Oes yr Efydd

Cyfnod sydd yn dilyn Oes y Cerrig mewn llawer o wledydd pan ddefnyddid y metel efydd oedd Oes yr Efydd a cham-enwir yn "Yr Oes Efydd" weithiau yn Gymraeg. Ar ôl Oes yr Efydd daeth Oes yr Haearn.

Mae efydd yn aloi o gopr. Arfau milwrol ac offer ydyw'r rhan fwayf o olion y cyfnod hwn, ond mae nifer o arteffactau defodol wedi goroesi hefyd.

Cyfnodau cynhanes
H   La Tène   Protohanes
  Hallstatt
Oes yr Haearn
  Oes ddiweddar yr Efydd  
  Oes ganol yr Efydd
  Oes gynnar yr Efydd
Oes yr Efydd
    Chalcolithig    
  Neolithig Cynhanes
Mesolithig
P     Paleolithig Uchaf  
    Paleolithig Canol
    Paleolithig Isaf
  Hen Oes y Cerrig
Oes y Cerrig

Oes yr Efydd ym Mhrydain

Sword bronze age (2nd version)
Cleddyf efydd

Mae'n debyg y dechreuodd Oes yr Efydd tua 2200 CC a daeth i ben tua 700 CC. Yn ystod y cyfnod hwn daeth pobl newydd o gyfandir Ewrop i Brydain ac mewn canlyniad newidiodd diwylliant Prydain yn gymharol gyflym. Roedd yr hinsawdd yn gwaethygu ar yr un pryd â'r bobl yn y dyffrynnoedd yn magu anifeiliaid a gwelwyd twf yn yr economi. Ar yr un pryd cafodd llawer o goed eu cymynu.

Daeth llawer o dun Ewrop o Gernyw a llawer o gopr o Gymru, yn bennaf o Ben y Gogarth. Yn ne Lloegr datblygodd diwylliant cyfoethog iawn, y diwylliant Wessex a daeth strwythr cymdeithas yn fwy cymhleth.

Chwarel Gopr y Gogarth RO
Chwarel gopr Pen y Gogarth, ger Llandudno

Yn groes i'r arfer y Neolithig, gyffredin, cafodd pobl eu claddu'n unigol; cyn Oes yr Efydd roedd tuedd i'w claddu gyda'i gilydd. Gellir gweld olion o'r cyfnod hwn ym Moel Eithinen, un o Fryniau Clwyd.

Gweler hefyd

Bolzano

Bolzano (Almaeneg: Bozen, Ladino: Bulsan) yw prifddinas a dinas fwyaf Talaith Ymreolaethol Bolzano. Roedd y boblogaeth yn 2006 yn 99,764.

Er bod y mwyafrif o boblogaeth y dalaith yn siarad Almaeneg fel mamiaith, yn ninas Bolzano yn 2001 roedd 73% yn siarad Eidaleg fel mamiaith, 26% Almaeneg ac 1% Ladino.Roedd 8% o'r boblogaeth yn dramorwyr.

Saif y ddinas lle mae afon Talfer (Talvera) yn llifo i mewn i afon Eisack (Isarco), Ychydig i'r de o'r ddinas, mae'r Eisack yn llifo i mewn i afon Etsch (Adige).

Ceir amgueddfa archaeolegol yn y ddinas, lle gellir gweld gweddillion Ötzi, y dyn o Oes yr Efydd neu Oes yr Haearn y cafwyd ei gorff mewn rhewlif yn y mynyddoedd gerllaw Bolzano. Ceir nifer o gestyll yn yr ardal; y tri pwysicaf yw Castell Maretsch, Castell Runkelstein a Castell Sigmundskron.

Breiddin

Bryngaer enfawr o 28 ha ar Fryn Breiddin ym Maldwyn, Powys yw'r Breiddin (Cyfeirnod OS: SJ29401432) a sefydlwyd yn Oes yr Efydd ac a ddatblygwyd ymhellach dros gyfnod Oes yr Haearn.

Bryngaer Llanymynech

Mae Bryngaer Llanymynech a'i arwynebedd o 57 hectar yn un o fryngaerau mwyaf gwledydd Prydain ac yn dyddio'n ôl i Oes yr Haearn neu o bosibl i gyfnod cynharach Oes yr Efydd. Mae wedi'i leoli ar gopa Bryn Llanymynech ar Glawdd Offa ger bentref Llanymynech, cymuned Carreghwfa, Powys; cyfeiriad grid SJ26502215 6 milltir i'r de-orllewin o Groesoswallt. Mae'n debygol mai dyma fryngaer mwyaf Cymru.

Caer Fawr, Llangadog

Bryngaer o Oes yr Haearn ydy'r Gaer Fawr, wedi'i chodi ar fryn o'r enw y Garn Goch, ger Llangadog, Sir Gaerfyrddin a phedair milltir i'r dwyrain o Landeilo (Cyfeirnod OS: SN 690 243) ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

Saif y Garn Goch 213 metr uwchlaw lefel y môr. Prynwyd y tir yn 1980 gan y Parc Cenedlaethol. Ceir siambrau claddu o Oes yr Efydd o fewn y muriau. Mae hi'n un o fryngaerau mwyaf Cymru, ac yn 11.2 hectar o ran arwynebedd.

Carnedd

Carnedd neu garn yw'r enw a roddir ar bentwr o gerrig wedi ei godi i nodi mangre arbennig. Fe'i ceir fel rheol ar yr ucheldiroedd, yn arbennig ar gopaon mynyddoedd.

Ceir nifer o wahanol fathau o garneddi. Mae cryn nifer o garneddi Cymru yn dyddio o Oes yr Efydd, a cheir claddedigaethau tu mewn iddynt. Ymhlith yr enghreifftiau gorau o'r math yma mae Bryn Cader Faner a'r tair carnedd fawr ar gopa Foel Drygarn. Ceir tystiolaeth i'r arfer o gladdu cyrff dan bentwr o gerrig yng Nghymru barhau i'r cyfnod Rhufeinig ac wedyn. Gall carnedd hefyd fod yn llawer mwy diweddar, wedi ei hadeiladu i nodi'r fan uchaf ar gopa mynydd neu fryn, neu i nodi llwybr. Y garnedd fwyaf yng Nghymru - a'r ail fwyaf yng ngwledydd Prydain - yw'r Gop.

Ceir "carnedd" neu "garn" fel elfen yn enw mynyddoedd, er enghraifft Carnedd Llywelyn a Carnedd Dafydd, a roddodd ei enw i fynyddoedd y Carneddau. Yr hen enw ar fynydd Elidir Fawr oedd "Carnedd Elidir".

Carnedd gylchog

Math o garnedd gynhanesyddol a godwyd gan y Celtiaid ydy carnedd gylchog (Saesneg: ring cairn); fe'i codwyd i nodi mangre arbennig, ar gyfer defodau neu i goffau'r meirw. Pentwr o gerrig ar gopa mynydd neu fryncyn ydy carnedd, ac mae llawer o garneddau cylchog ar safleoedd tebyg. Cawsant eu codi ar ddechrau neu ganol Oes yr Efydd.

Mae'r carneddi o'r math hwn yn cynnwys cerrig wedi'i chodi ar gylch neu goron o bridd sydd a'i ddiamedr rhwng 10 a 30 metr gyda'r canol yn wag gyda thwmpathau o siarcol neu olion claddu yn aml. Pan fo'r canol wedi'i lenwi gyda phridd fe'i gelwir yn garnedd lwyfan.

Caiff ei nodi ar fapiau'r Ordanance gyda'r gair 'Cairn'. Dyma'r term sy'n cael ei ddefnyddio yng ngeiriadur yr Academi, yn hytrach na "charnedd gylch". Bathwyd y term yn gyntaf ar ddiwedd y 19eg ganrif gan R Hansford Worth pan oedd yn disgrifio henebion claddu hynafol Dartmoor (cf. Grinsell 1978, 103).

Cegidfa

Pentref a chymuned ym Mhowys yw Cegidfa (Saesneg: Guilsfield). Saif i'r gogledd o'r Trallwng ar y ffordd B4392.

Tyfodd y pentref ei hun yn sylweddol yn ystod rhan olaf yr 20g. Dyddia rhan o'r eglwys, a gysegrwyd i Sant Aelhaearn, i tua 1300. Yma y cymerwys Syr John Oldcastle, un o arweinwyr y Lolardiaid, yn garcharor yn 1417.

Yng Nghoedlan Crowther yn y gymuned, cafwyd hyd i gasgliad o arfau a chelfi o Oes yr Efydd a elwir yn Gasgliad Cegidfa. Maent yn awr yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru.

Roedd poblogaeth y gymuned yn 2001 yn 1,640.

Craig-y-nos

Pentref bychan ym Mrycheiniog, de Powys yw Craig-y-nos. Mae'n gorwedd ar y draffordd A4067 tua 2 filltir i'r gogledd o Abercraf yng Nghwm Tawe Uchaf.

Mae afon Tawe yn llifo heibio i'r pentref sy'n gorwedd yn y cwm rhwng bryniau Carreg Goch a Bryn Bugeiliaid, yn y Fforest Fawr. Ar bwys y pentref ceir ogofâu enwog Dan yr Ogof. Ar y mynydd-dir fymryn tu allan i'r pentref ceir llinelliad o feini hirion y Saith Maen sy'n dyddio o Oes yr Efydd.

Mae Craig-y-nos yn adnabyddus ym myd cerddoriaeth fel cartref y gantores opera byd-enwog Adelina Patti (1843-1919) "Brenhines y Gân". Yn 1878 prynodd gastell ac ystad Craig-y-nos i gael dianc i'r bryniau rhag y byd ffasiynol. Byddai'n dychwelyd i Graig-y-nos ar ddiwedd pob taith o gwmpas tai opera mawr y byd, yn Ewrop ac America. Cafodd y ffug-gastell ei adeiladau yn 1842 mewn efelychiad o gestyll barwnaidd yr Alban. Daeth yn enwog am ei erddi gwych. Pan ymddeolodd dan bwysau o'r byd opera cyfyngodd ei pherfformiadau i gyngherddau preifat yn y theatr fach a gododd ar dir Craig-y-nos.

Crug crwn

Gweler hefyd: rhestr o grugiau crynion yng Nghymru

Pentwr o bridd wedi'i osod gan bobl Oes yr Efydd fel rhan o'u seremoniau neu i gladdu'r meirw ydy crug crwn (enw gwrywaidd; Saesneg: round barrow). "Bryncyn" neu "bentwr" ydy prif ystyron y gair Cymraeg 'crug', sy'n elfen bur gyffredin mewn enwau lleoedd yng Nghymru. Cruc ydy'r gair yn yr Hen Gernyweg a'r Hen Lydaweg a cruach yn yr Hen Wyddeleg. Mae'r gair i'w gael o fewn rhai ffurfiau Lladin ar hen enwau lleoedd Brythoneg megis Pennocrucium, sef Penkridge heddiw ac fe'i benthycir yn y Saesneg fel "crick" fel yn y gair "Crick-howell". Y lluosog ydy: crugiau crwn neu crugiau crynion.

Mae'r garnedd gron yn wahanol i grug crwn. Cerrig yn unig yw carnedd - treuliwyd y pridd gan amser.

Pan fo siambr neu gell o fewn y crug i ddal y corff yna gelwir y crug yn siambr gladdu. Pan fo'r glaw a'r gwynt wedi'i herydu yna caiff ei disgrifio fel carnedd. Yng Nghainc Gyntaf y Mabinogi (testun Llyfr Gwyn Rhydderch, 14g) ceir hanes Pwyll yn gweld Rhiannon: "Ac yna... yn eistedd ar ben crug, y wreic teccaf or a welsei eiroet." Fe gychwynwyd eu codi tua 3000 C.C. a pharhaodd yr arfer hyd at ddiwedd Oes yr Efydd (tua 600 C.C.). Codwyd y rhan fwyaf, fodd bynnag yn y cyfnod 2400 - 1500 C.C.

Cylch cytiau caeëdig

Math o Gytiau'r Gwyddelod carreg sy'n dyddio'n ôl i'r Oes Efydd ydy cylch cytiau caeëdig. Cychwynwyd eu codi tua 1,500 C.C. a daethant i ben tua'r adeg y daeth y Rhufeiniaid i Ynys Prydain. Mae archaeolegwyr wedi canfod fod llawer o'r cytiau cynharaf wedi eu codi ar ben hen gytiau pren a safodd yno cyn hynny.Mae'r brodorion a'u cododd hefyd yn gyfrifol am godi carneddau, beddrodau siambr, twmpathau, cylchoedd cerrig, bryngaerau a meini hirion.

Cynhanes

Cynhanes yw'r term a ddefnyddir i gyfeirio at y cyfnod maith cyn ymddangosiad y cofnodion ysgrifenedig cyntaf, mewn cyferbyniaeth â hanes. Mae hanes yn tynnu ar ffynonellau ysgrifenedig felly, tra bod cynhanes yn dibynnu ar dystiolaeth archaeolegol. Mae ei hyd a'i barhâd yn amrywio o le i le yn y byd.

Yn Ewrop y cyfnodau traddodiadol ar gyfer cynhanes yw:

Oes y Cerrig (sy'n dechrau gydag ymddangosiad cyntaf y ddynolryw)

Hen Oes y Cerrig, neu'r cyfnod Paleolithig

Oes Ganol y Cerrig, neu'r cyfnod Mesolithig

Oes Newydd y Cerrig, neu'r cyfnod Neolithig

Oes yr Efydd

Oes yr Haearn

Cytiau Gwyddelod

Cytiau Gwyddelod yw'r enw Cymraeg traddodiadol am y cytiau crwn cynhanesyddol sydd i'w gweld yma ac acw ar fryniau Cymru.

Mae'r enw yn gamarweiniol am nad oes unrhyw gysylltiad hanesyddol rhyngddynt â'r Gwyddelod yn benodol. Ar adegau yn y gorffennol ymsefydlai llwythi Gwyddelig yng ngorllewin Cymru o bryd i'w gilydd, a diau fod y cof am hynny'n esbonio'r enw poblogaidd ar yr olion archaeolegol hyn.

Mae'r cytiau fel rheol yn perthyn i Oes yr Efydd, Oes yr Haearn neu'r cyfnod Rhufeinig. Mae cannoedd o enghreifftiau i'w gweld yn y caeau a'r bryniau, yn arbennig yng ngorllewin Cymru, o Ynys Môn i Sir Benfro.

Un o'r enghreifftiau mwyaf adnabyddus yw'r cytiau ar Fynydd Twr ger Caergybi, a elwir hefyd yn Gytiau Tŷ Mawr.

Foel Drygarn

Copa ym mynyddoedd y Preselau yn Sir Benfro yw Foel Drygarn, hefyd Foel Trigarn a Foel Drigarn (cyfeiriad grid SN157336). Saif ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro, i'r gorllewin o bentref Crymych.

Ceir bryngaer o Oes yr Haearn ar y copa, gyda nifer o olion tai tu mewn i'r muriau, a thair carnedd o Oes yr Efydd sy'n rhoi i'r mynydd ei enw. Mae'r gaer yn cynnwys prif amddiffynfa o 1.2 hectar gyda ddwy gorlan atodol ar ei hymylon ogleddol a gorllewinol. Ceir clawdd o gerrig a phridd heb ffos o o'u cwmpas: tybir eu bod yn cynrychioli tri chyfnod adeiladu. Cafwyd hyd i ddarnau crochenwaith a chleiniau sy'n dyddio o Oes yr Haearn i gyfnod y Rhufeiniaid. Mae'r tair carnedd fawr yn gorwedd ar y copa ei hun, o fewn y brif amddiffynfa ac yn ei rhagddyddio.Cyfeiria'r bardd Waldo Williams at y copa yng nghwpled agoriadol adnabyddus ei gerdd 'Preseli':

Mur fy mebyd, Foel Drigarn, Carn Gyfrwy, Tal Mynydd,

Wrth fy nghefn ym mhob annibyniaeth barn.Fe gafodd Foel Drygarn ei gynnwys yn llyfr yr haneswr John Davies o'r enw 100 peth i weld cyn marw.[angen ffynhonnell]

Maen hir

Defnyddir y term maen hir am faen o faint sylweddol wedi ei gosod ar ei sefyll yn y tir yn ystod y cyfnod cynhanesyddol, yn aml tua diwedd y cyfnod Neolithig a dechrau Oes yr Efydd. Fe'i ceir ar draws ardaloedd helaeth o orllewin Ewrop, a cheir meini hirion tebyg mewn rhai rhannau eraill o'r byd. Nid oes sicrwydd am eu pwrpas.

Mewn nifer o ieithoedd defnyddir y term Menhir, term a fabwysiadwyd i'r Ffrangeg o'r Llydaweg, er mai'r enw Llydaweg modern ar faen hir yw peulvan.

Ceir y casgliad mwyaf o feini hirion yn Karnag, Llydaw, lle maent wedi eu trefnu yn rhesi. Ceir casgliad ail-fwyaf Ewrop o feini hirion yn La Cham des Bondons yn département Lozère yn ne Ffrainc, lle nad ydynt wedi eu trefnu yn ôl patrwm arbennig. Gallant hefyd fod mewn grwpiau bychain, neu yn unigol, a gall maint y maen amrywio'n sylweddol. Maen hir mwyaf yw'r un yn Locmariaquer, Llydaw, sydd yn awr wedi torri'n bedwar darn, ond a fyddai wedi bod bron yn 20 medr o uchder pan yn gyfan. Maen hir Kerloas, 9.5 medr o uchder, yw'r maen hir talaf sy'n dal yn sefyll yn Llydaw. Maent hefyd yn gyffredin yn Iwerddon a rhannau o wledydd Llychlyn. Weithiau, ceir meini hirion wedi eu trefnu i ffurfio cylch cerrig.

Ceir nifer fawr o feini hirion yng Nghymru. Un enghraifft yw'r ddau faen hir sy'n rhoi ei enw i Bwlch y Ddeufaen yn y Carneddau. Yn Llanfechell ar Ynys Môn, ceir tri maen wedi eu trefnu yn driongl.

Oes Newydd y Cerrig

Oes Newydd y Cerrig neu'r cyfnod Neolithig yw'r olaf a diweddaraf o dri chyfnod Oes y Cerrig, cyfnod pan ddatblygwyd y dechnoleg o roi saip a ffurf ar gerrig fel arfau defnyddiol gan gychwyn oddeutu 10,000 o flynyddoedd cyn y presennol (CP) yn y Dwyrain Canol ac ychydig yn ddiweddarach yng ngweddill y byd ac yn dod i ben rhwng 6,500 and 4,000 CP. Mae'n dilyn Oes Ganol y Cerrig a Hen Oes y Cerrig (neu Paleolithig) cyn hynny.

Dyma gychyn cyfnod yr Holosen (tua 12,000 blwyddyn yn ôl hyd at y presennol) a'r hyn sy'n pennu dyddiad ei ddechrau yw dyddiad y dechreuodd dyn ffermio yn yr ardal dan sylw; gall hyn wahaniaethu o un lle i'r llall. Daw'r cyfnod i ben pan fo dyn yn defnyddio offer metel, sef cychwyn yr Oes yr Efydd (neu mewn rhai eithriadau prin: Oes yr Haearn. Yn ystod y cyfnod hwn gwelir datblygiad mawr mewn tyfu cnydau ac yn y dulliau o ddofi anifeiliaid. Mae rhai archaeolegwyr. felly'n awyddus i newid yr enw o "Oes Newydd y Cerrig" ("Neolithig") i "Oes y Cymunedau".

Oes y Cerrig

Cyfnod cynhanesyddol yn ystod yr hyn yr oedd dyn yn defnyddio offer wedi'u gwneud o gerrig (yn bennaf callestr) oedd Oes y Cerrig. Ceid offer wedi'u gwneud o bren ac esgyrn, hefyd. Defnyddid offer carreg fel cyllyll neu arfau. Ar ôl Oes y Cerrig cychwynnodd Oes yr Efydd.

Fel arfer rhennir y cyfnod hwn yn dri chyfnod:

Hen Oes y Cerrig (Paleolithig)

Oes Ganol y Cerrig (Mesolithig)

Oes Newydd y Cerrig (Neolithig)

Oes yr Haearn

Cyfnod cynhanes sydd yn dilyn Oes yr Efydd yw Oes yr Haearn. Fe'i gelwir felly am fod haearn yn cael ei ddefnyddio ar raddau helaeth am y tro cyntaf. Er fod offer wedi eu gwneud o efydd yn cryfach, mae'n haws cael gafael ar haearn ac felly roedd yn cael ei defnyddio'n aml.

Rhestr o grugiau crynion yng Nghymru

Dyma restr o grugiau crynion yng Nghymru sydd wedi'u cofrestru gan Cadw, yn nhrefn y siroedd.

Pentwr o bridd wedi'i osod gan bobl Oes Newydd y Cerrig neu Oes yr Efydd fel rhan o'u seremoniau neu i gladdu'r meirw ydy crug crwn (enw gwrywaidd; Saesneg: round barrow). Ceir bron i 400 ohonynt yng Nghymru.

Siambr gladdu

Siambr, neu ogof wneud, lle rhoddir corff dynol marw i'w orffwys ydy siambr gladdu a honno wedi'i gorchuddio gyda phridd. Fel arfer cysylltir y gair gyda defodau claddu Oes Newydd y Cerrig, Oes yr Efydd a chyn hynny. Arferid gosod strwythur o gerrig enfawr yn gyntaf i ddal y bryncyn a roddid ar ei ben ac weithiau gellir gweld y cromlechi (neu garnedd pan fo'r pridd a oedd unwaith yn eu gorchuddio wedi erydu gan y gwynt a'r glaw.

Mae cromlechi a charneddi, felly, yn gerrig noeth a siambr gladdu yn domen o bridd ar ffurf bryncyn bychan.

Ieithoedd eraill

This page is based on a Wikipedia article written by authors (here).
Text is available under the CC BY-SA 3.0 license; additional terms may apply.
Images, videos and audio are available under their respective licenses.