Llyfr Exodus

Ail lyfr y Pumllyfr yw Llyfr Exodus neu weithiau yn Gymraeg Ecsodus, ac felly ail lyfr y Tora a'r Hen Destament yn y Beibl. Hanes caethwasiaeth yr Iddewon yn yr Aifft, ei hymadawiad o'r wlad honno, a'u taith i Fynydd Sinai dan arweiniad Moses sydd yn y llyfr. Sonir ail hanner Exodus am y Cyfamod rhwng Duw ac Israel yn Sinai, a chyhoeddi'r gyfraith sy'n rheoli bywydau'r Iddewon. Yn ôl y traddodiad crefyddol, Moses ei hun yw awdur Llyfr Exodus.

Notre-Dame de L'Epine Vitrail 9 12 2012 03
Ffenestr gwydr lliw yn Notre-Dame de l'Épine sy'n dangos Moses a'r Iddewon yn croesi'r Môr Coch.
Arch y Cyfamod

Yn ôl y traddodiadau Cristnogol ac Iddewig, cedwid gweddillion dwy lech Deng Air Duw, a roddwyd i Foses, yn Arch y Cyfamod.

Cwm Rhondda (emyn-dôn)

Emyn-dôn Gymreig boblogaidd iawn yw Cwm Rhondda, sy'n cael ei ystyried fel anthem answyddogol Cymru a genir ar nifer o achlysuron ar wahân i'r eglwys, gan gynnwys mabolgampau (yn enwedig ar y maes rygbi). Daw enw'r gân o le caiff ei chyfansoddi, sef Cwm Rhondda, yn dilyn arferiad i alluogi organyddion i adnabod tôn yn syth. Ysgrifennodd William Williams y testun (Arglwydd, arwain trwy'r anialwch) a chaiff ei ganu i alaw a gyfansoddodd John Hughes. Cred rhai i'r alaw gael ei hysgrifennu ar gyfer Cymanfa Ganu'r Bedyddwyr ym Mhontypridd yn 1905 ond dywed eraill ei bod wedi ei hysgrifennu i gyrddau arbennig yng Nghapel Rhondda, eglwys y Bedyddwyr, Trehopcyn, Pontypridd, yn 1907. Mae'n sôn am hanes yr Iddewon yn teithio o'r Aifft i Ganaan (stori Llyfr Exodus yn y Beibl). Weithiau canir geiriau Wele'n sefyll rhwng y myrtwydd gan Ann Griffiths. Mae fersiynau Saesneg o'r gân hefyd: Bread of Heaven (cyfieithiad o eiriau Williams, gan Peter Williams), Christ is Coming, a God of Grace and God of Glory.

Olew eneinio sanctaidd

Crëwyd yr olew eneinio sanctaidd fel y'i disgrifiwyd yn Ymadawiad 30:22-25 (Exodus 30:22-25) gyda:

500 siclau (tua 6 kg) o fyrr, yn ôl y Ra'avad. Mae Maimonides yn cyfieithu'r sylwedd hwn fel mwsg.

250 siclau (tua 3 kg) o sinamon persawrus,

250 siclau (tua 3 kg) o galamws,

500 siclau (tua 6 kg) o gassia, ac

hin (tua 4 L yn ôl Shiurei Torah, 7 L yn ôl y Chazon Ish) o olew olewydd.Defnyddiwyd yr olew i eneinio dysglau'r Tabernacl a'r Archoffeiriad. Ystyrir yn draddodiadol i fod yr olew a ddefnyddiwyd gan broffwydi i eneinio Saul, Dafydd, a brenhinoedd eraill o hen Israel. Roedd y proffwydi yn gallu cael eu heneinio gyda'r olew. Mae'r gair Crist / Meseia yn golygu "yr Eneiniog."

Sinai

Gorynys anial yn Yr Aifft yw Sinai, sy'n gorwedd rhwng Camlas Suez yn y gorllewin ac Israel a Llain Gaza yn y dwyrain. Yn y gogledd mae'n wynebu'r Môr Canoldir tra yn y de mae ganddi arfordir hir ar y Môr Coch sy'n terfynu yn Gwlff Suez yn y gorllewin a Gwlff Aqaba yn y dwyrain.

Ac eithrio ambell werddon werdd mae'r tir yn garregog a diffrwyth gyda bryniau yn y de a gwastadeddau yn y gogledd. Jabal Katrina (2,627 medr) yw'r pwynt uchaf, ond yr enwocaf o fynyddoedd yr ardal yw Mynydd Sinai (2285 metr, 7497 troedfedd) . Yn ôl Llyfr Exodus yn yr Hen Destament, ar y mynydd hwnnw y cafodd Moses dabledi'r Deg Deddf o law Iehofa. Saif mynachlog hynafol, sef Mynachlog Sant Catrin, sy'n enwog am ei chasgliad o lawysgrifau ger copa Mynydd Sinai. Yn ystod yr Ymerodraeth Rufeinig roedd Sinai'n rhan o dalaith Arabia Petraea â'i phrifddinas ym Mhetra (de-orllewin Gwlad Iorddonen heddiw).

Meddianwyd Sinai gan Israel yn 1956 ac eto yn Rhyfel Chwech Diwrnod ym 1967 a Rhyfel Yom Kippur 1973. Dan gytyndeb heddwch Yr Aifft ac Israel yn 1979 dychwelwyd rhan o Sinai i'r Aifft ac ym 1992 tynnodd Israel allan yn gyfangwbl. Ers hynny mae twristiaeth wedi tyfu'n gyflym ar arfordir Môr Coch Sinai ac mae'n denu miloedd o Ewropeaidd i dorheulo a darganfod y bywyd tanforol mewn trefi gwyliau fel Sharm el-Sheikh.

Y Beibl

Casgliad o lyfrau sanctaidd yn yr iaith Roeg a'r iaith Hebraeg yw'r Beibl. Yn y traddodiad Cristnogol, gelwir y llyfrau Hebraeg yn Hen Destament a'r llyfrau Groeg yn Destament Newydd.

Cyfieithwyd y Beibl i'r Gymraeg gan yr Esgob William Morgan.

Y Beibl Hebraeg

Cagliad o destunau canonaidd sydd yn ysgrythur sanctaidd i'r Iddewon yw'r Beibl Hebraeg neu'r Tanách. Hwn yw sail yr Hen Destament yn y Beibl Cristnogol.

Yr Hen Destament

Casgliad o 39 llyfr hynafol sy'n ffurfio ysgrythur ganonaidd yr Iddewon yw'r Hen Destament. Gyda'r Testament Newydd mae'n ffurfio y gyntaf o ddwy brif ran y Beibl Cristnogol. Mae'r enw yn tarddu o'r gair Lladin am "gyfamod" ac yn cyfeirio at y ffaith ei fod yn cael ei ystyried yn gyfamod rhwng yr Israeliaid a Duw, thema a geir dro ar ôl tro ynddo. Mae'r llyfrau'n honni rhychwantu'r cyfnod rhwng creu'r Bydysawd a chwymp Adda ac Efa hyd at tua 400 CC. Fe'u rhennir yn draddodiadol yn dair rhan: y Torah neu'r Pentateuch (y pum llyfr cyntaf a gysylltir â Moses), Llyfrau'r Proffwydi (llyfrau 'hanes') a'r Hagiographa (Hebraeg: Kethubim) diweddarach a ychwanegwyd yn y ganrif gyntaf OC (h.y. y Salmau, Caniad Solomon, a.y.y.b).

Ieithoedd eraill

This page is based on a Wikipedia article written by authors (here).
Text is available under the CC BY-SA 3.0 license; additional terms may apply.
Images, videos and audio are available under their respective licenses.