Môr Aegeaidd

Braich o'r Môr Canoldir yw'r Môr Aegeaidd (neu'r Môr Egeaidd neu Môr Aegea). Fe'i lleolir rhwng Gwlad Groeg ac Anatolia (Twrci). Mae'r Dardanelles, Môr Marmara a'r Bosphorus yn ei gysylltu â'r Môr Du.

Mae gan y môr arwynebedd o 214 000 km², ac mae'n mesur 610 km o'r de i'r gogledd a 300 ar draws. Ar ei ddyfnaf mae'n cyrraedd 3,543 metres, i'r dwyrain Crete. I'r de mae ynysoedd Kythera, Antikythera, Crete, Karpathos a Rhodes yn diffinio ei derfyn.

Mae'n cynnwys nifer fawr o ynysoedd. Gellir eu dosbarthu'n saith grŵp:

  • Ynysoedd Gogledd-ddwyrain Môr Aegea
  • Euboea a'i rhag-ynysoedd
  • Ynysoedd Sporades Gogleddol
  • Cyclades
  • Ynysoedd Saronica,
  • Dodecanese (Sporades Deheuol)
  • Crete
Môr Aegeaidd
Aegeansea
Daearyddiaeth
Attica

Rhanbarth hanesyddol yng Ngwlad Groeg yw Attica (Groeg: Αττική, Attiki, efallai o'r gair akte "gorynys"). Mae'n gorwedd yn ne-ddwyrain canolbarth y wlad, ar y tir mawr. Mae ar ffurf triongl. I'r de-orllewin ceir Gwlff Saronica. Mae braich arall o'r Môr Aegeaidd yn gwahanu Attica ac ynys Euboea. Gelwir Attica a'r ynysoedd cyfagos i'r de-ddwyrain yn y Môr Aegeaidd yn Ynysfor Attica, sy'n ffurfio rhan ogleddol yr Ynysoedd Cyclades. Mae Isthmws Corinth yn cysylltu Attica â'r Peloponesse. I'r gogledd ceir Boeotia. Mae mynyddoedd geirwon Pateras, Kithairon a Parnes yn ei diffinio yn y gogledd, gan redeg o fae Aigosthena yn y gorllewin i Sianel Euboea yn y dwyrain. Trwy'r bylchoedd rhwng y mynyddoedd hyn ceir y tair ffordd hynafol i mewn ac allan o Attica. Yn amddiffyn dinas Athen ceir mynyddoedd Aigaleos, Pentelikon a Hymettos.

Yn ôl traddodiad unwyd deuddeg dinas yr Attica hynafol yn un wladwriaeth gan yr arwr Theseus. O'r 6g CC ymlaen dominyddid Attica gan Athen.

Yn ogystal ag Athen a Piraeus lleolir dinasoedd a threfi eraill fel Megara, Eleusis, Kifissia a Markopoulon ar yr orynys. O ddidordeb arbennig i haneswyr y mae gwastadedd Marathon. Mae teml Poseidon ar Benrhyn Sounion, pwynt mwyaf deheuol Attica, yn enwog.

Yn yr Henfyd roedd Attica yn enwog ymhlith pethau eraill am ei llestri cain a elwir heddiw'n llestri Atticaidd.

Culfor

Sianel forwrol sy'n cysylltu dau fôr neu ddwy ran o fôr yw culfor. Yn aml mae culfor yn dramwyfa pwysig i longau ac felly o bwysigrwydd economaidd a stragegol. Yr unig enghraifft o gulfor yng Nghymru yw Afon Menai, rhwng Môn ac Arfon.

Delos

Mae Delos (Groeg: Δήλος, Dhilos) yn ynys yng nghanol y cylch o ynysoedd a elwir y Cyclades yng Ngwlad Groeg. Roedd yr ynys yn bwysig ym mytholeg Roeg; dywedid mai yma yr oedd man geni y duw Apollo a'r dduwies Artemis.

Credir fod pobl wedi bod yn byw ar Delos ers y trydydd mileniwm cyn Crist. Yn ôl yr hanesydd Thucydides roedd y boblogaeth wreiddiol yn forladron Cariaidd, a yrrwyd o'r ynys gan y brenin Minos o ynys Creta. Erbyn cyfnod Homeros roedd yr ynys yn enwog fel man geni Apollo ac Artemis. Rhwng 900 CC a 100 OC., ystyrid Delos yn ynys sanctaidd, gyda theml i Dionysus yno hefyd.

Ar ôl Rhyfeloedd Groeg a Phersia, daeth Delos yn fan cyfarfod Cynghrair Delos, a sefydlwyd yn 478 CC, a chedwid trysorfa'r gynghrair yma hyd 454 CC pan y'i symudwyd i Athen gan Pericles. Ers 1873 mae'r École Française d'Athènes wedi bod yn cloddio yma, a gwnaed nifer fawr o ddarganfyddiadau. Yn 1990 cyhoeddwyd Delos yn Safle Treftadaeth y Byd.

Euboea

Euboea, hefyd Negropont neu Negroponte (Groeg: Εύβοια, Évia; Hen Roeg: Εὔϐοια, Eúboia), yw'r ail-fwyaf o ynysoedd Groeg, gydag arwynebedd o 1609 milltir sgwar. Mae'n ynys hir a gweddol gul, rhyw 150 km o hyd a rhwng 50 km a 6 km o led. Roedd y boblogaeth yn 218,032 yn 2005.

Yn y gogledd, nid yw'r culfor rhwng Euboea a Thessalia ar y tir mawr ddim mwy na tua 40 medr o led yn ei fan gulaf, Culfor Euripus. Adeiladwyd pont dros y culfor am y tro cyntaf yn 410 CC., yn ystod y Rhyfel Peloponnesaidd. Daw'r enw Negroponte o'r bont oedd yma pan oedd yr ynys ym meddiant Fenis. Bellach mae dwy bont yn cysylltu'r ynys a'r tir mawr. Mae canol yr ynys yn fynyddig; y copaeon uchaf yw Dirphys (1,745 m), Pyxaria (1,341 m) ac Ochi (1,394).

Yng Ngroeg yr Henfyd roedd dwy ddinas bwysig ar yr ynys, Chalcis ac Eretria. Yn 490 CC dinistriwyd Eretria gan Ymerodraeth Persia, ac er iddi gael ei hail-adeiladu yn dilyn buddugoliaeth y Groegiaid ym Mrwydr Marathon, dinas Chalcis fu'r ddinas bwysicaf ar yr ynys o hynny ymlaen. Chalcis yw prifddinas yr ynys heddiw. Roedd yr ynys i gyd ym meddiant Athen erbyn y cyfnod yma. Yn 410 CC llwyddodd yr ynys i adennill ei hannibyniaeth, ond wedi Brwydr Chaeronea yn 338 CC. daeth yn eiddo Philip II o Facedon, ac yn ddiweddarach yn eiddo Rhufain. Bu'n eiddo Fenis am gyfnod, hyd nes i Ymerodraeth yr Ottomaniaid ei chipio yn 1470. Yn 1830 daeth yn rhan o Wlad Groeg annibynnol.

Groeg yr Henfyd

Am yr iaith, gweler Hen Roeg (iaith).

Cyfnod o hanes Groeg a barodd am dua mileniwm, hyd at ehangiad Cristnogaeth, oedd Groeg yr Henfyd (neu Hen Roeg). Fe'i ystyrir gan lawer i fod yn un o sylfeini Gwareiddiad y Gorllewin. Roedd diwylliant Groeg yn ddylanwad cryf ar yr Ymerodraeth Rufeinig, a thrwy hynny wedi dylanwadu diwylliant sawl rhan o Ewrop. Gwelir ei holion o hyd mewn meysydd megis iaith, gwleidyddiaeth, athroniaeth, addysg, gwyddoniaeth a'r celfyddydau. Bu'n rhan o ysbrydoliaeth y Dadeni yng Ngorllewin Ewrop, ac fe ysbrydolodd sawl ddiwygiad newydd-glasurol yn y ddeunawfed a'r bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Defnyddir y term Groeg yr Henfyd hefyd i ddisgrifio parth hynafol yr iaith Roeg. Cyfeiria felly at ardaloedd a wladychwyd gan Roegwyr: Cyprus, ynysoedd ac arfordir ddwyreiniol (a gelwir pryd hynny yn Ionia) y Môr Aegeaidd, Sisili a ddeheubarth yr Eidal (a gelwir pryd hynny yn Magna Graecia), a threfedigaethau ar wasgar ar arfordiroedd Colchis, Illyria, Thrace, yr Aifft, Cyrenaica, deheubarth Gâl, rhan ddwyreiniol gorynys Iberia, Iberia'r Cawcasws a Taurica.

Gwlad Groeg

Gweriniaeth yn ne-ddwyrain Ewrop yw'r Weriniaeth Helenaidd neu Gwlad Groeg. Gwledydd cyfagos yw Albania, Gweriniaeth Macedonia, Bwlgaria a Thwrci. I'r gogledd mae'r Môr Egeaidd ac i'r de a'r dwyrain Môr Ionia a'r Môr Canoldir.

Ystyrir Groeg gan lawer fel crud diwylliant y Gorllewin a man geni democratiaeth, athroniaeth orllewinol, campau chwaraeon, llenyddiaeth orllewinol, gwleidyddiaeth a drama. Mae ganddi hanes hir a chyfoethog. Ymunodd â'r Undeb Ewropeaidd yn 1981 a chyflwynwyd yr ewro fel arian y wlad yn 2001.

Yn Olympia gwlad Groeg y cynhaliwyd y Gemau Olympaidd Gwreiddiol o 776 CC hyd 393 OC. Yn 2004 cynhaliwyd y Gêmau Olympaidd Modern yn Athen.

Hanes Groeg

Hanes Groeg yw hanes Gwlad Groeg fel y mae heddiw, ond gall hefyd gynnwys hanes yr ardal eangach oedd yn ffurfio'r byd Groegaidd yn y cyfnod clasurol.

Ar lannau'r Môr Aegeaidd y datblygodd gwareiddiadau cyntaf Ewrop. Y cynharaf oedd y Gwareiddiad Minoaidd ar ynys Creta, gyda Knossos fel ei ganolfan. Yn ddiweddarach, datblygodd y Gwareiddiad Myceneaidd ar y tir mawr. Wedi diwedd y gwareiddiad yma, bu cyfnod a adwaenir fel Oesodd Tywyll Groeg, ond yna blodeuodd y cyfnod clasurol. Yn draddodiadol, dyddir hwn o ddyddiad cynnal y Gemau Olympaidd cyntaf yn 776 CC.

Y ffurf nodweddiadol ar lywodraeth yn y cyfnod yma oedd y polis (dinas-wladwriaeth). Lledaenodd y diwylliant Groegaidd a gwladychwyr Groegaidd i Asia Leiaf a de yr Eidal (Magna Graecia). Ymladdodd Athen a Sparta gyda'i gilydd i drechu ymosodiad Ymerodraeth Persia yn y 5eg ganrif CC. Yn ddiweddarach, ymladdwyd Rhyfel y Peloponnesos rhyngddynt, gyda Sparta yn gorchfygu Athen i ddod yn brif rym milwrol Groeg am gyfnod. Yn ddiweddarch, gorchfygwyd Sparta gan Thebai.

Daeth Macedonia yn feistr ar y dinas-wladwriaethau Groegaidd gan Philip II, brenin Macedon, a than ei fab ef, Alecsander Fawr, gorchfygwyd a dinistriwyd yr Ymerodraeth Bersaidd. Dechreuodd hyn y Cyfnod Helenistaidd. Wedi marwolaeth Alecsander, bu ymladd rhwng ei gadfridogion, a rhannwyd ei ymerodraeth. Concrwyd Groeg yn derfynol gan y Rhufeiniaid yn 146 CC, a daeth yn rhan o Ymerodraeth Rhufain.

Wedi cwymp yr ymerodraeth Rufeinig yn y gorllewin, datblygodd yr Ymerodraeth Fysantaidd, gyda Caergystennin fel prifddinas. Parhaodd yr ymerodraeth hyd at gwymp Caergystennin yn 1453. Daeth Groeg yn rhan o'r Ymerodraeth Otomanaidd, a pharhaodd dan reolaeth Otomanaidd hyd ar Ryfel Annibyniaeth Groeg(1821 - 1829). Sefydlwyd teyrnas gan y brenin Otto.

Wedi diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf, ymladdodd Groeg yn erbyn Twrci (1919-1922), gan feddiannu tiriogaethau sylweddol am gyfnod cyn cael eu gyrru'n ôl gan |Mustafa Kemal Atatürk. Yn 1940, ymosododd yr Eidal ar Wlad Groeg, ond gorchfygwyd yr Eidalwyr gan y Groegiaid, a bu'n rhaid i fyddin yr Almaen ymyrryd a meddiannu Groeg.

Ar ddiwedd yr Ail Ryfel Byd, ymladdwyd Rhyfel Cartref Groeg rhwng byddinoedd Comiwnyddol a Brenhinol. Yn 1967, cipiwyd grym gan junta milwrol adain-dde. Adferwyd democratiaeth yn 1975. Ymunodd Groeg a'r Undeb Ewropeaidd ar 1 Ionawr 1981, ac arweiniodd hyn at gynnydd economaidd sylweddol. Mabwysiadwyd yr Ewro yn 2001.

Lemnos

Un o ynysoedd Gwlad Groeg yw Lemnos (Groeg: Λήμνος). Un o'r Ynysoedd Gogledd Aegeaidd, saif yn rhan ogleddol Môr Aegaea, i'r gogledd o Lesbos. Roedd poblogaeth yr ynys yn 18,104 yn 2001.

Y trefi mwyaf yw Mirina a Moudros. Mae amaethyddiaeth yn bwysig yma, ac mae gwin Lemnos yn adnabyddus.

Ym mytholeg Roeg, roedd yr ynys yn gysegredig i Hephaestus; dywedir iddo syrthio yma pan dafodd ei dad, Zeus, ef o Olympos.

Lesbos

Ynys Roeg yn y Môr Aegeaidd yw Lesbos (Groeg ddiweddar: Lésvos). Un o'r Ynysoedd Gogledd Aegeaidd, mae'n gorwedd yn agos iawn i dir mawr Twrci. Ei chanolfan yw dinas Mitilene (weithiau gelwir yr ynys ei hun 'Mitilini' nei 'Mitilene', ar ôl ei brif ddinas). Tyfir yr olewydden a chnydau grawn yno. Mae pysgota sardîns yn bwysig hefyd ond y prif ddiwydiant heddiw yw twristiaeth. Ar ôl Crete ac Euboea Lesbos yw'r fwyaf o'r ynysoedd Aegaeaidd.

Ceir olion presenoldeb pobl o'r oes Neolithig ar Lesbos. Ymsefydlodd y Groegiaid ar yr ynys tua 1000 CC. Blodeuodd diwylliant Groeg yno ac fe'i cysylltir yn arbennig â barddoniaeth Roeg delynegol a gwaith Sappho ac Alcaeus. Roedd yr ynys yn rhan o Aeolis ac yn aelod o Gynhgrair Delos yng Ngroeg yr Henfyd. Yn ddiweddarach daeth i feddiant y Rhufeiniaid a gwnaethpwyd Mitilene yn borthladd rhydd ganddynt.

Codwyd nifer o eglwysi hardd yno ar ddechrau'r cyfnod Bysantaidd. Roedd yn arfer alltudio pobl i Lesbos, e.e. yr ymerodres Irene yn 809. Yn ystod y canrifoedd nesaf newidiai ddwylo yn aml rhwng y Bysantiaid, y Croesgadwyr, y Saraseniaid a'r Tyrciaid. Syrthiodd i'r Otomaniaid yn 1462. Brodor o'r ynys oedd y môr leidr Khair-ed-din Barbarossa. Daeth yn rhan o Wlad Groeg yn 1912.

Naxos

Un o ynysoedd Gwlad Groeg yw Naxos (Groeg: Νάξος). Hi yw'r fwyaf o ynysoedd y Cyclades, gyda phoblogaeth o 18,188 yn 2001

Y ddinas fwyaf yw Hora, a elwir hefyd yn Ddinas Naxos, gyda phoblogaeth o 6,533. Mae'r pentrefi ar yr ynys yn cynnwys Filoti, Apiranthos, Vivlos, Agios Arsenios, Koronos a Glinado. Mae'n gyrchfan boblogaidd i dwristiaid, gyda nifer o safleoedd archaeolegol diddorol yn ogystal a thraethau. Mynydd Zas (999 medr) yw'r mynydd uchaf yn y Cyclades.

Ym mytholeg Roeg, dywedir i Zeus gael ei fagu mewn ogof ar lethau Mynydd Zas. Chwedl arall yw bod Theseus wedi gadael Ariadne ar yr ynys, wedi iddi ei helpu i ladd y Minotawr ar ynys Creta.

Paros

Un o ynysoedd Gwlad Groeg yw Paros (Groeg: Πάρος). Mae'n un o o ynysoedd y Cyclades, gyda phoblogaeth o 12,853 yn 2001. Saif i'r gorllewin o ynys Naxos. gydag ynys lai Antiparos ymhellach i'r gorllewin.

Y ddinas fwyaf yw Parikía. Mae'n gyrchfan boblogaidd iawn i dwristiaid, ac mae hefyd yn adnabyddus am ei marmor.

Rhodes

Mae Rhodes (Groeg diweddar: Ródhos) neu yn Gymraeg Rhodos yn un o ynysoedd Gwlad Groeg yn ne'r Môr Aegea, yr ynys fwyaf yn ynysoedd y Dodecanese.

Ei phrifddinas yw tref Rhodes.

Santorini

Ynys yng Ngwlad Groeg yw Santorini (Groeg: Σαντορίνη), hefyd Thera neu Thira, Groeg: Θήρα. Gydag ynys Therasia a nifer o ynysoedd llai, mae'n ffurfio cylch o amgylch y caldera a ffurfiwyd pan ddinistriwyd llosgfynydd gan ffrwydrad folcanig anferth. Hwy yw'r mwyaf deheuol o ynysoedd y Cyclades, tua 70 milltir i'r gogledd o ynys Creta, gyda phoblogaeth o 13,402 yn 2001.

Digwyddodd y ffrwydrad a greodd yr ynysoedd tua 3,600 o flynyddoedd yn ôl, a chred rhai ysgolheigion mai effeithiau'r ffrwydrad yma fu'n gyfrifol am ddiwedd y Gwareiddiad Minoaidd.

Y ddinas fwyaf yw Fira. Mae'n gyrchfan boblogaidd i dwristiaid, gyda nifer o safleoedd archaeolegol diddorol yn ogystal a'r golygfeydd.

Skiathos

Un o ynysoedd Gwlad Groeg yw Skiathos (Groeg: Σκιάθος). Hi yw'r ynys fwyaf gorllewinol o'r Sporades, gyda phoblogaeth o 6,160 yn 2001

Y dref fwyaf yw tref Skiathos, gyda phoblogaeth o 4,988 yn 2001. Mae'r pentrefi yn cynnwys Χánemos (195), Kalývia (179), Troúllos (159), a Koukounariés (126). Coed pinwydd sy'n gorchuddio'r rhan fwyaf o'r ynys, ac effeithiwyd arni'n ddifrifol gan dân ar 11 Gorffennaf 2007.

Sporades

Mae'r erthygl yma am yr ynysoedd a adwaenid gynt fel y "Sporades Gogleddol". Am yr ynysoedd a adwaenid fel y "Sporades Deheuol", gweler y Dodecanese.

Ynysoedd oddi ar arfordir dwyreiniol tir mawr Gwlad Groeg yw'r Sporades (Groeg: Σποράδες). Safant ym Môr Aegea, i'r gogledd o'r Cyclades.

Mae 24 o ynysoedd yn y Sporades, gyda phoblogaeth ar bedair ohonynt:

Alonnisos

Skiathos

Skopelos

SkyrosYmysg yr ynysoedd llai mae:

Ynysoedd Adelfoi

Agios Georgios Skopelou

Argos Skiathou

Dasia

Erinia

Gioura

Grammeza

Kyra Panagia

Lekhoussa

Peristera

Piperi

Psathoura

Repio

Rineia Skyrou

Sarakino

Skandili

Skantzoura

Skyropoula

Tsougria

Valaxa

Twrci

Pwnc yr erthygl hon yw'r wlad ar lan ddwyreiniol y Môr Canoldir. Gweler Twrci (aderyn) am wybodaeth ar yr aderyn.Gweriniaeth yn Ewrop ac Asia yw Gweriniaeth Twrci neu Twrci (Twrceg: Türkiye Cumhuriyeti, Cwrdeg: Komara Tirkiyê). Cyn 1922 yr oedd y wlad yn gartref i Ymerodraeth yr Otomaniaid. Mae Twrci wedi'i lleoli rhwng y Môr Du a Môr y Canoldir. Y gwledydd cyfagos yw Georgia, Armenia, Aserbaijan ac Iran i'r dwyrain, Irac a Syria i'r de a Gwlad Groeg a Bwlgaria i'r gorllewin. Ankara yw prifddinas y wlad.

Y Môr Canoldir

Môr rhwng Ewrop, Asia ac Affrica yw'r Môr Canoldir (2.5 miliwn km²). Cafodd ei enw o'r Lladin mediterraneus (medius, 'canol' + terra, 'tir'), ond roedd y Rhufeiniaid yn ei alw'n Mare Nostrum, sef 'ein môr ni'.

Ynysoedd Gogledd Aegeaidd

Grŵp o ynysoedd yng ngogledd Môr Aegeaidd sy'n perthyn i Wlad Groeg a Thwrci yw Ynysoedd Gogledd Aegeaidd. Nid yw'r ynysoedd yn ffurfio cadwyn neu grŵp corfforol, ond yn aml maent yn cael eu grwpio at ddibenion twristiaeth neu weinyddol. Mae'r ynysoedd Sporades yn gorwedd i'r gorllewin, a'r ynysoedd Cyclades a Dodecanese i'r de.

O fewn y grŵp hwn, y prif ynysoedd yw'r ynysoedd Groeg:

Thásos (Θάσος)

Samothráki (Σαμοθράκη)

Lemnos (Λήμνος)

Agios Efstratios (Άγιος Ευστράτιος)

Lesbos (Λέσβος)

Psará (Ψαρά)

Oinousses (Οινούσσες)

Chios (Χίος)

Samos (Σάμος)

Ikaría (Ικαρία)

Fournoi Korseon (Φούρνοι Κορσέων)a'r ynysoedd Twrcaidd:

Gökçeada

Bozcaada

Ynysoedd Tavşan

İzmir

Dinas a phorthladd yng ngorllewin Twrci yw İzmir (Groeg: Σμύρνη, Smýrni), hefyd Smyrna. İzmir yw ail borthladd Twrci, ar ôl Istanbul, a thrydedd dinas y wlad, gyda phoblogaeth o 4,130,444 yn 2009). Saif tua 450 km o'r de-orllewin o Istanbul. Hi yw prifddinas talaith İzmir.

Sefydlwyd y ddinas tua 3000 C.C.. Rhwng tua 2000 C.C. a 1200 C.C., roedd yn ffurfio rhan o Ymerodraeth yr Hethiaid. Tua'r flwyddyn 1000 C.C., fe'i poblogwyd gan ymfudwyr o Wlad Groeg ac Anatolia. Yn 688 CC, fe'i cipiwyd gan ddinas Colofon, a daeth yn rhan o Gynghrair Ionia. Newidiodd ddwylo sawl gwaith yn ystod y canrifoedd nesaf. Yn 1922 daeth yn rhan o Dwrci, a gorfodwyd tua miliwn o Roegiaid i adael i ddinas a symud i Wlad Groeg.

Ieithoedd eraill

This page is based on a Wikipedia article written by authors (here).
Text is available under the CC BY-SA 3.0 license; additional terms may apply.
Images, videos and audio are available under their respective licenses.