Economeg

Astudiaeth o'r ffyrdd y caiff nwyddau a gwasanaethau eu cynhrchu, eu dosbarthu a'u defnyddio yw economeg. Mae'n disgrifio'r prosesau hyn yn nhermau y gwahaniaeth rhwng cystadlaethau gwahanol fel y'i gwelir trwy fesuriadau megis mewnbwn, pris ac allbwn.

Mae sawl agwedd i'r pwnc yma ac mae ganddo gysylltiad cryf â gwleidyddiaeth.

GDP nominal per capita world map IMF 2008
Cynnyrch mewnwladol crynswth (Saesneg: GDP): yr ystadegau gan yr IMF[1]

Cyfeiriadau

  1. [1]

Gweler hefyd

Gwyddorau cymdeithas
Addysg | Anthropoleg | Cymdeithaseg | Daearyddiaeth ddynol | Economeg
Gwyddor gwleidyddiaeth | Hanes | Ieithyddiaeth | Rheolaeth | Seicoleg
Arian

Gall arian olygu:

arian (elfen), metel gwerthfawr

arian (economeg), cyfrwng cyfnewidfa

arian bath

arian papur

arianeg, cangen o economeg

rhan o enw'r Ariannin

Arianneg

Gwyddor codi cyllid a'i wario yw arianneg. Mae unigolion, cwmnïau, a llywodraethau yn benthyg neu'n gwerthu ecwiti os nad oes digon o gyllid ganddynt i dalu am wariannau, i dalu dyledion, neu ar gyfer gweithrediadau ariannol eraill. Mae cynilwyr a buddsoddwyr yn cronni cyllid i ennill llog neu ddifidendau. Yn ganolog i faes arianneg mae'r broses o symud cyllid ar ffurf credyd, benthyciadau, neu gyfalaf buddsodd i endidau economaidd sydd angen cyllid neu fydd yn gwneud defnydd da ohonno. Gelwir sefydliadau sy'n symud cyllid o gynilwyr i ddefnyddwyr yn ganolwyr ariannol, ac maent yn cynnwys banciau masnachol, banciau cynilo, cymdeithasau cynilo a benthyg, undebau credyd, cwmnïau yswiriant, cronfeydd pensiwn, cwmnïau buddsoddi, a chwmnïau ariannol.

Banc

Sefydliad cyllidol yw bancwr neu fanc sy'n actio fel asiant talu ar gyfer cwsmeriaid, ac yn rhoi benthyg ac yn benthyg arian. Yn rhai gwledydd, megis yr Almaen a Siapan, mae banciau'n brif berchenogion corfforaethau diwydiannol, tra mewn gwledydd eraill, megis yr Unol Daleithiau, mae banciau'n cael eu gwahardd rhag bod yn berchen ar gwmniau sydd ddim yn rhai cyllidol.

Busnes

Sefydliad masnachol sy'n darparu nwyddau a gwasanaethau ar gyfer treulwyr yw busnes neu ffyrm. Mewn system economaidd gyfalafol mae'r mwyafrif o fusnesau yn rhan o'r sector preifat, ond ceir hefyd busnesau di-elw a busnesau a berchenogir gan y llywodraeth.

Cyfalafiaeth

System ecomonaidd sy'n seiliedig ar unigolion, cwmnïau neu gorfforaethau yn berchen ar eiddo neu gyfalaf (arian neu stoc wrth gefn) yw cyfalafiaeth. Mae perchnogaeth preifat weithiau'n cael ei ddefnyddio i olygu perchnogaeth unigol, er y gellir defnyddio'r term "preifat" i gyfeirio at berchnogaeth ar y cyd ar ffurf perchnogaeth gorfforaethol hefyd. Felly, yn y cyd-destun yma, fe olygai "bod o dan berchnogaeth breifat" rywbeth nad yw o dan berchnogaeth na reolaeth y wladwriaeth ac sy'n cael ei redeg er mwyn gwneud elw.

Y gwrthwyneb i gyfalafiaeth yw Comiwnyddiaeth, sy'n seiliedig ar feirniadaeth gymdeithasol ac economaidd Karl Marx ar gyfalafiaeth yn ei lyfr Das Kapital.

Cynnyrch mewnwladol crynswth

Term economaidd yw cynnyrch mewnwladol crynswth, neu CMC (neu'n rhyngwladol GDP), sy'n golygu gwerth y farchnad yr holl nwyddau a gwasanaethau terfynol a gynhyrchir mewn gwlad o fewn cyfnod o amser penodol (blwyddyn fel arfer). Ceir sawl rhestr o GDP gwledydd y byd, gan gynnwys rhestrau'r International Monetary Fund, World Bank a'r Cenhedloedd Unedig.

Yn 2019 roedd GDP y pen Cymru yn 32fed gorau, drwy'r byd, tua'r un safle a Sbaen, Coweit (Kuwait) a Malta. Yn ôl rhestr yr IMF, mae gan 4 allan o'r 10 gwlad mwyaf llwyddiannus (hy GDP y pen uchaf) boblogaeth llai na Chymru (Macau, Gwlad yr Iâ, Qatar a Lwcsembwrg).

Dyma dabl o GDP rhai gwledydd, wedi'u trefnu yn ôl GDP Nominal y pen, gyda'r gwledydd cyfoethocaf ar y brig. Mae'r tabl yn tynnu gwybodaeth o Wicidata, felly, mae'r data'n diweddaru'n flynyddol.

Diwydiant

Yn gyffredinol, mae diwydiant yn grŵp o fusnesau sydd yn rhannu dull tebyg o gynhyrchu elwau.Caiff diwydiant ei rannu gan economegwyr yn bedwar sector:

Diwydiant cynradd — cael deunyddiau crai o'r ddaear, e.e. mwyngloddio, ffermio,

Diwydiant eilaidd — gweithgynhyrchu, e.e. ffatri ceir,

Diwydiant trydyddol — gwasanaethau, e.e. addysg, meddygaeth,

Diwydiant cwaternaidd — gwaith ymchwil a gwyddonol.

Economegydd

Person proffesiynol ym maes economeg ydy economegydd. Gall yr unigolyn astudio, datblygu a defnyddio damcaniaethau a chysyniadau economegol ac ysgrifennu am bolisi economaidd. O fewn y ddisgyblaeth hon, ceir nifer o is-feysydd, sy'n amrywio o ddamcaniaethau athronyddol eang i astudiaeth benodol o fewn marchnadoedd penodol, dadansoddi macro-economaidd neu dadansoddi cyfriflenni ariannol, yn cynnwys dulliau ac offer dadansoddol megis econometreg, ystadegaeth, economeg, modelau cyfrifiannu, economeg ariannol, ariannu mathemategol ac economeg fathemategol.

Economi

System gwaith dynol sy'n ymwneud â chynhyrchiad, dosbarthiad, cyfnewid, a threuliant nwyddau a gwasanaethau mewn gwlad neu ryw fath o ardal neu ranbarth arall yw economi. Mae economi gwledydd y byd yn ddibynol ar ei gilydd, bellach. Mae economi Cymru, fel pob gwlad arall, wedi newid dros y blynyddoedd ac wedi ei effeithio gan ddylanwadau o'r tu allan e.e. Argyfwng economaidd 2008–presennol a Cronfa Ariannol Ryngwladol (yr IMF).

Ffeministiaeth

Mudiadau gwleidyddol, celfyddydol, ac economeg sy'n ceisio hawliau a chydraddoldeb i ferched ydy ffeministiaeth. Mae'r hawliau hyn yn cynnwys yr hawl i gael eu cynnwys a'u gwarchod gan y gyfraith o fewn cymdeithas, o fewn byd y gyfraith, busnes, addysg. Gellir edrych arno fel rhan neu ymsetyniad o hawliau dynol.

Dros y blynyddoedd defnyddiwyd llawer o ymgyrchoedd gwahanol ac ymfflamychol i newid yr ogwydd tuag at gydraddoldeb. Gall y gair "ffeminist" gyfeirio at berson o'r naill ryw neu'r llall, sy'n credu mewn daliadau ffeministiaeth.

Gwleidydd

Gwleidydd ydy rhywun sy'n cymryd rhan weithgar mewn gwleidyddiaeth fel gyrfa neu alwedigaeth, neu un sy'n cymryd rhan mewn llywodraeth gwladwriaeth.

ISO 4217

Safon ar gyfer codau tair llythyren rhyngwladol yw ISO 4217 i gyfleu ariannau cyfredol gwahanol wledydd y byd.

Mynegai Datblygiad Dynol

Mae'r Mynegai Datblygiad Dynol yn mesur disgwyliad bywyd, llythrennedd, addysg a safon byw yng ngwledydd y byd. Datblygwyd y mesur yma yn 1990 gan Amartya Sen o India a Mahbub ul Haq o Bacistan.

Cyhoeddwyd yr adroddiad yn Ne Affrica ar 9 Tachwedd 2006. Roedd yn dangos gwelliant yn y gwledydd datblygedig ond dirywiad mewn llawer o wledydd sy'n datblygu.

Mae sgôr dan 0.5 yn dangos lefel isel o ddatblygiad. O'r 31 gwlad yn y categori yma, mae 29 yn Affrica; yr eithriadau yw Haiti a Yemen. Mae sgôr o 0.8 neu fwy yn dangos gwlad sydd a lefel uchel o ddatblygiad. Norwy oedd ar y brig yn 2006.

Paredd gallu prynu

Ffordd o gymharu prisiau nwyddau gwledydd gwahanol ac felly cymharu eu cyfraddau cyfnewid yw paredd gallu prynu (Saesneg: Purchasing power parity), neu PGP.

Rhestr llyfrau Cymraeg

Mae'r rhestr llyfrau Cymraeg hon yn rhestru'r llyfrau Cymraeg a dwyieithog a gedwir ar gronfa ddata Cyngor Llyfrau Cymru. Sefydlwyd y gronfa ym 1996 a chynhwysir pob llyfr oedd ar gael ar y pryd a phob llyfr sydd wedi ymddangos ers hynny. Gwelir fod rhai peth gwybodaeth ar goll mewn mannau ac mae croeso i chi lenwi'r blychau gwag! Mae'r rhif mewn cromfachau'n cyfeirio at y nifer o lyfrau a oedd wedi'u cyhoeddi rhwng c. 1996 a 2013.

Mae manylion o dros 12,000 o lyfrau ar y rhestr hyn ac rydym, felly, wedi gorfod eu dosbarthu o ran genres neu math o lyfr a hynny yn nhrefn yr Wyddor:

Amrywiol (70)

Astudiaethau a Thestunau Llenyddol (391)

Atgofion a Hunangofiannau (280)

Athroniaeth, Gwleidyddiaeth, Cymdeithaseg, Economeg a'r Gyfraith (104)

Barddoniaeth (445)

Bywgraffiadau a Chofiannau (228)

Catalogau, Llyfryddiaethau a Rhestrau (28)

Cerddoriaeth, Caneuon, Caneuon Poblogaidd (303)

Crefydd, Hanes Crefydd (362)

Cyfansoddiadau a Thestunau Eisteddfod (62)

Deunydd Addysgol (mewn tair rhan) (3,146)

Diddordebau, Chwaraeon, Hamdden, Coginio (162)

Dramâu, Sgetsys, Pantomeimiau (142)

Dysgwyr gweler hefyd Iaith, Gramadeg a Geiriaduron (116)

Hanes, Hanes Lleol, Arferion Gwlad, Llên Gwerin (513)

Iaith, Gramadeg a Geiriaduron (265)

Natur, Daearyddiaeth, Daeareg (73)

Nofelau a Storïau ar Gyfer Oedolion (659)

Plant (Cerddi, Storïau) (2,088)

Plant (Llyfrau Cyfair) (715)

Plant a Phobl Ifainc (Nofelau a Storïau) (1,455)

Taith, Twristiaeth, Teithlyfrau (193)

Ysgrifau a Sgyrsiau (153)

Tokyo

Prifddinas Japan a dinas fwyaf y wlad yw Tōkyō ( ynganiad Siapaneg , 東京, Tokyo neu Tocio yn Gymraeg). Fe'i lleolir yn nwyrain canolbarth ynys Honshu, ar lan y Cefnfor Tawel. Daw rhannau helaeth o daleithiau cyfagos Tokyo ynghyd i ffurfio Ardal Tokyo Fwyaf, un o ardaloedd dinesig mwyaf poblog y byd gyda phoblogaeth o tua 36 miliwn yn 2010 . Er mai ffigwr llai o tua 12 miliwn o bobl sydd yn byw yn Tokyo ei hun fe ddaw miloedd o bobl yno i weithio neu astudio yn ystod y dydd. Mae'r dref yn ganolfan wleidyddol, economeg, diwylliannol ac academaidd i'r wlad ac mae'r Tenno, Ymerawdwr Japan, yn byw yng nghanol y ddinas.

Fw ddaw'r enw o gyfuno Tō- (dwyrain) a -kyō (prifddinas) i greu 'Prifddinas Ddwyreiniol'. Roedd prifddinasoedd eraill yn bod cyn Tokyo, er enghraifft Kyoto a Nara yn ardal Kansai.

Yr Undeb Sofietaidd

Gwladwriaeth Sosialaidd un-blaid yng ngogledd Ewrasia o 1922 i 1991 oedd yr Undeb Sofietaidd (Rwsieg: Союз Советских Социалистических Республик (CCCP) Soyuz Sovetskikh Sotsialisticheskikh Respublik (SSSR)). Llywodraethwyd y wlad gan y Blaid Gomiwnyddol (КПСС) a hynny o Fosgo, prifddinas yr Undeb Sofietaidd. Er mai undeb o nifer o weriniaethau llai oedd yr Undeb Sofietaidd roedd ei lywodraeth wedi'i ganoli'n llwyr ym Mosgo. Y mwyaf o'r gweriniaethau hyn oedd "Rwsia", o ran maint, poblogaeth, economeg a dylanwad gwleidyddol. Yn achlysurol, newidiai ei ffiniau ac roedd o ran maint ei harwynebedd bron mor fawr ag Ymerodraeth Rwsia heb Wlad Pwyl a'r Ffindir.

Ysgol Economeg Llundain

Coleg o fewn Prifysgol Llundain yn Llundain, Lloegr, yw Ysgol Economeg Llunain, yn llawn Ysgol Economeg a Gwyddor Gwleidyddiaeth Llundain (Saesneg: London School of Economics and Political Science) neu'r LSE. Fe'i hystyrir fel un o ysgolion blaenllaw y byd mewn astudiaeth gwyddorau cymdeithas.

Ieithoedd eraill

This page is based on a Wikipedia article written by authors (here).
Text is available under the CC BY-SA 3.0 license; additional terms may apply.
Images, videos and audio are available under their respective licenses.