Dafydd (brenin)

Cymeriad yn yr Hen Destament ac ail frenin teyrnas unedig Israel oedd Dafydd (Hebraeg: דוד) (teyrnasodd c. 1010 CC - 970 CC). Yn draddodiadol, cyfeirir ato hefyd fel Dafydd Broffwyd.

Ceir ei hanes yn nifer o lyfrau'r Hen Destament: I Samuel a II Samuel, Llyfr Cyntaf y Cronicl ac Ail Lyfr y Brenhinoedd. Ef oedd y mab ieuengaf mewn teulu mawr. Daeth i sylw trwy ladd y cawr Goliath pan oedd yr Israeliaid yn ymladd yn erbyn y Ffilistiaid. Rhoddwyd Michal, merch Saul, brenin cyntaf Israel, yn wraig iddo. Yn ddiweddarach, aeth Saul yn genfigennus o'i lwyddiant milwrol yn erbyn y Ffilistiaid, a bu raid iddo ffoi.

Daeth yn frenin pan laddwyd Saul a'i fab Jonathan, yn ymladd yn erbyn y Ffilistiaid. Am y saith mlynedd cyntaf, teyrnsai o Hebron, ond yna gwnaeth Jeriwsalem yn brifddinas iddo, wedi iddo gipio'r ddinas oddi wrth y Jebiwsiaid. Bu ganddo nifer o wragedd, a chafodd nifer o feibion ganddynt hwy a chan ordderchwragedd, yn eu plith Solomon, a'i olynodd ar yr orsedd, oedd yn fab i Bathsheba, gweddw Urias.

Yn y traddodiad Cristnogol, roedd Dafydd yn gyndad i Iesu Grist. Cafodd yr enw 'Dafydd Broffwyd' yn yr Oesoedd Canol ac mae Islam yn ei ystyried fel proffwyd yn olyniaeth Moses ac yn un o ragflaenwyr pwysicaf y proffwyd Mohamed. Yn draddodiadol, dywedir mai ef oedd awdur Llyfr y Salmau. Mae wedi bod yn destun poblogaidd i arlunwyr a cherflunwyr ar hyd y canrifoedd; yr enwocaf o'r gweithiau hyn yw Dafydd gan Michelangelo.

David and Goliath by Caravaggio
Dafydd a Goliath gan Caravaggio.

Gweler hefyd

Absalom Fy Mab

Drama fydryddol gan Cynan yw Absalom Fy Mab, a gyhoeddwyd yn 1957.

Comisiynwyd y ddrama fydryddol dair-act hon gan Gomisiwn Eisteddfod Genedlaethol Cymru ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Cymru Môn 1957.

Mae'n ddrama rymus sy'n portreadu'r ymryson gwleidyddol ac ysbrydol trionglog rhwng Dafydd, brenin Jwda, Absalom fab Dafydd, a Solomon.

Dyma oedd beirniadaeth T. H. Parry-Williams, oedd yn Llywydd Llys yr Eisteddfod yn 1957, amdani:

Rhyfeddaf yn ddirfawr at y modd y llwyddwyd i wneud y cymeriadau'n bobl gyfan a chryno, ac i wneud y stori a'r plot mor glir a diddryswch. Y mae'r elfen ddramatig wedi ei thrafod yn feistrolgar dros ben ac yn artistig o gynnil, ac y mae gafael eithriadol ar y ddeialog drwyddi, a'r cyffyrddiadau barddonol yn ireiddio'r mynegi.

Chwech Oes y Byd

Yn yr Oesoedd Canol yr oedd haneswyr, gan ddilyn y traddodiad Cristnogol, yn dosbarthu hanes y Byd yn chwech oes. Weithiau ychwanegid seithfed oes trwy gyfrif cyfnod cenhadaeth Iesu Grist fel y chweched oes a'r cyfnod ar ôl hynny fel y seithfed.

Ieithoedd eraill

This page is based on a Wikipedia article written by authors (here).
Text is available under the CC BY-SA 3.0 license; additional terms may apply.
Images, videos and audio are available under their respective licenses.