Gaza

Gaza (Arabeg: غزة, Ġazza, Hebraeg: עַזָּה, ʕazzā) yw dinas fwyaf Llain Gaza a'r Tiriogaethau Palestinaidd. Mae poblogaeth y ddinas tua 410,000 gyda thua 1.4 miliwn yn yr ardal ddinesig. Gan fod "Gaza" yn aml yn cael ei ddefnyddio i olygu Llain Gaza, fe'i gelwir wrth yr enw "Dinas Gaza" weithiau.

Ystyrir Gaza yn un o ddinasoedd hynaf y byd. Yn y cyfnod cynnar, roedd yn fan aros bwysig ar y llwybr masnach rhwng yr Aifft a Syria. Am gyfnod roedd dan reolaeth yr Aifft, wedi i Thutmose III ei chipio ym 1484 CC, yna yn y 13eg ganrif CC, cipiwyd hi gan y Ffilistiaid. Cipiwyd y ddinas gan Alecsander Fawr yn 332 CC wedi gwarchae o ddau fis. Yng 145 CC, cipiwyd y ddinas gan Jonathan Maccabaeus, brawd Judas Maccabeus.

Gaza Beach
Traeth Gaza
Gaza City
Golygfa ar ddinas Gaza
Gazastreifen Karte
Lleoliad dinas Gaza yn Llain Gaza

Gweler hefyd

2009

20g - 21g - 22g1950au 1960au 1970au 1980au 1990au - 2000au - 2010au 2020au 2030au 2040au 2050au2004 2005 2006 2007 2008 - 2009 - 2010 2011 2012 2013 2014

2010

20g - 21g - 22g1960au 1970au 1980au 1990au 2000au - 2010au - 2020au 2030au 2040au 2050au 2060au2005 2006 2007 2008 2009 - 2010 - 2011 2012 2013 2014 2015

Awdurdod Cenedlaethol Palesteina

Yr awdurdod sy'n gweinyddu Tiriogaethau Palesteina ydy Awdurdod Cenedlaethol Palesteina (Arabeg: السلطة الوطنية الفلسطينية‎ As-Sulta Al-Wataniyya Al-Filastīniyya). Mae'n rheoli Y Lan Orllewinol a Llain Gaza.

Ar hyn o bryd mae dinas Ramallah ar y Lan Orllewinol, ger Al-Quds, yn gwasanaethu fel prifddinas answyddogol Awdurdod Cenedlaethol Palesteina, ond hawlir Dwyrain Al-Quds (Jeriwsalem) ei hun yn brifddinas gan y Palesteiniaid.

Baner Palesteina

Mae baner Palesteina yn faner a ddefnyddir gan Awdurdod y Palesteina (rhannau o'r Lan Orllewinol a Llain Gaza). Mae hefyd yn faner dyheuad am uno a chreu gwladwriaeth gydan dros diriogaeth yr hyn oedd Palesteina adeg Mandad Brydeinig, 1920 hyd at 1948.

De-orllewin Asia

Rhanbarth daearyddol yn Asia yw De-orllewin Asia. Ambell dro defnyddir y term Gorllewin Asia, yn arbennig wrth drafod archaeoleg, ac mae'r Cenhedloedd Unedig yn rhoi Twrci, Armenia, Georgia ac Aserbaijan yng Ngorllewin Asia.

Yn gyffredinol, ystyrir fod De-orllewin Asia yn cynnwys:

Armenia

Bahrein

Cyprus

Sinai (rhan o'r Aifft)

Gaza

Iran

Irac

Israel

Gwlad Iorddonen

Coweit

Libanus

Oman

Qatar

Sawdi Arabia

Syria

Emiradau Arabaidd Unedig

Y Lan Orllewinol

Iemen

Rhannau Asiaidd y gwledydd canlynol:

Aserbaijan

Georgia

Twrci

Gwrthdaro Israelaidd-Palesteinaidd

Anghydfod rhwng Gwladwriaeth Israel a'r Palesteiniaid yw'r gwrthdaro Israelaidd-Palesteinaidd. Mae'r ddwy genedl yn hawlio yr un tir ac mae'r gwrthdaro'n ffurfio rhan o'r gwrthdaro Arabaidd-Israelaidd, sef gwrthdaro gwleidyddol a milwrol eangach rhwng Israel a'r byd Arabaidd. Mae'r gwrthdaro wedi bod yn ffactor ganolog yng ngwleidyddiaeth y Dwyrain Canol ers creu gwladwriaeth Israel yn 1948 pan orfodwyd cannoedd o filoedd o Balesteiniaid i ffoi o'u cartrefi yn yr hen Balesteina, ffoedigaeth a adnabyddir gan y Palesteiniaid fel Al Nakba (Arabeg: النكبة‎ "Y Drychineb").

Ceisiwyd ateb dwy-wladwriaeth, sy'n golygu creu gwladwriaeth Balesteinaidd annibynnol ochr yn ochr ag Israel. Ar hyn o bryd, yn ôl nifer o arolygon barn, cytuna'r mwyafrif helaeth o Israeliaid a Phalesteiniaid taw ateb dwy-wladwriaeth yw'r ffordd orau i ddod â therfyn i'r gwrthdaro. Ystyrir y Lan Orllewinol a Llain Gaza gan y mwyafrif o Balesteiniaid fel tir ar gyfer gwladwriaeth, barn a gefnogir gan y mwyafrif o Israeliaid. Cefnogir ateb un-wladwriaeth gan ychydig o academyddion; mae'r syniad hwn yn galw ar Israel, Llain Gaza, a'r Lan Orllewinol i ffurfio un wladwriaeth sy'n cynnwys y ddwy genedl gyda hawliau cyfartal i bawb. Fodd bynnag, mae anghytundeb sylweddol ynglŷn â ffurf unrhyw gytundeb terfynol a hefyd ynglŷn â'r lefel o hygrededd mae'r naill ochr yn ei weld yn y llall wrth gadw at ymrwymiadau sylfaenol.

Mae ymatebion eraill i'r sefyllfa yn cynnwys cael gwared ar Wladwriaeth Israel yn gyfan gwbl a chreu gwladwriaeth newydd yn cynnwys tiriogaeth Israel, Llain Gaza a'r Lan Orllewinol yn ei lle; dyma hen safbwynt Mudiad Rhyddid Palesteina (PLO) a safbwynt presennol Hamas ac eraill. Ar y llaw arall mae rhai Israeliaid sy'n arddel Seioniaeth eithafol yn credu yn y syniad o greu "Israel Fwyaf" a fyddai'n ymestyn o lannau afon Ewffrates i Gwlff Suez, heb le i wladwriaeth Balesteinaidd o gwbl.

Hamas

Mudiad Palesteiniaid Islamaidd Sunni yw Hamas (llythrennol: "Brwdfrydedd"). Mae'r enw'n tarddu o'r blaen-lythrennau حركة المقاومة الاسلامية, sef Ḥarakat al-Muqawama al-Islamiyya "Y Mudiad Gwrthsafiad Islamaidd"). Gan y blaid hon mae mwyafrif y seddau ar gyngor Awdurdod Cenedlaethol Palesteina, ac sydd felly'n llywodraethu'r Llain Gaza. Fe'u hetholwyd yn Ionawr 2006. Mae Israel, yr Unol Daleithiau Canada, yr Undeb Ewropeaidd, a Japan yn disgrifio Hamas fel mudiad terfysgol, ond mae Rwsia, Twrci, Tsieina, y gwledydd Arabaidd, Iran ac eraill yn gwrthod gwneud hynny.. Mae Awstralia a'r DU yn nodi mai dim ond adain filwrol Hamas sy'n fudiad terfysgol.

Sefydlwyd Hamas yn 1987 gan Ahmed Yassin a Mohammad Taha ar gychwyn yr Intifada Cyntaf ar y Lan Orllewinol fel cangen o'r Frawdoliaeth Fwslimaidd, Eifftaidd.. Mae Hamas yn tarddu o'r anfodlonrwydd ag arweinyddiaeth y PLO yn y cyfnod hwnnw. Tyfodd o'r mudiad Mujama, plaid wleidyddol a gefnogwyd gan Israel ar y dechrau fel gwrthbwys i'r PLO. Daeth Hamas i rym yn Ionawr 2006 gan ennill mwyafrif y gynrycholiaeth ar Awdurdod Cenedlaethol Palesteina a threchu'r PLO a Fatah.

Mae hefyd yn gwneud gwaith cymdeithasol pwysig gan sefydlu a rhedeg ysbytai, llyfrgelloedd ac ysgolion drwy'r Lan Orllewinol a Llain Gaza, lle mae'n rheoli. Caiff y bai gan Israel am saethu rocedi atynt; ac er mwyn dileu pwer Hamas y lansiwyd Ymosodiad Israel ar Lain Gaza 2008–2009‎ ar y 27 Rhagfyr, 2008 ac yna Ymosodiad arall gan Israel ar Lain Gaza yn 2014.

Mae Siarter Hamas yn galw am ddatgymalu Gwladwriaeth Israel, gan sefydlu gwladwriaeth Islamaidd newydd ar y Tiriogaethau PalesteinaiddMae gan y mudiad ei sianel deledu ei hun, Al-Aqsa TV, sy'n darlledu o ddinas Gaza.

Israel

Gwlad yn y Dwyrain Canol ar arfordir y Môr Canoldir yw Gwladwriaeth Israel neu Israel (Hebraeg: מְדִינַת יִשְׂרָאֵל, Medinat Yisra'el; Arabeg: دَوْلَةْ إِسْرَائِيل, Dawlat Isrā'īl). Cafodd ei sefydlu ym 1948 yn wladwriaeth Iddewig. Mae mwyafrif y bobl sydd yn byw yno yn Iddewon, ond mae Arabiaid yn byw yno, hefyd. Lleolir Libanus i'r gogledd o'r wlad, Syria i'r gogledd-ddwyrain, Gwlad Iorddonen i'r dwyrain, a'r Aifft i'r de. Mae'r Lan Orllewinol a Llain Gaza (ar arfordir y Môr Canoldir) o dan reolaeth Israel sydd hefyd wedi meddiannu Ucheldiroedd Golan. Mae Israel ar arfordir Gwlff Aqabah, y Môr Marw, a Môr Galilea. Fe'i diffinir yn ôl ei chyfansoddiad yn wladwriaeth Iddewig, ddemocrataidd; hi yw'r unig wladwriaeth â mwyafrif Iddewig yn y byd.Bu mwy a mwy o Iddewon yn ymfudo i'r wlad (a alwyd yn Israel o'r 1920au ymlaen) a oedd ar y pryd o dan lywodraeth Gwledydd Prydain. Fe ddaeth yn wlad noddfa arbennig o bwysig i Iddewon yn sgíl twf Ffasgiaeth a Natsïaeth yn Ewrop yn y 1930au a'r 1940au.

Khan Yunis

Dinas a gwersyll ffoaduriaid cyfagos a leolir yn ne Llain Gaza yw Khan Yunis (Arabeg: خان يونس‎; sef 'Gwesty Jonah'). Khan Yunis yw dinas fwyaf de Llain Gaza: yn ôl Swyddfa Ganolog Ystadegau Palesteina, roedd gan y ddinas, y wersyll a'r cylch boblogaeth o 180,000 in 2006. Er bod Khan Yunis yn gorwedd 4 km yn unig o lan y Môr Canoldir, mae ei hinsawdd yn lled-anial gyda dim ond tua 260mm o law y flwyddyn.

Sefydlwyd y ddinas yn y 14g. Erbyn heddiw mae'n un o gadarnleoedd y mudiad Hamas yn Llain Gaza.

Llain Gaza

Llain o dir ar arfordir y Môr Canoldir yw Llain Gaza (Arabeg: قطاع غزة‎ Qiṭāʿ Ġazzah; Hebraeg:רצועת עזה‎ Retzu'at 'Azza), rhwng yr Aifft i'r de-orllewin ac Israel i'r gogledd a'r dwyrain. Mae'n un o'r Tiriogaethau Palesteinaidd sy'n destun Gwrthdaro Israelaidd-Palesteinaidd. O ran maint, mae cryn dipyn yn llai na Bwrdeisdref Sirol Conwy: rhwng 6 a 12 kilomedr o led a 25 kilomedr o hyd. Mae ganddo arwynebedd o 360 km sgwar ac mae 1.4 miliwn o Balesteiniaid yn byw o fewn ffiniau'r diriogaeth hon. Yn hanesyddol mae gan y llain gysylltiadau cryf â'r Aifft.

Daw ei enw o'r ddinas fwyaf yno, sef Gaza. Rheolir y llain gan lywodraeth Hamas ar hyn o bryd. Ffoaduriaid Palesteinaidd yw'r mwyafrif llethol o ddinesyddion Gaza. Mae rhai yn ei disgrifio fel "carchar rhyfel mwyaf y byd" am fod Israel yn cadw'r bobl dan warchae economaidd a milwrol gyda "ffens ddiogelwch" anferth yn gwahanu'r diriogaeth ac Israel, llynges Israel yn rhwystro mynediad o'r môr, a dim cysylltiad trwy'r awyr (dinistriwyd Maes Awyr Yasser Arafat ganddynt). I'r de, ar y ffin â'r Aifft, dim ond un croesfa sydd ar gael, ger Rafah, ac mae mynd i mewn ac allan yn anodd yno hefyd.

Yn Rhagfyr 2008, cafwyd ymosodiad gan Lu Awyr Israel pan laddwyd 1,417 o Balisteiniaid ac 13 o Israeliaid. Ar y 3ydd o Ionawr 2009 symudwyd tanciau a milwyr Israel i fewn i'r Llain a gwelwyd llawer o fomio o awyrennau a hofrenyddion Israel. Cafwyd protestiadau yn erbyn Israel led-led Cymru gan gynnwys Caerdydd, Abertawe a Chaernarfon. Ym Mai 2010 ymosododd milwyr Israel ar lynges ddyngarol yn cludo nawdd i Lain Gaza. Ail-gododd y brwydro pan ymosododd byddin Israel mewn ymgyrch a alwyd ganddynt yn Ymgyrch Colofn o Niwl pan laddwyd rhwng 158 a 177 o Balisteiniaid a 6 Israeliad.

Palesteina

Tiriogaeth hanesyddol yn y Dwyrain Canol sy'n gorwedd rhwng y Môr Canoldir ac Afon Iorddonen a gwlad a grewyd ar ddiwedd y Rhyfel Byd Cyntaf o dan reolaeth Prydain wrth i hen Ymerodraeth yr Otomaniaid yn y Dwyrain Canol ddarnio yw Palesteina. Cyfeirir ati yn aml wrth yr enw Y Tir Sanctaidd hefyd, am ei bod yn cynnwys lleoedd sy'n gysegredig i'r tair crefydd Abrahamig, sef Cristnogaeth, Iddewiaeth ac Islam. Er na fu iddi hanes hir fel uned wleidyddol fodern, llwyddwyd yn sgîl sefydlu gwladwriaeth Iddewig Israel ar yr un diriogaeth, i lunio hunaniaeth Balesteinaidd genedlaethol, a gâi ei mynegi'n bennaf trwy Fudiad Rhyddid Palesteina (PLO).

Bellach mae gan y Palesteiniaid wladwriaeth yn y Tiriogaethau Palesteinaidd hyn: Llain Gaza, rhwng Israel a'r Aifft ar lan y Môr Canoldir, a reolir gan Awdurdod Cenedlaethol Palesteina. Mae'r Lan Orllewinol, rhwng Israel a Gwlad Iorddonen, hefyd o dan reolaeth yr Awdurdod hwn. Fodd bynnag, mae'r tiriogaethau hyn yn cael eu hystyried yn Diriogaethau a Feddianwyd gan y Palesteiniaid a'r Cenhedloedd Unedig am fod Israel yn rheolwr de facto arnynt o hyd. Mae tua 100 o wledydd led-led y byd yn cydnabod hawl y Palesteiniaid i'w hanibyniaeth. Ar 3 o Hydref 2014 cafwyd anerchiad gan Brif Weinidog Sweden y byddai ei wlad yn cydnabod cenedl Palesteina ac yna ar 13 Hydref 2014 pleidleisiodd Llywodraeth y DU o 274 i 12 o blaid cydnabod Palesteina yn genedl. Yn Ionawr 2015 cyhoeddwyd y byddai y Llys Troseddau Rhyngwladol yn agor Ymchwiliad i droseddau yn ymwneud ag Ymosodiad Israel ar Lain Gaza 2014.

Palesteiniaid

Grŵp ethnig yn y Dwyrain Canol yw'r Palesteiniaid (Arabeg: الشعب الفلسطيني‎, ash-sha`b al-filasTīni). Ei mamwlad yw Palesteina. Mae'r term Palesteiniaid sy'n cyfeirio at drigolion sy'n siarad Arabeg ac sy'n tarddu o Balesteina neu a symudodd yno ar ôl 1917. Pobol heb wlad sofran, sy'n ymgyrchu drwy'r Gwrthdaro Israelaidd-Palesteinaidd dros hawliau sylfaenol a thros greu gwladwriaeth Balesteinaidd annibynol.

Mae cyfanswm eu poblogaeth drwy'r byd rhwng 10 ac 11 miliwn. Mae eu hanner yn byw ym Mhalesteina; mae'r rhelyw wedi eu gwasgaru drwy wledydd eraill, yn aml heb ddinasyddiaeth swyddogol.

Mwslemiaid Sunni yw trwch y boblogaeth, er bod llawer ohonynt yn Gristnogion ac yn ddilynwyr ambell grefydd arall erbyn heddiw. Ar ddechrau'r Ail Ryfel Byd y dechreuwyd ddefnyddio'r term 'Palesteiniaid' i olygu'r Arabiaid hyn.Cânt eu cynrychioli o flaen gwledydd eraill y byd, yn bennaf, gan y PLO sef Mudiad Rhyddid Palesteina. Yn 1921 cyhoeddodd Cynghrair Syria-Palesteina yr awydd a'r alwad am annibyniaeth. Yn yr Iorddonen mae tair miliwn o'r Palesteiniaid yn byw ac mae nifer sylweddol yn Llain Gaza, Y Lan Orllewinol ac Israel; mae'r gweddill (y pum miliwn arall) yn ffoaduriad mewn gwahanol wledydd, e.e. Libanus a Syria, gan nad oes ganddynt wlad sofranaidd.

Dros y blynyddoedd cafwyd cryn wrthdaro rhwng yr Israeliaid a'r Palesteiniaid; yn ddiweddar, ymosododd byddin Israel ar Balesteiniaid Llain Gaza o'r awyr.

Tiriogaethau Palesteinaidd

Enw ar un o sawl ardal o Balesteina a gafodd eu meddiannu gan Yr Aifft a'r Iorddonen yn 1947 ac yna gan Israel yn y Rhyfel Chwe Diwrnod yn 1967 yw Tiriogaethau Palesteinaidd.

Erbyn heddiw defnyddir y term i gyfeirio yn benodol at yr ardaloedd o fewn Palesteina sydd o dan lywodraeth y Palesteiniaid yn bennaf (42% o'r Lan Orllewinol a holl Lain Gaza sy'n cael ei reoli gan Hamas).

Nid yw'n cynnwys Ucheldiroedd Golan (y 'Golan Heights' yn Saesneg) a gipiwyd o ddwylo Syria yn 1967 na Phenrhyn Sinai a gipwyd o ddwylo'r Aifft yn yr un adeg ond a roddwyd yn ôl i'r Aifft gan Israel yn 1979 yn dilyn cytundeb heddwch.

Defnyddir y term hwn fel arfer i gyfeirio at y rhanau hynny o Balesteina mae cryn ffraeo yn eu cylch, neu 'The Israeli-occupied territories'. Y term a ddefnyddir gan y Cenhedloedd Unedig (CU) yw "Tiroedd Palesteina sydd wedi eu Meddiannu" neu " Tiroedd Palesteina dan Feddiant Israel", ers y 1970au (Penderfyniadau 242 a 338 y CU).

Ar wahân i'r CU mae unrhyw drafodaethau ynghylch y tiroedd hyn yn cael eu cynnal rhwng Israel a Mudiad Rhyddid Palesteina. Ers y frwydr dros Llain Gaza yn 2007, mae'r Tiriogaethau wedi cael eu rhannu i ddau endid ar wahân: Hamas sy'n rheoli Llain Gaza a Byddin Rhyddid Palesteina o dan yr enw Awdurdod Cenedlaethol Palesteina yn rheoli'r Llain Orllewinol o dan eu harweinydd Mahmoud Abbas. Mae'r Palesteiniaid, felly, ers hyn, wedi eu hollti'n ddau.

Torino

Mae Torino (Eidaleg) neu Turin (Piemonteg) yn dinas yng ngogledd yr Eidal, ar Afon Po. Mae poblogaeth Torino yn 872,367 (cyfrifiad 2011). Torino yw prifddinas yr ardal Piemonte, yng Ngogledd-Gorllewin yr Eidal. Fe cynhaliwyd y Gemau Olympaidd y Gaeaf 2006 yn Torino.

Yma y cedwir Amdo Turin.

UNRWA

Asiantaeth o'r Cenhedloedd Unedig yn y Lefant a sefydlwyd er mwyn rhoi cymorth i'r ffoaduriaid Palesteiniaid yn Llain Gaza, Y Lan Orllewinol, Gwlad Iorddonen, Libanus a Syria yw UNRWA (Cymraeg [answyddogol]: 'Yr Asiantaeth dros Gymorth a Gwaith i Ffoaduriaid Palesteinaidd yn y Dwyrain Agos'; Saesneg: UNRWA - United Nations Relief and Works Agency for Palestine Refugees in the Near East; Ffrangeg: L'Office de secours et de travaux des Nations unies pour les réfugiés de Palestine dans le Proche-Orient). Ei amcan yw ymateb i angenreidiau y ffoaduriaid hynny mewn meysydd fel iechyd, addysg, cymorth dyngarol a gwasanaethau cymdeithasol. Mae gan yr asiantaeth cyfrifoldeb i ofalu am dros 4.6 miliwn o ffoaduriaid Palesteinaidd yn y Dwyrain Canol. John Ging yw pennaeth presennol UNRWA.

Creuwyd UNRWA ar ddiwedd y Rhyfel Arabaidd-Israelaidd cyntaf yn 1948 dan Benderfyniad 302 (IV) Cyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig a basiwyd ar yr 8fed o Ragfyr 1949. Mae mandad UNRWA, a oedd i fod yn un dros dro yn unig yn wreiddiol, wedi cael ei adnewyddu sawl gwaith ers hynny gan Cynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig.

Mae gwaith UNRWA wedi bod yn arbennig o bwysig yn y gwersylloedd ffoaduriaid Palesteinaidd lle mae'r asiantaeth yn rhedeg nifer o ysgolion a gwasanaethau hanfodol eraill. Mae ganddi staff o 29,000, y rhan fwyaf ohonynt yn ffoaduriaid eu hunain, sy'n gweithio fel athrawon, meddygon, nyrsus a gweithwyr cymdeithasol yn y cymunedau neu'n helpu trefnu gwaith yr asiantaeth, sy'n golygu mai UNRWA yw asiantaeth fwyaf y Cenhedloedd Unedig yn y Dwyrain Canol.

Oherwydd ei safiad dros hawliau'r Palesteiniaid mae UNRWA wedi cael ei beirniadu gan rai llywodraethau yn y gorffennol. Ychydig iawn o arian caiff yr asiantaeth gan yr Unol Daleithiau, er enghraifft, mewn cymhariaeth â'r cymorth ariannol caiff Israel gan lywodraeth y wlad honno.

Pan ddechreuodd Israel ymosod ar Lain Gaza, ddiwedd Ionawr 2008, datganodd Comisiynydd Cyffredinol UNRWA, Karen AbuZayd, ei harswyd am y distryw a'i thristwch dwfn am y bywydau a gollwyd. Galwodd ar lywodraeth Israel i atal ei bomio yn Gaza.

Y Dwyrain Canol

Rhanbarth sy'n cynnwys de-orllewin Asia a rhannau o Ogledd Affrica yw'r Dwyrain Canol. Mae anghytuno am ei ddiffiniad. Byddai rhai daearyddwyr a haneswyr yn cynnwys Iran a hyd yn oed Affganistan yn y rhanbarth.

Ymosodiad Israel ar Lain Gaza 2014

Lansiwyd Ymosodiad Israel ar Lain Gaza 2014 (Hebraeg: מִבְצָע צוּק אֵיתָן, Mivtza' Tzuk Eitan, yn llythrennol: "Ymgyrch y Clogwyni Cedyrn"; Saesneg: Operation Protective Edge) ar 8 Gorffennaf 2014 gan Lu Amddiffyn Israel (IVF) yn swyddogol yn erbyn aelodau o Hamas ond erbyn 28ain o Awst roedd 2,145 o Balisteinaidd wedi eu lladd (80% sifiliaid) a 10,895 o Balesteiniaid wedi'u hanafu. Yn y cyfamser, lladdwyd 6 o sifiliaid Israelaidd. Cafwyd ymateb rhyngwladol chwyrn - gan mwyaf yn cytuno bod ymateb milwrol Israel yn rhy lawdrwm ("disproportional").

Roedd yr ymosodiad hwn gan Israel yn dilyn sawl ffactor gan gynnwys lladd tri bachgen; ac roedd awdurdodau Israel yn beio Hamas. Gwadodd Hamas unrhyw gysylltiad â llofruddiaeth y tri bachgen. Ffactorau cefndirol eraill oedd bod cyflwr bywyd yn y Llain Gaza wedi gwaethygu'n arw ers ei droi'n warchae yn 2005 a methiant cynlluniau Unol Daleithiau America i greu cynllun heddwch derbyniol. Yn y gwrthdaro dilynol lladdodd byddin Israel 8 o Balesteiniaid ac arestiwyd cannoedd o bobl ganddynt. Ymatebodd Hamas drwy ddweud na fyddai'n ymatal hyd nes bod Israel yn rhyddhau'r bobl hyn.Erbyn y 12fed taniwyd 525 roced o Lain Gaza i gyfeiriad Israel ac ataliwyd 118 ohonynt gan system arfau Iron Dome Israel. Credir bod 22 o sifiliaid Israelaidd wedi derbyn mân-anafiadau.

Yr ymosodiad hwn oedd y mwyaf gwaedlyd yn Gaza ers 1957. Yn Ionawr 2015 cyhoeddwyd y byddai y Llys Troseddau Rhyngwladol yn agor Ymchwiliad i droseddau yn ymwneud ag Ymosodiad Israel ar Lain Gaza 2014.

Cyhoeddodd Amnest Rhyngwladol nad oedd unrhyw dystiolaeth bod sifiliaid wedi cael eu defnyddio fel tariannau i amddiffyn arfau neu bersonél. Cyhoeddodd Human Rights Watch fod ymateb llawdrwm Israel yn "disproportionate" and "indiscriminate".

Ymosodiad Israel ar lynges ddyngarol Gaza 2010

Ar 31 Mai, 2010 ceisiodd chwech o gychod dyngarol gludo nawdd a chymorth i drigolion Llain Gaza; llynges wedi'i threfnu gan Mudiad Rhyddid i Gaza, sef cymdeithas ryngwladol sy'n dadlau dros hawliau dynol y Palesteiniaid gyda phobl megis Desmond Tutu a Noam Chomsky yn flaenllaw ynddi. Ymosododd milwyr o lynges Israel ar un o'r cychod, sef y MV Mavi Marmara o Dwrci gan ladd rhwng 10 ac 16 o sifiliaid. Roedd y llongau mewn dyfroedd rhyngwladol ar y pryd. Credir fod tua 60 wedi eu hanafu, ond mae Israel wedi rhoi gwaharddiad ar i'r cyfryngau gyhoeddi dim am yr ymosodiad. Mewn canlyniad, mae union amgylchiadau'r digwyddiad yn ansicr. Yn ôl yr ymgyrchwyr ar y llong, daeth y milwyr Israelaidd ar fwrdd y llong a dechrau saethu. Fodd bynnag, dywedododd Llu Amddiffyn Israel fod o leiaf saith milwr wedi eu hanafu mewn sgarmes, dau ohonynt yn ddifrifol, ar ôl i'r ymgyrchwyr dyngarol geisio cipio'u harfau. Honnodd byddin Israel i'r ymgyrchwyr ddefnyddio pastynau a chyllyll yn erbyn y milwyr hefyd, er nad oedd yr un gwn wedi ei ddarganfod ar fwrdd y llong.Cafwyd gwrthwynebiad cryf yn erbyn ymosodiad Israel ar y llongau cymorth gan nifer helaeth o wledydd. Dywedodd Prif Weinidog Twrci, Recep Tayyip Erdoğan, fod Israel wedi gweithredu fel "terfysgwyr annynol" ac "na ddylai neb feddwl y gwnawn gadw'n dawel yn wyneb hyn."Yn ôl yr Israeliaid roeddent wedi gofyn i gapten y cwch fynd i borthladd Ashdod i'w archwilio rhag ofn ei fod yn cludo arfau yn ogystal ag anghenion dyngarol. Enw'r ymosodiad gan fyddin Israel oedd 'Ymgyrch gwynt awyr' (Saesneg: Operation Sky Winds).

Ieithoedd eraill

This page is based on a Wikipedia article written by authors (here).
Text is available under the CC BY-SA 3.0 license; additional terms may apply.
Images, videos and audio are available under their respective licenses.