Iachawdwriaeth

Mae 'Gwaredigaeth' yn ail-gyfeirio i'r dudalen hon.

Iachawdwriaeth yw un o'r elfennau sylfaenol yn nysgeidiaeth yr Eglwys Gristnogol, sy'n golygu achubiaeth neu gadwedigaeth enaid. Yn fwy penodol mae'n golygu'r rhyddhad oddi wrth bechod ynghyd â'i ganlyniadau oherwydd aberth Crist dros ddynolryw ar y Groes. Mewn canlyniad mae Iachawdwr yn enw a ddefnyddir yn yr Eglwys i gyfeirio at Iesu Grist.

Lluniwyd yr enw Cymraeg gan William Salesbury yn yr 16g.

Aberdeen

Gweler hefyd Swydd Aberdeen.Dinas yng ngogledd-ddwyrain yr Alban yw Aberdeen (Gaeleg: Obar Dheathain). Mae hefyd yn un o awdurdodau unedol yr Alban. Mae'n borthladd sy'n gorwedd ar lan Môr y Gogledd, rhwng aberoedd Afon Dee ac Afon Don, ac mae'n enwog am ei diwydiant pysgota ac fel un o brif ganolfannau diwydiant olew yr Alban. Mae ganddi boblogaeth o 202,370 (2001), sy'n ei gwneud y drydedd ddinas yn yr Alban o ran poblogaeth.

Mae'n ddinas hanesyddol gydag eglwys gadeiriol, nifer o hen dai a phrifysgol a sefydlwyd ym 1494. Roedd yn ganolfan i waith chwareli ithfaen yn y gorffennol a daeth yn enwog fel y 'Ddinas Ithfaen' am ei bod yn cyflenwi cerrig ar gyfer palmantu strydoedd Llundain yn y ddeunawfed ganrif.

Antinomiaeth

Safbwynt mewn diwinyddiaeth Gristnogol yw Antinomiaeth. Hawlir fod dysgeidiaeth yr Efengylau yn dangos nad oes rhaid ufuddhau i ddeddfau (Groeg: nomos) y wladwriaeth a bod gwneud hynny yn gallu amharu ar y gobaith o gael iachawdwriaeth i'r enaid.

Mae pleidwyr Antinomiaeth yn tynnu ar gyfeiriadau at ddeddfau'r Ymerodraeth Rufeinig yn y Testament Newydd sy'n awgrymu'n gryf nad yw'r credadyn yn rhwymedig wrth ddeddfau dyn ond wrth ddeddf uwch Crist. Gwrthodir Antinomiaeth gan y mwyafrif o ddiwinyddion.

Arminiaeth

Mae Arminiaeth yn gred neu athroniaeth Gristnogol a seilir ar ddysgeidiaeth Jacobus Arminius (1569-1609), gweinidog Prostestanaidd o'r Iseldiroedd.

Belffast

Belffast (Gwyddeleg: Béal Feirste; Saesneg: Belfast) yw dinas fwyaf a phrifddinas Gogledd Iwerddon. Mae dros hanner miliwn o bobol yn byw yn ardal Belffast. Mae'n borthladd ar lannau Afon Lagan lle mae'r afon honno'n llifo i Lough Belffast, ar y ffin rhwng Swydd Antrim a Swydd Down. Mae'n gartref i iard longau Harland and Wolfe ac yn brif ganolfan diwydiannol y dalaith. Ym Melffast ceir prif adeiladau gweinyddiaeth Gogledd Iwerddon, gan gynnwys Neuadd Dinas Belffast (1906) ac Adeilad y Senedd (Stormont) (1932). Rhoddwyd ei siarter i Brifysgol y Frenhines ym 1909.

Am flynyddoedd roedd yr enw 'Belffast' bron yn gyfystyr â 'Helyntion Gogledd Iwerddon', gyda'r ddinas a'i chymuned wedi'u rhannu ar linellau ethnig a chrefyddol. Lladdwyd rhai cannoedd o bobl ar ei strydoedd rhwng dechrau'r 1970au a'r 1990au.

Bruce Forsyth

Digrifwr a chyflwynydd teledu oedd Syr Bruce Joseph Forsyth-Johnson CBE (22 Chwefror 1928 – 18 Awst 2017). Roedd wedi bod yn y diwydiant adloniant ers yn 14 mlwydd oed gan ddod yn adnabyddus yn y 1950au wrth gyflwyno'r gyfres ITV, Sunday Night at the London Palladium.Fe'i ganwyd yn Llundain, yn fab Florence Ada (née Pocknell) a John Thomas Forsyth-Johnson. Roeddent yn aelodau o Fyddin yr Iachawdwriaeth.

Byddin yr Iachawdwriaeth

Mudiad Cristnogol elusengarol a sefydlwyd gan William Booth yw Byddin yr Iachawdwriaeth (Saesneg: The Salvation Army). Dechreuodd fel y Genhadaeth Gristnogol (Christian Mission) yn 1865 ond cafodd ei enwi'n Fyddin yr Iachawdwriaeth a'i aildrefnu ar linellau miwrol gan Booth yn 1878. Erbyn heddiw mae gan y Fyddin ganghennau mewn nifer o wledydd ledled y byd, yn cynnwys Cymru.

Mae'r fyddin yn rhoi cysgod dros dro i'r rhai sy'n ddi-gartref ac yn dlawd. Mae'r fyddin yn elusennol

Cyngor Trent

Deunawfed Gyngor Eciwmenaidd yr Eglwys Gatholig, a alwyd gan y Pab Pawl III i wrthsefyll effeithiau'r Diwygiad Protestannaidd oedd Cyngor Trent (1545–1547, 1551–1552, 1562–1563).

Fe'i cynhaliwyd dair gwaith rhwng 13 Rhagfyr, 1545, a 4 Rhagfyr, 1563 yn ninas Trent (Trento heddiw, yng ngogledd Yr Eidal) fel ymateb gan yr Eglwys Gatholig i'r bygythiad i'w hathrawiaeth ddiwinyddol a'i hawdurdod eglwysig gan y Diwygiad Protestannaidd. Fe'i hystyrir yn un o'r cynghorau pwysicaf yn hanes yr Eglwys Gatholig. Ynddo gosodwyd allan yn eglur yr athrawiaeth Gatholig ar iachawdwriaeth, y sagrafen, a'r canon Beiblaidd awdurdodedig. Penderfynwyd cael canllawiau cydnabyddedig am weinyddu'r Offeren, yn bennaf trwy ddileu amrywiadau lleol: gelwir hyn yn "Offeren Trent" (Tridentine Mass), o Tridentum, enw Lladin Trent. Condemniwyd dysgeidiaeth Martin Luther.

Eglwys y Gwir Iesu

Mae Eglwys y Gwir Iesu yn eglwys annibynnol a sefydlwyd yn Beijing, Tsieina ym 1917. Heddiw mae yna oddeutu 1.5 miliwn o aelodau ym 45 gwlad . Perthyn yr eglwys i'r gangen Brotestanaidd Bentecostaidd of Gristnogaeth a ymddangosodd yn ystod yr 20g gynnar . Ers y 1980au sefydlwyd yr eglwys yma yn y DU. Ni ddethlir y Nadolig na'r Pasg gan yr eglwys .

Etholedigaeth

Etholedigaeth, mewn diwinyddiaeth, yw rhagordeiniad personau neu bobloedd neilltuol i iachawdwriaeth yn unol ag ewyllys benarglwyddiaethol Duw. Gelwir y cyfryw bobl yn "etholedig".

Mae'r Iddewon yn ystyried eu hunain yn bobl etholedig gan Dduw, mewn cyferbyniaeth â'r "pobloedd cenhedlig" (neu "y Cenhedloedd") sydd ddim yn Iddewon.

Ffeministiaeth

Mudiadau gwleidyddol, celfyddydol, ac economeg sy'n ceisio hawliau a chydraddoldeb i ferched ydy ffeministiaeth. Mae'r hawliau hyn yn cynnwys yr hawl i gael eu cynnwys a'u gwarchod gan y gyfraith o fewn cymdeithas, o fewn byd y gyfraith, busnes, addysg. Gellir edrych arno fel rhan neu ymsetyniad o hawliau dynol.

Dros y blynyddoedd defnyddiwyd llawer o ymgyrchoedd gwahanol ac ymfflamychol i newid yr ogwydd tuag at gydraddoldeb. Gall y gair "ffeminist" gyfeirio at berson o'r naill ryw neu'r llall, sy'n credu mewn daliadau ffeministiaeth.

Gnostigiaeth

Mudiad crefyddol yn seiliedig ar athroniaeth gyfrinol a flodeai yng nghanrifoedd cyntaf Cristnogaeth oedd Gnostigiaeth. Gelwir ei phleidwyr yn Nostigiaid.

Nodwedd amlycaf y Gnostigiaid oedd eu cred yn y gnosis (gair Groeg sy'n golygu 'gwybodaeth'). Roedd y gnosis yn ddatguddiad cyfrinol o'r realiti dwyfol a roddwyd i ddisgyblion Gnostig gan Dduw. Roedd y gnosis yn sicrhau Iachawdwriaeth i'r credadun hefyd.

Amlygai Gnostigiaeth ei hun mewn sawl ffordd ac roedd yn cynnwys elfennau a fenthyciwyd o arferion a defodau hud paganiaid yr Henfyd ac yn arbennig felly crefydd Mesopotamia, Persia a'r Hen Aifft. Gellid ei hystyried ar un ystyr yn barhâd Cristnogol, neu led-Gristnogol, o gwltiau dirgelwch blynyddoedd olaf yr Ymerodraeth Rufeinig (cyltiau Mithras ac Isis, er enghraifft). Nid un mudiad â chorff canolog yn ei reoli oedd Gnostigaieth ond yn hytrach gasgliad o grwpiau llai. Roedd Cristnogion uniongred a Thadau'r Eglwys fel Tertullian yn eu hystyried yn heretigiaid ac yn eu collfarnu'n hallt.

Roedd ganddynt fyd-olwg deuoliaethol: Duw oedd Daioni a'r byd materol yn Ddrygioni. Roeddynt yn gwrthod dynoldeb Crist ac yn credu yn ei ddwyfoldeb yn unig. Credant fod Crist fel ymgnawdoliad o Dduw wedi'i anfon i'r byd er mwyn achub 'gronynnau' o ysbryd (yr enaid, fwy neu lai) oedd wedi'u dal yn y cnawd a'u dallu ganddo. Credent ar ddiwedd y byd y bydd Duw yn anfon Gwaredwr a fydd yn dryllio teyrnas Drygioni am byth.

Cafodd Gnostigiaeth ddylanwad mawr ar enwad y Manicheiaid a gwelir ei hôl ar rai o heresïau mawr yr Oesoedd Canol yn ogystal.

Wolfgang Kosack: Geschichte der Gnosis in Antike, Urchristentum und Islam. Texte, Bilder, Dokumente. 525 Seiten. Verlag Christoph Brunner, Basel 2014. ISBN 978-3-906206-06-6 [1]

Goruchafiaeth y Pab

Athrawiaeth yn niwinyddiaeth yr Eglwys Gatholig Rufeinig yw goruchafiaeth y Pab sy'n dal taw'r Pab, yn rhinwedd ei swydd yn Esgob Rhufain, yw pennaeth uchaf yr Eglwys Babyddol ac yn meddu awdurdod llwyr ac uniongyrchol dros faterion crefyddol a moesol, yn ogystal â disgyblaeth a gweinyddiaeth eglwysig.

Dau gyfiawnhâd sydd i oruchafiaeth y Pab: safle'r Pab fel olynydd San Pedr, pennaeth yr Apostolion yn ôl y Testament Newydd; ac hanes Eglwys Rhufain. Datblygodd yr athrawiaeth hon ar drywydd hanes yr Eglwys. Mae dau prif destun sy'n disgrifio natur yr athrawiaeth a'i goblygiadau i Babyddion: Unam Sanctum (1302), bwl gan y Pab Boniffas VIII; a Chyfansoddiad Dogmataidd Cyntaf Eglwys Crist, un o ddwy ddogfen Cyngor Cyntaf y Fatican (1869–70). Dyfynodd Boniffas adnodau'r ysgrythur, er enghraifft Mathew 16:19, i brofi natur ddwyfol yr awdurdod a roddid i San Pedr gan Iesu Grist. Dadleuodd bod angen i Gristnogion ymostwng i'r eglwys sy'n etifedd i'r traddodiad apostolaidd, ac felly i'r Pab, er iachawdwriaeth. Ymateb i dwf rhyddfrydiaeth a seciwlaraeth oedd pwrpas Cyngor Cyntaf y Fatican, ond ceisiodd y Pab Pïws IX hefyd i atgyfnerthu'i awdurdod crefyddol yn sgil cwymp Taleithiau'r Babaeth a cholled ei rym gwleidyddol. Cadarnháodd goruchafiaeth y Pab, ac athrawiaeth gysylltiedig anffaeledigrwydd y Pab, gan y Cyngor.Mae'r pwnc hwn wrth wraidd y rhwyg rhwng yr Eglwys Babyddol a'r Eglwys Uniongred.

Hyn o Iachawdwriaeth

Cyfrol o gerddi gan Gilbert Ruddock yw Hyn o Iachawdwriaeth. Cyhoeddiadau Barddas a gyhoeddodd y gyfrol a hynny yn 1986. Yn 2013 roedd y gyfrol mewn print.

Iachawdwriaeth Gymaint

Llyfr sy'n ceisio egluro gogoniant yr efengyl Gristnogol gan Gwyn Davies yw Iachawdwriaeth Gymaint.

Gwasg Bryntirion a gyhoeddodd y gyfrol a hynny yn 1988. Yn 2013 roedd y gyfrol mewn print.

Llythyr Paul at y Rhufeiniaid

Llythyr Paul at y Rhufeiniaid, a gyfeirir ato'n amlach fel Rhufeiniaid, yw'r chweched llyfr yn y Testament Newydd. Cytuna ysgolheigion Beiblaidd y cafodd ei ysgrifennu gan yr Apostol Paul er mwyn esbonio'r iachawdwriaeth a geir trwy Efengyl Iesu Grist. Dyma lythyr hwyaf Paul o bell ffordd.

Llywelyn ap Gwilym Lygliw

Bardd o Gymro oedd Llywelyn ap Gwilym Lygliw (fl. diwedd y 14g - dechrau'r 15g), a oedd yn perthyn i'r Llygliwiaid, teulu o feirdd y cysylltir eu henwau ag ardaloedd Powys a Meirionnydd.

Martin Luther

Offeiriad, diwinydd a diwygiwr eglwysig o'r Almaen oedd Martin Luther (10 Tachwedd 1483 – 18 Chwefror 1546). Ef fu'n gyfrifol am symbylu'r Diwygiad Protestanaidd.

Ganwyd Martin Luther yn Eisleben yn Sacsoni. Treuliodd 1505 fel mynach yn Erfurt, a gweithiodd fel doctor diwinyddiaeth yn Wittenburg yn 1512.

Ar 31 Hydref 1517 hoeliodd Martin Luther ddarn o bapur ar ddrws eglwys gadeiriol Wittenberg a oedd yn rhestru 95 o ddadleuon yn erbyn yr Eglwys Babyddol. Gwrthwynebai'n gryf yr honiad y gellid prynu achubiaeth o gosb Duw gydag arian. Roedd Luther yn dysgu nad oedd iachawdwriaeth i'w gael drwy weithredoedd da ond i'w gael yn unig drwy ras Duw a ffydd yn Iesu Grist fel Iachawdwr. Roedd ei ddiwinyddiaeth yn herio awdurdod y Pab wrth ddysgu mai'r Beibl yw unig ffynhonnell datguddiad dwyfol.

Cyfieithodd Martin Luther y Beibl (y Testament Newydd ym 1521 a’r Hen Destament ym 1534) i Neuhochdeutsch (Uchel Almaeneg Gyfoes) ysgrifenedig, iaith a oedd bryd hynny yn dal i ddatblygu. Bu'n ysbrydoliaeth i ddatblygiad Prostaniaeth ar draws Ewrop, gan gynnwys yn Ffrainc lle adnabwyd hwy fel yr Hiwgenotiaid.

Dychwelodd i Eisleben a bu farw yno. Claddwyd ym mynwent Eglwys y Gastell yn Wittenburg.

William Booth

Diwinydd o Loegr oedd William Booth (10 Ebrill 1829 - 20 Awst 1912).

Cafodd ei eni yn Nottingham yn 1829 a bu farw yn Goed Hadley.

Yn ystod ei yrfa bu'n Cadfridog yn y Fyddin Iachawdwriaeth. Roedd hefyd yn aelod o Byddin yr Iachawdwriaeth.

William Jones (emynydd)

Emynydd Cymraeg oedd William Jones (1764 – 1822). Roedd yn frodor o Feirionnydd. Ysgrifennodd sawl emyn, yn cynnwys 'Dyma iachawdwriaeth hyfryd'.

Ieithoedd eraill

This page is based on a Wikipedia article written by authors (here).
Text is available under the CC BY-SA 3.0 license; additional terms may apply.
Images, videos and audio are available under their respective licenses.