David Ricardo

Economegydd o Sais yn yr ysgol glasurol oedd David Ricardo (18 Ebrill 177211 Medi 1823). Gan adeiladu ar waith arloesol Adam Smith, llwyddodd Ricardo i osod sail i wyddor economeg yn y 19g, a datblygu syniadaeth laissez-faire parthed rhan y llywodraeth yn yr economi.

Ganwyd David Ricardo yn Llundain, ac ef oedd y trydydd mab i rieni o Iddewon Seffardig a ymfudasant o'r Iseldiroedd i Loegr. Ymunodd â busnes ei dad ar Gyfnewidfa Stoc Llundain yn 14 oed, ac yn 20 oed fe ddaeth yn frocer stoc. O fewn pum mlynedd, llwyddodd David i ennill ffortiwn iddo'i hun, er iddo bechu yn erbyn ei dad gan droi'n Undodwr a phriodi Crynwraig. Trodd ei sylw at lenyddiaeth a'r gwyddorau, yn enwedig mathemateg, cemeg, a daeareg. Wedi iddo ddarllen The Wealth of Nations gan Adam Smith yn 1799, dechreuodd Ricardo ymddiddori yn economeg wleidyddol. Fe dreuliodd ddeng mlynedd yn astudio materion economaidd ac ariannol. Ysgrifennodd sawl pamffled, yn ogystal â llythyrau at y Morning Chronicle, cyn iddo gyhoeddi ei waith mawr cyntaf The Principles of Political Economy and Taxation (1817). Roedd Ricardo yn gyfaill i nifer o ddeallusion pwysig yr oes, gan gynnwys James Mill, Jeremy Bentham, a Thomas Malthus.

Ei gyhoeddiad cyntaf oedd The High Price of Bullion, a Proof of the Depreciation of Bank Notes (1810), casgliad ac estyniad o'i lythyrau at y Morning Chronicle ar bwnc cronfeydd aur y wladwriaeth a rôl Banc Lloegr. Ar y pryd, nid oedd yn rhaid i Fanc Lloegr dalu aur am ei bapurau punnoedd, ac o ganlyniad bu'r Banc a banciau gwledig yn Lloegr yn argraffu rhagor o bapurau ac yn cynyddu eu benthyciadau. Honnai cyfarwyddwyr Banc Lloegr nad oedd perthynas rhwng y cynnydd credyd y banciau a'r twf prisoedd a dibrisiant y bunt. Dadleuai Ricardo bod perthynas uniongyrchol rhwng nifer y papurau punnoedd a lefel y prisoedd, a bod prisoedd yn eu tro yn effeithio ar gyfraddau cyfnewid tramor yn ogystal â mewnlif ac all-lif aur. Yn ôl dadansoddiad Ricardo, felly, roedd yn rhaid i Fanc Lloegr ofalu am ei gronfeydd aur a llunio'i bolisi benthyg yn nhermau amodau'r economi ac i reoli maint yr arian a'r credyd yn yr economi. Cytunodd Pwyllgor Bwliwn Tŷ'r Cyffredin â syniadau Ricardo, ac roedd y ddadl yn bwysig wrth ddatblygu damcaniaethau bancio canolog.

Cyhoeddodd Ricardo Essay on the Influence of a Low Price of Corn on the Profits of Stock (1815), mewn ymateb i ddadl dros y Deddfau Ŷd. Dadleuai Ricardo bod cynyddu'r tariff ar fewnforion ŷd yn debygol o gynyddu rhenti yng nghefn gwlad tra'n gostwng elw y gweithgynhyrchwyr. Yn ei waith The Principles of Political Economy and Taxation, cyhoeddodd Ricardo ei ddamcaniaethau pwysicaf: deddf haearn cyflogau, a'r fantais gymharol. Yn ôl deddf haearn cyflogau, mae cyflog yn tueddu i sefydlogi ar sail y lefel gynhaliaeth. Yn ei enghraifft enwog o'r fantais gymharol, esboniai sut yr oedd yn effeithlon i Loegr gynhyrchu brethyn a Phortiwgal gynhyrchu gwin, cyn belled â bo'r ddwy wlad yn masnachu gyda'i gilydd, hyd yn oed os oedd Portiwgal yn gallu cynhyrchu'r ddau nwydd ar gost is na Lloegr.

Yn 1814, ymddeolai Ricardo o'i fusnes a symudodd i fyw yn Swydd Gaerloyw. Yn 1819 fe brynodd sedd yn Nhŷ'r Cyffredin a daeth yn Aelod Seneddol dros Portarlington. Bu'n rhaid iddo ymddeol yn 1823 o ganlyniad i afiechyd, a bu farw y flwyddyn honno yn Gatcombe Park, Swydd Gaerloyw, yn 51 oed.

David Ricardo
Portrait of David Ricardo by Thomas Phillips

Bywgraffiad

Bywyd cynnar (1772–86)

Ganwyd David Ricardo ar 18 Ebrill 1772 yn 36 Broad Street Buildings, Dinas Llundain. Efe oedd y trydydd mab i Abraham Israel Ricardo (1735 – 21 Mawrth 1812) a'i wraig Abigail, Delvalle gynt (1753 – 22 Hydref 1801). Ymfudwr o'r Iseldiroedd i Brydain Fawr oedd Abraham Ricardo, a oedd yn hanu yn ei dro o'r Iddewon Seffardig a ymfudasant i'r Iseldiroedd o Sbaen a Phortiwgal yn sgil y Chwilys.

Erbyn y 18g, teulu cefnog oedd y Ricardos a oedd wedi ymsefydlu yn Amsterdam. Brocer stoc yng Nghyfnewidfa Stoc Amsterdam oedd Joseph Israel Abraham (tua 1702 – 9 Mehefin 1762), a gweithiodd ei fab Abraham yn yr un swydd. Ymfudodd Abraham i Lundain tua 1760, ac yn 1769 priododd Abigail Delvalle, merch i farsiandïwr tybaco a snisin. Derbyniodd ddenisoniaeth yn 1771, sef ffurf ar ddinasyddiaeth a roddwyd i dramorwyr drwy freintlythyr. Iddew selog ac aelod amlwg o gymuned Seffardig Llundain oedd Abraham, a dyn cyndyn ei farn a thrwm ei law yn y cartref. Disgwyliad Abraham oedd i'w fab David ddilyn yn ei gamre i fyd yr arianwyr a'r masnachwyr, ac felly rhoddwyd iddo addysg i'w baratoi ar gyfer gyrfa yn y Ddinas.[1] Aeth i Amsterdam am ddwy flynedd, yn 11 oed, i astudio yn ysgol y Talmwd Tora. Dychwelodd i Loegr i orffen ei addysg cyn iddo ymuno â busnes ei dad.[2]

Gyrfa ariannol gynnar (1786–99)

Dechreuodd David weithio yng Nghyfnewidfa Stoc Llundain, yn glerc ac yn negesydd i'w dad, yn 14 oed. Daeth ei addysg ffurfiol i ben felly, ac eithrio rhywfaint o diwtora gan athrawon preifat.[1] Daeth yn frocer stoc yn 20 oed.

Symudodd y teulu Ricardo yn 1792 i ardal Bow, ac yno cafodd David garwriaeth â Priscilla Ann Wilkinson (1768–1849), merch i'r llawfeddyg o Grynwr Edward Wilkinson. Oherwydd gwahaniaethau crefyddol y teuluoedd, bu'n rhaid iddynt gyfathrebu drwy lythyrau cyn iddynt briodi yn Rhagfyr 1793. O ganlyniad, cafodd Ricardo ei ddiswyddo o fusnes ei dad a'i ddietifeddu gan ei rieni. Ni siaradodd yr un gair â'i fam am weddill ei hoes, a bu dim ond yn ailgymod â'i dad wedi marwolaeth ei fam. Yn sgil y briodas, trodd Ricardo ei gefn ar y synagog a mynychodd gyfarfodydd yr Undodwyr. Mae'n bosib iddo newid ei ffydd yn dilyn cyfnod hir o hunanymholi, ac mae ambell un o'i ysgrifeniadau yn myfyrio ar broblem drygioni yn awgrymu taw agnostig ydoedd.[1]

Wedi iddo gael ei fwrw allan o fusnes ei dad, cychwynnodd Ricardo ar sefydlu menter ariannol ar liwt ei hun, gan elwa ar ei gysylltiadau a'i enw da yn y Ddinas. Gweithiodd yn jobiwr yn y gyfnewidfa stoc ac yn gontractwr benthyciadau ar gyfer stociau'r llywodraeth.[1] Erbyn diwedd y 1790au, roedd yn meddu ar ddigon o gyfoeth iddo gynnal teulu mawr a throi ei sylw at astudiaethau personol. Yn y blynyddoedd i ddod, cafodd Ricardo a'i wraig wyth o blant.

Hunanaddysg (1799–1809)

Yn ddiweddarach yn ei fywyd, cwynodd Ricardo am ei addysg gwta a diffygion yr hyn a ddysgodd oddi wrth ei dad, yn enwedig parthed ysgrifennu. Bu'n rhaid iddo droi at hunanaddysg yn ei ddauddegau a'i dridegau i lenwi'r bylchau yn ei ddealltwriaeth o'r byd. Trodd ei sylw at lenyddiaeth a'r gwyddorau, yn enwedig mathemateg, cemeg, a daeareg. Yn 1799 canfuasai copi o The Wealth of Nations gan yr economegydd clasurol Adam Smith mewn llyfrgell ar daith yng Nghaerfaddon. Dechreuodd Ricardo ymddiddori ym mhwnc economeg wleidyddol, a threuliodd ddeng mlynedd yn astudio materion economaidd ac ariannol. Ysgrifennodd sawl pamffled, yn ogystal â llythyrau at y Morning Chronicle, cyn iddo gyhoeddi ei waith mawr cyntaf The Principles of Political Economy and Taxation (1817). Roedd Ricardo yn gyfaill i nifer o ddeallusion pwysig yr oes, gan gynnwys James Mill, Jeremy Bentham, a Thomas Malthus.

Ymaelododd Ricardo â'r Pwyllgor dros Bwrpasau Cyffredinol y Gyfnewidfa Stoc yn 1801.[2]

Gyrfa lenyddol (1810–17)

Ei gyhoeddiad cyntaf oedd The High Price of Bullion, a Proof of the Depreciation of Bank Notes (1810), casgliad ac estyniad o'i lythyrau at y Morning Chronicle ar bwnc cronfeydd aur y wladwriaeth a rôl Banc Lloegr. Ar y pryd, nid oedd yn rhaid i Fanc Lloegr dalu aur am ei bapurau punnoedd, ac o ganlyniad bu'r Banc a banciau gwledig yn Lloegr yn argraffu rhagor o bapurau ac yn cynyddu eu benthyciadau. Honnai cyfarwyddwyr Banc Lloegr nad oedd perthynas rhwng y cynnydd credyd y banciau a'r twf prisoedd a dibrisiant y bunt. Dadleuai Ricardo bod perthynas uniongyrchol rhwng nifer y papurau punnoedd a lefel y prisoedd, a bod prisoedd yn eu tro yn effeithio ar gyfraddau cyfnewid tramor yn ogystal â mewnlif ac all-lif aur.

Yn ôl dadansoddiad Ricardo, felly, roedd yn rhaid i Fanc Lloegr ofalu am ei gronfeydd aur a llunio'i bolisi benthyg yn nhermau amodau'r economi ac i reoli maint yr arian a'r credyd yn yr economi. Cytunodd Pwyllgor Bwliwn Tŷ'r Cyffredin â syniadau Ricardo, ac roedd y ddadl yn bwysig wrth ddatblygu damcaniaethau bancio canolog.

Cyhoeddodd Ricardo Essay on the Influence of a Low Price of Corn on the Profits of Stock (1815), mewn ymateb i ddadl dros y Deddfau Ŷd. Dadleuai Ricardo bod cynyddu'r tariff ar fewnforion ŷd yn debygol o gynyddu rhenti yng nghefn gwlad tra'n gostwng elw y gweithgynhyrchwyr.

David Ricardo - On the principles of political economy and taxation (1817, title)
Tudalen deitl On the Principles of Political Economy and Taxation (1817).

Yn ei waith The Principles of Political Economy and Taxation, cyhoeddodd Ricardo ei ddamcaniaethau pwysicaf: deddf haearn cyflogau, a'r fantais gymharol. Yn ôl deddf haearn cyflogau, mae cyflog yn tueddu i sefydlogi ar sail y lefel gynhaliaeth. Yn ei enghraifft enwog o'r fantais gymharol, esboniai sut yr oedd yn effeithlon i Loegr gynhyrchu brethyn a Phortiwgal gynhyrchu gwin, cyn belled â bo'r ddwy wlad yn masnachu gyda'i gilydd, hyd yn oed os oedd Portiwgal yn gallu cynhyrchu'r ddau nwydd ar gost is na Lloegr.

Penderfynodd Ricardo gychwyn ar ymddeol yn araf deg o'i yrfa fusnes. Dechreuodd amrywiaethu ei fusnes drwy fuddsoddi mewn tir, benthyciadau morgeisiau. a chronfeydd Ffrengig.[1] Prynodd yn 1814 faenor Minchinhampton a'i hystâd ger Stroud, Swydd Gaerloyw, gan gynnwys eiddo Gatcombe Park, ac ymgartrefodd yno. Yn 1816 daeth i feddiant Maenorydd Bromesberrow a Burry Court yn ne Bryniau Malvern. Teithiodd rhwng Gatcombe Park, ym mha'r le oedd yn byw fel bonheddwr cefn gwlad, a'i dŷ tref yn Upper Brook Street yn ardal Mayfair, Llundain. Yn ei gartref yn y ddinas bu'n cynnal brecwastau i sgwrsio ar bynciau gwleidyddol ac economaidd, ac o ganlyniad i'r trafodaethau hyn sefydlwyd y Political Economy Club yn 1821.[2]

Gyrfa wleidyddol a diwedd ei oes (1819–23)

Yn 1819 fe brynodd sedd yn Nhŷ'r Cyffredin a daeth yn Aelod Seneddol dros Portarlington. Bwrdeistref bwdr yn Swydd Laois, Iwerddon, oedd Portarlington a chanddi dim ond deuddeg o etholwyr. Na ymwelodd Ricardo â'r etholaeth honno erioed.[2]

Bu'n rhaid iddo ymddeol o'r Senedd yn 1823 o ganlyniad i afiechyd. Bu farw David Ricardo ar 11 Medi 1823 yn Gatcombe Park, Swydd Gaerloyw, yn 51 oed o ganlyniad i haint y glust. Wedi ei farwolaeth, rhoddwyd gwerth rhwng £675,000 and £775,000 (prisoedd 1823) ar ei ystad.[1]

Cyfeiriadau

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 1.5 Terry Peach, "Ricardo, David (1772–1823), political economist", Oxford Dictionary of National Biography. Adalwyd ar 2 Hydref 2019.
  2. 2.0 2.1 2.2 2.3 Keith Tribe, "Ricardo, David (1772–1823)" yn Encyclopedia of Nineteenth-Century Thought, golygwyd gan Gregory Claeys (Llundain: Routledge, 2005), tt. 550–54.
11 Medi

11 Medi yw'r pedwerydd dydd ar ddeg a deugain wedi'r dau gant (254ain) o'r flwyddyn yng Nghalendr Gregori (255ain mewn blynyddoedd naid). Erys 111 diwrnod arall hyd ddiwedd y flwyddyn.

1772

17g - 18g - 19g1720au 1730au 1740au 1750au 1760au - 1770au - 1780au 1790au 1800au 1810au 1820au1767 1768 1769 1770 1771 - 1772 - 1773 1774 1775 1776 1777

1823

18g - 19g - 20g1770au 1780au 1790au 1800au 1810au - 1820au - 1830au 1840au 1850au 1860au 1870au1818 1819 1820 1821 1822 - 1823 - 1824 1825 1826 1827 1828

18 Ebrill

18 Ebrill yw'r wythfed dydd wedi'r cant (108fed) o'r flwyddyn yng Nghalendr Gregori (109fed mewn blynyddoedd naid). Erys 257 diwrnod arall hyd ddiwedd y flwyddyn.

Economeg glasurol

Ysgol feddwl ym maes economeg, neu economi wleidyddol, yw economeg glasurol a flodeuai yn bennaf yn yr Alban a Lloegr yn niwedd y 18g ac yn y 19g. Ei phrif feddylwyr oedd Adam Smith, Thomas Malthus, David Ricardo, a John Stuart Mill. Datblygasant damcaniaeth economi'r farchnad a'r grymoedd naturiol neu'r llaw anweledig sydd yn rheoli cynhyrchu a chyfnewid.

Seilir syniadaeth economaidd glasurol ar y rhagdybiaeth hanfodol taw'r unigolyn fel rheol sydd orau wrth benderfynu ynglŷn â diddordebau ei hunan. Gosododd Adam Smith strwythur sylfaenol y ddamcaniaeth hon yn ei gampwaith The Wealth of Nations (1776), sy'n dadansoddi sut mae mecanwaith prisoedd yn ymateb i'r galw am nwyddau a gwasanaethau drwy ddosbarthu adnoddau'r economi. Cesglid byddai ymddygiad unigolion er budd eu hunain, ac hynny mewn system economaidd gystadleuol, yn cynhyrchu lles er y gymdeithas oll. Cyfunwyd y dybiaeth hon â'r ddealltwriaeth o effeithiau buddsoddi cyfalaf a'r rhaniad llafur ar dwf economaidd, a dadleuai'r economegwyr clasurol felly o blaid masnach ryngwladol rydd, anymyrraeth lywodraethol yn y farchnad drwy bolisïau laissez-faire, ac ehangu'r gyfundrefn gyfalafol.

Jeremy Bentham

Athronydd gwleidyddol, cyfreithegwr, ac economegydd o Sais oedd Jeremy Bentham (15 Chwefror 1748 – 6 Mehefin 1832). Efe a John Stuart Mill yw'r ddau Sais a gydnabyddir yn arloeswyr defnyddiolaeth, yr athroniaeth sy'n dadlau taw'r lles cyffredin yw'r unig ystyriaeth parthed moeseg a chyfiawnder. Meddai'r Gwyddoniadur Cymreig am ei ysgrifeniadau: "Y maent yn ystorfa o addysg i wladweinwyr, ac yn arfdy at wasanaeth diwygwyr cyfreithiol".

Llafur

Ystyr gyffredinol y gair llafur yw gwaith, yn enwedig gwaith corfforol sy'n treulio egni'r un sy'n ei gyflawni. Ym maes economeg, mae llafur yn disgrifio'r hyn a wneir gan y gweithlu ar gyfer y cyflogwyr. Gall gyfeirio at unrhyw wasanaeth o werth a wneir gan unigolyn wrth gynhyrchu cyfoeth, ac eithrio'r gweithgareddau sy'n cronni ac yn darparu cyfalaf neu sy'n derbyn y peryglon sydd ynglwm wrth fentrau busnes. Mae'n crybwyll yr holl waith a wneir gan weithwyr cyflogedig, boed yn fedrus neu'n ddi-grefft, sydd yn llenwi'r oriau gwaith, ac felly'n cymryd cyfran sylweddol o oes yr unigolyn i ennill ei dâl. Gall llafur a llafurlu hefyd fod yn enwau ar y dosbarth gweithiol, neu'r gweithlu cyflogedig oll, yn enwedig o'i gyferbynnu â dosbarth y cyflogwyr a'r cyfalafwyr.Yn oesoedd yr Henfyd, gwneid y rhan fwyaf o waith llafur gan gaethweision. Yn sgil datblygiad y drefn ffiwdal, gwneid gwaith amaethyddol gan y taeog, y bilain, neu'r gwerinwr caeth. Yn y trefi, crefftwyr oedd yn gwneud gwaith llaw medrus, ac roedd y rhain yn uwch eu statws na'r llafurwyr di-grefft. Yn ystod y Chwyldro Diwydiannol yn y 18g, diflannodd nifer o swyddi corfforol o ganlyniad i beirianeiddio, gan greu gwarged llafur. Yn sgil cystadleuaeth yn y farchnad lafur a gostyngiad mewn cyflogau'r gweithwyr, datblygwyd ffurfiau ar gytundebau llafur megis yr indentur. Erbyn diwedd y 19g, roedd amodau gwaith yn y gwledydd diwydiannol wedi gwella o ganlyniad i ymgyrchoedd gwleidyddol a chymdeithasol a dulliau'r mudiad llafur megis streicio a chydfargeinio.

Ers dyddiau Adam Smith a'r economegwyr clasurol, mae damcaniaethwyr economaidd wedi ceisio llunio ffyrdd i symleiddio a mesur llafur. Tybiodd David Ricardo y dylid mesur gwerth nwydd yn nhermau'r llafur sydd wedi ei gynhyrchu. Mabwysiadwyd y ddamcaniaeth hon yn ddiweddarach gan Karl Marx, wrth iddo ddadlau bod y gyfundrefn gyfalafol yn creu gorwerth. Yn ôl Marcsiaeth, mae diddordebau'r dosbarth llafur, neu'r proletariat, a'r dosbarth cyfalafol, neu'r fwrdeisiaeth, yn naturiol groes i'w gilydd. Dadleuir bod y cyfalafwyr yn ecsbloetio'r dosbarthiadau is drwy ymelwa ar oriau gwaith a nerth corfforol y llafurwyr.

Rhestr economegwyr

Milton Friedman

John Kenneth Galbraith

John Maynard Keynes

Paul Krugman

Robert Lucas

Thomas Malthus

Alfred Marshall

Karl Marx

Vilfredo Pareto

Arthur Cecil Pigou

David Ricardo

Joseph Schumpeter

Adam Smith

Joseph Stiglitz

Léon Walras

Thomas Malthus

Economegydd a chlerigwr o Sais oedd Thomas Robert Malthus (14 Chwefror 1766 - 23 Rhagfyr 1834), a aned ger Dorking, Surrey, yn ne Lloegr. Mae'n adnabyddus am ei waith dylanwadol An Essay on the Principle of Population (1798 a 1807), llyfr a gadarnheuodd ddamcaniaeth detholiad naturiol ym meddwl Charles Darwin.

Galwodd Malthus am fesurau i reoli tyfiant poblogaeth trwy ddulliau atalgenhedlu neu lwyrymwrthod â chyfathrach rhywiol. Cododd ei waith wrychyn nifer o wrthwynebwyr ceidwadol.

Mae ei lyfrau eraill yn cynnwys An Inquiry into the Nature and Progress of Rent (1815) a Priciples of Political Economy (1820), llyfr a fraenarodd y tir ar gyfer gwaith David Ricardo.

Ieithoedd eraill

This page is based on a Wikipedia article written by authors (here).
Text is available under the CC BY-SA 3.0 license; additional terms may apply.
Images, videos and audio are available under their respective licenses.