mae Dydd Sul (hefyd y Sul) yn ddiwrnod o'r wythnos. Mae rhannau o'r byd yn ei ystyried yn ddiwrnod olaf yr wythnos, tra bod eraill yn ei roi yn gyntaf. Cafodd ei enwi ar ôl yr Haul (Lladin "(dies) Sōlis". Mae Cristnogaeth yn clustnodi'r Sul yn ddydd sanctaidd.

Dydd Sul y Pasg

Dydd Sul y Pasg yw'r diwrnod yr atgyfododd Iesu Grist, yn ôl Cristnogion. Croeshoeliwyd ef ar Ddydd Gwener y Groglith a'r dydd Sul dilynol, ymwelodd ei fam a Mair Fadlen y bedd, gan ei ddarganfod yn wag, yn ôl Ioan. Dywed y disgybl Mathew fod angel yn bresennol yn yr ogof. Mae'r diwrnod hwn yn rhan o wythnos y Pasg. Y Dydd Sul blaenorol yw Sul y Blodau.

Dyma diwrnod cyntaf y cyfnod a elwir yn Eastertide neu Paschaltide (Tymor y Pasg), gŵyl sy'n parhau tan y Sulgwyn, cyfnod o 7 wythnos. Yr wythnos gyntaf wedi Dydd Sul y Pasg yw 'Wythnos y Pasg' (yng Nghristnogaeth y Gorllewin) ac 'Wythnos Pascha' (yr un gair â 'Pasg') yng Nghristnogaeth y Dwyrain. Dethlir yr Atgyfodiad o'r Sul hwn am weddill yr wythnos. Ceir nifer o draddodiadau sy'n parhau hyd heddiw yn ystod yr wythnos hon, gan gynnwys Cyfarchiad y Pasg ("Cododd Crist!") ac addurno wyau Pasg.

Yn yr 20g gwnaeth nifer o unigolion a sefydliadau eglwysig nifer o geisiadau i sefydlogi'r Pasg i'r un diwrnod pob blwyddyn, a'r cais cryfaf oedd y dylai'r Pasg ddisgyn ar y Dydd Sul wedi'r ail Sul yn Ebrill. Hyd yma (2016) nid yw'r argymhelliad hwn wedi ei wireddu.

Gwirfoddolwyr Gwyddelig

Mudiad militaraidd a sefydlwyd yn 1913 gan nifer o genedlaetholwyr Gwyddelig oedd y Gwirfoddolwyr Gwyddelig (Gwyddeleg: ''Óglaigh na hÉireann''; Saesneg: 'Irish Volunteers'). Fe'i ffurfiwyd fel ymateb i ffurfio'r Ulster Volunteers yn 1912. Ei amcanion oedd: "i sicrhau a chynnal hawliau a rhyddid holl drigolion Iwerddon".Roedd nifer o aelodau'r Gwirfoddolwyr Gwyddelig hefyd yn aelodau o'r Gynghrair Wyddelig (neu'r Conradh na Gaeilge, sy'n dal i fodoli heddiw (2016)), Hen Urdd yr Hiberniaid, Sinn Féin a'r Frawdoliaeth Wyddelig Weriniaethol, sef yr IRB. Llinyn mesur o'u llwyddiant yw'r ffaith iddynt gynyddu eu haelodaeth dros nos - erbyn canol 1914 roedd ganddynt 200,000 o aelodau. Ym Medi'r flwyddyn honno fe'u holltwyd, fodd bynnag, yn bennaf oherwydd y Rhyfel Byd Cyntaf; credai Eoin MacNeill na ddylai gwyddelod ymladd ym Myddin Lloegr ac y dylai Iwerddon aros yn niwtral, barn John Redmond oedd y dylai aelodau'r Gwirfoddolwyr hefyd ymladd catrodau Gwyddelig o fyddin Lloegr. Er yr hollt, parhau wnaeth y Gwirfoddolwyr ac ymladdodd ei aelodau yng Ngwrthryfel y Pasg yn 1916, ochr-yn-ochr gyda Byddin Dinasyddion Iwerddon, Cumann na mBan, a Fianna Éireann. Yn 1919 bu hefyd yn rhan o Ryfel Annibyniaeth Iwerddon gan ailffurffio'n ddiweddarach yn fudiad a alwyd yn Fyddin Weriniaethol Iwerddon (1916–22).

Gwrthryfel y Pasg

Roedd Gwrthryfel y Pasg (Gwyddeleg: Éirí Amach na Cásca) yn wrthryfel gan genedlaetholwyr Gwyddelig yn ystod wythnos y Pasg yn 1916.

Gwrthryfel y Pasg oedd y gwrthryfel mwyaf yn hanes Iwerddon ers Gwrthryfel Gwyddelig 1798. Roedd y gwrthryfel wedi ei gynllunio yn bennaf gan yr IRB (Irish Republican Brotherhood yn Saesneg, neu Bráithreachas na Poblachta yn Wyddeleg). Parhaodd o ddydd Llun y Pasg 24 Ebrill hyd 30 Ebrill, 1916. Y saith aelod o'r pwyllgor fu'n ei gynllunio oedd Tomás Ó Cléirigh (Tom Clarke, yn Saesneg) Pádraig Mac Piarais (Padraig Pearse), Séamus Ó Conghaile (James Connolly), Éamonn Ceannt, Seosamh Pluncéid (Joseph Plunkett,) Seán Mac Diarmada a Tomás Mac Donnchadha (Thomas MacDonagh). Roedd y rhan fwyaf o'r rhai a gymerodd ran yn y gwrthryfel yn aelodau o'r Gwirfoddolwyr Gwyddelig (Óglaigh na hÉireann - Irish Volunteers), dan arweiniad Pádraig Mac Piarais, ond ymunodd aelodau o Arm Cathartha na hÉireann (Irish Citizen Army) gyda nhw dan arweiniad Séamus Ó Conghaile (James Connolly). Yn ninas Dulyn roedd y rhan fwyaf o'r ymladd, er bod rhywfaint o ymladd mewn rhannau eraill o Iwerddon. Meddiannod y gwrthryfelwyr nifer o adeiladau o gwmpas canol Dulyn, gyda'u pencadlys yn Swyddfa'r Bost. Wedi chwe diwrnod o ymladd, ildiodd y gwrthryfelwyr i'r fyddin Brydeinig. Lladdwyd 64 o'r gwrthryfelwyr yn y brwydro, tra lladdwyd 140 ac anafwyd 318 o fyddin Prydain. Lladdwyd 17 aelod o'r heddlu a thua 220 o bobl eraill.

Rhoddwyd yr arweinwyr ar eu prawf gan y fyddin, a dienyddiwyd 16 ohonynt yn ystod hanner cyntaf mis Mai, yn eu plith Séamus Ó Conghaile (James Connolly), oedd wedi ei anafu mor ddrwg fel na allai sefyll ac ac fe'i saethwyd yn eistedd mewn cadair. Ym mis Awst, crogwyd Ruairí Mac Easmainn (Roger Casement), a aethai i'r Almaen i geisio cefnogaeth i'r gwrthryfel ac a ddychwelodd i Iwerddon mewn llong danfor ychydig ddyddiau cyn dechrau'r gwrthryfel.

Gyrrwyd y gweddill o'r gwrthryfelwyr i wersyll carchar yn Fron-goch ger Y Bala. Lai na thair blynedd yn ddiweddarach, roedd llawer o'r rhai a gymerodd ran yn y gwrthryfel ymysg y rhai a sefydlodd y Dáil Cyntaf yn 1919, a arweiniodd at sefydlu Gweriniaeth Iwerddon. Yn eu plith roedd Éamon de Valera a Mícheál Ó Coileáin (Michael Collins).

Ivor Churchill Guest

Roedd Ivor Churchill Guest, is-iarll 1af Wimborne (16 Ionawr 1873 – 14 Mehefin 1939) yn wleidydd Prydeinig, ac un o Arglwyddi Raglaw olaf yr Iwerddon, gan wasanaethu yn y swydd honno ar adeg Gwrthryfel y Pasg.

Iwerddon

Mae'r erthygl yma'n trafod yr ynys. Am y wladwriaeth o'r un enw gweler Gweriniaeth IwerddonUn o'r gwledydd Celtaidd yng ngogledd orllewin Ewrop ac un ynys ym Môr Iwerydd yw Iwerddon (Gwyddeleg: Éire, a Saesneg: Ireland). Gwyddeleg, iaith Geltaidd yn perthyn i Aeleg a Manaweg, ydyw'r iaith gynhenid ond Saesneg a siaredir gan y mwyafrif ers y 19g. Mae dwy uned wleidyddol yn rhannu'r ynys: Gweriniaeth Iwerddon a Gogledd Iwerddon (darn o'r Deyrnas Unedig).

Portmeirion

Arbrawf ar arfordir Eryri ac ymgais i greu datblygu cynaladwy sy'n gydnaws a'i amgylchfyd o ran tirwedd a diwylliant yw Portmeirion ( ynganiad ). Lleolir ym Meirionnydd, a roes iddo'i enw, ynghyd â'r rhagddodiad Port i gyfleu naws Port arall, sef Portofino yn Yr Eidal, ar lannau Afon Dwyryd, ger Bae Tremadog. Mae'r fynedfa iddo hanner ffordd rhwng Penrhyndeudraeth a Phorthmadog, ar yr A487. Mae yna dai a siopau, bwytai a gwestai yn y pentref, rai ohonyn nhw'n adeiladau gwreiddiol ac eraill wedi eu cynllunio gan Clough Williams-Ellis a'i codi ganddo ar benrhyn Aber Iâ a brynodd yn 1925 a'i agor fel Gwesty dros y Pasg, 1926. Adeiladwyd y pentref gan y pensaer a'r cadwriaethwr Syr Clough Williams-Ellis er mwyn dangos bod modd datblygu lle hardd heb ei ddinistrio ac y gellid, o arddel disgyblaeth lem, ychwanegu at yr harddwch naturiol. Ar dir y gwesty gellir ymweld ag adfeilion Castell Deudraeth, a godwyd gan feibion Cynan ab Owain Gwynedd tua chanol y 12g.

Cynrychiolir yr ardal hon yn y Cynulliad Cenedlaethol gan Dafydd Elis-Thomas (Annibynnol) a'r Aelod Seneddol yw Liz Saville Roberts (Plaid Cymru).

Seosamh Máire Pluincéid

Roedd Seosamh Máire Pluincéid en: Joseph Mary Plunkett (21 Tachwedd 1887 - 4 Mai 1916) yn genedlaetholwr, bardd, a newyddiadurwr Gwyddelig ac yn un o arweinyddion Gwrthryfel y Pasg 1916.

Seán Mac Diarmada

Ymgyrchydd milwrol Gwyddelig ac un o arweinwyr y Gwrthryfel dros annibyniaeth Iwerddon oedd Seán Mac Diarmada (hefyd: Seán MacDermott; Saesneg: John MacDermott; 27 Ionawr 1883 – 12 Mai 1916). Roedd yn un o saith arweinydd Gwrthryfel y Pasg yn 1916 ac yn un a arwyddodd 'Ddatganiad Gweriniaeth Iwerddon', yn ei swydd fel aelod o Uwch-Gyngor Y Frawdoliaeth Wyddelig, Weriniaethol (IRB). Fe'i saethwyd yn farw gan sgwad-saethu yng Ngharchar Kilmainha, Dulyn yn 33 oed.

William Lowe (Uwchfrigadydd)

Roedd yr Uwchfrigadydd William Henry Muir Lowe CB (20 Hydref 1861 – 7 Chwefror 1944) yn swyddog yn y Fyddin Brydeinig. Bu'n gorchymyn lluoedd Prydain yn Nulyn yn ystod Gwrthryfel y Pasg 1916 ac ef derbyniodd ildiad y lluoedd gweriniaethol.

Y Deyrnas Unedig

Gwladwriaeth yw Teyrnas Unedig Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon neu'r Deyrnas Unedig (DU) (hefyd Y Deyrnas Gyfunol (DG)), sy'n cynnwys gwledydd Prydain Fawr (Lloegr, Yr Alban, Cymru) a thalaith Gogledd Iwerddon. Fe'i lleolir i ogledd-orllewin cyfandir Ewrop ac fe'i hamgylchynir gan Fôr y Gogledd, Môr Udd a Môr Iwerydd. Hefyd o dan sofraniaeth y Deyrnas Unedig, ond heb fod yn rhan o'r brif uned gyfansoddiadol, mae tiriogaethau dibynnol y Goron yn Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw, a nifer o diriogaethau tramor.

Y Frawdoliaeth Wyddelig Weriniaethol

Cymdeithas gyfrinachol oedd y Y Frawdoliaeth Wyddelig, Weriniaethol (Saesneg: Irish Republican Brotherhood (IRB; Gwyddeleg: Bráithreachas Phoblacht na hÉireann) a sefydlwydd gyda'r bwriad i sefydlu Iwerddon gyfan yn "weriniaeth ddemocrataidd annibynol". Bu'r mudiad yn bodoli rhwng 1858 a 1924. Roedd yn allweddol yn nhrefniadau Gwrthryfel y Pasg yn 1916.

Sefydlwyd chwaer-fudiad yn Unol Daleithiau America gan John O'Mahony a Michael Doheny, mudiad a ddaeth i'w adnabod fel y Frawdolaeth Ffenaidd (Gaeleg: Bráithreachas na bhFíníní; Saesneg: Fenian Brotherhood, ac mewn Gaeleg, yn ddiweddarach: Clan na Gael). Gelwir aelodau'r ddau fudiad yn 'Ffeniaid'. Cymerodd y Frawdoliaeth Wyddelig, Weriniaethol (yr IRB) ran allweddol yn hanes Iwerddon (1801-1922), rhan bwysicach efallai nag unrhyw fudiad arall. Yr IRB oedd prif ladmerydd cenedlaetholdeb Gwyddelig, yn ystod yr ymgyrch dros hunanlywodraeth i Iwerddon, ac yn yr ymgyrch i dorri'n rhydd oddi wrth 'Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon'. Etifeddodd y mudiad enw da rhagflaenwyr megis y 'Gwyddelod Unedig' (United Irishmen) o'r 1790au a 'Gwyddelod Ifanc' (Young Irelander) y 1840au.

Y Frawdoliaeth Wyddelig, Weriniaethol a gynlluniodd Wrthryfel y Pasg yn 1916, ac yn y man a esgorodd ar sefydlu'r Dáil Éireann cyntaf. Wedi Rhyfel Annibyniaeth Iwerddon ac arwyddo Cytundeb Iwerddon-Lloegr yn 1921, gwawriodd llawer o'u hamcanion pan sefydlwyd 'Gwladwriaeth Rydd Iwerddon'. Ond,nid oedd yn cynnwys Gogledd Iwerddon.

Ieithoedd eraill

This page is based on a Wikipedia article written by authors (here).
Text is available under the CC BY-SA 3.0 license; additional terms may apply.
Images, videos and audio are available under their respective licenses.