Otho

Marcus Otho Caesar Augustus neu Otho (25 Ebrill 32 OC16 Ebrill 69 OC) oedd seithfed Ymerawdwr Rhufain. Ganwyd Marcus Salvius Otho. Roedd yr ail o bedwar ymerawdwr yn ystod Blwyddyn y Pedwar Ymerawdwr (69 OC).

Roedd Otho o hen deulu pendefigaidd yn Etruria. Daeth i amlygrwydd fel un o'r gŵyr ieuanc oedd yn gyfeillion i'r ymerawdwr Nero. Dywedir i Otho gyflwyno ei wraig Poppea Sabina i'r ymerawdwr, ac i Nero syrthio mewn cariad a hi. Gorfodwyd Otho i ysgaru ei wraig a gadael Rhufain, gan ddod yn rhaglaw talaith Lusitania.

Bu Otho yn Lusitania am ddeng mlynedd, a dywedir iddo lywodraethu'n dda. Pan fu gwrthryfel yn erbyn Nero, penodwyd Galba, rhaglaw talaith gyfagos Hispania Tarraconensis, yn ymerawdwr yn ei le, a chefnogwyd ef gan Otho. Dychwelodd Otho i Rufain yng nghwmni Galba, a chan fod yr ymerawdwr newydd yn 71 oed a'i ddau fab wedi marw o'i flaen, yr oedd Otho yn llawn gobaith cael ei ddewis gan Galba fel ei olynydd. Siomwyd ef pan ddewisodd Galba Lucius Calpurnius Piso Licinianus yn olynydd yn Ionawr 69.

Penderfynodd Otho geisio codu gwrthryfel, a daeth i gysylltiad a rhai o filwyr Gard y Praetoriwm. Ar fore y 15 Ionawr aeth Otho i wersyll y Praetoriaid, lle cyhoeddwyd ef yn ymerawdwr. Lladdwyd Galba gan rai o'r milwyr. Fodd bynnag, yn fuan ar ôl dod yn ymerawdwr daeth Otho i wybod bod llengoedd Germania wedi cyhoeddi Vitellius yn ymerawdwr. Enillodd milwyr Otho un fuddugoliaeth dros ran o fyddin Vitellius ger Cremona dan y cadfridog Gaius Suetonius Paulinus. Fodd bynnag cododd amheuaeth am deyrngarwch Suetonius Paulinus, a phan gynghorodd y dylid osgoi brwydr am gyfnod, anwybyddwyd ei farn ac ymosododd milwyr Otho ar y gelyn. Gorchfygwyd llengoedd Otho gan lengoedd Vitellius ym mrwydr gyntaf Bedriacum. Roedd Otho ei hun wedi aros ar ôl yn Brixellum i ddisgwyl canlyniad y frwydr, a phan glywodd fod ei fyddin wedi colli'r dydd, penderfynodd ei ladd ei hun yn hytrach na pharhau i ymladd.

Rhagflaenydd:
Galba
Ymerawdwr Rhufain
15 Ionawr16 Ebrill 69 OC
Olynydd:
Vitellius
Otho
OthoDen
14 Ebrill

14 Ebrill yw'r pedwerydd dydd wedi'r cant (104ydd) o'r flwyddyn yng Nghalendr Gregori (105ed mewn blynyddoedd naid). Erys 261 diwrnod hyd diwedd y flwyddyn.

16 Ebrill

16 Ebrill yw'r chweched dydd wedi'r cant (106ed) o'r flwyddyn yng Nghalendr Gregori (107fed mewn blynyddoedd naid). Erys 259 diwrnod arall hyd ddiwedd y flwyddyn.

25 Ebrill

25 Ebrill yw'r pymthegfed dydd wedi'r cant (115fed) o'r flwyddyn yng Nghalendr Gregori (116eg mewn blynyddoedd naid). Erys 250 diwrnod arall hyd ddiwedd y flwyddyn.

32

1 CC - 1g - 2g 10au CC 00au CC 00au 10au 20au 30au 40au 50au 60au 70au 80au

27 28 29 30 31 32 33 34 35 36 37

58

1 CC - 1g - 2g 00au 10au 20au 30au 40au 50au 60au 70au 80au 90au 100au

53 54 55 56 57 58 59 60 61 62 63

69

1 CC - 1g - 2g 20au 30au 40au 50au 60au 70au 80au 90au 100au 110au 120au

64 65 66 67 68 69 70 71 72 73 74

Blwyddyn y Pedwar Ymerawdwr

Blwyddyn y Pedwar Ymerawdwr oedd y flwyddyn 69 OC, pan fu pedwar ymerawdwr yn teyrnasu yn Rhufain: Galba, Otho, Vitellius a Vespasian.

Dechreuodd y flwyddyn gyda Galba yn ymerawdwr. Roedd wedi ei enwi'n ymerawdwr gan Senedd Rhufain yn dilyn hunanladdiad Nero y flwyddyn flaenorol. Roedd Galba'n oedrannus a heb blant, felly roedd angen iddo enwi etifedd. Roedd Otho wedi disgwyl cael ei enwi'n etifedd, ond mabwysiadodd Galba Calpurnius Piso Licinianus fel mab a'i enwi'n etifedd. Ymatebodd Otho trwy gynllwynio gyda milwyr o Gard y Praetoriwm i wrthryfela yn erbyn Galba. Bu'r gwrthryfel yn llwyddiannus, a lladdwyd Galba a Piso. Cyhoeddwyd Otho yn ymerawdwr.

Yn y cyfamser roedd y llengoedd yn yr Almaen wedi cyhoeddi Vitellius yn ymerawdwr, a byddin gref wedi cychwyn tua Rhufain i ennill yr orsedd iddo. Cyfarfu'r ddwy fyddin yng ngogledd yr Eidal, a gorchfygwyd llengoedd Otho gan fyddin Vitellius ym Mrwydr Gyntaf Bedriacum. Lladdodd Otho ei hun, a daeth Vitellius yn ymerawdwr.

Nid oedd llengoedd Judea a Syria yn barod i dderbyn Vitellius fel ymerawdwr, a chyhoeddasant Vespasian, oedd yn ymladd y Gwrthryfel Iddewig yn Judea, yn ymerawdwr. Cychwynnodd byddin tua Rhufain, ond cyn iddynt gyrraedd gwelodd M. Antonius Primus ei gyfle, a pherswadiodd lengoedd Moesia i gefnogi Vespasian. Arweiniodd Primus ei fyddin tua'r Eidal, ac yn Ail Frwydr Bedriacum gorchfygodd fyddin Vitellius. Aeth ymlaen i gipio Rhufain, a lladdwyd Vitellius yn fuan wedyn.

Yn wahanol i'w ragflaenwyr, llwyddodd Vespasian i gadw yr orsedd hyd ei farwolaeth, a dilynwyd ef gan ei fab Titus.

Cymerodd llwyth y Batafiaid fantais ar ddigwyddiadau'r flwyddyn i wrthryfela yn erbyn Rhufain dan arweiniad Gaius Julius Civilis. Gallasant ddinistrio rhai llengoedd Rhufeinig a pherswadio llengoedd eraill i ochri gyda hwy yn erbyn Rhufain. Wedi i Vespasian ddod yn ymerawdwr, gyrrwyd byddin dan Quintus Petillius Cerialis i roi terfyn ar y gwrthryfel.

Brwydr Bedriacum

Gall Brwydr Bedriacum, weithiau Brwydr Cremona, gyfeirio at ddwy frwydr a ymladdwyd rhwng byddinoedd Rhufeinig yn 69 O.C. ger pentref Bedriacum a thref Cremona yng ngogledd yr Eidal. Roedd y ddwy frwydr yn frwydau allweddol yn rhyfeloedd Blwyddyn y Pedwar Ymerawdwr.

Ym Mrwydr gyntaf Bedriacum ar 14 Ebrill, gorchfygwyd byddin Otho gan fyddin Vitellius. Lladdodd Otho ei hun, a meddiannodd Vitellius ddinas Rhufain fel ymerawdwr.

Yn Ail frwydr Bedriacum ar 24 - 25 Hydref, gorchfygwyd byddin Vitellius gan fyddin oedd yn cefnogi Vespasian, dan Antonius Primus. Aeth Primus ymlaen i feddiannu Rhufain, gan osod Vespasian ar yr orsedd fel ymerawdwr, a rhoi diwedd ar y rhyfel cartref.

Brwydr gyntaf Bedriacum

Ymladdwyd Brwydr gyntaf Bedriacum ar 14 Ebrill 69 O.C. gerllaw Bedriacum yng ngogledd yr Eidal rhwng dwy fyddin Rufeinig. Roedd yn un o nifer o frwydrau a ymladdwyd yn yr hyn a ddaeth i'w galw'n Flwyddyn y Pedwar Ymerawdwr, rhwng byddin yr ymerawdwr Otho a byddin Vitellius, oedd wedi ei gyhoeddi'n ymerawdwr gan y llengoedd ar afon Rhein.

Roedd Vitellius yn symud i gyfeiriad dinas Rhufain gyda dwy leng lawn, Legio V Alaudae a Legio XXI Rapax, ynghyd a rhai o filwyr nifer o lengoedd eraill a milwyr cynorthwyol, tua 70,000 i gyd. I'w gwrthwynebu, roedd gan Otho ddwy leng, Legio I Adiutrix a Legio XIII Gemina, gyda rhai milwyr o Legio XIIII Gemina a Gard y Praetoriwm.

Enillodd milwyr Otho un fuddugoliaeth dros ran o fyddin Vitellius ger Cremona dan y cadfridog Gaius Suetonius Paulinus. Fodd bynnag cododd amheuaeth am deyrngarwch Suetonius Paulinus, a phan gynghorodd y dylid osgoi brwydr am gyfnod, anwybyddwyd ei farn ac ymosododd milwyr Otho ar y gelyn. Diweddodd y frwydr mewn buddugoliaeth i fyddin Vitellius, gyda tua 40,000 o laddedigion.

Roedd Otho ei hun wedi aros ar ôl yn Brixellum i ddisgwyl canlyniad y frwydr, a phan glywodd fod ei fyddin wedi colli'r dydd, penderfynodd ei ladd ei hun yn hytrach na pharhau i ymladd. Aeth Vitellius ymlaen i feddiannu Rhufain.

Gaius Suetonius Paulinus

Roedd Gaius Suetonius Paulinus, weithiau'n cael ei sillafu Paullinus (fl. 42 - 69), yn gadfridog a llywodraethwr Rhufeinig sy'n enwog am ei ymosodiad ar Ynys Môn a'i fuddugoliaeth tros Buddug (Boudica).

Galba

Servius Galba Caesar Augustus neu Galba (24 Rhagfyr 3 CC – 15 Ionawr 69 OC) oedd chweched Ymerawdwr Rhufain. Ganwyd Servius Sulpicius Galba. Roedd yn un o bedwar ymerawdwr yn ystod Blwyddyn y Pedwar Ymerawdwr (69 OC).

Ganed Galba yn Tarracina, o deulu bonheddig. Yn ystod teyrnasiad Caligula daeth yn bennaeth ar fyddin Germania Superior. Cymerodd ran yng ngoresgyniad Prydain dan Claudius. Dan yr ymerawdwr Nero daeth yn Rhaglaw ar dalaith Hispania Tarraconensis yn Sbaen. Pan laddodd Nero ei hun yn 68 OC wedi gwrthryfel yn ei erbyn, penderfynodd y Senedd alw Galba i fod yn ymerawdwr.

Roedd Galba yn 71 oed ac yr oedd ei ddau fab wedi marw o'i flaen. Roedd felly yn bwysig ei fod yn dewis ei olynydd yn fuan. Roedd Marcus Salvius Otho wedi gobeithio cael ei ddewis ond yn y diwedd penderfynodd Galba enwi Lucius Calpurnius Piso Frugi Licinianus. Oherwydd hyn cynllwyniodd Otho yn erbyn Galba, a pherswadiodd y milwyr yng ngarsiwn Rhufain i'w gyhoeddi ef yn ymeradwr. Lladdwyd Galba gan rai o'r milwyr, a dilynwyd ef gan Otho.

Gard y Praetoriwm

Gard y Praetoriwm oedd y gwarchodlu arbennig a gadwai ymerodron Rhufain. Bu gan y Praetoriaid ddylanwad mawr yn filwrol ac yn wleidyddol am ganrifoedd.

Daw'r gair "Praetoriwm" o praetorium, sef pabell cadfridog Rhufeinig pan oedd ar ymgyrch. Roedd yn arferiad i'r cadfridog ddewis milwyr i warchod y babell a'i berson ef ei hun, a gelwid y rhain y cohors praetoria. Pan ddaeth Augustus yn ymerawdwr cyntaf Rhufain penderfynodd greu gard sefydlog. Gard y Praetoriwm oedd yr unig filwyr oedd a hawl i fod yn arfog i'r de o Afon Rubicon, oedd yn ffin ogleddol Yr Eidal.

Yn 23 OC perswadiodd pennaeth y Gard, Lucius Aelius Sejanus, yr ymerawdwr Tiberius i adeiladu gwersyll newydd, y Castra Praetoria, ychydig tu allan i Rufain. Daeth y Gard i gymeryd rhan flaenllaw mewn llawer o gynllwynion i gael gwared ag ymerodron a chreu ymerodron newydd, gan gychwyn a llofruddiaeth Caligula yn 41. Dewisodd y Praetoriaid Claudius i fod yn ymerawdwr yn ei le. Ym Mlwyddyn y Pedwar Ymerawdwr, 69, codasant Otho yn ymerawdwr, gan ladd yr ymerawdwr blaenorol, Galba.

Yn raddol daeth y Gard yn llai pwysig, a rhoddodd yr ymerawdwr Cystennin I ddiwedd arno yn dilyn ei fuddugoliaeth dros Maxentius, oedd yn dibynnu ar gefnogaeth y Praetoriaid, yn 312.

Legio XIII Gemina

Lleng Rufeinig oedd Legio XIII Gemina ("Efaill"). Codwyd y lleng gan Iŵl Cesar yn 57 CC ar gyfer ei ymgyrch yng Ngâl, a'i symbol oedd y llew. Hon oedd y lleng oedd gyda Cesar pan groesodd afon Rubicon i'r Eidal yn 49 CC, gan ddechrau y rhyfel cartref yn erbyn Pompeius.

Ymladdasant dros Cesar ym mrwydrau Dyrrhachium a Pharsalus. Wedi'r fuddugoliaeth yn erbyn Pompeius. chwalwyd y lleng a rhoddwyd tiroedd i'r hen filwyr, on yn 46 CC, fe'i hail-ffurfiwyd i ymladd yn Affrica. Wedi ennill brwydrau Thapsus a Munda, chwalwyd y lleng eto.

Ail-ffurfiwyd y lleng gan Octavianus, yr ymerawdr Augustus yn ddiweddarach, yn 41 CC. a chafodd yr enw Gemina. Yn 16 CC, symudwyd y lleng i dalaith Pannonia. Wedi i Publius Quinctilius Varus gael ei orchfygu gan y llwythau Almaenaidd ym Mrwydr Fforest Teutoburg yn 9 OC, symudwyd y lleng i Augusta Vindelicorum (Augsburg heddiw). Yn 45, gyrrodd yr ymerawdr Claudius y lleng yn ôl i Pannonia.

Ym Mlwyddyn y Pedwar Ymerawdr, 69, cefnogodd y lleng Otho, ac ymladdasant drosto ym Mrwydr gyntaf Bedriacum yn erbyn byddin Vitellius. Wedi i Otho gael ei orchfygu, cefnogodd y lleng Vespasian yn erbyn Vitellius, gan ymladd yn Ail frwydr Bedriacum yn erbyn byddin Vitellius, yn fuddugol y tro hwn.

Dan yr ymerawdwr Trajan, ymladdasantt yn erbyn y Daciaid. Ceir y cofnod olaf am y lleng yn y Notitia Dignitatum, tua 400, pan oedd ar afon Ewffrates.

Marcus Antonius Primus

Milwr a gwleidydd Rhufeinig oedd Marcus Antonius Primus (30 – wedi 81). Bu ganddo ran allweddol yn nigwyddiadau Blwyddyn y Pedwar Ymerawdwr yn 69.

Ganed ef yn Tolosa, a daeth yn aelod o Senedd Rhufain yn ystod teyrnasiad Nero, ond taflwyd ef o'r senedd a'i alltudio o Rufain yn 61. Dan yr ymerawdwr Galba, daeth yn aelod o'r senedd eto, a phenodwyd ef yn legad Legio VII Galbiana yn Pannonia.

Wedi marwolaeth Otho, perswadiodd ei leng a llengoedd eraill Pannonia i gefnodi Vespasian, oedd yn hawlio'r orsedd. Aeth a byddin i'r Eidal, lle gorchfygodd fyddin yr ymerawdwr Vitellius yn Ail frwydr Bedriacum ar 24 - 25 Hydref. Aeth ymlaen i feddiannu dinas Rhufain.

Am gyfnod, hyd nes i fyddin arall Vespasian dan Gaius Licinius Mucianus gyrraedd, ef oedd yn rheoli Rhufain, a phenododd y senedd ef yn Gonswl.

Rhestr Ymerodron Rhufeinig

Dyma Restr yr Ymerodron Rhufeinig (neu Ymerodron Rhufain neu Ymerawdwyr Rhufain). Dangosir blynyddoedd eu teyrnasiad wrth eu henwau.

(Sylwer na fu Iŵl Cesar erioed yn ymerawdwr (princeps), daethpwyd i'w alw'n unben (dictator) am oes yn 45 CC [nid ef oedd y Rhufeiniwr cyntaf i fod yn dictator]).

Suetonius

Mae'r erthygl yma yn trafod yr hanesydd. Am y cadfridog Rhufeinig a orchfygodd Buddug, gweler Gaius Suetonius Paulinus.Hanesydd Rhufeinig oedd Gaius Suetonius Tranquillus (ca. 69/75 - ar ôl 130), a adnabyddir fel rheol fel Suetonius.

Ganed Suetonius yn Hippo Regius (yn awr Annaba, Algeria), yn fab i Suetonius Laetus, a fu'n ymladd dros yr ymerawdwr Otho yn erbyn Vitellius ym mrwydr gyntaf Bedriacum yn 69.

Roedd yn gyfaill i'r Seneddwr Plinius yr Ieuengaf, a thrwyddo ef daeth i sylw yr ymerodron Trajan a Hadrian. Bu'n gwasanaethu dan Plinius pan oedd Plinius yn broconswl Bithynia Pontus o 110 hyd 112. Yn ddiweddarach daeth yn ysgrifennydd i'r ymerawdwr Hadrian, ond yn 122, diswyddodd Hadrian ef am ddangos diffyg parch i't ymerodres Vibia Sabina. Mae'n posibl ei fod wedi cael ei swydd yn ôl yn nes ymlaen.

Vespasian

Caesar Vespasianus Augustus neu Vespasian (17 Tachwedd 9 OC – 23 Mehefin 79 OC) oedd nawfed Ymerawdwr Rhufain. Ganwyd Titus Flavius Vespasianus. Roedd y pedwerydd o bedwar ymerawdwr yn ystod Blwyddyn y Pedwar Ymerawdwr (69 OC), a'r unig un o'r pedwar i fedru cadw ei afael ar yr orsedd. Teyrnasodd hyd 23 Mehefin 79.

Ganed Vespasian yn Falacrina, yn aelod o deulu gweddol gefnog ond ymhell o fod yn amlwg. Ef oedd yr ymerawdwr cyntaf nad oedd yn dod o deulu aristocrataidd. Gwasanaethoedd Vespasian fel tribwn militaraidd yn Thrace pan oedd Tiberius yn ymerawdwr, a bu'n Praetor yn y flwyddyn 40 dan Caligula. Yn y blynyddoedd 43 a 44, pan oresgynnwyd Prydain yn nheyrnasiad Claudius, yr oedd Vespasian yn legad y lleng Legio II Augusta. Yn ddiweddarach gwnaed ef yn Gonswl ac wedyn yn Broconswl talaith Affrica.

Pan ddaeth Nero yn ymerawdwr, aeth a Vespasian gydag ef ar daith trwy Wlad Groeg i roi cyfle i'r Groegiaid wrando ar yr ymerawdwr yn canu. Yn anffodus syrthiodd Vespasian i gysgu yn ystod un o berfformiadau Nero, a chollodd ei ffafr am gyfnod. Yn ddiweddarach dewisodd Nero ef i ddelio a gwrthryfel yr Iddewon yn nhalaith Judea. Yn dilyn hunanladdiad Nero yn 68, lladdwyd ei olynydd Galba yn 69 a chyhoeddwyd Otho yn ymerawdwr, cyn iddo yntau gael ei ddisodli gan Vitellius. Trafododd Vespasian y mater gyda rhaglaw Syria, Gaius Licinius Mucianus, a chyhoeddodd llengoedd Judea a Syria Vespasian fel ymerawdwr. Cefnogwyd Vespasian hefyd gan y llengoedd ar Afon Donaw dan Marcus Antonius Primus, a'r llengoedd hyn oedd y cyntaf i gyrraedd yr Eidal. Yn ail frwydr Bedriacum gorchfygodd byddin Primus lengoedd Vitellius, cyn mynd ymlaen i Rufain a lladd Vitellius ei hun.

Yn wahanol i'r tri ymerawdwr o'i flaen, llwyddodd Vespasian i'w sefydlu ei hun yn gadarn ar yr orsedd. Teyrnasodd am ddeng mlynedd, a dilynwyd ef gan ei fab hynaf Titus. Vespasian oedd yn gyfrifol am adeiladu'r Colisewm yn Rhufain.

Vitellius

Aulus Vitellius (7 neu 24 Medi 12 neu 15 OC – 20 Rhagfyr 69 OC) oedd wythfed Ymerawdwr Rhufain. Roedd y trydydd o bedwar ymerawdwr yn ystod Blwyddyn y Pedwar Ymerawdwr (69 OC).

Perthynai Vitellius i deulu amlwg yn Rhufain, a daeth yn Gonswl yn 48 OC. Yn ystod teyrnasiad Nero penodwyd ef yn Broconswl talaith Affrica, Yn 68 OC penododd yr ymerawdwr Galba ef yn bennaeth y fyddin yn nhalaith Germania Inferior. Cynorthwyodd ei filwyr i orchfygu gwrthryfel gan Julius Vindex, ond yr oedd y milwyr yn teimlo nad oeddynt wedi cael y diolch dyledus gan Galba am wneud hyn. Ar 2 Ionawr 69 cyhoeddwyd Vitellius yn ymerawdwr gan ei lengoedd. Yn fuan wedyn cychwynodd y fyddin am Rufain.

Ym mrwydr gyntaf Bedriacum, gorchfygodd byddin Vitellius lengoedd Otho, oedd wedi disodli Galba fel ymerawdwr. Yn dilyn hunanladdiad Otho, aeth Vitellius ymlaen i Rufain fel ymerawdwr. Erbyn hyn yr oedd cystadleuydd arall am yr ymerodraeth. Roedd y llengoedd yn nhlaleithiau Judea a Syria wedi cyhoeddi Titus Flavius Vespasianus yn ymerawdwr, a chychwynodd llengoedd y dwyrain tua Rhufain i geisio ennill yr orsedd i Vespasian. Gorchfygwyd llengoedd Vitellius gan fyddin dan arweiniad Antonius Primus yn ail frwydr Bedriacum. Aeth byddin Primus ymlaen i Rufain, lle lladdwyd Vitellius. Daeth Vespasian yn ymerawdwr yn ei le.

Yr Ymerodraeth Rufeinig

Yr Ymerodraeth Rufeinig (Lladin: Imperium Romanum) yw'r term a ddefnyddir am y cyfnod yn hanes y wladwriaeth Rufeinig a ddilynodd y Weriniaeth Rufeinig ac a barhaodd hyd y 5g OC yn y gorllewin, ac fel yr Ymerodraeth Fysantaidd hyd 1453 yn y dwyrain. Yn wahanol i'r Weriniaeth, lle'r oedd yr awdurdod yn nwylo Senedd Rhufain, llywodraethid yr ymerodraeth gan gyfres o ymerawdwyr, gyda'r Senedd yn gymharol ddi-rym. Awgrymwyd nifer o ddyddiadau gan haneswyr ar gyfer diwedd y weriniaeth a dechrau'r ymerodraeth; er enghraifft dyddiad apwyntio Iŵl Cesar fel dictator am oes yn 44 CC, buddugoliaeth etifedd Cesar, Octavianus ym Mrwydr Actium yn 31 CC, a'r dyddiad y rhoddodd y Senedd y teitl "Augustus" i Octavianus (16 Ionawr, 27 CC).

Roedd Rhufain eisoes wedi meddiannu tiriogaethau helaeth yng nghyfnod y Weriniaeth; daeth yn feistr ar ran o Sbaen yn dilyn ei buddugoliaeth yn y rhyfel cyntaf yn erbyn Carthago, a dilynwyd hyn gan diriogaethau eraill. Cyrhaeddodd yr ymerodraeth ei maint mwyaf yn ystod teyrnasiad Trajan tua 177. Yr adeg honno roedd yr ymerodraeth yn ymestyn dros tua 5,900,000 km² (2,300,000 milltir sgwâr) o dir.

Thannwyd yr ymerodraeth yn ddwy ran, yn y gorllewin a'r dwyrain, fel rhan o ddiwygiadau'r ymerawdwr Diocletian. Daeth yr ymerodraeth Rufeinig yn y gorllewin i ben yn 476 pan ddiorseddwyd yr ymerawdwr olaf, Romulus Augustus. Parhaodd yr ymerodraeth yn y dwyrain am bron fil o flynyddoedd wedi hyn fel yr Ymerodraeth Fysantaidd. Cafodd yr ymerodraeth Rufeinig ddylanwad enfawr ar y byd, o ran iaith, crefydd, pensaernïaeth, athroniaeth, cyfraith a llywodraeth; dylanwad sy'n parhau hyd heddiw.

Ieithoedd eraill

This page is based on a Wikipedia article written by authors (here).
Text is available under the CC BY-SA 3.0 license; additional terms may apply.
Images, videos and audio are available under their respective licenses.