Llyfr Deuteronomium

Llyfr Deuteronomium yw pumed lyfr yr Hen Destament a'r olaf yn y Pentateuch neu Dorah. Ei awdur traddodiadol yw Moses. Credir i rannau ohono gael ei gyfansoddi tua'r 7fed ganrif CC. Ei dalfyriad arferol yw 'Deut.'

Mae ar ffurf cyfres o anerchiadau gan Foses at yr Hebreaid yn union cyn iddynt gael mynediad i Dir yr Addewid (Canaan) ac felly'n cloi'r Pentateuch, sy'n dechrau gyda chreu a chwymp Adda ac Efa yn Eden a'u gyrru allan o Baradwys.

Ar ôl ailadrodd y Deg Gorchymyn mae Moses yn ymbil ar yr Israeliaid i fyw'n wahanol i'r cenhedloedd eraill o'u cwmpas, ac yn rhoi iddynt gorff o ddeddfau sifil a chrefyddol i'w cadw yng Nghanaan. Mae'n cyhoeddi Josua fel ei olynydd ac yn rhoi tabledi'r Deg Gorchymyn yng ngofal y Lefitiaid.

Mae'r llyfr yn cloi gyda chân Moses, ei fendith ar ei bobl, a disgrifiad o'i farwolaeth.

BibleSPaoloFol050vFrontDeut
Wyneb-ddalen Llyfr Deuteronomium yn y 'Beibl San Paolo' canoloesol
Gwynn ap Gwilym

Bardd a golygydd Cymreig oedd Gwynn ap Gwilym (23 Mehefin 1950 – 31 Gorffennaf 2016). Ganed ef ym Mangor, Gwynedd a'i fagu ym Machynlleth.

Yn y 70au bu Gwynn yn darlithio yn Adran Hen Wyddeleg a Gwyddeleg Ganol Prifysgol Iwerddon, Corc. Bu hefyd yn gyd-olygydd y cylchgrawn Barn rhwng 1979 ac 1981. Bu hefyd yn ddarlithydd mewn Hebraeg ac Astudiaethau Hen Destament yn y Coleg Diwinyddol Unedig yn Aberystwyth.

Roedd ei waith barddonol yn cynnwys y cyfrolau Y Winllan Werdd (1977) a Gwales (1983). Cyhoeddodd nofel Da o Ddwy Ynys ym 1978. Nofel ffuglen wleidyddol oedd hi yn seiliedig ar hynt a helynt Gwladwriaethau Lloegr, Gweriniaeth Iwerddon a Chymru - ac argyfwng am Ogledd Iwerddon.

Golygodd y gyfrol Blodeugerdd o Farddoniaeth Gymraeg yr Ugeinfed Ganrif i Gyhoeddiadau Barddas (1987) ar y cyd ag Alan Llwyd.

Yn 2014 fe'i penodwyd gan Archesgob Cymru, Dr Barry Morgan yn Ganon yn esgobaeth Llandaf. Bu farw yn 2016 ar ôl brwydro canser ers rhai blynyddoedd gan adael ei wraig, Mari, a'i frawd y cerddor Barchedig Ifor ap Gwilym. Bu farw ei chwaer, Lona Jones yn 2015.

Mynydd Nebo (Iorddonen)

Mynydd yn Iorddonen yw Mynydd Nebo neu Bryn Nebo (Arabeg:جبل نيبو, Jabal Nībū; Hebraeg: הַר נְבוֹ, Har Nəvō). Saif yng ngorllewin y wlad, ger ymyl Dyffryn Iorddonen, ac mae'r copa 817 metr o uchder.

Yn ôl yr Hen Destament (Deuteronomium 34:1), copa Nebo oedd y fan lle bu farw Moses, wedi iddo weld yr olygfa oddi yno tuag at "Gwlad yr Addewid". Saif cerfddelw o groes gyda neidr ar y copa, heddiw, o waith y cerflunydd Eidalaidd Giovanni Fantoni.

Rhestr Llyfrau Cymraeg/Crefydd, Hanes Crefydd

Dyma restr o lyfrau Cymraeg sy'n ymwneud a Crefydd a Hanes Crefydd. Mae'r prif restr, yngŷd â ffynhonnell y gronfa ddata hon, i'w canfod yma.

Y Beibl

Casgliad o lyfrau sanctaidd yn yr iaith Roeg a'r iaith Hebraeg yw'r Beibl. Yn y traddodiad Cristnogol, gelwir y llyfrau Hebraeg yn Hen Destament a'r llyfrau Groeg yn Destament Newydd.

Cyfieithwyd y Beibl i'r Gymraeg gan yr Esgob William Morgan.

Y Beibl Hebraeg

Cagliad o destunau canonaidd sydd yn ysgrythur sanctaidd i'r Iddewon yw'r Beibl Hebraeg neu'r Tanách. Hwn yw sail yr Hen Destament yn y Beibl Cristnogol.

Y Deml yn Jeriwsalem

Y Deml yn Jeriwsalem oedd unrhyw un o gyfres o strwythurau a oedd wedi'u lleoli ar Fynydd y Deml yn Hen Ddinas Jeriwsalem, safle presennol Cromen y Graig a Mosg Al-Aqsa. Roedd y temlau olynol hyn yn sefyll yn y lleoliad hwn ac yn gweithredu fel safle o addoliad i'r hen Israeliaid a'r Iddewon yn ddiweddarach. Fe'i gelwir hefyd yn y Deml Sanctaidd Hebraeg: בֵּית־הַמִּקְדָּשׁ , Modern : Bēṯ HaMīqdaš Tiberia : Bēṯ HaMīqdāš, Ashkenazi : Bēs HaMīqdoš ; Arabeg : بيت المقدس Beit Al-Maqdis ; Ge'ez : Betä Mäqdäs ).

Yr enw Hebraeg a roddir yn y Beibl Hebraeg ar gyfer yr adeilad a'i safle yw naill ai Beit YHWH, Beit HaElohim "Tŷ Dduw", neu Beiti "fy nhŷ", Beitekhah "eich tŷ" ac ati. Mewn llenyddiaeth rabinaidd, y deml yw Beit HaMikdash, "Y Tŷ Sancteiddiedig", a'r Deml yn Jeriwsalem yn unig sy'n cael ei gyfeirio ato gyda'r enw hwn.

Yr Hen Destament

Casgliad o 39 llyfr hynafol sy'n ffurfio ysgrythur ganonaidd yr Iddewon yw'r Hen Destament. Gyda'r Testament Newydd mae'n ffurfio y gyntaf o ddwy brif ran y Beibl Cristnogol. Mae'r enw yn tarddu o'r gair Lladin am "gyfamod" ac yn cyfeirio at y ffaith ei fod yn cael ei ystyried yn gyfamod rhwng yr Israeliaid a Duw, thema a geir dro ar ôl tro ynddo. Mae'r llyfrau'n honni rhychwantu'r cyfnod rhwng creu'r Bydysawd a chwymp Adda ac Efa hyd at tua 400 CC. Fe'u rhennir yn draddodiadol yn dair rhan: y Torah neu'r Pentateuch (y pum llyfr cyntaf a gysylltir â Moses), Llyfrau'r Proffwydi (llyfrau 'hanes') a'r Hagiographa (Hebraeg: Kethubim) diweddarach a ychwanegwyd yn y ganrif gyntaf OC (h.y. y Salmau, Caniad Solomon, a.y.y.b).

Ieithoedd eraill

This page is based on a Wikipedia article written by authors (here).
Text is available under the CC BY-SA 3.0 license; additional terms may apply.
Images, videos and audio are available under their respective licenses.