Iaith

Cyfundrefn gyfathrebu yw iaith. Gelwir astudiaeth ieithoedd yn ieithyddiaeth. Mae'n cynnwys astudiaeth cystrawen, seineg a morffoleg iaith.

Does dim cytundeb pryd y dechreuwyd defnyddio iaith gan yr hil ddynol. Mae amcangyfrifon yn amrywio o ryw ddwy filiwn o flynyddoedd yn ôl hyd at mor ddiweddar â phedwar deng mil o flynyddoedd yn ôl.

Mae ieithoedd y byd wedi eu rhannu'n deuluoedd ieithyddol lle mae'r ieithoedd ym mhob teulu yn tarddu o'r un ffynhonnell hanesyddol. Ond mae rhai ieithoedd sydd ddim yn dangos perthynas ag unrhyw iaith arall e.e. Basgeg. Mae'r prif deuluoedd ieithyddol yn cynnwys yr ieithoedd Indo-Ewropeaidd, yr ieithoedd Affro-Asiaidd, a'r ieithoedd Sino-Tibetaidd.

Gweler hefyd

Almaeneg

Mae Almaeneg (Deutsch: ynganiad Almaeneg ) (Uchel Almaeneg ac Isel Almaeneg) yn perthyn i gangen Germanig Orllewinol yr ieithoedd Indo-Ewropeaidd. Mae'n perthyn i'r un teulu ieithyddol â Saesneg, Iseldireg a Norwyeg.

Mae Uchel Almaeneg yn un o ieithoedd pwysicaf y byd gyda llenyddiaeth helaeth yn perthyn iddi. Almaeneg sydd â'r nifer mwyaf o siaradwyr brodorol o holl ieithoedd Ewrop (tua 100 miliwn yn 2004 neu 13.3% o'r boblogaeth).

Arabeg

Iaith Semitaidd yw'r Arabeg/ˈærəbɪk

/ (العَرَبِيةُ a gafodd ei hystyried fel yr Arabeg Glasurol yn y 6g. Ysgrifennir ieithoedd Semitaidd (heblaw Malteg) o'r dde i'r chwith. Arabeg yw iaith y Coran, llyfr sanctaidd y Mwslimiaid. Caiff ei siarad ar draws Gogledd Affrica a'r Dwyrain Canol hyd at Irac ac ynysoedd y Maldif a hi yw chweched iaith y byd yn nhermau nifer ei siaradwyr os ystyriwn hi fel un iaith yn hytrach na chasgliad o dafodieithoedd.Hewddiw, yr unig ffurf safonol o Arabeg yw 'Arabeg Modern Safonol a elwir weithiau'n 'Arabeg Lenyddol'.Mae'r geiriau Cymraeg alcali, alcemeg, alcof, alcohol, algebra, candi, lemon, sebon a soffa yn dod o'r Arabeg.

Brasil

Gwlad fwyaf De America yw Brasil (Portiwgaleg: Brasil), Gweriniaeth Ffederal Brasil yn swyddogol (Portiwgaleg: República Federativa do Brasil). Wrwgwái, Ariannin, Paragwâi, Bolifia, Periw, Colombia, Feneswela, Gaiana, Swrinam, a Guiana Ffrengig yw'r gwledydd cyfagos, gyda Chefnfor Iwerydd yn gorwedd i'r dwyrain. Mae amaethyddiaeth yn bwysig ym Mrasil ac mae ynddi fforestydd glaw eang.

Comin Wicimedia

Ystorfa rydd o ddelweddau, ffeiliau sain ac amlgyfrwng eraill yw Comin Wikimedia (Wikimedia Commons, hefyd "Commons" neu "Wikicommons"). Un o brosiectau Sefydliad Wicimedia yw hi, a gellir gweld prosiectau eraill Sefydliad Wikimedia, e.e. Wicipedia, Wiciadur a Wicilyfrau, yn defnyddio ffeiliau sydd wedi cael eu huwchlwytho i'r ystorfa fel ffeiliau lleol.

Cymraeg

Aelod o'r gangen Frythonaidd o'r ieithoedd Celtaidd a siaredir yn frodorol yng Nghymru, gan Gymry a phobl eraill ar wasgar yn Lloegr, a chan gymuned fechan yn Y Wladfa, yr Ariannin yw'r Gymraeg (hefyd Cymraeg heb y fannod).

Yng Nghyfrifiad y DU (2011), darganfuwyd fod 19% (562,000) o breswylwyr Cymru (tair blwydd a throsodd) yn gallu siarad Cymraeg. O'r ffigwr hon, darganfuwyd fod 77% (431,000) yn gallu siarad, darllen, ac ysgrifennu'r iaith; dywedwyd 73% o breswylwyr Cymru (2.2 miliwn) fod dim sgiliau yn y Gymraeg ganddynt. Gellir cymharu hwn â chyfrifiad 2001, a ddarganfu fod 20.8% o'r boblogaeth yn gallu siarad Cymraeg, gyda 57% (315,000) o'r ffigwr hon yn dweud eu bod yn rhugl yn yr iaith.Mae'r Gymraeg yn un o'r 55 o ieithoedd i gael eu cynnwys fel cyfarchiad ar Record Aur y Voyager er mwyn cynrychioli'r Ddaear yn rhaglen Voyager NASA a lansiwyd ym 1977. Mae pob cyfarchiad yn unigryw i'r iaith, a dywed y Gymraeg "Iechyd da i chwi yn awr ac yn oesoedd".Mae Mesur y Gymraeg 2011 (Cymru) yn rhoi statws swyddogol i'r Gymraeg yng Nghymru, lle mai'r Gymraeg yw'r unig iaith Geltaidd sydd yn swyddogol de jure mewn unrhyw ran o'r Deyrnas Unedig.

Cymru

Gweler hefyd Cymru (gwahaniaethu).Mae Cymru (hefyd Saesneg: Wales) yn wlad Geltaidd. Gyda'r Alban, Cernyw, Gogledd Iwerddon a Lloegr, mae Cymru'n rhan o'r Deyrnas Unedig. Lleolir y wlad yn ne-orllewin gwledydd Prydain gan ffinio â Lloegr i'r dwyrain, Môr Hafren a Môr Iwerydd i'r gogledd a'r gorllewin. Cymru yw tywysogaeth fwyaf y byd, ond bellach nid yw'r term "tywysogaeth" yn cael ei defnyddio'n aml i'w disgrifio. Cymraeg yw iaith frodorol y wlad ond siaredir Saesneg gan y cyfan o'i dinasyddion erbyn heddiw; gall oddeutu 19% o'i phoblogaeth siarad Cymraeg.

Ffrainc

Gwladwriaeth yng ngorllewin Ewrop yw Ffrainc (Ffrangeg: France); enw swyddogol: Gweriniaeth Ffrainc (Ffrangeg: République française). Mae'n ffinio â Môr Udd, Gwlad Belg a Lwcsembwrg yn y gogledd, yr Almaen, y Swistir, a'r Eidal yn y dwyrain, Monaco, Môr y Canoldir, Sbaen ac Andorra yn y de, a Môr Iwerydd yn y gorllewin. Paris ydy'r brifddinas.

Mae'r mwyafrif o bobl Ffrainc yn siarad Ffrangeg, unig iaith swyddogol y wlad, ond ceir sawl iaith arall hefyd, megis Llydaweg yn Llydaw, Basgeg yn y rhan o Wlad y Basg sydd yn ne-orllewin Ffrainc, Corseg ar ynys Corsica, ac Ocsitaneg - iaith draddodiadol rhan helaeth o'r De. Mae nifer o fewnfudwyr a'u teuluoedd, o'r Maghreb yn bennaf, yn siarad Arabeg yn ogystal.

Ffrangeg

Mae'r Ffrangeg (français, IPA [fʁɑ̃sɛ]) yn iaith Romáwns sy'n cael ei siarad yn frodorol yn Ffrainc, Walonia a Rhanbarth Brwsel-Prifddinas yng Wlad Belg, y Swistir, Monaco, broydd Québec ac Acadia yng Nghanada, yn ogystal â chymunedau eraill, fel y Caribî. Yn wir, siaredir Ffrangeg mewn 53 o wledydd yn y byd.

Ceir y rhan fwyaf o'r gwledydd lle siaredir Ffrangeg fel ail iaith yng Ngogledd a Gorllewin Affrica.

Mae llenyddiaeth Ffrangeg yn un o lenyddiaethau mwyaf y byd.

Gaeleg yr Alban

Iaith Geltaidd sy'n frodorol i'r Alban yw Gaeleg yr Alban neu Gaeleg (Gaeleg: Gàidhlig

[ˈgaːlikʲ]). Mae'n gangen Goidelig o'r ieithoedd Celtaidd. Datblygodd Gaeleg yr Alban, fel Gwyddeleg a Manaweg, o Wyddeleg Canol, ac felly mae'n tarddu o Hen Wyddeleg.

Groeg (iaith)

Iaith Gwlad Groeg yw Groeg (Groeg: Ελληνικά), sydd yn aelod o deulu'r ieithoedd Indo-Ewropeaidd, ac yn gangen ynddi'i hun. Mae ganddi hanes o ddogfennu o 3,500 o flynyddoedd, y mwyaf hir o unrhyw iaith y teulu hwn. Ysgrifennir yr iaith yn yr Wyddor Roeg.

Mae 24 llythyren yn y wyddor, ac mae i bob un ffurf fawr a ffurf fechan.

Lladin

Lladin yw hen iaith Rhufain. Lladin oedd sylfaen yr ieithoedd Romáwns (Ffrangeg, Sbaeneg, Eidaleg, Portiwgaleg, Rwmaneg ayyb.), a chafodd gryn dipyn o ddylanwad ar ieithoedd eraill Ewrop. Defynyddid Lladin fel lingua franca ysgolheictod ledled Ewrop trwy'r oesoedd canol a'r dadeni dysg, ac yn oedfaon Eglwys Rufain hyd at 1962.

Llydaweg

Mae'r Llydaweg (brezhoneg), yn tarddu o'r Frythoneg, fel y gwnaeth y Gymraeg a'r Gernyweg hefyd. Tarddodd y Frythoneg ei hun o'r Gelteg. Siaredir Llydaweg yn Llydaw, yng ngogledd-orllewinol gwladwriaeth Ffrainc, sef Llydaw Isel, sy'n cynnwys Finistère, gorllewin Côtes d'Armor a Morbihan. Mae cysylltiad agos rhwng yr iaith â'r hunaniaeth Lydawaidd.

Llên Natur

Un o brosiectau Cymdeithas Edward Llwyd yw Llên Natur[1]. Mae'n wefan Gymraeg sy'n ymwneud â phopeth amgylcheddol, yng Nghymru a thramor, ddoe, heddiw ac yfory. Cymraeg yw iaith y prosiect, a'r wefan, ond ceir cyfraniadau mewn ieithoedd eraill gan gynnwys y Ffrangeg. Ymhlith y deunydd sydd ar gael ar y wefan y mae:

holl ôl-rifynnau'r Bwletin,

5 cronfa ddata (gan gynnwys Tywyddiadur, sef cronoleg o 112,000 o gofnodion dyddiedig am y tywydd a chysylltiedig bethau, cronfeydd o wybodaeth am anifeiliaid a phlanhigion, enwau lleoedd**, creigiau a llên gwerin yr hin a'r tywydd)

pytiau fideo

recordiadau ("Llais")

llyfrgell gyfeiriadol

oriel o luniau

Y Bywiadur (geiriadur Enwau a Thermau rhywogaethau a chymunedau llysieuol)Trosglwyddwyd y prif gyfrifoldeb am gasglu a rhannu gwybodaeth am Enwau Lleoedd i Gymdeithas Enwau Lleoedd Cymru (ar ôl ei sefydly trwy gynhadledd arbennig yn 2008).Mae'r prosiect hefyd erbyn hyn yn defnyddio platfformydd cyhoeddus i rannu a dennu gwybodaeth, gan gynnwys Grwp Facebook Cymuned Llên Natur, Wicipedia, a chwnmniau cofnodi bywyd gwyllt Cymru megis 'Cofnod' - Y Ganolfan Gofnodion Amgylcheddol Leol ar gyfer Gogledd Cymru.

Rhestr llyfrau Cymraeg

Mae'r rhestr llyfrau Cymraeg hon yn rhestru'r llyfrau Cymraeg a dwyieithog a gedwir ar gronfa ddata Cyngor Llyfrau Cymru. Sefydlwyd y gronfa ym 1996 a chynhwysir pob llyfr oedd ar gael ar y pryd a phob llyfr sydd wedi ymddangos ers hynny. Gwelir fod rhai peth gwybodaeth ar goll mewn mannau ac mae croeso i chi lenwi'r blychau gwag! Mae'r rhif mewn cromfachau'n cyfeirio at y nifer o lyfrau a oedd wedi'u cyhoeddi rhwng c. 1996 a 2013.

Mae manylion o dros 12,000 o lyfrau ar y rhestr hyn ac rydym, felly, wedi gorfod eu dosbarthu o ran genres neu math o lyfr a hynny yn nhrefn yr Wyddor:

Amrywiol (70)

Astudiaethau a Thestunau Llenyddol (391)

Atgofion a Hunangofiannau (280)

Athroniaeth, Gwleidyddiaeth, Cymdeithaseg, Economeg a'r Gyfraith (104)

Barddoniaeth (445)

Bywgraffiadau a Chofiannau (228)

Catalogau, Llyfryddiaethau a Rhestrau (28)

Cerddoriaeth, Caneuon, Caneuon Poblogaidd (303)

Crefydd, Hanes Crefydd (362)

Cyfansoddiadau a Thestunau Eisteddfod (62)

Deunydd Addysgol (mewn tair rhan) (3,146)

Diddordebau, Chwaraeon, Hamdden, Coginio (162)

Dramâu, Sgetsys, Pantomeimiau (142)

Dysgwyr gweler hefyd Iaith, Gramadeg a Geiriaduron (116)

Hanes, Hanes Lleol, Arferion Gwlad, Llên Gwerin (513)

Iaith, Gramadeg a Geiriaduron (265)

Natur, Daearyddiaeth, Daeareg (73)

Nofelau a Storïau ar Gyfer Oedolion (659)

Plant (Cerddi, Storïau) (2,088)

Plant (Llyfrau Cyfair) (715)

Plant a Phobl Ifainc (Nofelau a Storïau) (1,455)

Taith, Twristiaeth, Teithlyfrau (193)

Ysgrifau a Sgyrsiau (153)

Saesneg

Iaith frodorol Lloegr ydyw Saesneg (English). Mae'n un o ddwy iaith swyddogol Cymru (ynghyd â'r Gymraeg) yn ogystal, ac yn un o ieithoedd mwyaf y byd.

Datblygodd y Saesneg o iaith llwythau Germanaidd ag ymsefydlodd ym Mhrydain rhwng y bumed a'r seithfed ganrif gan ddisodli iaith a diwylliant y Brythoniaid brodorol o rannau helaeth o dde Prydain a chreu'r teyrnasoedd Eingl-Sacsonaidd. Erbyn y ddegfed ganrif roedd y teyrnasoedd hyn wedi uno i greu teyrnas Lloegr. Lledodd y Saesneg drwy'r byd yn sgîl anturiaethau imperialaidd y Saeson a arweiniodd at greu gwladfeydd Seisnig mewn sawl rhan o'r byd.

Oherwydd ei lle fel iaith mwyafrif yr Unol Daleithiau, mae'r Saesneg wedi dod yn brif iaith y byd ar gyfer cyfathrebu rhyngwladol. Dysgir Saesneg fel ail iaith yn fwy nag unrhyw iaith arall, ond y ffurf Americanaidd ar yr iaith a ddysgir yn amlach na'r ffurf Seisnig.

Mae llenyddiaeth Saesneg yn un o'r llenyddiaethau mwyaf yn y byd, a'i gwreiddiau'n gorwedd yn y cyfnod Eingl-Sacsonaidd. Mewn canlyniad i'r dirywiad yn nifer y siaradwyr Cymraeg a'r Seisnigeiddio yn y wlad, mae gan Gymru ei llenyddiaeth Saesneg hefyd: ysgrifennodd Dylan Thomas ei storïau a'i gerddi yn Saesneg, er enghraifft.

Sbaeneg

Iaith Sbaen yw Sbaeneg (Yn Sbaeneg: Español neu Castellano). Fe'i siaredir hefyd ar draws Canol America, ac yng ngwledydd gorllewinol De America (gan gynnwys yr Ariannin a Pheriw). Fe'i siaredir gan rhyw 400 miliwn fel mamiaith - mwy nag unrhyw iaith arall ar wahân i Tsieineeg Mandarin, a thua 500 miliwn ledled y byd.

Yn Sbaen, mae llawer o bobl yn ei galw yn "Castellano" yn lle "Sbaeneg", achos mae ieithoedd eraill yn Sbaen, a dydyn nhw ddim am awgrymu taw hi yw unig iaith Sbaen.

Teulu (bioleg)

Am yr uned gymdeithasol ddynol, gweler Teulu. Am ystyron eraill, gweler Teulu (gwahaniaethu).

Rheng tacson yw teulu (lluosog: teuluoedd) a ddefnyddir i ddosbarthu'n wyddonol organebau byw (anifeiliaid, planhigion ayb). Mae'r gair hefyd yn cael ei ddefnyddio o fewn bywydeg ar gyfer ffosiliau ac organebau a ddifodwyd. Mae'n cael ei leoli yn uwch nag urdd ac oddi tan genws. Ceir hefyd 'is-deulu'.

Mewn iaith bob dydd, gall 'teulu' gyfeirio at un o'i haelodau e.e. mae cnau Ffrengig a chyll Ffrengig (hicori) yn cael eu galw'n 'deulu'r cnau Ffrengig', er eu bod, ill dau'n perthyn yn fanwl gywir, yn wyddonol gywir, i deulu'r Juglandaceae.

Tacsonomegwyr sy'n dyfarnu beth sydd a beth nad yw'n cael ei ddiffinio fel teulu, o fewn bywydeg. Ni cheir rheolau haearnaidd ynghylch hyn, nag ychwaith ar gyfer unrhyw rheng arall o fewn y tacsa. Weithiau, ni cheir cosensws y naill ffordd na'r llall, o fewn y byd gwyddonol. Golyga hyn fod yr hyn sy'n cael ei ddiffinio'n deulu yn newid yn eithaf aml, yn enwedig ers i ymchwil DNA ddod yn fwyfwy poblogaidd..

Union List of Artist Names

Thesawrws (yn yr ystyr sydd gan y term yn llyfrgellyddiaeth) am hanes celf yw'r Union List of Artist Names. Fe'i datblygwyd gan Sefydliad Ymchwil Getty, rhan o Amgueddfa J. Paul Getty yng Nghaliffornia. Ym mas-data yr ULAN ceir tua 248,820 o gofnodion, sy'n cynnwys enwau priod, bywgraffiadau a gwybodaeth arall am arlunwyr, cerflunwyr, pensaernïaid ac yn y blaen, o'r Henfyd i'r presennol. Mae'r cofnodion yn uno ffurfiau amrywiol ar enwau artistiaid – ffugenwau, sillafiadau amrywiol, enwau sy'n amrywio o iaith i iaith a rhai sydd wedi newid dros amser – o dan un dynodwr (ID), ac yn awgrymu ffurf safonol o'r enw i'r defnyddiwr.

Y Celtiaid

Erthygl am y bobl yw hon; am y grŵp gwerin, gweler Celt (band).

Defnyddir y term y Celtiaid gan haneswyr ac archeolegwyr am bobl a oedd yn byw ar draws ardal eang yn cynnwys canolbarth a gorllewin Ewrop, gyda rhai pobloedd yn ymestyn cyn belled ag Asia Leiaf. Defnyddir y term hefyd am genhedloedd modern sy'n siarad iaith Geltaidd neu a oedd yn siarad iaith Geltaidd hyd yn weddol ddiweddar. Mae tebygrwydd yn dal i'w weld yn ieithoedd Celtaidd a diwylliant Celtaidd y bobloedd hyn heddiw, yn enwedig rhwng y tair iaith Frythoneg (Cymraeg, Llydaweg, a Chernyweg) a rhwng y tair iaith Oideleg (Gaeleg, Gwyddeleg, a Manaweg).

Mae'r diffiniad o "Gelt" yn bwnc dadleuol iawn, rhywbeth sy'n wir am Geltiaid yr hen-fyd a'r Celtiaid modern. Awgryma llawer o'r cyfeiriadau at Geltiaid yn yr hen-fyd gan awduron Groegaidd eu bod yn byw i'r gogledd o drefedigaeth Roegaidd Massalia (Marseille heddiw) yng Ngâl, ond mae rhai awduron i bob golwg yn eu lleoli yng nghanolbarth Ewrop. Dywed Herodotus eu bod yn byw o gwmpas tarddle Afon Donaw; ond mae'n eglur ei fod ef yn credu fod Afon Donaw yn tarddu lawer ymhellach i'r gorllewin nag y mae mewn gwirionedd. Lleolir y Celtiaid yng Ngâl gan y rhan fwyaf o awduron Rhufeinig; dywed Iŵl Cesar fod y bobl oedd yn eu galw eu hunain yn "Geltiaid" yn eu hiaith eu hunain yn byw yng nghanolbarth Gâl.

Dechreuodd y defnydd modern o'r term "Celtaidd" yn y 18g pan ddangosodd Edward Lhuyd fod ieithoedd megis Cymraeg, Llydaweg a Gwyddeleg yn perthyn i'w gilydd. Rhoddodd yr enw "ieithoedd Celtaidd" arnynt. Yn ddiweddarach, yn gam neu'n gymwys, cysylltwyd y Celtiaid a diwylliannau yn yr ystyr archeolegol sy'n cynnwys y diwylliant Hallstatt a diwylliant La Tène. Ystyria'r mwyafrif o ysgolheigion fod y "byd Celtaidd" yn yr hen-fyd yn cynnwys Celt-Iberiaid (Portiwgal a Sbaen heddiw, gan gynnwys Galicia), trigolion Prydain ac Iwerddon, y Galiaid yng Ngâl (Ffrainc, gogledd yr Eidal, y Swistir a'r cylch) a'r Galatiaid (Asia Leiaf: Twrci heddiw). Mae rhai ysgolheigion yn dadlau na ddylid ystyried trigolion Prydain ac Iwerddon fel Celtiaid yn yr ystyr yma.

Y gwledydd a ystyrir yn "wledydd Celtaidd" heddiw fel rheol yw'r chwe chenedl Geltaidd yng ngogledd-orllewin Ewrop - yr Alban, Cernyw, Cymru, Iwerddon, Ynys Manaw, a Llydaw. Mae nifer o daleithiau neu ardaloedd mewn gwledydd eraill hefyd yn hawlio etifeddiaeth Geltaidd, yn arbennig Galicia ac Asturias yn Sbaen.

Yr Alban

Am ystyron eraill, gweler Alban (gwahaniaethu)Gwlad yng ngogledd orllewin Ewrop yw'r Alban (hefyd Sgotland) (Gaeleg yr Alban: Alba; Sgoteg a Saesneg: Scotland). Perthynai trigolion ei deheudir i'r un grŵp ethnig a phobl Cymru am gyfnod o fileniwm, gyda'r Frythoneg Orllewinol (ac yna'r Gymraeg) yn cael ei siarad o lannau'r Fife i Fynwy. Mae felly'n un o'r gwledydd Celtaidd ac yn un o wledydd Prydain, enwog am ei wisgi. Ar 18 Medi cynhaliwyd Refferendwm annibyniaeth i'r Alban, 2014 a flwyddyn yn ddiweddarach cafwyd Etholiad Cyffredinol lle gwelwyd newid syfrdanol yng nghenedlaetholdeb ei thrigolion.

Sant Andreas, un o apostolion Iesu Grist, yw nawddsant yr Alban – 30 Tachwedd yw dyddiad dygwyl Sant Andreas. Roedd yr Alban yn deyrnas annibynnol tan y 18g. Ar 26 Mawrth 1707, unwyd senedd yr Alban â senedd Lloegr a ffurfiwyd teyrnas unedig Prydain Fawr. Ail-sefydlwyd senedd yr Alban yn 1999 fel senedd ddatganoledig o dan lywodraeth Llundain.

Siaredir dwy iaith frodorol yn yr Alban yn ogystal â'r Saesneg – Gaeleg a Sgoteg. Mae Gaeleg yn iaith Geltaidd. Hi oedd iaith wreiddiol teyrnas yr Alban ac mae'n dal yn iaith fyw yn y gogledd orllewin. Mae Sgoteg yn perthyn i'r Saesneg, ac fe'i hystyrir yn dafodiaith Saesneg gan rai, er bod Llywodraeth yr Alban a Siarter Ieithoedd Lleiafrifol Ewrop yn ei chyfrif yn iaith leiafrifol draddodiadol. Mae'n dal i gael ei siarad yn nwyrain a de'r Alban.

Ieithoedd eraill

This page is based on a Wikipedia article written by authors (here).
Text is available under the CC BY-SA 3.0 license; additional terms may apply.
Images, videos and audio are available under their respective licenses.