Caniad Solomon

Caniadau Solomon (Hebraeg: שיר השירים) yw 22ain llyfr yr Hen Destament. Ei dalfyriad arferol yw 'Can.'. Mae'n cynnwys cyfres o gerddi serch o naws erotig. Fe'i priodolir i'r brenin Solomon, fab Dafydd a Bathsheba, ond cafodd ei chyfansoddi yn yr 2ail ganrif CC, yn ôl pob tebyg, gan awdur neu awduron anhysbys. Mae esboniadwyr Cristnogol ac Iddewig yn gweld y gerdd fel alegori ysbrydol am y berthynas rhwng Duw ac Israel (yn achos yr Iddewon) neu rhwng Crist a'r Eglwys (yn achos y Cristnogion).

Mae'n enghraifft gynnar o draddodiad hirhoedlog yn y Dwyrain o gerddi serch alegorïaidd yn nhraddodiadau cyfrinol Iddewaeth, Cristnogaeth (i raddau llai) ac Islam. Yn achos yr olaf cyrhaeddodd y traddodiad ei uchafbwynt yn y cerddi serch gan feistri fel Hafiz ac Omar Khayyam ym Mhersia.

Roedd awdl Merch Ein Hamserau yn barodi o Ganiadau Solomon:

Dyfyniad:

Cân i mi'n gyoes f'offeryn oesol,
Reggae gwahoddiad, a'r blues tragwddol,
Cân yn ifanc, hynafol, dy nodau
A chân ar rythmau'r caniadau cnawdol.[1]
Llyfr Caniad Solomon - Caerwynt 2
Y carwyr brenhinol mewn hen lawysgrif

Cyfeiriadau

  1. Cyfansoddiadau Buddugol Eisteddfod Bro Delyn 1991; Eisteddfod Genedlaethol Cymru.
Canu serch

Barddoniaeth sy'n ymwneud â serch neu gariad yw canu serch. Yn y cyfnod diweddar mae'n tueddu i gael ei gysylltu â cherddi personol, rhamantaidd, ond mae'n genre lenyddol gyda hanes hir iddi ac yn cynnwys rhai o gerddi mawr y byd. Gall canu serch fod yn ganu erotig ond ei brif nodwedd yw mynegi teimlad y bardd neu brydyddes. Mae perthynas agos rhwng canu serch a hanes y delyneg, er nad oes rhaid i ganu serch fod yn ganu delynegol fel y cyfryw.

Solomon

Solomon, hen ffurf Gymraeg Selyf a hefyd Salmon (Hebraeg: שלמה, "Shlomo", Arabeg: سليمان"Süleyman"), oedd brenin teyrnas unedig Israel yn ystod ei Hoes Aur. Teyrnasodd o tua 975 CC neu 970 CC hyd 925 CC. Yn ôl yr Hen Destament, ef oedd yn gyfrifol am adeiladu'r deml gyntaf yn Jeriwsalem, Teml Solomon.

Roedd Solomon yn fab i'r brenin Dafydd a'i wraig Bathsheba. Roedd yn enwog am ei ddoethineb a'i gyfoeth. Fodd bynnag, roedd anfodlonrwydd ynghylch y trethi uchel a godai ar y wlad, ac wedi ei farwolaeth, ymrannodd y deyrnas yn ddwy ran, Israel a Jiwda.

Yn draddodiadol, priodolir Caniad Solomon iddo, ond ystyrir bod y gwaith yma yn deillio o gyfnod diweddarach.

Thomas Baddy

Roedd Thomas Baddy (m. 1729) yn emynwr a chyfieithydd. Roedd yn weinidog gyda'r Annibynwyr yn Ninbych, un o'r cynharaf yng ngogledd Cymru.Ychydig a wyddys amdano. Ymddengys iddo gael ei eni yng ngogledd Cymru, efallai o haniad Seisnig. Tua 1693 aeth yn weinidog Ymneilltuol i Ddinbych lle arosodd hyd ei farwolaeth yn 1729. Dywedir ei fod yn ddyn pur gyfoethog a boneddigaidd. Roedd yn bregethwr poblogaidd.Cyhoeddodd trosiad mydryddol o rai o 'r Salmau ynghyd â rhai o emynau ei hun dan yr enw Caniad Solomon yn 1725. Mae ei lyfrau eraill yn cynnwys Pasc y Cristion, cyfieithiad o waith Saesneg gan Thomas Doolittle.

Thus

Resin aromatig sydd yn cael ei ddefnyddio mewn arogldarth a phersawrau yw Thus, sydd hefyd yn cael ei alw yn olibanum. Mae e'n dod o goed o'r genws Boswellia o fewn y teulu Burseraceae, yn enwedig y Boswellia sacra (cyfystyron: B. bhaw-dajiana), B. carterii33, B. frereana, B. serrata (B. thurifera), a B. papyrifera.

Ceir pedair prif rywogaeth o Boswellia sy'n cynhyrchu thus go iawn. Mae resin o bob un o'r bedair ar gael i raddau amrywiol. Mae'r graddau hyn yn dibynnu ar yr amser mae'r cnwd yn cael ei gynaeafu. Trefnir y resin â llaw yn ôl ansawdd.

Wele'n sefyll rhwng y myrtwydd

Emyn a ysgrifenwyd gan Ann Griffiths yw Wele'n Sefyll Rhwng y Myrtwydd a gennir yn aml ar yr emyn-dôn Cwm Rhondda. Mae'n gân serch i Dduw, yn hiraethu amdano, ac am fod yn bur ac yn ffyddlon iddo. Credir i'r emyn gael ei ysgrifennu yn dilyn pregeth gan John Parry gyda Caniad Solomon 5:10 yn destun - 'Fy anwylyd sydd wyn a gwridog, yn rhagori ar ddengmil'.

Mae'r cyfeiriad at 'fyrtwydd' mae'n debyg yn seiliedig ar Sechareia 1:8, sef gweledigaeth o ŵr ar farch coch yn sefyll rhwng y myrtwydd yn y pant, sef symbol o Grist yn amddiffyn ei bobl.

Y Beibl

Casgliad o lyfrau sanctaidd yn yr iaith Roeg a'r iaith Hebraeg yw'r Beibl. Yn y traddodiad Cristnogol, gelwir y llyfrau Hebraeg yn Hen Destament a'r llyfrau Groeg yn Destament Newydd.

Cyfieithwyd y Beibl i'r Gymraeg gan yr Esgob William Morgan.

Yr Hen Destament

Casgliad o 39 llyfr hynafol sy'n ffurfio ysgrythur ganonaidd yr Iddewon yw'r Hen Destament. Gyda'r Testament Newydd mae'n ffurfio y gyntaf o ddwy brif ran y Beibl Cristnogol. Mae'r enw yn tarddu o'r gair Lladin am "gyfamod" ac yn cyfeirio at y ffaith ei fod yn cael ei ystyried yn gyfamod rhwng yr Israeliaid a Duw, thema a geir dro ar ôl tro ynddo. Mae'r llyfrau'n honni rhychwantu'r cyfnod rhwng creu'r Bydysawd a chwymp Adda ac Efa hyd at tua 400 CC. Fe'u rhennir yn draddodiadol yn dair rhan: y Torah neu'r Pentateuch (y pum llyfr cyntaf a gysylltir â Moses), Llyfrau'r Proffwydi (llyfrau 'hanes') a'r Hagiographa (Hebraeg: Kethubim) diweddarach a ychwanegwyd yn y ganrif gyntaf OC (h.y. y Salmau, Caniad Solomon, a.y.y.b).

Ieithoedd eraill

This page is based on a Wikipedia article written by authors (here).
Text is available under the CC BY-SA 3.0 license; additional terms may apply.
Images, videos and audio are available under their respective licenses.