Masnach

Cyfnewid perchenogaeth nwyddau neu wasanaethau o un berson neu endid i un arall yw masnach. Gelwir rhwydwaith sy'n galluogi masnach trwy brynu a gwerthu yn farchnad.

Wojciech Gerson - Gdańsk in the XVII century
Gdańsk

Gweler hefyd

MercadodeSanJuandeDios
Marchnad San Juan de Dios yn Guadalajara, Jalisco, Mecsico
Amsterdam

Prifddinas a dinas fwyaf yr Iseldiroedd yw Amsterdam ( ynganiad ). Saif ar Fae Ij a'r Afon Amstel yn nhalaith (provincie) Gogledd Holland. Roedd gan y ddinas boblogaeth o tua 1 miliwn (gan gynnwys y maesdrefi) ar 1 Ionawr 2008. Mae'r ddinas yn cynnwys yr ardal ogleddol Randstad sef y 6ed ardal fetropolitanaidd fwyaf yn Ewrop, gyda phoblogaeth o tua 6.7 miliwn.

Er mai prifddinas swyddogol yr Iseldiroedd yw Amsterdam, nid hi fu canolfan y llywodraeth erioed. Lleolir canolfan y llywodraeth, y senedd a thrigfan y frenhines i gyd yn Den Haag. Nid yw Amsterdam yn brifddinas o'i thalaith ei hun chwaith: prifddinas Gogledd Holland yw Haarlem.

Daw enw'r ddinas o'r Argae Amstel (yn Saesneg: Amstel Dam) sy'n esbonio tarddiad y ddinas; argae ar yr afon Amstel lle mae Sgwâr Dam wedi'i lleoli heddiw. Sefydlwyd pentref bychan yno yn ystod y 12g a ddatblygodd yn un o borthladdoedd pwysicaf y byd yn ystod yr Oes Aur Iseldireg, o ganlyniad i'w datblygiad masnachol arloesol. Yn ystod y cyfnod hwnnw, ystyriwyd y ddinas yn ganolfan flaenllaw ar gyfer masnach a deiamwntiau. Ehangodd y ddinas yn ystod y 19eg a'r 20g, wrth i gymdogaethau maesdrefi newydd gael eu sefydlu.

Amsterdam yn canolbwynt ariannol a diwylliannol yr Iseldiroedd. Lleolir nifer o sefydliadau Iseldireg mawrion yno ac mae 7 o 500 o gwmnïau mwyaf y byd, gan gynnwys Philips ac ING wedi'u sefydlu yn y ddinas. Lleolir Cyfnewidfa Stoc Amsterdam, sy'n rhan o Euronext, yng nghanol y ddinas. Yn flynyddol, daw 4.2 miliwn o dwristiaid i weld atyniadau'r ddinas, sy'n cynnwys ei chamlesi hanesyddol, y Rijksmuseum, Amgueddfa Van Gogh, Tŷ Anne Frank, yr ardal golau coch a'r siopau coffi canabis.

Caethwasiaeth

Mae caethwasiaeth yn berthynas lle mae un person yn cael ei ystyried yn eiddo i berson arall. Gorfodir y caethwas i weithio i'w berchennog heb gael tâl am hynny.

Diplomyddiaeth

Y gelf ac ymarferiad o gynnal trafodaethau rhwng cynrychiolwyr grwpiau neu wladwriaethau gwahanol yw diplomyddiaeth. Gan amlaf mae'n cyfeirio at ddiplomyddiaeth ryngwladol, cysylltiadau rhyngwladol a gynhalir gan ddiplomyddion proffesiynol gyda golwg ar faterion heddwch, diwylliant, economeg, masnach, a rhyfel. Fel arfer cânt cytundebau rhyngwladol eu cyd-drafod gan ddiplomyddion cyn cefnogaeth gan wleidyddion cenedlaethol.

Diwydiant

Yn gyffredinol, mae diwydiant yn grŵp o fusnesau sydd yn rhannu dull tebyg o gynhyrchu elwau.Caiff diwydiant ei rannu gan economegwyr yn bedwar sector:

Diwydiant cynradd — cael deunyddiau crai o'r ddaear, e.e. mwyngloddio, ffermio,

Diwydiant eilaidd — gweithgynhyrchu, e.e. ffatri ceir,

Diwydiant trydyddol — gwasanaethau, e.e. addysg, meddygaeth,

Diwydiant cwaternaidd — gwaith ymchwil a gwyddonol.

Geiriadur yr Academi

Geiriadur yr Academi (Saesneg: The Welsh Academy English-Welsh Dictionary) yw'r geiriadur Saesneg-Cymraeg mwyaf cynhwysfawr erioed. Ffrwyth blynyddoedd o waith gan y golygyddion Bruce Griffiths a Dafydd Glyn Jones ydyw. Fe'i cyhoeddwyd yn 1995 a chafodd ail gyhoeddi fel fersiwn diwygiedig ym Medi 2003.

Mae'n gyfrol swmpus o dros 1,700 tudalen (tt. lxxxi + 1716) a gyhoeddir gan Gwasg Prifysgol Cymru ar ran Yr Academi Gymreig. Cynhwysir llu o enwau Cymraeg am dermau newydd ym meysydd gwyddoniaeth, technoleg, cyfrifiadureg, masnach, cyfryngau torfol, addysg, a.y.b.

Yn ôl Bruce Griffiths, nid yw'n dechnegol bosibl ychwanegu at y geiriadur, ers tua 2008, gan nad yw'r wasg yn gallu newid y prif destun. Dywedodd yn Golwg, "Mi wnaethon nhw brintio cywiriadau fel atodiad i'r prif destun. Ond yn anffodus, mae'r fersiwn ar-lein wedi'i gynnwys heb yr atodiad. Er enghraifft, dydy'r gair website ddim yno (ar-lein) ond mae yn yr atodiad papur."

Gogledd America

Mae Gogledd America yn gyfandir yn hemisffer gogleddol a hemisffer gorllewinol y Ddaear, wedi'i ffinio i'r gogledd gan y Cefnfor Arctig, ar y ddwyrain gan gogledd y Cefnfor Iwerydd, ar y dde-dwyrain gan Môr y Caribi, ac ar y dde a'r gorllewin gan gogledd y Cefnfor Tawel. Mae gan Ogledd America arwynebedd o 24,480,000 km² (9,450,000 mi sg), neu tua 4.8% o arwynebedd y Ddaear. Yn 2002, credir bod y boblogaeth yn fwy na 514,600,000. Dyma'r trydydd cyfandir o ran arwynebedd (ar ôl Asia ac Affrica) a'r pedwerydd o ran poblogaeth (ar ôl Asia, Affrica ac Ewrop).

Gwleidydd

Gwleidydd ydy rhywun sy'n cymryd rhan weithgar mewn gwleidyddiaeth fel gyrfa neu alwedigaeth, neu un sy'n cymryd rhan mewn llywodraeth gwladwriaeth.

Hawlfraint

Cysyniad cyfreithiol yw hawlfraint, a ddeddfir gan lywodraethau, i roi i'r sawl sy'n awdur gwaith gwreiddiol hawliau cyfyngedig i reoli ei ddosbarthiad, fel arfer am gyfnod o 70 mlynedd wedi marwolaeth yr awdur. Ar ôl y cyfnod hwn, mae'r gwaith yn dod i'r parth cyhoeddus.

Yn gyffredinol, yr "hawl i gopïo" ydyw, ond mae fel arfer yn darparu hawliau eraill i'r awdur yn ogystal, megis yr hawl i gael credyd am ei waith, i benderfynnu pwy all ei addasu, pwy all ei berfformio, pwy all elwa yn ariannol. Mae'n ffurf o eiddo deallusol (yn debyg i batent, marc masnach a chyfrinach masnach) sy'n gymwys i unrhyw ffurf o syniad neu wybodaeth sy'n wreiddiol. Crewyd hawlfraint, ar y dechrau, fel modd i lywodraethau Ewrop gyfyngu argraffu; pwrpas cyfoes hawlfraint yw i hybu creadigaeth gweithiau newydd gan roi rheolaeth llawn o'r gwaith a'r elw o'r gwaith i'r awdur.

Mae hawlfraint wedi cael ei safoni yn ryngwladol, ac mae'n para rhwng pumdeg a can mlynedd o farwolaeth yr awdur, neu gyfnod cyfyngedig ar gyfer gweithiau anhysbys neu gan awduron corfforedig; mae rhai awdurdodau angen defod er mwyn sefydlu hawlfraint, ond mae'r rhanfwyaf yn adnabod hawlfraint unrhyw waith gorffenedig hef gofrestru defodol. Caiff hawlfraint ei orfodi fel mater sifil fel rheol, ond mae rhai awdurdodau yn gosod mesuriadau troseddol yn erbyn y rhai a dorrai hawlfraint.

Mae'r rhanfwyaf o awdurdodau yn adnabod cyfyngiadau hawlfraint, gan ganiatáu eithriadau "teg" i cyfyngiadau hawlfraint yr awdur, a rhoi rhai hawliau i ddefnyddwyr. Mae datblygiad y we, cyfryngau digidol, a thechnoleg megis rhwydweithiau cyfrifiadurol, megis rhannu ffeiliau cyfoed-gyfoed, wedi ysgogi i'r cyfyngiadau gael eu hail-ddethol, ac wedi cyflwyno anhawsterau pellach i'r broses o orfodi hawlfraint, ac ysbrydoli heriau ychwanegol i sail athronyddol y gyfraith. Mae busnesau sydd â dibyniad economaidd ar hawlfraint wedi hyrwyddo ymestyniad ac ehangiad eu hawliau copi, ac wedi ceisio cael gorfodaeth cyfreithiol a thechnolegol ychwanegol.

Hela

Yr ymarfer o erlid anifeiliaid byw yw hela, gan amlaf bywyd gwyllt ar gyfer bwyta, adloniant, neu masnach. Me defnydd cyfoes y term yn cyfeirio ar hela cyfreithlon yn hytrach na herwhela. Cyfeirir at yr anifeiliaid a ddelir fel helwriaeth, gan amlaf maent yn famaliaid neu'n adar.

Gellir hela hefyd gyfeirio at waredu ar fermin, fel modd o reoli pla i atal ymledaeniad heintiau a achosir gan or-boblogaeth. Mai rhai sydd o blaid hela hefyd yn dadlau y gall hela fod yn elfen bwysig o reoli bywyd gwyllt, ar mwyn helpu cynnal poblogaeth iach o anifeiliaid o fewn gallu cynhaliaeth system ecoleg yr amgylchedd lle nad yw rheolaeth naturiol megis ysglyfaethwyr yn bodoli.Pysgota yw'r term a ddefnyddir ar gyfer yr erlid o bysgod, a ni gaiff ei gategoreiddio fel hela yn gyffredin.

Innsbruck

Dinas yng ngorllewin Awstria a phrifddinas talaith Tirol yw Innsbruck. Roedd y boblogaeth yn 2005 yn 140,000.

Saif y ddinas ar afon Inn. Sefydlwyd Innsbruck yn y 12g, a chafodd ei henw o'r bont dros afon Inn a wnaeth y sefydliad yn lle aros pwysig ar y llwybrau masnach o'r Eidal a'r Swistir i'r Almaen. Ceir llawer o adeiladau o'r canol oesoedd yma, yn cynnwys castell y Fürstenburg o'r 15g. Mae'n gyrchfan boblogaidd i dwristiaid, a cheir dwy brifysgol yma.

Lerpwl

Dinas yng ngogledd-orllewin Lloegr ydyw Lerpwl (Saesneg: Liverpool) ar lannau afon Merswy. Sefydlwyd Lerpwl fel dinas gan y brenin Seisnig John I yn 1207 gyda dim ond 500 o bobl, ac arhosodd yn gymharol fach tan ddechrau'r Chwyldro Diwydiannol; ar un adeg, oherwydd fod yma cymaint o Gymry Cymraeg, fe elwid y lle yn "Brifddinas Gogledd Cymru". Tyfodd drwy ddatblygu dociau enfawr. Un ffynhonnell sylweddol o arian oedd y masnach mewn caethweision o'r Affrig a cheir arddangosfa ar hyn lawr yn y dociau. Poblogaeth Lerpwl ydyw 439,473 (Cyfrifiad 2001).

Heddiw y ddinas ydyw ardal canalog Glannau Merswy (Saesneg: Merseyside). Yr ardaloedd eraill ydyw Knowsely, Sefton, St. Helens a Chilgwri (Saesneg: Wirral). Mae pobl tu allan i Lannau Merswy yn aml yn defnyddio 'Lerpwl' (mewn ffordd anghywir) i ddisgrifio'r holl ardal.

Adnabyddir poblogaeth Lerpwl fel 'Scousers' ar ôl y cawl cynhenid o'r enw 'scouse' (sy'n debyg i gawl Cymreig. Symbol Lerpwl ydyw aderyn sy'n edrych yn debyg i filidowcar o'r enw Liver Bird (ynghanir fel 'Laifr'). Hen enw Gymraeg ar y ddinas yw Llynlleifiad. Mae rhai yn tybio mai hyn yn cyfeirio at yr aderyn 'Lleifr', hen enw am fildowcar. Os felly, 'Llyn y Bilidowcar' yw enw'r ddinas. Ond mae yna llawer o theoriau eraill am darddiad yr enw - does neb yn siŵr o ble y daeth.

Roedd yn brifddinas answyddogol i Ogledd Cymru am gyfnod maith ac mae llawer o'r boblogaeth presennol o gefndir Gymreig. Surodd y berthynas rhwng Cymru a Lerpwl pan foddwyd Capel Celyn a Chwm Tryweryn gan Gorfforaeth Lerpwl ym 1965 er mwyn creu cronfa dŵr i gyflenwi dŵr i'r ddinas. Dywed rhai nad oedd angen boddi'r cwm o gwbl.

Mae nofel Marion Eames Hela Cnau yn rhoi hanes dynes ifanc a aeth i weini o Ogledd Cymru i Lerpwl.

Logo

Delwedd neu nod sy'n cynrychioli corff, cwmni, mudiad, neu rywbeth arall yw logo. Fel rheol caiff ei ddylunio'n neilltuol gyda'r amcan o gynrychioli'n weledol pwrpas neu weithgarwch y gwrthrych. Mae logos dan hawlfraint bron yn ddieithriad.

Nürnberg

Dinas yn nhalaith Bafaria yn yr Almaen yw Nürnberg, hefyd Nuremberg. Saif ar Afon Pegnitz a Chamlas Rhein-Main-Donaw, tua 170 milltir i'r gogledd o München. Hi yw'r ddinas fwyaf yn Franconia, gyda phoblogaeth o 500,132 yn 2006.

Tyfodd y ddinas yn gyflym rhwng 1050 a 1571, gan ei bod ar lwybrau masnach pwysig. Roedd rhai o sefydliadau pwysicaf yr Ymerodraeth Lân Rufeinig yn cyfarfod yno. Ystyrir hi yn prifddinas y Dadeni Almaenig yn y 15fed a'r 16g. Gwarchaewyd ar y ddinas yn ystod y Rhyfel Deng Mlynedd ar Hugain, a lleihaodd ei phwysigrwydd wedi'r rhyfel, hyd nes daeth yn ganolfan ddiwydiannol bwysig yn y 18g.

Dewisodd y Natsïaid Nürnberg fel y safle ar gyfer ralïau anferth rhwng 1927 a 1938. Wedi'r Ail Ryfel Byd, yma y cynhaliwyd Treialon Nuremberg, pan roddwyd llawer o brif arweinwyr y llywodraeth Natsïaidd ar eu prawf.

Deil y ddinas i fod yn ganolfan ddiwydiannol bwysig, ac ei ffair deganau ryngwladol yw'r fwyaf yn y byd.

Philadelphia

Gweler hefyd Philadelphia (gwahaniaethu).Dinas fwyaf Pennsylvania a'r chweched mwyaf o ran poblogaeth yn Unol Daleithiau America yw Philadelphia. Mae'n gorwedd yn Swydd Philadelphia, ac yn gwasanaethu fel sedd llywodraeth y swydd honno. Ei enw ar lafar yw "Dinas Brawdgarwch" (Saesneg: "the City of Brotherly Love") (Groeg: Φιλαδέλφεια, philadelphia, "brawdgarwch," o'r gair philos "cariad" ac adelphos "brawd").

Yn 2005 roedd ganddi boblogaeth o 1.4 million. Mae Philadelphia yn un o ganolfannau masnach, addysg, a diwylliant pwysicaf yr Unol Daleithiau. Yn 2006 amcangyfrifwyd fod gan ardal ddinesig Philadelphia boblogaeth o 5.8 miliwn, y bumed fwyaf yn UDA.

Yn y 18g, roedd Philadelphia y ddinas fwyaf poblog yn y wlad. Mae'n debyg iddi fod yr ail fwyaf poblog, ar ôl Llundain, yn yr Ymerodraeth Brydeinig. Y pryd hynny roedd yn bwysicach na dinasoedd Boston a Dinas Efrog Newydd yn nhermau dylanwad gwleidyddol a chymdeithasol, gyda Benjamin Franklin yn chwarae rhan bwysig yn ei goruchafiaeth. Philadelphia oedd canolbwynt cymdeithasol a daearyddol yr 13 gwladfa Americanaidd gwreiddol. Yno yn anad unlle arall y ganwyd y Chwyldro Americanaidd a arweiniodd at greu'r Unol Daleithiau.

Serbia

Gweriniaeth yn ne-ddwyrain Ewrop yw Serbia. Mae'n ffinio â Hwngari i'r gogledd, Rwmania a Bwlgaria i'r dwyrain, Macedonia ac Albania i'r de a Montenegro, Bosnia-Hertsegofina a Croatia i'r gorllewin. Er fod y wlad yn fechan, llifa afon fwyaf yr Undeb Ewropeaidd sef y Danube drwyddi am 21% o'i hyd cyfan. Mae Belgrade sef prifddinas Serbia, yn un o ddinas mwyaf poblog de-ddwyrain Ewrop.

Roedd Serbia'n rhan o Deyrnas Serbiaid, Croatiaid a Slofeniaid o 1918 i 1941 (Teyrnas Iwgoslafia wedi 1929), Gweriniaeth Ffederal Sosialaidd Iwgoslafia o 1945 i 1992, Gweriniaeth Ffederal Iwgoslafia o 1992 i 2003 a Serbia a Montenegro o 2003 i 2006.

Ym mis Chwefror 2008, datganodd senedd Kosovo, sef talaith ddeheuol Serbia gyda mwyafrif ethnig Albaniaid eu hannibyniaeth. Cymysg fu ymateb y gymuned rhyngwladol at Kosovo. Mae Serbia'n ystyried Kosovo fel talaith hunan-lywodraethol a reolir gan genhedaeth yr Cenhedloedd Unedig sef Cenhedaeth Gweinyddiaeth Interim y Cenhedloedd Unedig yn Kosovo

Mae Serbia'n aelod o'r Cenhedloedd Unedig, Cyngor Ewrop, Mudiad Cydweithrediad Economaidd y Môr Du a bydd yn llywyddu dros Cytundeb Masnach Rydd Canolbarth Ewrop yn 2010. Categorïr Serbia yn economi datblygol gan yr International Monetary Fund ac yn economi incwm canol-uwch gan Fanc y Byd.

Solfach

Pentref glan-môr a chymuned ar Fae Sain Ffraid, yn Sir Benfro, yw Solfach (hefyd Solfa, Saesneg: Solva). Fe'i lleolir ar gilfach môr rhwng Tyddewi a St. Ann's Head, ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro ar aber Afon Solfach. Mae ganddo harbwr ardderchog a bu'n ganolfan masnach arfordirol am ganrifoedd.

Heddiw mae'r pentref yn ganolfan hwylio a gwyliau glan-môr poblogaidd. Mae Llwybr Arfordir Penfro yn rhedeg trwy'r pentref.

Cynrychiolir yr ardal hon yn y Cynulliad Cenedlaethol gan Paul Davies (Ceidwadwyr) a'r Aelod Seneddol yw Stephen Crabb (Ceidwadwr).

Szczecin

Dinas yng ngogledd-orllewin Gwlad Pwyl a phrifddinas talaith Gorllewin Pomerania yw Szczecin (Almaeneg: Stettin). Roedd y boblogaeth yn 2014 yn 408,113. Saif ar afon Oder, gyda chanol y ddinas ar y lan orllewinol. Er fod y môr 65 km i'r gogledd, mae llongau yn medru cyrraedd y ddinas, ac mae'n un o borthladdoedd pwysicaf Gwlad Pwyl. Mae hefyd yn ddinas brifysgol.

Szczecin oedd prifddinas tiriogaeth hanesyddol Pomerania. Yn y 5g, roedd caer yma ar gyfer masnach rhwng y Llychlynwyr a chanolbarth Ewrop. Yn 1181 daeth y ddinas yn rhan o'r Ymerodraeth Lân Rufeinig, ac yn ddiweddarach yn aelod o'r Cynghrair Hanseataidd.

Daeth y ddinas yn eiddo brenin Sweden yn 1648 wedi'r Rhyfel Deng Mlynedd ar Hugain. Yn 1721, gorfodwyd y Swediaid i ildio'r ddinas i deyrnas Prwsia, ac yn 1870, gyda gweddill Prwsia, daeth yn rhan o Ymerodraeth yr Almaen. Yn 1945, wedi diwedd yr Ail Ryfel Byd, rhoddwyd meddiant ar y ddinas i Wlad Pwyl.

Tórshavn

Tórshavn (Daneg: Thorshavn) yw prifddinas a threflan fwyaf Ynysoedd Ffaröe, sy'n genedl o fewn Teyrnas Denmarc a sydd wedi ei lleoli'n ddaearyddol rhwng Norwy, Yr Alban a Gwlad yr Iâ. Lleolir Tórshavn ar lan ddwyreiniol ynys Streymoy. I'r gogledd orllewin gowedda'r mynydd 347-meter (1,138 ft) o uchder, Húsareyn, ac i'r de orllewin, y mynydd 350-meter (1,150 ft) o uchder, Kirkjubøreyn. Poblogaeth y dre ei hun yw 13,000 (2008) ond mae ardal drefol ehangach oddeutu 19,000.

Sefydlodd y Llychlynwyr senedd ar benrhyn Tinganes yn 850 OC. O'r dyddiad hynnny, Tórshavn oedd prifddinas yr ynysoedd ac mae wedi aros felly ers hynny. Yn ystod yr Oesoedd Canol, y penrhyn gul ganol oedd prif ran Tórshavn. Tórshavn hefyd oedd canolfan masnach monopoli'r ynysoedd a gan hynny, yr unig le y gallai'r ynyswyr brynu a gwerthu nwyddau'n gyfreithiol. Cafwyd gwared ar y monopoli yn 1856 a gyda hynny roedd yr ynysoedd yn rhydd i fasnachu'n agored.

Yr Wcráin

Gwlad a gweriniaeth yn nwyrain Ewrop yw'r Wcráin. Ystyr y gair "Wcráin" yw'r "wlad gyda ffiniau" (yn debyg i'r "Mers" rhwng Cymru a Lloegr, a gwledydd cyfagos iddi yw Ffederasiwn Rwsia, Belarws, Gwlad Pwyl, Slofacia, Hwngari, Rwmania a Moldofa. Ei ffin i'r de yw'r Môr Du ac i'r de ddwyrain ohoni mae'r Môr Azov.

Mae gan yr Wcráin arwynebedd o 603,628 km2 (233,062 mi sg), sy'n ei gwneud hi'r wlad fwyaf yn Ewrop (o'r gwledydd hynny sy'n gyfangwbwl o fewn Ewrop).Gwladychwyd neu meddianwyd ei thiroedd gan fodau dynol tua 44,000 o flynyddoedd yn ôl, ac mae'n ddigon posib mai yma y dofwyd y ceffyl am y tro cyntaf, a'r fan lle y cychwynwyd siarad Ieithoedd Indo-Ewropeaidd.

Mae ehangder ei thiroedd a'i ffermydd ffrwythlon dros y blynyddoedd yn golygu ei bod ymhlith y gwledydd gorau am gynhyrchu grawn ac yn 2011, yr Wcráin oedd y trydydd gorau drwy'r byd. Yn ô Cyfundrefn Masnach y Byd, mae'r Wcráin, felly'n un o'r 10 gwlad mwyaf dymunol i'w meddiannu. Ar ben hyn, mae ganddi un o'r diwydiannau creu awyrennau gorau.

Ceir poblogaeth o oddeutu 44.6 miliwn o bobl gyda 77.8% ohonyn nhw o darddiad Wcreinaidd, 17% yn Rwsiaid, Belarwsiaid, Tatariaid neu'n Rwmaniaid. Wcreineg yw'r iaith swyddogol a'i hwyddor yw'r wyddor Gyrilig Wcraneg. Siaredir y Rwsieg hefyd gan lawer. Y crefydd mwyaf poblogaidd yn y wlad yw'r Eglwys Uniongred Ddwyreiniol sydd wedi dylanwadu'n helaeth ar bensaerniaeth y wlad yn ogystal a'i llenyddiaeth a'i cherddoriaeth.

Roedd hi'n rhan o'r Undeb Sofietaidd.

Ieithoedd eraill

This page is based on a Wikipedia article written by authors (here).
Text is available under the CC BY-SA 3.0 license; additional terms may apply.
Images, videos and audio are available under their respective licenses.