Galisia

Mae Galisia (Galisieg: Galicia; Galiza[1], Sbaeneg Galicia), yn un o gymunedau ymreolaethol Sbaen, yng ngogledd-orllewin yr orynys Iberaidd. Mae nifer o ynysoedd megis y Cíes, Ons, Cortegada, Arousa, Sálvora a Vionta yn rhan o Galisia. Ystyrir Galisia yn genedl hanesyddol, fel Catalonia ac Euskadi (sef Gwlad y Basg).

Mae gan Galisia ei hiaith ei hun, Galisieg, sy'n iaith Rufeinaidd, sy'n debygach i Bortiwgaleg na Sbaeneg. Yn ôl astudiaeth ddiweddar defnyddir yr iaith gan tua 80% o'r boblogaeth. Ymhlith ei harwyr chwedlonol mae Pedro Pardo de Cela (c. 1425 - 17 Rhagfyr 1483). Ystyrir Ramón Piñeiro (31 Mai 1915 - 27 Awst 1990) yn Athronydd, awdur a chenedlaetholwr o bwys. Fe'i ganwyd yn Armea de Abaixo, Lama, Láncara, Galisia ac roedd yn flaenllaw yn ei ymdrech i hyrwyddo diwylliant Galicia wedi Rhyfel Cartref Sbaen.

Prif drefi Galisia yw:

  • Vigo (poblogaeth 300,000)
  • A Coruña (poblogaeth 250,000)
  • Ourense (poblogaeth 110,000)
  • Santiago de Compostela (poblogaeth 90,000)
  • Lugo (poblogaeth 90,000)
  • Ferrol (poblogaeth 80,000)
  • Pontevedra (poblogaeth 80,000)

Yn economaidd, mae Galisia yn dibynnu i raddau helaeth ar amaethyddiaeth a physgota. Mae twristiaeth hefyd yn elfen bwysig, ac mae miloedd o bererinion yn cyrchu i Santiago de Compostela bob blwyddyn ar hyd y Camino de Santiago.

Comunidade Autónoma da
Galiza
Flag of Galicia
Baner Galisia
Locator map of Galicia
Ieithoedd swyddogol Galisieg a Sbaeneg
Prifddinas Santiago de Compostela
Anthem genedlaethol Os Pinos
Arwynebedd
 – Cyfanswm
 – % o Sbaen
Safle 7fed
 29,574 km²
 5.8%
Poblogaeth
 – Cyfanswm
 – % o Sbaen
 – Dwysedd
Safle 5ed
 2,760,179
 2,9%
 93.78/km²
ISO 3166-2 GA
Arlywydd Alberto Núñez Feijoo (PPdeG-PP)
Xunta de Galicia

Oriel

Y Gwledydd Celtaidd

Ymgyrch rhai Galisiaid i gael eu cyfyri'n wlad Geltaidd, ar ffurf baneri Celtaidd.

Torques de Burela. Museo Provincial de Lugo

Torch aur o Burela, o Oes yr Haearn

Ayuntamiento de Santiago de Compostela

Llywodraeth Galisia: y Pazo de Raxoi, yn Santiago

Galicia densidade parroq cy

Dwysedd y boblogaeth

Dinasoedd a threfi mawrion

Y prif ddinasoedd yw: Vigo, A Coruña, Ourense, Lugo, Santiago de Compostela (y brifddinas), Pontevedra a Ferrol.

Yr ardaloedd mwyaf poblog yw:

  • Vigo-Pontevedra – 660,000
  • A Coruña-Ferrol – 640,000
Rhestr dinasoedd a threfi yn Galisia yn ôl poblogaeth
Tref/Dinas Rhanbarth Poblogaeth (2013) Tref/Dinas Rhanbarth Poblogaeth (2013)
1 Vigo Pontevedra 294,997   11 Carballo A Coruña 31,303
2 A Coruña A Coruña 244,810   12 Arteixo A Coruña 30,482
3 Ourense Ourense 106,905   13 Redondela Pontevedra 30,006
4 Lugo Lugo 98,007   14 Culleredo A Coruña 29,207
5 Santiago de Compostela A Coruña 95,207   15 Ames A Coruña 28,852
6 Pontevedra Pontevedra 82,946   16 Ribeira A Coruña 27,699
7 Ferrol A Coruña 70,389   17 Cangas Pontevedra 26,121
8 Narón A Coruña 39,450   18 Marín Pontevedra 25,864
9 Vilagarcía de Arousa Pontevedra 37,621   19 Cambre A Coruña 23,649
10 Oleiros A Coruña 34,470   20 Ponteareas Pontevedra 23,561

Gweler hefyd

Cyfeiriadau

  1. Fraga, Xesús (2008-06-08). "La Academia contesta a la Xunta que el único topónimo oficial es Galicia". La Voz de Galicia. Unknown parameter |trans_title= ignored (help)
Flag of Spain.svg
Cymunedau ymreolaethol Sbaen
Cymunedau Ymreolaethol AndalucíaAragónAsturiasYnysoedd BalearigCantabriaCastilla-La ManchaCastilla y LeónCataloniaComunidad ValencianaCymuned Ymreolaethol Gwlad y BasgExtremaduraGaliciaComunidad de MadridMurciaNavarraLa RiojaYr Ynysoedd Dedwydd
Dinasoedd ymreolaethol CeutaMelilla
A Coruña

Un o ddinasoedd pwysicaf Cymuned Galisia yw La Coruña (Galisieg: A Coruña).

Mae porthladd prysur yn y ddinas sy'n ganolbwynt i'r gwaith o ddosbarthu nwyddau amaethyddol yn yr ardal. Er mai yn ninas gyfagos Ferrol y mae llawer o'r diwydiannau trymion, mae purfa olew yno sy'n gyflogwr pwysig yn yr ardal.

Mae'r ddinas wedi bod yn bwysig i forwyr ers yr Oes Rufeinig; cyrhaeddon nhw yn yr 2g CC gan fanteisio ar safle da y ddinas. Erbyn y flwyddyn 62 OC, roedd Iwl Cesar wedi mynd i ymweld â'r lle a sefydlodd fasnach gyda Ffrainc, Lloegr a Phortiwgal.

Basilica San Martin de Mondoñedo

Eglwys yn nhref Foz, Galisia, yw Basilica San Martin de Mondoñedo. Hon yw eglwys gadeiriol hynaf Galisia a Sbaen. Mae Galisia'n wlad gyda pheth annibyniaeth, ac a elwir yn 'rhanbarth ymreolaethol'. Yn y 9g, roedd yma ddau esgob. Heddiw, yn ogystal a bod yn fan i addoli, mae hefyd yn amgueddfa.Ond i'r 11g mae'r adeilad presennol yn dyddio, ac fe'i hadeiladwyd mewn dull Romanésg, o ran pensaernïaeth. Cafodd Basilica San Martin de Mondoñedo ei hatgyfnerthu gan fwtresi yn y 18g. Ers 1931 fe'i dynodwyd fel adeilad cofrestredig BIC ac yn 2007 fe'i uwchraddiwyd i fod yn 'fasilica'.

Ceunant Sil

Ceunant yng Ngalisia yw Ceunant Sil (Galiseg: Canón do Sil) a wnaed gan Afon Sil. Y ceunant yw rhan olaf taith yr afon cyn iddi lifo mewn i Afon Minho, ac mae'n 50 km o hyd. Ystyrir yr olygfa fel un o'r rhai gorau yng Ngalisia.Cwyd waliau'r ceunant 500m o lefel y môr - bron yn fertig ar adegau. Oherwydd y tirwedd anghyffredin, ceir yma hinsawdd tra gwahanol i'r amgylchedd o gwmpas y ceunant a cheir yma blanhigion mwy cyfandirol, fel yr olewyddan. Mae ochrau'r ceunant mewn rhai llefydd wedi'i trin gan amaethwyr a cheir terasu sy'n caniatáu i'r winwydden dyfu. Tyfir grawnwin yma ers 'cyfnod y Rhufeiniaid a gelwir yr ardal yma lle gwneir gwin yn Ribeira Sacra. Hwn yw'r unig ardal yng Ngalisia sy'n potelu y mwyaf o win coch nag o win gwyn.Mae'r ardal wedi'i chofrestru yn Natura 2000 ac ynddi cir ardaloedd o ddiddordeb arbennig a chadwraethol - o ran anifeiliaid (dyfrgwn ac ystlumod yn arbennig), daeareg anghyffredin a phlanhigion prin.

Cymunedau ymreolaethol Sbaen

Rhennir Sbaen yn sawl Cymuned Ymreolaethol (Sbaeneg: comunidad autónoma), sef yr haen gyntaf o raniadau gwleidyddol, yn unol â Chyfansoddiad Sbaen, 1978. Mae'r haen yma'n rhoi hawliau cyfyngedig i ranbarthau a chenhedloedd Sbaen. Mae'r gair 'ymreolaethol' yn cyfeirio at 'reolaeth', a hawl y cymunedau i reoli eu hunain.

Nid ffederasiwn yw Sbaen, eithr gwladwriaeth unedol sydd wedi datganoli llawer o'i phwerau. Derbynia cenhedloedd y byd fod Sbaen, yn ei chyfanrwydd, yn genedl sofran ac yn cael ei chynrychioli yn ei llywodraeth ganolog. Ond mae pwerau'r llywodraeth, i raddau, wedi'u datganoli i'r cymunedau, fel a nodir yn y Cyfansoddiad. Nododd sawl ysgolhaig fod y system hon yn un 'Ffederal' ym mhob ffordd, oddigerth i'r enw, neu "federation without federalism".Ceir 17 cymuned ymreolaethol a dwy ddinas ymreolaethol, a adnabyddir fel a ganlyn:

Sbaeneg: autonomías

Basgeg: autonomien

Catalaneg: autonomies

Galisieg: autonomíasMae gan y ddwy ddinas ymreolaethol yr hawl i gael eu hystyried yn gymunedau ymreolaethol, ond hyd yma, nid yw'r naill na'r llall wedi ymgymryd â'r hawl hwnnw.

Galisieg

Iaith romáwns sy'n perthyn yn agos i Bortiwgaleg a siaredir yng Nghymuned Ymreolaethol Galisia yw'r Galisieg (hefyd Galiseg neu Galego) a rhywfaint yn Asturias a Castile a León. Fel pob un o'r ieithoedd romáwns mae'n perthyn i'r Ieithoedd Indo-Ewropeaidd ac yn 2012 roedd 2.4 miliwn o bobl yn ei siarad (58% o boblogaeth Galisia). Ceir llawer o eirfa Ieithoedd Germanaidd a Brythoneg ynddi.

Fel iaith swyddogol gyntaf Galisia, fe'i defnyddir yn helaeth ym meysydd gweinyddiaeth, addysgol a masnach yn y Gymuned ac fe'i haddysgir i bob plentyn.

O 2007 ymlaen, roedd hi'n bosib astudio Galisieg ym Mhrifysgol Cymru, Bangor.

Gwartheg Cochion Galisia

Brid o wartheg sy'n frodorol i Galisia, yn Sbaen yw Gwartheg Cochion Galisia (Sbaeneg: Rubia Gallega, Galisieg: Rubia Galega). Mae'r enw hefyd yn cyfeirio at ei liw, sy'n amrywio o liw hufen i goch euraidd.

Fe'i megir ar gyfer cig eidion yn bennaf, er, yn draddodiadol, defnyddir y llefrith i gynhyrchu caws Tetilla. Mae cofrestr y brid wedi bodoli ers 1933, ac efallai y bu rhywfaint o groesfridio achlysurol gyda Simmental, Brown Swiss a South Devons yn y 1900au.Lleolir tri-chwarter y brid yn Lugo, a cheir cryn dipyn yn Corunna hefyd.

Gwenwyno methanol Galisia

Cafwyd achos o wenwyno gyda methanol yng Ngalisia a rhai o'r Ynysoedd Dedwydd yn 1963 pan laddwyd 51 o bobl (yn swyddogol) er bod honiadau fod rhwng 1,000 - 5,000 wedi marw'n dilyn ychwanegu methanol mewn diodydd alcoholaidd.Sicrhaodd Rogelio Aguiar gyflenwad o 75,000 litr o fethanol, a'i werthu i gwmni o'r enw "Lago e Hijos" o Vigo. Cymysgwyd y methanol i greu amryw o ddiodydd - gan fod methanol yn rhatach nag alcohol.Cofnodwyd y marwolaethau cyntaf yn Chwefror, yn Lanzarote gan fferyllydd lleol, Maria Elisa Alvarez Obaya, pan gysylltodd y farwolaeth Esteban Jesús Pablo Barreto Barreto gyda 4 person marw arall; cyhoeddodd ei chanfyddiadau, gan nodi mai 'gwenwyn gan fethanol' oedd yr achos tebygol. Anwybyddwyd ei rhybuddion a bu farw 16 o bobl eraill yn Lanzarote, La Gomera a Tenerife. Tua'r un amser, bu farw sawl person yn Galisia.Yn 1967 cyhuddwyd 11 o wŷr busnes am 'beryglu'r cyhoedd a charcharwyd hwy i hyd at 7 mlynedd o garchar. Hyd at 2015 nid oedd yr un perthynas i'r rhai hynny a fu farw wedi derbyn yr un geiniog o iawndal.Mae methanol (CH3OH) yn hylif anweddol, fflamllyd, di-liw, di-arogl. Fe'i defnyddir, fel arfer, mewn nwyddau megis hylif glanhau ffenestr y car, farnais, plastig ac i gynhyrchu ffrwydron. Maen hawdd i'w greu drwy ddistyllu pren, ac felly'n rhad i'w brynnu.

Helena Miguélez Carballeira

Mae Helena Miguélez Carballeira (ganwyd 1978 yn Vigo) yn ieithydd, ysgolhaig ac awdur Galiseg. Mae hi'n gyfarwyddwraig y Ganolfan Astudiaethau Galisaidd, Prifysgol Bangor.

Llychlynwyr yng Ngalisia

Cafwyd ymosodiadau gan y Llychlynwyr ar Alasia rhwng y 9fed a'r 12g ac roedd Galisia'n allweddol yn ymgyrch y Llychlynwyr Sgandinafaidd i fasnachu, rheibio a lladrata yn arfordiroedd Portiwgal a De Sbaen.Yn ddiwylliannol ac yn economaidd, cysylltwyd Gorllewin Ewrop gan lwybr morwrol a alwyd gan y Llychlynwyr yn Vestvegr (tebyg i 'west way' yn Saesneg) a fu cyn hynny'n llwybr pwysig yn natblygiad y Celtiaid. Roedd Brenhiniaeth Galisia hanner ffordd rhwng gogledd a de'r llwybr hwn: rhwng Cefnfor yr Iwerydd a'r Môr Canoldir a thrwyddi yr hwyliodd yr holl fasnachu rhwng Portiwgal, De Sbaen ac Ynys Prydain ac Iwerddon. Dyma bwysigrwydd Galisia, felly, i'r Llychlynwyr (a'r Normaniaid), fel y Celtiaid cyn hynny.

Mae'r cofnod cyntaf o ymosodiadau'r Llychlwynwyr i'w ganfod yn yr Annales Bertiniani, yn Awst 844 pan hwyliodd eu cychod i fyny aber Afon Garonne (sydd heddiw yn Ffrainc) ac i Galisia gan ddod i'r lan yn ardal Farum Brecantium. Rheibiwyd sawl pentref ac eglwys ar y ffordd, mae'n debyg. Yna, wedi brwydr fawr aethant ymlaen i'r dref a elwir heddiw yn Lisbon. Ychydig wedi hynny, ceir chwedl am yr Esgob Gonzalo Bretoña a welodd gychod y Llychlynwyr yn dod yn nes, ac a weddiodd i'r nef am gymorth. Boddwyd y rhan fwyaf o'r cychod gan storm enfawr, yn ôl yr hanes.

Dros y canrifoedd, dioddefodd yr ardal yn enbyd gan ymosodiadau Sgandinafaidd, a cheir sawl gwyl a cherflun i gofio'r cysylltiad hwn yn ogystal a hen greiriau. Yr wyl fwyaf yw honno yn Catoira a gynhelir ar y Sul cyntaf yn Awst. Credir hefyd i nifer ohonynt aros yn yr ardal, gan briodi i mewn i'r teuluoedd Celtaidd, brodorol.Un o'u cyrchfannau oedd Jakobsland, a adnabyddir heddiw fel Santiago de Compostela, a oedd, yn ôl y sôn yn llifeirio o aur ac arian. Gelwir Catoira hyd heddiw yn 'yr allwedd i Galisia', ac er mwyn cyrraedd Eglwys Gadeiriol Santiago, roedd yn rhaid pasio caer gref Catoira. Gefeilliwyd Catoira gyda Frederikssund, Denmarc er mwyn cadarnhau'r cysylltiad Sgandinafaidd.

Lugo

Dinas yng nghymuned ymreolaethol Galisia yn Sbaen yw Lugo. Mae'n bridddinas y dalaith o'r un enw.

Sefydlwyd y ddinas rhwng 26 CC a 12 CC gan Paulus Fabius Maximus, legad yr ymerawdwr Augustus, a roddodd yr enw Lucus Augusti iddi i anrhydeddu'r ymerawdwr. Nid oes sicrwydd ynghylch ystyr Lucus, ond gall ei fod yn dod o enw'r duw Celtaidd Lugus, (Lleu yn Gymraeg).

Saif y ddinas 465 uwch lefel y môr, ar dir uchel uwchben Afon Miño. Gyda phoblogaeth o 94,271, Lugo yw pedwerydd dinas Galicia o ran maint.

Adeiladwyd muriau Rhufeinig y ddinas yn niwedd y 3g a dechrau'r 4g. Yn y flwyddyn 2000, enwyd hwy yn Safle Treftadaeth y Byd gan UNESCO.

Pedro Madruga

Marchog Galisiaidd poblogaidd oedd Pedro Álvarez de Soutomaior, Count of Caminha, a adnabyddir ar lafar fel Pedro Madruga (c. 1430 - 1486). Ei elyn pennaf oedd Alfonso II o Fonseca a'r gwrthryfelwyr Galisaidd, yr Irmandiña. Wedi cryn frwydro, daeth holl diroedd de Galisia o dan feddiant Pedro. Yn llythrennol, ystyr ei enw yw 'Pedro - y boregodwr'.

Derbyniodd addysg babyddol, Ladin gan fynachod Dominiciaid ger Tuy, un o faestrefi dwyreiniol Pontevedra.

Mynn un chwedl mai'r un person oedd Pedro a Christopher Columbus; mae hefyd yn bosibl mai'r un person oedd mab y ddau. Dysgodd sut i fordwyo (neu fforio) llongau am 23 mlynedd - yr union gyfnod a nododd Columbus yn ei ddyddiaduron.

Cartref ei deulu oedd Castell Soutomaior, a leolwyd mewn safle allweddol yn nyffryn Afon Verdugo, ychydig gilometrau o ddinas Pontevedra ac sy'n dal i sefyll. Mae'r castell yn esiampl rhagorol o gaer amddiffynol o'r Oesoedd Canol ac yn dyddio'n ôl i'r 12g, ond a ddatblygwyd ymhellach yn y 15g. Ceir waliau allanol o siap ofal, sy'n anghyffredin iawn, ac sy'n amddiffyn dau dŵr a gysylltir â phont, ffos a phont grog.Yn ôl Vasco da Ponte:

"Roedd Pedro'n gyffrwys, yn ddeallus ac yn wybodus mewn rhyfel. Roedd yn ddidwyll, a pharchodd y rhai a oedd yn driw iddo, gan eu trin yn dda; ond roedd yn greulon tuag at ei elynion. Ni fedrodd glaw, eira, rhew na stormydd mo'i atal rhag gwneud ei waith, ac yn aml, byddai'n cysgu y tu allan i adeilad - neu ar fwrdd pren, caled, heb liain drosto."Ni cheir llawer o wybodaeth amdano ar ôl 1487. Credir iddo ffugio'i farwolaeth ei hun, fel rhan o gynllun rhyngddo a Brenhinoedd Pabyddol Galisia.

Pórtico da Gloria

Porth Romanésg Cadeirlan Santiago de Compostela ydy'r Pórtico da Gloria, sydd wedi'i leoli yng Ngalisia, un o wledydd ymreolaethol Sbaen. Fe'i comisiynwyd gan Fernando II, brenin Castilla a León, a'i gynllunio gan Maestro Mateo a'i weithdy rhwng 1168 a 1188.

Mae'r cyfeiriad at y porth hwn i'w gael mewn dogfen a arwyddwyd gan Fernando II ar 23 Chwefror 1168, ble mae'n rhoi

cyflog oes i Mateo o ddau ddarn o arian y flwyddyn am godi basilica Sant Iago – ac mae'r ddogfen i'w chael heddiw yn amgueddfa'r gadeirlan. Ymgorfforwyd claddgell i gynnal y porth; roedd hyn hefyd yn pontio'r lloriau anwastad rhwng y llawr a phrif sgwâr yr eglwys, sef y Plaza del Obradoiro.

Ar 1 Ebrill 1188 y codwyd y garreg gyntaf, a gorffennwyd y gwaith yn 1211 pan gysgegrwyd y deml ym mhresenoldeb y brenin Alfonso IX.

Symudwyd rhai o'r cerfluniau i ffasâd y gadeirlan yn y 18g a gwelir rhai ohonynt heddiw yn yr amgueddfa. Yn ychwanegol at hyn, nid ôl llaw y Maestro Mateo yn unig sydd yma, yn wir credir fod o leiaf pedwar cerflunydd wedi ymwneud â'r gwaith.

Ramón Piñeiro

Athronydd, awdur a chenedlaetholwr o Galisia oedd Ramón Piñeiro (31 Mai 1915 - 27 Awst 1990). Fe'i ganwyd yn Armea de Abaixo, Lama, Láncara, Galisia ac roedd yn flaenllaw yn yr ymdrech i hyrwyddo diwylliant Galicia wedi Rhyfel Cartref Sbaen. Fe'i carcharwyd rhwng 1946 a 1949 ac fe'i hystyrir yn un o ffigurau pwysicaf Galisia yn yr 20g. Sefydlodd y cylchgonau Galisieg Galaxia a Grail a bu'n flaenllaw yn yr ymgyrch i safoni'r Galisieg.Roedd yn aelod o'r blaid Galeguista a bu'n un o ddirprwyon annibynnol Senedd Galicia.

Rhyfel Mawr Irmandiña

Chwyldro cymdeithasol a chenedlaetholgar rhwng 1467 a 1469 gan bobl Galisia oedd Rhyfel Mawr Irmandiña. Yr enw Galisieg ar y chwyldroadwyr oedd Yr Irmadiños, a chlensiwyd eu hymgyrch gan orthrwm Teyrnas Castilla. Mae'n debygol mai dyma'r chwyldro mwyaf a welodd Ewrop yn y 15g.Yng ngwanwyn 1467 y taniwyd y wreichionen gyntaf pan oedd y werin bobl, merched, morwyr a gwŷr yr eglwys wedi cael llond bol o afiechydon (e.e. epidemig 1466), newyn a chael eu trin yn wael gan uchelwyr y wlad; roedd effaith rhyfel cartref gwleidyddol Coroa de Castela hefyd yn ffactor. Ffurfiodd y werin frawdoliaeth sanctaidd (Santa Irmandade) a chynyddwyd eu niferoedd fel caseg eira oherwydd y teimladau dwfn eu bod wedi cael eu camdrin am gyhyd.

Rosalía de Castro

Roedd Rosalía de Castro (24 Chwefror 1837 – 15 Gorffennaf 1885) yn brif lenor Galisia ac heddiw yn arwres ffeministaidd.

Ysgrifennodd yn Galego (Galisieg) ar adeg pan roedd yr iaith wedi'i gormesu ac ond wedi'i ystyri'n dafodiaith y werin ddi-addysg.Cyhoeddodd ei chasgliad cyntaf o farddoniaeth Cantares gallegos (Cantoriaion Galisieg) ar 17 Mai, 1863. Mae 17 Mai bellach yn cael ei dathlu fel Día das Letras Galegas - Diwrnod llenyddiaeth Galisieg, yn ddiwrnod o wyliau yn Galisia.

Roedd Follas novas (Dail newydd), 1880, ei hail gasgliad yn y Galisieg a'r olaf. Ystyrir y gyfrol hon yn glasur o fewn llenyddiaeth Galisiaidd. Dyma hefyd uchafbwynt gyrfa Castro, gan ei fod yn cynrychioli'r cyfnod rhwng Cantares gallegos a'i nofel radical En las orillas del Sar (1884) a sgwennwyd mewn Sbaeneg. Mae rhan olaf Follas novas am ferched a adawyd yng Ngalisia, wedi i'w gwŷr eu gadael i chwilio am waith.

Priododd Manuel Murguía (1833–1923), yn un o brif ffigyrau y Rexurdimento (adfywiad) – mudiad llenyddol rhamantaidd i hybu llenyddiaeth a'r iaith Galego. Cafodd y cwpl 7 o blant.

Roedd bywyd Castro wedi'i effeithio gan dristwch a thlodi. Gwrthwynebodd gamddefnydd awdurdod ac roedd yn gefnogwr brwd o hawliau merched.Mae ei gwaith yn cyfleu cryfder enaid pobl werin Galisia – eu llawenydd, doethineb a thraddodiadau, eu dicter at ormes Sbaen, a'u tristwch yn wyneb tlodi ac alltudio i dde America. Mae ei gwaith wedi nodi gan saudade (hiraeth).Mae ei gwaith wedi'i gyffeithiau i nifer fawr o ieithoedd ac mae ei henw i weld ar enwau parciau, strydoedd, ysgolion a busnesau fel caffis a gwestai. Mae ei llun wedi ymddangos ar stampiau ac ar hen arian Sbaen y peseta.

Santiago de Compostela

Santiago de Compostela (Sain Siâm yn y Gymraeg) yw prifddinas cymuned ymreolaethol Galisia yn Sbaen. Yn 1985 cyhoeddwyd hen ddinas Santiago yn Safle Treftadaeth y Byd gan UNESCO. Roedd y boblogaeth yn 92,919 yn 2005.

Mae Santiago wedi bod yn gyrchfan bwysig i bererinion ers y Canol Oesoedd; ystyrir mai hi yw'r gyrchfan bwysicaf ar ôl Jerusalem a Rhufain. Yn ôl y traddodiad, dygwyd corff Sant Iago yma yn wyrthiol wedi iddo gael ei ferthyru yn Jerusalem yn 44 OC.. Mae'r ddinas hefyd yn enwog am Brifysgol Santiago de Compostela, sydd wedi ei sefydlu ers mwy na 500 mlynedd, ac am Eglwys Gadeiriol Sant Iago.

Mae llwybr y Camino de Santiago yn arwain yno ar draws gogledd Sbaen, ac mae miloedd yn ei ddilyn bob blwyddyn.

Canwyd cywydd am fordaeth i 'Galys' (sef Galisia yn y Gymraeg) gan Ruffudd Grug yn y 1340au, sy'n sôn am y ddinas: 'Torraist â Sain Siâm amod, Tud y glad, nid da dy glod.'

Sbaen

Gwlad yn ne-orllewin Ewrop yw Teyrnas Sbaen neu Sbaen (Sbaeneg: Reino de España neu España). Mae'n rhannu gorynys Iberia gyda Gibraltar a Phortiwgal, ac mae'n ffinio â Ffrainc ac Andorra yn y gogledd. Madrid yw'r brifddinas. Felipe VI yw brenin Sbaen.

Statud Ymreolaeth Galisia (1936)

Gofal: Cafwyd Statud Ymreolaeth diweddarach yn 1981.

Statud a ddiffiniodd annibyniaeth i Galisia ac a grewyd gan Partido Galeguista (neu 'Blaid Galisia') ym 1936 yw Statud Ymreolaeth Galisia (1936). Fe'i derbyniwyd yn bennaf gan iddo gael ei gynnig yn ystod Rhyfel Cartref Sbaen ond ni ddaeth i rym oherwydd Llywodraeth unbeniaethol Sbaen, dan arweiniad Francisco Franco.

Yr ysbrydoliaeth gwreiddiol y tu ôl i'r Statud oedd y Mudiad Gweriniaethol dros Annibyniaeth Galisia (Organización Republicana Gallega Autónoma (neu'r ORGA)) a'r cenedlaetholwyr Villar Ponte a Lois Peña Novo. Ond erbyn diwedd 1932, cymrwyd y gwaith drosodd gan 'Gynulliad y Rhabarthau' a'r blaid genedlaethol, y 'Partido Galeguista', a baratodd y drafft terfynol. Ar gychwyn y 1930au awgrymodd sawl person y byddai datganoli pwer, drwy greu clwstwr ffederal o wledydd yn fanteisiol i Sbaen hefyd.Yn 1932 galwodd Raimundo López Pol, Maer Santiago de Compostela, cynghorwyr holl Ranbarthau Galisia at ei gilydd i drafod y drafft hwn ac yn Rhagfyr y flwyddyn honno, fe'i derbyniwyd gan gynrychiolwyr 84.7% o'r boblogaeth. Ar 28 Mehefin, cafwyd Refferendwm cenedlaethol ar y fersiwn terfynol a chafwyd 993,351 o bleidleisiau o'i blaid, sef 74.56 o'r etholaeth a dim ond 6161 yn ei erbyn. O'r dinasyddion hynny a fwrwodd eu pleidlais, roedd 99% o blaid Annibyniaeth. Ar 15 Gorffennaf, fe'i cyflwynwyd gan Román Gómez (Ysgrifennydd Cyffredinol Partido Galleguista) ac AS Castelao i Lywydd y Llywodraeth.Roedd y Statud yn gwneud y Galisieg a'r Sbaeneg yn ieithoedd swyddogol, a nodwyd y byddai'n rhaid i weision sifil allu'r ddwy iaith. Rhoddai hefyd yr hawl i Galisia ethol ei senedd ei hun a bod yn gyfrifol am ei system etholaethol ei hun yn ogystal a chodi trethi ayb.Ni ddaeth y Statud i rym, fodd bynnag, oherwydd Llywodraeth unbeniaethol Sbaen, dan arweiniad Francisco Franco.

Vigo

Dinas yng nghymuned ymreolaethol Galisia yn Sbaen yw Vigo. Saif ar lan y môr yn nhalaith Pontevedra. Yn 2005 roedd poblogaeth y ddinas ei hun yn 293,725, a phoblogaeth yr ardal ddinesig yn 420,672. Y diwydiannau pwysicaf yw pysgota ac adeiladu llongau, ac mae'r tîm peldroed, Celta de Vigo, yn adnabyddus.

Adeiladwyd Vigo ar safle bryngaer (Castro) a thref Rufeinig; credir fod yr enw "Vigo" yn dod o'r Lladin Vicus. Yn 1585 a 1589 ymosododd Francis Drake ar y ddinas a llosgi llawer o adeiladau, ac yn ddiweddarach ymosododd y Twrciaid arni. Yn 1656 adeiladwyd muriau i'w hamddiffyn. Cipiwyd y ddinas gan y Saeson yn 1719 a chan y Ffrancwyr yn 1808. Tyfodd yn gyflym yn ystod y 19g a'r 20g.

Ieithoedd eraill

This page is based on a Wikipedia article written by authors (here).
Text is available under the CC BY-SA 3.0 license; additional terms may apply.
Images, videos and audio are available under their respective licenses.