Oes yr Efydd yng Nghymru

Dechreuodd Oes yr Efydd yng Nghymru tua 2500 CC., pan ymddangosodd eitemau metel am y tro cyntaf; copr yn gyntaf, yna efydd, sy'n gymysgedd o gopr ac ychydig o dun, llawer caletach na chopr ar ei ben ei hun. Y gred draddodiadol oedd fod pobl wahanol wedi mewnfudo, gan ddwyn y dechnoleg newydd gyda hwy a disodli'r trigolion blaenorol. Erbyn hyn, nid yw'r rhan fwyaf o archaeolegwyr yn credu fod hyn wedi digwydd ar raddfa fawr, ond yn hytrach fod y boblogaeth gynhenid wedi mabwysiadu'r dechnoleg newydd. Roedd y tywydd yn gynnar yn Oes yr Efydd tua 2100-1400 CC. yn gynhesach nag yw ar hyn o bryd, ac mae llawer o weddillion sefydliadau ar dir uchel sy'n awr yn fawnog anial.

Roedd nifer o fwyngloddiau yng Nghymru yn cynhyrchu copr ar gyfer gwneud efydd, yn arbennig mwynfeydd Pen y Gogarth ger Llandudno, lle roedd mwyngloddio ar raddfa fawr. Defnyddid y copr yma i gynhyrchu eitemau o efydd yn lleol. Enwyd arddull y rhain ar ôl y casgliad pwysicaf sydd wedi ei ddarganfod, ym Mharc Acton gerllaw Wrecsam. Datblygwyd y rhain, pennau bwyeill yn arbennig, tua diwedd cyfnod cynnar Oes yr Efydd, ac maent yn nodweddiadol o ran eu harddull. Caswant eu hallforio cyn belled a Llydaw a'r Almaen.

Gwelir gwahaniaeth yn arferion claddu yn Oes yr Efydd o'i gynharu a'r cyfnod Neolithig o'i flaen. Yn hytrach na chladdfeydd cymunedol mewn siamberi claddu, mae'r cyrff, neu'r gweddillion ar ôl amlosgi, yn cael eu claddu yn unigol mewn tomeni crynion gyda rhywfaint o grochenwaith neu eitemau eraill. Y patrwm cyffredin yng Nghymru erbyn tua 2000 CC. yw nifer o gladdedigaethau unigol mewn un domen; er enghraifft Bedd Branwen ar Ynys Môn a Bedd Taliesin yng Ngheredigion.

Cychwynwyd codi cytiau crynion tua 1,500 C.C. a daethant i ben tua'r adeg y daeth y Rhufeiniaid i Ynys Prydain. Mae'r brodorion a'u cododd hefyd yn gyfrifol am godi carneddau, beddrodau siambr, twmpathau, cylchoedd cerrig, bryngaerau a meini hirion.

Un o'r darganfyddiadau mwyaf syfrdanol o Gymru yw'r clogyn aur a ddarganfuwyd mewn beddrod o'r enw Bryn yr Ellyllon, ger Yr Wyddgrug. Mae hwn yn dyddio o tua 1900-1600 CC., yn pwyso 560 gram ac wedi ei wneud o un darn o aur. Ychydig iawn o arfau sydd wedi eu darganfod mewn beddau yng Nghymru, ac nid oes arwydd fod amddiffynfeydd yn gwarchod sefydliadu o'r cyfnod, sy'n awgrymu cymdeithas heddychlon.

Early Bronze Age hoard
Rhan o gelc o Oes yr Efydd, darganfuwyd yn Yr Orsedd, Wrecsam.

O tua 1250 CC. dirywiodd y tywydd, a daeth hyn yn amlycach o tua 1000 CC., gyda mwy o law a hafau oerach. Cynyddodd y broses o ffurfio mawn, ac mae'n debyg i lawer o sefydliadau ar yr ucheldiroedd gael eu gadael. Awgryma rhai ysgolheigion fod hyn wedi arwain at ymryson am dir, ac ymddangosiad y bryngeiri cyntaf tua 800 CC..

Tua diwedd Oes yr Efydd daw arfau yn fwty cyffredin. Ymddengys fod llawer o'r rhain wedi eu gwneud tu allan i Gymru, ond mae bwyeill a chelfi eraill o wneuthuriad lleol. Gellir gweld pedair arddull wahanol o'r celfi hyn; yn y gogledd-orllewin, gogledd-ddwyrain, de-ddwyrain a de-orllewin. Yn ddiddorol, mae hyn yn cyfateb yn fras i diriogaethau'r gwahanol lwythau a gofnodir yn ddiweddarach yn Oes yr Haearn, yr Ordoficiaid, Deceangli, Silwriaid a'r Demetae.

Cred rhai ysgolheigion fod iaith Geltaidd yn cael ei siarad yng Nghymru cyn belled yn ôl a'r cyfnod yma.

Cyfnodau cynhanes
H   La Tène   Protohanes
  Hallstatt
Oes yr Haearn
  Oes ddiweddar yr Efydd  
  Oes ganol yr Efydd
  Oes gynnar yr Efydd
Oes yr Efydd
    Chalcolithig    
  Neolithig
Oes Newydd y Cerrig
Cynhanes
Mesolithig
Oes Ganol y Cerrig
P     Paleolithig diweddar
Hen Oes y Cerrig
 
    Paleolithig canol
Hen Oes y Cerrig
    Paleolithig cynnar
Hen Oes y Cerrig
  Hen Oes y Cerrig
Hen Oes y Cerrig
Oes y Cerrig

Rhai safleoedd Oes yr Efydd yng Nghymru

Llyfryddiaeth

  • I.Ll. Foster & Glyn Daniel (gol.) (1965) Prehistoric and early Wales (Routledge and Kegan Paul)
  • Frances Lynch (1970) Prehistoric Anglesey: the archaeology of the island to the Roman conquest (Cymdeithas Hynafiaethwtr Môn)
  • Frances Lynch, Stephen Aldhouse-Green a Jeffrey L. Davies (2000) Prehistoric Wales (Sutton Publishing) ISBN 0-7509-2165-X
Bedd Branwen

Mae Bedd Branwen yn gladdfa o Oes yr Efydd yng ngogledd Ynys Môn. Saif yn agos i bentref Llanddeusant a gerllaw Afon Alaw.

Bedd Taliesin

Carnedd gron o Oes yr Efydd yw Bedd Taliesin. Fe'i lleolir ym mryniau gogledd Ceredigion tua milltir i'r dwyrain o bentref bychan Tre Taliesin cyfeiriad grid SN671912. Yr olion a welir heddiw yw'r cwbl sy'n weddill o'r garnedd a godwyd yno yn Oes yr Efydd. Mae'r maen clo wedi syrthio ond erys y meini eraill yn eu safle gwreiddiol. Y tu mewn ceir cist 2m o hyd a gloddiwyd rhywbryd yn y gorffennol (efallai gan rywrai ar ôl trysor). Gellir cyrraedd Bedd Taliesin o'r A487 trwy ddilyn lôn o Dal-y-bont.

Cofrestrwyd yr heneb hon gan Cadw a chaiff ei hadnabod gyda'r rhif SAM unigryw: CD067.Mae'r brodorion a'u cododd hefyd yn gyfrifol am godi carneddau, beddrodau siambr, twmpathau, cylchoedd cerrig, bryngaerau, cytiau Gwyddelod a meini hirion.

Breiddin

Bryngaer enfawr o 28 ha ar Fryn Breiddin ym Maldwyn, Powys yw'r Breiddin (Cyfeirnod OS: SJ29401432) a sefydlwyd yn Oes yr Efydd ac a ddatblygwyd ymhellach dros gyfnod Oes yr Haearn.

Bryn Celli Ddu

Mae Bryn Celli Ddu yn siambr gladdu yn agos i arfordir deheuol Ynys Môn, rhwng Llanddaniel Fab a Llanedwen a gerllaw Afon Braint. Bu rhywfaint o ysbeilio yno yn 1699 a bu cloddio archeolegol yn 1928 a 1929.

Ymddengys fod cylch cerrig yma yn y cyfnod Neolithig, pan oedd cylch cerrig ar y safle. Roedd olion tân yn un man, a chafwyd hyd i asgwrn bychan o glust ddynol, a charreg wastad drosto.

Tua dechrau Oes yr Efydd, tua 3000 C.C., cafwyd gwared ar y cerrig ac adeiladwyd siambr gladdu. Roedd carreg wedi ei cherfio a llinellau yn sefyll yn y siambr ei hun. Symudwyd hon i Amgueddfa Genedlaethol Cymru, ac mae'r garreg sy'n sefyll tu allan i'r siambr heddiw yn gopi ohoni. Noder fod y pentwr pridd sy'n gorchuddio'r siambr heddiw wedi ei ail-godi yn yr 20g; mae'n debyg fod y gwreiddiol yn llawer mwy.

Carn Fach Bugeilyn

Carnedd gron (Saesneg: round cairn) sy'n dyddio'n ôl i ddiwedd Oes y Cerrig a chychwyn Oes yr Efydd ydy Carn Fach Bugeilyn, ar fynydd Carnfachbugeilyn, yng nghymuned Trefeglwys, Powys; cyfeiriad grid SN826903. Ei phwrpas, mae'n debyg, oedd bod yn rhan o seremoniau neu ddefodau crefyddol a oedd yn ymwneud â chladdu'r meirw. Ni ddylid cymysgu'r garnedd gron gyda'r garnedd gylchog (Saesneg: ring cairn) sy'n fath gwahanol.

Cofrestrwyd yr heneb hon gan Cadw a chaiff ei hadnabod gyda'r rhif SAM unigryw: MG113.Mae'r brodorion a'u cododd hefyd yn gyfrifol am godi carneddau, beddrodau siambr, twmpathau, cylchoedd cerrig, bryngaerau, cytiau Gwyddelod a meini hirion.

Carn Ingli

Bryn ym mynyddoedd y Preselau yn Sir Benfro yw Carn Ingli neu Mynydd Carningli. Saif ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro, i'r de o Trefdraeth. Ef yw'r pellaf i'r gogledd-orllewin o gopaon y Preselau.

Carnedd gron Bwlch Sych

Carnedd gron (Saesneg: round cairn) sy'n dyddio'n ôl i ddiwedd Oes y Cerrig a chychwyn Oes yr Efydd ydy Carnedd gron Bwlch Sych, yng nghymuned Pen-y-bont-fawr, Powys; cyfeiriad grid SJ026237. Ei phwrpas, mae'n debyg, oedd bod yn rhan o seremoniau neu ddefodau crefyddol a oedd yn ymwneud â chladdu'r meirw. Ni ddylid cymysgu'r garnedd gron gyda'r garnedd gylchog (Saesneg: ring cairn) sy'n fath gwahanol.

Cofrestrwyd yr heneb hon gan Cadw a chaiff ei hadnabod gyda'r rhif SAM unigryw: MG315.Mae'r brodorion a'u cododd hefyd yn gyfrifol am godi carneddau, beddrodau siambr, twmpathau, cylchoedd cerrig, bryngaerau, cytiau Gwyddelod a meini hirion.

Carneddau crynion y Gyrn

Carneddau crynion sy'n dyddio'n ôl i ddiwedd Oes y Cerrig a chychwyn Oes yr Efydd ydy Carneddau crynion y Gyrn, yng nghymuned Talsarnau, Gwynedd; cyfeiriad grid SH641359. Eu pwrpas, mae'n debyg, oedd bod yn rhan o seremoniau neu ddefodau crefyddol a oedd yn ymwneud â chladdu'r meirw. Ni ddylid cymysgu'r garnedd gron gyda'r garnedd gylchog (Saesneg: ring cairn) sy'n fath cwbwl wahanol i garnedd.

Cofrestrwyd yr heneb hon gan Cadw a chaiff ei hadnabod gyda'r rhif SAM unigryw: ME062.Mae'r brodorion a'u cododd hefyd yn gyfrifol am godi carneddau, beddrodau siambr, twmpathau, cylchoedd cerrig, bryngaerau, cytiau Gwyddelod a meini hirion.

Castell Bryn Gwyn

Safle amddiffynol aml-gyfnod gerllaw Brynsiencyn ar Ynys Môn yw Castell Bryn Gwyn. Mae wedi ei ffurfio o glawdd pridd 10 medr o led a 2 fedr o uchder, ar ffurf cylch, 17 medr ar draws. Yn wreiddiol, roedd ffos yn ei amgylchynu.

Bu cloddio archaeolegol yma yn 1959-60, a dangoswyd fod y safle wedi ei defnyddio yn ystod sawl cyfnod. Cafwyd hyd i grochenwaith o'r cyfnod Neolithig. Yn ddiweddarach, ail-adeiladwyd y clawdd a chloddiwyd ffos newydd, efallai ar gyfer fferm gydag amddiffynfeydd. Cafwyd hyd i grochenwaith o ddiwedd 1g OC, ac ymddengys i'r safle gael ei defnyddio mewn cyfnod diweddarach hefyd.

Cred rhai ysgolheigion mai'r safle yma oedd "Castell Bon y Dom", y dywedir i Olaf Sigtryggsson, taid Gruffudd ap Cynan ei adeiladu yn nechrau'r 11g. Fodd bynnag, nid oes tystiolaeth bendant i gefnogi hyn.

Gerllaw ceir Meini hirion Bryn Gwyn.

Cawg Caergwrle

Cawg neu bowlen o Oes yr Efydd yw Cawg Caergwrle, a ddarganfuwyd ger Caergwrle, Sir y Fflint, yn 1823 gan weithiwr a oedd yn torri ffos wrth ymyl Castell Caergwrle. Credir gan archaeolegwyr fod y bowlen carreg glai hon, a addurnir â dail aur, yn cynrychioli cwch cynhanesyddol. Fe'i ystyrir yn wrthrych unigryw. Mae ar gadw yn Amgueddfa Cymru, Caerdydd.

Clogyn aur yr Wyddgrug

Gwrthrych aur solet un-darn yw Clogyn aur Yr Wyddgrug neu Fantell aur Yr Wyddgrug sy'n dyddio o'r cyfnod 1900-1600 CC yn Oes yr Efydd. Fe'i darganfuwyd ger Yr Wyddgrug yn Sir y Fflint yn 1833. Mae'n bosibl y bu'n rhan o wisg seremonïol, mewn cyd-destun crefyddol efallai. Fe'i cedwir yn yr Amgueddfa Brydeinig yn Llundain.

Darganfuwyd y "clogyn" gan chwarelwyr ym Mryn yr Ellyllon, ger Yr Wyddgrug, yn 1833. Roedd y fantell yn gorwedd ar sgerbwd o fewn cistfaen o gerrig mewn carnedd gladdu o Oes yr Efydd. Dim ond darnau o'r sgerbwd oedd yn gyfan ac roedd y "clogyn" wedi cael ei niweidio'n sylweddol trwy ei wasgu. Roedd tua 200-300 gleiniau ambr arno yn wreiddiol, mewn rhesi, ond dim ond un sy'n weddill heddiw. Gerllaw cafwyd darn o liain garw a 16 dryll o efydd panel a fu ar gefn y gwrthrych aur efallai: mewn mannau roedd yr aur wedi ei bwytho i'r aur gyda rivets efydd. Roedd yno ddau 'strap' hefyd. Yn ymyl y gistfaen roedd llestr (urn) yn cynnwys esgyrn llosgedig a lludw, tua 0.6–0.9 m o'r bedd.

Lled y gwrthrych yw 458 mm (18 modfedd). Mae hynny'n awgrymu iddo gael ei fwriadu ar gyfer rhywun o gorffolaeth ysgafn ac mae archaeolegwyr yn meddwl ei fod ar gyfer merch.

Clwstwr cytiau Dyffryn Cennen

Olion math o gytiau hynafol sy'n dyddio'n ôl i Oes yr Efydd yw clwstwr cytiau, yng nghymuned Dyffryn Cennen, Sir Gaerfyrddin; cyfeiriad grid SN672176. Enw arall ar y math hwn o heneb yw Cytiau'r Gwyddelod, sy'n enw camarweiniol.

Cofrestrwyd yr olion hyn gan Cadw a chânt eu hadnabod gyda'r rhif SAM unigryw: CM204.Cychwynwyd codi cytiau crynion tua 1,500 C.C. a daethant i ben tua'r adeg y daeth y Rhufeiniaid i Ynys Prydain. Mae'r brodorion a'u cododd hefyd yn gyfrifol am godi carneddau, beddrodau siambr, twmpathau, cylchoedd cerrig, bryngaerau a meini hirion. Maen nhw i'w canfod yng Ngwynedd, Môn, Sir Conwy a Sir Gaerfyrddin.

Clystyrau cytiau Cerrig y Dinas

Olion math o gytiau hynafol sy'n dyddio'n ôl i Oes yr Efydd yw clystyrau cytiau Cerrig y Dinas, yng nghymuned Henryd, Conwy; cyfeiriad grid SH753741. Enw arall ar y math hwn o heneb yw Cytiau'r Gwyddelod, sy'n enw camarweiniol.

Cylch cytiau caeëdig

Math o Gytiau'r Gwyddelod carreg sy'n dyddio'n ôl i'r Oes Efydd ydy cylch cytiau caeëdig. Cychwynwyd eu codi tua 1,500 C.C. a daethant i ben tua'r adeg y daeth y Rhufeiniaid i Ynys Prydain. Mae archaeolegwyr wedi canfod fod llawer o'r cytiau cynharaf wedi eu codi ar ben hen gytiau pren a safodd yno cyn hynny.Mae'r brodorion a'u cododd hefyd yn gyfrifol am godi carneddau, beddrodau siambr, twmpathau, cylchoedd cerrig, bryngaerau a meini hirion.

Cytiau Gwyddelod

Cytiau Gwyddelod yw'r enw Cymraeg traddodiadol am y cytiau crwn cynhanesyddol sydd i'w gweld yma ac acw ar fryniau Cymru.

Mae'r enw yn gamarweiniol am nad oes unrhyw gysylltiad hanesyddol rhyngddynt â'r Gwyddelod yn benodol. Ar adegau yn y gorffennol ymsefydlai llwythi Gwyddelig yng ngorllewin Cymru o bryd i'w gilydd, a diau fod y cof am hynny'n esbonio'r enw poblogaidd ar yr olion archaeolegol hyn.

Mae'r cytiau fel rheol yn perthyn i Oes yr Efydd, Oes yr Haearn neu'r cyfnod Rhufeinig. Mae cannoedd o enghreifftiau i'w gweld yn y caeau a'r bryniau, yn arbennig yng ngorllewin Cymru, o Ynys Môn i Sir Benfro.

Un o'r enghreifftiau mwyaf adnabyddus yw'r cytiau ar Fynydd Twr ger Caergybi, a elwir hefyd yn Gytiau Tŷ Mawr.

Cytiau Tŷ Mawr

Safle archaeolegol yw Cytiau Tŷ Mawr, a elwir hefyd yn Grŵp Cytiau Mynydd Twr neu Cytiau'r Gwyddelod, lle ceir olion nifer o dai crwn o Oes yr Efydd, Oes yr Haearn a'r cyfnod Rhufeinig ac a leolir ar Fynydd Tŵr gerllaw Caergybi, Ynys Môn.

Moel y Gamelin

Mynydd yn Sir Ddinbych yw Moel y Gamelin (578 metr). Mae'n gorwedd yn ne-ddwyrain y sir tua 4 milltir i'r gogledd-orllewin o dref Llangollen, yng nghymuned Llandysilio-yn-Iâl a thua 2.5 milltir i'r gogledd o bentref bychan Llandysilio ei hun. Dyma bwynt uchaf y gyfres o fryniau canolig eu huchder a adnabyddir fel Mynydd Llandysilio ac sy'n gorwedd rhwng y ffyrdd A5104 i'r gogledd, yr A542 i'r dwyrain a'r A5 i'r de.

Ar graig arall gerllaw ceir Moel y Gaer, sy'n safle bryngaer sylweddol o Oes yr Haearn.

Mwynfeydd aur Dolaucothi

Mwynfeydd aur o’r cyfnod Rhufeinig, ac yn ôl pob tebyg cyn hynny, yn Sir Gaerfyrddin yw Mwynfeydd Aur Dolaucothi. Saif y mwynfeydd gerllaw Afon Cothi, ychydig i’r dwyrain o bentref Pumsaint, a rhwng y pentref hwnnw a phentref Caeo. Dolaucothi yw’r unig fwynfeydd aur yng Nghymru tu allan i ardal Dolgellau.

Rhestr o grugiau crynion yng Nghymru

Dyma restr o grugiau crynion yng Nghymru sydd wedi'u cofrestru gan Cadw, yn nhrefn y siroedd.

Pentwr o bridd wedi'i osod gan bobl Oes Newydd y Cerrig neu Oes yr Efydd fel rhan o'u seremoniau neu i gladdu'r meirw ydy crug crwn (enw gwrywaidd; Saesneg: round barrow). Ceir bron i 400 ohonynt yng Nghymru.

This page is based on a Wikipedia article written by authors (here).
Text is available under the CC BY-SA 3.0 license; additional terms may apply.
Images, videos and audio are available under their respective licenses.