Brythoniaid

Roedd y Brythoniaid (neu'r Brutaniaid a hefyd Brython fel enw unigol lluosog) yn bobl a'r oedd yn byw yn ynys Prydain i'r de o Ucheldiroedd yr Alban cyn goresgyniad y Rhufeiniaid. Nid un "genedl" oeddynt ond yn hytrach gasgliad o deyrnasoedd annibynnol mawr a bach yn seiliedig ar batrymau llwythol. Mae llawer o ysgrifenwyr wedi anghofio am y Brythoniaid - maen' nhw'n defnyddio termau fel "Celtiaid" neu "Romano-British" gan amlaf.

Erbyn i'r Rhufeiniaid adael yn 410 OC roedd Lladin, iaith y Rhufeiniaid, wedi dylanwadu ar y Frythoneg ac roedd hi'n dechrau newid ei strwythur. Roedd yr iaith yn datblygu a'r ysgogiad i gofnodi gwahanol ddeunydd - ysgrifau am hanes a dirywiaxuudiiexxxxxxd tybiedig y genedl gan y mynach Gildas, canu Taliesin ac Aneirin yn cael eu traddodi ar lafar, a chofnodion a phytiau mewn llawysgrifau eglwysig ac ar feini - yn arwain at gychwyn llenyddiaeth Gymraeg.

Yn llenyddiaeth gynnar Cymru, defnyddir yr enwau "Cymry" a "Brython" (Brythoniaid/Brutaniaid) ochr yn ochr.

Roedd y Cymry'n ymwybodol iawn o'u perthynas â'r Llydäwyr yn Llydaw (fel y tyst yr enw Breton) a'r Cernywiaid yng Nghernyw, ynghyd â'u cyd-Frythoniaid yn yr Hen Ogledd. Dros y môr i Lydaw aeth nifer o'r Brythoniaid, yn ôl chwedl Macsen Wledig a ffynonellau eraill, wedi'r goresgyniad Sacsonaidd yn Lloegr - a dyma le ymsefydlodd nifer o'r seintiau Brythonaidd cynnar.

Tiriogaethau Prydain 500-700
Teyrnasoedd Cymru 400-800
(y map gwreiddiol gan William Rees 1959
Atgynhyrchwyd yn 'Hanes Cymru' gan John Davies)
Argoed Llwyfain

Am enghreifftiau eraill o'r enw gweler Argoed.Safle brwydr dyngedfennol yn yr Hen Ogledd oedd Argoed Llwyfain (hefyd Argoed Llwyfein). Ceir hanes y frwydr mewn awdl o waith Taliesin a gedwir yn Llyfr Taliesin. Mae ei union leoliad yn ansicr, ond cynigir safle yn nyffryn afon Eden, Cumbria. Ymddengys fod yr enw Llwyfain yn gysylltiedig ag enw yr ardal Llwyfenydd, yn nhiriogaeth Rheged.Yn ôl yr awdl 'Gweith Argoet Llwyfein' ("Brwydr Argoed Llwyfain") gan Daliesin, ymladdwyd y frwydr enwog ryw 'bore dydd Sadwrn' rhwng lluoedd gwŷr Rheged, dan arweiniad Urien Rheged a'i fab Owain, a llu o elynion (Eingl-Sacsoniaid o Frynaich efallai) dan arweiniad Fflamddwyn. Roedd byddin Fflamddwyn wedi'i threfnu yn bedair adran. Parodd am ddiwrnod cyfan ac enillodd y Brythoniaid fuddugoliaeth ysgubol. Gadawyd nifer o gyrff yr ymosodwyr ar faes y gad yn fwyd i'r brain:

A rhag gwaith Argoed Llwyfain

Bu llawer celain;

Rhuddai frain rhag rhyfel gwŷr.Mae'n debyg i'r frwydr gael ei hymladd tua chanol y 6g, ond ni ellir ei dyddio'n fanylach.

Blaenau Ffestiniog

Mae Blaenau Ffestiniog yn dref yng Ngwynedd sydd gerllaw Parc Cenedlaethol Eryri; Cyfeirnod OS: SH 70078 41951. Mae ganddi boblogaeth o 4,830 (Cyfrifiad 2001). Mae Caerdydd 175.6 km i ffwrdd o Flaenau Ffestiniog ac mae Llundain yn 308.2 km. Y ddinas agosaf ydy Bangor sy'n 29 km i ffwrdd.

Roedd y dref yn ganolfan bwysig iawn yn y diwydiant llechi.

Mae'r tir o gwmpas y dref yn rhan o'r parc cenedlaethol, ond dyw'r dref ei hunan ddim - fe'i heithrwyd oherwydd yr olion diwydiannol sy'n amlwg o amgylch y dref. Dywedir ei bod yn bwrw llawer o law yno. Lleolir y Moelwynion yn agos i'r dref, uwchben pentref Tanygrisiau.

Mae'r cylch yn cael ei wasanaethu gan Bapur Bro o'r enw'r Llafar Bro sy'n cael ei gyhoeddi unwaith y mis.

Yn hanesyddol, roedd yn rhan o Sir Feirionydd.

Caer Gwrtheyrn

Bryngaer yw Caer Gwrtheyrn a leolir yn ne Ceredigion tua milltir i'r dwyrain o Landysul (cyfeiriad grid SN432403, map Landranger 146).

Caint

Swydd seremonïol yn Ne-ddwyrain Lloegr yw Caint (Saesneg: Kent), yng nghongl dde-ddwyreiniol y wlad. Mae ganddi boblogaeth o 1,610,400 ac arwynebedd o 3,736 km². Maidstone ydyw prif dref y sir. Mae Caint yn ffinio ar Surrey a Sussex i'r gorllewin, ar Essex i'r gogledd, ar draws Afon Tafwys, ac, mewn ffordd, ar Ffrainc i'r de-ddwyrain drwy Dwnnel y Sianel. Mae gogledd-orllewin y sir wedi'i lyncu o dan faestrefi Llundain.

Y sir hon ydyw'r agosaf at dir mawr Ewrop – dim ond 21 filltir neu 34 km sydd rhwng Dover a Cap Gris-Nez, gogledd Ffrainc.

Mae tarddiad yr enw Caint yn dyddio'n ôl i'r Brythoniaid, o bosib i lwyth y Cantiaci. Awrgrymwyd hefyd bod cysylltiad rhwng 'Caint' a'r gair Cymraeg cantel ('ymyl'), gan ei bod ar 'ymyl' Prydain Fawr. Dyma'r rhan gyntaf o Loegr i gael ei gwladychu gan lwythau Tiwtonaidd y Saeson - yn yr achos yma yr Iwtiaid a greasant deyrnas Seisnig Caint, yng nghanol y 5g, a barhaodd nes cael ei llyncu gan Wessex. Gelwid Saeson Caint yn 'Cantwara', a Chaergaint oedd eu prifddinas. Er bod enwau Celtaidd yn weddol brin yng Nghaint o'i gymharu ac ardaloedd eraill Lloegr, mae nifer o enwau lleoedd o darddiad Brythoneg, er enghraifft Thanet a Dover. Mae rhai haneswyr, megis Myres, wedi gweld parhâd nifer o enwau lleoedd Brythoneg yma fel tystiolaeth i'r boblogaeth frodorol oroesi yma'n well nag mewn ardaloedd eraill de-ddwyrain Lloegr.Daeth Sant Awstin â Christionogaeth i Gaint yn niwedd y 6g.

Enw arall a roddir ar Gaint yw'r 'Garden of England' ('Gardd Lloegr') oherwydd ei thraddodiad amaethyddol. Mae hopys, i wneud cwrw, yn gnwd traddodiadol yng Nghaint, ac mae'r odyndai ('oast-houses'), lle sychir yr hopys, yn dal yn nodweddiadol o dirwedd y sir.

Cernyweg

Mae Cernyweg (Kernewek, Kernowek, neu Curnoack) yn iaith Geltaidd. Bu'r iaith farw ond mae wedi cael adfywiad dros y ganrif ddiwethaf ac mae tua mil o bobl yng Nghernyw yn siarad Cernyweg. Mae'n bosibl gwrando ar y newyddion yn Gernyweg ar BBC Radio Cornwall bob nos Sul. Mae'n hynod ddiddorol i siaradwyr Cymraeg wrando arno, gan ei bod ar adegau'n swnio fel Cymraeg.

Mae'n bosib dysgu'r iaith drwy'r rhyngrwyd, drwy ddefnyddio Kernewek Dre Lyther lle ceir nifer o wersi ar ffurf Adobe Acrobat. [angen ffynhonnell]

Cymry

Cenedl a grŵp ethnig yw'r Cymry sydd yn gysylltiedig â'r iaith Gymraeg ac yn frodorion gwlad Cymru. Maent yn bobl Geltaidd ac yn un o genhedloedd Ynysoedd Prydain ac Iwerddon. Mae cenedl y Cymry yn un o'r rhai hynaf yn Ewrop, gyda'i hanes yn mynd yn ôl i amser yr hen Geltiaid.

Fel cenedl Geltaidd, mae'r Cymry yn perthyn yn hanesyddol ac yn ddiwylliannol i'r Cernywiaid, y Llydawyr, y Gwyddelod, yr Albanwyr, a'r Manawyr. Ers cread y genedl yn oes y rhyfeloedd rhwng y Brythoniaid a'r Eingl-Sacsoniaid, bu hanes hir o wrthdaro, gelyniaeth, cydweithrediad, cyfeillgarwch, a chyd-ddibyniaeth rhwng y Cymry a'r Saeson.

Hyd at ddiwedd y 19g, roedd y mwyafrif helaeth o Gymry yn siarad yr iaith Gymraeg yn unig. Yn ogystal â'r newidiadau ieithyddol yng Nghymru, mae mewnlifiad gan grwpiau ethnig allanol wedi trawsnewid demograffeg y wlad o ran hil a chrefydd. Mae ystyr yr enw Cymry wedi newid pan yn cyfeirio at genedligrwydd sifig, ac yn crybwyll y newydd-ddyfodiaid hyn sydd yn mabwysiadu hunaniaeth Gymreig. Mae'r rhai a aned yng Nghymru yn meddu ar ddinasyddiaeth Brydeinig; nid oes diffiniad swyddogol o genedligrwydd Cymreig.

Deifr

Teyrnas Eingl-Sacsonaidd yn ngogledd-ddwyrain Lloegr yn y 6g oedd Deifr (Saesneg: Deira). Ymestynnai o Afon Humber hyd Afon Tees, ac o'r môr hyd ymyl gorllewinol Dyffryn Efrog. Yn ddiweddarach fe'i cyfynwyd a Brynaich (Bernicia) i'r gogledd i ffurfio teyrnas Northumbria.

Mae enw'r deyrnas o darddiad Brythoneg, efallai'n golygu "dyfroedd", fel y gair 'dwfr'. Y brenin Eingl cyntaf a gofnodir yw Ælla, y dywedir iddo gipio'r deyrnas oddi ar y Brythoniaid yn 581. Wedi ei farwolaeth ef, cipiwyd Deifr gan Æthelfrith, brenin Bernicia, ac unodd ef y ddwy deyrnas. Yn ddiweddarach daeth mab Ælla, Edwin, yn frenin y ddwy deyrnas yn 616 neu 617, a theyrnasodd hyd 633.

Deifr oedd gelyn teyrnas Gododdin yn yr ymladd a ddisgrifir yn Y Gododdin, rywbryd o gwmpas y flwyddyn 600.

Enw barddol

Mae enw barddol yn ffugenw a ddefnyddir gan feirdd a llenorion eraill yng Nghymru, yn arbennig yn yr eisteddfod.

Roedd y gair bardd yn un o sawl enw Cymraeg Canol a ddefnyddid gan feirdd yr Oesoedd Canol, boed yn feirdd llys neu'n feirdd crwydrol (y Glêr). Roedd nifer o'r beirdd hyn yn arddel ffugenw, neu enw barddol, er enghraifft Cynddelw Brydydd Mawr (fl. 1155 - 1200) a Iolo Goch (c.1320 - c.1398).

Ymddengys fod gwreiddiau'r arfer yn hynafol iawn, fel y tyst enwau Talhaearn Tad Awen, Blwchfardd a Culfardd, beirdd o'r 6g y mae'r hanesydd Nennius yn cyfeirio atynt, ynghyd â Thaliesin ac Aneirin (Aneurin Gwenithwawd), yn ei lyfr Lladin Historia Brittonum ("Hanes y Brythoniaid").

Parhaodd y traddodiad yn y cyfnod modern cynnar.

Fodd bynnag, yn sgîl gweithgareddau rhamantaidd Edward Jones (Iolo Morganwg) a llenorion eraill ar ddiwedd y 18g a dechrau'r 19eg, trowyd yr enw barddol yn dipyn o gonsít ac ymarddelai rhai o feirdd mwyaf di-nod oes Victoria ffugenwau chwyddedig a hunan-bwysig, er enghraifft "Vulcan", "Cymro Gwyllt" a "Llenor y Llwyni".

Erbyn heddiw prif bwrpas yr enw barddol yw er mwyn cuddio enw iawn cystadleuwyr o bob math yn yr eisteddfod, rhag i'r beirniaid eu hadnabod.

Gwrtheyrn

Brenin Brythonig yng nghanol y 5g oedd Gwrtheyrn (Lladin: Vortigernus) yn ôl traddodiad. Dywedir mai ef fu'n gyfrifol am wahodd y Sacsoniaid i Ynys Prydain. Nid oes sicrwydd a yw'n gymeriad hanesyddol ai peidio.

Ceir sôn yng ngwaith Gildas, De Excidio Britanniae (6g) i gynghorwyr y Brythoniaid, "ynghyda'u teyrn balch" (cum superbo tyranno) wahodd y Sacsoniaid i'r ynys, ond nid yw Gildas yn rhoi enw'r teyrn hwnnw. Mae Beda yn ei Hanes Eglwysig yn yr 8g yn rhoi enw'r brenin yn y stori fel Uurtigern.

Yn yr Historia Brittonum, a briodolir i Nennius, ceir fersiwn lawnach o'r stori. Dywed fod y brenin Guorthigirnus wedi croesawu arweinwyr y Saesnon, Hengist a Hors, ac wedi rhoi ynys Tanet yn rhodd iddynt. Dywedir mai er mwyn cael merch Hengist, Alys Rhonwen (neu Ronwen), yn wraig y rhoes diroedd iddynt. Yn ôl Nennius gwahoddodd Hengist Wrtheyrn a'i bendefigion i wledd yn ei lys. Ond ystryw oedd y cyfan i lofruddio'r Brythoniaid er mwyn meddianu Ynys Prydain. Cytunodd Gwrtheyrn, dall yn ei gariad at Ronwen, ond ar yr amod fod pawb yn ddiarfog yn y wledd. Ar air penodedig gan Hengist (Nemet eour Saxes! "Gafaelwch yn eich cyllyll!"), tynnodd y Saeson, oedd yn eistedd bob yn ail â'r Brythoniaid wrth y byrddau, eu cyllyll hirion a lladd tri chant o'r Brythoniaid. Dim ond un pendefig a lwyddodd i ddianc o'r gyflafan, sef Eidol, Iarll Caerloyw. Ni fu dewis gan Wrtheyrn wedyn ond ildio de Prydain i gyd i'r Sacsoniaid a ffoi a gweddill ei bobl i Gymru.

Dywedir iddo ffoi i Eryri. Yno ceisiodd godi caer ar safle Dinas Emrys, ond roedd y gwaith adeiladu yn cael ei chwalu bob nos. Dywedodd ei wŷr doeth wrtho fod rhaid arllwys gwaed bachgen heb dad dros y seiliau. Ceir hyd i fachgen felly yng Nghaerfyrddin, a phan ddygir ef at y brenin, dywed mai Ambrosius yw ei enw. Mae'r bachgen, Emrys Wledig, yn dangos i'r brenin fod llyn oddi tan y gaer lle mae dwy ddraig yn byw, draig goch a draig wen, ac mai hwy sy'n achosi i'r seiliau gwympo.

Newidiwyd yr hanes gryn dipyn gan Sieffre o Fynwy yn ei Historia Regum Britanniae, lle rhoir yn enw Myrddin i'r bachgen yn y chwedl am y ddwy ddraig.

Roedd gan Gwrtheyrn fab o'r enw Gwerthefyr, a ymladdodd nifer o frwydrau llwyddiannus yn erbyn y Sacsoniaid, ond a fu farw'n gymamserol.

Mewn fersiwn arall o stori Gwrtheyrn, priododd ei ferch ei hun, a chafodd ei felltithio gan Sant Garmon. Llosgwyd ef a'i wragedd gan dân o'r nefoedd yng Nghaer Gwrtheyrn yn Nyfed.

Yn ôl yr arysgrif ar Groes Eliseg, roedd brenhinoedd Teyrnas Powys yn ddisgynyddion Gwrtheyrn. Ymddengys fod cwmwd Gwerthrynion (Gwrtheyrnion mewn rhai ffynonellau) wedi ei enwi ar ei ôl, ac felly hefyd Nant Gwrtheyrn ync Ngwynedd.

Historia Brittonum

Testun hanes Lladin o'r Oesoedd Canol cynnar yw'r Historia Brittonum (Cymraeg: 'Hanes y Brythoniaid'). Yn ôl traddodiad fe'i priodolir i Nennius, ond mae amheuaeth ynglŷn â'i wir awduraeth erbyn heddiw. Prif bwnc y testun yw hanes traddodiadol Cymru a'r Cymry (neu'r Brythoniaid). Er gwaethaf ei ddiffygion mae'n ffynhonnell bwysig am hanes cynnar Cymru ac yn cynnwys yn ogystal nifer o draddodiadau llên gwerin diddorol. Tynnodd yr awdur ar ffynonellau ysgrifenedig ynghyd â thraddodiadau llafar cynhenid. Mae'n debyg iddo gael ei gyfansoddi tua chanol y 9g.

Lloegr

Gwlad ar Ynys Prydain yng ngogledd orllewin Ewrop yw Lloegr (Saesneg: England). Yn ddaearyddol, ac o ran poblogaeth, hi yw'r wlad fwyaf o fewn y Deyrnas Unedig. Mae'n ffinio â Chymru i'r gorllewin a'r Alban i'r gogledd.

Yn y 6ed a'r 7g cyrhaeddodd llwythau Tiwtonaidd (a gynhwysai yn ôl traddodiad yr Eingl, Sacsoniaid, a Jutiaid) Brydain o dir mawr Ewrop a gwladychu de a dwyrain yr ynys gan yrru'r brodorion o Geltiaid tua'r gorllewin ac i'r ardaloedd llai ffrwythlon; arhosodd eraill ac fe'u hymgorfforwyd o fewn cymdeithas y goresgynnwyr. Ymledodd rheolaeth y Saeson cynnar o dipyn i beth tua'r gorllewin a'r gogledd gan greu nifer o deyrnasoedd fel Wessex, Mercia, Essex, Sussex, a Northumbria. Colli eu hiaith a'u harferion bu hanes y Brythoniaid a oroesodd yn yr ardaloedd hynny. Ond Wessex oedd yr unig un i gadw ei hannibyniaeth ar ôl goresgyniadau'r Llychlyniaid yn yr 8fed a'r 9g, a theyrnas Wessex fu sail teyrnas Lloegr a'r Deyrnas Unedig wedyn.

Nawddsant Lloegr: Sant Siôr - 23 Ebrill.

Owain ab Urien

Un o arweinwyr Brythoniaid yr Hen Ogledd a ddaeth yn ffigwr pwysig yn rhamantau'r Oesoedd Canol oedd Owain ab Urien neu Owain fab Urien (yn fyw yn y 6g). Roedd yn fab i Urien Rheged, brenin teyrnas Rheged. Fel Owein neu Yvain, ymledodd ei hanes chwedlonol ar draws Ewrop fel un o farchogion y brenin Arthur.

Prydain

Cynhwysir yr enw Prydain yn yr erthyglau canlynol:

Gwlad a thir:

Prydain Fawr - Ynys Prydain a'i rhagynysoedd; bellach, yng Nghymru defnyddir y term Gwledydd Prydain.

Ynys Brydain - cysyniad Brythonig a Chymreig, yn enwedig wedi ymadawiad y Rhufeiniaid, yn cynnwys tiriogaeth neu gyn-diriogaeth y Brythoniaid.

Ynysoedd Prydain - ynysoedd Prydain, Iwerddon (defnydd dadleuol) a'r rhagynysoedd

Britannia - Talaith Rufeinig Prydain

Teyrnas Prydain Fawr - gwladwriaeth (1707 hyd 1801)

Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon - gwladwriaeth (1801 hyd 1927)

Teyrnas Unedig Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon - gwladwriaeth (1927 hyd heddiw)

Hanes a llên:

Hanes Prydain - hanes yr ynys a'i gwledydd

Rhyfeddodau Prydain

Trioedd Ynys Prydain

Pobl o Brydain:

Albanwyr

Cymry

Saeson

Brenhinoedd a breninesau gwledydd Prydain

Pendefigaeth Prydain Fawr

Prydeinwyr

Term a ddefnyddir i ddisgrifio dinasyddion y Deyrnas Unedig yw Pobl Prydeinig neu Prydeinwyr. Mae hyn yn cynnwys dinasyddion Ynys Manaw ac Ynysoedd y Sianel, yn ogystal â thiriogaethau tramor y Deyrnas Unedig a'u disgynyddion. Mewn cyd-destun hanesyddol, mae'r term Saesneg Briton yn cyfeirio at y Brythoniaid hynafol a phobloedd brodorol eraill a oedd yn trigo ym Mhrydain i'r de o'r Forth. Mae cyfraith cenedligrwydd Prydain yn llywodraethu dinasyddiaeth a chenedligrwydd Prydeinig, a geir drwy cael eich geni yng ngwledydd Prydain neu drwy fod yn ddisgynydd o rywun a aned yno.

Saesneg

Iaith frodorol Lloegr ydyw Saesneg (English). Mae'n un o ddwy iaith swyddogol Cymru (ynghyd â'r Gymraeg) yn ogystal, ac yn un o ieithoedd mwyaf y byd.

Datblygodd y Saesneg o iaith llwythau Germanaidd ag ymsefydlodd ym Mhrydain rhwng y bumed a'r seithfed ganrif gan ddisodli iaith a diwylliant y Brythoniaid brodorol o rannau helaeth o dde Prydain a chreu'r teyrnasoedd Eingl-Sacsonaidd. Erbyn y ddegfed ganrif roedd y teyrnasoedd hyn wedi uno i greu teyrnas Lloegr. Lledodd y Saesneg drwy'r byd yn sgîl anturiaethau imperialaidd y Saeson a arweiniodd at greu gwladfeydd Seisnig mewn sawl rhan o'r byd.

Oherwydd ei lle fel iaith mwyafrif yr Unol Daleithiau, mae'r Saesneg wedi dod yn brif iaith y byd ar gyfer cyfathrebu rhyngwladol. Dysgir Saesneg fel ail iaith yn fwy nag unrhyw iaith arall, ond y ffurf Americanaidd ar yr iaith a ddysgir yn amlach na'r ffurf Seisnig.

Mae llenyddiaeth Saesneg yn un o'r llenyddiaethau mwyaf yn y byd, a'i gwreiddiau'n gorwedd yn y cyfnod Eingl-Sacsonaidd. Mewn canlyniad i'r dirywiad yn nifer y siaradwyr Cymraeg a'r Seisnigeiddio yn y wlad, mae gan Gymru ei llenyddiaeth Saesneg hefyd: ysgrifennodd Dylan Thomas ei storïau a'i gerddi yn Saesneg, er enghraifft.

Walton, Powys

Am lleoedd eraill o'r un enw gweler Walton.Pentref yng nghymuned Pencraig ym Mhowys yw Walton. Nid ymddengys fod enw Cymraeg iddo; daw'r enw o'r Eingl-Sacsoneg Wealas-tun; "tref y Brythoniaid" neu "tref y Cymry". Saif rhwng Maesyfed a Llanandras, ar y briffordd A44 ac ychydig i'r gorllewin o'r ffîn a Lloegr.

Ynys Brydain

Mae Ynys Brydain (weithiau Prydain) yn derm daearyddol, gwleidyddol a diwylliannol a fu'n ganolog i feddylfryd a hanes y Cymry yn yr Oesoedd Canol ac am gyfnod hir ar ôl hynny. Enw arall arni a geir yn y chwedlau, ym Mhedair Cainc y Mabinogi er enghraifft, yw Ynys y Cedyrn.

Mae'n bwysig sylweddoli nad yw'r enw yn gyfystyr â thermau diweddar fel Prydain Fawr ac Ynysoedd Prydain, yn yr un modd â bod gwahaniaeth pwysig rhwng ystyron yr enwau Brython a Phrydeiniwr. Nid oedd y Brythoniaid yn Brydeinwyr ac nid oeddynt yn defnyddio'r enw Ynys Prydain i olygu Prydain Fawr fel y mae hi heddiw.

Cysyniad â'i wreiddiau yn hanes cynnar y Brythoniaid/Cymry oedd Ynys Brydain. Mae'n deillio o'r cyfnod Celtaidd a'r cyfnod ôl-Rufeinig pan fu Prydain i'r de o linell yn rhedeg o Ystrad Clud i'r Foryd Forth (Glasgow - Caeredin) ym meddiant y Brythoniaid, pobl Geltaidd a siaradai'r iaith Frythoneg. Daeth y llwythau "Eingl-Sacsonaidd" (cyndeidiau'r Saeson) drosodd o'r cyfandir ac yn raddol collodd y Brythoniaid eu tir. Meddiannwyd Lloegr - ac eithrio Cernyw - gan yr Eingl-Sacsoniaid. Daliodd Brythoniaid yr Hen Ogledd allan am ganrifoedd, ond torrwyd y cysylltiad rhwng Gwŷr y Gogledd a Brythoniaid Cymru. Daethant i alw eu hunain yn Gymry ond ni pheidiasent alw eu hunain yn Frythoniaid (neu'r Brython, fel enw torfol unigol) ac i ystyried fod ganddynt hawl ar Ynys Brydain, sef "Gwlad y Brython" (un o hen ystyron ynys yw 'gwlad', fel yn achos y gair Lladin insula).

Roedd daearyddiaeth Ynys Brydain yn bur wahanol i ddaearyddiaeth y Brydain fodern. Ym Mhedair Cainc y Mabinogi cawn fod Bendigeidfran yn llywodraethu Ynys Prydain o'i lysoedd yng Ngwynedd (Harlech, Aberffraw a Chaer Saint yn Arfon). Yn y chwedl Cymraeg Canol Lludd a Llefelys, cyfeirir at Rydychen fel canol daearyddol yr ynys. Cleddir pen Bendigeidfran yn "y Gwynfryn yn Llundain" i warchod Ynys Brydain, ond cleddir ei chwaer Branwen ym Môn. Teyrnas Gwynedd a Llundain symbolaidd oedd dau begwn grym Ynys Brydain yn y traddodiad Cymreig/Brythonaidd felly. Gelwir tywysogion Gwynedd yn "ddreigiau Prydain" a "phriodolion Prydain" gan y beirdd. Roedd y cof am Ynys Brydain yn wydn.

Ceir cyfeiriadau mor gynnar â Nennius at Ryfeddodau Ynys Brydain, dinasoedd yr ynys (32 ohonynt) ac ati. Cyfeirir yn aml at "Ynys Brydain a'i thair rhag ynys," sef Môn, Manaw ac Wyth (sylwer nad oes sôn am ynysoedd yr Alban).

Elfen bwysig arall yn hanes Ynys Brydain oedd y Mab Darogan. Credai'r Cymry y byddai arwr o'r gorffennol yn dychwelyd i gyflawni'r hen broffwydoliaeth fod y Cymry/Brython i ailfeddianu Ynys Brydain. Cafwyd corff mawr o gerddi a adnabyddir fel y brudiau neu'r canu darogan gyda'r Mab Darogan yn ganolog iddynt, dan sawl enw. Cadwaladr Fendigaid oedd brenin olaf Ynys Brydain cyn iddi gael ei meddiannu gan y Saeson, yn ôl y traddodiad. Un o destunau cynharaf y traddodiad yw'r gerdd Armes Prydain ("Y Broffwydoliaeth am Brydain"), a gyfansoddwyd yn y 10g.

Ceir yn ogystal Trioedd Ynys Prydain, sy'n gorff o drioedd nemonig sy'n rhestri arwyr a digwyddiadau Ynys Brydain, gan gynnwys arwyr o Gymru, yr Hen Ogledd, Cernyw a lleoedd eraill.

Yr Hen Ogledd

Mae'r term yr Hen Ogledd yn cyfeirio at diriogaeth teyrnasoedd Brythonaidd yr ardal sydd erbyn heddiw yn rhan o ogledd Lloegr a de'r Alban yn y cyfnod yn dilyn ymadawiad y Rhufeiniaid, sef o tua'r bumed i'r seithfed ganrif. O'r Hen Ogledd daeth y llenyddiaeth Gymraeg gynharaf, cerddi arwrol gan feirdd yr Hengerdd am y brwydro rhwng teyrnasoedd y Brythoniaid a llwythau'r Eingl-Sacsoniaid oedd yn ceisio goresgyn y Brythoniaid a meddiannu eu tir. O'r Hen Ogledd daeth Cunedda Wledig a'i ddilynwyr hefyd, sefydlwyr teyrnas Gwynedd.

Gellir diffinio'r Hen Ogledd fel yr Alban i'r de o linell ddychmygol rhwng cyffiniau Stirling a Loch Lomond a'r siroedd Seisnig presennol Cumbria, Swydd Gaerhirfryn, Swydd Durham, Northumberland, Swydd Efrog a Humberside. Mae hyn yn diriogaeth ehangach nag yw Cymru heddiw. Mae'n bosibl fod teyrnasoedd yr Hen Ogledd (trwy Elfed) yn ymestyn mor bell i'r de ag ardal Sir Gaer heddiw. Cafodd teyrnasoedd yr Hen Ogledd eu gwahanu oddi wrth Gymru gyda Brwydr Caer yn 615. Ffurf ar y Frythoneg a droes yn Gymraeg Cynnar oedd iaith trigolion yr Hen Ogledd: Cymbreg yw'r enw a ddefnyddir weithiau i'w disgrifio a cheir olion ohoni mewn enwau lleoedd yn Cumbria.

'Gwŷr y Gogledd' yw'r enw traddodiadol am bobl yr Hen Ogledd. Roeddent yn ddisgynyddion i lwythau Celtaidd y Votadini, Selgovai, Novantai a'r Damnonii (yn ne'r Alban) a'r Brigantes i'r de o Fur Hadrian. Lleolir nifer o draddodiadau a chymeriadau sydd i'w cael yn llenyddiaeth Cymraeg Canol yn yr Hen Ogledd. Yn eu plith y mae arwyr dwy o'r Tair Rhamant, sef Owain ab Urien (Iarlles y Ffynnon) a Peredur fab Efrog.

Yr Hengerdd

Yr Hengerdd yw'r enw a roddir ar y canu cynharaf yn Gymraeg. Mae enwau'r beirdd cynharaf am y canu yn Gymraeg hwn sy'n hysbys yn cynnwys Aneirin, Taliesin, Cian, Talhaearn Tad Awen a Blwchfardd. Dim ond gwaith Aneirin a Taliesin sydd ar glawr heddiw. Mae rhai ysgolheigion yn arfer cynnwys rhan o Ganu'r Bwlch yn y dosbarth hwn yn ogystal. Dyma'r canu cynharaf yn Gymraeg sydd wedi goroesi.

Canai Aneirin a Taliesin i arweinwyr y Brythoniaid yng Nghymru a'r Hen Ogledd yn y 6ed ganrif. Canu arwrol ydyw; cerddi sy'n dathlu bywyd a marwolaeth arwyr o ryfelwyr ac yn canu clodydd brenhinoedd hael fel Urien Rheged (prif noddwr Taliesin) a Mynyddog Mwynfawr (noddwr Aneirin). Mae gwreiddiau'r canu hwnnw'n hen iawn ac yn tarddu o gyfnod y Celtiaid. Er iddo addasu a newid gyda threigliad amser, para'r canu arwrol i fod yn elfen amlwg iawn yng ngwaith y beirdd Cymraeg hyd gyfnod Beirdd yr Uchelwyr.

Ieithoedd eraill

This page is based on a Wikipedia article written by authors (here).
Text is available under the CC BY-SA 3.0 license; additional terms may apply.
Images, videos and audio are available under their respective licenses.