Lagŵn

Defnyddir y term lagŵn arfordirol, mewn daearyddiaeth ffisegol, i gyfeirio at lagŵn neu unrhyw gorff o ddŵr bas sy'n cael ei wahanu o'r dyfroedd morol dwfn gan rwystr, boed yn ynys rwystr, yn llinyn arfordirol, yn fanc tywod tarddiad morol, riff cwrel neu ryw ddamwain debyg.1 Ceir hefyd y term morlyn yn y Gymraeg [1] a hefyd merllyn, sy'n cyfeirio at ddŵr croyw.[2] Trwy estyniad, gelwir y sector dŵr sydd wedi'i amgáu y tu ôl i riff rhwystr neu'r ynysoedd rhwystr neu'r un sydd wedi'i amgáu mewn atol hefyd yn lagŵn arfordirol.

Rhai termau cysylltiedig yw lagŵn, liman, aber neu hyd yn oed aber, lagŵn arfordirol sy'n cael ei fwydo gan gerrynt dŵr croyw afon.

Kara-Bogaz Gol from space, September 1995
Lagŵn Garabogaz-Göl yn Twrcmenistan
Venice Lagoon December 9 2001
Lagŵn Fenis, Yr Eidal

Disgrifiad

Mae lagŵn arfordirol yn cyfeirio at y morlynnoedd arfordirol a ffurfiwyd gan gasgliad y bariau tywod a'r riffiau ar hyd arfordiroedd bâs, yn ogystal â'r lagwnau mewnol sy'n ffurfio ar yr atols, a ffurfiwyd gan dwf riffiau cwrel, cwrel a mewndir ynys yn suddo'n araf. Pan y'i defnyddir i wahaniaethu cyfran o ecosystemau rîff cwrel, mae'r term morlyn arfordirol yn gyfystyr â riff cefn, a ddefnyddir yn fwy cyffredin gan wyddonwyr i gyfeirio at yr ardal honno.

Nid yw llawer o ddamweiniau morlyn geomorffolegol arfordirol yn cynnwys y term hwn yn eu henw cyffredin: Albemarle Sound, yng Ngogledd Carolina; Bae'r De Fawr, rhwng Long Island a thraethau rhwystr Fire Island yn Efrog Newydd; Ynys Wight Bay, sy'n gwahanu Ocean City o weddill Worcester County (Maryland); Banana River, yn Florida, a Llyn Illawarra, yn New South Wales. Yn y Deyrnas Unedig mae lagwnau arfordirol megis Basn Montrose (Yr Alban) a Aber Dysynni, ger Tywyn, Gwynedd, tra gellid hefyd ddisgrifio estyniad dŵr yn y tu mewn i Draeth Chesil, Lloegr, o'r enw The Fleet. morlyn arfordirol. Mae yna hefyd un ger tref fechan Dingle yng ngorllewin Iwerddon. Rhai morlynnoedd arfordirol enwog yn India yw Llyn Chilika, yn Orissa, ger Puri, a Llyn Vembanad, yn Kerala. Mae'r ddau wedi'u cysylltu â Bae Bengal a'r Môr Arabia yn y drefn honno, trwy sianel gul.

Gwahanol fathau o Lagŵn

Ceir gwahanol fathau o lagwnau:[3]

Lagŵn clawdd pridd (earth banked lagoon)
Lagŵn gwaddodi (settlement lagoon)
Lagŵn heli (saline lagoon)
Lagŵn llanw (tidal lagoon)
Lagŵn tryddiferu (seepage lagoon)

Lagŵn v Aber

Ceir trafodaeth ar y gwahaniaeth rhwng "lagŵn" ac "aber".

Mae lagŵn yn ddŵr bâs, sy'n aml yn estynedig, wedi ei rannu oddi ar corff arall mwy o ddŵr gan rwystr o rhyw fath: basle ("shoal") bâs neu agored, rîff cwrel neu rhywbeth tebyg. Mae rhai awdurdodau yn cynnwys cyrff dŵr croyw yn y diffiniad o "lagŵn", tra bod eraill yn cyfyngu'n benodol ar "lagŵn" i gyrff dŵr gyda rhywfaint o halwynedd. Mae'r gwahaniaeth rhwng "lagŵn" ac "aber" hefyd yn amrywio rhwng awdurdodau. Mae Richard A. Davis Jr yn cyfyngu ar "lagŵn" i gyrff dŵr heb fawr ddim mewnlif dŵr croyw, os o gwbl, ac ychydig neu ddim llif llanw, ac yn galw unrhyw fae sy'n derbyn llif rheolaidd o ddŵr ffres yn "aber". Mae Davis yn datgan bod y termau "lagŵn" ac "aber" yn "aml yn cael eu defnyddio'n llac, hyd yn oed mewn llenyddiaeth wyddonol."[4]

Mae Timothy M. Kusky yn nodweddu morlynnoedd fel corff o ddŵr estynedig sydd fel rheol, yn gyfochrog â'r arfordir, tra bod aberoedd fel arfer yn ddyffrynnoedd afonydd wedi'u boddi, yn llifo'n unionsyth hir i'r arfordir.[4][5]

Delweddai

GlenrockLagoonFromLeichhardtLookout

Glenrock Lagoon yn Awstralia

Lagoa dos Patos PIA03444 lrg

Laguna de los Patos yn Brasil

Flores hocheebene

Laguna Comprida yn Ynysoedd yr Azores

Zalewszczecinski.jpeg

Laguna de Szczecin, Gwlad Pwyl

Baltic spits

Lagŵn afon y Afon Vistula, Môr y Baltig.

Kiritimati-EO

Mae bron i hanner wyneb Kiritimati (Ynys y Nadolig, gynt) wedi'i orchuddio â lagwnau arfordirol, rhai o ddŵr croyw a rhai o ddŵr y môr.

Blue lagoon

Lagŵn Las, Ölüdeniz, Twrci

Etymoleg

Ceir dau derm yn y Gymraeg. Daw'r gair lagŵn yn wreiddiol o'r Eidaleg laguna sy'n cyfeiro at y dyfroedd o gylch dinas Fenis a lagŵn Fenis yn fwy penodol. Daeth i'r Saesneg erbyn y 17g. Ceir cyfeiriad cynharaf yn y Gymraeg yn 1851.[6]

Mae'r cyfeiriad cynharaf at morlyn neu morllyn yn dyddio i'r 16g ac fe'i disgrifid yn Ngeiriadur Prifysgol Cymru fel; sianel fas neu bwll o heli wedi ei neilltuo fel rheol o gorff dŵr mwy gan draethell, atol &c llyn mawr, lagŵn, môr wedi ei amgylchynu gan dir, gwlff, moryd, aber, ffiord.

Y Lagŵn Glas

Un cyrchfan boblogaidd gyda thwristiaid a phobl lleol yw'r Lagŵn Glas yng Ngwlad yr Iâ (Islandeg: Bláa lónið; Saesneg: Blue Lagoon). Ond nid lagŵn naturiol mmo hwn, ond gwaddol dŵr o orsaf ynni gyfagos ac nid yw gyfochrog gyda'r môr.

Dolenni

=Cyfeiriadau

  1. https://geiriaduracademi.org/
  2. https://geiriaduracademi.org/
  3. http://termau.cymru/#lag%C5%B5n&sln=cy
  4. 4.0 4.1 Davis, Richard A., Jr. (1994). The Evolving Coast. New York: Scientific American Library. pp. 101, 107. ISBN 9780716750420.
  5. *Allaby, Michael, gol,. (1990). Oxford Dictionary of Earth Sciences. Oxford: Oxford University Press. ISBN 978-0-19-921194-4.
  6. http://geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html
Aber Dysynni

Aber neu geg Afon Dysynni ydy Aber Dysynni, sy'n ffurfio llyn ychydig cyn i'r dŵr lifo i Fae Ceredigion tua milltir i'r gogledd-orllewin o Dywyn, Gwynedd. Mae'n gorwedd yn Nyffryn Dysynni.

Mae'r lagŵn o ddŵr hallt wedi'i gofrestr fel Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig gan Gyfoeth Naturiol Cymru. Mae'n hafan diogel i adar y gwlyptir o bob math. Ar y traeth ceir Môr-wenoliaid pigddu (Thalasseus sandvicensis), Hwyaid mwythblu (Somateria mollissima) a Chwtiaid y traeth (Arenaria interpres). O gwmpas y llyn ei hun gellir gweld hebogiaid tramor, bwncathod a barcudiaid cochion. Mae'r llyn hefyd yn boblogaiidd gan y canwrwyr a'r sgotwyr gan fod yma digonedd o Fingrynion barfog (Mullus barbatue) a Draenogiaid môr (Dicentrarchus labrax).Yn y 18fed a'r 19g defnyddiwyd yr aber gan longau hwyliau bychan i gludo mawn o fawnogydd a rhostiroedd cyfagos ond gan i raean ffurfio wrth geg yr aber crewyd lagŵn, a gan i'r dyfnder newid, daeth yn rhy fâs i longau a daeth y gwaith i ben.

Abertawe

Pwnc yr erthygl hon yw dinas Abertawe. Am ddefnydd arall o'r enw Abertawe gweler y dudalen wahaniaethu ar Abertawe.Dinas yn ne Cymru, ar aber Afon Tawe yw Abertawe (Saesneg: Swansea). Ail ddinas fwyaf Cymru o ran maint ydyw, ar arfordir deheuol y wlad, i'r dwyrain o Benrhyn Gŵyr. Tyfodd yn dref fawr yn ystod y 18fed a'r 19fed canrif.

Mae sir weinyddol Abertawe tua 378 km² mewn maint, ac mae'n cynnwys rhan isaf Cwm Tawe a Gŵyr.

Yn 2017, roedd gan y ddinas boblogaeth o 245,500, gan ei gwneud hi'n ail ddinas mwyaf poblog Cymru ar ôl Caerdydd. Yn ystod ei hanterth diwydiannol yn ystod y 19eg ganrif, roedd Abertawe yn ganolfan allweddol i'r ddiwydiant copr, gan fagu'r llysenw 'Copperopolis'.

Abidjan

Dinas fwyaf a phriddinas de facto Arfordir Ifori yng ngorllewin Affrica yw Abidjan. (Yamoussoukro yw'r brifddinas swyddogol). Saif y ddinas yn lagŵn Ébrié ar nifer o ynysoedd a phentiroedd a gysylltir â phontydd. Ei phoblogaeth yw tua 4 neu 4 i 5 miliwn.

Cyfeirir ati weithiau fel "Paris Affrica" oherwydd ei pharciau, boulevards llydan, prifysgolion, siopau ffasiynol ac amgueddfeydd, ond mae rhannau eraill o'r ddinas yn dioddef o dlodi a thorgyfraith. Effeithiwyd yn fawr ar Abidjan gan y rhyfel cartref diweddar yn y wlad.

Nodyn:Eginyn Arfordir Ifori

Atol

Rîff, ynys fechan, neu gadwyn o ynysoedd cwrel ar ffurf cylch neu bedol o gwmpas lagŵn yw atol neu gylchynys. Ceir yng nghefnoroedd y byd, yn arbennig yn y Cefnfor Tawel. Fel rheol mae'n cynnwys un neu ragor o riffiau cwrel a ffurfir gan organebau morol. Daw'r enw o'r gair atolu, am ynysoedd o'r math yn iaith ynysoedd y Maldives.

Mae atolau enwog yn cynnwys atol Bikini.

Bae Abertawe

Bae ar lannau gogledd orllewinol Môr Hafren rhwng siroedd Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot yw Bae Abertawe. Amgylchynnir y bae, yn wrth-glocwedd, gan y trefi Porthcawl, Port Talbot, Llansawel, Abertawe, Y Mwmbwls a Phenrhyn Gŵyr. Mae'r Afon Nedd, Tawe, Afan a nant Blackpill yn llifo i'r bae. Mae Bae Abertawe yn profi un o'r ystodau mwyaf o donnau yn y byd gydag uchafswm o tua 10m.

Yn y 2010au crewyd cynllun i harneisio ynni carbon isel ym Mae Abertawe sef Lagŵn Bae Abertawe, a fydd y mwyaf o'i fath drwy'r byd ar ôl ei gwbwlhau.

Cardiff-by-the-Sea

Dinas lan-môr a chymuned yn Swydd San Diego, Califfornia, yr Unol Daleithiau (UDA), yw Cardiff-by-the-Sea (neu Cardiff yn lleol). Fe'i lleolir ar yr arfordir rhwng Encinitas a Thraeth Solana. Mae'r Cefnfor Tawel i'r gorllewin, Encinitas i'r gogledd a dwyrain, a thraeth a lagŵn i'r de. Gyda phoblogaeth o lai na 12,000, mae Cardiff-by-the-Sea yn cael ei ystyried yn rhan o ddinas Encinitas bellach.

Dechreuodd fel cymuned amaethyddol. Tyfodd yn gyflym o 1911 ymlaen gyda dyn busnes lleol, J. Frank Cullen, yn codi tai a'u gwerthu. Dywedir mai ei wraig, oedd yn Gymraes, a'i berswadiodd i enwi'r dref newydd ar ôl Caerdydd, Cymru.

Heddiw mae Cardiff-by-the-Sea yn boblogaidd ar gyfer bordhwylio a syrffio gan fod y tonnau mor dda.

Yn ôl Cyfrufiad 2010 roedd gan y ddinas 71% gwyn, 21% Hispanic, 3% Asian, 1% Affro-Americanwr a 4% Arall

Egni hydro

Egni (ar furf trydan) wedi'i gynhyrchu o ddŵr ydy egni hydro neu egni dŵr neu hydroelectrig ac mae sawl math ar gael heddiw. Daw o ganlyniad i ddŵr yn symud mewn gwahanol ffyrdd, er enghraifft, dŵr yn troi olwyn y felin. Ymhlith y dulliau mwyaf poblogaidd o greu trydan, y mae hydroelectrig megis 'mynydd electrig', Llanberis lle mae dŵr y llyn yn llifo i lawr pibellau drwy rym disgyrchiant ac yn troi tyrbeinau. Cynhyrchir 1728 MegaWatt (MW) o drydan yma drwy droi chwe generadur anferthol.

Ceir dulliau eraill o symud egni o un lle i'r llall drwy egni hydro ee

tyrbeini mewn afonydd

egni o'r llanw

egni allan o donnau'r môr

egni allan o fortecsCeir hefyd ffermydd gwynt yn y môr, ffermydd megis fferm wynt North Hoyle gerllaw Prestatyn, ond nid oes a wnelo'r rhain ddim oll ag egni hydro. Ynni gwynt a gynhyrchir o felinau gwynt ar y môr yw'r rhain.

Grindavík

Mae Grindavík yn bentref bysgota ar Reykjanesskagi, Penrhyn Ddeheuol Gwlad yr Iâ. Mae'r rhan fwyaf o'i phoblogaeth yn gweithio yn y diwydiant bysgota. Mae sba geothermaidd y Lagŵn Glas wedi ei lleoli 3 milltir (4.8 km) o ganol y dref. Poblogaeth y dref yw 3,023.

Llyn Tiwnis

Mae Llyn Tiwnis (Arabeg البحيرة El Bahira, Ffrangeg 'Lac de Tunis') yn lagŵn naturiol a leolir rhwng Tiwnis, prifddinas Tiwnisia, a Gwlff Tiwnis (Môr Canoldir). Mae ganddo arwynebedd o 37 km² (14 milltir sgwar) ac mewn cymhariaeth â'i faint mae'n fas iawn. Ar un adeg dyma oedd harbwr naturiol dinas Tiwnis.

Llyn y Fydlyn

Llyn dŵr croyw arfordirol yng ngogledd Ynys Môn yw Llyn y Fydlyn (weithiau Llyn Fydlyn). Fe'i lleolir tua milltir i'r gorllewin o bentref Llanfair-yng-Nghornwy yng nghymuned Cylch y Garn ar lan Bae Caergybi. Enwir y lagŵn hwn ar ôl "Y Fydlyn", sef yr enw lleol am y banc neu farian o gerrig sy'n gorwedd rhwng y llyn a'r môr. Ceir Ynys y Fydlyn, sef dwy ynys fach ar y traeth, gerllaw.

Amgylchynir y llyn bychan hwn gan goedwigoedd conwydd, ac eithrio ar gerrig y Fydlyn ei hun. Ffurfiwyd y lagŵn pan rwystrodd cerrig y farian ddŵr ffrwd leol rhag cyrraedd y môr. Mae'r llyn yn fas ac yn gallu troi'n sych bron yn yr haf.

Marovo

Iaith a siaredir ar ynysoedd yn Lagŵn Marovo ac o'i gwmpas yn Nhalaith Ddwyreiniol yr Ynysoedd Solomon yw Marovo. Mae'n perthyn i'r grŵp Oceanig o fewn teulu yr ieithoedd Awstronesaidd. Mae'n perthyn i'r is-grŵp New Georgia ynghyd â deg iaith arall:

Bareke

Ganoqa

Hoava

Kusaghe

Lungga

Nduke

Roviana

Simbo

Ughele

Vangunu

Morlyn Fenis

Lagŵn yn Fenis gyda phentiroedd ac ynysoedd yng ngogledd y Môr Adria ydy Morlyn Fenis.

Morlyn Llanw Abertawe

Cynllun i harneisio ynni carbon isel ym Mae Abertawe yw Morlyn Llanw Abertawe, a fydd y mwyaf o'i fath drwy'r byd ar ôl ei gwbwlhau. Saif Bae Abertawe o fewn aber yr afon Hafren ac amrediad llanw'r aber yw'r ail fwyaf yn y byd - gyda'r gwahaniaeth rhwng trai a llanw cymaint a 10.5m metr ar ei uchaf. Lleolir y morlyn, a'i forglawdd, i'r de o Ddoc y Frenhines - rhwng Afon Tawe ac Afon Nedd. Disgwylir y bydd y prosiect yn cynhyrchu 250MW o drydan - digon i gyflenwi 155,000 o gartrefi, dros gyfnod o 120 o flynyddoedd.

Lagŵn llanw a thrai yw Lagŵn Bae Abertawe a fydd yn cynhyrchu ynni oherwydd y gwahaniaeth yn lefelau'r dŵr y tu fewn a thu allan i'r forglawdd. Mewn 24 awr, ceir dau lanw a dau drai, ac felly bydd yn ofynol i'r tyrbeini weithio'r naill ffordd a'r llall - yn ôl ac ymlaen, wrth i'r trai a llanw greu'r newid yn lefel y dŵr.

Derbyniwyd caniatâd cynllunio ym Mehefin 2015 gan Lywodraeth y DU.. Mae'n debygol y bydd cynlluniau tebyg yn cael eu hystyried ym Mae Caerdydd ac yng Nghasnewydd, ar raddfa llai. Disgwylir y bydd cyfanswm y gost oddeutu £1bn o arian preifat, drwy gyfranddaliadau. Ar 12 Ionawr 2017 cyhoeddwyd adroddiad annibynnol Charles Hendry a oedd yn cefnogi'r morlyn a fynai y byddai'n "gyfraniad sylweddol" i ynni gwledydd Prydain a'i fod yn gost-effeithiol.

Polynesia Ffrengig

Tiriogaeth Ffrainc yn ne'r Cefnfor Tawel yw Polynesia Ffrengig (Ffrangeg: Polynésie française, Tahitïeg: Pōrīnetia Farāni). Fe'i lleolir yn ne-ddwyrain Polynesia i'r dwyrain o Ynysoedd Cook, i'r de-ddwyrain o Ciribati ac i'r gogledd-orllewin o Ynysoedd Pitcairn. Mae'n cynnwys tua 130 o ynysoedd mewn pum ynysfor. Papeete, ar yr ynys fwyaf Tahiti, yw'r brifddinas.

Reykjanes

Reykjanes yw'r pentir bychan ar begwn de-orllewinnol penrhyn hir Reykjanesskagi, sy'n ymestyn fel bys o ynys lled-grwn Gwlad yr Iâ. Ystyr 'Reykjanes' yw "penrhyn y mwg" yn Islandeg.

Mae Reykjanes yn ardal a gofrestrwyd gan UNESCO ac sy'n rhan o'r rhwydwaith Ewropeaidd a Byd-eang a adnabyddir fel 'Geoparciau'. Mae'r penrhyn, gyda'i amrywiaeth o weithgarwch folcanig a geothermol, yn addas i fod yn Geoparc gan mai dyma'r unig le yn y byd lle mae Crib Canolbarth yr Iwerydd yn weladwy uwchben lefel y môr.

Saif Maes Awyr Keflavík ar Benrhyn Reykjanes, y brif fynedfa i Wlad yr Iâ. Yma hefyd mae'r Lagŵn Glas, sy'n denu oddeutu 600,000 o ymwelwyr y flwyddyn. Yma, gwelir tirwedd lafa garw, caeau geothermol sy'n mygu, a llawer o strwythurau hanesyddol eiconig.

Reykjanesskagi

Penrhyn y De (Islandeg: Suðurnes) Reykjanesskagi (ynganner IPA: ˈreiːcanɛsˌskaiːjɪ) neu 'Penrhyn Reykjanes' yw'r enw ar ranbarth yn ne-orllewin Gwlad yr Iâ. Fe'i henwir ar ôl Reykjanes, pegwn dde orllewinnol penrhyn fawr Reykjanesskagi.

Mae gan y rhanbarth boblogaeth o rhyw 22,000 ac mae'n un o ardaloedd dwysaf ei phoblogaeth ar yr ynys. Y ganolfan weinyddol yw Keflavík, oedd â phoblogaeth o 7,000 cyn iddi ymuno gyda thref Njarðvík gyfagos rhai blynyddoedd yn ôl i greu Reykjanesbær. Dyma bellach yw'r ail anneddle fwyaf ar yr ynys y tu allan i ardal Reykjavík Fawr. Ar 1 Ionawr 2013 ei phoblogaeth oedd 14,231. Tref arall o bwys yw Grindavík.

Mae'r rhanbarth yn cynnwys prif fynedfa tramorwyr i'r ynys, Maes Awyr Keflavík a hefyd canoflan iechyd ac ymdrochi dŵr mwynol, Lagŵn Glas.

Ceir sawl llosgfynydd sy'n fyw o ran y wyneb a meysydd lafa sylweddol, gan achosi prinder o dir glas. Mae Llosgfynydd Reykjanes yn ymestyn ar draws penrhyn Reykjanes, lle mae Crib Canol yr Iwerydd (Mid-Atlantic Ridge) yn codi uwch ben lefel y môr. Mae'r system llosgfynyddol yn cynnwys meysydd lafa, rhesi crateri ôl-rhewlifol basalt, a llosgfynyddoedd bychain. Lleolir hefyd sawl ffynnon boeth a swlffwr ar ochr ddheuol y penrhyn o gwmpas llyn Kleifarvatn ac ardal geothermal Krýsuvík.

Lleolir Gorsaf Ynni Svartsengi ar y penrhyn - gorsaf ynni geothermal. Ger yr orsaf, a gan ddefnyddio dŵr 'gwastaff' ohono, ceir y Bláa Lónið, y Lagŵn Glas, (Blue Lagoon yn Saesneg).

Mae'r 'Bont sy'n cysylltu Cyfandiroedd' yn pontio dyffryn hollt yr Álfagjá sydd (20 metr o led a 6.1m dwfn) ger Grindavík, ac sy'n nodi'r ffin rhwng platiau tectonaidd Ewrasia a Gogledd America. Fe'i hadeiladwyd yn 2002 a'r enw flaenorol oedd 'Pont Leif Lwcus' ar ôl y danganfyddwr, Leif Eriksson, a wladychodd Gogledd America ganrifoedd cyn Columbus.

Ceir rhai trefi pysgota megis Grindavík a Njarðvík ar y penrhyn yn ogystal â'r prif dref Keflavík, a safle'r Maes Awyr ryngwladol. a safle filwrol UDA.

Sagittarius (cytser)

Cytser y Sidydd yw Sagittarius sef gair Lladin am 'saethydd'. Mae wedi'i leoli rhwng Scorpius a Capricornus. Ei symbol yw (Unicode ♐). Mae'n un o 88 cytser a restrwyd gan yr athronydd Ptolemy yn yr Ail ganrif.

SpynjBob Pantsgwâr

SpynjBob Pantsgwâr (Saesneg: SpongeBob SquarePants) yw'r enw Cymraeg ar gyfres deledu animeiddiedig Americanaidd am y cymeriad cartŵn o'r un enw, a'r cwmni cyfryngau sy'n ei chynhyrchu. Mae'n un o "Nicktoons" y cwmni teledu Nickelodeon.

Erbyn heddiw, darlledir SpynjBob ledled y byd. Fe'i crëwyd gan y biolegydd morol ac animeiddiwr Stephen Hillenburg ac fe'i cynhyrchir gan ei gwmni cynhyrchu, United Plankton Pictures. Lleolir y gyfres yn y Cefnfor Tawel yn ninas Pant y Bicini (Saesneg: Bikini Bottom) a'i chyffiniau ar waelod lagŵn. Darlledwyd y bennod beilot yn yr Unol Daleithiau ar Nickelodeon ar 1 Mai 1999, gyda'r gyfres gyntaf swyddogol yn dilyn ar 17 Mehefin yn yr un flwyddyn. Cafwyd sawl cyfres erbyn hyn ynghyd â DVDau a dwy ffilm hir.

Y Lagŵn Glas

Mae'r Lagŵn Glas neu 'Morlyn Glas', (Islandeg: Bláa lónið; Saesneg: The Blue Lagoon) yn sba geothermol ac yn un o atyniadau twristiaeth mwyaf Gwlad yr Iâ. Lleolir y sba ym maes lafa Grindavík ar Benrhyn Reykjanes, yn ne orllewin yr ynys. Mae ei lleoliad yn addas iawn ar gyfer ynni geothermol ac mae'n cael ei diwallu gan ddŵr a ddefnyddir yng Ngorsaf Ynni Geothermol Svartsengi, sydd gyfagos. Gorwedd Bláa Lónið oddeutu 20 km (20 munud) o Faes Awyr Keflavík a 39 km (50 munud) o'r brifddinas, Reykjavík. Nid yw wrth y môr a ni cheir dŵr hallt ynddo; anghywir felly defnyddio'r gair 'morlyn' yn y cyswllt hwn.

Ieithoedd eraill

This page is based on a Wikipedia article written by authors (here).
Text is available under the CC BY-SA 3.0 license; additional terms may apply.
Images, videos and audio are available under their respective licenses.