Khūzestān

Un o daleithiau Iran yw Khūzestān (Perseg: خوزستان), a leolir yng ngorllewin y wlad. Poblogaeth: 1,716,527 (2006). Mae'n ffinio ar dalaith Basra yn Irac Gwlff Persia. Arwynebedd: 63,238 km².

Ahwaz yw'r brifddinas. Mae dinasoedd a threfi eraill yn cynnwys: Behbahan, Abadan, Andimeshk, Khorramshahr, Bandar Imam, Dezful, Shushtar, Omidiyeh, Izeh, Baq-e-Malek, Mah Shahr, Dasht-i Mishan/Dasht-e-Azadegan, Ramhormoz, Shadegan, Shush, Masjed Soleiman, a Hoveizeh.

Dyma'r ardal a adweinid fel Elam yn yr Henfyd gyda'i phrifddinas yn Susa (safle Shush heddiw).

Llifa Afon Karun, afon hwyaf Iran, trwy'r dalaith.

IranKhuzestan
Lleoliad Khūzestān yn Iran.
Cyrdistan (talaith Iranaidd)

Un o 30 talaith Iran sy'n gorwedd yn nhiriogaeth draddodiadol Cyrdistan, gwlad y Cyrdiaid, yw Talaith Cyrdistan neu Kordestan (Perseg: استان کردستان, Ostâne Kordestân; Cyrdeg: پارێزگه ی کوردستان, Parêzgeha Kurdistanê). Mae'n rhan o'r Cyrdistan Iranaidd hefyd, sy'n diriogaeth fwy sylweddol. Mae gan dalaith Cyrdistan arwynebedd o 28,817 km², sy'n cyftateb i tua wythfed ran yn unig o'r Cyrdistan Iranaidd ei hun. Fe'i lleolir yng ngorllewin Iran ac mae'n ffinio ar Irac i'r gorllewin, talaith Gorllewin Azerbaijan i'r gogledd, Zanjan i'r gogledd-ddwyrain a Kermanshah i'r de. Prifddinas y dalaith yw Sanandaj (Cyrdeg: Sinne). Fe'i rhennir yn siroedd a enwir ar ôl eu prif ddinasoedd neu drefi, sef Marivan, Baneh, Saqqez, Sarvabaad, Qorveh, Bijar, Kamyaran a Diwandarreh.

Gīlān (talaith)

Un o daleithiau Iran yw Gīlān, a leolir ar lan Môr Caspia. Poblogaeth: 2,404,861 (2006).

Mae gan Gīlān arwynebedd o 14,042 km². Y prif ddinasoedd a threfi yw: Rasht, Astara, Astaneh-e Ashrafiyyeh, Fuman, Lahijan, Langrud, Masouleh, Manjil, Rudbar, Roudsar, Shaft, Talesh, a Soumahe Sara.

Iran

Gwlad yng ngorllewin Asia sy'n cael ei chyfrif yn rhan o'r Dwyrain Canol yw Gweriniaeth Islamaidd Iran (Persieg: جمهوری اسلامی ايران, sy'n cael ei lefaru fel [dʒomhuːɾije eslɒːmije iːɾɒn]), neu Iran. Hyd at 1935 fe'i galwyd yn Persia. Y gwledydd cyfagos yw Pacistan ac Affganistan i'r dwyrain, Tyrcmenistan i'r gogledd-ddwyrain, Aserbaijan ac Armenia i'r gogledd-orllewin, a Thwrci ac Irac i'r gorllewin. Mae gan y wlad arfordir ar Fôr Caspia yn y gogledd ac ar y Gwlff a Gwlff Oman yn y de. Tehran yw prifddinas yr wlad. Ers y Chwyldro Islamaidd yn 1979 mae Iran yn Weriniaeth Islamaidd.

Lorestān (talaith)

Un o daleithiau Iran yw Lorestān, a leolir yn ne-orllewin y wlad. Mae'n un o ranbarthau hanesyddol Iran a chyfeirir ati fel Luristan mewn llyfrau hanes. Poblogaeth: 1,716,527 (2006).

Mae gan Lorestân arwynebedd o 28,392 km². Y prif ddinasoedd a threfi yw: Borujerd, Khorramabad, Aligoodarz, Dorood, Koohdasht, Azna, Alashtar, Noor Abad, a Pol-e-Dokhtar.

Llifa Afon Karun, afon hwyaf Iran, trwy'r dalaith.

Markazi (talaith)

Un o daleithiau cyfoes Iran yw talaith Markazi (Perseg: (استان مرکز). Mae'n gorwedd yng ngogledd orllewin y wlad gyda phrifddinas Iran, dinas Tehran, heb fod yn bell, i'r dwyrain. Mae'n cynnwys 29,127 cilometr sgwâr o dir ac yn gorwedd ar lwyfandir canol Iran.

Mae talaith Markazi yn ffinio â thalaith Qazvin i'r gogledd, talaith Lorestān i'r de, Semnān a Qom i'r dwyrain, a Lorestān a Hamadān i'r gorllewin. Mae'r dalaith yn cynnwys 11 rhanbarth (Mehefin, 2010).

Y prif ddinasoedd yw: Saveh, Arak, Mahallat, Khomein, Delijan, Tafresh, Ashtian, a Shazand.

Roedd yn rhan o Ymerodraeth y Mediaid drwy gydol y fileniwm cyntaf OC, gyda gweddill Gorllewin Iran. Saif llawer o adfeilion yn dyst i hyn ledled y dalaith. Mae'r Aiatola Khomeini yn olrhain ei dras i'r dalaith hon.

Qom (talaith)

Mae Qom yn un o 30 o daleithiau cyfoes Iran gyda arwynebedd tir o 11,237 km², sef 0.89% o dir Iran. Fe'i lleolir yng ngogledd y wlad, a'i prifddinas daleithiol yw Qom. Cafodd ei ffurfio o ran o dalaith Tehran yn 1995. Yn 2005, roedd gan y dalaith boblogaeth o tua 2,000,000 gyda 91.2% ohonynt yn byw mewn ardaloedd trefol a 8.8% yn yr ardaloedd cefn gwlad. Mae'r dalaith yn cynnwys yn ddinas (Qom), pedair sir, naw ardal wledig, a 256 o bentrefi.

Mae hinsawdd talaith Qom yn amrywio rhwng hinsawdd anialwch a lled-anial, ac yn cynnwys ardaloedd mynyddig, troedfryniau a gwastadeddau. Am ei fod yn ardal lled anial ymhell o'r môr, mae ganddi hinsawdd sych gyda lleithder isel a dim llawer o law. O'r herwydd, nid yw amaethyddiaeth yn bosibl yn y rhan fwyaf o'r dalaith, yn arbennig ger y llynnoedd halen. Ceir dau ly halen mawr yn nhalaith Qom, sef Howz e Soltan, sy'n gorwedd 36 km i'r gogledd o ddinas Qom, a Namak, sy'n 80 km i'r dwyrain o Qom (mae tua 20% o'r llyn hwnnw yn gorwedd yn y dalaith).

Semnān (talaith)

Un o daleithiau Iran yw Semnān (Iraneg سمنان ), a leolir yng nghanolbarth gogledd y wlad. Fe'i henwir ar ôl ei phrifddinas, Semnān.

Gydag arwynebedd o 96,816 km sgwâr, mae'r dalaith yn ymestyn ar hyd cadwyn mynyddoedd yr Alborz ac yn ffinio ar anialwch Dasht-e Kavir (Yr Anialwch Halen Mawr) i'r de. Rhennir y dalaith yn siroedd sy'n cynnwys Semnan, Damghan, Shahrood, Mehdishahr (Sangsar) a Garmsar. Yn 1996 roedd gan dalaith Semnān boblogaeth o 501,000, gyda 119,778, yn byw yn y brifddinas (Semnān); y ddinas fwyaf yw Shahroud, gyda 231,831 o bobl yn byw ynddi.

Sistan a Baluchestan

Un o 30 talaith Iran yw Sistan a Baluchestan ( (Perseg: سیستان و بلوچستان Ostān-e Sistān-u-Baluchestān). Mae'n gorwedd yn ne-orllewin Iran, am y ffin ag Affganistan a Pacistan. Zahedan yw'r brifddinas ac mae gan y dalaith boblogaeth o 2.1 miliwn o bobl.

Dyma'r dalaith ail fwyaf yn Iran, gydag arwynebedd o 181,600 km². Rhennir y dalaith yn adrannau a enwir ar ôl eu prif ddinasoedd, sef : Iran Shahr, Chabahar, Khash, Zabol, Zahedan, Saravan, a Nik Shahr.

Mae rhannau dwyreiniol y dalaith wedi dioddef o ymosodiadau gan y mudiad arfog Jundullah, sy'n ymladd dros greu "Balochistan Fawr" a hawliau Mwslemiaid Sunni yn Iran, dros y blynyddoedd diwethaf.

Susa

Am y dref yn yr Eidal, gweler Susa (Yr Eidal).

Hen ddinas yn yr hyn sy'n awr yn Iran oedd Susa (Hebraeg שושן, Shushan; Groeg: Σοῦσα, Sousa; Lladin Susa). Ar wahanol adegau, bu'n brifddinas yr Elamitaid, Ymerodraeth Persia ac ymerodraeth Parthia. Saif tua 250 km (150 milltir) i'r dwyrain o Afon Tigris yn nhalaith Khūzestān; heddiw saif tref Shush ar y safle.

Roedd Susa yn un o ddinasoedd hynaf y byd, efallai yn mynd yn ôl i tua 4200 CC. Daeth yn brifddinas Ymerodraeth Elam, ac mae'n ymddangos yng ngofnodion hynaf y Sumeriaid. Ceir nifer o gyfeiriadau at Susa yn y Beibl hefyd; yma y lleolir digwyddiadau Llyfr Esther, a cheir beddrod yma y dywedir ei fod yn fedd Daniel.

Tua 2330 CC, ymgorfforodd Sargon Fawr Susa yn yr Ymerodraeth Acadaidd, ond erbyn tua 2004 CC, roedd eto yn brifddinas yr Elamitiaid. Yn 647 CC, dinistriwyd y ddinas gan frenin Assyria, Assurbanipal, ac yn 538 CC cipiwyd hi gan y Persiaid dan Cyrus Fawr. Dan fab Cyrus, Cambyses II, symudwyd prifddinas yr ymerodraeth o Pasargadae i Susa.

Yn 331 CC, cipiwyd y ddinas gan Alecsander Fawr, ac wedi marwolaeth Alecsander, daeth yn rhan o'r Ymerodraeth Seleucaidd dan yr enw Seleukeia. Pan enillodd Parthia ei hannibyniaeth, daeth Susa yn un o'r ddwy brifddinas, gyda Ctesiphon. Cipiwyd y ddinas gan yr ymerawdwr Rhufeinig Trajan yn 116. Dinistriwyd y ddinas gan fyddinoedd Islam yn 638, ac eto gan y Mongoliaid yn 1218. Wedi hynny, gadawyd hi i adfeilio.

Tehran (talaith)

Un o daleithiau cyfoes Iran yw talaith Tehran (Perseg: استان تهران ; Ostān-e Tehrān). Mae'n gorwedd yng ngogledd canolbarth y wlad gyda phrifddinas Iran, dinas Tehran, yn brifddinas iddi. Mae'n cynnwys 18,909 cilometr sgwâr o dir ac yn gorwedd ar lwyfandir canol Iran.

Mae talaith Tehran yn ffinio â thalaith Māzandarān i'r gogledd, talaith Qom i'r de, Semnān i'r dwyrain, a Qazvīn i'r gorllewin. Mae'r dalaith yn cynnwys 13 treflan, 43 ardal ddinesig, ac 1358 pentref (Mehefin, 2005).

Daeth y dalaith i amlygrwydd pan gyhoeddwyd dinas Tehran yn brifddinas y wlad gan y frenhinllin Qajar yn 1778.

Ieithoedd eraill

This page is based on a Wikipedia article written by authors (here).
Text is available under the CC BY-SA 3.0 license; additional terms may apply.
Images, videos and audio are available under their respective licenses.