Hen Oes y Cerrig Uchaf

Mae Hen Oes y Cerrig Uchaf neu ar lafar Paleo Uchaf (Saesneg: (Upper Paleolithic)) yn rhaniad amser oddi fewn i gyfnod Hen Oes y Cerrig: y rhaniad olaf o dri, ac yn rhychwantu'r cyfnod rhwng 50,000-10,000 cyn y presennol (CP). Mae'n dilyn Hen Oes y Cerrig Canol ac yn rhagflaenu Oes ddiweddar yr Efydd pan ddechreuodd dyn drin y tir ac amaethu a chodwyd teml Göbekli Tepe yn Nhwrci.

Tua 50,000 CP, gwelwyd newid sylweddol yn yr amrywiaeth o offer llaw ac arteffactau eraill. Am y tro cyntaf yn Affrica, lle hannodd dyn, gwelwyd arteffactau a'r celf cyntaf yn ymddangos e.e. taflegrau bychan, miniog, offer ysgythru, llafnau miniog ac offer drilio a thyllu. Un o'r mannau pwysicaf yw Ogof Blombos yn Ne Affrica. Roedd pwrpas gwahanol ac unigryw i bob twlsyn a gwelwyd pwysigrwydd callestr. Rhwng 45,000 a 43,000 ymledodd y dechnoleg offer yma drwy Ewrop a gwelwyd cynnydd dybryd yn nifer y bobloedd; mae'n gwbwl bosib mai dyma a achosodd i nifer y Neanderthaliaid yn y cyfnod hwn ostwng yn sylweddol. Enw arall ar bobl yr Oes hon oedd y Cro-Magnon ac mae'r dystiolaeth ohonynt i'w gael mewn marciau ac mewn offer soffistigedig megis asgwrn, ifori, corn, paentiadau mewn ogofâu a cherfluniau bychan o bobl.[1][2][3] Hela carw oedd y gwaith pwysicaf, a helwyr a physgotwyr oedd mwyafrif y bobl.

Yn y cyfnod hwn, darganfuwyd 27 claddfa drwy Ewrop, lle lliwiwyd esgyrn dynol, ac un o'r rhai pwysicaf ydy Ogof Paviland ym Mhenrhyn Gŵyr lle defnyddiwyd ocr coch.

Cyfnodau cynhanes
H   La Tène   Protohanes
  Hallstatt
Oes yr Haearn
  Oes ddiweddar yr Efydd  
  Oes ganol yr Efydd
  Oes gynnar yr Efydd
Oes yr Efydd
    Chalcolithig    
  Neolithig Cynhanes
Mesolithig
P     Paleolithig Uchaf  
    Paleolithig Canol
    Paleolithig Isaf
  Hen Oes y Cerrig
Oes y Cerrig

Diwedd y cyfnod: Göbekli Tepe

Un o'r darganfyddiadau pwysicaf tua diwedd y cyfnod yma yw teml Göbekli Tepe yn Nhwrci, sy'n dyddio i 8,000-10,000 o flynyddoedd cyn y presennol (CP).[4] Saif y safle hwn oddeutu 12 km (7 milltir) i'r de-ddwyrain o ddinas Şanlıurfa ac mae'n bosibl i'r safle hwn gael ei ddefnyddio ar gyfer defodau crefyddol rhwng 8C CP a 10C CP. Mae pwrpas y noddfa hwn yn ddirgelwch llwyr. Mae Göbekli Tepe yn unigryw ac yn llawn cwestiynau nad oedent, yn 2016, wedi eu hateb. Yn eu plith mae'r cwestiwn pam y llanwyd y safle cyfan gyda phridd ar ddiwedd yr ail gyfnod, fel ymgais i'w guddio. Mae llawer o anifeiliaid hefyd wedi eu cerfio ar y maeni, y rhan fwyaf ohonynt yn anifeiliaid hela ee llew, baedd gwyllt ac adar. Cwestiwn arall yw pam nad oes olion bywyd yma, a ble felly roedd y trigolion yn byw? Oherwydd fod y safle hwn mor wahanol i bob safle arall, gall yr atebion i'r cwestiynau hyn newid ein dealltwriaeth o'r cyfnod pwysig hwn yn natblygiad dyn a chymdeithas a'r modd y trodd yr heliwr-gasglwr yn ffarmwr.

Yng Nghymru

Bu Ogof Paviland yn gartref i bobl yn ystod Hen Oes y Cerrig Uchaf: tua 26,000 o flynyddoedd cyn y presennol (CP). Mae'n adnabyddus fel y man lle darganfuwyd sgerbwd "Arglwyddes Goch Pen-y-Fai", y ffosil dynol cyntaf i'w darganfod (1823). Caiff yr ogof hefyd ei hystyried fel yr ogof "gyfoethocaf o'r cyfnod hwn (Paleo Uchaf Cynnar) yn Ynys Prydain",[5] oherwydd natur defodol y claddu. Prin fod unrhyw dystiolaeth o fywyd yr adeg yma drwy ynys Prydain ar wahân i Ogof Paviland. Er fod olion eraill ledled Prydain o fywyd, dyma bron yr unig un y gellir ei ddyddio'n bendant drwy ddyddio carbon.

Yn Ogof Kendrick ar Ben y Gogarth ceir olion naddu ar asgwrn gên ceffyl ac ar ddannedd gwartheg gwyllt a cheirw a gellir dyddio rhain i ddiwedd Hen Oes y Cerrig Uchaf: 10,000 CP. Galwyd yr ogof ar ôl yr archaeolegydd a'i darganfuodd: Thomas Kendrick.[6] Ceir ocr coch ar rai o'r rhain, hefyd. Dywed Jill Cook a Roger Jacobi o'r Amgueddfa Brydeinig: Mae'r darganfyddiad yma heb ei debyg drwy Ewrop gyfan.

Amcangyfrifir y byddai poblogaeth Cymru yn y cyfnod hwn oddeutu mil neu ar y mwyaf dwy fil.

Gweler hefyd

Cyfeiriadau

  1. Biological origins of modern human behavior part3
  2. Biological origins of modern human behavior part 1
  3. "'Modern' Behavior Began 40,000 Years Ago In Africa", Science Daily, Gorffennaf 1998
  4. "Göbekli Tepe". Forvo Pronunciation Dictionary.
  5. Prehistoric Wales gan Frances Lynch et al. Sutton Publishing Ltd; 2000; tud. 19. Mae'r gyfrol yma'n datgan mai ogof Paviland yw'r "ogof gyfoethocaf o'r cyfnod hwn (Hen Oes y Cerrig Uchaf) yn Ynys Prydain" Gweler hefyd tud 20: The burial represents a single event in the history of this cave, but such an event is rare even on a European scale.
  6. Jill Cook a Roger Jacobi o'r Amgueddfa Brydeinig. Gweler: Prehistoric Wales gan Frances Lynch et al. Sutton Publishing Ltd; 2000; tud. 21
Cro-Magnon

Hen enw cyffredin (nid enw gwyddonol) yw Cro-Magnon a ddefnyddir i ddisgrifio bodau dynol (Homo sapiens sapiens) cynnar a oedd yn byw yn Hen Oes y Cerrig Uchaf Ewropeaidd. Y term cyfoes yw "Bodau dynol modern, Ewropeaidd" (European early modern humans (EEMH). Gan mai enw cyffredin ydyw Cro-Magnon nid oes iddo statws tacsonomegol ffurfiol.Canfuwyd gweddillion pobl Cro-Magnon yn yr Eidal ac yng ngwledydd Prydain, ac fe'i dyddiwyd gan ddyddio radiocarbon i rhwng 43,000 a 45,000 cyn y presennol (CP). Cafwyd hyd i weddillion Pro-Magnon hefyd yn Yr Arctig Rwsiaidd a ddyddiwyd i 40,000 CP.O ddadansoddi'r esgyrn a ganfuwyd, gwyddwn fod Cro-Magnon yn gryf, trwm gyda thalcen syth ac wyneb llydan a byr. Roedd ei ên yn amlwg iawn a'i ymennydd oddeutu 1,600 cc - mwy na bodau dynol modern.

Göbekli Tepe

Safle archaeolegol ar gopa mynydd yn Ne-ddwyrain Anatolia, Twrci ydy Göbekli Tepe sy'n dyddio i 8,000-10,000 o flynyddoedd cyn y presennol (CP).Saif y safle hwn oddeutu 12 km (7 milltir) i'r de-ddwyrain o ddinas Şanlıurfa. Ar ei uchaf, mae'n 15 m (49 tr) ac mae tua 300 m (984 tr) mewn diametr. Mae'r safle yn 760 m (2,493 tr) yn uwch na lefel y môr. Enw copa'r mynydd yw "Bryn y Bol Mawr".Mae'n bosibl i'r safle hwn gael ei ddefnyddio ar gyfer defodau crefyddol rhwng 9C CC a 11C CC. yn ystod y cyfnod cynharaf, sef y 'Cyn-grochenwaith Neolithig A' (Saesneg: Pre-Pottery Neolithic A neu PPNA) codwyd cylchoedd o feini neu gerrig anferthol. Ceir dros 200 o feini neu golofnau cerrig mewn ugain cylch. Mae uchter pob maen hyd at 6 metr ac mae pob maen yn pwyso hyd at 20 tunnell. Maent wedi eu llitho i socedi a naddwyd o'r graig yn un pwrpas i'w cynnal.Yn yr ail gyfnod, sef y 'Cyn-grochenwaith Neolithig B' (Saesneg: Pre-Pottery Neolithic B neu PPNB) mae'r meini'n llai ac wedi'u gosod ar ffurf ystafelloedd petryal, gyda lloriau o galchfaen wedi'u caboli'n llyfn. Ar ddiwedd y cyfnod hwn ni fu defnydd o'r safle na rhagor o ddatblygu.

Mae pwrpas y noddfa hwn yn anhysbys, yn ddirgelwch llwyr. Cafwyd hyd iddo gan archaeolegydd Almaenig, Klaus Schmidt a fu'n gweithio yno rhwng 1996 hyd at ei farwolaeth yn 2014. Cred Schmit yw mai noddfa neolithig o ryw fath ydoedd.

Hen Oes y Cerrig

Hen Oes y Cerrig neu'r Paleolithig yw'r cynharaf o dri chyfnod Oes y Cerrig, sy'n cael ei dilyn gan Oes Ganol y Cerrig ac yna Oes Newydd y Cerrig: rhwng 227,000 CP (Cyn y Presennol) a 10,000 CP sef yn fras, chwarter ola'r cyfnod daearegol a elwir yn Pleistosen. Dyma'r Oes ble gwelwyd offer carreg yn cael ei datblygu e.e. pen saeth neu waywffon, cerfiadau o asgwrn i gau clogyn, crafwyr lledr o garreg, neu fwyell i dorri coed. Ceir nifer o'r rhain ledled Cymru gan gynnwys Ogof Lyncs ger Eryrys, Dyffryn Clwyd lle cafwyd pen picell a wnaed o asgwrn ac a ddyddiwyd i tua 11,700 CP.Mae Hen Oes y Cerrig yn rhychwantu cyfnod hir o amser 227,000 - 11.700 CP, ac mae felly wedi cael ei rannu'n dair rhan pellach:

Hen Oes y Cerrig Isaf (Lower Paleo) - 2.5 miliwn CP - dyfodiad dyn (225,000 yng Nghymru)

Hen Oes y Cerrig Canol (Middle) - 225,000-50,000

Hen Oes y Cerrig Uchaf (Upper) - 50,000-10,000Rhaid cofio fod yr hinsawdd yn newid, fel mae wedi gwneud ers dechrau amser. O ganlyniad mae'r tyfiant wedi newid. Roedd ynys Prydain bryd hyn yn ymdebygu i'r Artig gyda lefel y môr 100 metr yn is nag yw heddiw a'i thir yn cysylltu gydag Ewrop. Yn ystod yr adegau rhyng-rhewlifol, codai lefel y môr a deuai Prydain unwaith eto'n ynys. Ar adegau byddai Prydain fwy neu lai wedi'i gorchuddio dan rew, er bod rhan ohoni'n dir. Wrth i'r tywydd newid, fel hyn, cafwyd cryn fynd a dod: pan waethygai'r tywydd, ciliant i'r de. Oherwydd y rhewlifau enfawr, mae'r rhan fwyaf o'r dytiolaeth o fywyd wedi'i sgwrio nes diflannu am byth. Dim ond ers y 18,000 o flynyddoedd diwethaf (yr oes rhew diwethaf) y gwelir tystiolaeth gadarn. Un o'r eithriadau yw Ogof Bontnewydd ger Llanelwy yn Nyffryn Clwyd lle ceir olion dynol sy'n dyddio'n ôl i tua 225,000 CP, sef dechrau Hen Oes y Cerrig.

Hen Oes y Cerrig Canol

Mae Hen Oes y Cerrig Canol neu ar lafar Paleo Canol (Saesneg: (Middle Paleolithic)) yn rhaniad amser oddi fewn i gyfnod Hen Oes y Cerrig: yr ail raniad sy'n rhychwantu'r cyfnod rhwng 300,000 (225,000 yng Nghymru) a 50,000 cyn y presennol (CP). Caiff ei ragflaenu gan Hen Oes y Cerrig Isaf a'i ddilyn gan Hen Oes y Cerrig Uchaf (Upper) - 50,000-10,000.

Cychwynodd dyn modern fudo o Affrica 70,000 o flynyddoedd yn ôl a chychwynodd gymryd drosodd oddi wrth y rhywogaeth homo cynharach megis y Neanderthal a'r homo erectws.Yr hyn sy'n newydd ac yn wahanol yn y cyfnod hwn o'i gymharu gyda'r Hen Oes y Cerrig Isaf cynharach oedd defodau claddu newydd mewn llefydd fel Combe-Grenal a Abri Moula yn Ffrainc, ble ceir esgyrn wedi'u hysgythru gydag erfyn finiog. Mae hyn yn dangos fod defodau ynghlwm â'r claddu, ac o bosib yn dangos fod dyn, am y tro cyntaf, yn credu mewn bywyd ar ôl marwolaeth.

Yn y cyfnod hwn hefyd darganfuwyd breichledau yn Ogof Blombos, mwclis, celf carreg, ocr ar y corff a defod crefyddol, er bod peth celf cyn y cyfnod hwn. Cynyddodd gweithgareddau megis pysgota a hela anifeiliaid mawr, a hynny gydag offer pwrpasol ac mewn grwpiau'n cydweithio efo'i gilydd.

Hen Oes y Cerrig yng Nghymru

Mae cyfnod Oes yr Hen Gerrig yng Nghymru yn cynnwys hanes bodolaeth pobl yn y tir a elwir Cymru heddiw o'r cyfnod boreuaf hyd at tua 9000 CC. Enw arall ar Hen Oes y Cerrig yw'r Paleolithig. Ni wyddom i sicrwydd os bu pobl yn byw yng Nghymru yn y cyfnodau cynnes rhwng y gyfres o Oesoedd Iâ a gafwyd yn Ewrop gan fod y rhew wedi gorchuddio'r tir a dinistrio tystiolaeth bosibl ac eithrio yn achos rhimyn gul o dir ar arfordir y de. Ond mae'n bur bosibl fod ambell grŵp o bobl wedi croesi'r pont tir sych i hela ar y gwastadeddau gwelltog a adewid ar ôl y rhew yn y cyfnodau cynnes, efallai mor gynnar a 200,000-100,000 CP.

Rhennir Hen Oes y Cerrig yn dair rhan ac mae'n rhychwantu cyfnod hir o amser 227,000 - 11.700 CP:

Hen Oes y Cerrig Isaf (Lower Paleo) - 2.5 miliwn CP - dyfodiad dyn (225,000 yng Nghymru) - Ogof Bontnewydd

Hen Oes y Cerrig Canol (Middle) - 225,000-50,000 - Ogof Coygan ac Ogof Paviland

Hen Oes y Cerrig Uchaf (Upper) - 50,000-10,000 - Ogof Paviland, Ogof Hoyle's Mouth ac Ogofâu Cae Gwyn a Ffynnon Beuno.Yn Ogof Pontnewydd yn nyffryn Afon Elwy yn Sir Ddinbych cafwyd hyd i ddannedd a darn o ên yn perthyn i ffurf gynnar o Ddyn Neanderthal oedd yn byw rhwng 230,000 a 180,000 o flynyddoedd yn ôl.

Mae ein gwybodaeth yn dibynnu ar dystiolaeth archaeolegol o'r ogofâu a breswylid gan bobl Paleolithig. Daw'r darganfyddiadu cynharaf ar ddiwedd Oes yr Hen Gerrig o ogofâu calchfaen yng ngogledd a de-orllewin Cymru. Gellir cymharu'r offer callestr o'r cyfnod hwnnw gydag offer cyffelyb sy'n perthyn i ddiwylliant Aurignac (a elwir ar ôl ogofâu ger Aurignac, de Ffrainc).

Mae'r sgerbwd a ddarganfuwyd yn Ogof Paviland yn 1823 yn dyddio o tua 16,500 CC. Roedd diwylliant y grwpiau bychain o helwyr yng Nghymru yn perthyn i'r diwylliant paleolithig a elwir yn Greswelaidd ac a geir yn gyffredinol yn ne Prydain. Ychydig iawn o bobl fu'n byw yng Nghymru, efallai cyn lleied â rhai cannoedd ohonyn nhw, ac roeddent yn rhannu'r tir ag anifeiliaid gwyllt megis y mamothiaid diflanedig, eirth a cheirw anferth tebyg i'r elc yng ngogledd America. Yn ogystal â hela anifeiliaid roeddent yn hel llysiau a bwyd gwyllt arall. Does dim tystiolaeth ddibyniadwy am baentio ar furiau ogofâu.

Ogof Paviland

Ogof gynhanesyddol ger Rhosili ar benrhyn Gŵyr (cyfeiriad grid SS951807) yw Ogof Pafiland (neu Ogof Pen-y-Fai). Mae'n un o gyfres o ogofâu wedi'u cysylltu, ac a fu'n gartref i bobl yn ystod Hen Oes y Cerrig Uchaf: tua 26,000 o flynyddoedd cyn y presennol (CP). Mae'n adnabyddus fel y man lle darganfuwyd sgerbwd "Dynes Goch Pafiland", y ffosil dynol cyntaf i'w darganfod (1823). Caiff yr ogof ei hystyried fel yr ogof "gyfoethocaf o'r cyfnod hwn (Hen Oes y Cerrig Uchaf) yn Ynys Prydain", oherwydd natur defodol y claddu. Prin y ceir unrhyw dystiolaeth o fywyd yr adeg hon drwy Ynys Prydain ar wahân i Ogof Pafiland.

Ogofâu Cae Gwyn a Ffynnon Beuno

Ogofâu cynhanesyddol ydy Ogofâu Cae Gwyn a Ffynnon Beuno sydd wedi'u lleoli yng nghymuned Tremeirchion, Sir Ddinbych tua 6 metr o'u gilydd, tua 400 metr i'r dwyrain o Ffynnon Beuno; cyfeiriad grid SJ085724. Cloddiodd archaeolegwyr yn yr ogofâu hyn a chafwyd hyd i domeni sbwriel pwysig, gydag olion dyn ac anifail sydd rhwng 38,000 a 28,000 o flynyddoedd oed, ac felly'n perthyn i Hen Oes y Cerrig Uchaf. Dyma rai o'r ogofâu mwyaf gogleddol yn Ewrop i gynnwys olion Neanderthaliaid o'r cyfnod hwnnw a chânt eu cyfri'n hynod bwysig yng nghyfnod Hen Oes y Cerrig Uchaf.

Ieithoedd eraill

This page is based on a Wikipedia article written by authors (here).
Text is available under the CC BY-SA 3.0 license; additional terms may apply.
Images, videos and audio are available under their respective licenses.