Genws

Rheng tacson yw genws (lluosog: genera, genysau) neu dylwyth a ddefnyddir i ddosbarthu'n wyddonol organebau byw (anifeiliaid, planhigion ayb). Mae hefyd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer ffosiliau ac organebau a ddifodwyd o fewn bywydeg.

Yn hierarchaeth y dosbarthu, mae genws yn uwch na rhywogaeth ac yn is na theulu. O ran enwau deuol, mae genws yn ffurfio rhan gyntaf enw'r rhywogaeth e.e. mae Felis catus a Felis silvestris yn ddwy rywogaeth wahanol o fewn y genws Felis. Mae Felis, felly'n genws o fewn y teulu Felidae.

Mae'r union ddosbarthiad yn cael ei benderfynu gan dacsonomegwyr. Nid yw'r dosbarthiadau hyn wedi'u naddu mewn gwenithfaen, ac mae awdurdodau gwahanol yn aml yn nodi dosbarthiad gwahanol ar gyfer y genera. Ceir canllawiau ymarferol, fodd bynnag, er mwyn cysoni'r gwaith,[1] gan gynnwys y cysyniad y dylai unrhyw genws newydd fod yn driw i'r tri maen prawf canlynol:

  1. monophyly – rhoddir holl ddisgynyddion tacson mewn un grŵp[2]
  2. cywasgu rhesymol - ni ddylid ehangu'r genws yn ddiangen
  3. eglureder - fel arfer, yng nghyd-destun meini prawf sy'n ymwneud ag esblygiad, e.e. ecoleg, morffoleg neu bioddaearyddiaeth, ystyrir 'dilyniant y DNA' yn "ganlyniad" yn hytrach nag yn "gyflwr" llinellau newydd sy'n esblygu.[3]
RhywogaethGenwsTeuluUrddDosbarthFfylwmTeyrnasParthBywyd

Y prif rengoedd mewn dosbarthiad biolegol.

Geirdarddiad

O'r Lladin y daw'r term genws ("ffynhonnell; math; grŵp; cenedl"),[4], enw sy'n gytras â gignere ("beichiogi; geni"). Linnaeus a wnaeth y gair yn boblogaidd, a hynny yn 1753 pan gyhoeddodd Species Plantarum, ond ystyrir y botanegydd Joseph Pitton de Tournefort (1656–1708) fel sylfaenydd y cysyniad modern o genera.[5]

Cyfeiriadau

  1. Gill, F. B.; Slikas, B.; Sheldon, F. H. (2005). "Phylogeny of titmice (Paridae): II. Species relationships based on sequences of the mitochondrial cytochrome-b gene". Auk 122 (1): 121–143. doi:10.1642/0004-8038(2005)122[0121:POTPIS]2.0.CO;2.
  2. De la Maza-Benignos, M. , Lozano-Vilano, M.L., & García-Ramírez, M. E. (2015). Response paper: Morphometric article by Mejía et al. 2015 alluding genera Herichthys and Nosferatu displays serious inconsistencies. Neotropical Ichthyology, 13(4), 673-676.http://www.scielo.br/scielo.php?pid=S1679-62252015000400673&script=sci_arttext
  3. De la Maza-Benignos, M., Lozano-Vilano, M. L., & García-Ramírez, M. E. (2015). Response paper: Morphometric article by Mejía et al. 2015 alluding genera Herichthys and Nosferatu displays serious inconsistencies. Neotropical Ichthyology, 13(4), 673-676.http://www.scielo.br/scielo.php?pid=S1679-62252015000400673&script=sci_arttext
  4. Merriam Webster Dictionary
  5. Stuessy, T. F. (2009). Plant Taxonomy: The Systematic Evaluation of Comparative Data (2nd ed.). New York: Columbia University Press. p. 42. ISBN 9780231147125.
Arigomphus

Genws o weision neidr ydy Arigomphus yn nheulu'r Gweision neidr tindrom (Lladin: Gomphidae). Mae'n cynnwys sawl rhywogaeth o weision neidr.Ei diriogaeth yw Gogledd America. Mae'r genws yma'n cynnwys y rhywogaethau canlynol:

Arigomphus cornutus (Tough, 1900)

Arigomphus furcifer (Hagen in Selys, 1878)

Arigomphus lentulus (Needham, 1902)

Arigomphus maxwelli (Ferguson, 1950)

Arigomphus pallidus (Rambur, 1842)

Arigomphus submedianus (Williamson, 1914)

Arigomphus villosipes (Selys, 1854)

Asteraceae

Un o'r teuluoedd mwyaf o blanhigion blodeuol yw Asteraceae neu Compositae (teulu llygad y dydd). Mae'n cynnwys tua 24,000 o rywogaethau mewn 1600-1700 genws a 12 is-deulu. Ceir y teulu ledled y byd ac eithrio tir mawr Antarctica. Mae gan aelodau'r Asteraceae lawer o flodau bach wedi'u trefnu mewn un pen sy'n edrych fel blodyn sengl. Mae'r teulu'n cynnwys cnydau (e.e. letysen, blodyn yr haul, artisiog), llysiau rhinweddol (e.e. tansi, camri), chwyn (e.e. dant y llew, creulys) a phlanhigion addurnol (e.e. Chrysanthemum, Dahlia).

Blodyn yr haul

Planhigyn blodeuol o deulu llygad y dydd a blodyn haul ydy Blodyn yr haul sy'n enw gwrywaidd. Mae'n perthyn i'r teulu Asteraceae. Yr enw gwyddonol (Lladin) yw Helianthus annuus a'r enw Saesneg yw Sunflower. Ceir enwau Cymraeg eraill ar y planhigyn hwn gan gynnwys Blodau'r Haul.

Daw'r gair "Asteraceae", sef yr enw ar y teulu hwn, o'r gair 'Aster', y genws mwyaf lluosog o'r teulu - ac sy'n tarddu o'r gair Groeg ἀστήρ, sef 'seren'.

Bras yr Eira

Aderyn sy'n aelod o deulu'r Emberizidae, y breision, yw Bras yr Eira (Emberiza schoeniclus ). Mae'n nythu yng ngogledd Ewrop, gogledd Asia a rhan ogleddol Gogledd America, fel rheol yn y rhannau Arctig, er bod rhai yn nythu ar fynyddoedd ymhellach i'r de. Yn y gaeaf, mae'r adar yn symud tua'r de neu i lawr o'r mynyddoedd.

Mae'n aderyn gweddol fawr i aelod o deulu'r breision, 15 – 18 cm o hyd a 32 – 38 cm ar draws yr adenydd.

Mae Bras yr Eira yn aderyn gweddol gyffredin yng Nghymru yn y gaeaf, ar y glannau ac ar y mynyddoedd.

Derwen

Erthygl am y goeden yw hon. Ceir erthygl arall am y pentref yma.Coed a llwyni sy'n perthyn i'r genws Quercus yw derw. Maen nhw'n cynhyrchu ffrwyth a elwir yn fes. Ceir dwy rywogaeth frodorol yng Nghymru: Derwen goesog (Quercus robur) a Derwen ddigoes (Quercus petraea).

Dosbarthiad gwyddonol

Dull o ddosbarthu organebau yn grwpiau, a defnyddir gan fiolegwyr yw dosbarthiad gwyddonol neu dosbarthiad biolegol. Fe'i gelwir hefyd yn dacsonomeg wyddonol, ond rhaid gwahaniaethu rhyngddo â tacsonomeg werin oherwydd fod diffyg sylfaen wyddonol i dacsonomeg werin. Uned sylfaenol y system yw'r rhywogaeth. Mae'r system dosbarthiad modern yn seiliedig ar waith Carolus Linnaeus.

Enw deuenwol

Enw deuenwol neu enw binomaidd mewn Bioleg yw'r dull safonol o enwi rhywogaeth. Mae'n cynnwys dau enw: enw'r genws ac enw arbennig i'r rhywogaeth ei hun; er enghraifft Homo sapiens.

Yr arferion ynglŷn â'u defnyddio yw:

Fel rheol maent yn cael eu hysgrifennu mewn llythrennau italig.

Defnyddir llythyren fawr ar gyfer enw'r genws a llythyren fach ar gyfer enw'r rhywogaeth (hyd yn oed os yw'r enw hwnnw yn dod o enw person neu le).

Yn ffurfiol, mae'r enw deuenwol yn cael ei ddilyn gan gyfenw y person a ddisgrifiodd y rhywogaeth gyntaf.

Mewn papur gwyddonol, rhoir yr enw yn llawn y tro cyntaf; wedi hynny gellir talfyrru enw'r genws; er enghraifft Aderyn y To Passer domesticus yn troi'n P. domesticusDechreuwyd y system gan Carolus Linnaeus (1707 - 1778), a geisiodd roi enw deuenwol i bob rhywogaeth oedd yn wybyddus iddo. O ganlyniad, enw Linnaeus sydd ynghlwm wrth y nifer fwyaf o enwau deuenwol, ac fe'i talfyrrir i L. mewn botaneg.

Daw'r enwau o'r Lladin neu o ieithoedd eraill, ond beth bynnag eu tarddiad maent yn cael eu trin fel pe baent yn Lladin o ran gramadeg.

Eryr euraid

Mae'r Eryr Euraid ymhlith y mwyaf adnabyddus o'r adar rheibus. Fel yr eryrod i gyd, mae'n perthyn i'r teulu Accipitridae. Ar un adeg, roedd i'w gael; dros y cyfan o Ogledd America, Ewrop ac Asia, ond mae wedi diflannu o'r rhannau mwyaf poblog. Mae'n un o ddeuddeg rhywogaeth yn y genws Aquila.

Haidd

Mae haidd neu barlys (Hordeum vulgare) yn fwyd pwysig ac yn borthiant i anifeiliaid. Mae'n fath o laswellt. Dyma'r cnwd grawnfwyd pumed mwyaf a amaethir yn y byd (530,000 km²).

Defnyddir haidd hefyd i wneud cwrw.

Lori yddf-felen

Aderyn a rhywogaeth o adar yw Lori yddf-felen (sy'n enw benywaidd; enw lluosog: lorïaid gyddf-felyn) a adnabyddir hefyd gyda'i enw gwyddonol Lorius chlorocercus; yr enw Saesneg arno yw Yellow-bibbed lory. Mae'n perthyn i deulu'r Lorïaid (Lladin: Loridae) sydd yn urdd y Psittaciformes.Talfyrir yr enw Lladin yn aml yn L. chlorocercus, sef enw'r rhywogaeth.

Pengam (aderyn)

Erthygl ar yr aderyn yw hon; ceir erthygl arall ar y pentref o'r un enw.Rhywogaeth o adar yw'r Pengam (lluosog: Pengeimion) sydd hefyd yn perthyn i genws o'r un enw. Yr enw Lladin ar y rhywogaeth yw Jynx torquilla, ac Jynx yw enw'r genws, sy'n tarddu o'r Hen Roeg iunx, sef y Pengam Ewrasaidd. Ceir rhywogaeth arall o fewn y genws, sef y Pengam gyddfgoch (Jynx ruficollis). Talfyrir yr enw Lladin yn aml yn J. torquilla, sef enw'r rhywogaeth. Mae'n perthyn i deulu'r Cnocellod (Lladin: Picidae) sydd yn urdd y Piciformes.Fel y gwir gnocell, mae gan y Pengam ben mawr a thafod hir a ddefnyddir i dynnu'r pryf o'r pren, yn fwyd. Mae ganddo hefyd ddau fawd troed, sy'n wynebu ymlaen a dau tuag yn ôl. Ond yn wahanol i'r wir gnocell, nid oes ganddo blu caled yn gynffon, plu caled a ddefnyddir gan y gnocell i ddringo coed; oherwydd hyn, fe'i gwelir yn aml yn eistedd ar y gangen yn hytrach nag yn glynnu i fonyn, neu ochr y goeden. Mae ei big hefyd yn fyrach, ac yn llai tebyg i gyllell fain, hir.

Morgrug yw ei brif fwyd, a phryfaid eraill a ganfyddant mewn hen bren pwdwr, neu weithiau ar wyneb y ddaear. Yn aml, maen'r Pengeimion yn canfod hen nythod cnocellau coed i nythu ynddo, yn hytrach na thurio eu hunain i'r pren. Gwyn yw lliw eu wyau.

Poaceae

Teulu mawr o blanhigion blodeuol yw Poaceae neu Gramineae (teulu'r gwir weiriau/glaswelltau). Mae'n cynnwys tua 10,000 o rywogaethau mewn tua 675 genws a 12 is-deulu. Mae ganddynt flodau bach wedi'u trefnu mewn "sbigolion" (spikelets). Mae'r blodau'n cael eu peillio gan y gwynt. Ceir y teulu ledled y byd ac mae glaswelltiroedd yn ffurfio tua 25% o lystyfiant y byd. Mae'r teulu'n cynnwys y grawnfwydydd megis gwenith, indrawn a reis a chnydau eraill megis cansen siwgr.

Preblyn bochfoel

Aderyn a rhywogaeth o adar yw Preblyn bochfoel (sy'n enw gwrywaidd; enw lluosog: preblynnod bochfoel) a adnabyddir hefyd gyda'i enw gwyddonol Turdoides gymnogenys; yr enw Saesneg arno yw Bare-cheeked babbler. Mae'n perthyn i deulu'r Preblynnod (Lladin: Timaliidae) sydd yn urdd y Passeriformes.Talfyrir yr enw Lladin yn aml yn T. gymnogenys, sef enw'r rhywogaeth.

Preblyn brown Affrica

Aderyn a rhywogaeth o adar yw Preblyn brown Affrica (sy'n enw gwrywaidd; enw lluosog: preblynnod brown Affrica) a adnabyddir hefyd gyda'i enw gwyddonol Turdoides plebejus; yr enw Saesneg arno yw Brown babbler. Mae'n perthyn i deulu'r Preblynnod (Lladin: Timaliidae) sydd yn urdd y Passeriformes.Talfyrir yr enw Lladin yn aml yn T. plebejus, sef enw'r rhywogaeth. Mae'r rhywogaeth hon i'w chanfod yn Affrica.

Reis

Math o laswellt y bwyteir ei grawn yw reis. Reis yw prif fwyd mwy na hanner poblogaeth y byd, ac mae'n arbennig o bwysig yn Asia.

Gwneir Pwdin Reis gyda reis.

Socan Eira

Mae'r Socan Eira (Turdus pilaris) yn aelod o deulu'r Turdidae. Mae'n aderyn cyffredin ac adnabyddus, yn nythu yng ngogledd Ewrop a gogledd Asia.

Mae'r Socan Eira yn aderyn mudol sy'n symud tua'r de a thua'r gorllewin yn y gaeaf. Adeiledir y nyth mewn coed gweddol fawr, ac mae nifer o barau yn aml yn nythu yn agos at ei gilydd, efallai fel amddiffyniad yn erbyn adar eraill megis teulu'r brain. Yn y gaeaf maent yn ymgasglu'n heidiau, yn aml gyda'r Coch dan Adain. Eu prif fwyd yw pryfed ac aeron.

Gellir ei adnabod o'r cefn brown gyda darn mawr llwyd ger y gynffon, llwyd ar gefn y pen a smotiau ar y frest a'r bol, sydd a gwawr goch neu oren. Nid yw'r rhywogaeth yma yn nythu yng Nghymru, er fod ychydig o barau yn nythu yn Alban, ond mae'n aderyn cyffredin yma yn y gaeaf.

Tacson

Tacson, neu uned dacsonomaidd, yw grŵp o organebau (wedi'u henwi neu'n ddienw), yn y system dosbarthiad gwyddonol. Unwaith ei fod wedi'i enwi, bydd gan bob tacson reng benodol o fewn hierarchaeth. Yn aml ceir anghytundeb gan dacsonomegwyr ynglyn â beth sy'n perthyn i dacson arbennig, a'r llinyn mesur dros gynnwys y rhywogaeth yn y tacson hwnnw. Pan fo cytundeb, rhoddir enw gwyddonol ([[Lladin]]) arno a rheolir y defnydd o'r enw hwnnw drwy gyplysu enwau gyfundrefnol (nomenclature code) gyda'r grŵp.

Dyma rengoedd tacsonau mewn trefn hierarchaidd:

Parth

Teyrnas

Ffylwm

Dosbarth

Urdd

Teulu

Genws

Rhywogaeth

IsrywogaethDefnyddir y rhagddodiaid uwch- ac is- i ddangos rhengoedd llai nodedig o fewn y prif dacsonau uchod. Er enghraifft:

Uwchddosbarth

Dosbarth

Isddosbarth

Infraddosbarth - defnyddir y rhagddodiad infra- i ddynodi rheng sy'n islaw is- yn Sŵoleg

Teulu (bioleg)

Am yr uned gymdeithasol ddynol, gweler Teulu. Am ystyron eraill, gweler Teulu (gwahaniaethu).

Rheng tacson yw teulu (lluosog: teuluoedd) a ddefnyddir i ddosbarthu'n wyddonol organebau byw (anifeiliaid, planhigion ayb). Mae'r gair hefyd yn cael ei ddefnyddio o fewn bywydeg ar gyfer ffosiliau ac organebau a ddifodwyd. Mae'n cael ei leoli yn uwch nag urdd ac oddi tan genws. Ceir hefyd 'is-deulu'.

Mewn iaith bob dydd, gall 'teulu' gyfeirio at un o'i haelodau e.e. mae cnau Ffrengig a chyll Ffrengig (hicori) yn cael eu galw'n 'deulu'r cnau Ffrengig', er eu bod, ill dau'n perthyn yn fanwl gywir, yn wyddonol gywir, i deulu'r Juglandaceae.

Tacsonomegwyr sy'n dyfarnu beth sydd a beth nad yw'n cael ei ddiffinio fel teulu, o fewn bywydeg. Ni cheir rheolau haearnaidd ynghylch hyn, nag ychwaith ar gyfer unrhyw rheng arall o fewn y tacsa. Weithiau, ni cheir cosensws y naill ffordd na'r llall, o fewn y byd gwyddonol. Golyga hyn fod yr hyn sy'n cael ei ddiffinio'n deulu yn newid yn eithaf aml, yn enwedig ers i ymchwil DNA ddod yn fwyfwy poblogaidd..

Ieithoedd eraill

This page is based on a Wikipedia article written by authors (here).
Text is available under the CC BY-SA 3.0 license; additional terms may apply.
Images, videos and audio are available under their respective licenses.