Esgobaeth

Uned weinyddol eglwysig a rhanbarth daearyddol a lywodraethir gan esgob yw esgobaeth. Fel rhan o'r drefn eglwysig mae i'w chael mewn sawl Eglwys Gristnogol, e.e. yr Eglwys Anglicanaidd, yr Eglwys Gatholig Rufeinig, a'r rhan fwyaf o'r Eglwysi Uniongred.

Gweler hefyd

Aberhonddu

Mae Aberhonddu (Saesneg: Brecon) yn dref ym Mhowys, Cymru, sy'n cymryd ei henw oddi ar aber Afon Honddu ag Afon Wysg. Yng nghanol y dre mae'r ddwy afon yn uno, ac mae Afon Tarrell hefyd yn llifo i mewn i Wysg gerllaw.

Ceir eglwys gadeiriol fechan ond diddorol yn Aberhonddu. Priordy a sefydlwyd gan y Normaniaid yn yr 11g oedd hi i ddechrau. Fe'i gwnaed yn eglwys gadeiriol yn 1923 wrth greu Esgobaeth Abertawe ac Aberhonddu. Prif eglwys y dref yw'r Santes Fair.

Tua 7 cilometr i'r gogledd ceir dwy domen o'r Oesoedd Canol gan gynnwys Castell Madog (De).

Arfon

Bro hanesyddol yng Ngwynedd yw Arfon. Cantref oedd Arfon yn yr Oesoedd Canol, calon teyrnas Gwynedd a'i chnewyllyn. Yn ddiweddarach fe'i unid ag Arllechwedd a Llŷn i ffurfio'r sir newydd, Sir Gaernarfon, yn unol â thermau Statud Rhuddlan yn 1284. I'r gogledd dros y dŵr roedd Ynys Môn, i'r dwyrain cantref Arllechwedd, i'r de cantref Eifionydd (a oedd gydag Ardudwy yn rhan o frenhiniaeth gynnar Dunoding) ac i'r gorllewin cantref Llŷn. Mae Arfon yn parhau fel enw bro ac fel uned eglwysig, sef Deoniaeth Arfon yn Esgobaeth Bangor.

Bangor

Mae'r erthygl yma'n cyfeirio at Fangor, Gwynedd, gogledd Cymru. Gweler Bangor (gwahaniaethu) am leoedd eraill a elwir yn Fangor.Dinas a chymuned yw Bangor yng Ngwynedd, gogledd-orllewin Cymru; Cyfeirnod OS: SH 58179 72393. Mae ganddi boblogaeth o tua 15,000 (neu tua 21,735 gan gynnwys ei chyrion). Mae Prifysgol Bangor, Pontio ac Eglwys Gadeiriol Bangor yn y ddinas. Bangor yw canolfan Esgobaeth Bangor a sedd Esgob Bangor. Yr enw llawn tan yn ddiweddar oedd 'Bangor Fawr yn Arfon'. Yn yr 20fed ganrif, cafodd Bangor sefydliad pellach, gan gynnwys pencadlys gogleddol y BBC yng Nghymru ac yn ystod y rhyfel, o 1941 i 1944, symudodd adran adloniant ysgafn y BBC o Lundain i'r dre.

Dafydd Ddu o Hiraddug

Bardd ac ysgolhaig oedd Dafydd Ddu o Hiraddug (bl. tua 1330 – 1370). Mae'n adnabyddus yn bennaf fel awdur golygiad newydd o ramadeg barddol Einion Offeiriad ond roedd yn fardd medrus hefyd.

Durham

Dinas ac awdurdod unedol yng ngogledd Lloegr yw Durham. Mae Durham yn esgobaeth ac yn ganolfan weinyddol Swydd Durham.

Esgob

Esgob yw pennaeth uned ddaearyddol a gweinyddol yn yr Eglwys Gristnogol a elwir yn esgobaeth. Daw'r enw o'r gair Lladin episcopus (o'r gair Groeg episkopos, 'goruwchwyliwr'). Mae esgob yn glerigwr sy'n is nag archesgob ond yn uwch nag offeiriad neu ddiacon. Ystyrir esgob yn olynydd i'r Apostolion. Mae ganddo'r awdurdod i ordinhau offeiriaid ac i gonffyrmio pobl yn aelodau llawn o'r eglwys (bedydd esgob).

Mae'r Pab yn Esgob Rhufain. Ceir tri esgobaeth yng Nghymru sef Archesgobaeth Caerdydd, esgobaeth Mynwy ac esgobaeth Wrecsam; ceir hefyd yn yr Eglwys Anglicanaidd chwech esgob yng Nghymru i lywodraethu esgobaethau Abertawe ac Aberhonddu, Bangor, Tyddewi, Mynwy, Llanelwy a Llandaf. Mae'r chwech esgob hynny dan awdurdod Archesgob Cymru, sydd ei hun yn un o'r chwech esgob yn ogystal a'i swydd fel archesgob.

Esgob Bangor

Mae Esgob Bangor yn gyfrifol am Esgobaeth Bangor, sy'n cynnwys Môn, y rhan fwyaf o Wynedd a darn bach o Bowys. Mae'r Eglwys Gadeiriol ym Mangor, a phreswylfa swyddogol yr esgob yw Tŷ'r Esgob ym Mangor.

Sefydlwyd esgobaeth yn hen Deyrnas Gwynedd gan Deiniol Sant tua'r flwyddyn 546. Yn ddiweddarach daeth yr esgobaeth dan reolaeth Archesgob Caergaint, a bu cryn dipyn o ddadlau rhwng yr Archesgob a Thywysogion Gwynedd ynghylch penodi esgob, yn enwedig yn ystod teyrnasiad Gruffudd ap Cynan ac Owain Gwynedd. Yn dilyn marwolaeth y Gwir Barchedig Anthony Crockett, yr 80fed esgob, etholwyd Andrew John i'r swydd ym mis Hydref 2008.

Esgobaeth Bangor

Esgobaeth Bangor yw'r hynaf o chwech esgobaeth Anglicanaidd Cymru. Gorwedd tiriogaeth yr esgobaeth yng ngogledd-orllewin y wlad, gan ymestyn o Ynys Môn i ran o ogledd Powys ; mae'n cyfateb yn fras i diriogaeth teyrnas Gwynedd yn yr Oesoedd Canol. Canolfan yr esgobaeth yw cadeirlan Bangor, sedd esgob Bangor, lle ceir Eglwys Gadeiriol Bangor.

Hamburg

Dinas a talaith yng ngogledd yr Almaen yw Hamburg, neu yn Gymraeg Hambwrg neu Hambro. Gyda phoblogaeth o 1.75 miliwn yn Rhagfyr 2005, hi yw ail ddinas fwyaf yr Almaen, ar ôl Berlin. Hamburg yw porthladd mwyaf yr Almaen, a'r ail-fwyaf yn Ewrop ar ôl Rotterdam.

Daw enw'r ddinas o'r adeilad cyntaf ar y safle, castell a adeiladwyd gan Siarlymaen yn 808. Daeth yn esgobaeth yn 834. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd bu bomio trwm ar y ddinas gan luoedd awyr Prydain a'r Unol Daleithiau, a lladdwyd tua

42,000 o'r trigolion.

Hildesheim

Dinas yn rhan ddeheuol talaith Niedersachsen yn yr Almaen yw Hildesheim. Saif tua 30 km i'r de-ddwyrain o Hannover. Mae'n safle esgobaeth ac yn ddinas brifysgol, gyda phoblogaeth o tua 103,000.

Sefydlwyd Hildesheim yn 815 fel safle esgobaeth, a daeth yn brifddinas Tywysog-Esgobaeth Hildesheim. Mae'r Eglwys Gadeiriol ac Eglwys Sant Mihangel wedi ei dynodi fel Safle Treftadaeth y Byd gan UNESCO.

Liège

Dinas yn Walonia yng Ngwlad Belg yw Liège (Iseldireg: Luik, Almaeneg: Lüttich). Saif yn Wallonia, y rhan Ffrangeg ei iaith o'r wlad, a hi yw prifddinas talaith Liège. O 972 hyd 1795, hi oedd prifddinas Tywysogaeth Liège. Roedd y boblogaeth ym Mai 2009 yn 194,054.

Sefydlwyd y ddinas tua 700, yn dilyn llofruddiaeth Sant Lambert, esgob Tongres-Maastricht. Symudodd ei olynydd, Sant Hubert, ganolfan yr esgobaeth o Maastricht i Liège.

Roedd brenhinllin y Merofingiaid a'r Carolingiaid yn wreiddiol o'r ardal yma, ac mae cerflun o Siarlymaen yng nhanol y ddinas.

Llandeilo Ferwallt

Pentref a chymuned tua 5 milltir i'r de-orllewin o Abertawe ar benrhyn Gŵyr yw Llandeilo Ferwallt ( ynganiad ) (Saesneg: Bishopston). Mae'r Mwmbwls yn gorwedd dwy filltir i'r dwyrain. Llandeilo yw un o'r pentrefi mwyaf ar benrhyn Gŵyr. Mae ganddo ei glwb rygbi ei hun, South Gower RFC, a'i ysgol gyfun, Ysgol Gyfun Llandeilo Ferwallt.

Cynrychiolir yr ardal hon yn y Cynulliad Cenedlaethol gan Rebecca Evans (Llafur) a'r Aelod Seneddol yw Tonia Antoniazzi (Llafur).I ddechrau, cyfuniad o 'Llan' a Merwall oedd yr enw, ac fe dyfodd 't' yn raddol ar ddiwedd yr enw personol. Pan fu anghytuno rhwng Esgobaeth Llandaf ac Esgobaeth Tyddewi ynglyn â'r ffiniau rhyngddynt rhoddwyd yr enw Teilo i fewn i'r enw ar ôl ailgysegru'r eglwys leol i Sant Teilo, gan ei fod yn nawddsant Esgobaeth Llandaf, er mwyn tanlinellu ei bod yn perthyn i'r esgobaeth honno.

Ceir sawl traeth lleol fel Brandy Cove, Bae Caswel a Pwll Du (gweler y llun).

Llanelwy

Mae Llanelwy (Saesneg: St Asaph) yn ddinas yn Sir Ddinbych. Yn gynt, roedd yn yr hen sir draddodiadol, Sir y Fflint. Mae ganddi boblogaeth o tua 3,491 (Cyfrifiad 2001). Fe'i lleolir rhwng Afon Elwy ac Afon Clwyd ar yr A525 6 milltir i'r de o'r Rhyl a 5 i'r gogledd o Ddinbych. Mae'r A55 yn osgoi'r dref i'r gogledd. Mae Esgobaeth Llanelwy yn sedd Esgob Llanelwy, gyda'i eglwys gadeiriol ei hun, y lleiaf yng Nghymru. Ceir sawl adeilad hanesyddol yn y dref, e.e. yr elusendai o'r 17g ar y Stryd Fawr lle treuliodd Henry Morton Stanley gyfnod annedwydd iawn (1847 - 1856).

Lyon

Dinas fawr yn ne-ddwyrain Ffrainc yw Lyon. Hi yw'r drydedd fwyaf o ran poblogaeth, ar ôl Paris a Marseilles, ac ail ddinas weinyddol y wlad. Fe'i lleolir yn département Rhône yn région Rhône-Alpes, ger y fangre lle mae Afon Rhône ac Afon Saône yn cwrdd. Gelwir trigolion y ddinas yn Lyonnais.

Manafon

Pentref a phlwyf gwledig ym Mhowys, Cymru, yw Manafon. Fe'i lleolir yng ngogledd y sir yn ardal Maldwyn, 2 filltir a hanner i'r de o bentref Llanfair Caereinion ac 8 milltir i'r gorllewin o'r Trallwng ar lôn y B4390.

Saif Manafon ar ddwy lan Afon Rhiw mewn ardal o fryniau isel coediog a ffermydd ar wasgar. Mae'r plwyf yn rhan o Esgobaeth Llanelwy. Mae eglwys y plwyf, a gysegrwyd i Sant Mihangel, yn bur hynafol.

Reims

Mae Reims yn ddinas hynafol ym Marne i'r dwyrain o Paris yng ngogledd Ffrainc.

Reims oedd prif ddinas y dalaith Rufeinig Gallia Belgica. Sefydlwyd esgobaeth yno yn O.C. 200. Bedyddiwyd y brenin Clovis yno yn 496 gan sefydlu traddodiad brenhinol. Rhwng 1548 a 1793 roedd hen brifysgol Reims yn ganolfan dysg. Dioddefodd yr hen ddinas gryn ddifrod yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf ond goroesodd yr eglwys gadeirol, sy'n dyddio o'r 13g a sawl adeilad hanesyddol arall. Yn ninas Reims arwyddodd y Wehrmacht ei ildiad ar y 7 Mai, 1945.

Swydd Durham

Swydd seremonïol yng Ngogledd-ddwyrain Lloegr yw Swydd Durham (neu Caerweir) (Saesneg: Durham neu County Durham). Ei chanolfan weinyddol yw Durham. Mae trefi pwysig eraill yn y swydd yn cynnwys Consett, Stanley, Chester-le-Street, Bishop Auckland (Auclud-yr-Esgob), Barnard Castle, Crook ac Easington. Yn y gorffennol roedd Gateshead, Sunderland, De Tyneside, Darlington, Stockton a Hartlepool yn ffurfio rhannau o'r swydd. Mae'r dir yn ffinio â Chumbria, Northumberland a Gogledd Swydd Efrog.

Durham yw sedd trydydd brifysgol Lloegr ar ôl Rhydychen a Chaergrawnt.

Mae Swydd Durham yn rhan o Esgobaeth Gatholig Hexham a Newcastle, ac Esgobaeth Anglicanaidd Durham. Heddlu'r swydd yw Heddlu Caerweir gyda phencadlys yn Aykley Heads ar bwys Durham.

Tyddewi

Tyddewi (Mynyw mewn Cymraeg Canol, o'r enw lle Lladin Menevia; St David's yn Saesneg) yw dinas leiaf Cymru a sedd esgobaeth Tyddewi. Mae yng nghymuned Tyddewi a Chlos y Gadeirlan, o ran llywodraeth leol. Yn ôl traddodiad fe'i sefydlwyd gan Dewi Sant yn y 6g. Mae Eglwys Gadeiriol Tyddewi yn dominyddu'r dref.

Cynrychiolir yr ardal hon yn y Cynulliad Cenedlaethol gan Paul Davies (Ceidwadwyr) a'r Aelod Seneddol yw Stephen Crabb (Ceidwadwr).

Würzburg

Dinas yng ngogledd-orllewin talaith Bafaria yn yr Almaen a phrifddinas ardal Unterfranken yw Würzburg. Saif ar Afon Main, ac roedd y boblogaeth yn 134,225 2007.

Ymhlith adeiladau nodedig y ddinas, mae labordy Wilhelm Röntgen lle darganfuwyd Pelydr X, a phalas y Tywysog-Esgob sydd ar restr Safleoedd Treftadaeth y Byd. Sefydlwyd yr esgobaeth yn 742 gan Sant Bonifatius. Sefydlwyd y brifysgol, yr hynaf ym Mafaria, yn 1402.

Yr Eglwys yng Nghymru

Y gangen Gymreig o'r Eglwys Anglicanaidd yw'r Eglwys Yng Nghymru. Datgysylltwyd Yr Eglwys yng Nghymru oddi wrth Eglwys Loegr ar 31 Mawrth 1920, dan Ddeddf yr Eglwys Gymreig (1914). Mae'r corff yn berchen ar bron i 1,400 o eglwysi yng Nghymru mewn dros 900 o blwyfi. Diffinia ei hun fel, "eglwys hynafol y tir hwn... sy'n gafael yn dynn yn yr athrawiaeth a'r weinidogaeth o un Eglwys gatholig ac efengylaidd.".John Davies yw Archesgob Cymru er 2017, a bu'n Esgob Abertawe ac Aberhonddu er 2008.Mae'r Eglwys yng Nghymru yn cydnabod Archesgob Caergaint fel canolbwynt undod, ond nid oes ganddo awdurdod dros yr Eglwys yng Nghymru.

Ieithoedd eraill

This page is based on a Wikipedia article written by authors (here).
Text is available under the CC BY-SA 3.0 license; additional terms may apply.
Images, videos and audio are available under their respective licenses.