Hen Oes y Cerrig

Hen Oes y Cerrig neu'r Paleolithig yw'r cynharaf o dri chyfnod Oes y Cerrig, sy'n cael ei dilyn gan Oes Ganol y Cerrig ac yna Oes Newydd y Cerrig: rhwng 227,000 CP (Cyn y Presennol) a 10,000 CP sef yn fras, chwarter ola'r cyfnod daearegol a elwir yn Pleistosen. Dyma'r Oes ble gwelwyd offer carreg yn cael ei datblygu e.e. pen saeth neu waywffon, cerfiadau o asgwrn i gau clogyn, crafwyr lledr o garreg, neu fwyell i dorri coed. Ceir nifer o'r rhain ledled Cymru gan gynnwys Ogof Lyncs ger Eryrys, Dyffryn Clwyd lle cafwyd pen picell a wnaed o asgwrn ac a ddyddiwyd i tua 11,700 CP.[1]

Mae Hen Oes y Cerrig yn rhychwantu cyfnod hir o amser 227,000 - 11.700 CP, ac mae felly wedi cael ei rannu'n dair rhan pellach:

Rhaid cofio fod yr hinsawdd yn newid, fel mae wedi gwneud ers dechrau amser. O ganlyniad mae'r tyfiant wedi newid. Roedd ynys Prydain bryd hyn yn ymdebygu i'r Artig gyda lefel y môr 100 metr yn is nag yw heddiw a'i thir yn cysylltu gydag Ewrop. Yn ystod yr adegau rhyng-rhewlifol, codai lefel y môr a deuai Prydain unwaith eto'n ynys. Ar adegau byddai Prydain fwy neu lai wedi'i gorchuddio dan rew, er bod rhan ohoni'n dir. Wrth i'r tywydd newid, fel hyn, cafwyd cryn fynd a dod: pan waethygai'r tywydd, ciliant i'r de. Oherwydd y rhewlifau enfawr, mae'r rhan fwyaf o'r dytiolaeth o fywyd wedi'i sgwrio nes diflannu am byth. Dim ond ers y 18,000 o flynyddoedd diwethaf (yr oes rhew diwethaf) y gwelir tystiolaeth gadarn. Un o'r eithriadau yw Ogof Bontnewydd ger Llanelwy yn Nyffryn Clwyd lle ceir olion dynol sy'n dyddio'n ôl i tua 225,000 CP, sef dechrau Hen Oes y Cerrig.[2]

Cyfnodau cynhanes
H   La Tène   Protohanes
  Hallstatt
Oes yr Haearn
  Oes ddiweddar yr Efydd  
  Oes ganol yr Efydd
  Oes gynnar yr Efydd
Oes yr Efydd
    Chalcolithig    
  Neolithig Cynhanes
Mesolithig
P     Paleolithig Uchaf  
    Paleolithig Canol
    Paleolithig Isaf
  Hen Oes y Cerrig
Oes y Cerrig

Ogof Paviland

Bu hon yn gartref i bobl yn ystod Hen Oes y Cerrig Uchaf: tua 26,000 o flynyddoedd cyn y presennol (CP). Mae'n adnabyddus fel y man lle darganfuwyd sgerbwd "Arglwyddes Goch Pen-y-Fai", y ffosil dynol cyntaf i'w darganfod (1823). Caiff yr ogof hefyd ei hystyried fel yr ogof "gyfoethocaf o'r cyfnod hwn (Hen Oes y Cerrig Uchaf) yn Ynys Prydain",[3] oherwydd natur defodol y claddu. Prin fod unrhyw dystiolaeth o fywyd yr adeg yma drwy ynys Prydain ar wahân i Ogof Paviland.

Gweler hefyd

Cyfeiriadau

  1. Discovering a Welsh Landscape gan Ian Brown; Windgather Press; 2004; tud. 25
  2. Discovering a Welsh Landscape gan Ian Brown; Windgather Press; 2004; tud. 22
  3. Prehistoric Wales gan Frances Lynch et al. Sutton Publishing Ltd; 2000; tud. 19 Mae'r gyfrol yma'n datgan mai ogof Paviland yw'r "ogof gyfoethocaf o'r cyfnod hwn (Hen Oes y Cerrig Uchaf) yn Ynys Prydain".
Altamira (ogof)

Saif Ogof Altamira gerllaw Santillana del Mar yn nhalaith ymreolaethol Cantabria yn (Sbaen). Yn yr ogof yma ceir arlunwaith Palaeolithig sydd gyda'r pwysicaf yn Ewrop.

Mae'r arlunwaith yn dyddio o'r cyfnodau Magdalenaidd a Solutreaidd, yn y Palaeolithig Diweddar. Darganfuwyd hwy yn 1879 gan Marcelino Sanz de Sautuola, ond bu dadlau am flynyddoedd a oeddynt yn wirioneddol yn dyddio o'r cyfnod yma; credai llawer o ysgolheigion na allai pobl Hen Oes y Cerrig fod yn gyfrifol am arlunwaith o gystal safon. Tua diwedd y 19g darganfuwyd arlunwaith tebyg yn Ffrainc. Mae dyddio carbon 14 wedi awgrymu dyddiad rhwng 15,000 a 12,000 CC. i'r lluniau yn Altamira, sef y cyfnod Magdalenaidd III.

Cyhoeddwyd yr ogof yn Safle Treftadaeth y Byd gan UNESCO yn 1985.

Cynhanes

Cynhanes yw'r term a ddefnyddir i gyfeirio at y cyfnod maith cyn ymddangosiad y cofnodion ysgrifenedig cyntaf, mewn cyferbyniaeth â hanes. Mae hanes yn tynnu ar ffynonellau ysgrifenedig felly, tra bod cynhanes yn dibynnu ar dystiolaeth archaeolegol. Mae ei hyd a'i barhâd yn amrywio o le i le yn y byd.

Yn Ewrop y cyfnodau traddodiadol ar gyfer cynhanes yw:

Oes y Cerrig (sy'n dechrau gydag ymddangosiad cyntaf y ddynolryw)

Hen Oes y Cerrig, neu'r cyfnod Paleolithig

Oes Ganol y Cerrig, neu'r cyfnod Mesolithig

Oes Newydd y Cerrig, neu'r cyfnod Neolithig

Oes yr Efydd

Oes yr Haearn

Cynhanes Cymru

Mae cynhanes Cymru'n ymestyn o wawr Hen Oes y Cerrig i Oes yr Haearn a dyfodiad y Rhufeiniaid i'r wlad. Roedd yr hinsawdd yn yr adeg yma'n gyfnewidiol, fel a fu erioed. Oherwydd hyn, roedd y planhigion a'r ffawna hefyd yn newid a gallwn ddyfalu'r tymheredd ar unrhyw adeg yn ôl y planhigion a'r ffawna a oedd i'w gael ar yr adeg honno. Yn ystod y cyfnodau rhewlifol ymdebygai'r wlad i'r Arctig, gyda lefel y môr oddeutu 200 metr yn is nag y mae heddiw. Golyga hyn fod tir yn cysylltu'r ynys gydag Ewrop ac roedd Bae Ceredigion ac i'r gogledd o Landudno'n dir isel. Yn ystod y cyfnodau cynnes (rhwng y rhewlifau) roedd Prydain yn ynys yn llawn o blanhigion a choed ac anifeiliaid hinsawdd cynnes.

Ceir tystiolaeth o dri math o fodau dynol yng Nghymru yn ystod y cyfnod cynhanes (a phrotohanes):

Neanderthals cynnar yn Ogof Bontnewydd, ger Llanelwy - 225,000 CP

Neanderthal clasurol yn Ogof Coygan, Sir Gaerfyrddin - 50,000 CP

Bod dynol modern yn Ogof Paviland, Gŵyr - 26,000 CP

Diwylliant Aurignac

Diwylliant Aurignac yw enw'r diwylliant archaeolegol o gyfnod Hen Oes y Cerrig diweddar (Uwch Baleolithig) a geid yn Ewrop a de-orllewin Asia. Blodeuai tua 34,000 i 23,000 o flynyddoedd yn ôl. Tarddiad yr enw yw'r safle archaeolegol nodwedd ger Aurignac ger y Pyrenees yn Ffrainc. Mae rhai archaeologwyr yn ystyried fod y diwylliant Aurignacaidd yn gyfoes â'r diwylliant Périgordaidd a nodweddir gan ei offer carreg.

Hen Oes y Cerrig Canol

Mae Hen Oes y Cerrig Canol neu ar lafar Paleo Canol (Saesneg: (Middle Paleolithic)) yn rhaniad amser oddi fewn i gyfnod Hen Oes y Cerrig: yr ail raniad sy'n rhychwantu'r cyfnod rhwng 300,000 (225,000 yng Nghymru) a 50,000 cyn y presennol (CP). Caiff ei ragflaenu gan Hen Oes y Cerrig Isaf a'i ddilyn gan Hen Oes y Cerrig Uchaf (Upper) - 50,000-10,000.

Cychwynodd dyn modern fudo o Affrica 70,000 o flynyddoedd yn ôl a chychwynodd gymryd drosodd oddi wrth y rhywogaeth homo cynharach megis y Neanderthal a'r homo erectws.Yr hyn sy'n newydd ac yn wahanol yn y cyfnod hwn o'i gymharu gyda'r Hen Oes y Cerrig Isaf cynharach oedd defodau claddu newydd mewn llefydd fel Combe-Grenal a Abri Moula yn Ffrainc, ble ceir esgyrn wedi'u hysgythru gydag erfyn finiog. Mae hyn yn dangos fod defodau ynghlwm â'r claddu, ac o bosib yn dangos fod dyn, am y tro cyntaf, yn credu mewn bywyd ar ôl marwolaeth.

Yn y cyfnod hwn hefyd darganfuwyd breichledau yn Ogof Blombos, mwclis, celf carreg, ocr ar y corff a defod crefyddol, er bod peth celf cyn y cyfnod hwn. Cynyddodd gweithgareddau megis pysgota a hela anifeiliaid mawr, a hynny gydag offer pwrpasol ac mewn grwpiau'n cydweithio efo'i gilydd.

Hen Oes y Cerrig Isaf

Mae Hen Oes y Cerrig Isaf neu ar lafar Paleo Isaf (Saesneg: (Lower Paleolithic)) yn rhaniad amser oddi fewn i gyfnod Hen Oes y Cerrig: y rhaniad cyntaf o dri, ac yn rhychwantu'r cyfnod rhwng 2.5 miliwon cyn y presennol (CP) a dyfodiad dyn 259,000 (225,000 CP yng Nghymru). Ceir olion dyn 2.5 miliwn o flynyddoedd yn ôl e.e. offer a wnaed o garreg, a dyma gychwyn y cyfnod hwn; tua 300,000 CP. Mae'n dipyn o ddadl rhwng archaeolegwyr a yw'r gallu i ddefnyddio tân yn perthyn i'r cyfnod hwn ynteu i'r cyfnod a'i dilynai sef Hen Oes y Cerrig Canol.

Hen Oes y Cerrig Uchaf

Mae Hen Oes y Cerrig Uchaf neu ar lafar Paleo Uchaf (Saesneg: (Upper Paleolithic)) yn rhaniad amser oddi fewn i gyfnod Hen Oes y Cerrig: y rhaniad olaf o dri, ac yn rhychwantu'r cyfnod rhwng 50,000-10,000 cyn y presennol (CP). Mae'n dilyn Hen Oes y Cerrig Canol ac yn rhagflaenu Oes ddiweddar yr Efydd pan ddechreuodd dyn drin y tir ac amaethu a chodwyd teml Göbekli Tepe yn Nhwrci.

Tua 50,000 CP, gwelwyd newid sylweddol yn yr amrywiaeth o offer llaw ac arteffactau eraill. Am y tro cyntaf yn Affrica, lle hannodd dyn, gwelwyd arteffactau a'r celf cyntaf yn ymddangos e.e. taflegrau bychan, miniog, offer ysgythru, llafnau miniog ac offer drilio a thyllu. Un o'r mannau pwysicaf yw Ogof Blombos yn Ne Affrica. Roedd pwrpas gwahanol ac unigryw i bob twlsyn a gwelwyd pwysigrwydd callestr. Rhwng 45,000 a 43,000 ymledodd y dechnoleg offer yma drwy Ewrop a gwelwyd cynnydd dybryd yn nifer y bobloedd; mae'n gwbwl bosib mai dyma a achosodd i nifer y Neanderthaliaid yn y cyfnod hwn ostwng yn sylweddol. Enw arall ar bobl yr Oes hon oedd y Cro-Magnon ac mae'r dystiolaeth ohonynt i'w gael mewn marciau ac mewn offer soffistigedig megis asgwrn, ifori, corn, paentiadau mewn ogofâu a cherfluniau bychan o bobl. Hela carw oedd y gwaith pwysicaf, a helwyr a physgotwyr oedd mwyafrif y bobl.

Yn y cyfnod hwn, darganfuwyd 27 claddfa drwy Ewrop, lle lliwiwyd esgyrn dynol, ac un o'r rhai pwysicaf ydy Ogof Paviland ym Mhenrhyn Gŵyr lle defnyddiwyd ocr coch.

Hen Oes y Cerrig yng Nghymru

Mae cyfnod Oes yr Hen Gerrig yng Nghymru yn cynnwys hanes bodolaeth pobl yn y tir a elwir Cymru heddiw o'r cyfnod boreuaf hyd at tua 9000 CC. Enw arall ar Hen Oes y Cerrig yw'r Paleolithig. Ni wyddom i sicrwydd os bu pobl yn byw yng Nghymru yn y cyfnodau cynnes rhwng y gyfres o Oesoedd Iâ a gafwyd yn Ewrop gan fod y rhew wedi gorchuddio'r tir a dinistrio tystiolaeth bosibl ac eithrio yn achos rhimyn gul o dir ar arfordir y de. Ond mae'n bur bosibl fod ambell grŵp o bobl wedi croesi'r pont tir sych i hela ar y gwastadeddau gwelltog a adewid ar ôl y rhew yn y cyfnodau cynnes, efallai mor gynnar a 200,000-100,000 CP.

Rhennir Hen Oes y Cerrig yn dair rhan ac mae'n rhychwantu cyfnod hir o amser 227,000 - 11.700 CP:

Hen Oes y Cerrig Isaf (Lower Paleo) - 2.5 miliwn CP - dyfodiad dyn (225,000 yng Nghymru) - Ogof Bontnewydd

Hen Oes y Cerrig Canol (Middle) - 225,000-50,000 - Ogof Coygan ac Ogof Paviland

Hen Oes y Cerrig Uchaf (Upper) - 50,000-10,000 - Ogof Paviland, Ogof Hoyle's Mouth ac Ogofâu Cae Gwyn a Ffynnon Beuno.Yn Ogof Pontnewydd yn nyffryn Afon Elwy yn Sir Ddinbych cafwyd hyd i ddannedd a darn o ên yn perthyn i ffurf gynnar o Ddyn Neanderthal oedd yn byw rhwng 230,000 a 180,000 o flynyddoedd yn ôl.

Mae ein gwybodaeth yn dibynnu ar dystiolaeth archaeolegol o'r ogofâu a breswylid gan bobl Paleolithig. Daw'r darganfyddiadu cynharaf ar ddiwedd Oes yr Hen Gerrig o ogofâu calchfaen yng ngogledd a de-orllewin Cymru. Gellir cymharu'r offer callestr o'r cyfnod hwnnw gydag offer cyffelyb sy'n perthyn i ddiwylliant Aurignac (a elwir ar ôl ogofâu ger Aurignac, de Ffrainc).

Mae'r sgerbwd a ddarganfuwyd yn Ogof Paviland yn 1823 yn dyddio o tua 16,500 CC. Roedd diwylliant y grwpiau bychain o helwyr yng Nghymru yn perthyn i'r diwylliant paleolithig a elwir yn Greswelaidd ac a geir yn gyffredinol yn ne Prydain. Ychydig iawn o bobl fu'n byw yng Nghymru, efallai cyn lleied â rhai cannoedd ohonyn nhw, ac roeddent yn rhannu'r tir ag anifeiliaid gwyllt megis y mamothiaid diflanedig, eirth a cheirw anferth tebyg i'r elc yng ngogledd America. Yn ogystal â hela anifeiliaid roeddent yn hel llysiau a bwyd gwyllt arall. Does dim tystiolaeth ddibyniadwy am baentio ar furiau ogofâu.

Lascaux

Cyfres gymhleth o ogofâu yn ne-orllewin Ffrainc yw Lascaux. Maent yn fyd-enwog am yr arlunwaith cynhanesyddol ar eu muriau, sy'n dyddio o tua 16,000 mil o flynyddoedd yn ôl yn Hen Oes y Cerrig.

Saif yr ogofâu yn nyffryn afon Vézère ger pentref Montignac, yn département Dordogne. Cafwyd hyd iddynt ar 12 Medi 1940 gan bedwar bachgen, Marcel Ravidat, Jacques Marsal, Georges Agnel, a Simon Coencas, gyda chymorth ci Ravidat, Robot. Mae'r lluniau gan mwyaf o anifeiliaid.

Agorwyd yr ogofâu i'r cyhoedd, ond erbyn 1955, roedd y carbon deuocsid a gynhyrchid gan 1,200 o ymwelwyr y dydd yn amlwg yn niweidio'r lluniau. Caewyd yr ogofâu yn 1963 i'w gwarchod. Yn 1983, agorwyd Lascaux II, atgynhyrchiad o ran o'r ogofâu, 200 medr o'r safle ei hun. Dynodwyd Lascaux yn Safle Treftadaeth y Byd gan UNESCO yn 1979.

Mamoth

Genws o eliffantod diflanedig yw mamothiaid. Roedden nhw'n byw yn ystod yr epoc Pleistosen (Oes yr Iâ) rhwng tua 1.6 miliwn o flynyddoedd yn ôl a 10,000 o flynyddoedd yn ôl.

Bu mamothiaid yn byw yng Nghymru ar un adeg. Cafwyd hyd i benglog mamoth yn ymyl sgerbwd coch Ogof Paviland yn ne Cymru yn 1823. Buasai wedi'i chladdu yno tua 29,000 o flynyddoedd yn ôl.

Neanderthal

Roedd y Neanderthal (neu'r Homo neanderthalensis neu Homo sapiens neanderthalensis) yn rhywogaeth o'r genws Homo neanderthalensis a oedd yn byw yn Ewrop a rhannau o orllewin Asia. Ymddangosodd yr olion proto-Neanderthalaidd cyntaf yn Ewrop mor gynnar â 430,000 o flynyddoedd yn ôl. Ceir tystiolaeth eu bont yn defnyddio tân 300,000 cyn y presennol (CP), fel ag yr oedd y rhywogaethau eraill a oedd yn byw yr adeg honno: homo erectus a chyndadau Homo sapiens. Erbyn 130,000 o flynyddoedd yn ôl roedd nodweddion Neanderthalaidd cyflawn wedi ymddangos. Daeth y rhywogaeth i ben rhwng 41,000 a 39,000 o flynyddoedd yn ôl.

Maent wedi gadael llawer ar eu hôl gan gynnwys esgyrn ac offer llaw a'u DNA.

Mae ymchwil genetig a wnaethpwyd yn 2010 yn awgrymu fod bodau dynol a'r Neanderthal yn rhyng-bridio rhwng 80,000 a 50,000 o flynyddoedd yn ôl yn y Dwyrain Canol. O ganlyniad mae gan fodau dynol Ewrasiaidd rhwng 1% a 4% mwy o DNA Neanderthalaidd nag Affricanwyr Is-Sahara.

Roedd y Neanderthal yn perthyn yn agos i fodau dynol modern, gyda gwahaniaeth yn eu DNA o ddim ond 0.12%. Ond nid oeddent yn cydweithio gyda'i gilydd cymaint a Homo Erectus oherwydd eu diffyg datblygiad iaith, nid oeddent mor gymdeithasol, ac nid oeddent mor flaenllaw eu technoleg. Y ffactorau hyn, mae'n debyg, sy'n egluro pam y bu i'r Neanderthal ddifodi ac i Homo Erectus barhau.

Yn y 2010au, mewn ogof ym Mynyddoedd Altai, cafwyd hyd i DNA o fewn asgwrn un o'i thrigolion, merch 13 oed, a drigai yno tua 50,000 o flynyddoedd cyn y presennol CyP. Hyd at 40,000 CP roedd y Neanderthal i'w weld drwy orllewin Ewrop a'r Denisovan drwy ddwyrain Ewrop, ond mewn rhai llefydd roeddent yn cyd-fyw. Profodd y DNA fod y tad yn Denisovan a'r fam yn Neanderthal. Oherwydd y dystiolaeth hon, mae'r hyn y gredwyd cyn 2010 - y Theori Amnewid (Replacement Theory) - bellach yn farw.

Oes Ganol y Cerrig

Oes Ganol y Cerrig neu'r Mesolithig yw'r cyfnod yn Oes y Cerrig sy'n gorwedd rhwng Hen Oes y Cerrig ac Oes Newydd y Cerrig. Fel rheol cyfyngir y defnydd o'r term i gynhanes gogledd a gorllewin Ewrop; yma mae'r oes neolithig yn cychwyn gyda chyfnod o hinsawdd cynnes yr Holosen tua 11,660 CP ac yn diweddu gyda dyfodiad ffermio - tua 4,000 CP. Yn Oes Ganol y Cerrig newidiwyd llawer o'r tirwedd gan yr heliwr-gasglwr gan, er enghraifft glirio coed. Roedd y dyn yma'n medru cynnau tân a defnyddio offer carreg, pren ac asgwrn fwy cywrain na chynt (e.e. microlithau) ac yn bennaf yn medru cyfathrebu a'i gilydd.

Oes Newydd y Cerrig

Oes Newydd y Cerrig neu'r cyfnod Neolithig yw'r olaf a diweddaraf o dri chyfnod Oes y Cerrig, cyfnod pan ddatblygwyd y dechnoleg o roi saip a ffurf ar gerrig fel arfau defnyddiol gan gychwyn oddeutu 10,000 o flynyddoedd cyn y presennol (CP) yn y Dwyrain Canol ac ychydig yn ddiweddarach yng ngweddill y byd ac yn dod i ben rhwng 6,500 and 4,000 CP. Mae'n dilyn Oes Ganol y Cerrig a Hen Oes y Cerrig (neu Paleolithig) cyn hynny.

Dyma gychyn cyfnod yr Holosen (tua 12,000 blwyddyn yn ôl hyd at y presennol) a'r hyn sy'n pennu dyddiad ei ddechrau yw dyddiad y dechreuodd dyn ffermio yn yr ardal dan sylw; gall hyn wahaniaethu o un lle i'r llall. Daw'r cyfnod i ben pan fo dyn yn defnyddio offer metel, sef cychwyn yr Oes yr Efydd (neu mewn rhai eithriadau prin: Oes yr Haearn. Yn ystod y cyfnod hwn gwelir datblygiad mawr mewn tyfu cnydau ac yn y dulliau o ddofi anifeiliaid. Mae rhai archaeolegwyr. felly'n awyddus i newid yr enw o "Oes Newydd y Cerrig" ("Neolithig") i "Oes y Cymunedau".

Oes y Cerrig

Cyfnod cynhanesyddol yn ystod yr hyn yr oedd dyn yn defnyddio offer wedi'u gwneud o gerrig (yn bennaf callestr) oedd Oes y Cerrig. Ceid offer wedi'u gwneud o bren ac esgyrn, hefyd. Defnyddid offer carreg fel cyllyll neu arfau. Ar ôl Oes y Cerrig cychwynnodd Oes yr Efydd.

Fel arfer rhennir y cyfnod hwn yn dri chyfnod:

Hen Oes y Cerrig (Paleolithig)

Oes Ganol y Cerrig (Mesolithig)

Oes Newydd y Cerrig (Neolithig)

Ogof Bontnewydd

Mae Ogof Bontnewydd (Ogof Pontnewydd, neu Bont Newydd) yng nghymuned Cefnmeiriadog yn nyffryn Elwy yn Sir Ddinbych (Cyfeirnod OS: SJ01527102) yn adnabyddus fel y man lle darganfuwyd y gweddillion cynharaf o fodau dynol ar ddaear Cymru gyda un dant yn mynd nôl tua 225,000 o flynyddoedd. Mae o fewn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennog Coedydd ac Ogofâu Elwy a Meirchion. Mae Ogof Bontnewydd ac Ogof Cefn (sydd tua 300 metr i'r gorllewin, wedi'u cofrestru'n Henebion. Tua 7 milltir i'r de-ddwyrain, yn Nhremeirchion mae Ogofâu Cae Gwyn a Ffynnon Beuno.

Carreg galchfaen yw'r ogof ac nid ydyw ar agor i'r cyhoedd, fel arfer. Yn wir, dim ond un man arall drwy wledydd Prydain sydd ag olion dyn mor gynnar a hyn, sef Eartham (Sussex). Mae'n perthyn i Hen Oes y Cerrig (neu Paleolithig).

Ogof Kendrick

Ogof gynhanesyddol ydy Ogof Kendrick, sydd wedi'i lleoli ar lethrau Pen-y-Gogarth yng nghymuned Llandudno, yn Sir Conwy; cyfeiriad grid SH779828. Fe'i henwir ar ôl yr archaeolegydd Thomas Kendrick, a arwchwiliodd yr ogof yn 1880. Mae'n adnabyddus am yr asgwrn gên ceffyl darluniedig a ganfu yno ac sy'n dyddio o Hen Oes y Cerrig

Mae'r heneb hon wedi'i chofrestru gan Cadw gyda'r Rhif SAM unigryw: CN191

Ogof Paviland

Ogof gynhanesyddol ger Rhosili ar benrhyn Gŵyr (cyfeiriad grid SS951807) yw Ogof Pafiland (neu Ogof Pen-y-Fai). Mae'n un o gyfres o ogofâu wedi'u cysylltu, ac a fu'n gartref i bobl yn ystod Hen Oes y Cerrig Uchaf: tua 26,000 o flynyddoedd cyn y presennol (CP). Mae'n adnabyddus fel y man lle darganfuwyd sgerbwd "Dynes Goch Pafiland", y ffosil dynol cyntaf i'w darganfod (1823). Caiff yr ogof ei hystyried fel yr ogof "gyfoethocaf o'r cyfnod hwn (Hen Oes y Cerrig Uchaf) yn Ynys Prydain", oherwydd natur defodol y claddu. Prin y ceir unrhyw dystiolaeth o fywyd yr adeg hon drwy Ynys Prydain ar wahân i Ogof Pafiland.

Ogofâu Cae Gwyn a Ffynnon Beuno

Ogofâu cynhanesyddol ydy Ogofâu Cae Gwyn a Ffynnon Beuno sydd wedi'u lleoli yng nghymuned Tremeirchion, Sir Ddinbych tua 6 metr o'u gilydd, tua 400 metr i'r dwyrain o Ffynnon Beuno; cyfeiriad grid SJ085724. Cloddiodd archaeolegwyr yn yr ogofâu hyn a chafwyd hyd i domeni sbwriel pwysig, gydag olion dyn ac anifail sydd rhwng 38,000 a 28,000 o flynyddoedd oed, ac felly'n perthyn i Hen Oes y Cerrig Uchaf. Dyma rai o'r ogofâu mwyaf gogleddol yn Ewrop i gynnwys olion Neanderthaliaid o'r cyfnod hwnnw a chânt eu cyfri'n hynod bwysig yng nghyfnod Hen Oes y Cerrig Uchaf.

Rhosili

Pentref bychan ym mro Gŵyr, de-orllewin Cymru, yw Rhosili ( ynganiad )(hefyd Rhossili). Mae'n gorwedd ar ben gorllewinol Penrhyn Gŵyr, tua 14 milltir i'r gorllewin o ddinas Abertawe. Mae traeth Bae Rhosili yn enwog am ei dywod braf.

Ger y pentref mae Ogof Paviland. Yn yr ogof honno darganfuwyd sgerbwd corff dynol o Hen Oes y Cerrig a adnabyddir dan yr enw "Arglwyddes Goch Pafiland".

Cynrychiolir yr ardal hon yn y Cynulliad Cenedlaethol gan Rebecca Evans (Llafur) a'r Aelod Seneddol yw Tonia Antoniazzi (Llafur).

Ieithoedd eraill

This page is based on a Wikipedia article written by authors (here).
Text is available under the CC BY-SA 3.0 license; additional terms may apply.
Images, videos and audio are available under their respective licenses.