Cretasaidd

Cyfnod mewn daeareg yw'r Cretasaidd. Cyfeiria at y ddaear yn ystod y cyfnod rhwng 145±4 a 66 miliwn o flynyddoedd (Ma) yn ôl (CP). Mae'n dilyn y cyfnod Jwrasig yn y gorgyfnod Cainosöig.

Nodir diwedd y cyfnod Cretasaidd gan un o ddifodiannau mawr bywyd, gan gynnwys diflaniad y dinosoriaid. Cyflwynwyd y cyfnod gan Jean d'Omalius d'Halloy, daearegwr o Wlad Belg, yn 1822[4]. Bellach arolygir cyfnodau daeareg gan Gomisiwn Rhyngwladol Stratigraffeg[5], is-bwyllgor Undeb Rhyngwladol Gwyddorau Daeareg[6].

Cretaceous Diorama 2
Golygfa ddychmygol o'r cyfnod Cretasaidd. (Sefydliad Smithsonian, 1977)
Pangaea to present cy
Diagram i ddangos gwahanu Pangaea a symudiad y cyfandiroedd hynafol i'w safle presennol (gwaelod y llun). Mae'r rhif ar waelod pob map yn cyfeirio at 'miliwn o flynyddoedd cyn y presennol'.
Cyfnod Cretasaidd
145.5–65.5 miliwn o flynyddoedd yn ôl
K
Pg
Cyfartaledd O2 yn yr atmosffêr ca. 30 Cyfaint %[1]
(150 % o lefel a geir heddiw)
Cyfartaledd CO2 yn yr atmosffêr ca. 1700 rhan / miliwn[2]
(6 wedi'i luosi gyda'r lefel fodern (cyn-ddiwydiannol))
Cyfartaledd tymheredd yr wyneb ca. 18 °C[3]
(4 °C uwch na'r lefel heddiw)
Prif ddigwyddiadau'r cyfnod
gweld • trafod • 
 
 
Cynnar
Hwyr
Beriasaidd
Valangiaidd
Hauterivian
Baremaidd
Aptaidd
Albaidd
Cenomanaidd
Turonaidd
Coniasaidd
Santonaidd
Campanaidd
Maastrichtaidd
 
 
 
 
Cretasaidd
Llinell amser bras o brif ddigwyddiadau'r cyfnod Cretasaidd.
Graddfa: miliynau o flynyddoedd yn ôl.

Gweler hefyd

Cyfeiriadau

  1. Image:Sauerstoffgehalt-1000mj.svg
  2. Image:Phanerozoic Carbon Dioxide.png
  3. Image:All palaeotemps.png
  4. (Ffrangeg) d’Halloy, d’O., J.-J. (1822). Observations sur un essai de carte géologique de la France, des Pays-Bas, et des contrées voisines. Annales des Mines ... 7: 353–376. O tudalen 373: "La troisième, qui correspond à ce qu'on a déja appelé formation de la craie, sera désigné par le nom de terrain crétacé."
  5. Comisiwn Rhyngwladol Stratigraffeg (ICS) http://www.stratigraphy.org/
  6. Undeb Rhyngwladol Gwyddorau Daeareg (IUGS) http://www.iugs.org/
Chwannen

Pryfyn bychan diadain yw'r chwannen sy'n gyfystyr â'r urdd Siphonaptera. Ceir disgrifiadau gwyddonol o 2500 o rywogaethau. Parasitiaid yw chwain sy'n bwydo ar waed mamaliaid ac adar. Lliw brown tywyll neu ddu ydynt gan amlaf, a thua 3 mm (0.12 in) o hyd pan yn llawn oed. Gallant neidio rhyw 50 gwaith hyd y corff. Esgblygodd chwain ar ddechrau'r cyfnod Cretasaidd, yn debyg fel ectoparasitiaid ar mamaliaid a bolgodogion, ac yn hwyrach adar.

Deinosor

Ymlusgiaid sydd wedi darfod o'r tir, rhai ohonynt yn meddianu corff enfawr, yw deinosoriaid. Roedd y deinosoriaid cyntaf yn byw tua 210 miliwn o flynyddoedd yn ôl, ond amryfalasant yn gyflym ar ôl y cyfnod Triasig. Roeddent yn fwyaf niferus yn ystod y cyfnodau Jwrasig (ee Stegosaurus) a Chretasaidd, ond wedi'r cyfnod Cretasaidd diflanodd pob rywogaeth ohonynt, heblaw am y rheini a ddatblygodd i fod yn adar, yn ystod y Difodiant Cretasaidd-Paleogen tua 65 miliwn o flynyddoedd yn ôl.

Defnyddiodd Richard Owen, gwyddonydd a hanai o Gymru, y gair Dinosauria yn gyntaf ym mlwyddyn 1842. Mae'r gair hwn yn gyfuniad o'r geiriau Groegaidd deinos ("ofnadwy" neu "arswydus") a sauros ("genau-goeg" neu "ymlusgiad"). Enwyd un rhywogaeth ar ôl Richard Owen, tad y deinosoriaid, sef yr Owenodon.

Epoc (daeareg)

Israniad o linell amser ddaearegol ym maes daeareg yw Epoc sy'n hirach nag Oes a byrrach na Chyfnod. Ar hyn o bryd rydym yn byw yn yr Epoc Holocen sydd oddi fewn i'r Cyfnod Cwaternaidd.

Pan gaiff creigiau eu creu yn ystod yr epoc hwn, fe'i gelwir yn 'gyfres', sy'n ystyr gwahanol i 'gyfres' yn nhermau daearegol amser.

Fel llawer o raniadau amser eraill, y rhaniad (boed gychwyn neu ddiwedd) yn aml yw digwyddiadau o fewn haenau o greigiau.

Mae'r rhan fwyaf o epocau'n digwydd o fewn y Gorgyfnod Cainosöig, ble darganfuwyd casgliad enfawr o ffosiliau, ac felly caeir gwybodaeth eang am y cyfnod.

Gondwana

Roedd yr uwchgyfandir deheuol Gondwana yn cynnwys y rhan fywaf o'r eangdiroedd Hemisffer y De presennol, yn cynnwys yr Antarctig, De America, Affrica, Madagasgar, Awstralia-Gini Newydd, a Seland Newydd, yn ogystal ag Arabia ac India, sydd yn hemisffer y gogledd.

Jwrasig

Cyfnod daearegol yw'r Jwrasig (neu Jurasig) sy'n ymestyn am tua 50 miliwn o flynyddoedd - o 201.3± 0.6 miliwn o flynyddoedd cyn y presennol (CP) hyd at 145± 4; sef o ddiwedd y cyfnod Triasig i gychwyn y cyfnod Cretasaidd. Dyma felly y cyfnod a adnabyddir fel canol yr Era Mesosöig (neu 'Oes yr Ymlusgiaid').

Nodir cychwyn y cyfnod Jurasig gan y digwyddiad difodiant Triasig-Jurasig anferthol (Saesneg: Triassic–Jurassic extinction event). Bu dau ddigwyddiad pwysig arall yn ystod y cyfnod hwn:

y Pliensbachian / Toarcian ar ddechrau'r Triasig a'r

Tithonian Hwyr ar ei ddiwedd.Fodd bynnag, nid yw'r naill na'r llall yn cael eu rhestru ar "Restr y Pum Difodiant Mawr".

Enwir y Jurasig ar ôl mynyddoedd y Jura, yn yr Alpau, ble adnabuwyd strata calch o'r cyfnod hwn am y tro cyntaf. Alexander von Humboldt oedd y daearegydd a wnaeth y dargafyddiad hwn, gan ei alw'n "Jura-Kalkstein" ('Calchfaen y Jwra') yn 1799. The name "Jura" is derived from the Celtic root *jor via Gaulish *iuris "wooded mountain", which, borrowed into Latin as a place name, evolved into Juria and finally Jura.

Ar ddechrau'r Jwrasig, dechreuodd yr uwch-gyfandir Pangaea ymranu'n ddwy ran: Laurasia i'r gogledd a Godwana i'r de. Oherwydd cynnydd yn yr arfordir ar y blaned, trodd yr hinsawdd o un sych i un gwlyb a llaith, a throdd sawl anialwch cras a diffaith yn fforestydd glaw gwyrddlas a llawn bywyd. Daeth y deinosor i ddominyddu'r Ddaear ac ymddangosodd yr aderyn cyntaf yn ystod y Jurasic o gangen tacsonomegol o'r deinosor theropod.

Ymhlith digwyddiadau mawr eraill roedd ymddangosoad y cena goeg (neu'r 'madfall') ac esblygodd y crocodeil o fyw ar y ddaear i fyw mewn dŵr. Yn y môr, roedd yr ichthyosaur a'r plesiosaur ac yn yr awyr, esblygodd y pterosaur.

Lawrasia

Uwchgyfandir oedd Lawrasia a fodolodd fel rhan o hollt yr uwchgyfandir Pangaea yn hwyr yn y cyfnod Mesosöig. Roedd yn cynnwys y rhan fywaf o'r eangdiroedd sydd yn cyfansoddi cyfandiroedd yr hemisffer y gogledd presennol, sef Lawrentia (rhan fwyaf o'r Gogledd America modern), Baltica, Siberia, Casachstania, a thariannau Gogledd Tsieina a Dwyrain Tsieina.

Lili'r brithyll

Planhigyn blodeuol lluosflwydd a monocotyledon yw Lili'r brithyll sy'n enw benywaidd; y lluosog yw lilïau'r brithyll. Mae'n perthyn i'r teulu Liliaceae. Yr enw gwyddonol (Lladin) yw Erythronium dens-canis a'r enw Saesneg yw Dog's-tooth-violet.Mae ganddo flodau cymharol fawr wedi'u gosod yn sypiau o dri: chwe tepal mewn dau swp, chwe brigeryn ac ofari uwchraddol. Ceir dail hirfain, unigol wedi'u gosod bob yn ail. Esblygodd y rhywogaeth hwn oddeutu 68 miliwn o flynydoedd CP yn ystod yr era Cretasaidd hwyr - Paleogen cynnar. Fel y rhan fwyaf o'r teulu, mae i'w gael mewn amgylchedd cynnes (neu dymherus), yn enwedig yn Hemisffer y Gogledd.

Mesosöig

Israniad o linell amser ddaearegol ym maes daeareg yw'r gorgyfnod Mesosöig a amcangyfrifir ei fod rhwng 251-66 miliwn o flynyddoedd cyn y presennol (CP). Caiff hefyd ei alw'n Oes yr Ymlusgiaid, ymadrodd a ddefnyddiwyd gyntaf yn y 19g gan y Paleontolegydd Gideon Mantell a gredodd fod y gorgyfnod Mesosöig wedi'i ddomineiddio gan ymlusgiaid fel yr Igwanodon, y Megalosawrws a'r Plesiosawrws a'r hyn a elwir heddiw yn Pseudosuchia.Mae'n un o dri gorgyfnod yn yr eon Phanerosöig, a ragflaenir gan y Paleosöig ("bywyd y cynfyd") ac a ddilynir gan y Cenosöig ("bywyd newydd"). Caiff ei isrannu'n dair Cyfnod: y Triasig, y Jwrasig a'r Cretasaidd a gaiff eu hisrannu, yn eu tro, yn epocau.

Nodir man cychwyn y Mesosöig gan ddifodiad aruthrol (a elwir weithiau: "Y Marw Mawr", neu'n P–Tr) pan daeth 96% o holl rywogaethau morol i ben a 70% o rywogaethau tirol. Oherwydd y collwyd cymaint o rywogaethau'r Ddaear (57% o bob teulu ac 83% o bob genws, araf iawn yr adferwyd bywyd ar y Ddaear. Yn ystod y Mesosöig gwelwyd y gweithgareddau tectonig cyntaf, newid aruthrol yn yr hinsawdd a chynydd mewn esblygiad. Bu'r gorgyfnod hwn hefyd yn dyst i hollti'r tamed o dir a elwir yn Pangaea a chreu cyfandiroedd.

Neognathae

Grŵp o adar yw'r Neognathiaid (Neognathae) o fewn y Dosbarth Aves. Mae'r Neognathae yn cynnwys bron y cyfan o'r adar sy'n fyw heddiw; yr eithriad yw'r chwaer dacson, y Palaeognathae),sy'n cynnwys y Tinamŵaid a'r adarn nad ydynt yn hedfan a elwir yn ratites.

Ceir bron i 10,000 o rywogaethau o neognathiaid. Ers cyfnod y Cretasaidd hwyr, maen nhw wedi addasu i'w hamrywiol ffurfiau - amrywiaeth eang iawn o liw, maint ac ymddygiad. Ceir ffosiliau ohonynt o'r Cretasaidd hwyr.

Mae'r grŵp yma, y Neognathiaid yn cynnwys yr urdd Passeriformes (adar sy'n clwydo), sef y cytras (clade) mwyaf o unrhyw anifail gydag asgwrn cefn (neu 'fertibratau'), gyda 60% o'r holl adar sy'n fyw heddiw o fewn y grŵp.

Mae gan y Neognathiaid fetacarpalau sydd wedi asio i'w gilydd, mae'r trydydd 'bys' yn hirach na'r cyffredin ac mae ganddynt 13 fertebra yn llai. Mae nhw'n whanol i'r Palaeognathae oherwydd nodweddion fel esgyrn eu gên. dyma darddiad y gair "Neognathae", sef "esgyrn gên newydd".

Paleocen

Gofal: ceir cyfnod arall gydag enw tebyg: Paleogen.Cyfres neu Epoc ddaearegol ydy'r Paleocen neu Paleosen (symbol Pε) gyda'i ystyr llythrennol yn golygu "y diweddar cynnar". Yr ansoddair yw Paleosenaidd (Saesneg: Palaeocene neu Palæocene). Parhaodd yr epoc hwn rhwng tua 65.5±0.3 miliwn o flynyddoedd yn ôl hyd at tua 55.8±0.2Ma. Dyma epoc cyntaf y gyfres Paleogen yn yr era Cenosoig. Oed y creigiau sy'n pennu dyddiadau'r gyfres hon ac maent wedi'u diffinio'n eitha pendant.

Mae'r epoc hwn yn dilyn y digwyddiad enfawr hwnnw pan ddiflannod y deinosoriaid a llawer o anifeiliaid a phlanhigion eraill, a'r epoc blaenorol, sef y Cretasaidd. Gadawodd hyn wacter ecolegol enfawr. Ystyr "paleo" yn y Groeg ydy "hynaf" (παλαιός a "newydd" (καινός yw ystyr kainos a gwelwyd ffawna newydd yn ystod yr epoc yma, cyn gweld esblygu mathau newydd o anifeiliaid e.e. y mamal yn yr epoc sy'n dilyn (sef yr Eosen).

Rhennir y Paleocen yn dair rhan geolegol, o'r ieuenga i'r hynaf:

Ar ben hyn, mae'r Paleosen ei hun yn cael ei rannu'n 6 ardal mamalaidd.

Permaidd

Cyfnod daearegol rhwng y cyfnodau Carbonifferaidd a Thriasig oedd y Cyfnod Permaidd. Dechreuodd tua 280 miliwn o flynyddoedd yn ôl a gorffennodd tua 251 miliwn o flynyddoed yn ôl. Cafodd ei enwi ar ôl dinas Perm, Rwsia.

Yr unig gyfandir a fodolai yn y Permaidd oedd Pangea, uwchgyfandir mawr wedi'i amgylchu gan y môr.

Ar ôl y Permaidd, oedd yn gyfnod o foroedd bas, diffodwyd tua 95 y cant o anifeiliaid a phlanhigion môr y byd yn sydyn. (Roedd llawer o blanhigion y tir ac anifeiliaid fel ymlusgiaid ac hynafiaid y dinosoriaid).

Planhigyn blodeuol

Grŵp mawr o blanhigion yw'r planhigion blodeuol neu planhigion blodeuog (hefyd angiosbermau). Maent yn cynnwys tua 254,000 o rywogaethau ledled y byd, mwy nag unrhyw grŵp arall o blanhigion tir. Maent yn cynhyrchu blodau sy'n cael eu peillio gan bryfed neu'r gwynt gan amlaf. Mae hadau planhigion blodeuol yn eu ffrwythau, a'u hofwlau mewn carpelau. Ymddangosodd y planhigion blodeuol cyntaf tua 140 miliwn o flynyddoedd yn ôl yn ystod y cyfnod Cretasaidd.Rhennir y planhigion blodeuol yn ddau grŵp yn draddodiadol: y deugotyledonau a'r monocotyledonau. Mae astudiaethau diweddar yn awgrymu hollti'r deugotyledonau yn sawl grŵp megis yr ewdicotau a'r magnoliidau.

Poaceae

Teulu mawr o blanhigion blodeuol yw Poaceae neu Gramineae (teulu'r gwir weiriau/glaswelltau). Mae'n cynnwys tua 10,000 o rywogaethau mewn tua 675 genws a 12 is-deulu. Mae ganddynt flodau bach wedi'u trefnu mewn "sbigolion" (spikelets). Mae'r blodau'n cael eu peillio gan y gwynt. Ceir y teulu ledled y byd ac mae glaswelltiroedd yn ffurfio tua 25% o lystyfiant y byd. Mae'r teulu'n cynnwys y grawnfwydydd megis gwenith, indrawn a reis a chnydau eraill megis cansen siwgr.

Seren-Fethlehem felen

Planhigyn blodeuol lluosflwydd a monocotyledon yw Seren-Fethlehem felen sy'n enw benywaidd. Mae'n perthyn i'r teulu Liliaceae. Yr enw gwyddonol (Lladin) yw Gagea lutea a'r enw Saesneg yw Yellow star-of-bethlehem. Ceir enwau Cymraeg eraill ar y planhigyn hwn gan gynnwys Seren Fethlehem Felen, Seren Felen Bethlehem, Tylwyth y Lili.

Mae ganddo flodau cymharol fawr wedi'u gosod yn sypiau o dri: chwe tepal mewn dau swp, chwe brigeryn ac ofari uwchraddol. Ceir dail hirfain, unigol wedi'u gosod bob yn ail. Esblygodd y rhywogaeth hwn oddeutu 68 miliwn o flynydoedd CP yn ystod yr era Cretasaidd hwyr - Paleogen cynnar. Fel y rhan fwyaf o'r teulu, mae i'w gael mewn amgylchedd cynnes (neu dymherus), yn enwedig yn Hemisffer y Gogledd.

Seren-Fethlehem gynnar

Planhigyn blodeuol lluosflwydd a monocotyledon yw Seren-Fethlehem gynnar sy'n enw benywaidd. Mae'n perthyn i'r teulu Liliaceae. Yr enw gwyddonol (Lladin) yw Gagea bohemica a'r enw Saesneg yw Early star-of-bethlehem. Ceir enwau Cymraeg eraill ar y planhigyn hwn gan gynnwys Seren y Creigiau.

Mae ganddo flodau cymharol fawr wedi'u gosod yn sypiau o dri: chwe tepal mewn dau swp, chwe brigeryn ac ofari uwchraddol. Ceir dail hirfain, unigol wedi'u gosod bob yn ail. Esblygodd y rhywogaeth hwn oddeutu 68 miliwn o flynydoedd CP yn ystod yr era Cretasaidd hwyr - Paleogen cynnar. Fel y rhan fwyaf o'r teulu, mae i'w gael mewn amgylchedd cynnes (neu dymherus), yn enwedig yn Hemisffer y Gogledd.

Tiwlip Creta

Planhigyn blodeuol lluosflwydd a monocotyledon yw Tiwlip Creta sy'n enw gwrywaidd. Mae'n perthyn i'r teulu Liliaceae. Yr enw gwyddonol (Lladin) yw Tulipa saxatilis a'r enw Saesneg yw Cretan tulip.Mae ganddo flodau cymharol fawr wedi'u gosod yn sypiau o dri: chwe tepal mewn dau swp, chwe brigeryn ac ofari uwchraddol. Ceir dail hirfain, unigol wedi'u gosod bob yn ail. Esblygodd y rhywogaeth hwn oddeutu 68 miliwn o flynydoedd CP yn ystod yr era Cretasaidd hwyr - Paleogen cynnar. Fel y rhan fwyaf o'r teulu, mae i'w gael mewn amgylchedd cynnes (neu dymherus), yn enwedig yn Hemisffer y Gogledd.

Tiwlip yr ardd

Planhigyn blodeuol lluosflwydd a monocotyledon yw Tiwlip yr ardd sy'n enw gwrywaidd. Mae'n perthyn i'r teulu Liliaceae. Yr enw gwyddonol (Lladin) yw Tulipa gesneriana a'r enw Saesneg yw Garden tulip.Mae ganddo flodau cymharol fawr wedi'u gosod yn sypiau o dri: chwe tepal mewn dau swp, chwe brigeryn ac ofari uwchraddol. Ceir dail hirfain, unigol wedi'u gosod bob yn ail. Esblygodd y rhywogaeth hwn oddeutu 68 miliwn o flynydoedd CP yn ystod yr era Cretasaidd hwyr - Paleogen cynnar. Fel y rhan fwyaf o'r teulu, mae i'w gael mewn amgylchedd cynnes (neu dymherus), yn enwedig yn Hemisffer y Gogledd.

Triasig

Cyfnod daearegol (a system stratigraffaidd) yw'r Triasig sy'n para 50.9 miliwn o flynyddoedd: o ddiwedd a Cyfnod Permaidd 251 miliwn o flynyddoedd CP, hyd at cychwyn y Jwrasig, 199.6 miliwn o flynyddoedd Cyn y Presennol (CP).

Dyma gyfnod cyntaf y gorgyfnod Mesosöig a amcangyfrifir ei fod 251-66 miliwn o flynyddoedd CP. Mae cychwyn a diwedd y Triasig yn digwydd ac yn dynodi digwyddiadau mawr sy'n ymwneud â difodiant (extinction).Bathwyd y term 'Triasig' yn 1834 gan Friedrich von Alberti, ar ôl y 3 haen o greigiau a geir ledled yr Almaen a gorllewin Ewrop: gwely o graig coch y red bed, calchfaen forol a chyfres o garreg laid a thywodfaen - sef y "Trias".

Ieithoedd eraill

This page is based on a Wikipedia article written by authors (here).
Text is available under the CC BY-SA 3.0 license; additional terms may apply.
Images, videos and audio are available under their respective licenses.