Hebraeg

Mae Hebraeg yn iaith Semitaidd a siaredir gan ychydig dros 7 miliwn o bobl yn Israel a thros y byd. Iaith wreiddiol yr ysgrythurau Iddewig (Hen Destament y Beibl Cristnogol) yw Hebraeg Beiblaidd (neu Glasurol). Diflanodd Hebraeg fel iaith lafar yn yr 2g OC, ond parhaodd fel iaith ysgrifenedig. Cafodd Hebraeg ei hadfywio fel iaith lafar yn niwedd y 19g a daeth yn iaith swyddogol gwladwriaeth fodern Israel yn yr 20g.[1]

Er mai'r mwyaf amlwg ydyw hi, un ymhlith nifer o ieithoedd Iddewig yw Hebraeg. Ymhlith y lleill y mae Iddew-Almaeneg neu Yiddish-Daitsch a Ladino (Sbaeneg Iddewig). Cafodd y rhain eu defnyddio gan wahanol gymunedau Iddewig tra bu Hebraeg llafar yn farw, ond crebachu fu eu hanes yn sgil yr adfywiad yn nefnydd yr Hebraeg, gan adael lleiafrifoedd bychain iawn o siaradwyr yr ieithoedd hyn, os o gwbl.

Un o wyrthiau ieithyddol yr 20g oedd adfywiad Hebraeg, na bu'n iaith gyntaf i neb ers canrifoedd. Mae mewnfudwyr i Israel, o Ewrop, Unol Daleithiau America, yr hen Undeb Sofietaidd ac Affrica, er enghraifft yn cael eu trochi yn yr Hebraeg trwy gyrsiau Wlpan. Mae llyfr gan Norman Berdichevsky, 'Modern hebrew: The Past Present and Future of a Revitalized Language' yn cyfeirio'n fyr at ddylanwad y mudiad Hebraeg ar y Gymraeg.[2]

Ysgrifennir Hebraeg yn ei gwyddor ei hun, o'r dde i'r chwith. Mae 22 cymeriad yn yr wyddor, pob un yn gytsain. Dynodir llafariaid gan system o nodau, ond fel arfer dim ond mewn cyhoeddiadau i blant a dysgwyr y'u defnyddir.

Ymhlith cyfieithiadau i'r Gymraeg o'r Hebraeg fodern y mae;

  • 'Atgofion Haganah' (bywgraffiad o Israel) gan Judith Maro, cyfieithwyd gan William Williams, Wytherin Gwasg y Brython, Lerpwl. 1972
  • 'Hanes Teulu fy Nhad' gan Judith Maro, cyfieithwyd gan William Williams, Wytherin Taliesin cyf 29, t36-46 . Rhagfyr 1974
  • Cael y Llun yn Iawn. Cerdd gan Amir Or, troswyd drwy'r Saesneg, gan Chris Meredith. Taliesin cyf 131. Haf 2007.
  • "Does dim blodau i'r senorita". (stori fer ) gan Iotam Rewfeni, y cyfieithu gan Richard Crowe ac Amnon Shapiro. Tu Chwith, cyfrol 2. Haf 1994
Frank-ruehl
Yr wyddor Hebraeg

Cyfeiriadau

  1. Zuckermann, Ghil'ad (2003), Language Contact and Lexical Enrichment in Israeli Hebrew. Palgrave Macmillan. ISBN 9781403917232 / ISBN 9781403938695
  2. www.frontpagemag.com; adalwyd 26 Awst 2014
Wikipedia
Argraffiad Hebraeg Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd
Cristnogaeth

Mae Cristnogaeth neu Cristionogaeth yn grefydd undduwiaeth sy'n seiliedig ar ddysgeidiaeth a ffydd bersonol yn Iesu Grist. Gosodir prif egwyddorion Cristnogaeth yn y Beibl, casgliad o lyfrau a llythyrau a ysgrifennwyd yn yr iaith Aramaeg, Hebraeg, a Groeg yn wreiddiol. Mae'r enw Crist yn dod o'r gair Groeg Χριστός (Christos) sy'n golygu "yr Eneiniog".

Gorchymyn cyntaf Iesu Grist oedd "caru Duw", a'r ail orchymyn oedd "câr dy gymydog" (Marc XII:30,31 a Luc X:27). Mae haelioni (anhunanoldeb), trugaredd a chyfiawnder yn ganolog i Gristnogaeth ond y cysyniad creiddiol yn y ffydd Gristnogol ydy Gras Duw. Hanfod Cristnogaeth ydy fod pob peth yn bosib trwy ras Duw a bod y ddynoliaeth yn medru dod i berthynas a Duw ac etifeddu bywyd tragwyddol yn y Nefoedd trwy ffydd sy'n bosib trwy ras Duw ac nid trwy weithredoedd dynion. Canolbwynt y ffydd Gristnogol oedd gwaith Iesu Grist, rhan o'r Duwdod Cristnogol, a'r Groes yn cymodi dyn a Duw. Gwêl Cristnogion y weithred yma fel yr ymddangosiad amlycaf o ras eu Duw ac i'r Cristion "Crist ac yntau wedi ei groeshoelio" yw canolbwynt a man cychwyn eu ffydd.

Mae'n ymddangos nawr fod yr Iesu wedi ei eni tua 4 CC ym Methlehem. Does dim llawer o wybodaeth am ei fywyd cynnar nes iddo gyrraedd 30 oed pan benododd ddeuddeg o ddisgyblion (yr Apostolion). Cafodd Iesu ei groeshoeli tua 29 OC, neu yn ôl amseryddiaeth yr Eglwys Gatholig 7 Ebrill 30.

Duw

Mae hon yn erthygl am Dduw yn y crefyddau un duwiol; (gweler hefyd Al-lâh). Am 'duw' mewn cyd-destun amldduwiaeth, gweler Duw (amldduwiaeth), Duwiau Celtaidd a Duwies.Mae'r enw Duw yn cyfeirio at y duwdod y mae dilynwyr crefyddau Undduwiaeth yn ystyried yn wirionedd goruchel. Credir mai creawdwr y bydysawd yw Duw, neu o leiaf mai ei gynhaliwr yw ef. Mewn crefyddau eraill hen a diweddar, rhai enwadau Hindŵaidd er enghraifft, credir fod y Bod goruchel yn fenywaidd a chyfeirir ati fel Y Dduwies. Nid yw pawb yn credu mewn Duw neu dduwiau. Mae rhai yn amheuwr ond gyda meddwl agored ar y pwnc; gelwir pobl o'r farn hynny'n agnostig. Mae eraill yn gwrthod bodolaeth Duw yn gyfan gwbl; gelwir y rhain hynny'n anffyddwyr.

Ffenicia

Ffenicia yw’r enw a ddefnyddir am diriogaeth a gwareiddiad Semitaidd, yn wreiddiol o lannau dwyreiniol y Môr Canoldir, yn cyfateb yn fras i Libanus heddiw. Galwai’r bobl eu hunain yn kna'ani neu ben kna'an, yn cyfateb i’r Cananeaid yn y Beibl, ond defnyddir y term “Ffeniciaid” am eu disgynyddion oedd yn byw o gwmpas y glannau hyd at Dor (Israel heddiw) ac Arados, neu Arwad (Syria heddiw), rhwng 1200 CC a choncwest y rhanbarthau hyn gan Islam

Roedd y Ffeniciaid yn ddylanwadol iawn o gwmpas Môr y Canoldir; er enghraifft datblygodd yr wyddor a ddefnyddir trwy ran helaeth o’r byd heddiw o’r wyddor Ffeniciaidd. Roedd yr wyddor Ffeniciaidd yn cynnwys 22 symbol, pob un yn dynodi sain arbennig. Nid oedd llafariaid yn cael eu cynnwys. Benthyciwyd y syniad i’r gwyddorau Groeg a Hebraeg, a datblygodd gwyddorau eraill o’r rhain. Ymhilth eu dinasoedd pwysicaf roedd Biblos, Tyrus a Sidon. Oddi yno sefydlwyd gwladychiadau pwysig ar ynys Cyprus ac yn arbennig ddinas Carthago yng ngogledd Affrica, a ddaeth yn un o bwerau mawr Môr y Canoldir.

Fel marsiandiwyr yr oedd y Ffeniciaid yn fwyaf enwog, a sefydlasant rwydwaith masnachol o gwmpas Mor y Canoldir a thu hwnt. O ran crefydd, yr oedd pantheon pob dinas yn amrywio, ond y prif dduwiau oedd Baal, Astarte, Dagon, Resef, Tanit a Melqart.

Iddew-Almaeneg

Iaith Uchel Almaeneg yr Iddewon Ashcenasi yw Iddew-Almaeneg (ייִדיש yidish neu אידיש idish, sef "Iddewig") ac fe'i siaredir heddiw gan gymunedau Iddewig ar draws y byd. Datblygodd yr iaith yng Nghanolbarth Ewrop, wrth i'r Hebraeg a'r Aramaeg ymgyfuno â thafodieithoedd Almaeneg, gyda chryn dylanwad gan yr ieithoedd Slafonaidd ac i raddau llai yr ieithoedd Romáwns. Fe'i hysgrifennir yn yr wyddor Hebraeg.

Iddewiaeth

Crefydd undduwiaeth gymharol fychan yw Iddewiaeth, â thua 14 miliwn o ddilynwyr (Iddewon) byd-eang. Daw'r gair Iddewiaeth o'r gair Groeg Ιουδαϊσμός a ddaw o'r Hebraeg יהודה, Iehŵda. Hi yw crefydd y bobl Iddewig. Sylfaen y grefydd yw'r llyfrau o'r Beibl Hebraeg, sef y Tanach, sy'n cynnwys llyfrau'r Torah, Nevi'im a Ketuvim. Mae'r Talmud yn esboniad ar y llyfrau hyn.

Yn 2007, amcangyfrifwyd poblogaeth Iddewig y byd yn 13.2 miliwn, gyda 41% ohonynt yn byw yn Israel a'r 59% arall ar wasgar. Sylwer nad ydy Iddewiaeth yr un peth â Seioniaeth, mudiad Iddewig y gwrthodir ei syniadaeth gan nifer o Iddewon, e.e. y Neturei Karta.

Yn ôl traddodiad, mae'r hanes Iddewig yn dechrau gyda'r Cyfamod rhwng Duw ac Abraham, sef patriarch a chyndad y bobl Iddewig, tua 2000 CC yn ôl y gronoleg Feiblaidd draddodiadol. Iddewiaeth yw un o'r crefyddau hynaf mewn bodolaeth heddiw. Mae athrawiaethau a hanes Iddewiaeth wedi dylanwadu'n fawr ar grefyddau eraill gan greu'r sylfaen ar gyfer y crefyddau Abrahamig mawr eraill, sef Cristnogaeth ac Islam.

Mae Iddewiaeth yn wahanol iawn i nifer o grefyddau cyfoes mor bell â ni welir awdurdod yn un person neu grŵp, ond yn hytrach mewn testunau sanctaidd, traddodiadau a rabbïau addysgedig sy'n dehongli'r testunau a chyfreithiau. Drwy'r oesoedd mae Iddewiaeth wedi glynu at nifer o egwyddorion crefyddol, y pwysicaf ohonynt yw'r cysyniad o un Duw hollalluog a hollwybodol a greodd y bydysawd ac sy'n parhau i'w reoli. Yn ôl cred Iddewig draddodiadol, gwnaeth y Duw a greodd y byd gadarnhau cyfamod gyda'r Israeliaid drwy Moses ar Fynydd Sinai yn ffurf y Torah ysgrifenedig ac ar lafar. Credant taw disgynyddion yr Israeliaid yw holl Iddewon y byd. Mae Iddewiaeth ymarferol draddodiadol yn seiliedig ar yr astudiaeth a chadwraeth rheolau a gorchmynion Duw fel y cawsant eu hysgrifennu yn y Torah a'u hesbonio yn y Talmud.

Iddewon

Cenedl a grŵp ethnogrefyddol yw'r Iddewon sy'n gysylltiedig â chrefydd Iddewiaeth. Mae'r Iddewon yn ddisgynyddion i'r hen Hebreaid neu Israeliaid a ddisgrifir yn llyfrau Hebraeg yr Hen Destament a'r Talmud.

Israel

Gwlad yn y Dwyrain Canol ar arfordir y Môr Canoldir yw Gwladwriaeth Israel neu Israel (Hebraeg: מְדִינַת יִשְׂרָאֵל, Medinat Yisra'el; Arabeg: دَوْلَةْ إِسْرَائِيل, Dawlat Isrā'īl). Cafodd ei sefydlu ym 1948 yn wladwriaeth Iddewig. Mae mwyafrif y bobl sydd yn byw yno yn Iddewon, ond mae Arabiaid yn byw yno, hefyd. Lleolir Libanus i'r gogledd o'r wlad, Syria i'r gogledd-ddwyrain, Gwlad Iorddonen i'r dwyrain, a'r Aifft i'r de. Mae'r Lan Orllewinol a Llain Gaza (ar arfordir y Môr Canoldir) o dan reolaeth Israel sydd hefyd wedi meddiannu Ucheldiroedd Golan. Mae Israel ar arfordir Gwlff Aqabah, y Môr Marw, a Môr Galilea. Fe'i diffinir yn ôl ei chyfansoddiad yn wladwriaeth Iddewig, ddemocrataidd; hi yw'r unig wladwriaeth â mwyafrif Iddewig yn y byd.Bu mwy a mwy o Iddewon yn ymfudo i'r wlad (a alwyd yn Israel o'r 1920au ymlaen) a oedd ar y pryd o dan lywodraeth Gwledydd Prydain. Fe ddaeth yn wlad noddfa arbennig o bwysig i Iddewon yn sgíl twf Ffasgiaeth a Natsïaeth yn Ewrop yn y 1930au a'r 1940au.

Jeriwsalem

Prifddinas de facto gwladwriaeth Israel yw Caersalem ac weithiau Jeriwsalem neu Jerwsalem (Jerusalem yn Saesneg; Yerushaláyim, ירושליםyn Hebraeg Diweddar, ירושלם yn Hebraeg clasurol; al-Quds, القدس, yn Arabeg). Caersalem yw'r enw cywir gan nad oes 'J' yn bodoli yn y Gymraeg. Mae hi'n dref hynafol o bwysigrwydd crefyddol arbennig yn hanes Iddewiaeth, Cristnogaeth ac Islam. Er bod yr Israeliaid yn hawlio Caerselem yn brifddinas Israel, yn ôl y Cenhedloedd Unedig mae'n ddinas a feddianwyd gan yr Israeliaid yn anghyfreithlon. Mewn canlyniad nid yw'n cael ei chydnabod fel prifddinas Israel gan y mwyafrif llethol o wledydd y byd (gweler isod).

Llyfr Genesis

Llyfr cyntaf yr Hen Destament yn y Beibl, a'r Torah yw Llyfr Genesis neu Genesis (talfyriad: Gen.). O'r Lladin Llafar (Fwlgat) a siaredid yng nghyfnod yr Ymerodraeth Rufeinig y daeth y gair 'Genesis' i'r Gymraeg, ac o'r gair Groeg Γένεσις, sy'n golygu 'tarddiad' neu'r 'dechreuad', y daeth i'r Lladin. בראשית (Bərēšīṯ) yw'r gair Hebraeg am 'Yn y dechreuad', sef yr enw ar y llyfr cyntaf yn y Beibl Hebraeg, y Tanakh a'r Hen Destament Cristnogol. Yn ôl y traddodiad Iddewig cafodd y llyfr ei ysgrifennu gan Moses, ond gwyddom heddiw ei fod yn waith sawl awdur diweddarach.

Milim

Cân Harel Skaat yw "Milim" (Hebraeg: מילים; Cymraeg: Geiriau) a bydd y gân hon yn cynrychioli Israel yng Nghystadleuaeth Cân Eurovision 2010 yn Oslo, Norwy.

Moses

Arweinydd crefyddol Beiblaidd o Iddew o'r 13eg ganrif CC y ceir ei hanes yn yr Hen Destament yn bennaf oedd Moses (Hebraeg: מֹשֶׁה; Hebraeg Cyffredin: Moshe; Hebraeg Tiberiaidd: Mōšeh; Arabeg: موسىٰ, Mūsa Ge'ez: ሙሴ Musse) . Roedd yn rhoddwr cyfraith, proffwyd, ac arweinydd milwrol, ac ef a gyfrifir, yn ôl traddodiad, fel awdur y Torah (y Pentateuch). Mae Moses yn broffwyd pwysig yn Iddewiaeth, Cristnogaeth, Islam, y grefydd Bahá'í, Mormoniaeth, Rastaffariaeth, a Raeliaeth, a sawl traddodiad arall.

Yn yr Hen Destament ceir ei hanes yn bennaf yn Llyfr Ecsodus. Arweiniodd yr Hebreiaid o alltudiaeth yn Yr Aifft i Wlad yr Addewid. Dywedir iddo farw ar ôl esgyn i gopa Mynydd Nebo i gael golwg ar Wlad yr Addewid.

Palesteina (Mandad)

Mandad Palesteina (Arabeg: فلسطين‎ Filasṭīn; Hebraeg: פָּלֶשְׂתִּינָה (א"י)) yw'r enw ar lywodraethiant Palesteina, a Gwlad yr Iorddonen dan reolaeth Ymerodraeth Prydain rhwng diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf a 1948 (Palesteina) a 1946 (Trawsiorddonen enwyd wedyn yn Gwlad Iorddonen). Roedd yn endid gwleidyddol-daearyddol a ffurfiwyd yn swyddogol yn 1920 ac 1923 drwy rannu Ymerodraeth yr Otomaniaid, mewn dogfen a elwir yn Fandad Prydain dros Balesteina.

Prifysgol Hebraeg Jeriwsalem

Prifysgol Hebraeg Jeriwsalem (Hebraeg: האוניברסיטה העברית בירושלים, ha-ha-Universita Ivrit B'irushalayim; cryno HUJI) yw prifysgol genedlaethol Israel. Mae wedi ei lleoli yn Jerwsalem. Hon oedd y brifysgol gyntaf i agor yn Israel gyda thri champws.

Seioniaeth

Y dymuniad i'r Iddewon gael tiriogaeth a gwladwriaeth iddynt ei hunain yw Seioniaeth. Sefydlwyd y mudiad Seionaidd yn Awst 1897 yn y Gyngres Seionaidd Ryngwladol gyntaf yn Basel yn y Swistir. Ymfudodd ychydig o Rwsiaid Iddewig i Balesteina a phrynwyd tir oddi ar yr Arabiaid gyda chymorth ariannol o America.

Cynhowyd rhan o weledigaeth wleidyddol Seioniaeth gan Theodor Herzl yn ei pamffled ddylanwadol, Der Judenstaat ("Y Wladwriaeth Iddewig"), 1896 a'i nofel, Altneuland a gyfieithwyd i'r Hebraeg fel Tel Aviv ("Bryn y Gwanwyn").

Gweithredwyd nifer o egwyddorion Seioniaeth gan fudiadau fel Chofefei Tzion a sefydlodd aneddleoedd ym Mhalesteina ar ddiwedd y 19g a dechrau'r 20g.

Tel Aviv

Tel Aviv neu Tel Aviv-Yafo (Hebraeg:תֵּל־אָבִיב-יָפוֹ} , "Bryn y Gwanwyn") yw'r ail ddinas yn Israel o ran poblogaeth. Mae poblogaeth y ddinas ei hun yn 405,300, tra mae poblogaeth yr ardal ddinesig Gush Dan yn 3.15 milwn.

Sefydlwyd y ddinas yn 1909 ar gyrion Jaffa (Hebraeg: יָפוֹ, Yafo), efallai y porthladd hynaf yn y byd. O dan ei Maer gyntaf, Meir Dizengoff tyfodd Tel Aviv yn llawer cyflymach na Jaffa, ac yn 1950 cyfunwyd hwy yn un ddinas. Dynodwyd ardal "y Ddinas Wen" yn Tel Aviv yn Safle Treftadaeth y Byd yn 2003, oherwydd yr adeiladau Bauhaus yma.

Tel Aviv yw prif ganolfan economaidd a diwylliannol Israel, ac mae'n gyrchfan i dwristiaid hefyd oherwydd y traethau.

Tora

Prif destun sanctaidd Iddewiaeth yw'r Tora sydd yn cynnwys datguddiad Duw i genedl Israel, sef yr Iddewon. Gair Hebraeg ydyw a'i ystyr yw "cyfraith". Gan amlaf cyfeirir at y pum testun a briodolir i Moses – Genesis, Exodus, Lefiticus, Numeri, Deuteronomium – sy'n gyfystyr â phum llyfr cyntaf yr Hen Destament yn y Beibl Cristnogol.

Y Beibl

Casgliad o lyfrau sanctaidd yn yr iaith Roeg a'r iaith Hebraeg yw'r Beibl. Yn y traddodiad Cristnogol, gelwir y llyfrau Hebraeg yn Hen Destament a'r llyfrau Groeg yn Destament Newydd.

Cyfieithwyd y Beibl i'r Gymraeg gan yr Esgob William Morgan.

Y Beibl Hebraeg

Cagliad o destunau canonaidd sydd yn ysgrythur sanctaidd i'r Iddewon yw'r Beibl Hebraeg neu'r Tanách. Hwn yw sail yr Hen Destament yn y Beibl Cristnogol.

Yr Hen Destament

Casgliad o 39 llyfr hynafol sy'n ffurfio ysgrythur ganonaidd yr Iddewon yw'r Hen Destament. Gyda'r Testament Newydd mae'n ffurfio y gyntaf o ddwy brif ran y Beibl Cristnogol. Mae'r enw yn tarddu o'r gair Lladin am "gyfamod" ac yn cyfeirio at y ffaith ei fod yn cael ei ystyried yn gyfamod rhwng yr Israeliaid a Duw, thema a geir dro ar ôl tro ynddo. Mae'r llyfrau'n honni rhychwantu'r cyfnod rhwng creu'r Bydysawd a chwymp Adda ac Efa hyd at tua 400 CC. Fe'u rhennir yn draddodiadol yn dair rhan: y Torah neu'r Pentateuch (y pum llyfr cyntaf a gysylltir â Moses), Llyfrau'r Proffwydi (llyfrau 'hanes') a'r Hagiographa (Hebraeg: Kethubim) diweddarach a ychwanegwyd yn y ganrif gyntaf OC (h.y. y Salmau, Caniad Solomon, a.y.y.b).

Ieithoedd eraill

This page is based on a Wikipedia article written by authors (here).
Text is available under the CC BY-SA 3.0 license; additional terms may apply.
Images, videos and audio are available under their respective licenses.