Caer Fawr, Llangadog

Bryngaer o Oes yr Haearn ydy'r Gaer Fawr, wedi'i chodi ar fryn o'r enw y Garn Goch, ger Llangadog, Sir Gaerfyrddin a phedair milltir i'r dwyrain o Landeilo (Cyfeirnod OS: SN 690 243) ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

Saif y Garn Goch 213 metr uwchlaw lefel y môr. Prynwyd y tir yn 1980 gan y Parc Cenedlaethol. Ceir siambrau claddu o Oes yr Efydd o fewn y muriau. Mae hi'n un o fryngaerau mwyaf Cymru, ac yn 11.2 hectar o ran arwynebedd.

Y Garn Coch fort
Y Gaer Fawr, ar gopa'r Garn Goch, ger Llangadog

Gweler hefyd

Gaer Fawr

Ceir sawl bryngaer o'r enw'r Gaer Fawr neu Caer Fawr yng Nghymru:

Caer Fawr, Llangadog, Sir Gaerfyrddin

Gaer Fawr, Cegidfa, Powys

Gaer Fawr, Llan-gwm, Sir Fynwy

Gaer Fawr, Llanilar, Ceredigion

Gaer Fawr, Merthyr Cynog, Powys

Rhestr o fryngaerau mwyaf Cymru

Dyma restr o rai o fryngaerau Cymru yn ôl eu harwynebedd. Mae gan tua ugain bryngaer arwynebedd o fwy na 6 hectar. Yn gyffredinol: po uchaf y fryngaer, po fwyaf ydy'r arwynebedd.

Bryngaer Llanymynech, Powys: 58 ha

Breiddin, Bausley a Chrugion: 28 ha

Penycloddiau, Sir Ddinbych: 21ha

Craig Rhiwarth, Powys: 16.2 ha

Moel Hiraddug: 12 ha

Caer Fawr (Llangadog), Llangadog: 11.2 ha

Garn Boduan, Pen Llŷn: 10 ha

Moel Fenlli, Sir Ddinbych: 10ha

Bryngaerau Cymru

Ieithoedd eraill

This page is based on a Wikipedia article written by authors (here).
Text is available under the CC BY-SA 3.0 license; additional terms may apply.
Images, videos and audio are available under their respective licenses.