Diwylliant

Credoau, iaith, ymddygiadau, a holl ffordd o fyw grŵp benodol o bobl mewn cyfnod penodol o amser yw diwylliant. Mae'r cysyniad o ddiwylliant yn cynnwys traddodiadau ac arferion, crefydd a chred, seremonïau, gwyliau a dathliadau, technoleg a dyfeisiadau, a chelfyddydau.

Ym maes anthropoleg gall y gair ddynodi grŵp o bobloedd sy'n rhannu nodweddion diwylliannol, megis iaith, arddulliau esthetaidd, crefydd a mytholeg, moddion byw, arferion economaidd, offer, arfau, serameg, pensaernïaeth, ac yn y blaen. Gall diwylliant gynnwys nifer o wahanol grwpiau ethnig ac yn berchen ar awdurdod canolog o natur wleidyddol neu ysbrydol, sy'n ymledu ffurfiau diwylliannol cyffredin sy'n uniaethu profiad ac hunaniaeth yr holl bobl.[1]

Gweler hefyd

Cyfeiriadau

  1. Mackenzie, John M. Peoples, Nations and Cultures: An A-Z of the Peoples of the World, Past and Present (Weidenfeld & Nicolson, Llundain, 2005), t. 13.
Biografisch Portaal van Nederland

Bywgraffiadur ar-lein o bobl hanesyddol yr Iseldiroedd yw'r Biografisch Portaal van Nederland ("Porth Bywgraffiadol yr Iseldireodd"). Lansiwyd y wefan, sy'n gydweithrediad gan ddeg sefydliad diwylliannol a gwyddonol, ar 17 Chwefror 2010 â gwybodaeth am dros 40,000 o bobl hanesyddol. Mae'r ffigwr hwn bellach wedi dyblu i dros 80,000.

Brasil

Gwlad fwyaf De America yw Brasil (Portiwgaleg: Brasil), Gweriniaeth Ffederal Brasil yn swyddogol (Portiwgaleg: República Federativa do Brasil). Wrwgwái, Ariannin, Paragwâi, Bolifia, Periw, Colombia, Feneswela, Gaiana, Swrinam, a Guiana Ffrengig yw'r gwledydd cyfagos, gyda Chefnfor Iwerydd yn gorwedd i'r dwyrain. Mae amaethyddiaeth yn bwysig ym Mrasil ac mae ynddi fforestydd glaw eang.

Croatia

Gweriniaeth yn ne-ddwyrain Ewrop ar lan y Môr Canoldir yw Gweriniaeth Croatia neu Croatia (Croateg: Republika Hrvatska ). Mae'n gorwedd yn y Balcanau gan ffinio â Slofenia, Hwngari, Serbia a Bosnia-Hertsegofina. Y brifddinas yw Zagreb.

Cyfraith hawlfraint yr Unol Daleithiau

Mae Cyfraith hawlfraint yr Unol Daleithiau yn ymgais i hybu'r celfyddydau a diwylliant y wlad drwy wobrwyo awduron ac artistiaid gydag hawliau detholedig.

Mae cyfreithiau hawlfraint Ffederal yn caniatáu hawliau detholedig i awduron ac artistiaid i wneud a gwerthu copiau o'u gwaith yn ogystal â'r hawl i addasu'r gwaith hwnnw a'r hawl i berfformio neu arddangos eu gwaith yn gyhoeddus. Mae'r hawliau hyn i gyd yn ddarostyngedig i gyfnod penodol o amser, sydd fel arfer yn dod i ben ar ôl 70 mlynedd ar ôl marwolaeth yr awdur neu'r artist.

Mae deddf hawlfraint U.D.A. yn cael ei reoli a'i ddiffinio gan Ddeddf Hawlfaraint 1976. Mae'r cyfansoddiad yn caniatáu i'r Gyngres y pwerau i greu deddfau sy'n ymweneud a hawlfraint. Mae ganddi'r pwer i:

To promote the Progress of Science and useful Arts, by securing for limited Times to Authors and Inventors the exclusive Right to their respective Writings and Discoveries. Article 1, Section 8, Clause 8, (the Copyright Clause)

Mae Swyddfa Hawlfraint Unol Daleithiau'r America yn gyfrifol am gofrestru perchnogaeth hawlfraint, cofnodi trosglwyddiad hawlfraint a materion eraill.

Cymru

Gweler hefyd Cymru (gwahaniaethu).Mae Cymru (hefyd Saesneg: Wales) yn wlad Geltaidd. Gyda'r Alban, Cernyw, Gogledd Iwerddon a Lloegr, mae Cymru'n rhan o'r Deyrnas Unedig. Lleolir y wlad yn ne-orllewin gwledydd Prydain gan ffinio â Lloegr i'r dwyrain, Môr Hafren a Môr Iwerydd i'r gogledd a'r gorllewin. Cymru yw tywysogaeth fwyaf y byd, ond bellach nid yw'r term "tywysogaeth" yn cael ei defnyddio'n aml i'w disgrifio. Cymraeg yw iaith frodorol y wlad ond siaredir Saesneg gan y cyfan o'i dinasyddion erbyn heddiw; gall oddeutu 19% o'i phoblogaeth siarad Cymraeg.

Dulyn

Prifddinas Gweriniaeth Iwerddon a'i dinas fwyaf yw Dulyn (Gwyddeleg: Baile Átha Cliath; Saesneg: Dublin). Mae'r enw yn gyfieithiad o'r Wyddeleg "dubh linn" ("pwll du"). Mae wedi'i lleoli ar arfordir dwyreiniol Iwerddon, ar aber Afon Life ac yng nghanol Rhanbarth Dulyn. Fe'i sefydlwyd gan y Llychlynwyr yn 988 ac mae'n brifddinas Iwerddon ers yr Oesoedd Canol. Erbyn heddiw, rhestir y ddinas fel y degfed ar Fynegai Canolfannau Ariannol y Byd ac mae ei phoblogaeth yn tyfu gyda'r cyflymaf yn Ewrop. Mae Dulyn yn ganolbwynt hanesyddol a diwylliant cyfoes Iwerddon, yn ogystal â bod yn ganolfan fodern ar gyfer addysg, y celfyddydau, yr economi a diwydiant. Mae'n ganolfan weinyddol Swydd Dulyn.

Roedd poblogaeth y ddinas weinyddol yn 505,739 yn ôl cyfrifiad 2006, ond roedd poblogaeth yr ardal drefol gyfan, yn cynnwys y maestrefi gerllaw, yn 1,186,159.

Gwlad Belg

Gwlad yng ngorllewin Ewrop yw Teyrnas Gwlad Belg neu Gwlad Belg (Iseldireg: België; Ffrangeg: Belgique; Almaeneg: Belgien). Mae hi'n ffinio â'r Iseldiroedd, yr Almaen, Lwcsembwrg, Ffrainc a Môr y Gogledd.

Mae'r wlad yn fan cyfarfod rhwng y diwylliant Tiwtonaidd a'r diwylliant Ffrengig. Siaredir Iseldireg yng ngogledd y wlad, Ffrangeg yn y de, ac Almaeneg mewn rhannau o'r de-ddwyrain. Ar adegau, mae cryn dyndra wedi datblygu rhwng y ddwy brif garfan ieithyddol. Ceisiwyd delio a'r sefyllfa yma trwy sefydlu rhanbarthau ac ardaloedd ieithyddol o fewn gwladwriaeth ffederal Gwlad Belg.

Gwlad Groeg

Gweriniaeth yn ne-ddwyrain Ewrop yw'r Weriniaeth Helenaidd neu Gwlad Groeg. Gwledydd cyfagos yw Albania, Gweriniaeth Macedonia, Bwlgaria a Thwrci. I'r gogledd mae'r Môr Egeaidd ac i'r de a'r dwyrain Môr Ionia a'r Môr Canoldir.

Ystyrir Groeg gan lawer fel crud diwylliant y Gorllewin a man geni democratiaeth, athroniaeth orllewinol, campau chwaraeon, llenyddiaeth orllewinol, gwleidyddiaeth a drama. Mae ganddi hanes hir a chyfoethog. Ymunodd â'r Undeb Ewropeaidd yn 1981 a chyflwynwyd yr ewro fel arian y wlad yn 2001.

Yn Olympia gwlad Groeg y cynhaliwyd y Gemau Olympaidd Gwreiddiol o 776 CC hyd 393 OC. Yn 2004 cynhaliwyd y Gêmau Olympaidd Modern yn Athen.

Gwlad Pwyl

Gweriniaeth yng nghanolbarth Ewrop yw Gweriniaeth Gwlad Pwyl neu Gwlad Pwyl. Mae'n ffinio ar Yr Almaen yn y gorllewin, Gweriniaeth Tsiec a Slofacia yn y de, Yr Wcráin a Belarws yn y dwyrain, a Lithwania a Rhanbarth Kaliningrad, sy'n rhan o Rwsia, yn y gogledd. Mae Gwlad Pwyl ar lan y Môr Baltig. Warszawa (Warsaw) yw'r brifddinas. Mae Gwlad Pwyl yn Yr Undeb Ewropeaidd ac yn aelod o NATO.

Kiev

Kiev (Kyiv) yw prifddinas Wcrain. Saif ar afon Dnieper.

Dan drefn yr Undeb Sofietaidd roedd Kiev yn brifddinas Gweriniaeth Sofietaidd Wcrain hyd at 1991. Yn y ddinas y digwyddodd y "Chwyldro Oren" yn 2004, gwrthryfel am newid y llywodraeth. Viktor Yushchenko a enillodd yr etholiad yn 2005.

Moroco

Gwlad yng ngogledd-orllewin Affrica yw Teyrnas Moroco neu Moroco. Mae Cefnfor Iwerydd yn gorwedd i'r gorllewin a'r Môr Canoldir i'r gogledd. Mae Moroco'n ffinio ag Algeria i'r dwyrain ac mae'n hawlio Gorllewin Sahara i'r de.

Moroco yn Arabeg yw المغرب al-maghrib (machlud yr haul). Yr enw llawn yw المملكة المغربية al-mamlaca al-maghribîa (teyrnas machlud yr haul). Mae'r gair Moroco yn dod o "Morocco City", enw arall am Marrakech.

Oes yr Efydd

Cyfnod sydd yn dilyn Oes y Cerrig mewn llawer o wledydd pan ddefnyddid y metel efydd oedd Oes yr Efydd a cham-enwir yn "Yr Oes Efydd" weithiau yn Gymraeg. Ar ôl Oes yr Efydd daeth Oes yr Haearn.

Mae efydd yn aloi o gopr. Arfau milwrol ac offer ydyw'r rhan fwayf o olion y cyfnod hwn, ond mae nifer o arteffactau defodol wedi goroesi hefyd.

Pacistan

Gwlad yn ne Asia yw Gweriniaeth Islamaidd Pakistan neu Pakistan (hefyd Pacistan). Y gwledydd cyfagos yw India i'r dwyrain, Iran i'r gorllewin, Affganistan i'r gogledd-orllewin a Gweriniaeth Pobl Tsieina (Tibet) i'r gogledd. Mae ar arfordir Môr Arabia yn y de. Mae mwy na 150 miliwn o bobl yn byw yn y wlad, y mwyafrif ohonynt yn Fwslemiaid. Islamabad yw prifddinas y wlad.

Paris

Erthygl am y ddinas yw hon. Gweler hefyd Région Parisienne (Île-de-France). Am ystyron eraill, gweler Paris (gwahaniaethu).Prifddinas a dinas fwyaf Ffrainc yw Paris. Mae hi ar un o ddolenni Afon Seine, ac felly wedi ei rhannu yn ddwy: y lan dde i'r gogledd a'r lan chwith i'r de o'r afon. Mae'r afon yn enwog am ei quais (llwybrau gyda choed ar hyd y glannau), bythod llyfrau awyr agored a hen bontydd dros yr afon. Mae'n enwog hefyd am ei rhodfeydd, er enghraifft y Champs-Élysées, a llu o adeiladau hanesyddol eraill.

Mae tua 2 filiwn o bobl yn byw yn y ddinas (2013: 2,229,621 o drigolion), ond mae tua 11 miliwn o bobl yn byw yn Ardal y Brifddinas (aire urbaine de Paris yn Ffrangeg; 2013: 12,405,426 o drigolion), sy'n llenwi tua 90% o arwynebedd rhanbarth Île-de-France. Yn ogystal mae Paris yn un o départements Ffrainc.

Philadelphia

Gweler hefyd Philadelphia (gwahaniaethu).Dinas fwyaf Pennsylvania a'r chweched mwyaf o ran poblogaeth yn Unol Daleithiau America yw Philadelphia. Mae'n gorwedd yn Swydd Philadelphia, ac yn gwasanaethu fel sedd llywodraeth y swydd honno. Ei enw ar lafar yw "Dinas Brawdgarwch" (Saesneg: "the City of Brotherly Love") (Groeg: Φιλαδέλφεια, philadelphia, "brawdgarwch," o'r gair philos "cariad" ac adelphos "brawd").

Yn 2005 roedd ganddi boblogaeth o 1.4 million. Mae Philadelphia yn un o ganolfannau masnach, addysg, a diwylliant pwysicaf yr Unol Daleithiau. Yn 2006 amcangyfrifwyd fod gan ardal ddinesig Philadelphia boblogaeth o 5.8 miliwn, y bumed fwyaf yn UDA.

Yn y 18g, roedd Philadelphia y ddinas fwyaf poblog yn y wlad. Mae'n debyg iddi fod yr ail fwyaf poblog, ar ôl Llundain, yn yr Ymerodraeth Brydeinig. Y pryd hynny roedd yn bwysicach na dinasoedd Boston a Dinas Efrog Newydd yn nhermau dylanwad gwleidyddol a chymdeithasol, gyda Benjamin Franklin yn chwarae rhan bwysig yn ei goruchafiaeth. Philadelphia oedd canolbwynt cymdeithasol a daearyddol yr 13 gwladfa Americanaidd gwreiddol. Yno yn anad unlle arall y ganwyd y Chwyldro Americanaidd a arweiniodd at greu'r Unol Daleithiau.

Slofenia

Gwlad yn ne-ddwyrain Ewrop yw Gweriniaeth Slofenia neu Slofenia. Y gwledydd cyfagos yw yr Eidal, Croatia, Hwngari ac Awstria. Saif ar lan y Môr Adria.

Sweden

Un o wledydd Llychlyn, yng ngogledd Ewrop, yw Teyrnas Sweden neu Sweden (Swedeg, Sverige). Er ei bod yn un o wledydd mwyaf Ewrop o ran arwynebedd, yn mesur 450,000 cilometr sgwâr, mae'r boblogaeth yn gymharol isel ac wedi ei chrynhoi yn y trefi a'r dinasoedd ar y cyfan. Stockholm yw'r brifddinas.

Y Celtiaid

Erthygl am y bobl yw hon; am y grŵp gwerin, gweler Celt (band).

Defnyddir y term y Celtiaid gan haneswyr ac archeolegwyr am bobl a oedd yn byw ar draws ardal eang yn cynnwys canolbarth a gorllewin Ewrop, gyda rhai pobloedd yn ymestyn cyn belled ag Asia Leiaf. Defnyddir y term hefyd am genhedloedd modern sy'n siarad iaith Geltaidd neu a oedd yn siarad iaith Geltaidd hyd yn weddol ddiweddar. Mae tebygrwydd yn dal i'w weld yn ieithoedd Celtaidd a diwylliant Celtaidd y bobloedd hyn heddiw, yn enwedig rhwng y tair iaith Frythoneg (Cymraeg, Llydaweg, a Chernyweg) a rhwng y tair iaith Oideleg (Gaeleg, Gwyddeleg, a Manaweg).

Mae'r diffiniad o "Gelt" yn bwnc dadleuol iawn, rhywbeth sy'n wir am Geltiaid yr hen-fyd a'r Celtiaid modern. Awgryma llawer o'r cyfeiriadau at Geltiaid yn yr hen-fyd gan awduron Groegaidd eu bod yn byw i'r gogledd o drefedigaeth Roegaidd Massalia (Marseille heddiw) yng Ngâl, ond mae rhai awduron i bob golwg yn eu lleoli yng nghanolbarth Ewrop. Dywed Herodotus eu bod yn byw o gwmpas tarddle Afon Donaw; ond mae'n eglur ei fod ef yn credu fod Afon Donaw yn tarddu lawer ymhellach i'r gorllewin nag y mae mewn gwirionedd. Lleolir y Celtiaid yng Ngâl gan y rhan fwyaf o awduron Rhufeinig; dywed Iŵl Cesar fod y bobl oedd yn eu galw eu hunain yn "Geltiaid" yn eu hiaith eu hunain yn byw yng nghanolbarth Gâl.

Dechreuodd y defnydd modern o'r term "Celtaidd" yn y 18g pan ddangosodd Edward Lhuyd fod ieithoedd megis Cymraeg, Llydaweg a Gwyddeleg yn perthyn i'w gilydd. Rhoddodd yr enw "ieithoedd Celtaidd" arnynt. Yn ddiweddarach, yn gam neu'n gymwys, cysylltwyd y Celtiaid a diwylliannau yn yr ystyr archeolegol sy'n cynnwys y diwylliant Hallstatt a diwylliant La Tène. Ystyria'r mwyafrif o ysgolheigion fod y "byd Celtaidd" yn yr hen-fyd yn cynnwys Celt-Iberiaid (Portiwgal a Sbaen heddiw, gan gynnwys Galicia), trigolion Prydain ac Iwerddon, y Galiaid yng Ngâl (Ffrainc, gogledd yr Eidal, y Swistir a'r cylch) a'r Galatiaid (Asia Leiaf: Twrci heddiw). Mae rhai ysgolheigion yn dadlau na ddylid ystyried trigolion Prydain ac Iwerddon fel Celtiaid yn yr ystyr yma.

Y gwledydd a ystyrir yn "wledydd Celtaidd" heddiw fel rheol yw'r chwe chenedl Geltaidd yng ngogledd-orllewin Ewrop - yr Alban, Cernyw, Cymru, Iwerddon, Ynys Manaw, a Llydaw. Mae nifer o daleithiau neu ardaloedd mewn gwledydd eraill hefyd yn hawlio etifeddiaeth Geltaidd, yn arbennig Galicia ac Asturias yn Sbaen.

Y Ffindir

Mae Gweriniaeth y Ffindir, neu'r Ffindir ( Ffinneg: Suomi; Swedeg: Finland ), yn wlad yng ngogledd Ewrop, sy'n gorwedd rhwng Rwsia i'r dwyrain a Sweden i'r gorllewin. Mae ganddi dros gan mil o lynoedd, a nifer tebyg o ynysoedd. Y brifddinas yw Helsinki.

Ieithoedd eraill

This page is based on a Wikipedia article written by authors (here).
Text is available under the CC BY-SA 3.0 license; additional terms may apply.
Images, videos and audio are available under their respective licenses.