Habsburg

Tylwyth sydd wedi bod o bwysigrwydd mawr yn hanes Ewrop yw'r Habsburg. Roedd y teulu yn wreiddiol o'r Swistir, a chafodd ei enw o'r Habichtsburg yn Aargau. Bu aelodau o dylwyth yr Habsburg yn teyrnasu am ganrifoedd dros Awstria, Bohemia a Hwngari. O 1438 hyd 1806, roedd bron pob Ymerawdwr Glân Rhufeinig yn aelod o'r teulu Habsburg. Yn y 16g a'r 17g, roedd aelodau o'r tylwyth yn rheoli Sbaen a Portiwgal, ac yn y 19g yn rheoli rhannau o ogledd yr Eidal.

Mae'r teulu yn parhau, a rhwng 1979 a 1999 roedd Otto von Habsburg yn un o aelodau Senedd Ewrop dros yr Almaen. Yn 1961, roedd wedi ymwadu'n swyddogol a'i hawl ar orsedd Awstria.

Picswiss AG-24-05
Yr Habichtsburg, a roddodd ei enw i deulu'r Habsburg

Ieithoedd eraill

This page is based on a Wikipedia article written by authors (here).
Text is available under the CC BY-SA 3.0 license; additional terms may apply.
Images, videos and audio are available under their respective licenses.