Ideoleg

Casgliad neu system o gysyniadau, syniadau a chredoau yw ideoleg[1] neu ddelfrydeg.[2] Bathwyd y term idéologie gan yr athronydd o Ffrancwr Antoine Destutt de Tracy ym 1796 i ddiffinio "gwyddor syniadau".[3] Maent yn gysyniad unigryw i wleidyddiaeth; sonir am ideolegau economaidd, ond mae'r rhain ynghlwm wrth farnau a chredoau gwleidyddol a chymdeithasol, ac nid o reidrwydd damcaniaeth economaidd.

Cyfuniad o syniadaeth ddisgrifiadol a normadol, neu wleidyddeg a gwleidydda, yw ideoleg. Tair nodwedd sylfaenol sydd i'r ideoleg benodol: beirniadaeth ar y drefn sy'n bod, gweledigaeth o gymdeithas y dyfodol, a damcaniaeth o newid gwleidyddol. Amlinellir casgliad o farnau a syniadau, yn aml yn seiliedig ar egwyddorion a gwerthoedd personol a chymdeithasol, gan ysbrydoli gweithredu gwleidyddol er mwyn ennill amcanion i roi'r agenda ddelfrydol ar waith.[4]

Nid yw pawb yn gytûn ar ddiffiniad y gair ideoleg a pha syniadau ac agweddau gwleidyddol sy'n dod o dan y label hon. Er enghraifft, dadleua nifer o geidwadwyr pragmataidd taw tuedd neu agwedd meddwl yw ceidwadaeth, ac nid ideoleg.[4]

Ideolegau Gwleidyddol
Anarchiaeth
Ceidwadaeth
Cenedlaetholdeb
Comiwnyddiaeth
Cymunedoliaeth
Democratiaeth Gristnogol
Democratiaeth gymdeithasol
Ffasgiaeth
Ffeministiaeth
Gwleidyddiaeth werdd
Islamiaeth
Natsïaeth
Rhyddewyllysiaeth
Rhyddfrydiaeth
Sosialaeth

Hanes y cysyniad

Daw'r cysyniad modern o ideoleg o waith Karl Marx, Yn ôl Marx, cyfundrefnau ffug o gysyniadau gwleidyddol, cymdeithasol a moesol a ddyfeisir a chynhalir gan y dosbarthau llywodraethol am hunan-les yw ideolegau, e.e. bydd hierarchaethau crefyddol yn cefnogi cyfundrefnau bydd yn cadw'r arweinwyr yn gyfoethog.

Yn yr ugeinfed ganrif datblygodd nodwedd eithafol mewn ideolegau. Mae eu hymlynwyr yn credu bod eu system o theorïau gwleidyddol yn gwbwl anghytûn ag ideolegau eraill – y brif enghraifft o hyn yw comiwnyddiaeth a ffasgiaeth. Tuedda cysyniadau gwleidyddol eraill, megis sosialaeth, democratiaeth, a cheidwadaeth, i fod yn llai gyfyngedig; mae eu dilynwyr yn anghytuno ar rai faterion ond yn cytuno ar eraill.

Datblygodd ideolegau neilltuol yn sgil gwrthdaro penben yr Ail Ryfel Byd a'r Rhyfel Oer. Mudiadau megis ffeministiaeth, amgylcheddaeth, ffwndamentaliaeth grefyddol ac amlddiwylliannaeth sy'n diffinio'r byd ôl-ddiwydiannol, ôl-gomiwnyddol yn oes globaleiddio.[4]

Cyfeiriadau

  1.  ideoleg. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 22 Mai 2016.
  2.  delfrydeg. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 22 Mai 2016.
  3. (Saesneg) Antoine-Louis-Claude, Comte Destutt de Tracy. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 30 Hydref 2016.
  4. 4.0 4.1 4.2 Andrew Heywood. Political Ideologies: An Introduction (Palgrave Macmillan, 2003).
Anarchiaeth

Ideoleg wleidyddol a mudiad cymdeithasol sydd o blaid diddymu unrhyw fath o wladwriaeth a'i disodli gyda chyfundrefn wirfoddol yw anarchiaeth (o'r geiriau Groeg αν 'heb' + αρχειν 'rheoli' + ισμός ,o'r gwraidd -ιζειν : 'heb archoniaid', 'heb reolwyr'). Mae gan anarchiaeth amryw eang o ffurfiau, o anarchwyr egöistig sydd yn gwrthwynebu pob system moesol i anarchwyr gyfalafol a chredai mewn masnach rhydd heb unrhyw ymyrraeth o'r stad hyd at anarchwyr cymdeithasol (y garfan fwyaf); sosialwyr yn gwrth i'r wladwriaeth a chyfalafiaeth.

Brenhiniaeth

Ffurf ar lywodraeth gwladwriaeth yw brenhiniaeth sy'n ymgorffori sofraniaeth ym mherson brenin neu frenhines. Mae gwerin bobl brenhiniaeth yn ddeiliaid i'r goron yn hytrach na dinasyddion fel mewn gweriniaeth.

Mae'r Deyrnas Unedig yn frenhiniaeth gyfansoddiadol a hefyd gwledydd megis Gwlad Belg, Denmarc, Sweden, Yr Iseldiroedd, a Norwy yn Ewrop. Ystyr brenhiniaeth gyfansoddiadol yw fod y brenin neu'r frenhines wedi rhoi cyfran o'i sofraniaeth i senedd y wladwriaeth. Mae yna wledydd yn y byd sydd â brenhiniaeth unbeniaethol megis Sawdi Arabia, Brwnei, Nepal, Gwlad Swasi, neu sydd â brenhiniaeth sydd bron yn unbeniaethol megis Gwlad Iorddonen, Ciwait, Qatar a Liechtenstein.

Cenedl

Erthygl am genedl yn yr ystyr ddiwylliannol yw hon. Efallai eich bod yn chwilio naill ai am cenedl enwau (gramadeg) neu am rhywedd.Cymuned ddynol sy'n rhannu tiriogaeth o ran hanes, chwedlau, llên gwerin, diwylliant, cyfraith neu draddodiadau yw cenedl. Mae'n wahanol i wlad (bro ddaearyddol) a gwladwriaeth (bro wleidyddol).

Mae aelodau'r genedl neu'r gymdeithas yn teimlo cwlwm agosrwydd, sef hunaniaeth cenedlaethol, er nad ydynt i gyd wedi cyfarfod. Gellir ei ystyried yn gymuned wedi ei ddychmygu. Mae'r syniad fod pob bob dynol yn cael eu rhannu mewn grŵpiau o'r enw cenhedloedd, yn un o athrawiaethau mwyaf dylanwadol Gorllewin Ewrop a'r Hemisffer Gorllewinol ers yr 18g hwyr. Mae cenedligrwydd yn athrawiaeth moesegol ac athroniaetol ac yn bwynt cychwyn ar gyfer ideoleg cenedlaetholdeb; mae cenedl yn fath o gymuned diwylliannnol a chymdeithasol hunan-ddiffiniedig. Mae aelodau "cenedl" yn rhannu huaniaeth cyffredin, a tharddiad cyffredin fel arfer, mewn hanes, llinach, teulu neu ddisgyniad. Mae cenedl yn ymestyn ar draws sawl cenhedlaeth, ac mae'r meirw yn dal i gael eu hystyried fel aelodau o'r genedl. Er enghraifft, wrth gyfeirio at "ein milwyr" wrth gyfeirio at frwydr neu ryfel a ddigwyddodd gannoedd o flynyddoedd yn ôl.

Cenedlaetholdeb

Ideoleg yw cenedlaetholdeb, sy'n dweud taw'r genedl yw'r uned sylfaenol o gymdeithas ddynol. Mae syniadau gwleidyddol yn tarddu o'r theori hon, yn bennaf mai'r genedl yw'r unig sylfaen i'r wladwriaeth.

Cenhadwr

Aelod o grŵp crefyddol a ddanfonir i ardal er mwyn sôn am y grefydd neu i wneud gwaith arall megis addysg, llythrennedd, cyfiawnder cymdeithasol, iechyd a datblygiad economaidd ydy cenhadwr (ffurf fenywaidd cenhades; lluosog: cenhadon). Gan amlaf, defnyddir y term ar gyfer cenhadon Cristnogol, ond gellir ei ddefnyddio ar gyfer unrhyw gredo neu ideoleg.

Cyfalaf

Cysyniad economaidd yw cyfalaf sy'n cyfeirio at unrhyw beth sy'n hybu a galluogi cread gwerth. Mae cyfalaf wrth wraidd ideoleg economaidd cyfalafiaeth.

Democratiaeth gymdeithasol

Ideoleg economaidd a gwleidyddol sydd yn gysylltiedig â sosialaeth a'r mudiad llafur yw democratiaeth gymdeithasol sydd yn cydnabod strwythur ddemocrataidd y wladwriaeth ac yn dadlau dros ei newid drwy ddiwygio yn lle chwyldro.

Mae democratiaeth gymdeithasol a chomiwnyddiaeth yn rhannu'r un gwreiddiau, sef sosialaeth y 19g ac ysgrifau Karl Marx a Friedrich Engels. Mae democratiaeth gymdeithasol yn osgoi'r ysbryd milwriaethus a llywodraeth dotalitaraidd sydd yn nodweddion o gomiwnyddiaeth. Yn hytrach, dadleuodd dros drawsnewidiad heddychlon o gyfalafiaeth i sosialaeth drwy'r broses wleidyddol ac ymgyrchoedd cymdeithasol.

Yn ail hanner yr 20g, datblygodd athrawiaeth gymedrol o ddemocratiaeth gymdeithasol sydd yn arddel rheoleiddio yn hytrach na pherchenogaeth gan y wladwriaeth. Mae'r ffurf hon felly yn derbyn y system gyfalafol ond yn ceisio ei rheoli. Y prif nodwedd arall ohoni yw'r bwriad i gynnal y boblogaeth drwy'r wladwriaeth les. Mae democratiaeth gymdeithasol yn wahanol i sosialaeth ddemocrataidd, sydd yn debyg i Farcsiaeth-Leniniaeth yn ei gwrth-gyfalafiaeth ond nid yn ei agwedd tuag at ddemocratiaeth.

Ffasgaeth

Yn hanesyddol fe ddaeth ffasgaeth neu ffasgiaeth i'r amlwg am y tro cyntaf yn yr Eidal, yr Almaen a Sbaen yn nauddegau'r 20fed ganrif. Daeth y Ffasgwyr am y tro cyntaf i rym o dan Benito Mussolini yn yr Eidal ar ôl yr orymdaith enwog ar Rufain (1922).

Fe ddaw'r enw Ffasgiaeth o'r gair Lladin fasces, sydd yn cyfeirio at y clwstwr o wialenni a gariwyd o flaen ynadon blaengar yn y Rhufain hynafol i symboleiddio cosb ac awdurdod. Roedd y symbol yn arwyddocaol o'r ffordd yr edrychai'r ffasgwyr yn ôl at y gorffennol wrth geisio newyddeb gyfoes ac hefyd eu cred yn undod gryf (y clwstwr o wialenni) o gwmpas y genedl.

Ystyrir yn ideoleg awdurdodol, ac ar y sbectrwm traddodiadol chwith-dde yn dde eithafol, o ganlyniad i'w gwerthoedd ceidwadol a chenedlaetholgar. Pwysleisia Ffasgiaeth undod, hierarchaeth, ymosodedd, disgyblaeth a phŵer. Eto, mae ei safiad economaidd yn un gymhleth a dadleuol. Yn hynod o wrthwynebol i gomiwnyddiaeth ac (i raddfa llai) rhyddfrydiaeth, mae Ffasgiaeth yn cyfuno elfennau o reolaeth gwladwriaethol gyda chyfalafiaeth, gan honni nid ydynt yn gyfalafol na chwaith yn gomiwnyddol, ond yn rhan o'r "trydydd ffordd". Cred Ffasgwyr mewn cydweithrediad dosbarthiadol (yn gwbl groes i'r frwydr ddosbarthiadol sosialaidd) er lles y genedl, ac felly gwelir ormesiad o undebau llafur a chyfundrefnau gweithwyr ond hefyd ymyrraeth anghyson a'r diwydianwyr. Cyfeilir hyn yn aml a hunan gynaladwyedd economaidd (neu awtarchiaeth), er mwyn bod yn wlad annibynnol gryf.

Mae'r hunan gynaladwyedd yn cydfyd gyda'i thueddiad at bolisïau tramor ymosodol, er mwyn adfer yr hyn gwelant fel tramgwyddau hanesyddol neu'r eisiau i ehangu tiroedd ac ennill trefedigaethau i'w hecsploetio er lles y genedl. Ceir felly pwyslais ar y fyddin a'r lluoedd arfog. Serch hyn, cysylltir Ffasgwyr â grwpiau paramilitaraidd, oedd yn hanesyddol elfennol i'w hesgyniad i bŵer a defnyddir fel arf i frawychu a meddiannu'r poblogaeth, megis Crysau Duon gwreiddiol Mussolini neu Sturmabteilung (stormfilwyr) y Natsïaid. Rhan nodweddiadol o lywodraethau Ffasgaidd (fel llywodraethau awdurdodol eraill) yw eu defnydd allweddol o bropaganda a chredorfodi. Yn yr Eidal ceisiwyd creu cwlt personoliaeth o gwmpas Benito Mussolini, ac yn yr Almaen aethant cam ymhellach gan greu system o gredorfodi yn ysgolion, cyfnewid crefyddau am grefydd Natsïaidd a thrin eu harweinydd, Adolf Hitler, fel fath o dduw.

Cysylltir Ffasgiaeth a hiliaeth, yn enwedig gwahaniaethu ac ormesu'r Iddewon a grwpiau lleiafrifol eraill yn yr Almaen gan y Natsïaid. Eto i gyd, nid oedd hiliaeth yn rhan elfennol o Ffasgaeth yr Eidal - dechreuodd ei erledigaeth o'r Iddewon tua diwedd ei oes, ac bu Mussolini yn gynharach yn gwadu bodolaeth hiliau o gwbl. Adlewyrcha hyn gwahaniaeth bwysig rhwng ideolegau'r dau system - i'r Ffasgwyr Eidalaidd roedd y pwyslais ar undod o gwmpas y wladwriaeth Eidaleg, lle i'r Natsïaid roedd yr undod yn undod o gwmpas y genedl Almaeneg Ariaidd. Ceir cryn ddadlau hyd heddiw os mai ffurf o Ffasgaeth yw Natsïaeth neu ideoleg gwahanol efo elfennau tebyg.

Yn hanesyddol ystyrir cymdeithas Sparta hynafol fel esiampl o proto-Ffasgiaeth.

Gweriniaetholdeb

Gweriniaetholdeb yw'r egwyddor wleidyddol neu ideoleg sy'n credu mewn llywodraeth gan y bobl er mwyn y bobl mewn cyferbyniaeth â rheolaeth gan frenhiniaeth. Gelwir gwlad neu lywodraeth heb frenin neu frenhines yn ben yn weriniaeth. Yn draddodiadol, mae yna gysylltiad cryf rhwng gweriniaetholdeb a democratiaeth a hefyd â chenedlaetholdeb gwledydd gorthrymedig sy'n ceisio ennill annibyniaeth: er hynny, yn ymarferol nid yw pob gweriniaeth yn ddemocrataidd ac nid yw pob cenedlaetholwr yn weriniaethwr. Mae'r defnydd o'r term yn tueddu i amrywio o wlad i wlad ac o gyfnod i gyfnod hefyd. Er enghraifft mae Plaid Weriniaethol yr Unol Daleithiau yn blaid adain dde tra bod cysylltiad hanesyddol rhwng gweriniaetholdeb a rhyddfrydiaeth a'r adain chwith yng ngwledydd Prydain ac Ewrop.

Gwleidydd

Gwleidydd ydy rhywun sy'n cymryd rhan weithgar mewn gwleidyddiaeth fel gyrfa neu alwedigaeth, neu un sy'n cymryd rhan mewn llywodraeth gwladwriaeth.

Hizballah

Mudiad Islamaidd Shia gydag ideoleg Islamiaeth yn Libanus yw Hizballah (Arabeg: حزب الله, ḥizbu-llāh; "plaid Duw"). Pan sefydlwyd Hizballah ar ddechrau'r 1980au, ei hamcanion oedd gyrru Israel allan o dde Libanus a chreu gwladwriaeth Islamaidd (seiliedig ar Iran). Erbyn heddiw mae Hizballah wedi rhoi'r gorau i'w hymdrechion i droi Libanus yn wlad holl-Islamaidd, ond mae'n dal i alw am ddinistr Israel.

Ers 1992, Sheikh Sayyed Hassan Nasrallah yw arweinydd ac Ysgrifennydd Cyffredinol y mudiad.

Islamiaeth

Defnyddir y term Islamiaeth i ddynodi ideoleg wleidyddol sy'n dweud taw nid crefydd yn unig yw Islam, ond hefyd cyfundrefn wleidyddol lle sylfaen holl ddeddfau cymdeithas yw cyfraith Islamaidd, a dylai Mwslemiaid dychwelyd at ddysgeidiaeth wreiddiol a modelau cynnar Islam. Weithiau, defnyddir y gair Islamydd i ddynodi Mwslemiaid sy'n gwrthwynebol yn dreisgar i ddylanwad milwrol, economaidd, gwleidyddol, cymdeithasol, a diwylliannol y Gorllewin yn y Byd Mwslemaidd.

Buasai gwladwriaeth Islamaidd bur yn fath o theocrataeth, sef llywodraeth gan offeiriad (neu glerigwyr yn achos Islam) yn enw Duw.

Juche

Ideoleg swyddogol Gogledd Corea yw Juche (Coreeg: 주체; "ymddibyniaeth" neu "hunangynhaliaeth"). Yn ôl y llywodraeth, Juche yw "cyfraniad gwreiddiol, gwych a chwyldroadol at feddwl cenedlaethol a rhyngwladol" gan Kim Il-sung, Arweinydd Tragwyddol Gogledd Corea. Dywed yr ideoleg hon taw "dyn yw meistr ei dynged", bydd pobl Gogledd Corea yn "feistri'r chwyldro a'r adeiladu", a thrwy hunangynhaliaeth a chryfder bydd y genedl yn cyrraedd gwir sosialaeth.Datblygodd Kim Il-sung (1912–1994) yr ideoleg, yn gyntaf fel ffurf ar Farcsiaeth–Leniniaeth nes iddi droi'n nodweddiadol "Goreaidd", tra'n ymgorffori syniadau materoliaeth hanesyddol a phwysleisio'r unigolyn, y genedl-wladwriaeth a sofraniaeth. Mabwysiadwyd Juche fel cyfres o egwyddorion polisi gan lywodraeth Gogledd Corea ers y 1950au. Honna'r llywodraeth bod Juche yn modd o yrru'r genedl tuag at "jaju" (annibyniaeth), trwy adeiladau'r "jarip" (economi genedlaethol) a phwysleisio "jawi" (hunanamddiffyn), a sefydlu'r drefn sosialaidd.Beirniadir Juche gan nifer o ysgolheigion a sylwebyddion gan fod y llywodraeth yn ei defnyddio i gynnal y drefn dotalitaraidd ac i gyfiawnhau ynysiaeth y wlad a gormes y bobl yng Ngogledd Corea. Mae rhai wedi disgrifio Juche yn ffurf ar genedlaetholdeb ethnig Coreaidd, sydd yn addoli'r teulu Kim fel iachawdwyr "yr Hil Goreaidd" ac sydd yn gosod seiliau i'w cwlt personoliaeth.

Lluosogaeth wleidyddol

Erthygl am y term gwleidyddol yw hon. Gweler hefyd lluosogaeth.Syniadaeth sy'n cydnabod bodolaeth amrywiaeth barn mewn gwleidyddiaeth a'r hawl i fynegi hynny ar sawl lefel yw lluosogaeth wleidyddol. Defnyddir y term lluosogaeth i fynegi'r un syniad gwaelodol mewn meysydd eraill hefyd weithiau, e.e. crefydd. Mewn gwleidyddiaeth, mae lluosogaeth yn cael ei hyrwyddo gan gefnogwyr democratiaeth fodern am ei bod yn cynrychioli buddianau gorau dinesyddion yn gyffredinol ac felly yn un o gonglfeini democratiaeth.

Mewn gwleidyddiaeth ddemocrataidd, mae lluosogaeth yn egwyddor sylfaenol sy'n caniatau fod gwahanol fuddiannau, credoau a ffyrdd o fyw yn medru bodoli yn gytun a heddychlon. Mewn cyferbyniaeth ag ideoleg totalitariaeth, mae lluosogedd yn cydnabod amrywiaeth o bob math mewn cymdeithas a'r angen i gydweithredu er mwyn datrys anghydfod yn hytrach na chael un blaid neu ideoleg yn tra-arglwyddiaethu ar y lleill.

Llywodraeth

Llywodraeth yw'r corff sy'n rheoli gwladwriaeth.

Marcsiaeth–Leniniaeth

Term gwleidyddol a fathwyd yn ystod y dadleuon ideolegol yn yr Undeb Sofietaidd yn sgil marwolaeth Vladimir Lenin yw Marcsiaeth–Leniniaeth. Y ffurf hon ar gomiwnyddiaeth oedd ideoleg wladwriaethol yr Undeb Sofietaidd ac yn ideoleg swyddogol pleidiau'r Comintern a phleidiau Stalinaidd.

Mae'r enw yn ailddiffinio Marcsiaeth yn nhermau Leniniaeth, yn ôl dehongliad Joseff Stalin o syniadaeth ei ragflaenydd. Dyrchafwyd y diweddar Lenin yn destun cwlt, a manteisiodd Stalin ar ei enw er mwyn cyfiawnhâu ei bolisïau ac i atgyfnerthu ei awdurdod gwleidyddol ac ideolegol. Mewn gwirionedd, roedd Staliniaeth yn groes i Leniniaeth mewn sawl ffordd.

Hyd yn oed wedi marwolaeth Stali a chwymp ei gwlt personol, defnyddiwyd y term Marcsiaeth–Leniniaeth gan yr awdurdodau Sofietaidd i gyfreithloni polisi, drwy awgrymu perthynas uniongyrchol rhwng yr ideoleg wladwriaethol a syniadaeth wreiddiol Karl Marx, a amlygwyd gan chwyldro Lenin. Defnyddiwyd i gondemnio ffurfiau ar Farcsiaeth yn heresïau ac i ladd ar lywodraethau comiwnyddol eraill oedd yn cynnig cyfundrefnau gwahanoli'r model Sofietaidd. Yn yr hollt rhwng yr Undeb Sofietaidd a Gweriniaeth Pobl Tsieina, cyhuddwyd Beijing gan y Cremlin o wyro oddi ar wirionedd ideolegol Marcsiaeth–Leniniaeth, tra'r oedd y Tsieineaid yn mynnu bod Maoaeth yn olynydd cyfreithlon i syniadaeth Marx a Lenin.

Polisi economaidd

Polisi cyhoeddus gan lywodraethau yn y maes economaidd yw polisi economaidd. Mae'n cynnwys y cyllid llywodraethol, cyfraddau llog, y farchnad lafur, gwladoli, a meysydd eraill o ymyrraeth lywodraethol yn yr economi. Mae mathau o bolisi economaidd yn cynnwys polisi cyllidol, polisi ariannol, polisi masnach, a pholisi diwydiannol, ac yn rheoli gwariant llywodraethol, cyfraith fasnachol, rheoliad, trethiant, ailddosbarthu cyfoeth, a'r cyflenwad arian.

Dylanwadir polisïau economaidd gan ideoleg wleidyddol y blaid neu bleidiau llywodraethol, amodau mewnwladol a materion cyfoes, a strwythurau megis y drefn fasnach fyd-eang a sefydliadau rhyngwladol megis y Gronfa Ariannol Ryngwladol a Banc y Byd.

Rhyddfrydiaeth

Ideoleg ac athroniaeth wleidyddol a'i gwreiddiau yn yr Oleuedigaeth yw rhyddfrydiaeth, a rhyddid personol a gwelliant cymdeithasol yn greiddiol iddi. Mewn gwleidyddiaeth fodern, ystyrir fod amcanion tebyg i ryddfrydiaeth a democratiaeth, sef newid y gyfundrefn gymdeithasol â chefnogaeth y bobl. Yn wahanol i radicaliaeth, lle caiff newid cymdeithasol ei ystyried yn nod sylfaenol, a seilir yr athroniaeth ar egwyddorion newid awdurdod, mae rhyddfrydiaeth yn anelu at newid cymdeithasol yn raddol, ystwyth ac addasol.

Ieithoedd eraill

This page is based on a Wikipedia article written by authors (here).
Text is available under the CC BY-SA 3.0 license; additional terms may apply.
Images, videos and audio are available under their respective licenses.