Llyfr y Barnwyr

Llyfr yn yr Hen Destament yw Llyfr y Barnwyr (Hebraeg: Sefer Shoftim ספר שופטים). Mae'n rhoi hanes y Barnwyr, oedd yn rheoli Israel yn y cyfnod yma.

Cynnwys

  • Crynodeb a rhagarweiniad: Anufudd-dod Israel (1:1-3:6)
    • Crynodeb: Concwest anghyflawn y Cananeaid (1:1-36)
    • Rhagarweiniad: Barnu Israel (2:1-3:6)
  • Hanes y Barnwyr: Gwaredigaeth Israel (3:7-16:31)
    • Othniel (3:7-11)
    • Ehud (3:12-30)
    • Shamgar (3:31)
    • Deborah a Barak (4:1-5:31)
    • Gideon (6:1-8:32)
    • Tola a Jair (10:1-5)
    • Jephthah (10:6-12:7)
    • Ibzan, Elon, and Abdon (12:8-15)
    • Samson (13:1-16:31)
  • Atodiad: Dirywiad Israel (17:1-21:25)
    • Micah a'r Daniaid (17:1-18:31)
    • Brwydr Gibeah (19:1-21:25)
Penuel

Lle a grybwyllir yn y Beibl yw Penuel ("wyneb Duw"), hefyd Peniel. Ymddengys ei fod i'r dwyrain o afon Iorddonen ac i'r gogledd o afon Jabbok.

Cofnodir yr hanes yn llyfr Genesis, lle mae Jacob yn ymryson â dyn, sy'n cael ei amlygu fel angel (Gen. 32:24-32). Rhoddodd Jacob yr enw "Penuel" neu "Peniel" ar y lle. Ceir cyfeiriad at dref ar y safle yn Llyfr y Barnwyr, lle mae'r trigolion yn gwrthod cynorthwyo Gideon, gyda'r canlyniad i Gideon ei dinistrio.

Daeth yn boblogaidd fel enw ar gapeli anghydffutfiol yng Nghymru, ac mae pentrefi o'r enw "Peniel" yn Sir Gaerfyrddin a Sir Ddinbych.

Samson (Beibl)

Cymeriad Beiblaidd yn yr Hen Destament yw Samson neu Shimshon (Hebraeg: שמשון, Šimšon). Ceir ei hanes yn Llyfr y Barnwyr, p. 13 - 16, ac hefyd yn Hynafiaethau yr Iddewon gan Josephus.

Disgrifir Samson fel gŵr o gryfder anarferol, sy'n lladd llew a'i ddwylo ac yn ymladd yn erbyn y Ffilistiaid, gan ladd nifer fawr ohonynt. Mae'n syrthio mewn cariad ag un o ferched y Ffilistiaid, Delilah, sy'n darganfod mai yn ei wallt y mae cyfrinach ei gryfder. Wedi iddo dorri ei wallt tra mae'n cysgu, mae'n ei fradychu i'r Ffilistiad, sy'n ei ddallu a'i gadw'n garcharor yn Gaza.

Yn ystod seremoni yn nheml y duw Dagon, arweinir Samson i mewn i'r deml. Erbyn hyn, mae ei wallt wedi tyfu eto ac mae ei nerth wedi ei adfer. Mae'n tynnu pileri'r deml i lawr a dymchwel yr adeilad, gan ei ladd ei hun a nifer fawr o'r Ffilistiaid.

Y Beibl

Casgliad o lyfrau sanctaidd yn yr iaith Roeg a'r iaith Hebraeg yw'r Beibl. Yn y traddodiad Cristnogol, gelwir y llyfrau Hebraeg yn Hen Destament a'r llyfrau Groeg yn Destament Newydd.

Cyfieithwyd y Beibl i'r Gymraeg gan yr Esgob William Morgan.

Y Beibl Hebraeg

Cagliad o destunau canonaidd sydd yn ysgrythur sanctaidd i'r Iddewon yw'r Beibl Hebraeg neu'r Tanách. Hwn yw sail yr Hen Destament yn y Beibl Cristnogol.

Yr Hen Destament

Casgliad o 39 llyfr hynafol sy'n ffurfio ysgrythur ganonaidd yr Iddewon yw'r Hen Destament. Gyda'r Testament Newydd mae'n ffurfio y gyntaf o ddwy brif ran y Beibl Cristnogol. Mae'r enw yn tarddu o'r gair Lladin am "gyfamod" ac yn cyfeirio at y ffaith ei fod yn cael ei ystyried yn gyfamod rhwng yr Israeliaid a Duw, thema a geir dro ar ôl tro ynddo. Mae'r llyfrau'n honni rhychwantu'r cyfnod rhwng creu'r Bydysawd a chwymp Adda ac Efa hyd at tua 400 CC. Fe'u rhennir yn draddodiadol yn dair rhan: y Torah neu'r Pentateuch (y pum llyfr cyntaf a gysylltir â Moses), Llyfrau'r Proffwydi (llyfrau 'hanes') a'r Hagiographa (Hebraeg: Kethubim) diweddarach a ychwanegwyd yn y ganrif gyntaf OC (h.y. y Salmau, Caniad Solomon, a.y.y.b).

Ieithoedd eraill

This page is based on a Wikipedia article written by authors (here).
Text is available under the CC BY-SA 3.0 license; additional terms may apply.
Images, videos and audio are available under their respective licenses.