Brasil

Gwlad fwyaf De America yw Brasil (Portiwgaleg: Brasil), Gweriniaeth Ffederal Brasil yn swyddogol[1][2] (Portiwgaleg: República Federativa do Brasil). Wrwgwái, Ariannin, Paragwâi, Bolifia, Periw, Colombia, Feneswela, Gaiana, Swrinam, a Guiana Ffrengig yw'r gwledydd cyfagos, gyda Chefnfor Iwerydd yn gorwedd i'r dwyrain. Mae amaethyddiaeth yn bwysig ym Mrasil ac mae ynddi fforestydd glaw eang.

Brasil
Coat of arms of Brazil
Estados Unidos Mexicanos
República Federativa do Brasil
Flag of Brazil
Sefydlwyd 7 Medi 1822 (Annibyniaeth oddi wrth Portiwgal)
29 Awst 1825 (Cydnabod)
15 Tachwedd 1889 (Gwladwriaeth)
Daearyddiaeth
Gwleidyddiaeth
LocationBrazil
Ariannol

Taleithiau

Caiff holl daleithiau Brasil eu cydnabod ar faner y wlad gydag un seren y cynrychioli pob talaith.

Rhennir Brasil yn 26 o daleithiau:

1 Talaith Talfyriad Pobl. (2008) Arwynebedd (km²) Prifddinas
1 Acre AC 692.000 153.149 Rio Branco
2 Alagoas AL 3.173.000 27.933 Maceió
3 Amapá AP 626.000 143.453 Macapá
4 Amazonas AM 3.399.000 1.577.820 Manaus
5 Bahia BA 14.561.000 567.295 Salvador
6 Ceará CE 8.472.000 146.348 Fortaleza
7 Espírito Santo ES 3.448.000 46.184 Vitória
8 Goiás GO 5.870.000 341.289 Goiânia
9 Maranhão MA 6.400.000 333.365 São Luís
10 Mato Grosso MT 3.010.000 906.806 Cuiabá
11 Mato Grosso do Sul MS 2.372.000 358.158 Campo Grande
12 Minas Gerais MG 19.904.000 588.383 Belo Horizonte
13 Pará PA 7.367.000 1.253.164 Belém
14 Paraíba PB 3.794.000 56.584 João Pessoa
15 Paraná PR 10.605.000 199.709 Curitiba
16 Pernambuco PE 8.745.000 98.937 Recife
17 Piauí PI 3.164.000 252.378 Teresina
18 Río de Janeiro RJ 15.685.000 43.909 Rio de Janeiro
19 Rio Grande do Norte RN 3.153.000 52.796 Natal
20 Rio Grande do Sul RS 10.860.000 269.153 Porto Alegre
21 Rondônia RO 1.519.000 238.512 Porto Velho
22 Roraima RR 421.000 225.116 Boa Vista
23 Santa Qatarina SC 6.091.000 95.442 Florianópolis
24 São Paulo SP 40.764.000 248.808 São Paulo
25 Sergipe SE 2.030.000 21.910 Aracaju
26 Tocantins TO 1.303.000 278.420 Palmas
27 Distrito Federal DF 2.526.000 5.822 Brasilia

Daearyddiaeth Brasil

Young Ashaninka girl in an Apiwtxa village, Acre state, Brazil
Merch llwyth yr Ashaninka.

O ran arwynebedd, mae Brasil yn gorchuddio bron hanner cyfandir De America. Hi yw'r bumed wlad yn y byd o ran arwynebedd; dim ond Rwsia, Canada, Tsieina a'r Unol Daleithiau sy'n fwy. Mae'n ffinio ar wledydd Wrwgwái, yr Ariannin, Paragwâi, Bolifia, Periw, Colombia, Feneswela, Gaiana, Swrinam, a Guiana Ffrengig. Dim ond dwy wlad yn Ne America sydd heb ffin â Brasil, sef Tsile ac Ecwador.

Ceir nifer o afonydd mwyaf y cyfandir ym Mrasil. Tardda Afon Amazonas, afon fwyaf y byd, ym Mheriw, ond mae'n llifo tua'r dwyrain gyda'r rhan fwyaf o'i chwrs ym Mrasil. Mae nifer o'r afonydd sy'n llifo i mewn i'r Amazonas hefyd yn bwysig iawn, yn enwedig yr Avon Negro.

Mae'r ail hwyaf o afonydd De America, Afon Paraná yn tarddu yn ne Brasil ac yn llifo tua'r de-orllewin. ,Ger dinas Salto del Guairá, mae'r afon yn ffurfio'r ffin rhwng tair gwlad: yr Ariannin, Paragwâi a Brasil. Gerllaw'r fan hon mae Afon Iguazú, sydd hefyd yn tarddu ym Mrasil, yn ymuno a hi.

Yn nalgylch afon Amazonas mae'r darn mwyaf o fforest law drofannol yn y byd, er bod llawer ohoni wedi ei cholli yn y blynyddoedd diwethaf.

Hanes Brasil

Dechreuodd hanes Brasil pan gyrhaeddodd y bobl gyntaf tua 8,000 o flynyddoedd yn ôl o Asia; yr adeg honno roedd tir yn cysylltu Asia a chyfandir America yn y gogledd. Erbyn i'r Ewropeaid cyntaf gyrraedd yn y 16g, roedd dros 2,000 o lwythau gwahanol yn nhiriogaeth Brasil. Wedi dyfodiad y Portiwgaliaid, lleihawyd niferoedd y brodorion yn fawr gan glefydau megis y frech wen.

Credir mai'r Ewropead cyntaf i ddarganfod Brasil oedd y fforiwr Portiwgeaidd Pedro Álvares Cabral ar 22 Ebrill, 1500. O'r 16g hyd y 19g roedd Brasil yn rhan o ymerodraeth Portiwgal.

Yn 1808, bu raid i'r brenin Ioan VI a theulu brenhinol Portiwgal ffoi pan feddianwyd y wlad gan Ffrainc dan Napoleon. O hynny hyd 1821, o Rio de Janeiro y gweinyddid ymerodraeth Portiwgal. Yn 1815, cyhoeddodd y brenin fod Portiwgal a Brasil yn un deyrnas unedig.

Ar 7 Medi, 1822, cyhoeddodd y wlad ei hun yn annibynnol, a daeth yn frenhiniaeth gyfansoddiadol dan yr enw Ymerodraeth Brasil, gyda Pedro yn teyrnasu fel Pedro I, Ymerawdwr Brasil. Wedi i'r fyddin gipio grym yn 1889, daeth y wlad yn weriniaeth. Heblaw am dri chyfnod o lywodraeth unbenaethol ym 1930-1934, 1937-1945, a 1964-1985, mae wedi bod yn weriniaeth ddemocrataidd ers hynny.

Demograffeg Brasil

Dinasoedd mwyaf Brasil yw:

Iaith a Diwylliant

Iaith

Portiwgaleg yw unig iaith swyddogol Brasil; mae bron bawb yn y wlad yn ei medru a dyma'r unig iaith a ddefnyddir mewn addysg ac ar y cyfryngau. Brasil yw'r unig wlad yn Ne America sy'n defnyddio Portiwgaleg (Sbaeneg yw iaith y mwyafrif o'r gwledydd), ac mae'r iaith yn rhan bwysig o hunaniaeth genedlaethol Brasil. Ceir rhywfaint o wahaniaethau rhwng yr iaith ym Mrasil ac ym Mhortiwgal.

Siaredir cryn nifer o ieithoedd eraill yn y wlad, yn cynnwys tua 180 o ieithoedd brodorol. Ceir hefyd gymunedau sy'n siarad Almaeneg ac Eidaleg.

Diwylliant

Ceir nifer o ddylanwadau ar ddiwylliant Brasil, ond diwylliant Portiwgal yn bennaf, ond hefyd ddiwylliant y bobl frodorol, yn enwedig y Tupi), a chaethweision o Affrica. Gwelir dylanwad Affricanaidd mewn cerddoriaeth a bwyd yn arbennig.

O ran cerddoriaeth, ceir arddulliau megis samba, bossa nova, forró, frevo, pagode ac eraill. Mae'r carnifal yn ddigwyddiad poblogaidd dros ben mewn llawer o ddinasoedd, ac mae carnifal Rio de Janeiro yn fyd-enwog.

Crefydd

Yr Eglwys Gatholig yw'r enwad cryfaf ym Mrasil, ac yma y mae'r nifer mwyaf o Gatholigion yn y byd. Mae'r nifer o Brotestaniaid o wahanol enwadau yn llai ond yn cynyddu. Yn ôl y cyfrifiad diwethaf mae 74% o'r boblogaeth yn Gatholigion (tua 139 miliwn); 15.4% yn Brotestaniaid (tua 28 miliwn), 7.4% yn agnostigiaid neu anffyddwyr, 1.3% yn dilyn crefyddau Ysbrydiaeth, 0.3% yn dilyn crefyddau Affricanaidd traddodiadol a 1.7% yn aelodau o grefyddau eraill.

Chwaraeon

Pêl-droed yw'r mwyaf poblogaidd o'r chwaraeon ym Mrasil, ac mae'r tîm cenedlaethol wedi ennill Cwpan y Byd bum gwaith, yn 1958, 1962, 1970, 1994 a 2002, mwy nag unrhyw wlad arall. Yr enwocaf o bêl-droedwyr Brasil yw Pelé, enw llawn Edison Arantes do Nascimento, a ystyrir gan lawer fel y pêl-droediwr gorau yn hanes y gêm.

Bwyd a diod

Brazil yw cynhyrchydd coffi mwyaf ers 150 mlynedd.[3]

Cyfeiriadau

  1. I'w weld ar y gwefan cenedlaethol
  2. Grids & Datums – Federative Republic of Brazil. Ionawr 2009. http://www.asprs.org/resources/GRIDS/01-2009-brazil.pdf.
  3. Jeff Neilson, Bill Pritchard (26 July 2011). Value Chain Struggles. John Wiley & Sons. p. 102.

Dolenni allanol

.br

Côd ISO swyddogol Brasil yw .br (talfyriad o Brasil).

Belo Horizonte

Belo Horizonte yw prifddinas talaith Minas Gerais yn ne-ddwyrain Brasil. Mae'n un o ddinasoedd mwyaf Brasil, gyda phoblogaeth o 3,120,000 yn 2007, ac yn ganolfan ddiwydiannol bwysig.

Sefydlwyd Belo Horizonte gan João Leite da Silva Ortiz o São Paulo, oedd yn chwilio am aur yn yr ardal. Ei henw gwreiddiol oedd Curral Del Rey, ond pan ddaeth yn brifddinas Minas Gerais yn 1897, newidiwyd yr enw i Belo Horizonte.

Colombia

Gwlad yn ngogledd-orllewin De America yw Gweriniaeth Colombia neu Colombia (Sbaeneg: República de Colombia, /

re'puβ̞lika ð̞e ko'lombja/). Mae'n ffinio â Feneswela a Brasil i'r dwyrain, Ecwador a Pheriw i'r de, y Cefnfor Iwerydd i'r gogledd (trwy Fôr y Caribî), a Phanama a'r Cefnfor Tawel i'r gorllewin. Colombia yw'r unig wlad yn Ne America gydag arfordiroedd â'r Cefnforoedd Iwerydd a Thawel.

Colombia yw'r wlad fwyaf ond tri yn Ne America yn nhermau arwynebedd (yn dilyn Brasil, yr Ariannin a Pheriw), a'r mwyaf ond un yn nhermau poblogaeth (yn dilyn Brasil). Mae'r mwyafrif o Golombiaid yn byw yng ngorllewin mynyddig y wlad, lle lleolir y brifddinas Bogotá a'r rhan fwyaf o ddinasoedd eraill. Mae daearyddiaeth amrywiol gan Golombia, o gopaon eiraog yr Andes i wastatiroedd twym, llaith Afon Amazonas.

Am y pedair degawd diwethaf, dioddefa Colombia gwrthdaro arfog ar raddfa fechan sy'n cynnwys mudiadau gwrthryfelwyr herwfilwrol, milisiâu, a masnachu cyffuriau. Dechreuodd y gwrthdaro tua 1964-1966, pan sefydlwyd yr FARC a'r ELN a dechreuont eu hymgyrchoedd gwrthryfelgar herwfilwrol yn erbyn y llywodraethau olynol. Ers etholiad Álvaro Uribe fel Arlywydd Colombia, mae sefyllfa diogelwch y wlad wedi gwella rhywfaint.

Cordylluan Brasil

Aderyn a rhywogaeth o adar yw Cordylluan Brasil (sy'n enw benywaidd; enw lluosog: cordylluan Brasil) a adnabyddir hefyd gyda'i enw gwyddonol Glaucidium brasilianum; yr enw Saesneg arno yw Ferruginous pygmy owl. Mae'n perthyn i deulu'r Tylluanod (Lladin: Strigidae) sydd yn urdd y Strigiformes.Talfyrir yr enw Lladin yn aml yn G. brasilianum, sef enw'r rhywogaeth. Mae'r rhywogaeth hon i'w chanfod yn Ne America a Gogledd America.

Curitiba

Prifddinas Talaith Paraná yn ne Brasil yw Curitiba.

Cwpan y Byd Pêl-droed

Cwpan y Byd FIFA, sydd yn cael eu hadnabod fel Cwpan y Byd, yw prif gystadleuaeth rhyngwladol y byd pêl-droed i ddynion. Rheolir y gystadleuaeth gan Fédération Internationale de Football Association (FIFA), corff llywodraethol y byd pêl-droed ac fe'i gynhelir pob pedair mlynedd ers y gystadleuaeth cyntaf ym 1930 heb law am 1942 a 1946 pan cafodd y bencampwriaeth ei gohirio oherwydd Yr Ail Ryfel Byd.

Mae 17 o wledydd gwahanol wedi cynnal Cwpan y Byd gyda'r Almaen Brasil, Yr Eidal, Ffrainc a Mecsico wedi cynnal y gystadleuaeth ar ddau achlysur tra bod Yr Ariannin, Chile, De Affrica, Lloegr, Rwsia, Sbaen, Sweden, Y Swistir, Unol Daleithiau America ac Wrwgwai wedi cynnal y gysatdleuaeth unwaith tra bod De Corea a Siapan hefyd wedui cynnal cystadluaeth ar y cyd.

Mae wyth o wledydd gwahanol wedi ennill y bencampwriaeth. Brasil sydd â'r nifer fwyaf o fuddugoliaethau ar ôl ennill y bencampwriaeth ar bump achlysur a hefyd Brasil yw'r unig wlad sydd wedi ymddangos ym mhob cystadleuaeth ers 1930. Mae'r Almaen a'r Eidal wedi ennill y gystadleuaeth ar bedair achlysur, Yr Ariannin ac Wrwgwái ddwywaith gyda Ffrainc, Lloegr a Sbaen wedi ennill un pencampwriaeth yr un.

De America

Mae De America yn gyfandir yn Hemisffer y Gorllewin rhwng y Cefnfor Tawel a'r Iwerydd. Mae'r rhan fwyaf ohono yn Hemisffer y De.

Cyfeirir ato yn aml fel yn rhan o'r Amerig, fel a wneir yn achos Gogledd America. Enwyd De America ar ôl Amerigo Vespucci, yr Ewropead cyntaf i awgrymu nad India'r Dwyrain oedd yr Amerig, ond y Byd Newydd.

Mae gan De America arwynebedd o 17,820,000 km² (6,880,000 mi sg), neu tua 3.5% o arwynebedd y Ddaear. Yn 2005, amcangyfrifwyd fod y boblogaeth yn fwy na 371,200,000. Dyma'r pedwerydd cyfandir o ran arwynebedd (ar ôl Asia, Affrica, a Gogledd America) a'r pumed o ran poblogaeth (ar ôl Asia, Affrica, Ewrop, a Gogledd America).

Ffotograffiaeth

Y broses o wneud lluniau trwy ddefnyddio golau yw ffotograffiaeth (o'r Groeg: φωτός, photos: "golau" a graphos γραφή sef "llun" neu "olau"), gan ddefnyddio camera. Mae'n grefft i rai, difyrwaith i eraill, a hefyd caiff ei ddefnyddio ar gyfer trosglwyddo gwybodaeth, e.e. mewn newyddiaduriaeth i gofnodi digwyddiadau. Mae pobol yn cadw lluniau o bapur neu ar ffilm er enghraifft. Ceir ffotograffiaeth ffasiwn, ffotograffiaeth dogfenol, ffotograffiaeth crefft a.y.b. Erbyn heddiw mae'r rhan fwyaf o gamerau a werthir yn gamerau digidol.

Yn 1834, yn Campinas, Brasil, sgwennodd y paentiwr a'r dyfeisiwr Ffrengig Hercules Florence y gair "photographie" yn ei ddyddiadur; dyma oedd y tro cyntaf i'r gair gael ei ysgrifennu mewn unrhyw iaith.

Newark, New Jersey

Newark yw'r ddinas fwyaf yn nhalaith New Jersey, a'r ganolfan weinyddol ar gyfer Swydd Essex. Mae gan Newark boblogaeth o 281,402, gan ei gwneud y bwrdeisdref fwyaf yn New Jersey a'r 65fed ddinas fwyaf yn yr Unol Daleithiau. Mae Newark hefyd yn gartref i nifer o gorfforaethau mawrion, megis Prudential Financial.

Fe'i lleolir tua 8 milltir (13 km) i'r gorllewin o Manhattan a 2 filltir (3.2 km) i'r gogledd o Ynys Staten. Oherwydd ei lleoliad ger Cefnfor yr Iwerydd ym Mae Newark mae Porthladd Newark wedi datblygu i fod yn brif borthladd mewnforio ym Mae Newark ac yn Harbwr Efrog Newydd. Ynghyd ag Elizabeth, mae Newark yn gartref i Maes Awyr Rhyngwladol Newark Liberty, sef y prif faes awyr cyntaf i wasanaethu ardal fetropolitaidd Efrog Newydd.

Periw

Gwlad ar arfordir gorllewinol De America yw Gweriniaeth Periw neu Beriw. Mae'n ffinio ag Ecwador a Cholombia yn y gogledd, Brasil a Bolifia yn y dwyrain, Tsile yn y de a'r Môr Tawel yn y gorllewin. Dominyddir daearyddiaeth y wlad gan gadwyn fawr yr Andes. Canol Ymerodraeth yr Incas oedd Periw.

Portiwgal

Gwlad a gweriniaeth yn ne-orllewin Ewrop yw'r Weriniaeth Bortiwgalaidd neu Phortiwgal (Portiwgaleg: Portugal). Mae hi'n gorwedd rhwng Sbaen a'r Cefnfor Iwerydd ac mae'r ynysoedd Azores a Madeira hefyd yn rhan o'r wlad. Prifddinas Portiwgal yw Lisbon.

Portiwgaleg

Mae Portiwgaleg (hefyd Portiwgeeg; português neu'n llaw: língua portuguesa) yn iaith Romáwns a siaredir hi'n bennaf ym Mrasil, Portiwgal a rhai gwledydd eraill yn Affrica a De-ddwyrain Asia gan gynnwys Angola, Penrhyn Verde, Gini Bisaw a Mosambic. Mae ganddi statws swyddogol hefyd yn Nwyrain Timor, Gini Gyhydeddol, a Macau.

Mae'n iaith sydd'n agos iawn at y Galisieg, Sbaeneg a Chatalaneg, ac mae iddi elfennau sy'n debyg i'r Eidaleg a Ffrangeg gan fod ga y dair iaith ywreiddiau Lladin.

Rhanbarthau Ffrainc

Rhennir Ffrainc yn 18 région (rhanbarth), sy'n cynnwys 13 région yn y Ffrainc ddinesig a 5 rhanbarth tramor. Mae un o'r rhanbarthau dinesig, Corsica (Corse), yn cael ei ddiffinio fel 'cymuned diriogaethol'. Y rhanbarthau yw'r lefel uchaf yn israniadau tiriogaethol a gweinyddol Gweriniaeth Ffrainc; rhennir y rhanbarthau hyn yn eu tro yn départements.

Daeth y 18 rhanbarth i fodolaeth ar 1 Ionawr 2016; cyn hynny roedd 27 rhanbarth. Bathwyd y term région yn swyddogol yn Neddf Datganoli 2 Mawrth 1982.

Mae rhanbarthau Ffrainc yn ardaloedd daearyddol diffiniedig yn ogystal, i gryn raddau, a gysylltir â hunaniaeth ddiwyllianol a hanesyddol sy'n aml yn rhagddyddio Ffrainc ei hun fel uned wleidyddol.

Rio de Janeiro

Rio de Janeiro (sy'n meddwl "Afon Ionawr" ym Mhortiwgeg) yw ail ddinas fwyaf Brasil a De America, tu ôl São Paulo a Buenos Aires. Fe'i lleolir ar arfordir ddwyreiniol canolbarth Brasil sy'n enwog am ei thraethau godidog a Mynydd y Dorth Siwgr. Roedd y ddinas yn brifddinas ar Brasil am bron i ddwy ganrif, o 1763 tan 1822 yn ystod cyfnod trefedigaethol Portiwgal, ac o 1822 tan 1960 pan oedd yn wlad annibynnol. Rio de Janeiro oedd cyn-brifddinas yr Ymerodraeth Portiwgeaidd hefyd (1808 - 1821). Caiff y ddinas ei hadnabod yn aml fel Rio, ac mae ganddi'r ffugenw A Cidade Maravilhosa, neu "Y Ddinas Fendigedig".

Mae Rio de Janeiro yn enwog am ei lleoliad naturiol, dathliadau ei charnifal, samba a cherddoriaeth arall, a'r traethau twristaidd, fel Copacabana ac Ipanema. Yn ogystal â'r traethau, mae'r ddinas yn enwog am ei cherflun enfawr o Grist, sy'n cael ei adnabod fel Crist y Iachawdwr ('Cristo Redentor') sydd ar ben mynydd Corcovado. Mae'r ddinas yn enwog hefyd am Fynydd y Dorth Siwgr (Pão de Açúcar) gyda'r cherbydau gwifren; y Sambódromo, stand gorymdaith parhaol a ddefnyddir yn ystod Carnifal a Stadiwm Maracanã, sy'n un o stadiymau peldroed mwyaf y byd.

Ceir y fforest fwyaf a'r ail fwyaf yn y byd yn y ddinas hefyd: mae Floresta da Tijuca, neu "Fforest Tijuca" a'r goedwig yn Parque Estadual da Pedra Branca, sydd bron yn gysylltiedig â'r parc arall. Mae Maes Awyr Rhyngwladol Galeão - Antônio Carlos Jobim yn cysylltu Rio de Janeiro gyda nifer o ddinasoedd eraill Brasil ac yn cynnig nifer o hediadau rhyngwladol eraill.

Er gwaethaf ei phrydferthwch, ystyrir Rio fel un o ddinasoedd mwyaf treisgar y byd, sydd wedi ysbrydoli ffilmiau fel Bus 174, City of God ac Elite Squad sydd oll wedi amlygu nifer o faterion cymdeithasol difrifol. Lleolir llawe o'r troseddau treisgar yn y favelas neu'r trefi shanti ond fe'u gwelir hefyd mewn cymdogaethau dosbarth canol ac uwch. Yn wahanol i nifer o ddinasoedd eraill, lleolir nifer o'r slymiau gyferbyn â rhai o ardaloedd mwyaf cefnog y ddinas.

Sbaeneg

Iaith Sbaen yw Sbaeneg (Yn Sbaeneg: Español neu Castellano). Fe'i siaredir hefyd ar draws Canol America, ac yng ngwledydd gorllewinol De America (gan gynnwys yr Ariannin a Pheriw). Fe'i siaredir gan rhyw 400 miliwn fel mamiaith - mwy nag unrhyw iaith arall ar wahân i Tsieineeg Mandarin, a thua 500 miliwn ledled y byd.

Yn Sbaen, mae llawer o bobl yn ei galw yn "Castellano" yn lle "Sbaeneg", achos mae ieithoedd eraill yn Sbaen, a dydyn nhw ddim am awgrymu taw hi yw unig iaith Sbaen.

São Paulo

Dinas fwyaf Brasil a phrifddinas talaith São Paulo yw São Paulo. Fe'i lleolir ar lwyfandir tua 70 km o'r môr yn ne-ddwyrain y wlad. Mae ganddi boblogaeth o 10,886,518 gyda mwy na 20 miliwn o bobl yn yr ardal fetropolitaidd.

Tîm pêl-droed cenedlaethol Brasil

Tîm pêl-droed Cenedlaethol Brasil yw'r tîm sy'n cynrychioli Brasil mewn pêl-droed dynion ar lefel ryngwladol. Rheolir y tîm gan Gymdeithas Pêl-droed Brasil.

Mae Brasil wedi ennill Cwpan y Byd bump gwaith, y fwyaf o unrhyw wlad.

Wrwgwái

Gwlad yn ne-ddwyrain De America yw Gweriniaeth Ddwyreiniol Wrwgwái neu Wrwgwái (Sbaeneg: Uruguay).Mae'n ffinio â Brasil i'r gogledd ac mae Cefnfor Iwerydd yn gorwedd i'r dwyrain. Mae'r Ariannin yn gorwedd i'r gorllewin a de ar draws Afon Wrwgwái ac aber Río de la Plata. Prifddinas y wlad yw Montevideo.

Yr Ariannin

Mae Gweriniaeth yr Ariannin (Sbaeneg: República Argentina ynganiad ) neu'r Ariannin yn wlad yn ne-ddwyrain De America. Mae'n gorwedd rhwng mynyddoedd yr Andes a rhan ddeheuol y Môr Iwerydd. Mae'n ffinio â Wrwgwái, Brasil, Paragwâi, Bolifia a Tsile. Sbaeneg yw'r iaith swyddogol. Mae'r enwau Sbaeneg a Chymraeg yn dod o'r Lladin argentum ("arian"), metel gwerthfawr a anogodd yr ymgartrefu cynnar Ewropeaidd. Gelwir person a anwyd yn yr Ariannin yn Archentwr.

Ieithoedd eraill

This page is based on a Wikipedia article written by authors (here).
Text is available under the CC BY-SA 3.0 license; additional terms may apply.
Images, videos and audio are available under their respective licenses.