Comiwnyddiaeth

Mae Comiwnyddiaeth (o'r gair Lladin communis - "cyffredin") yn gangen chwyldroadol o'r mudiad Sosialaidd. Mae'n fudiad ac yn drefn gymdeithasol; un sy'n hyrwyddo cymdeithas ddiddosbarth wedi ei sylfaenu ar gydberchnogaeth yn unol â threfn ddi-arian. Yn ddelfrydol mae comiwnyddiaeth yn wladwriaeth sydd heb berchnogaeth breifat, heb ddosbarthau cymdeithasol an yn rhywle lle mae modd cynhyrchu yn gymunedol a bod eiddo'n gyffredin i bawb.

Dylanwadodd dehongliad comiwnyddiaeth o fath Marcsaidd-Leninaidd yn fawr ar hanes yr 20g, gyda gwrthdaro rhwng "y byd sosialaidd", wedi'i reoli gan bleidiau Comiwnyddol, a'r "byd Gorllewinol" gyda'i farchnad rydd. Canlyniad hyn oedd y Rhyfel Oer rhwng y Bloc Dwyreiniol a'r "Byd Rhydd" neu'r "Gwledydd Cyfalafol".

Ideolegau Gwleidyddol
Anarchiaeth
Ceidwadaeth
Cenedlaetholdeb
Comiwnyddiaeth
Cymunedoliaeth
Democratiaeth Gristnogol
Democratiaeth gymdeithasol
Ffasgiaeth
Ffeministiaeth
Gwleidyddiaeth werdd
Islamiaeth
Natsïaeth
Rhyddewyllysiaeth
Rhyddfrydiaeth
Sosialaeth

Marcsiaeth

Marcsiaeth, a enwir ar ôl Karl Marx, oedd mudiad sylfaenol Comiwnyddiaeth ac fe ddeilliodd nifer o ganghennau ohoni; yn nodweddiadol ohonynt, Leniniaeth (neu Marcsiaeth-Leniniaeth fel y'i gelwir gan amlaf) a enwyd ar ôl y chwyldroadwr Bolsiefic o Rwsiad, Vladimir Lenin. Fel rheol gelwir plaid wleidyddol sy'n arddel comiwnyddiaeth yn 'Blaid Gomiwnyddol', ond nid yn ddieithriad. Mae'r mwyafrif o'r pleidiau hynny yn Farcsaidd-Leninaidd, ond ceir yn ogystal gomiwnyddion sy'n gwrthod dysgeidiaeth Lenin ac sy'n dilyn athroniaeth chwyldroadwyr eraill fel y Rwsiad Leon Trotsky (Trotscïad), a chomiwnyddion sy'n cydnabod Lenin ond sy'n arddel athroniaeth wedi'i haddasu i gwrdd ag amgylchiadau neilltuol, fel y Maoïaid (ar ôl y Tsieinead Mao Zedong) a'r Staliniaid (ar ôl y Georgiad Joseph Stalin).

Mae Marcswyr yn credu bod rhaid mynd drwy gyfnod o lywodraeth sosialaidd cyn y bydd comiwnyddiaeth ei hun yn bosib. Heddiw, dim ond Gweriniaeth Pobl Tsieina, Ciwba, Fietnam, Moldofa a Gogledd Corea sydd dan reolaeth gomiwnyddol o ryw fath (er na fyddai pob Marcsydd yn derbyn fod pob un o'r rhain yn wledydd comiwnyddol go iawn bellach). Cyn 1991, roedd llawer mwy o wledydd sosialaidd, fel yr Undeb Sofietaidd a gwledydd Cytundeb Warsaw, er enghraifft.

Anarchiaeth Gymdeithasol

Arferai anarchwyr bod yn gytûn â Marcswyr[1] ynglŷn a'r amcanion o gyrraedd cymdeithas ddiddosbarth a gwladwriaeth heb eiddo preifat, ond maent yn anghygweld bellach ar y ffyrdd o'u cyrraedd. Credant ei bod yn amhosib ymgorffori'r gweithwyr mewn gwladwriaeth, sef cyfnod Sosialaeth mewn damcaniaeth Marcsiaeth, am eu bod yn gweld y wladwriaeth fel amddiffynnwr eiddo preifat ac yn endid hierarchaidd. I anarchydd, byddai rhaid chwalu'r wladwriaeth er mwyn chwalu cyfalafiaeth; i'r Marcsydd rhaid cymryd rheolaeth o'r wladwriaeth er mwyn chwalu cyfalafiaeth. Mae anarchwyr hefyd o ganlyniad yn elyniaethus i bleidiau gwleidyddol, yn enwedig pleidiau canolig, hierarchaidd. Credant yn gadarn fod rhaid i'r gweithwyr, a'r gweithwyr oll, gweithredu'r chwyldro dros gomiwnyddiaeth, ac nid plaid sydd yn honni ei fod yn eu cynrychioli.

Y Blaid Gomiwnyddol yng Nghymru

Sefydlwyd Plaid Gomiwnyddol Prydain yn 1920.[2] Roedd syniadaeth Marcsaidd wedi bod yn cael eu trafod ledled y wlad ers y 1890au, gan chwarae rhan amlwg ym mrwydrau gwleidyddol a diwydiannol y 1920au a 30au. Etholwyd Arthur Horner yn Llywydd Ffederasiwn Glöwyr De Cymru yn 1936 a chynyddodd nifer yr aelodaeth yn enwedig yn ne Cymru.

Cyfeiriadau

  1. In Defence of Marxism, Marxist and Anarchist Theory
  2. Davies, John (2008), Gwyddoniadur Cymru, Caerdydd, Cymru: Gwasg Prifysgol Cymru

Dolenni allanol

Baner Gweriniaeth Pobl Tsieina

Maes coch (lliw traddodiadol comiwnyddiaeth a'r Tsieineaid) gyda seren felen (i symboleiddio comiwnyddiaeth) a phedair seren lai o faint (i gynrychioli dosbarthau cymdeithasol pobl Tsieina: y gwerinwyr, y gweithwyr, y petite bourgeoisie, a chyfalafwyr gwladgarol) yw baner Gweriniaeth Pobl Tsieina. Mae'r pum seren hefyd yn symboleiddio pwysigrwydd y rhif 5 mewn athroniaeth Tsieineaidd, ac mae ganddynt nifer o ddehongliadau eraill ynglŷn â'u hystyr. Mabwysiadwyd ar 1 Hydref, 1949.

Bolsiefic

Roedd Bolsiefic (Rwseg: большеви́к, sef "mwyafrif") yn enw ar aelodau o garfan radicalaidd o'r Blaid Lafur Cymdeithasol Rwsiaidd yn Rwsia adeg Chwyldro Rwsia a sefydlu comiwnyddiaeth yn y wlad. Daeth y Bolsieficiaid i gael eu harwain gan Vladimir Ilyich Lenin. Eu prif wrthwynebwyr oedd y Mensieficiaid cymhedrol.

Bwlgaria

Gweriniaeth yn ne-ddwyrain Ewrop yw Gweriniaeth Bwlgaria neu Bwlgaria (Bwlgareg България / Balgaria). Saif ar lan y Môr Du a'r gwledydd cyfagos yw Gwlad Groeg a Twrci tua'r de, Serbia a Montenegro a Macedonia tua'r gorllewin a Rwmania tua'r gogledd, yr ochr draw i Afon Donaw. Mae'n aelod o NATO, ac ymunodd â'r Undeb Ewropeaidd ar 1 Ionawr 2007.

Cyfalafiaeth

System ecomonaidd sy'n seiliedig ar unigolion, cwmnïau neu gorfforaethau yn berchen ar eiddo neu gyfalaf (arian neu stoc wrth gefn) yw cyfalafiaeth. Mae perchnogaeth preifat weithiau'n cael ei ddefnyddio i olygu perchnogaeth unigol, er y gellir defnyddio'r term "preifat" i gyfeirio at berchnogaeth ar y cyd ar ffurf perchnogaeth gorfforaethol hefyd. Felly, yn y cyd-destun yma, fe olygai "bod o dan berchnogaeth breifat" rywbeth nad yw o dan berchnogaeth na reolaeth y wladwriaeth ac sy'n cael ei redeg er mwyn gwneud elw.

Y gwrthwyneb i gyfalafiaeth yw Comiwnyddiaeth, sy'n seiliedig ar feirniadaeth gymdeithasol ac economaidd Karl Marx ar gyfalafiaeth yn ei lyfr Das Kapital.

Cyfyngiant

Agwedd o bolisi tramor a diogelwch yr Unol Daleithiau yn ystod y Rhyfel Oer oedd cyfyngiant (Saesneg: containment) oedd yn defnyddio strategaethau milwrol, economaidd, a diplomyddol i atal ymlediad comiwnyddiaeth, i gryfhau diogelwch a dylanwad Americanaidd dramor, ac i atal "effaith y dominos". Ymateb i ymdrechion gan yr Undeb Sofietaidd i ehangu ei dylanwad yn Nwyrain Ewrop, Tsieina, Corea, a Fietnam oedd y polisi hwn. Roedd yn cynrychioli safbwynt cymedrol rhwng détente a rollback.

Cytundeb Warsaw

Cynghrair milwrol oedd Cytundeb Warsaw. Fe'i sefydlwyd er mwyn diogelu'r aelod-wladwriaethau rhag bygythiad gan NATO (a sefydlwyd ym 1949) ar ôl i Orllewin yr Almaen ymuno â'r sefydliad hwnnw. Drafftiwyd y cytundeb gan Khrushchev ym 1955 ac fe'i arwyddwyd ar 14 Mai 1955 yn Warsaw.

Aelodau'r Cytundeb oedd:

yr Undeb Sofietaidd

Albania

Bwlgaria

Rwmania

Dwyrain yr Almaen

Hwngari

Gwlad Pwyl

TsiecoslofaciaArwyddwyd y cytundeb gan bob un o wledydd Dwyrain Ewrop, heblaw am Iwgoslafia. Pwrpas y cytundeb oedd amddiffyn aelodau rhag ymosodiad o'r tu allan. Daeth y cytundeb i ben ar 31 Mawrth 1991 ar ôl cwymp comiwnyddiaeth yn Nwyrain Ewrop, ac fe'i ddiddymwyd yn swyddogol ar 1 Gorffennaf ym Mhrâg. Gadawodd Albania'r cytundeb ym 1961 ar ôl i'w llywodraeth Stalinaidd ochri gyda Tsieina yn dilyn hollt rhwng yr Undeb Sofietaidd a Tsieina.

Das Kapital

Traethawd estynedig yn yr Almaeneg ar economeg wleidyddol gan Karl Marx, wedi'i golygu yn rhannol gan ei gymrawd Friedrich Engels, yw Das Kapital ("Cyfalaf"). Mae'r llyfr, a ystyrir yn destun sylfaenol Marcsiaeth, yn cynnig dadansoddiad beirniadol o'r sustem cyfalafiaeth, yn enwedig yn ei goblygiadau economaidd ymarferol, a hefyd, i raddau, o ddamcaniaethau cysylltiedig eraill. Cyhoeddwyd y gyfrol gyntaf (o dair) yn 1867.

Gyrrir cyfalafiaeth, yn ôl Marx, trwy ymddieithrio llafur y dosbarth gweithiol ac elwa arno. Daw'r elw i ddwylo'r cyfalafwyr o'r gwahaniaeth rhwng gwerth marchnad y cynnyrch a'r pris a geir amdano ar y farchnad, sef yr elw dros ben. Ond er bod llyfr Marx yn ymhel a chyflwr cymdeithasol y gweithwyr, nid yw'n draethawd moesegol ond yn hytrach mae'n ymgais i ddadansoddi ac esbonio deddfau mewnol y sustem, ei gwreiddiau hanesyddol a'i dyfodol. Ceisia Marx ddatgelu y ffordd mae cyfalaf yn cael ei grynhoi, twf gweithio am gyflog, trawnewidiad y gweithle mewn canlyniad i hynny, crynhoad cyfalal, cystadleuaeth, y sustem bancio a chredyd, tueddiad y cyfradd elw i ddisgyn, rhenti tir, a sawl peth arall.

Diddymiad yr Undeb Sofietaidd

Diddymiad strwythurau gwleidyddol ffederal a llywodraeth ganolog yr Undeb Sofietaidd (UGSS) oedd diddymiad yr Undeb Sofietaidd neu gwymp yr Undeb Sofietaidd a arweiniodd at annibyniaeth i bob un o'r bymtheg gweriniaeth Sofietaidd rhwng 11 Mawrth 1990 a 25 Rhagfyr 1991.

Yr achos uniongyrchol oedd methiant yr arweinydd Sofietaidd Mikhail Gorbachev i ailfywhau economi ei wlad trwy geisio rhyddfrydoli'r Undeb Sofietaidd yn wleidyddol trwy glasnost a perestroika, er yr oedd UGSS yn wladwriaeth un-blaid gomiwnyddol.

Canlyniad ehangach y diddymiad oedd cwymp comiwnyddiaeth fel ideoleg fyd-eang rhwng 1989 a 1991 a diwedd y Rhyfel Oer. Digwyddodd y diddymiad yn sgîl Chwyldroadau 1989 a ddaeth â newidiadau gwleidyddol i nifer o wledydd y Bloc Dwyreiniol, gan gynnwys Gwlad Pwyl, Dwyrain yr Almaen, Rwmania, Hwngari, Bwlgaria, a Tsiecoslofacia. Ymhen ychydig o flynyddoedd bu diddymiad heddychlon yn Tsiecoslofacia ym 1993, a chyfres o ryfeloedd trwy'r 1990au wrth i Iwgoslafia chwalu.

Ewrocomiwnyddiaeth

Ffurf ar gomiwnyddiaeth yw Ewrocomiwnyddiaeth a oedd yn boblogaidd ymhlith pleidiau comiwnyddol Ewrop yn niwedd y Rhyfel Oer. Diffinir gan annibyniaeth oddi ar athrawiaeth Plaid Gomiwnyddol yr Undeb Sofietaidd, yr hyn a elwir Marcsiaeth–Leniniaeth. Er iddi fodoli ond am gyfnod byr fel ysgol feddwl Farcsaidd gydlynol, cafodd yr agwedd gyffredin o annibyniaeth ar lywodraeth yr Undeb Sofietaidd ddylanwad trawsnewidiol ar y mudiad comiwnyddol yn Ewrop.

Datblygodd dueddiadau annibynnol, ac yn aml gwrth-Sofietaidd, ym mudiad adain-chwith Ewrop yn y 1930au. Yn ystod y ddeng mlynedd cyn yr Ail Ryfel Byd, lledaenodd ffryntiau poblogaidd ar draws Ewrop, gan gynnwys y Front populaire yn Ffrainc, gan arddel polisïau sosialaidd oedd yn wahanol i'r rhaglen Sofietaidd. Wedi'r rhyfel, anogwyd rhagor o wyro oddi ar arweiniad yr Undeb Sofietaidd gan lywodraeth Josip Broz Tito yn Iwgoslafia. O ganlyniad i droseddau Joseff Stalin a'i griw, ac ymyriadau gorthrymus gan luoedd Sofietaidd mewn gwledydd eraill y Bloc Dwyreiniol, yn enwedig yr ymatebion i Chwyldro Hwngari (1956) a Gwanwyn Prâg (1968), trodd nifer o gomiwnyddion Gorllewin Ewrop eu cefnau ar y Cremlin.

Bathwyd yr enw Ewrocomiwnyddiaeth yng nghanol y 1970au, a daeth yn boblogaidd yn sgil cyhoeddi'r llyfr Eurocomunismo y Estado (1977) gan Santiago Carrillo, arweinydd Plaid Gomiwnyddol Sbaen. Datblygodd mudiad real o gomiwnyddion yng Ngorllewin Ewrop oedd yn gwrthod ddarostwng i arweinyddiaeth yr athrawiaeth Sofietaidd a'r syniad o gomiwnyddiaeth fyd unffurf a arddelid gan y Cremlin. Dadleuasant dros lunio polisïau pob plaid gomiwnyddol genedlaethol yn unigol ar sail traddodiadau ac anghenion y bobl yn y wlad berthnasol. Mewn ambell gwlad, hyrwyddwyd Ewrocomiwnyddiaeth ar yr un pryd i'r mudiad comiwnyddol ddirywio. Er enghraifft, gostyngodd cefnogaeth Plaid Gomiwnyddol Ffrainc yn sylweddol yn niwedd y 1970au, er i'r arweinydd Georges Marchais ymhel â syniadau Ewrocomiwnyddiaeth. Nodweddid mudiad deallusol Ewrocomiwnyddiaeth gan feirniadaeth o fodelau'r Undeb Sofietaidd, bydolwg luosogaethol ar Farcsiaeth, hawliau dynol a sifil, a'r broses seneddol. Yn achos Plaid Gomiwnyddol yr Eidal, ymdebygodd polisïau ac hynt yr Ewrocomiwnyddion at y mudiad llafur a democratiaeth gymdeithasol.

Yn niwedd y 1980au, dechreuodd arweinydd yr Undeb Sofietaidd ei hun, Mikhail Gorbachev, annog pleidiau comiwnyddol y byd i ddatblygu'n annibynnol ar y blaid Sofietaidd. Yn sgil cwymp yr Undeb Sofietaidd ar ddechrau'r 1990au, diflannodd yr angen i wahaniaethu rhwng yr ideoleg Sofietaidd ac athrawiaethau pleidiau comiwnyddol eraill. Mabwysiadwyd agweddau democrataidd gan bleidiau comiwnyddol Dwyrain Ewrop, ac erbyn yr 21g yr hyn a elwid gynt yn Ewrocomiwnyddiaeth oedd y ffurf gyffredin ar gomiwnyddiaeth ar draws Ewrop.

Ffrynt Rhyddid Cenedlaethol De Fietnam

Mudiad gwleidyddol a byddin yn Ne Fietnam a Chambodia oedd Ffrynt Rhyddid Cenedlaethol De Fietnam (Fietnameg: Mặt trận Dân tộc Giải phóng miền Nam Việt Nam) neu'r Việt cộng oedd yn ymladd yr Unol Daleithiau a llywodraeth De Fietnam yn ystod Rhyfel Fietnam. Daeth o dan strwythur filwrol Byddin Pobl Fietnam, lluoedd arfog Gogledd Fietnam.

Gwrth-gomiwnyddiaeth

Gwrthwynebiad i'r ideoleg wleidyddol ac economaidd comiwnyddiaeth yw gwrth-gomiwnyddiaeth. Mae nifer o wrth-gomiwnyddion yn gwrthwynebu damcaniaeth gomiwnyddol, gan gynnwys syniadau Marcsiaeth, Leniniaeth, Maoaeth, a Stalinaeth, yn ogystal ag effeithiau a chanlyniadau llywodraethau comiwnyddol. Ymysg y beirniadaethau yw natur dotalitaraidd llywodraethau comiwnyddol a throseddau yn erbyn dynoliaeth ganddynt.

Ceir gwrth-gomiwnyddion ar draws y sbectrwm gwleidyddol. Ar yr adain chwith, mae nifer o sosialwyr yn beirniadu comiwnyddiaeth gan ei bod yn wrth-ddemocrataidd. Mae rhai anarchwyr a rhyddewyllyswyr yn gweld comiwnyddiaeth yn "unbennaeth y werin" ac yn ei beirniadu o safbwynt unigolyddol. Mae ceidwadwyr a chyfalafwyr yn gwrthwynebu seiliau economaidd damcaniaeth gomiwnyddol, megis ailddosbarthu cyfoeth. Roedd gwrth-gomiwnyddiaeth yn un o brif ddaliadau Natsïaeth a mudiadau ffasgaidd eraill, a nifer o ffasgwyr yn pwysleisio cyswllt honedig comiwnyddiaeth, Bolsieficiaeth yn enwedig, â'r Iddewon. Daw wrth-gomiwnyddiaeth hefyd o safbwynt crefyddol, er enghraifft yr Eglwys Gatholig.

Roedd gwrth-gomiwnyddiaeth ar ei hanterth yn ystod Chwyldro Hydref, oes ffasgiaeth yn Ewrop yn y cyfnod rhwng y rhyfeloedd a'r Ail Ryfel Byd, ac y Rhyfel Oer: yn wir, unrhyw adeg roedd comiwnyddiaeth ar ei hanterth.

Juche

Ideoleg swyddogol Gogledd Corea yw Juche (Coreeg: 주체; "ymddibyniaeth" neu "hunangynhaliaeth"). Yn ôl y llywodraeth, Juche yw "cyfraniad gwreiddiol, gwych a chwyldroadol at feddwl cenedlaethol a rhyngwladol" gan Kim Il-sung, Arweinydd Tragwyddol Gogledd Corea. Dywed yr ideoleg hon taw "dyn yw meistr ei dynged", bydd pobl Gogledd Corea yn "feistri'r chwyldro a'r adeiladu", a thrwy hunangynhaliaeth a chryfder bydd y genedl yn cyrraedd gwir sosialaeth.Datblygodd Kim Il-sung (1912–1994) yr ideoleg, yn gyntaf fel ffurf ar Farcsiaeth–Leniniaeth nes iddi droi'n nodweddiadol "Goreaidd", tra'n ymgorffori syniadau materoliaeth hanesyddol a phwysleisio'r unigolyn, y genedl-wladwriaeth a sofraniaeth. Mabwysiadwyd Juche fel cyfres o egwyddorion polisi gan lywodraeth Gogledd Corea ers y 1950au. Honna'r llywodraeth bod Juche yn modd o yrru'r genedl tuag at "jaju" (annibyniaeth), trwy adeiladau'r "jarip" (economi genedlaethol) a phwysleisio "jawi" (hunanamddiffyn), a sefydlu'r drefn sosialaidd.Beirniadir Juche gan nifer o ysgolheigion a sylwebyddion gan fod y llywodraeth yn ei defnyddio i gynnal y drefn dotalitaraidd ac i gyfiawnhau ynysiaeth y wlad a gormes y bobl yng Ngogledd Corea. Mae rhai wedi disgrifio Juche yn ffurf ar genedlaetholdeb ethnig Coreaidd, sydd yn addoli'r teulu Kim fel iachawdwyr "yr Hil Goreaidd" ac sydd yn gosod seiliau i'w cwlt personoliaeth.

Karl Marx

Athronydd gwleidyddol, economegydd, a damcaniaethwr cymdeithasol dylanwadol Almaenig o dras Iddewig oedd Karl Heinrich Marx (5 Mai 1818 – 14 Mawrth 1883). Er iddo drafod nifer o bynciau yn ei yrfa fel newyddiadurwr ac athronydd, mae mwyaf enwog am ei ddadansoddiad o hanes yn nhermau gwrthdaro dosbarth. Crynhoir ei athroniaeth gan yr honiad bod diddordeb cyfalafwyr a gweithwyr cyflogedig yn gwbwl groes i'w gilydd. Ei waith enwocaf yw Das Kapital, sy'n dadansoddi cyfalafiaeth y 19g; fe'i ystyrir yn destun sylfaenol Comiwnyddiaeth a Marcsiaeth. Cydweithiodd Marx ar ddarnau o'i waith gyda'r diwydiannwr Friedrich Engels, Almaenwr arall a gefnogodd Marx yn ariannol a helpodd golygu Das Kapital. Gydag ef ysgrifennodd Marx Y Maniffesto Comiwnyddol yn 1848, un o'r llawysgrifau gwleidyddol mwyaf dylanwadol erioed.

Ar ôl darllen am gyfraith Hywel Dda a'r hawliau a roddodd i fenywod, nododd Marx am y Cymry: "Tipyn o fechgyn, y Celtiaid hyn. Ond dilechdidwyr o'u genedigaeth, gan gyfansoddi popeth mewn triadau."

Maoaeth

Ideoleg sy'n seiliedig ar ddysgeidiaeth Mao Zedong, arweinydd Chwyldro Tsieina, yw Maoaeth. Gellid ei hystyried yn ffurf ar Farcsiaeth-Leniniaeth lle rhoddir y pwyslais ar undod y werin amaethyddol a'r gweithwyr diwydiannol dan awdurdod plaid gomiwnyddol. Mae'n perthyn yn agos i Staliniaeth.

Cysylltir Maoaeth â chyfnod arweinyddiaeth unbenaethol Mao Zedong yn Tsieina ac yn enwedig â chyfnod y Chwyldro Diwylliannol yn y wlad honno, ond mabwysiadwyd Maoaeth gan sawl mudiad chwyldroadol arall yn ogystal, yn enwedig yn y "Trydydd Byd". Roedd Enver Hoxha yn Albania yn arddel math o gomiwnyddiaeth sy'n perthyn yn agos i Faoaeth. Yn Indo-Tsieina yng nghyfnod Rhyfel Fietnam cafwyd mudiadau yn arddel ffurfiau ar Faoaeth yn Laos (y Pathet Lao) a Khampuchea (sef y Khmer Rouge). Yn Ne America cafwyd grwpiau fel y Sendero Luminoso ym Mheriw yn ymladd rhyfel herwfilwrol yn erbyn y llywodraeth, â'u gallu yn seileidig ar gefnogaeth gan llafurwyr gwledig a ffermwyr tlodion yng nghefn gwlad Periw. Yn India heddiw ceir sawl plaid a mudiad sy'n arddel Maoaeth, er enghraifft yng Ngorllewin Bengal.

Plaid Gomiwnyddol Prydain

Plaid Gomiwnyddol Prydain (Saesneg: The Communist Party of Britain, CPB), gyda 941 aelod yn 2008, yw'r blaid gomiwnyddol fwyaf yng ngwledydd Prydain. Mae'r blaid yn weithgar yn yr Alban, Cymru a Lloegr ond dim yng Ngogledd Iwerddon, lle ceir Plaid Gomiwnyddol Iwerddon. Dechreuodd PGP yn 1988 ond mae'n hawlio fod yn olynydd i Blaid Gomiwnyddol Prydain Fawr (The Communist Party of Great Britain, CPGB), a sefydlwyd yn 1920 ac a dorrodd i fyny ddechrau'r 1990au. Cyhoeddir y papur newyddion The Morning Star, cyn bapur y CPGB, gan y blaid.

Ceir Pwyllgorau Cenedlaethol i drefnu gweithgareddau'r blaid yng Nghymru a'r Alban a phwyllgorau rhanbarthol yn Lloegr.

Plaid Gomiwnyddol Prydain Fawr

Plaid gomiwnyddol oedd Plaid Gomiwnyddol Prydain Fawr (Saesneg: The Communist Party of Great Britain, CPGB), a sefydlwyd yn 1920 ac a dorrodd i fyny ddechrau'r 1990au. Roedd y CPGB yn weithgar yn yr Alban, Cymru a Lloegr ond dim yng Ngogledd Iwerddon. Bu'n blaid ddylanwadol yng ngwleidyddiaeth y Chwith am gyfnod. Cyhoeddai'r blaid y papur newyddion dyddiol The Morning Star.

Trotscïaeth

Ideoleg Farcsaidd yw Trotscïaeth neu Trotsgïaeth sy'n adlewyrchu egwyddorion gwleidyddol ac economaidd Leon Trotsky (1879–1940), yn enwedig ei ddamcaniaeth o chwyldro byd-eang parhaol. Ffurf ar gomiwnyddiaeth ydyw sy'n beirniadu Staliniaeth am wyro oddi ar drywydd y nod o gomiwnyddiaeth ryngwladol. Yn ôl Trotsky, roedd polisïau economaidd Joseff Stalin i ddatblygu'r Undeb Sofietaidd yn annog creu cyfundrefn fiwrocrataidd enfawr i lywodraethu'r wlad, a byddai'r cyngor sofietaidd yn y pen draw yn datblygu meddylfryd cenedlaethol megis gwladwriaethau eraill. Cyhuddodd Stalin o gofleidio elfennau o genedlaetholdeb Rwsiaidd ar ffurf "gwladgarwch sosialaidd Sofietaidd".

Sefydlwyd y Bedwaredd Gymdeithas Ryngwladol gan gefnogwyr Trotsky yn Ffrainc yn 1938. Parhaodd dylanwad Trotscïaeth wedi llofruddiaeth Trotsky yn 1940. Yn sgil yr ymateb Sofietaidd i Chwyldro Hwngari yn 1956, trodd nifer o Farcswyr Gorllewin Ewrop eu cefnau ar y blaid gomiwnyddol, ac ymunasant â'r mudiad Trotscïaidd.

Y Bloc Dwyreiniol

Cyn-wladwriaethau comiwnyddol Dwyrain a Chanolbarth Ewrop, yn enwedig yr Undeb Sofietaidd a'i lloerenni yng Nghytundeb Warsaw, oedd y Bloc Dwyreiniol. Cyn 1948, roedd y term yn cynnwys Iwgoslafia, ond gan amlaf ni chynhwysir ar ôl iddi dorri â pholisi Sofietaidd yn sgîl hollt Tito-Stalian. Yn yr un modd, gan amlaf ni chynhwysir Albania wedi iddi ymochri â Gweriniaeth Pobl Tsieina yn sgîl yr hollt Tsieineaidd-Sofietaidd ym 1960. Defnyddir y termau Bloc Comiwnyddol a'r Bloc Sofietaidd hefyd i gyfeirio at lywodraethau a ymochrodd â'r cyn-Undeb Sofietaidd, er gall y termau hyn gynnwys llywodraethau o fewn maes dylanwad yr Undeb Sofietaidd y tu allan i Ddwyrain a Chanolbarth Ewrop, er enghraifft Ciwba.

Y Rhyfel Oer

Ymryson rhwng yr Undeb Sofietaidd a gwledydd Cytundeb Warsaw ar naill ochr a'r Unol Daleithiau a gwledydd NATO ar y llall oedd y Rhyfel Oer. Cychwynnodd ar ôl yr Ail Ryfel Byd a pharhaodd o tua 1945 hyd i tua 1990. Daeth i ben o ganlyniad i gwymp yr Undeb Sofietaidd. Roedd yn "rhyfel oer" oherwydd na chafwyd rhyfel agored (rhyfel "poeth") rhwng y gwledydd hynny. Defnyddiodd Bernard Baruch, ymgynghorydd i Arlywydd yr Unol Daleithiau, y term "Rhyfel Oer" am y tro cyntaf yn ystod dadl yn Senedd yr Unol Daleithiau yn 1947.

Roedd Rhyfel Corea, Rhyfel Fietnam ac ymyrraeth filwrol yr Undeb Sofietaidd yn Affganistan ymhlith canlyniadau'r Rhyfel Oer. Fodd bynnag, nid brwydro agored oedd nodwedd bennaf y Rhyfel Oer, ond cystadlu am rym a dylanwad yn y byd. Roedd y ddwy ochr yn ysbïo ar ei gilydd yn rheolaidd.

Un o bryderon mawr y cyfnod hwn roedd y cynnydd mewn arfau niwclear a'r perygl o gael Trydydd Rhyfel Byd a fyddai'n dinistrio'r blaned gyfan. Arweiniodd hynny at dwf y Mudiad Heddwch, er enghraifft CND yng ngwledydd Prydain.

Un o ganolbwyntiau tensiwn Rhyfel Oer roedd yr Almaen ranedig, yn enwedig Berlin a oedd yn ddinas ranedig ar y ffin rhwng Gweriniaeth Ddemocrataidd yr Almaen ("Dwyrain yr Almaen") a Gweriniaeth Ffederal yr Almaen ("Gorllewin yr Almaen"). Roedd Mur Berlin yn rhannu Berlin yn ddwy ran - Gorllewin Berlin a Dwyrain Berlin - yn un o'r symbolau'r Rhyfel Oer.

Ieithoedd eraill

This page is based on a Wikipedia article written by authors (here).
Text is available under the CC BY-SA 3.0 license; additional terms may apply.
Images, videos and audio are available under their respective licenses.