Cyprus

Ynys yn y Môr Canoldir 113 km o Dwrci yw Gweriniaeth Cyprus neu Cyprus ( /ˈkɪprɨ̞s / hefyd Ciprus) (Groeg: Κύπρος Kýpros; Twrceg: Kıbrıs)

Mae'r ynys wedi'i rhannu yn ddwy wladwriaeth - gwladwriaeth y de, Gweriniaeth Cyprus sydd gan fwyaf yn Roeg ei hiaith ac yn Gristnogol, a gwladwriaeth y gogledd sydd yn Dwrceg ei hiaith ac yn Foslemaidd. Mae gwladwriaeth y de yn aelod o'r Undeb Ewropeaidd. Ni chydnabyddir bodolaeth gwladwriaeth y gogledd, sef 36% o'r ynys o ran arwynebedd, gan lawer o wledydd y byd, ond fe'i cynhelir gan bresenoldeb milwrol Twrci.[1] Mae'r Deyrnas Unedig hefyd yn berchen ar ddau safle milwrol ar yr ynys, Akrotiri a Dhekelia.

Cyprus lrg
Llun o Gyprus o Loeren MODIS
Cyprus
Coat of arms of Cyprus (old)
Κυπριακή Δημοκρατία (Groeg)
Kıbrıs Cumhuriyeti (Twrceg)
Flag of Cyprus (bordered)
Daearyddiaeth
Gwleidyddiaeth
LocationCyprus
Ariannol

Cyfeiriadau

  1. "According to the United Nations Security Council Resolutions 550 and 541". United Nations. Cyrchwyd 27 Mawrth 2009.

Gweler Hefyd

.cy

Côd gwlad parth lefel uchaf swyddogol Cyprus yw .cy (talfyriad o Cyprus).

1983

19g - 20g - 21g1930au 1940au 1950au 1960au 1970au - 1980au - 1990au 2000au 2010au 2020au 2030au1978 1979 1980 1981 1982 - 1983 - 1984 1985 1986 1987 1988

Baner Cyprus

Maes gwyn gyda map melyn o'r ynys yn y canol gyda ddwy gangen olewydden oddi tanodd yw baner Cyprus. Yn dechnegol copr yw lliw'r map, er mwyn cynrychioli geirdarddiad enw'r wlad ("Yr Ynys Gopr"), ond gan amlaf fe'i ddangosir yn felyn. Mae'r ddwy gangen olewydden a'r maes gwyn yn symboleiddio heddwch rhwng pobloedd Groegaidd a Thyrcaidd yr ynys. Mabwysiadwyd ar 16 Awst, 1960 yn sgîl annibyniaeth y wlad ar Brydain.

Baner Gogledd Cyprus

Maes gwyn gyda seren a chilgant coch yn y canol tuag at yr hoist a ddau stribed coch tenau gerllaw brig a gwaelod y faner yw baner Gogledd Cyprus. Mae'n seiliedig ar faner Twrci. Mabwysiadwyd ar 7 Mawrth, 1984.

Cilicia

Tiriogaeth ar arfordir de-ddwyreiniol Asia Leiaf oedd Cilicia, a ddaeth yn dalaith Rufeinig. Roedd dinas Salamis ar ynys Cyprus hefyd yn perthyn i'r dalaith. Roedd o bwysigrwydd strategol gan fod Bwlch Cilicia yn rhoi mynediad i Syria.

Concwerwyd Cilicia tua 446 CC gan Cyrus Fawr. Yn 333 CC daeth yn eiddo Alecsander Fawr. Wedi ei farwolaeth ef, daeth i feddiant satrap Phrygia, Antigonus Monophthalmus, ond wedi iddo ef gael ei orchfygu yn 301 CC, rhannwyd Cilicia rhwng yr Ymerodraeth Seleucaidd a'r Ptoleniaid.

Wedi nifer o ryfeloedd, daeth Cilicia i feddiant Gweriniaeth Rhufain yn 50 CC. Bu Cicero yn llywodraethwr y dalaith. Dan yr ymerawdwr Diocletian, rhannwyd y dalaith yn ddwy, y rhan orllewinol yn cymryd yr enw Isauria a'r llall yn cadw'r enw Cilicia. Ymhith dinasoedd Cilicia roedd Tarsus, man geni'r Apostol Paul.

Copr

Metel coch yw copr sy'n gynhwysyn pres ac efydd. Mae e'n elfen gemegol yn y tabl cyfnodol ac iddo'r symbol Cu a'r rhif atomig 29.

Gwneir defnydd sylweddol o gopr mewn electroneg, gan ei fod yn ei ffurf bur yn dargludo gwres a thrydan yn dda.

Mae'r enw yn dod o'r ynys Cyprus, lle cafodd copr ei gloddio yn ystod yr Ymerodraeth Rufeinig. Mwyngloddiwyd copr ers c. 8000 CC a'i mwyndoddi a'i siapio tua c. 5000 CC.

Mae galwad uchel am gopr wedi achosi codiad mawr mewn pris copr ar y marchnadoedd rhyngwladol ers 2000.

Corsica

Ynys ym Môr y Canoldir yw Corsica neu Ynys Cors (Ffrangeg: Corse; Corseg ac Eidaleg: Corsica). Hi yw'r bedwaredd ymhlith ynysoedd Môr y Canoldir o ran arwynebedd; dim ond Sicilia, Sardinia, a Cyprus sy'n fwy. Saif i'r gorllewin o'r Eidal ac i'r gogledd o ynys Sardinia. Ajaccio yw'r brifddinas a sedd esgobaeth yr ynys.

Ystyrir Corsica yn un o 26 région Ffrainc. Ar 1 Ionawr 2017 newidiwyd ei statws i fod yn collectivité territoriale unique, gyda mwy o bwerau na'r régions eraill. Rhennir yr ynys yn ddau département, sef Corse-du-Sud a Haute-Corse.

Yn ogystal â Ffrangeg, siaredir iaith Corseg gan 30,000 o bobl ar yr ynys, a 125,000 yn dweud eu bod nhw'n medru rhywfaint o'r iaith [1].

Mae Corsica yn enwog fel man geni Napoleon. Roedd y boblogaeth yn 2015 yn 326,898.

De-orllewin Asia

Rhanbarth daearyddol yn Asia yw De-orllewin Asia. Ambell dro defnyddir y term Gorllewin Asia, yn arbennig wrth drafod archaeoleg, ac mae'r Cenhedloedd Unedig yn rhoi Twrci, Armenia, Georgia ac Aserbaijan yng Ngorllewin Asia.

Yn gyffredinol, ystyrir fod De-orllewin Asia yn cynnwys:

Armenia

Bahrein

Cyprus

Sinai (rhan o'r Aifft)

Gaza

Iran

Irac

Israel

Gwlad Iorddonen

Coweit

Libanus

Oman

Qatar

Sawdi Arabia

Syria

Emiradau Arabaidd Unedig

Y Lan Orllewinol

Iemen

Rhannau Asiaidd y gwledydd canlynol:

Aserbaijan

Georgia

Twrci

Ewrop

Un o'r saith cyfandir yw Ewrop, sydd, yn yr achos hwn, yn fwy o gyfandir yn yr ystyr ddiwylliannol a gwleidyddol nag yn ffisioddaearyddol. Yn ffisegol ac yn ddaearegol, mae Ewrop yn isgyfandir neu'n benrhyn mawr, sy'n ffurfio'r rhan fwyaf gorllewinol o Ewrasia. Ar y ffin i'r gogledd ceir y Cefnfor Arctig, i'r gorllewin Cefnfor Iwerydd ac i'r de ceir y Môr Canoldir a'r Cawcasws. Mae ffin Ewrop i'r dwyrain yn amhendant, ond yn draddodiadol ystyrir Mynyddoedd yr Wral a Môr Caspia i'r de-ddwyrain fel y ffin dwyreiniol. Ystyrir y mynyddoedd hyn gan y rhan fwyaf o ddaearyddwyr fel y tirffurf daearyddol a thectonig sy'n gwahanu Asia oddi wrth Ewrop.

Ewrop yw'r cyfandir lleiaf ond un yn nhermau arwynebedd, sy'n cynnwys tua 10,790,000 km² (4,170,000 mi sg) neu 7.1% o arwynebedd y Ddaear, gyda Awstralia yn unig yn llai. Yn nhermau poblogaeth, dyma'r trydydd cyfandir mwyaf (mae Asia ac Affrica yn fwy) â phoblogaeth o dros 700,000,000, neu tua 11% o boblogaeth y byd.

Ffenicia

Ffenicia yw’r enw a ddefnyddir am diriogaeth a gwareiddiad Semitaidd, yn wreiddiol o lannau dwyreiniol y Môr Canoldir, yn cyfateb yn fras i Libanus heddiw. Galwai’r bobl eu hunain yn kna'ani neu ben kna'an, yn cyfateb i’r Cananeaid yn y Beibl, ond defnyddir y term “Ffeniciaid” am eu disgynyddion oedd yn byw o gwmpas y glannau hyd at Dor (Israel heddiw) ac Arados, neu Arwad (Syria heddiw), rhwng 1200 CC a choncwest y rhanbarthau hyn gan Islam

Roedd y Ffeniciaid yn ddylanwadol iawn o gwmpas Môr y Canoldir; er enghraifft datblygodd yr wyddor a ddefnyddir trwy ran helaeth o’r byd heddiw o’r wyddor Ffeniciaidd. Roedd yr wyddor Ffeniciaidd yn cynnwys 22 symbol, pob un yn dynodi sain arbennig. Nid oedd llafariaid yn cael eu cynnwys. Benthyciwyd y syniad i’r gwyddorau Groeg a Hebraeg, a datblygodd gwyddorau eraill o’r rhain. Ymhilth eu dinasoedd pwysicaf roedd Biblos, Tyrus a Sidon. Oddi yno sefydlwyd gwladychiadau pwysig ar ynys Cyprus ac yn arbennig ddinas Carthago yng ngogledd Affrica, a ddaeth yn un o bwerau mawr Môr y Canoldir.

Fel marsiandiwyr yr oedd y Ffeniciaid yn fwyaf enwog, a sefydlasant rwydwaith masnachol o gwmpas Mor y Canoldir a thu hwnt. O ran crefydd, yr oedd pantheon pob dinas yn amrywio, ond y prif dduwiau oedd Baal, Astarte, Dagon, Resef, Tanit a Melqart.

Gogledd Cyprus

Gweriniaeth annibynnol de facto a leolir yng ngogledd ynys Cyprus yw Gogledd Cyprus (Tyrceg: Kuzey Kıbrıs) neu Weriniaeth Dwrcaidd Gogledd Cyprus (Tyrceg: Kuzey Kıbrıs Türk Cumhuriyeti).

Gogledd Nicosia

Rhan ogleddol y ddinas Nicosia a phrifddinas Gweriniaeth Dwrcaidd Gogledd Cyprus yw Gogledd Nicosia (Tyrceg: Lefkoşa).

Groeg (iaith)

Iaith Gwlad Groeg yw Groeg (Groeg: Ελληνικά), sydd yn aelod o deulu'r ieithoedd Indo-Ewropeaidd, ac yn gangen ynddi'i hun. Mae ganddi hanes o ddogfennu o 3,500 o flynyddoedd, y mwyaf hir o unrhyw iaith y teulu hwn. Ysgrifennir yr iaith yn yr Wyddor Roeg.

Mae 24 llythyren yn y wyddor, ac mae i bob un ffurf fawr a ffurf fechan.

Groeg yr Henfyd

Am yr iaith, gweler Hen Roeg (iaith).

Cyfnod o hanes Groeg a barodd am dua mileniwm, hyd at ehangiad Cristnogaeth, oedd Groeg yr Henfyd (neu Hen Roeg). Fe'i ystyrir gan lawer i fod yn un o sylfeini Gwareiddiad y Gorllewin. Roedd diwylliant Groeg yn ddylanwad cryf ar yr Ymerodraeth Rufeinig, a thrwy hynny wedi dylanwadu diwylliant sawl rhan o Ewrop. Gwelir ei holion o hyd mewn meysydd megis iaith, gwleidyddiaeth, athroniaeth, addysg, gwyddoniaeth a'r celfyddydau. Bu'n rhan o ysbrydoliaeth y Dadeni yng Ngorllewin Ewrop, ac fe ysbrydolodd sawl ddiwygiad newydd-glasurol yn y ddeunawfed a'r bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Defnyddir y term Groeg yr Henfyd hefyd i ddisgrifio parth hynafol yr iaith Roeg. Cyfeiria felly at ardaloedd a wladychwyd gan Roegwyr: Cyprus, ynysoedd ac arfordir ddwyreiniol (a gelwir pryd hynny yn Ionia) y Môr Aegeaidd, Sisili a ddeheubarth yr Eidal (a gelwir pryd hynny yn Magna Graecia), a threfedigaethau ar wasgar ar arfordiroedd Colchis, Illyria, Thrace, yr Aifft, Cyrenaica, deheubarth Gâl, rhan ddwyreiniol gorynys Iberia, Iberia'r Cawcasws a Taurica.

Life Looks Better in Spring

Cân a berfformir gan ganwr Cymreig, Jon Lilygreen, a'r grŵp, The Islanders, yw "Life Looks Better in Spring". Bydd y gân yn cynrychioli Cyprus yng Nghystadleuaeth Cân Eurovision 2010.

Nicosia

Nicosia (Groeg: Λευκωσία, Levkosía, Twrceg: Lefkoşa) yw prifddinas Cyprus. Saif ar afon Pedieos, ac mae'r boblogaeth tua 310,000.

Mae'r ddinas ar hyn o bryd wedi ei rhannu, gyda'r rhan ddeheuol yn perthyn i Weriniaeth Cyprus (y rhan Roegaidd o'r ynys) a'r gogledd i Weriniaeth Dwrcaidd Gogledd Cyprus. Gelwir y ffîn, sy'n mynd ar draws y ddinas o'r dwyrain i'r gorllewin, "y llinell werdd", ac mae dan reolaeth y Cenhedloedd Unedig.

Ar 3 Ebrill 2008, agorwyd Stryd Ledra yng nghanol Nicosia i'r cyhoedd am y tro cyntaf ers 34 mlynedd, fel croesfan rhwng y dwy ran o'r ddinas.

Tyrceg

Iaith a siaredir yn Nhwrci a chan leiafrifoedd yng ngwledydd eraill a fu'n rhan o Ymerodraeth yr Otomaniaid yw Tyrceg (hefyd: Twrceg). Mae'r iaith yn perthyn i gangen ddeheuol (Orghuz) o deulu'r ieithoedd Tyrcaidd, sydd yn ei dro yn gangen o'r ieithoedd Altaidd (sylwer bod anghytundeb ymhlith ieithyddion am berthynas Tyrceg â theuluoedd ieithyddol eraill).

Daeth yr iaith i'w diriogaeth bresennol yn Asia Leiaf, y Balcanau a'r Dwyrain Canol yn y 13g a'r 14g gyda goresgyniad y llwythau Tyrcaidd a fudodd o Ganolbarth Asia. Hyd at ddechrau'r 20g ysgrifennid Tyrceg yn yr ysgrifen Arabeg, ond yn 1929 fe'i newidiwyd ar orchymyn Mustafa Kemal Atatürk ac heddiw mae'n defnyddio gwyddor Rufeinig ac mae gramadeg yr iaith safonol wedi'i symleiddio a'i rheoleiddio'n sylweddol.

Yn ôl cyfrifiad Bwlgaria 2001, mae 762,516 o bobl yn siarad Tyrceg fel mamiaith ym Mwlgaria (9.6% o'r boblogaeth). Mae mwyafrif y siaradwyr Tyrceg yn byw yn ardaloedd Kardzhali (yn ne Bwlgaria) a Razgrad (yn y gogledd-ddwyrain). Tyrceg yw iaith y mwyafrif yn nwyrain Cyprus yn ogystal.

Tîm pêl-droed cenedlaethol Cyprus

Mae Tîm pêl-droed cenedlaethol Cyprus (Groeg: εθνική ομάδα ποδοσφαίρου Κύπρου) yn cynrychioli Cyprus yn y byd pêl-droed ac maent yn dod o dan reolaeth Cymdeithas Bêl-droed Cyprus (CFA), corff llywodraethol y gamp yn y wlad. Mae'r CFA yn aelodau o gonffederasiwn Pêl-droed Ewrop (UEFA).

Nid yw Cyprus erioed wedi cyrraedd rowndiau terfynol Cwpan y Byd na Phencampwriaeth Ewrop

Y Môr Canoldir

Môr rhwng Ewrop, Asia ac Affrica yw'r Môr Canoldir (2.5 miliwn km²). Cafodd ei enw o'r Lladin mediterraneus (medius, 'canol' + terra, 'tir'), ond roedd y Rhufeiniaid yn ei alw'n Mare Nostrum, sef 'ein môr ni'.

Flag of Europe.svg Aelod-wladwriaethau yr Undeb Ewropeaidd
Flag of Europe
Gwledydd y Môr Canoldir
Asia

Ieithoedd eraill

This page is based on a Wikipedia article written by authors (here).
Text is available under the CC BY-SA 3.0 license; additional terms may apply.
Images, videos and audio are available under their respective licenses.