Cegidfa

Pentref a chymuned ym Mhowys yw Cegidfa (Saesneg: Guilsfield). Saif i'r gogledd o'r Trallwng ar y ffordd B4392.

Tyfodd y pentref ei hun yn sylweddol yn ystod rhan olaf yr 20g. Dyddia rhan o'r eglwys, a gysegrwyd i Sant Aelhaearn, i tua 1300. Yma y cymerwys Syr John Oldcastle, un o arweinwyr y Lolardiaid, yn garcharor yn 1417.

Yng Nghoedlan Crowther yn y gymuned, cafwyd hyd i gasgliad o arfau a chelfi o Oes yr Efydd a elwir yn Gasgliad Cegidfa. Maent yn awr yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru.

Roedd poblogaeth y gymuned yn 2001 yn 1,640.

St. Aelhaiarn's Church, Guilsfield - geograph.org.uk - 268538
Sant Alhaearn

Cyfrifiad 2011

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[1][2][3]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Cegidfa (pob oed) (1,727)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Cegidfa) (264)
  
15.7%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Cegidfa) (783)
  
45.3%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Cegidfa) (295)
  
38.2%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau

  1. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  2. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  3. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
Abercegir

Pentref bychan yn ardal Maldwyn, Powys yw Abercegir. Fe'i lleolir tua 4 milltir i'r gogledd-ddwyrain o dref Machynlleth ger Darowen.

Caersŵs

Pentref a chymuned ar lannau Afon Hafren, ger y Drenewydd, ym Mhowys yw Caersŵs. Saif ger cyffordd y priffyrdd A470 ac A489, ac ar y llinell reilffordd rhwng y Drenewydd a Machynlleth.

Ceir olion dwy gaer Rufeinig gerllaw,

Cathedin

Pentref bychan yn ardal Brycheiniog, de Powys yw Cathedin (llurguniad Saesneg: Cathedine).

Gorwedd y pentref yn y bryniau rhwng Bannau Brycheiniog i'r gorllewin a'r Mynydd Du i'r dwyrain, ger lan ddeheuol Llyn Syfaddon.

Mae Cathedin yn rhan o gymuned Llan-gors, sy'n cynnwys, heblaw pentref Llangors ei hun, bentrefi Llanfihangel Tal-y-llyn a Llangasty Tal-y-llyn. Roedd poblogaeth y gymuned yn 2001 yn 1,045.

Clatter

Pentref bychan ym Mhowys yw Clatter, a leolir ar y briffordd A470 rhwng Carno a Chaersws.

Llifa Afon Carno heibio i'r pentref.

Cnwclas

Pentref bychan ym Mhowys yw Cnwclas (llurguniad Saesneg: Knucklas). Saif yng nghymuned Bugeildy bron ar y ffin â Lloegr (Swydd Amwythig), tua 2 filltir i'r gogledd-orllewin o Dref-y-clawdd.

Ganed y diwygiwr Anghydffurfiol a Phiwritan Vavasor Powell yn y pentref ym 1617. Gorsaf reilffordd Cnwclas yn yr Rheilffordd Calon Cymru gyda threnau ar y llinell wasanaethu'r dref.

Cwmdu, Powys

Pentref yn ne Powys yw Cwmdu, weithiau Cwm-du. Saif yn y Mynydd Du, ar y briffordd A479 rhwng Talgarth a Tretŵr. Llifa Afon Rhiangoll heibio'r pentref. Saif yng nghymuned Llanfihangel Cwm Du gyda Bwlch a Chathedin.

Mae'n gyrchfan boblogaidd i dwristiaid, yn enwedig i gerddwyr.

Dolfor

Pentref bychan yng ngogledd Powys yw Dolfor. Fe'i lleolir yn ardal Maldwyn tua 3 milltir i'r de o'r Drenewydd. Saif ar gyffordd y ffordd B4355 a'r briffordd A483.

Tardda Afon Miwl ger y pentref. Cysegrwyd eglwys Dolfor i Sant Paul.

Erwd

Pentref a chymuned ym Mhowys, yw Erwd, weithiau Erwyd (Saesneg: Erwood). Saif ar lan orllewinol Afon Gwy ac ar y briffordd A470 i'r de o dref Llanfair ym Muallt. Yma y byddai porthmyn Mynydd Epynt yn croesi'r afon ar eu ffordd i Loegr.

Heblaw pentref Erwd, mae'r gymuned yn cynnwys pentrefi bychain Crucadarn, Gwenddwr, Alltmawr a Llaneglwys. Roedd y boblogaeth yn 2011 yn 429.

Felindre, Maldwyn

Pentref bychan yng ngogledd Powys yw Felindre. Fe'i lleolir ar groesffordd wledig ar y ffordd B4355 tua 7 milltir i'r de-ddwyrain o'r Drenewydd, bron yn union am y ffin rhwng Cymru (Powys) a Lloegr (Swydd Amwythig).

Y pentref agosaf yw Bugeildy, ar y B4355 tua 2 filltir i'r de-ddwyrain. Mae'r B4355 yn cysylltu Felindre â Dolfor, ger Y Drenewydd, a Thref-y-clawdd.

Ffrwdgrech

Pentref bychan yn ardal Brycheiniog, de Powys yw Ffrwdgrech.

Gorwedd y pentref ar lôn wledig tua milltir i'r de-orllewin o Aberhonddu, ar lethrau gogleddol Bannau Brycheiniog, ger ffordd yr A470 ond heb fod arni. Mae'r pentrefi bychain cyfagos yn cynnwys Cefn Cantref i'r dwyrain a Libanus i'r de-orllewin.

Gaer Fawr

Ceir sawl bryngaer o'r enw'r Gaer Fawr neu Caer Fawr yng Nghymru:

Caer Fawr, Llangadog, Sir Gaerfyrddin

Gaer Fawr, Cegidfa, Powys

Gaer Fawr, Llan-gwm, Sir Fynwy

Gaer Fawr, Llanilar, Ceredigion

Gaer Fawr, Merthyr Cynog, Powys

Heol Senni

Pentref ym Mhowys yw Heol Senni. Saif yng nghymuned Maescar ar lechweddau gogleddol y Fforest Fawr, i'r de o Bontsenni, i'r dwyrain o'r A4067 ac i'r gorllewin o'r A470. Mae Afon Senni yn llifo trwy'r pentref.

Llwydiarth

Erthygl am y pentref ym Mhowys yw hon. Gweler hefyd Llwydiarth (gwahaniaethu).Pentref bychan ym Maldwyn, gogledd Powys, yw Llwydiarth. Mae'n gorwedd ar lôn wledig y B4395 tua hanner ffordd rhwng Llanfihangel-yng-Ngwynfa i'r gogledd a Llangadfan i'r de, tuag 11 milltir i'r gorllewin o'r Drenewydd. Gerllaw ceir Pont Llogel.

Rhwng Llwydiarth a Llanfihangel ceir Plasdy Llwydiarth, cartref y Fychaniaid, ond er gwaethaf yr enw mae'n gorwedd ym mhlwyf Llanfihangel-yng-Ngwynfa.

Plu'r Gweunydd yw papur bro Llwydiarth a'r cylch.

Penisarcwm

Pentre bychan ger Llyn Efyrnwy ym Maldwyn, Powys, yw Penisarcwm. Mae'n gorwedd fymryn i'r de-orllewin o bentref Llanwddyn ar lan afon Conwy.

Pentrecelyn, Powys

Pentref bychan yn ardal Maldwyn, Powys yw Pentrecelyn (hefyd: Pentre-celyn). Fe'i lleolir yn y bryniau tua 10 milltir i'r dwyrain o dref Machynlleth, ar ffordd wledig sy'n cysylltu Llanbrynmair, ar yr A470 i'r de, a'r A458 i'r gogledd.

Pwllgloyw

Pentref bychan gwledig ym Mrycheiniog, de Powys, yw Pwllgloyw. Mae'n gorwedd i'r de o Fynydd Epynt ar lan afon Honddu, un o ledneintiau pwysicaf afon Wysg.

Lleolir y pentref ar bwys lôn wledig sy'n dringo i gyfeiriad Epynt o Aberhonddu, tua 2 milltir a hanner i'r de. Y pentrefi cyfagos yw Capel Uchaf, Castell Madog a Chapel Isaf i'r gogledd, a Llandefaelog Fach i'r de, ar y lôn i Aberhonddu.

Talachddu

Pentref bychan yn ne Powys yw Talachddu a leolir yn ardal Brycheiniog yn ne-ddwyrain y sir, ar ffordd wledig tua hanner ffordd rhwng Aberhonddu i'r de-orllewin a'r Bronllys i'r gogledd-ddwyrain.

Y pentref agosaf yw Felinfach. Daw'r ffordd o Felinfach trwy Dalachddu gan ei gysylltu â phentref Llanddew ac Aberhonddu.

Trallong

Pentref bychan a chymuned yn ne Powys yw Trallong. Fe'i lleolir yn ardal Brycheiniog tua hanner ffordd rhwng Pontsenni i'r gorllewin ac Aberhonddu i'r dwyrain. I'r de ceir Afon Wysg ac wedyn fynyddoedd Bannau Brycheiniog.

Ceir bryngaer Twyn-y-Gaer gerllaw.

Trefaldwyn

Mae Trefaldwyn (Saesneg:Montgomery)yn dref hanesyddol yng ngogledd-ddwyrain Powys, bron ar y ffin â Lloegr.

I'r gorllewin ceir bryngaer Ffridd Faldwyn.

Ieithoedd eraill

This page is based on a Wikipedia article written by authors (here).
Text is available under the CC BY-SA 3.0 license; additional terms may apply.
Images, videos and audio are available under their respective licenses.