Lleuad

Y Lleuad (enw gwrywaidd) neu'r Lloer (enw benywaidd) yw unig loeren naturiol y Ddaear o sylwedd.

Mae'r Lleuad yn troi o amgylch y ddaear mewn orbit o 27.3 diwrnod ac mae tua 384,403 km o'r ddaear. Fe gymer 1.3 eiliad i'r goleuni o'r haul a adlewyrchir oddi ar wyneb y Lleuad deithio i'r ddaear (yn ôl cyflymdra goleuni). Mae tua 500,000 o graterau ar ei hwyneb. Grym disgyrchiant sydd yn dal y lleuad yn ei horbit. Does fawr ddim atmosffer ganddi i'w hamddiffyn. Credir i'r lleuad gael ei ffurfio 4.5 biliwn o flynyddoed yn ôl, ychydig wedi i'r Ddaear gael ei ffurfio. Ceir sawl damcaniaeth ynghylch sut y crewyd y Lleuad, ond y mwyaf poblogaidd gan seryddwyr yw iddo gael ei ffurfio o ddarnau o'r Ddaear wedi i gorff enfawr o faint y blaned Mawrth wrthdaro a'r Ddaear. Gelwir y corff hwn yn Theia.

Mae ymchwil diweddar yn awgrymu bod rhai o'r craterau ger pigyn y De yn cynnwys dŵr mewn ffurf rhew, ond dydy'r canlyniadau yma ddim wedi cael eu cadarnhau eto.

Seryddiaeth
Seryddiaeth

Lleuad
Planed
Seren
Galaeth
Bydysawd


Astroffiseg
Cosmoleg


Nifwl

Full Moon Luc Viatour
Y Lleuad

Rocedi a gwrthrychau eraill

Y gwrthrych cyntaf a wnaed gan ddyn i gyrraedd y Lleuad oedd Luna 2 yn 1959, ac fe wnaeth Luna 3 yn yr un flwyddyn anfon yn ôl luniau o ochr bellaf y Lleuad. Cafodd y ddau ohonyn nhw eu lawnsio gan rocedi Sofietaidd.

Gwahanol ystumiau, mewn blwyddyn gron

Ar 20 Gorffennaf 1969 glaniodd ddau ofodwr Americanaidd yn y modiwl lleuad Eagle – sef rhan o'r llong gofod Apollo 11 – arni, ac un ohonynt, Neil Armstrong, oedd y dyn cyntaf i gerdded ar y lleuad. Rhwng 1969 a 1972, ymwelodd 27 o ddynion â'r Lleuad; cerddodd 12 ohonynt arni. Gadawodd y criw olaf, sef Eugene Cernan a Harrison Schmitt, yn 1972. Mae gan sawl gwlad gynllun i anfon pobl i'r Lleuad rhywbryd yn y 30 blwyddyn nesaf, gan gynnwys y UDA a Tsieina.

Dwy ochr y Lleuad

Gan fod y Lleuad yn cymryd yr un cyfnod i droelli unwaith ac i fynd o amgylch y Ddaear unwaith, mae un ochr wastad yn wynebu i ffwrdd o'r Ddaear. Fe welwyd ochr arall y Lleuad am y tro cyntaf pan anfonodd y chwiliedydd gofod Luna 3 luniau ohoni yn ôl i'r Ddaear yn 1959.

Mathau o leuad

  • Lleuad Coch

Llanrwst, bore Gwener, Ionawr 21, 2011[1]

Bore heulog tawel ond oer iawn gyda barrug trwm. Lleuad oren lawn dros Llanddwyn eto ben bore cyn iddi "fachlud" yn fuan wedyn. Cofnod DB

Dyma gafodd Twm Elias am leuad coch ar gyfer ei gyfrol “Am y Tywydd”:[2]

llid y gwynt yw’r lleuad goch
y lleuad yn codi’n goch – sychder mawr a gwres y lleuad o hyd yn goch cyn storm
lleuad goch – gwynt a glaw

Cleirwy 15 Chwefror 1870: "He was ill with cold from this vicious poisonous east wind... The red round moon hanging over Clifford Hill. Owls hooting in the dusk across the Dingles[3]".

Geirfa

  • Lloergan

Noson golau lleuad yw noson loergan. Mae gŵyl Kann al Loar a gynhelir yn flynyddol yn Landerne yn Llydaw yn ein harwain i ystyr ein gair. Ystyr Kann al Loar yw lleuad llawn, kann yn golygu gwyn (cymharer "bara cann", "cannu" – to bleach) a loar yn golygu lloer. Fel enw ar ŵyl, mae hefyd yn chwarae ar debygrwydd kann i'r gair mwy cyfarwydd canu, sydd hefyd yn cael ei rannu rhwng y ddwy iaith – ac mae yna ddipyn o hynny yn digwydd yn yr ŵyl hefyd (mae'r gair Landerne) au ar y cap, gyda chromfachyn siap gewin o leuad ar ôl yr e, yn fodd i ddangos enw'r dref landerne yn Llydaweg, yn ogystal a'r enw Ffrangeg landerneau.

Cap yn hysbysebu gŵyl Kann al Loar, Landerne, Llydaw
Cap yn hysbysebu gŵyl Kann al Loar, Landerne, Llydaw

Cefn gwlad

Cynnydd a Gwendid

Mae hi'n goel eitha cryf hydnoed heddiw – fod y lleuad yn dylanwadu ar gyflwr pethau byw o bob math. H. y. wrth i'r lleuad gryfhau (neu dod i'w llawnder) fe fyddai'n ysgogi tyfiant ac wrth iddi leihau, neu wanio, byddai egni pethau byw yn lleihau yn ogystal. O ganlyniad, arferai ffermwyr a garddwyr gynllunio'u gwaith o amgylch y lleuad ac yn darllen Almanac Caergybi neu Almanac y Miloedd i gael dyddiadau cyflyrau'r lleuad yn fanwl bob mis.

Byddid yn hau yn y gerddi a'r caeau ar y cynnydd (yn chwarter cynta'r lleuad newydd os yn bosib) fel bod planhigion ifanc yn egino a thyfu a rhoddid ieir i orri fel bo'r cywion yn deor a chynyddu efo'r lleuad. Dyma'r adeg i hel planhigion meddyginiaethol hefyd fel eu bod yn fwy effeithiol. Yn ogystal byddai coed ffrwythau yn cael eu tocio a'u himpio a byddai priodasau a dîls busnes yn fwy llwyddiannus pe digwyddant pan fo'r lleuad ar gynnydd. Byddid hefyd yn lladd a halltu mochyn pan fo'r lleuad ar ei "chelder" (Morgannwg).

Adeg gwendid neu "dywyllwch" y lleuad y dylsid tynnu chwyn o'r ddaear, pigo ffrwythau, tynnu llysiau, medi'r cnydau a thorri ffyn neu goed (er mwyn i'r coedyn aeddfedu'n iawn). Casglwyd ffrwythau gan y credid y byddai golau'r lleuad yn gwneud i'r ffrwythau bydru'n gynt.

Llawnder y lleuad oedd yr adeg orrau i roi tarw i'r fuwch, myharen i'r defaid, a chawsai'r rhai fyddai'n priodi ar leuad llawn lond tŷ o blant. Dyma hefyd yr adeg orrau i gneifio'r defaid ac i dorri eich gwallt! Byddai'r lleuad llawn yn peri i ferched esgor, yn enwedig os oeddent eisoes ychydig yn hwyr – cymaint felly nes yr arferai Nyrs Jones (y fydwraig) o Nefyn alw'r lleuad llawn yn "Leuad Babis".

Hen enwau

Bu'r lleuad llawn dros y canrifoedd yn goleuo'r nos inni a cheir enwau arni, fel "Hen Lantar y Plwy", "Canwyll y Plwy", "y Lanter Fawr" a "Haul Tomos Jôs" ac roedd hi'n arfer ar un adeg i gyfarfodydd ac eisteddfodau lleol gael eu cynnal oddeutu'r lleuad llawn – er mwyn i'r goleuni fod o gymorth i bobl gerdded adre liw nos.

Cawsai y lleuad llawn cynta ar ôl Cyhydnos yr hydref (22ain o Fedi) ei alw'n "Lleuad Fedi" neu "Leuad y Cynheuaf", pryd y ceid y "Naw Nos Olau". Byddai'r Naw Nos Olau yn eithriadol o bwysig i ffermwyr ar un adeg oherwydd ei goleuni llachar – bron fel golau dydd am o leia' y 4 noson cyn, ac ar ôl y lleuad llawn ei hun. Roedd hyn yn eithriadol o hwylus at gario'r ysgubau ŷd i'r teisi ac am y byddai'r lleuad yn codi hefo'r machlud gellid dal ati i gario o'r caeau (h. y., cyn dyddiau'r dyrnwr medi) ymhell i'r nos – hyd y wawr pe bai angen.

Lwc, anlwc a darogan

Dros y canrifoedd, a hyd yn oed yn 2018, cred rhai ei bod yn anlwcus gweld y lleuad newydd drwy wydr, neu drwy ganghennau coed am fod y gwydr, neu'r canghennau'n atal, neu "ddwyn", lwc dda cynnydd y lleuad. Ac mae rhai yn dangos eu harian i'r lleuad newydd neu'n troi'r arian drosodd yn eu poced – er mwyn iddo gynyddu efo'r lleuad?

I sicrhau lwc dda arferai pobl Ceredigion godi eu hetiau'n barchus pan welid y lleuad newydd gynta a byddai'r merched yn bowio iddi. Mae'n lwcus gweld y lleuad newydd dros yr ysgwydd chwith ac os wnewch chi ddymuniad i leuad newydd gynta'r flwyddyn fe gaiff ei wireddu. Yn Sir Gaernarfon, pe gofynai bachgen neu ferch ifanc i'r lleuad newydd pwy fyddent yn eu priodi, fe fyddant yn siwr o weld eu darpar briod mewn breuddwyd y noson honno.

Lloerig

Fe dybid ers talwm fod y lleuad yn effeithio ar gyflwr meddyliol pobl, a tan tua canrif yn ôl roedd yn cael ei hystyried fel un o brif achosion gwallgofrwydd. Mae'r geiriau “Lunatic” yn Saesneg a "Lloerig" yn Gymraeg yn cyfeirio at hynny – ac mae'r Lunacy Act (neu Ddeddf Lloerigrwydd) 1842, yn dweud yn ddigon clir bod rhywun lloerig yn dioddef o "benwendid" yn y cyfnod a ddilynai'r lleuad lawn. Roedd yn anlwcus iawn cysgu yng ngolau'r lleuad oherwydd hynny – rhag ofn ichi fynd dan ei ddylanwad!

Dyn neu Sgwarnog y Lleuad

Coel sy'n gyffredin drwy wledydd Ewrop yw y gallwch weld llun ar wyneb y lleuad, llun o hen ŵr yn cario baich o goed ar ei ysgwydd ac mai wedi ei alltudio yno yr oedd o am hel priciau tân ar y Sul! Arferid dweud hyn yng Nghymru tan yn ddiweddar, yn enwedig i blant. Ond yn yr India, Tsieina, Japan, a De Affrica sgwarnog neu wningen a welir. Gwningen hefyd geir yn ysgrif-luniau'r Aztec ym Mecsico i bortreadu'r lleuad. Cysylltir y sgwarnog â duwies y lleuad Geltaidd. Efallai bod adlais o'r cyswllt hwnnw yn yr hen stori am Melangell yn rhoi lloches i'r sgwarnog rhag helgwn y tywysog Brochfael ym Maldwyn?

  1. Bletin Llên Natur rhifyn 37
  2. Twm Elias, Am y Tywydd
  3. Dyddiadur Francis Kilvert
1959

19g - 20g - 21g1900au 1910au 1920au 1930au 1940au - 1950au - 1960au 1970au 1980au 1990au 2000au1954 1955 1956 1957 1958 - 1959 - 1960 1961 1962 1963 1964

1969

19g - 20g - 21g1910au 1920au 1930au 1940au 1950au - 1960au - 1970au 1980au 1990au 2000au 2010au1964 1965 1966 1967 1968 - 1969 - 1970 1971 1972 1973 1974

Apollo 11

Taith ofod Americanaidd oedd Apollo 11 a gludodd y dau ddyn cyntaf i wyneb y lleuad a hynny yng Ngorffennaf 1969 fel rhan o Rhaglen Apollo NASA. Hon oedd pumed taith ofod y cynllun a alwyd yn Rhaglen Apollo taith i'r lleuad neu o amgylch y lleuad. Lansiwyd y roced Saturn V ar 16 Gorffennaf 1969 gyda'r tri gofodwr canlynol arni: y prif ofodwr Neil Armstrong, peilot y Command Module sef Michael Collins a pheilot y goden lanio sef Buzz Aldrin (Edwin Eugene 'Buzz' Aldrin, Jr). Ar 20 Gorffennaf cerddodd Armstrong ac Aldrin ar wyneb y lloer, y dynion cyntaf i wneud hynny, tra fod Collins yn cylchdroi yn y brif goden. Wnaeth Armstrong ac Aldrin gerdded ar y lleuad am ryw ddwy awr, yn casglu samplau o gerrig a llwch. Dychwelodd y criw i'r Ddaear ar 24 Gorffennaf 1969.

Dywedodd John F. Kennedy, pan oedd yn Arlywydd yr Unol Daleithiau, ar Fai 25 1961, "I believe that this nation should commit itself to achieving the goal, before this decade is out, of landing a man on the Moon and returning him safely to the Earth." Datblygwyd y rhaglen Apollo yn sgil y datganiad hwn.

Baner Laos

Baner drilliw lorweddol gyda stribedi uwch ac is coch a stribed canol glas gyda chylch gwyn yn ei ganol yw baner Laos. Mae coch yn symboleiddio'r gwaed a gollwyd yn y frwydr am ryddid, glas yn cynrychioli cyfoeth, a gwyn yn symboleiddio undod o dan gomiwnyddiaeth. Dywedir hefyd bod y ddisg wen ar stribed glas yn cynrychioli lleuad lawn dros Afon Mekong.

Mabwysiadwyd ar 2 Rhagfyr 1975 pan ddaeth y wlad yn weriniaeth i'r bobl. Mae'n anghyffredin fel baner gwlad gomiwnyddol gan nad yw'n cynnwys y seren bum-pwynt.

Baner Mongolia

Baner drilliw fertigol yw baner Mongolia a chanddi stribedi cochion yn yr hòs a'r fflei a stribed glas yn y canol. Yn stribed coch yr hòs mae casgliad o symbolau melyn a elwir soyombo sydd yn cynrychioli egwyddorion crefyddol a diwylliannol Mongolia: tân, haul, lleuad, in-iang, a thrionglau a phetryalau.

Yn hanesyddol, glas oedd lliw cenedlaethol y Mongolwyr gan iddo gynrychioli'r wybren glir – a gysylltir â'r duw Tengri – uwchben stepdiroedd Canolbarth Asia, y tiroedd a deithasant a gorchfygasant. Defnyddir lliw melyn mewn baneri Mongolia ers i'r enwad Bwdhaidd Dge-lugs-pa (Sect y Hetiau Melynion) ddod i Fongolia o Dibet yn yr 16g.Adeg sefydlu'r Chaniaeth Sanctaidd yn sgil Chwyldro Mongolia yn 1911 defnyddiwyd arwyddion soyombo a blodau alaw'r dŵr, symbol o burdeb, ar faner ac arfbais y wlad. Dan lywodraeth gomiwnyddol o 1921 i 1924, defnyddiwyd baner goch gyda chylch yr haul a chilgant y lleuad yn felyn yn y canton. Yn y cyfnod 1924–30 defnyddiwyd maes coch gyda'r soyombo ac alaw'r dŵr yn las yn ei ganol. Yn y cyfnod 1930–40 defnyddiwyd baner drilliw lorweddol a chanddi stribedi cochion ar y brig a'r gwaelod, stribed glas yn y canol, a'r soyombo yn felyn ac alaw'r dŵr yn wyrdd o fewn cylch golau yng nghanol y faner. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, pryd yr oedd yn ymddangos yn debygol y byddai'r wlad yn ymuno â'r Undeb Sofietaidd, mabwysiadwyd baner goch gydag arwyddlun yn ei chanol yn debyg i faneri'r gweriniaethau Sofietaidd. Wedi'r rhyfel, pan sefydlwyd Gweriniaeth Pobl Mongolia, mabwysiadwyd y dyluniad cyfredol gyda seren felen, i symboleiddio comiwnyddiaeth, uwchben y soyombo a lliw glas goleuach i'r stribed canolog. Cafwyd gwared â'r seren sosialaidd yn 1992, dwy flynedd wedi'r Chwyldro Democrataidd, ac yn 2011 – canrif ers mabwysiadu baner genedlaethol gyntaf Mongolia – newidiwyd arlliw'r glas yn y stribed canolog.

Baner Nepal

Baner o ddau driongl ar ben eu gilydd, fel cyfuniad o ddau benwn, yw baner Nepal. Mae'n rhudd gydag amlinelliad glas, â silwétau gwyn o'r lleuad a'r haul. Mae'r trionglau yn symboleiddio mynyddoedd yr Himalaya ac hefydd y ddau grefydd Hindŵaeth a Bwdhaeth. Rhudd yw lliw cenedlaethol Nepal, ac mae'r lleuad a'r haul yn symboleiddio teuluoedd y Brenin a'r Prif Weinidog.

Nepal yw'r unig wladwriaeth yn y byd sydd â baner nad yw'n betryal neu'n sgwâr ei siâp. Mabwysiadwyd ar 16 Rhagfyr 1962.

Calendr Gregori

Calendr Gregori ydy'r calendr mwyaf cyffredin drwy'r byd; caiff ei ddefnyddio drwy Ewrop. Cafodd ei dderbyn (yn answyddogol) fel y dull rhyngwladol o fesur amser a dyddiadau ers degawdau yn y byd cyfathrebu, teithio a diwydiant, a chaiff ei adnabod gan sefydliadau rhyngwladol megis y Cenhedloedd Unedig.Fe'i mabwysiadwyd gan y Pab Gregory XIII ar 24 Chwefror 1582, er fod y ddogfen wreiddiol wedi'i dyddio '1581'.

Roedd y flwyddyn yn Y Calendr Iwliaidd, a wnaed yn nheyrnasiad Iŵl Cesar, yn cynnwys 365.25 o ddyddiau yn union, ond mae'r flwyddyn drofannol yn union 365.2422 diwrnod, felly pob 4 canrif roedd y Calendr Iwliaidd yn cynnwys tridiau yn ormod! Cafodd hyn ei gywiro yn y diwygiad Gregori yn 1582, sy'n cyflwyno'r dyddiau naid mewn dull gwahanol. O ganlyniad i hyn mae'r Calendr Iwlaidd 13 diwrnod y tu ôl i'r Calendr Gregori h.y. y 1af o Ionawr ar y Calendr Iwliaidd ydy'r 14eg ar y Calendr Gregori.

Roedd yr Eglwys Gatholig eisiau calendr a fyddai'n caniatáu iddynt ddathlu'r Pasg ar yr amser a benodwyd gan Gyngor Cyntaf Nicaea yn y flwyddyn 325, sef y dydd Sul wedi 14eg dydd y Lleuad sydd ar (neu wedi'r) Cyhydnos Wanwynol, tua 21 Mawrth yn amser y cyngor. Yn y flwyddyn 325 roedd y nam hwn wedi'i weld, ond, yn hytrach na thrwsio'r calendr symudodd y cyngor ddyddiad y Cyhydnos o 24 Mawrth neu 25 Mawrth i 21 Mawrth! Erbyn y 16eg canrif roedd y cyhydnos wedi symud llawer mwy a mynnodd yr Eglwys Babyddol ddiwygio'r drefn. Y gwledydd Pabyddol, felly, oedd y gwledydd cyntaf i fabwysiadu'r calendr newydd hwn.

Roedd dau newid sylfaenol felly yn y calendr newydd: yn gyntaf, addasu'r hen galendr Iwliaidd ac yn ail addasu calendr y lleuad a ddefnyddid gan yr eglwys i nodi dyddiadau'r Pasg. Meddyg o Galbria, sef Aloysius Lilius (neu Lilio), fu'n bennaf gyfrifol am y gwaith o'u cymhathu a'u diwygio. Yn gonglfaen i'w waith nododd fod angen lleihau'r nifer o ddyddiau naid o fewn pob pedair canrif o 100 i 97, gan wneud 3 allan o'r 4 blwyddyn yn gyffredin yn hytrach na blwyddyn naid.

Nodwyd hyn fel a ganlyn:

Os medrid rhannu'r flwyddyn gyda 4 - yn union - yna fe'i hystyrir yn flwyddyn naid, ar wahân i'r blynyddoedd a ellir eu rhannu gyda 100 (yn union). Ar ben hyn, mae'r blynyddoedd hynny y gellir eu rhannu gyda 400 hefyd yn flynyddoedd naid. Er enghraifft, nid ydy'r flwyddyn 1900 yn flwyddyn naid ond mae'r flwyddyn 2000 yn flwyddyn naid.

Calendr solar ydyw ef mewn gwirionedd. Mae blwyddyn Gregori'n cynnwys 365 diwrnod, ac mewn blwyddyn naid ceir diwrnod naid, sef 29 Chwefror sy'n gwneud cyfanswm o 366 diwrnod. Fel arfer mae blwyddyn naid yn diwgwydd pob pedair mlynedd ond mae'r Calendr Gregori'n gadael allan 3 diwrnod naid pob 400 mlynedd, yn wahanol i'r calendr a'i ragflaenodd.

Daeareg

Astudiaeth o'r ddaear ffisegol yw Daeareg neu Geoleg (Groeg: γη- sef ge-, "y ddaear" a λογος, sef logos, "gwyddoniaeth"). Mae'n cynnwys astudiaeth o greigiau solid a chramen y Ddaear. Gellir dyddio'r creigiau hyn, a rhennir hanes y ddaear yn gyfnodau daearegol. Gall y gair 'daeareg' hefyd gyfeirio at yr astudiaeth o greigiau a cherrig planedau a ffurfiau eraill yn y gofod e.e. daeareg y Lleuad.

Drwy'r maes hwn ceir cip cliriach o hanes y Ddaear; mae daeareg yn astudiaeth o dystiolaeth cynradd o blatiau tectonig, esblygiad bywyd ar y Ddaear a newid yn hinsawdd y Ddaear. Fe'i defnyddir hefyd yn yr astudiaeth o fwynau, eu cloddio a'u marchnata; felly hefyd gyda phetroliwm a hydrocarbonau eraill. Mae'r astudiaeth o ddŵr y môr a dŵr croyw hefyd yn seiliedig ar astudiaeth o'r maes hwn, yn ogystal â pheryglon naturiol daearyddol a phroblemau gyda'r amgylchedd.

Disgyrchiant

Disgyrchiant yw'r theori sy'n esbonio'r achos i wrthrychau sydd â màs gyflymu tuag at ei gilydd. Mewn bywyd pob dydd, mae disgyrchiant yn cael ei adnabod fel y grym sy'n rhoi mas i wrthrychau. Dyma'r grym sy'n cadw'r Ddaear a gweddill planedau Cysawd yr Haul i gylchdroi o gwmpas yr haul mewn orbit. Mae hefyd yn cadw'r Lleuad mewn orbit o gwmpas y Ddaear gan achosi llanw, darfudiad a nifer o brosesau arall sy'n digwydd yn yr amgylchedd. Heb ddisgyrchiant, ni fyddai'r y glec fawr wedi digwydd gan ei fod yn hanfodol i'r theori honno.

Cyflymder disgyrchiant y Ddaear yw 9.8me−2. Defnyddir y ffigwr yma wrth ddefnyddio'r hafaliadau mudiant.

Duwies Driphlyg (Neo-baganiaeth)

Ar gyfer duwiesau triphlyg eraill, gweler Duwies driphlyg.

Un o ddau brif dduwiau Wica yw'r Dduwies Driphlyg. Gwelir hi yn dair gwedd wahanol yn aml; y Forwyn, y Fam, a'r Hen Wrach, lle mae bob un ohonynt yn symboleiddio cyfnod gwahanol yn y bywyd benywaidd a chylchredau'r lleuad. Maent yn cynrychioli elfen fenywaidd diwinyddiaeth y grefydd, gyda'r Duw Corniog yn cynrychioli'r elfen wrywaidd.

Mae'r Forwyn yn cynrychioli hudoliaeth, dechreuadau, ehangiad, genedigaeth, ieuenctid a brwdfrydedd ieuanc, a chynnydd y Lleuad.

Mae'r Fam yn cynrychioli aeddfedrwydd, ffrwythlonder, rhywioldeb, sefydlogrwydd, pŵer, bywyd, a'r lleuad lawn.

Mae'r Hen Wrach yn cynrychioli callineb, gorffwys, marwolaeth, terfyniadau ac encil y Lleuad.

Dydd Llun

Mae dydd Llun yn ddiwrnod o'r wythnos. Mewn rhannau o'r byd, dyma ddiwrnod cyntaf yr wythnos, tra bod eraill yn ei ystyried yn ail ddiwrnod yr wythnos. Cafodd ei enwi gan y Rhufeiniaid ar ôl y lleuad (luna yn Lladin; dies Lunae).

Lloeren

Mae lloeren yn wrthrych, naturiol neu wedi'i greu gan ddyn, sy'n symud oddi amgylch gwrthrych mwy, gan amlaf yn y gofod, trwy rym disgyrchiant. Y Lleuad yw lloeren naturiol y Ddaear. Mae gan sawl blaned loeren neu loerennau; Iau yw'r blaned gyda'r mwyaf ohonynt.

Gall lloeren fod yn wrthrych o waith llaw dyn yn ogystal, fel arfer yn beiriant sy'n cylchdroi o gwmpas y ddaear, er enghraifft lloeren teledu.

Llwybr i'r Lleuad

Nofel graffig ar gyfer plant a'r arddegau gan Hergé (teitl gwreiddiol Ffrangeg: Objectif Lune) wedi'i haddasu i'r Gymraeg gan Dafydd Jones yw Llwybr i'r Lleuad.

Dalen a gyhoeddodd y gyfrol a hynny yn 2010. Yn 2013 roedd y gyfrol mewn print.

Manhattan

Un o bum bwrdeistref Dinas Efrog Newydd yw Manhattan. Gyda phoblogaeth o fwy na 1.6 miliwn yn byw mewn ardal o 59 cilometr sgwâr, dyma'r ardal mwyaf poblog yn yr Unol Daleithiau gyda mwy na 27,000 o drigolion i bob cilometr sgwâr. Manhattan yw'r sir fwyaf cyfoethog yn yr Unol Daleithiau, gyda incwm personol o dros $100,000 y pen yn 2005. Mae'r bwrdeistref yn cynnwys Ynys Manhattan, Ynys Roosevelt, Ynys Randalls, bron i un rhan o ddeg o Ynys Ellis, y rhan uwch y dwr i Ynys Liberty, sawl ynys llai a rhan fechan o'r prif dir Talaith Efrog Newydd gyferbyn a'r Bronx.

Mae Manhattan yn ganolfan fasnachol, ariannol a diwylliannol yr Unol Daleithiau a'r byd. Lleolir y rhan fwyaf o gwmnïau radio, teledu a chyfathrebu technolegol yr Unol Daleithiau yma, ynghyd â nifer o gyhoeddwyr llyfrau a chylchgronau. Mae gan Manhattan nifer o leoliadau byd enwog, atyniadau twristaidd, amgueddfeydd a phrifysgolion. Yma hefyd mae pencadlys y Cenhedloedd Unedig. Ym Manhattan mae ardal fusnes fwyaf yr Unol Daleithiau, ac yma mae Cyfnewidfa Stoc Efrog Newydd a NASDAQ. Yn ddi-os, dyma canol Dinas Efrog Newydd ac ardal metropolitaidd Efrog Newydd, a lleolir cynulliad y ddinas a'r canran fwyaf o waith, busnes a gweithgareddau hamdden.

Tarddia'r enw "Manhattan" o'r gair "Manna-hata", fel y cyfeirir ato yn llyfr log Robert Juet, swyddog ar long Henry Hudson, y Halve Maen (Hanner Lleuad) ym 1609. Dengys fap yn darlunio'r enw Manahata ddwywaith, ar ochr ddwyreiniol a gorllewinol yr Afon Mauritius (a enwyd yn ddiweddarach yn yr Afon Hudson). Mae'r gair "Manhattan" wedi cael ei gyfieithu fel "ynys o sawl mynydd" o'r iaith Lepane.

Neil Armstrong

Neil Alden Armstrong (5 Awst 1930 – 25 Awst 2012) oedd y gofodwr cyntaf i roi ei droed ar y Lleuad.

Ganed ef yn Wapakoneta, Ohio, yn yr Unol Daleithiau. Astudiodd ym Mhrifysgol Purdue cyn ymuno â Llynges yr Unol Daleithiau. Bu'n ymladd yn Rhyfel Corea. Wedi'r rhyfel bu'n beilot prawf.

Bu yn y gofod am y tro cyntaf ar Gemini 8 yn 1966, pan fu'n gyfrifol gyda David Scott am ddocio dwy long ofod wrth ei gilydd am y tro cyntaf. Ef oedd y pennaeth ar Apollo 11 a laniodd ar y Lleuad ar 20 Gorffennaf, 1969. Treuliodd Armstrong a Buzz Aldrin ddwy awr a hanner ar wyneb y Lleuad tra roedd Michael Collins mewn orbit uwchben.

Rhufain

Prifddinas yr Eidal yw Rhufain (Roma yn Eidaleg a Lladin). Saif ar lan Afon Tiber tua 30 km o lan y Môr Canoldir. Lleolir Dinas y Fatican, sef sedd y Pab a'r Eglwys Gatholig Rufeinig mewn clofan yng nghanol y ddinas.

Yn ystod ei hanes hir bu Rhufain yn brifddinas ar y Deyrnas Rufeinig, y Weriniaeth Rufeinig, a'r Ymerodraeth Rufeinig.

Yn ôl y chwedl sefydlwyd y dref gan Romulus, gefaill Remus ar 21 Ebrill, 753 C.C., a laddodd ei frawd Remus yn ddiweddarach. Y dyddiad hwn yw sylfaen y calendr Rhufeinig a chalendr Julius (Ab urbe condita). Roedd Romulus a Remus yn blant i'r duw Mawrth a chawsant eu magu gan fleiddast (yn Eidaleg, La Lupa Capitolina).

Sefydlwyd Rhufain ar Fryn yr Haul (sef Bryn Palatîn), a ehangwyd i gynnwys Saith Bryn Rhufain: Bryn Palatîn, Bryn Aventîn, Bryn Capitolîn, Bryn Quirinal, Bryn Viminal, Bryn Esquilîn a Bryn Caelian. Enwyd y rhain ar ôl y lleuad, Mercher, Gwener, Mawrth, Iau a Sadwrn.

Mae amffitheatr y Colosseum a theml y Pantheon ymhlith adeiladau enwocaf y ddinas. Daw y Circus Maximus a'r Domus Aurea, plasty'r ymerawdwr Nero, hefyd o gyfnod yr Ymerodraeth.

Mae nifer o symbolau o ddinas Rhufain, gan gynnwys yr Eryr Ymerodrol, Y Fleiddast Gapitolinaidd a'r llythrennau SPQR, sydd yn sefyll am senatus populusque Romanus (senedd a phobl Rhufain), i'w gweld ledled y ddinas hyd heddiw.

Seryddiaeth

Astudiaeth wyddonol o'r bydysawd y tu allan i atmosffer y Ddaear yw Seryddiaeth, gan gynnwys y sêr, Cysawd yr Haul a'r planedau. Mae'n cynnwys arsylwi ac egluro digwyddiadau tu hwnt i'r ddaear, ac astudio tarddiad a datblygiad gwrthrychau a welir yn yr awyr, ynghyd a'u priodoleddau ffisegol a chemegol.

I'r dyn cyntefig roedd y sêr yn rhyfeddod llwyr. Roedd yn addoli'r haul a'r lleuad gan edrych arnynt fel duwiau.

Am filoedd o flynyddoedd credid mai'r ddaear oedd canolbwynt y greadigaeth a bod y nen yn troi o amgylch y byd unwaith y dydd, ac fe grewyd calendrau gan y Swmeriaid a'r Babyloniaid, a'r Eifftiaid a'r Groegiaid yn ddibynnol ar y symudiadau yn y ffurfafen.

Aristotle (384 C.C.C. - 322 C.C.C.) yw'r dyn cyntaf a brofodd nad oedd y byd yn wastad (er mae'n debyg bod pobl yn deall hyn ymhell cyn hynny), ac fe awgrymwyd bod y ddaear yn cylchdroi o gwmpas yr haul gan Aristarchus o Mosa, tua 280 C.C.C..

Hyd at yr ail ganrif ar bymtheg yr oedd seryddwyr yn arsyllu â'r llygad noeth, ond gyda dyfodiad y telesgop derbyniwyd nad y ddaear oedd canolbwynt y bydysawd.

Tynnu'r Lleuad i Lawr (defod)

Mae Tynnu'r Lleuad i Lawr (hefyd a elwir Tynnu'r Dduwies i Lawr) yn ddefod ganolog i Wica. Yn ystod y ddefod hon, mae Arch Offeiriades y Cwfen yn mynd i mewn i berlewyg ac yn sianeli egni'r Dduwies, a symboleiddir gyda'r lleuad, a siarad gyda llais y Dduwies. Yn ystod ei pherlewyg, mae'r Arch Offeiriades yn siarad ac yn actio fel y Dduwies.

Y Ddaear

Y Ddaear (a elwir hefyd yn fyd; Groeg: Γαῖα neu Gaia sef "Mam-ddaear") yw'r blaned yr ydym ni'n byw arni. Hi yw'r drydedd blaned oddi wrth yr Haul, canolbwynt Cysawd yr Haul. Mae gan y Ddaear un lloeren naturiol: Y Lleuad. Mae'r Ddaear yn cylchdroi unwaith o amgylch yr Haul bob blwyddyn (sef 365.2422 niwrnod), ac yn troi o gylch ei hechel ei hun unwaith bob diwrnod serenol (23.934 awr), sef yr amser sydd ei angen er mwyn i'r haul ddychwelyd i'r un lle yn yr wybren. Gellir dweud fod y ddaear yn unigryw o blith y planedau gan fod arni fywyd, digonedd o ddŵr ac awyr sy'n gyfoethog o nitrogen ac ocsigen; ond er hynny dydi hi ddim yr unig enghraifft o blaned yn y bydysawd a all gynnal bywyd. Credir i fywyd ddechrau arni o leiaf 3.5 biliwn o flynyddoedd cyn y presennol (CP), er bod tystiolaeth o 'fywyd biotig' yng ngorllewin Awstralia'n mynd yn ôl i 4.1 biliwn CP.O astudiaeth radiometrig gallwn ddyddio ffurfiad y Ddaear, sef tua 4.54 biliwn o flynyddoedd yn ôl. O fewn i biliwn blwyddyn cyntaf ei chreu, ymddangosodd bywyd yn ei moroedd. Yr hyn sy'n caniatáu hyn yw pellter y Ddaear o'r haul, ei nodweddion ffisegol a'i gwneuthuriad daearegol.

Ceir pob math o diroedd ar wyneb y ddaear a elwir yn gyfandiroedd, a orchuddir gan goedwigoedd, glaswellt, tir diffaith lle nad oes dim yn tyfu a cheir tir wedi'i orchuddio gan eira a iâ. Gall ei hwyneb fod yn wastad, yn fryniog neu yn fynyddig. Hefyd mae pob math o bethau byw ar y ddaear, yn blanhigion ac anifeiliaid ac organebau byw eraill.

Ieithoedd eraill

This page is based on a Wikipedia article written by authors (here).
Text is available under the CC BY-SA 3.0 license; additional terms may apply.
Images, videos and audio are available under their respective licenses.