Gorllewin Ewrop

Mae'r term Gorllewin Ewrop fel mae pobl yn ei ddeall yn gyffredin yn gysyniad gwleidyddol-gymdeithasol sy'n hanu o ddyddiau'r Rhyfel Oer. Diffinwyd ffiniau Gorllewin Ewrop ar ddiwedd yr Ail Ryfel Byd a daeth i gynnwys pob gwlad Ewropeaidd nad oeddent wedi eu mediannu gan y Fyddin Sofietaidd ac fel canlyniad na ddaethant dan reolaeth llywodraethau comiwnyddol.

Heddiw, mae gan y term Gorllewin Ewrop llai i'w wneud â gwleidyddiaeth a daearyddiaeth y Rhyfel Oer a mwy i'w wneud ag economeg. Mae'r cysyniad yn cael ei gyfeillachu'n gyffredin â democratiaeth ryddfrydol, cyfalafiaeth ac hefyd yr Undeb Ewropeaidd. Mae'r rhan fwyaf o'r gwledydd yn rhannu diwylliant Gorllewinol, ac mae gan llawer ohonont rwymau economaidd a gwleidyddol gyda Gogledd a De America ac Oceania.

Fel arall, mae Gorllewin Ewrop hefyd yn isranbarth daearyddol o Ewrop sydd yn fwy cyfyng na'r ddirnadaeth draddodiadol wleidyddol; fel mae'n cael ei ddiffinio gan y Cenhedloedd Unedig, mae'n cynnwys y naw gwlad canlynol:

Location-Europe-UNsubregions, Kosovo as part of Serbia
Rhanbarthau o Ewrop yn ôl y Cenhedloedd Unedig:      Gogledd Ewrop      Gorllewin Ewrop      Dwyrain Ewrop      De Ewrop

Hanes cynharach

Y tro cynharaf a wyddys lle mae gorllewin a dwyrain Ewrop yn cael eu gwahaniaethu yw cyfnod yr Ymerodraeth Rufeinig. Wrth i'r ymerodraeth dyfu a goresgyn gwledydd newydd fe ddaeth yn rhanedig rhwng pobloedd trefol Groeg eu hiaith y gwledydd dwyreiniol oedd gynt yn rhan o Ymerodraeth Macedonia, a gwledydd mwy cyntefig y gorllewin lle roedd y Lladin wedi dod yn brif iaith gyffredin. Arweiniodd yr hollt ddiwylliannol at raniad gwleidyddol. Parhaodd y rhaniad yn sgil cwymp yr Ymerodraeth Gorllewinol, blodeuo'r Ymerodraeth Ffrancaidd, a'r Sgism Fawr yn yr Eglwys Gristnogol i ffurfio sail diffinio Gorllewin a Dwyrain yn y cyd-destun Ewropeaidd tan y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Gweler hefyd

17 Hydref

17 Hydref yw'r degfed dydd a phedwar ugain wedi'r dau gant (290ain) o'r flwyddyn yng Nghalendr Gregori (291ain mewn blynyddoedd naid). Erys 75 diwrnod arall hyd ddiwedd y flwyddyn.

Brwsel

Prifddinas Gwlad Belg yw Brwsel (Bruxelles yn Ffrangeg, Brussel yn Iseldireg). Mae'r dref yng nghanolbarth Gwlad Belg. Mae hi'n brifddinas Fflandrys, ac yn ganolfan ei hardal weinyddol ddwyieithog ei hun, "Rhanbarth Brwsel-Prifddinas", sef Dinas Brwsel (Bruxelles-Ville neu Ville de Bruxelles yn Ffrangeg, de Stad Brussel yn Iseldireg). O'r cyfan, mae 19 o fwrdeistrefi yn ardal Brwsel-Prifddinas.

Mae gan ardal Brwsel-Prifddinas yr un statws â Fflandrys a Walonia, ond mae hi wedi'i hamgylchynu gan Fflandrys.

Sefydlwyd llywodraeth a gweinyddiaeth ym Mrwsel ar ôl sefydlu Senedd Fflandrys (y 'Vlaamse Raad' y newidiwyd ei henw i 'Vlaams Parlement').

Lleolir pencadlysoedd dau o brif sefydliadau'r Undeb Ewropeaidd ym Mrwsel, sef y Comisiwn Ewropeaidd a Chyngor Gweinidogion Ewrop. Ac er fod y Senedd Ewropeaidd yn cyfarfod yn Strasbwrg, cynhelir nifer o gyfarfodydd y Senedd, a rhai pwyllgorau, ym Mrwsel hefyd.

Mae pencadlysoedd NATO ac Undeb Gorllewin Ewrop (WEU) ym Mrwsel.

Siaredir Iseldireg yng ngogledd Gwlad Belg a Ffrangeg yn y de. Mae ardal Brwsel yn ddwyieithog yn swyddogol, ond mae mwyafrif ei thrigolion yn siarad Ffrangeg. Yn ôl astudiaeth a wnaed yn 2001 mae'r sefyllfa fel a ganlyn:

51% o boblogaeth Brwsel yn siarad Ffrangeg fel unig famiaith;

8.5% yn siarad Iseldireg fel unig famiaith;

10.2% yn ddwyieithog o oedran cynnar;

9.1% o siaradwyr uniaith yn dysgu'r iaith arall pan yn hŷn;

19.8% yn siarad Ffrangeg gydag iaith arall heblaw Iseldireg.

Cenedl

Erthygl am genedl yn yr ystyr ddiwylliannol yw hon. Efallai eich bod yn chwilio naill ai am cenedl enwau (gramadeg) neu am rhywedd.Cymuned ddynol sy'n rhannu tiriogaeth o ran hanes, chwedlau, llên gwerin, diwylliant, cyfraith neu draddodiadau yw cenedl. Mae'n wahanol i wlad (bro ddaearyddol) a gwladwriaeth (bro wleidyddol).

Mae aelodau'r genedl neu'r gymdeithas yn teimlo cwlwm agosrwydd, sef hunaniaeth cenedlaethol, er nad ydynt i gyd wedi cyfarfod. Gellir ei ystyried yn gymuned wedi ei ddychmygu. Mae'r syniad fod pob bob dynol yn cael eu rhannu mewn grŵpiau o'r enw cenhedloedd, yn un o athrawiaethau mwyaf dylanwadol Gorllewin Ewrop a'r Hemisffer Gorllewinol ers yr 18g hwyr. Mae cenedligrwydd yn athrawiaeth moesegol ac athroniaetol ac yn bwynt cychwyn ar gyfer ideoleg cenedlaetholdeb; mae cenedl yn fath o gymuned diwylliannnol a chymdeithasol hunan-ddiffiniedig. Mae aelodau "cenedl" yn rhannu huaniaeth cyffredin, a tharddiad cyffredin fel arfer, mewn hanes, llinach, teulu neu ddisgyniad. Mae cenedl yn ymestyn ar draws sawl cenhedlaeth, ac mae'r meirw yn dal i gael eu hystyried fel aelodau o'r genedl. Er enghraifft, wrth gyfeirio at "ein milwyr" wrth gyfeirio at frwydr neu ryfel a ddigwyddodd gannoedd o flynyddoedd yn ôl.

Croesgad (gwahaniaethu)

Roedd y Croesgadau yn gyfres o gyrchoedd milwrol yn ystod yr Oesoedd Canol (11eg ganrif - 13eg ganrif) gan wledydd Cristnogol gorllewin Ewrop, fel rheol, yn erbyn tiriogaethau Mwslemaidd y Dwyrain Canol.

Yn ogystal gall y gair Croesgad gyfeirio at:

Croesgadau'r Gogledd, cyrchoedd milwrol gan wledydd Catholigaidd gorllewin Ewrop ar hyd lannau y Baltig i droi paganiaid a Christnogion Uniongred yn Gatholigion.

Croesgad y Plant, chwedl o'r Oesoedd Canol sy'n seiliedig ar ddigwyddiadau go iawn

Unrhyw ymgyrch gyda'r pwyslais ar selogrwydd a dyfalbarhad; gweler hefyd "jihad".

Gwladwriaethau'r Croesgadwyr, a sefydlwyd gan yr Ewropeaid yn y Lefant yn ystod y Croesgadau hanesyddol.

"Y Ddegfed Groesgad", enw a roddir weithiau ar y Rhyfel yn erbyn Terfysgaeth.

"Y Groesgad Newydd", enw ar bolisi UDA yn y Dwyrain Canol ar ôl 9/11, yn seiliedig ar y llyfr "The New Crusade".

Dwyrain Ewrop

Term cyffredinol sy'n cyfeirio at y rhanbarth daearwleidyddol sy'n cyfansoddi ardal ddwyreiniol cyfandir Ewrop yw Dwyrain Ewrop. Er ei fod yn derm cyffredin iawn mae nifer o ddiffiniadau amrywiol amdano.

Ewrop

Un o'r saith cyfandir yw Ewrop, sydd, yn yr achos hwn, yn fwy o gyfandir yn yr ystyr ddiwylliannol a gwleidyddol nag yn ffisioddaearyddol. Yn ffisegol ac yn ddaearegol, mae Ewrop yn isgyfandir neu'n benrhyn mawr, sy'n ffurfio'r rhan fwyaf gorllewinol o Ewrasia. Ar y ffin i'r gogledd ceir y Cefnfor Arctig, i'r gorllewin Cefnfor Iwerydd ac i'r de ceir y Môr Canoldir a'r Cawcasws. Mae ffin Ewrop i'r dwyrain yn amhendant, ond yn draddodiadol ystyrir Mynyddoedd yr Wral a Môr Caspia i'r de-ddwyrain fel y ffin dwyreiniol. Ystyrir y mynyddoedd hyn gan y rhan fwyaf o ddaearyddwyr fel y tirffurf daearyddol a thectonig sy'n gwahanu Asia oddi wrth Ewrop.

Ewrop yw'r cyfandir lleiaf ond un yn nhermau arwynebedd, sy'n cynnwys tua 10,790,000 km² (4,170,000 mi sg) neu 7.1% o arwynebedd y Ddaear, gyda Awstralia yn unig yn llai. Yn nhermau poblogaeth, dyma'r trydydd cyfandir mwyaf (mae Asia ac Affrica yn fwy) â phoblogaeth o dros 700,000,000, neu tua 11% o boblogaeth y byd.

Ffrainc

Gwladwriaeth yng ngorllewin Ewrop yw Ffrainc (Ffrangeg: France); enw swyddogol: Gweriniaeth Ffrainc (Ffrangeg: République française). Mae'n ffinio â Môr Udd, Gwlad Belg a Lwcsembwrg yn y gogledd, yr Almaen, y Swistir, a'r Eidal yn y dwyrain, Monaco, Môr y Canoldir, Sbaen ac Andorra yn y de, a Môr Iwerydd yn y gorllewin. Paris ydy'r brifddinas.

Mae'r mwyafrif o bobl Ffrainc yn siarad Ffrangeg, unig iaith swyddogol y wlad, ond ceir sawl iaith arall hefyd, megis Llydaweg yn Llydaw, Basgeg yn y rhan o Wlad y Basg sydd yn ne-orllewin Ffrainc, Corseg ar ynys Corsica, ac Ocsitaneg - iaith draddodiadol rhan helaeth o'r De. Mae nifer o fewnfudwyr a'u teuluoedd, o'r Maghreb yn bennaf, yn siarad Arabeg yn ogystal.

Gwlad Belg

Gwlad yng ngorllewin Ewrop yw Teyrnas Gwlad Belg neu Gwlad Belg (Iseldireg: België; Ffrangeg: Belgique; Almaeneg: Belgien). Mae hi'n ffinio â'r Iseldiroedd, yr Almaen, Lwcsembwrg, Ffrainc a Môr y Gogledd.

Mae'r wlad yn fan cyfarfod rhwng y diwylliant Tiwtonaidd a'r diwylliant Ffrengig. Siaredir Iseldireg yng ngogledd y wlad, Ffrangeg yn y de, ac Almaeneg mewn rhannau o'r de-ddwyrain. Ar adegau, mae cryn dyndra wedi datblygu rhwng y ddwy brif garfan ieithyddol. Ceisiwyd delio a'r sefyllfa yma trwy sefydlu rhanbarthau ac ardaloedd ieithyddol o fewn gwladwriaeth ffederal Gwlad Belg.

Oes Ganol y Cerrig

Oes Ganol y Cerrig neu'r Mesolithig yw'r cyfnod yn Oes y Cerrig sy'n gorwedd rhwng Hen Oes y Cerrig ac Oes Newydd y Cerrig. Fel rheol cyfyngir y defnydd o'r term i gynhanes gogledd a gorllewin Ewrop; yma mae'r oes neolithig yn cychwyn gyda chyfnod o hinsawdd cynnes yr Holosen tua 11,660 CP ac yn diweddu gyda dyfodiad ffermio - tua 4,000 CP. Yn Oes Ganol y Cerrig newidiwyd llawer o'r tirwedd gan yr heliwr-gasglwr gan, er enghraifft glirio coed. Roedd y dyn yma'n medru cynnau tân a defnyddio offer carreg, pren ac asgwrn fwy cywrain na chynt (e.e. microlithau) ac yn bennaf yn medru cyfathrebu a'i gilydd.

Pendyrus

Pentref a chymuned yng Nghwm Rhondda ym mwrdeisdref sirol Rhondda Cynon Taf yw Pendyrus (Saesneg: Tylorstown). Roedd y boblogaeth yn 2001 yn 4,715. Ystyrir ward Pendyrus yn un o ardaloedd mwyaf difreintiedig gorllewin Ewrop.

Penrhyn Iberia

Mae Iberia yn ailgyfeirio yma. Am y diriogaeth hynafol yn y Cawcasws gweler Iberia'r Cawcasws.

Penrhyn mawr yn ne-orllewin Ewrop yw Penrhyn Iberia neu Iberia. Mae'n cynnwys tiriogaeth Portiwgal a Sbaen a hefyd Andorra a Gibraltar. Gorwedd ym mhen de-orllewinol cyfandir Ewrop, rhwng y Môr Canoldir i'r dwyrain a Cefnfor Iwerydd i'r gorllewin a'r gogledd (Bae Biscay). I'r de mae Culfor Gibraltar yn gwahanu penrhyn Iberia a gogledd-orllewin Affrica (Moroco a'r Maghreb). Ar y tir mawr mae cadwyn mynyddoedd y Pyreneau yn dynodi'r ffin ddaearyddol ac ecolegol rhwng penrhyn Iberia a gweddill Ewrop yn ogystal â'r ffin wleidyddol rhwng Ffrainc a Sbaen. Mae fflora a ffawna Iberia yn debyg i rai Gogledd Affrica. Mae gan y penrhyn arwynebedd o 593,250 km² (229,054 milltir sgwar).

Senedd Ewrop

Senedd ddeddfwriaethol yr Undeb Ewropeaidd yw Senedd Ewrop (neu Y Senedd Ewropeaidd). Fe'i sefydlwyd yn Strasbwrg o dan dermau protocol Cytundeb Amsterdam, ond mae ei phwyllgorau yn cwrdd ym Mrwsel gan fod Cyngor Gweinidogion Ewrop a'r Comisiwn Ewropeaidd yn y ddinas honno hefyd.

Mae gan gyfundrefnau eraill eu seneddau hefyd (e.e. NATO, Undeb Gorllewin Ewrop a OSCE), ond dim ond Senedd Ewrop a etholir gan gyhoedd pob aelod-wladwriaeth. Mae senedd yr aelod-wladwriaethau'n apwyntio aelodau i seneddau'r cyfundrefnau eraill. Caiff yr aelodau eu hethol am gyfnod o bum mlynedd.

Triasig

Cyfnod daearegol (a system stratigraffaidd) yw'r Triasig sy'n para 50.9 miliwn o flynyddoedd: o ddiwedd a Cyfnod Permaidd 251 miliwn o flynyddoedd CP, hyd at cychwyn y Jwrasig, 199.6 miliwn o flynyddoedd Cyn y Presennol (CP).

Dyma gyfnod cyntaf y gorgyfnod Mesosöig a amcangyfrifir ei fod 251-66 miliwn o flynyddoedd CP. Mae cychwyn a diwedd y Triasig yn digwydd ac yn dynodi digwyddiadau mawr sy'n ymwneud â difodiant (extinction).Bathwyd y term 'Triasig' yn 1834 gan Friedrich von Alberti, ar ôl y 3 haen o greigiau a geir ledled yr Almaen a gorllewin Ewrop: gwely o graig coch y red bed, calchfaen forol a chyfres o garreg laid a thywodfaen - sef y "Trias".

Trotscïaeth

Ideoleg Farcsaidd yw Trotscïaeth neu Trotsgïaeth sy'n adlewyrchu egwyddorion gwleidyddol ac economaidd Leon Trotsky (1879–1940), yn enwedig ei ddamcaniaeth o chwyldro byd-eang parhaol. Ffurf ar gomiwnyddiaeth ydyw sy'n beirniadu Staliniaeth am wyro oddi ar drywydd y nod o gomiwnyddiaeth ryngwladol. Yn ôl Trotsky, roedd polisïau economaidd Joseff Stalin i ddatblygu'r Undeb Sofietaidd yn annog creu cyfundrefn fiwrocrataidd enfawr i lywodraethu'r wlad, a byddai'r cyngor sofietaidd yn y pen draw yn datblygu meddylfryd cenedlaethol megis gwladwriaethau eraill. Cyhuddodd Stalin o gofleidio elfennau o genedlaetholdeb Rwsiaidd ar ffurf "gwladgarwch sosialaidd Sofietaidd".

Sefydlwyd y Bedwaredd Gymdeithas Ryngwladol gan gefnogwyr Trotsky yn Ffrainc yn 1938. Parhaodd dylanwad Trotscïaeth wedi llofruddiaeth Trotsky yn 1940. Yn sgil yr ymateb Sofietaidd i Chwyldro Hwngari yn 1956, trodd nifer o Farcswyr Gorllewin Ewrop eu cefnau ar y blaid gomiwnyddol, ac ymunasant â'r mudiad Trotscïaidd.

Urdd y Sistersiaid

Urdd grefyddol o fynachod yn yr Eglwys Gatholig oedd Urdd y Sistersiaid. Fe'i sefydlwyd gan Sant Robert o Molesme (tua 1027-1111) fel cangen newydd lymach ei rheolau o Urdd y Benedictiaid. Citeaux yn Ffrainc, sy'n rhoi ei henw i'r urdd, oedd y fam-abaty.

Gwnaeth Sant Bernard o Clairvaux lawer i godi statws ac urddas yr urdd ac yn y 12g sefydlwyd nifer o dai Sistersiaidd ledled gorllewin Ewrop, gan gynnwys Cymru. Yn yr 17g diwygiwyd yr urdd a ymranwyd yn ddwy urdd newydd: y pwysicaf o lawer ohonyn yw'r Trapiaid.

Y Croesgadau

Mae'r erthygl hon yn ymwneud â Chroesgadau'r Oesoedd Canol. Am enghreifftiau eraill o'r gair Croesgad (neu Crŵsad), gweler Croesgad (gwahaniaethu) a Croesgadwr.Anturiaethau milwrol gan Wledydd Cred (gwledydd Cristnogol gorllewin Ewrop) a drefnid yn bennaf er mwyn adfeddiannu lleoedd cysegredig Palesteina oddi ar y Mwslemiaid yn ystod yr Oesoedd Canol oedd y Croesgadau. Cydnabyddir saith croesgad hanesyddol ond mae eu diffinio felly yn tueddu i anwybyddu'r ffaith fod hon yn broses barhaol gyda'r croesgadau "swyddogol" yn cynrychioli penllanw neu drobwynt yn ei hanes.

Y Gorllewin

Y Gorllewin, neu'r Byd Gorllewinol, yw'r enw a ddefnyddir yn aml i ddisgrifio'r gwledydd datblygiedig yn gyffredinol mewn cyferbyniaeth â gweddill y byd.

Yn wreiddiol roedd yr enw yn golygu gwledydd democrataidd Gorllewin Ewrop a Gogledd America a'u cynghreiriaid mewn cyferbyniaeth â'r gwledydd comiwnyddol yn Nwyrain Ewrop oedd yn aelodau o Gytundeb Warsaw, ynghyd â'r Undeb Sofietaidd, Tsieina a gwledydd comiwnyddol a lled-gomiwnyddol eraill, fel Ciwba a Gogledd Corea.

Erbyn heddiw mae'n tueddu i gael ei ddefnyddio mewn ystyr ehangach, llai diffiniedig, ac yn cynnwys gwledydd dwyreiniol fel Siapan am eu bod yn meddu nodweddion "Gorllewinol" amlwg fel democratiaeth a marchnadoedd rhydd. Mae nifer o gyn-wledydd Cytundeb Warsaw yn aelodau o'r Undeb Ewropeaidd a NATO erbyn hyn ac felly'n rhan o'r Gorllewin hefyd.

Roedd nifer o wledydd llai datblygiedig neu niwtral yn ystyried eu hunain fel endidau y tu allan i'r drefn honno o "Ddwyrain" a "Gorllewin" ac yn sôn amdanyn' eu hunain fel y Trydydd Byd, ond erbyn heddiw cyfeirir atynt yn gyffredinol fel "y gwledydd sy'n dal i ddatblygu".

Yr Almaen

Gweriniaeth Ffederal yr Almaen neu'r Almaen (Almaeneg: Bundesrepublik Deutschland ynganiad Almaeneg ). Gweriniaeth ffederal yng nghanol Ewrop yw'r Almaen. Mae'n ffinio â Môr y Gogledd, Denmarc, a'r Môr Baltig (Almaeneg: Ostsee, sef Môr y Dwyrain) yn y gogledd, Gweriniaeth Tsiec a Gwlad Pwyl yn y dwyrain, y Swistir ac Awstria yn y de, a Ffrainc, Lwcsembwrg, Gwlad Belg a'r Iseldiroedd yn y gorllewin. Berlin yw'r brifddinas.

Ni chafwyd chwyldro Almaenig ond y mae’r modd yr ymatebodd y tiroedd Almaenig i her chwyldroadol y Chwyldro Ffrengig, gan addasu syniadau 1789, wedi llunio datblygiad gwleidyddol a chymdeithasol yr Almaen hyd at yr 20g.

Yr wyddor Ladin

Yr wyddor Ladin, neu'r Wyddor Rufeinig yw'r wyddor fwyaf cyffredin yn y byd heddiw. Datblygodd o fersiwn orllewinol o'r wyddor Roeg, a elwid yr wyddor Gumeaidd, a datblygwyd hi i ffurfio'r wyddor Etrwscaidd. Mabwysiadodd y Rhufeiniaid 21 o'r 26 llythyren Etrwscaidd i ysgrifennu Lladin.

Yn ystod yr Oesoedd Canol, addaswyd hi i'w defnyddio ar gyfer y rhan fwyaf o ieithoedd gorllewin Ewrop, a rhai ieithoedd yn nwyrain Ewrop, er enghraifft rhai ieithoedd Slafig.

Mae rhai ieithoedd wedi newid o wyddorau eraill i'r wyddor Ladin. Newidiodd Romaneg o'r wyddor Gyrilig i'r wyddor Ladin yn y 18g. Fe newidiodd Twrceg o'r wyddor Arabeg i'r wyddor Ladin yn 1928 ac mae Hausa wedi newid hefyd.

Amrywia'r defnydd o'r llythrennau yn yr wyddor Ladin o un iaith i'r llall. Ceir 28 o lythrennau yn yr wyddor Gymraeg (29 os yn cynnwys J), rhai ohonynt fel Ch neu Ll lle defnyddir dau symbol i gynrychioli un sain.

Rhanbarthau'r Ddaear

LocationAfrica

Affrica

Canolbarth · De · Dwyrain · Gogledd · Gorllewin

LocationAmericas

Yr Amerig

Canolbarth · Y Caribî · De · Eingl · Gogledd · Lladin

LocationAsia

Asia

Canolbarth · De · De-ddwyrain · De-orllewin · Dwyrain · Gogledd

Location of Europe

Ewrop

Canolbarth · De · Dwyrain · Gogledd · Gorllewin

LocationOceania

Oceania

Awstralasia · Melanesia · Micronesia · Polynesia

LocationPolarRegions

Y Pegynau

Yr Antarctig · Yr Arctig

Arall
 

Asia-Cefnfor Tawel · Is-gyfandir India  · Y Dwyrain Canol · Y Dwyrain Pell
 

LocationOceans

Cefnforoedd

Arctig · Byd · De · India · Iwerydd · Tawel

Gweler hefyd: Cyfandiroedd y Ddaear

Ieithoedd eraill

This page is based on a Wikipedia article written by authors (here).
Text is available under the CC BY-SA 3.0 license; additional terms may apply.
Images, videos and audio are available under their respective licenses.