Foel Drygarn

Copa ym mynyddoedd y Preselau yn Sir Benfro yw Foel Drygarn, hefyd Foel Trigarn a Foel Drigarn (cyfeiriad grid SN157336). Saif ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro, i'r gorllewin o bentref Crymych.

Ceir bryngaer o Oes yr Haearn ar y copa, gyda nifer o olion tai tu mewn i'r muriau, a thair carnedd o Oes yr Efydd sy'n rhoi i'r mynydd ei enw. Mae'r gaer yn cynnwys prif amddiffynfa o 1.2 hectar gyda ddwy gorlan atodol ar ei hymylon ogleddol a gorllewinol. Ceir clawdd o gerrig a phridd heb ffos o o'u cwmpas: tybir eu bod yn cynrychioli tri chyfnod adeiladu. Cafwyd hyd i ddarnau crochenwaith a chleiniau sy'n dyddio o Oes yr Haearn i gyfnod y Rhufeiniaid. Mae'r tair carnedd fawr yn gorwedd ar y copa ei hun, o fewn y brif amddiffynfa ac yn ei rhagddyddio.[1]

Cyfeiria'r bardd Waldo Williams at y copa yng nghwpled agoriadol adnabyddus ei gerdd 'Preseli':

Mur fy mebyd, Foel Drigarn, Carn Gyfrwy, Tal Mynydd,
Wrth fy nghefn ym mhob annibyniaeth barn.[2]

Fe gafodd Foel Drygarn ei gynnwys yn llyfr yr haneswr John Davies o'r enw 100 peth i weld cyn marw.[angen ffynhonnell]

Foel Drygarn
Preselau
Foel Drygarn o'r awyr
Llun Foel Drygarn o'r awyr
Uchder 363 m
Lleoliad Sir Benfro
Gwlad Cymru

Cyfeiriadau

  1. Christopher Houlder, Wales: An Archaeological Guide (Faber & Faber, 1978), tud. 180.
  2. Waldo Williams, Dail Pren (argraffiad newydd, Gwasg Gomer, 1991), tud. 29.

Dolen allanol

Carnedd

Carnedd neu garn yw'r enw a roddir ar bentwr o gerrig wedi ei godi i nodi mangre arbennig. Fe'i ceir fel rheol ar yr ucheldiroedd, yn arbennig ar gopaon mynyddoedd.

Ceir nifer o wahanol fathau o garneddi. Mae cryn nifer o garneddi Cymru yn dyddio o Oes yr Efydd, a cheir claddedigaethau tu mewn iddynt. Ymhlith yr enghreifftiau gorau o'r math yma mae Bryn Cader Faner a'r tair carnedd fawr ar gopa Foel Drygarn. Ceir tystiolaeth i'r arfer o gladdu cyrff dan bentwr o gerrig yng Nghymru barhau i'r cyfnod Rhufeinig ac wedyn. Gall carnedd hefyd fod yn llawer mwy diweddar, wedi ei hadeiladu i nodi'r fan uchaf ar gopa mynydd neu fryn, neu i nodi llwybr. Y garnedd fwyaf yng Nghymru - a'r ail fwyaf yng ngwledydd Prydain - yw'r Gop.

Ceir "carnedd" neu "garn" fel elfen yn enw mynyddoedd, er enghraifft Carnedd Llywelyn a Carnedd Dafydd, a roddodd ei enw i fynyddoedd y Carneddau. Yr hen enw ar fynydd Elidir Fawr oedd "Carnedd Elidir".

Mynydd Preseli

Mynyddoedd yng ngogledd Sir Benfro yn ne-orllewin Cymru yw Mynydd Preseli, hefyd Mynydd Preselau, Y Preseli neu Y Preselau. Maent yn rhan o Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro, ac yn ymestyn o gyffiniau Abergwaun yn y gorllewin hyd ar ardal Crymych yn y dwyrain.

Y copa uchaf yw Foel Cwmcerwyn (536 medr). Copaon eraill yw Carn Ingli, Foel Eryr, Foel Feddau, Frenni Fach, Frenni Fawr a Foel Drygarn. Ceir nifer fawr o olion o gyfnodau cynhanesyddol yn y Preselau; y mwyaf adnabyddus efallai yw cromlech Pentre Ifan. Ceir nifer fawr o olion o Oes yr Efydd o gwmpas Carn Ingli, a chredir fod yr ardal hon wedi bod o bwysigrwydd arbennig yn y cyfnod hwnnw. Credir bod y meini glesion sy'n ffurfio rhan o adeiladwaith Côr y Cewri wedi dod o ardal Carn Menyn (neu Carn Meini) yma. Ceir hefyd garneddi o Oes yr Efydd a bryngaerau o Oes yr Haearn, er enghraifft ar Foel Drygarn a Charn Ingli.

Ceir cyferiad at y Preselau yn chwedl Culhwch ac Olwen, lle mae'r Twrch Trwyth yn glanio ym Mhorth Clais ar ôl anrheithio Iwerddon, ac yna'n mynd i Preselau, gan ladd pedwar o wŷr Arthur yng Nghwm Cerwyn. Lleolir llawer o ddigwyddiadau Pwyll Pendefig Dyfed yn y Preselau hefyd, er enghraifft ar ddechrau'r hanes, mae Pwyll yn hela yng Nglyn Cuch.

Arferai'r diwydiant llechi fod yn bwysig yma, er nad oes yr un o'r chwareli yn parhau ar agor erbyn hyn.

Magwyd y bardd Waldo Williams yn yr ardal, ac mae 'Preseli' yn un o'i gerddi enwocaf, sy'n dechrau gyda'r cwpled cyfarwydd:

Mur fy mebyd, Foel Drigarn, Carn Gyfrwy, Tal Mynydd,

Wrth fy nghefn ymhob annibyniaeth barn.

Rhestr o fryngaerau Cymru

Sylwer: Dyma restr o fryngaerau Cymru wedi eu trefnu yn ôl siroedd. Gweler hefyd Rhestr o fryngaerau Cymru yn ôl eu maint a Rhestr o fryngaerau wedi'u cofrestru gan CADW.Mae archaeolegwyr yn nodi tua 570 o safleoedd archaeolegol yng Nghymru fel bryngaerau, ond mae ansicrwydd am bwrpas gwreiddiol rhai o'r strwythurau hyn ac fe all fod rhai ohonynt yn safleoedd defodol neu gorlannau ayyb yn hytrach nag amddiffynfeydd fel y cyfryw.

Bryngaerau Cymru

Ieithoedd eraill

This page is based on a Wikipedia article written by authors (here).
Text is available under the CC BY-SA 3.0 license; additional terms may apply.
Images, videos and audio are available under their respective licenses.