Conffiwsiws

Athronydd o Tsieina a sylfaenydd Conffiwsiaeth oedd Confucius (孔夫子, Kǒng Fūzǐ, 551 CC - 479 CC). Cafodd ei ddysgeidiaeth ddylanwad mawr yn Tsieina, Corea, Japan a Fietnam.

Yn ôl traddodiad, ganed ef yn ninas Qufu, yn Nheyrnas Lu, yn awr yn rhan o Dalaith Shandong. Dywedir iddo ddod yn Weinidog dros Gyfiawnder yn nheyrnas Lu. Wedi iddo gael ei orfodi i ymddiswyddo, bu'n teithio o gwmpas teyrnasoedd bychain gogledd-ddwyrain a chanolbarth Tsieina, yn egluro ei syniadau ynghylch llywodraethu.

Pwysleisia ei athroniaeth foesoldeb, perthynas gymdeithasol gywir, cyfiawnder a gonestrwydd, mewn bywyd personol ac mewn llywodraeth. Yn ystod cyfnod Brenhinllin Han yn Tsieina, daeth ei ddysgeidiaeth yn athroniaeth swyddogol y wladwriaeth. Cyflwynwyd ei ddysgeidiaeth i Ewrop gan y Iesuwr Matteo Ricci, y cyntaf i Ladineiddio ei enw fel "Confucius."

Ceir ei ddysgeidiaeth yn yr Analectau (論語), casgliad o ddarnau byrion a cagglwyd at ei gilydd flynyddoedd ar ôl ei farwolaeth. Yn ôl traddodiad, ef oedd awdur y Pum Clasur, ond nid yw haneswyr modern yn credu fod unrhyw ddogfen a ysgrifennweyd ganddo ef ei hun wedi goroesi.

Confuciustombqufu
Bedd Conffiwsiws yn Qufu
Conffiwsiws
Confucius Tang Dynasty
479 CC

6g CC - 5g CC - 4g CC520au CC 510au CC 500au CC 490au CC 480au CC - 470au CC - 460au CC 450au CC 440au CC 430au CC 420au CC484 CC 483 CC 482 CC 481 CC 480 CC - 479 CC - 478 CC 477 CC 476 CC 475 CC 474 CC

Athroniaeth

Astudiaeth o sut y dylem fyw (moeseg), sut mae pethau'n bodoli (metaffiseg), natur gwybod (epistemoleg), a rhesymeg yw athroniaeth.

Mae athroniaeth yn astudiaeth o broblemau cyffredinol a gwaelodol sy'n ymwneud â bodolaeth, gwybodaeth, gwerthoedd, rheswm ac iaith.Gellir gwahaniaethu rhwng athroniaeth a dulliau eraill sy'n ceisio ateb y cwestiynau hyn (e.e. cyfriniaeth, mytholeg neu'r celfyddydau) drwy ei dull systematig, gwyddonol a'i dibyniaeth ar ddadleuon rhesymegol.Mae llawer o Gymry wedi ymhel â chwestiynau mawr crefydd yn hytrach nag athroniaeth fel y cyfryw, a bu perthynas agos rhwng diwinyddiaeth ac athroniaeth yng Nghymru ers sawl canrif. Yr athronydd cyntaf y gwyddom amdano yng Nghymru oedd Edward Herbert (1583-1648), a gellid dadlau mai ystyriaethau crefyddol a chyfrinol oedd y tu ôl i'r hyn a ysgrifennai Morgan Llwyd (1619-1659) am yr hunan.

Y gair gwreiddiol am athroniaeth yn y Gorllewin oedd y gair Groeg φιλοσοφία (philosophia), sy'n golygu "cariad at wybodaeth".

Conffiwsiaeth

Athroniaeth a ddatblygwyd yn Tsieina o ddysgeidiaeth Conffiwsiws (551 CC – 479 CC yw Conffiwsiaeth. Nid yw'n grefydd yn yr un ystyr a chrefyddau fel Cristionogaeth neu Islam; mae ei phrif bwyslais ar foesoldeb a chysylltiadau cymdeithasol. Trwy ddiwyllio'r unigolyn gellir diwyllio llywodraethau, a byddai esiampl dda y llywodraethwr yn dylanwadu ar y bobl gyffredin. Er hynny, bu tuedd i ddwyfoli Conffiwsiws ar ôl ei farwolaeth. Datblygwyd yr athroniaeth ymhellach gan ddisgyblion Conffiwsiws megis Mo Ti a Mensiws.

Yn ystod cyfnod Brenhinllin Han yn Tsieina, dewisodd yr Ymerawdwr Wu Gonffiwsiaeth fel yr athroniaeth oedd i lywodraethu'r wladwriaeth. Collodd Conffiwsiaeth rywfaint o ddylanwad yng nghyfnod Brenhinllin Tang, ond parhaodd yn elfen bwysig iawn ym mywyd Tsieina am dros 2,000 o flynyddoedd. Dioddefodd yn ystod y Chwyldro Diwylliannol dan Mao Tse Tung, ond ers hynny mae diddordeb ynddi wedi dechrau cynyddu eto yn Tsieina.

Dylanwadodd Conffiwsiaeth ar ddiwylliant Tsieina, Taiwan, Japan, Corea a Fietnam.

François Quesnay

Meddyg, athronydd, llawfeddyg a economegydd nodedig o Ffrainc oedd François Quesnay (4 Mehefin 1694 - 16 Rhagfyr 1774). Ef oedd un o'r cyfranwyr pwysig cyntaf at feddwl economaidd. Cafodd ei eni yn Méré, Ffrainc ac addysgwyd ef yn Paris. Bu farw yn Ffrainc.

Gottfried Wilhelm von Leibniz

Athronydd Almaenig oedd Gottfried Wilhelm Leibniz (1 Gorffennaf 1646 – 14 Tachwedd 1716), a anwyd yn Leipzig, yr Almaen.

Yn ogystal â bod yn athronydd, roedd Gottfried Leibniz yn wyddonydd, mathemategydd, llenor, diplomydd a hanesydd.

Gyda'r eglwyswr Ffrengig Bossuet ceisiai ddarganfod modd i gymodi ac uno'r Eglwys Gatholig a'r eglwysi diwygiedig. Tua'r un adeg â Isaac Newton darganfu Leibniz calcwlws a chreodd gyfrifiadur elfennol a oedd yn gallu lluosogi rhifau. Ceisiodd yn ogystal greu iaith artiffisial — y characteristica universalis — a fyddai'n gyfrwng gyffredin i wyddonwyr a meddylwyr ymhob gwlad.

Yn ei gyfrolau athronyddol (yn yr iaith Ffrangeg) Nouveaux Essais sur l'entendement humain (1704), Essais de théodicée (1710) a Monadologie (1714) cyflwynodd a datblygodd athroniaeth ddelfrydol. Yn ôl Leibiniz mae pob bod dynol wedi ei greu o monades a rhyngddynt ceir cytgord rhagosodedig. Ar sail ei astudiaethau daeth i'r casgliad "fod pob dim am y gorau yn y byd gorau o bob byd dichonadwy" (Tout est pour le mieux dans le meilleur des mondes possibles).

Troir y dywediad enwog hwnnw o eiddo Leibniz ar ei ben gan Voltaire yn ei chwedl ddychanol Candide, sy'n ymosod ar Optimistiaeth naiïf y 18g. Mae'n bosibl bod cymeriad Candide yn cynrychioli Leibniz.

Bu farw Leibniz yn Hannover yn 1716, yn 70 oed.

Qufu

Lleolir dinas Qufu (Tsieineeg: 曲阜) yn nhalaith Shandong yn nwyrain canolbarth Gweriniaeth Pobl Tsieina.

Mae'n enwog fel man geni a chladdu Conffiwsiws (551 CC - 479 CC), yr athronydd a sedfydlodd Gonffiwsiaeth. Ceir y Kong Li yma, plasdy Tsieinëaidd sy'n perthyn i ddisgynyddion Conffiwsiws, Teml Conffiwsiws, â bedd yr athronydd. Mae'r tri yn cael ei rhestri gan UNESCO fel Safleoedd Treftadaeth y Byd.

Shandong

Talaith yn nwyrain Gweriniaeth Pobl Tsieina ar yr arfordir yw Shandong (山东省 Shāndōng Shěng). Ystyr yr enw yw "i'r dwyrain o'r mynyddoedd".

Yn y dalaith yma y mae afon Huang He yn cyrraedd y môr. Roedd y boblogaeth yn 2002 yn 90,820,000. Y brifddinas yw Jinan. Mae gan Shandong le pwysig ym myd Conffiwsiaeth am y ganed Conffiwsiws yn ninas Qufu yn 551 CC. Cyrhaeddodd Bwdhaeth yma yn 412, ac yn 1996 cafwyd hyd i dros 200 o gerfdluniau Bwdhaidd oedd wedi eu cuddio yng nghyfnod Brenhinllin Song. Mae Shandong yn un o daleithiau cyfoethocaf Tsieina.

Voltaire

Athronydd ac awdur o Ffrainc oedd François-Marie Arouet de Voltaire (21 Tachwedd 1694 - 30 Mai 1778). Cafodd Voltaire ei eni ym Mharis, Ffrainc. Ei waith enwocaf yw'r chwedl athronyddol ddychanol Candide.

Zhu Xi

Ysgolor Conffiswsiaidd oedd Zhū​ Xī​ neu Chu Hsi (18 Hydref 1130 - 23 Ebrill 1200) a anwyd yn Youxi, Fujian, Tsieina yn ystod cyfnod Brenhinllin Sòng Cháo (960-1279). Daeth i fod yn resymegydd Neo-Gonffiwsiaidd mwyaf dylanwadol yn Tsieina drwy ddilyn yr ysgol o feddwl a elwir yn 'Ysgol yr Egwyddor'. Mae ei gyfraniad i athroniaeth Tsieineaidd yn cynnwys y 'llyfrau' neu'r dogfennau canlynol: Dyrchafu'r Lunyu (Yr Analectau) gan Conffiwsiws, y Meniciws, Y Ddysgeidiaeth Fawr a'r Chung Yung (neu'r Canol Llonydd) a elwir Y Pedwar Llyfr. Mae ei athroniaeth yn ymwneud ag ymchwilio i bethau (gewu) a'r synthesis o holl gysyniadau Conffiwsiaeth.

Ieithoedd eraill

This page is based on a Wikipedia article written by authors (here).
Text is available under the CC BY-SA 3.0 license; additional terms may apply.
Images, videos and audio are available under their respective licenses.