Gwyddoniadur

Cyfrol ysgrifenedig gynhwysfawr, sy'n gasgliad o wybodaeth ar bwnc neu amrywiaeth o bynciau yw gwyddoniadur.

Brockhaus Lexikon
Brockhaus Konversations-Lexikon

Hanes y gwyddoniadur

Ysgrifenwyd cyfrolau gwyddoniadurol gan rai o awduron Groeg yr Henfyd, megis Aristoteles, a Plinius. Un o brif ganolfannau i weithgarwch o'r fath oedd Llyfrgell enwog Alecsandria yn Yr Aifft.

Yn ystod yr Oesoedd Canol, datblygwyd y dull gwyddonol a'r arfer o nodi ffynonellau gan ysgolheigion Mwslemaidd, a chynhyrchwyd sawl cyfrol gynhwysfawr. Ymysg y rhai mwyaf nodedig mae gwaith Abu Bakr al-Razi ar wyddoniaeth, 270 llyfr Al-Kindi, gwyddoniadur meddygol Ibn Sina, a chyfrolau hanes y Ash'ari, al-Tabri, al-Masudi, ac eraill.

Ysgrifenodd Cassiodorus (c.490 - c.580) wyddoniadur ar ddysg a'r Saith Celfyddyd, sef yr Institutiones divinarum et saecularium litterarum. Daeth y llyfr yn waith safonol yn yr Oesoedd Canol a astudid ledled Ewrop.

Datblygodd y gwyddoniadur modern o'r geiriadur yn ystod y 18g. Ymysg cyfrolau arloesol y ganrif honno mae'r Cyclopaedia, or Universal Dictionary of Arts and Sciences, Encyclopædia Britannica, a'r Brockhaus Konversations-Lexikon.

Cyhoeddwyd y gwyddoniadur aml-gyfrol Cymraeg cyntaf mewn deg cyfrol rhwng 1854 a 1879 dan yr enw Y Gwyddoniadur Cymreig, dan olygyddiaeth gyffredinol John Parry (1812-1874).

Geirdarddiad

Daw'r gair am wyddoniadur mewn llawer o ieithoedd (Saesneg encyclopaedia a (Ffrangeg encyclopédie er enghraifft) o'r gair Lladin Canol encyclopaedia, o'r gair Roeg ενγκύκλια παιδεία "addysg gyffredinol". Mae gan y Gymraeg gair cynhenid am wyddoniadur, ac yn anarferol yn hynny o beth.

Gweler hefyd

1854

18g - 19g - 20g1800au 1810au 1820au 1830au 1840au - 1850au - 1860au 1870au 1880au 1890au 1900au1849 1850 1851 1852 1853 - 1854 - 1855 1856 1857 1858 1859

1879

18g - 19g - 20g1820au 1830au 1840au 1850au 1860au - 1870au - 1880au 1890au 1900au 1910au 1920au1874 1875 1876 1877 1878 - 1879 - 1880 1881 1882 1883 1884

Encyclopædia Britannica

Gwyddoniadur aml-gyfrol wedi ei ysgrifennu yn yr iaith Saesneg yw Encyclopædia Britannica. Cyhoeddwyd yr argraffiad cyntaf yng Nghaeredin yn y flwyddyn 1768, felly'n ei wneud yn wyddoniadur henaf y byd sydd yn parhau i fod mewn print. Yn bresennol, mae Britannica ar ei 15fed argraffiad, ond caiff adolygiad newydd ei gyhoeddi bob blwyddyn i gadw ei gynnwys yn weddol cyfoes. Dros y blynyddoedd, mae Britannica wedi gwneud enw ymysg y dysgiedig fel gwyddoniadur hynod o ysgolheidraidd, yn rhannol oherwydd fod adrannau o'r gwyddoniaduron wedi eu hysgrifennu gan nifer o unigolion awdurdodol, megis enwogion academaidd fel Albert Einstein, Marie Curie a Leon Trotsky. Er hynny, mae Britannica wedi bod mewn trafferth ers dyfodiad y rhyngrwyd a gwyddoniaduron rhyngweithiol, sydd wedi lleihau cyfran marchnad Britannica yn sylweddol a gorfodi y cyhoeddwyr i leihau ei brîs. Maent hefyd wedi rhyddhau nifer o fersiynau ar gyfrwng CD/DVD a gwasanaeth ar-lein i gystadlu gyda gwyddoniaduron modern fel Encarta a Wicipedia.

Ffrangeg

Mae'r Ffrangeg (français, IPA [fʁɑ̃sɛ]) yn iaith Romáwns sy'n cael ei siarad yn frodorol yn Ffrainc, Walonia a Rhanbarth Brwsel-Prifddinas yng Wlad Belg, y Swistir, Monaco, broydd Québec ac Acadia yng Nghanada, yn ogystal â chymunedau eraill, fel y Caribî. Yn wir, siaredir Ffrangeg mewn 53 o wledydd yn y byd.

Ceir y rhan fwyaf o'r gwledydd lle siaredir Ffrangeg fel ail iaith yng Ngogledd a Gorllewin Affrica.

Mae llenyddiaeth Ffrangeg yn un o lenyddiaethau mwyaf y byd.

Groeg (iaith)

Iaith Gwlad Groeg yw Groeg (Groeg: Ελληνικά), sydd yn aelod o deulu'r ieithoedd Indo-Ewropeaidd, ac yn gangen ynddi'i hun. Mae ganddi hanes o ddogfennu o 3,500 o flynyddoedd, y mwyaf hir o unrhyw iaith y teulu hwn. Ysgrifennir yr iaith yn yr Wyddor Roeg.

Mae 24 llythyren yn y wyddor, ac mae i bob un ffurf fawr a ffurf fechan.

Gwasg Gee

Argraffdy a thŷ chyhoeddi Cymraeg yn Lôn Swan, Dinbych, oedd Gwasg Gee. Am ran haelaeth dwy ganrif bu'n un o brif weisg Cymru.

Yn 1808 roedd y Parch. Thomas Jones, a gofir fel awdur Hanes y Merthyron, wedi sefydlu gwasg yn 23 Stryd y Ffynnon, Rhuthun. Daeth Thomas Gee Hynaf i weithio iddo o Lundain. Yn Ebrill 1809, symudodd Thomas Jones a Gee Hynaf y wasg i dref Dinbych. Yn 1813, ar ôl iddo gyhoeddi ei Hanes y Merthyron, gwerthodd Thomas Jones y wasg i Thomas Gee Hynaf.Cymerwyd y wasg drosodd gan ei fab, Thomas Gee yn ddiweddarach. Daethont yn adnabyddus am eu cyhoeddiadau Cymreig megis Y Faner a'r Gwyddoniadur Cymreig.

Ymunodd y bardd T. Gwynn Jones â'r wasg yn 1891, fel newyddiadurwr gyda'r Faner, cyn gadael i weithio ar Y Cymro - ond dychwelodd fel Is-olygydd Y Faner yn 1895.Yn 1914 gadawodd y wasg ddwylo'r teulu. Roedd yr awdures Kate Roberts a'i gŵr, Morris Williams, yn berchen ar y wasg yn ystod yr 1930au. Caewyd y wasg yn 2001. Roedd bwriad troi'r adeilad yn Ninbych yn amgueddfa ond ni lwyddwyd i ddenu nawdd, ac felly mae cais wedi cael ei wneud i droi'r adeilad yn fflatiau.

Gwyddoniadur Cymru yr Academi Gymreig

Gwyddoniadur Cymru yr Academi Gymreig, a gyhoeddwyd yn 2008, yw'r gwaith gwyddoniadurol mwyaf uchelgeisiol i'w gyhoeddi yn yr iaith Gymraeg ers y 19g. Mae'n ymwneud â Chymru'n unig, yn wahanol i'r Gwyddoniadur Cymreig a gyhoeddwyd mewn deg cyfrol rhwng 1854 a 1879 gan Thomas Gee oedd yn wyddoniadur cyffredinol; yn hytrach mae'n debyg i Cymru: yn Hanesyddol, Parthedegol a Bywgraffyddol a olygwyd gan Owen Jones ac a gyhoeddwyd rhwng 1871 a 1875. Cyhoeddwyd y gyfrol yn Saesneg yr un pryd wrth yr enw Encyclopedia of Wales.

Lladin

Lladin yw hen iaith Rhufain. Lladin oedd sylfaen yr ieithoedd Romáwns (Ffrangeg, Sbaeneg, Eidaleg, Portiwgaleg, Rwmaneg ayyb.), a chafodd gryn dipyn o ddylanwad ar ieithoedd eraill Ewrop. Defynyddid Lladin fel lingua franca ysgolheictod ledled Ewrop trwy'r oesoedd canol a'r dadeni dysg, ac yn oedfaon Eglwys Rufain hyd at 1962.

Penrhos, Swydd Henffordd

Pentref yn Swydd Henffordd, Gorllewin Canolbarth Lloegr, ydy Penrhos.

Tref weinyddol Swydd Henffordd ydy Henffordd a fu'n bencadlys ymosodiadau'r Normaniaid ar dde-ddwyrain Cymru.

Pont Fadlen

Pentref a chymuned yn ne Sir Benfro yw Pont Fadlen (neu 'Merlin's Bridge' yn ôl Gwyddoniadur Cymru). Saif y pentref fymryn i'r de o dref Hwlffordd, ac mae i bob pwrpas yn faestref iddi.

Daw'r enw o hen Gapel y Santes Fair Magdalen (Cymraeg Canol, Mair Fadlen), sydd bellach yn adfail. Daw'r enw Saesneg hefyd o enw'r capel hwn, "Mawdlyn's Bridge" yn wreiddiol, ac nid oes cysylltiad a Myrddin. Efallai i'r capel fod yn noddfa i wahangleifion ar un adeg.

Roedd poblogaeth y gymuned yn 2001 yn 2,184.

Cynrychiolir yr ardal hon yn y Cynulliad Cenedlaethol gan Paul Davies (Ceidwadwyr) a'r Aelod Seneddol yw Stephen Crabb (Ceidwadwr).

Sbaeneg

Iaith Sbaen yw Sbaeneg (Yn Sbaeneg: Español neu Castellano). Fe'i siaredir hefyd ar draws Canol America, ac yng ngwledydd gorllewinol De America (gan gynnwys yr Ariannin a Pheriw). Fe'i siaredir gan rhyw 400 miliwn fel mamiaith - mwy nag unrhyw iaith arall ar wahân i Tsieineeg Mandarin, a thua 500 miliwn ledled y byd.

Yn Sbaen, mae llawer o bobl yn ei galw yn "Castellano" yn lle "Sbaeneg", achos mae ieithoedd eraill yn Sbaen, a dydyn nhw ddim am awgrymu taw hi yw unig iaith Sbaen.

Strôc

Aflonyddwch yn y cyflenwad gwaed i'r ymennydd yw strôc. Os yw'r cyflenwad gwaed yn cael ei gyfyngu neu ei atal bydd celloedd yr ymennydd yn dechrau marw, a all arwain at niwed i'r organ a marwolaeth, o bosib.

Y ddau brif fath o strôc yw strôc isgemig, pan gaiff y cyflenwad gwaed ei atal oherwydd clot gwaed, a strôc gwaedlifol, pan fydd y gwaedlestri sy'n cyflenwi'r gwaed yn torri ac yn achosi niwed i'r ymennydd. Y math mwyaf cyffredin yw strôc isgemig, sy'n cyfrif am tua 70% o'r holl achosion.

Tiers Cross

Pentref a chymuned yn ne Sir Benfro yw Tiers Cross. Ymddengys nad oes enw Cymraeg arno. Saif ar ffordd gefn rhwng Hwlffordd ac Aberdaugleddau, ychydig i'r gorllewin o'r briffordd A4076. Roedd poblogaeth y gymuned yn 471 yn 2001.

Mae'r gymuned hefyd yn cynnwys pentrefi Dreenhill a Thornton. Saif yn y rhan y mae Gwyddoniadur Cymru yn ei ddisgrifio fel y "rhan leiaf diddorol o Sir Benfro". Bu David Lloyd George yn byw yn ffermdy Bulford am ychydig dros flwyddyn pan oedd yn ieuanc.

Tsieineeg

Iaith neu grŵp o ieithoedd yw Tsieineeg (hefyd yn achlysurol: Tsieinieg, Tsieineg neu Chineeg), yn perthyn i'r teulu ieithyddol Sino-Tibetaidd. Mae 1.3 biliwn o siaradwyr Tsieineeg trwy'r byd, yn bennaf yn Tsieina (gan gynnwys Hong Cong a Macao), Taiwan a Singapôr. Mae cymunedau Tsieineaidd mewn llawer o wledydd eraill e.e. Maleisia ac Indonesia.

Wicipedia Cymraeg

Gwyddoniadur Cymraeg sy'n seiliedig ar Wikipedia yw'r Wicipedia Cymraeg, a lansiwyd ym mis Gorffennaf 2003. Erbyn heddiw (Medi 2019), mae ganddi oddeutu 100,000 o erthyglau.

Hon, mae'n debyg, yw'r wefan Gymraeg fwyaf poblogaidd o ran nifer y darllenwyr, gyda chyfartaledd o 840,000 o dudalennau'n cael eu hagor pob mis gan ddarllenwyr go-iawn (nid bots). Mae ganddi heddiw 105,979 o erthyglau. Mae'r cyfan o gynnwys Wicipedia a'i chwiorydd (testun, delweddau, ffilm ayb) wedi'u cofrestru ar drwydded CC-BY-SA sy'n drwydded sy'n caniatáu defnydd masnachol ohoni, neu ar drwydded agored tebyg ee gall cwmni cyfyngedig ddefnyddio'r cynnwys a'i werthu am elw, ar rai amodau.Yn Rhagfyr 2016 roedd mwy o erthyglau ar ferched ar y Wicipedia Cymraeg nag o ddynion - yr unig iaith (allan o 290) i gyrraedd hynny. Yn ôl arolwg o ddarllenwyr Wicipedia a gyhoeddwyd yn Chwefror 2017 roedd mwy o'r darllenwyr o'r farn fod yr wybodaeth ar yr Wicipedia Cymraeg yn 'gywir ac yn ddibynadwy' na'r ganran fyd-eang a wnaed yn 2011 mewn arolwg o'r Wicipedia Saesneg.Yng Ngorffennaf 2013 yn dilyn ffurfio Wici Cymru, penodwyd Rheolwr Cymru, swydd lawn amser, wedi'i noddi gan Lywodraeth Cymru a Wicimedia DU, er mwyn hyfforddi golygyddion i wella ac ychwanegu i gynnwys Wicipedia. Yn Ionawr 2014 penodwyd Trefnydd Hyfforddi sgiliau wici, a'r un mis hysbysebodd Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol am Gydlynydd Wicipedia yn y cylchgrawn Golwg. Yn Ionawr 2015 penododd Llyfrgell Genedlaethol Cymru Jason Evans yn Wicipediwr Preswyl llawn amser a phenodwyd ef yn Wicimediwr Cenedlaethol y Llyfrgell_Genedlaethol ym Medi 2017.Ers Haf 2016 mae Geiriadur Rhywogaethau Llên Natur ('Y Bywiadur') yn tynnu llif o dros 12,000 o ffotograffau o Gomin Wicimedia, drwy Wicidata, ac yn cynnwys dolen i dros 10,000 o erthyglau ar y Wicipedia Cymraeg. Caiff Wicipedia hefyd ei rhestru fel adnodd Cymraeg ar wefannau Llyfrgell Genedlaethol Cymru a'r BBC, a chan borwr Mozilla Firefox. Mae S4C yn awgrymu Wicipedia fel adnodd i isdeitlwyr Cymraeg y gellir ei defnyddio "gyda gofal".

Wicipedia Saesneg

Fersiwn Saesneg o Wicipedia yw'r Wicipedia Saesneg (Saesneg: English Wikipedia). Sefydlwyd ar 15 Ionawr 2001, gan gyrraedd dwy filiwn o erthyglau erbyn mis Medi 2007.Hon oedd y fersiwn cyntaf o Wicipedia ac mae'n dal i fod y mwyaf o ran nifer yr erthyglau: yn Awst 2013 roedd dros dair gwaith maint y Wicipedia Iseldireg a'r Wicipedia Almaeneg, sef yr ail a'r trydydd mwyaf. Hyd at 2008, roedd tua 22.5% o holl erthyglau Wicipedia ym mhob iaith yn perthyn i'r fersiwn Saesneg ei hiaith, ond mae'r ganran hon wedi lleihau'n enbyd oherwydd twf Wicipedia yn yr ieithoedd eraill i 14.9% (Awst 2013). Ceir hefyd fersiwn syml ohoni sef Simple English Wikipedia.

Am 24 awr o 18–19 Ionawr 2012, bu blackout ar y Wicipedia Saesneg fel protest yn erbyn dau fesur deddfwriaethol oedd yn mynd drwy Gyngres yr Unol Daleithiau, y Stop Online Piracy Act a'r PROTECT IP Act.

Y Gwyddoniadur Cymreig

Y Gwyddoniadur Cymreig (neu'r Encyclopaedia Cambrensis) oedd y gwaith gwyddoniadurol mwyaf uchelgeisiol erioed yn yr iaith Gymraeg. Cafodd ei gyhoeddi mewn deg cyfrol rhwng 1854 a 1879 gan Thomas Gee ar ei wasg enwog yn nhref Dinbych (Gwasg Gee). Y golygydd cyffredinol oedd John Parry (1812-1874), brawd-yng-nghyfraith Gee a darlithydd yng Ngholeg Y Bala. Erys y cyhoeddiad papur mwyaf yn y Gymraeg hyd heddiw.

Costiodd y fenter tua £20,000 i Thomas Gee. Roedd hynny'n swm aruthrol yn y cyfnod hwnnw, yn cyfateb i tua £1,000,000 heddiw.

Ymlusgiad

Anifeiliaid asgwrn-cefn gwaed oer gyda chroen cennog yw ymlusgiaid.

Mae ymlusgiaid ar pob cyfandir heblaw am Antarctica er fod mwyafrif ohonyn yn byw mewn ardaloedd trofannol ac isdrofannol. Mae tymheredd eu cyrff yn newid ac felly maen nhw'n dibynnu ar dymheredd yr amgylchedd. Mae'r mwyafrif o rywogaethau'n gigysol ac yn ofiparol (hy maen nhw'n dodwy wyau).

Mae ymlusgiaid modern yn perthyn i'r urddau canlynol:

Crocodilia (crocodeilod ac aligatoriaid): 23 rhywogaeth

Sphenodontida (twataraid o Seland Newydd): 2 rhywogaeth

Squamata (madfallod, nadroedd ac amwiboniaid): tua 7,600 rhywogaeth

Testudines (crwbanod): tua 300 rhywogaeth

Ieithoedd eraill

This page is based on a Wikipedia article written by authors (here).
Text is available under the CC BY-SA 3.0 license; additional terms may apply.
Images, videos and audio are available under their respective licenses.